Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

O ran gwastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi yn y cyfnod Ebrill i Mehefin 2022:

  • bu 338 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn yn cynnydd o 5% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2021. Gwrthbwyswyd cynnydd mawr yn lefel y gwastraff a gafodd ei ryddhau a’i ddisgowntio'n rhannol gan ostyngiad mewn gwarediadau cyfradd is.
  • roedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £12.1 miliwn o dreth yn ddyledus, yn debyg i’r treth yn ddyledus ar gyfer yr un cyfnod in 2021
  • efallai bod tystiolaeth o batrwm tymhorol yn y data. Mae dyddiau byrrach misoedd y gaeaf yn ffactor o bosib yn lefel y gwarediadau. Fodd bynnag, mae'r patrwm hwn yn cael ei gymhlethu ymhellach gan effaith coronafirws (COVID-19) yn 2020.
  • cyfrifodd gronynnau mân am 36% o bwysau'r gwastraff a waredwyd ar y gyfradd is. Roedd y ganran hon yn is na’r 48% a welwyd yn Ebrill i Fehefin 2022. Nid yw’n glir a fydd patrwm tymhorol yn dod i’r amlwg yn y data newydd hwn, a byddwn yn parhau i fonitro hyn yn y dyfodol.
  • roedd y pum gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth yn cyfrif 87% yr holl dreth yn ddyledus
  • mae 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 20 safle

Gellir cael mwy o wybodaeth am y gweithredwyr safleoedd tirlenwi hyn ar wefan Awdurdod Cyllid Cymru

Mae Tabl 1a isod yn dangos newidiadau canrannol ar gyfer y chwarter diweddaraf yn erbyn yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Mae rhai codiadau canrannol yn fawr gan eu bod yn seiliedig ar niferoedd bach, felly mae angen bod yn ofalus wrth ddehongli unrhyw gynnydd canrannol mawr a ddangosir.

Tabl 1a: Pwysau o wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, treth yn ddyledus, a’r newid o ganran o’r gwerth blaenorol blwyddyn ynghynt [nodyn 1] [nodyn 2] 

  Ebr i Meh 2021 Ebr i Meh 2022 [dros dro] Newid o ran %
Pwysau a waredwyd [‘000 tunnell] [nodyn 3]
Cyfradd safonol 120 118 -1%
Cyfradd is, of which: 174 129 -26%
Deunydd dirwyon [nodyn 4]  83 47 -43%
Priddoedd a cherrig [nodyn 5]  65 39 -40%
Teils, brics, concrid, a serameg [nodyn 5]  21 18 -12%
Arall cyfradd is [nodyn 5]  5 24 400%
Rhyddhad neu ddisgownt [nodyn 6]  29 91 209%
Cyfanswm [nodyn 7]  323 338 5%
Treth yn ddyledus [£ miliwn] [nodyn 8]
Cyfradd safonol 11.6 11.7 1%
Cyfradd is 0.5 0.4 -25%
Cyfanswm [nodyn 7]  12.1 12.1 0%
Swm y dreth a ryddhawyd [nodyn 9]  0.1 0.3 287%

Tabl 1b: Treth yn ddelydus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi [nodyn 1] [nodyn 2]

Treth yn ddyledus [£ miliwn] [nodyn 8]
  Cyfradd is Cyfradd safonol Cyfanswm [nodyn 7]  Swm y dreth a ryddhawyd [nodyn 9] 
2018-19  1.5 46.8 48.3 0.9
2019-20 1.3 35.8 37.2 0.2
2020-21  1.6 30.4 32.0 0.3
2021-22 [diwygiedig] 1.8 43.3 45.1 0.3

Ffynnhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru

Nodiadau:

1. Nid yw’r siart hon yn cynnwys unrhyw wybodaeth am warediadau heb awdurdod gan nad oes unrhyw ddata ar gael eto.
2. Nid yw'r tabl yn cynnwys nifer fach o ddiwygiadau i ffurflenni treth a dderbyniwyd gennym, gan fod y tîm gweithrediadau Treth Gwarediadau Tirlenwi yn adolygu'r gwelliannau hyn.
3. Mae’r pwysau a gyflwynwyd wedi’u talgrynnu i’r 1,000 tunnell agosaf.
4. Darnau mân o ddeunydd a gynhyrchir gan broses fecanyddol o drin gwastraff yw gronynnau mân. Rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi sicrhau bod meini prawf penodol yn cael eu bodloni er mwyn i'r deunydd gael ei drin fel gronynnau cymwys ar y gyfradd dreth is. Gweler yr eirfa am ragor o wybodaeth.
5. Mae’r data ar gyfer y categorïau hyn yn cynrychioli deunyddiau gronynnau mân nad ydynt yn gymwys, wedi'i grwpio yn ôl cod y Rhestr Wastraffoedd (LoW). Mae’r grwpiau a ddefnyddir ar gyfer y tri chategori hyn i’w gweld ar ein tudalen geirfa.
6. Mae hyn yn cynnwys pwysau dŵr a dynnwyd o wastraff a waredwyd, ar gyfradd sero, a phwysau’r holl wastraff sy’n destun unrhyw ryddhad Treth Gwarediadau Tirlenwi.
7. Mae’r cyfanswm a gyflwynwyd wedi’i gyfrifo ar sail y gwerthoedd heb eu talgrynnu.
8. Mae’r gwerthoedd a gyflwynwyd wedi’u talgrynnu i’r £0.1 miliwn agosaf.
9. Dyma’r gostyngiad mewn treth o ganlyniad i'r ceisiadau am ryddhad. Nid yw'r swm yn cynnwys unrhyw elfen am ddisgownt dŵr, nad yw’n cael ei drethu.

Sylw'r ystadegydd

Gwnaeth Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data yn Awdurdod Cyllid Cymru, sylw ar yr ystadegau hyn:

Roedd y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a oedd yn ddyledus ar gyfer Ebrill i Fehefin 2022 yn debyg i’r un cyfnod yn 2021, yn bennaf oherwydd lefelau tebyg o warediadau cyfradd safonol. Fodd bynnag, cododd pwysau cyffredinol y gwastraff a waredwyd fymryn o’i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Gwelsom fod cynnydd mawr yn lefel y gwastraff a gafodd ei ryddhau a’i ddisgowntio wedi’i wrthbwyso’n rhannol gan ostyngiad mewn gwarediadau cyfradd is.

Ynglŷn â’r ystadegau yma

Dynodiad Ystadegau Gwladol

Ar 16 Chwefror 2022, rhoddodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) ddynodiad Ystadegau Gwladol holl ystadegau Awdurdod Cyllid Cymru. Mae hyn yn golygu bod OSR wedi asesu bod ystadegau Awdurdod Cyllid Cymru yn:

  • cydymffurfio'n llawn â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
  • bodloni safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth

Cyflwyniad o Dreth Gwarediadau Tirlenwi

O fis Ebrill 2018, mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn newid y Dreth Tirlenwi yng Nghymru. Rydym, Awdurdod Cyllid Cymru, yn casglu a rheoli’r Treth Gwarediadau Tirlenwi. Mae'r dreth wedi'i llunio a'i gwneud yng Nghymru a bydd y refeniw a gesglir yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Fel Treth Tirlenwi, mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dreth ar waredu gwastraff i dirlenwi a chodir y dreth yn ôl pwysau. Mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn talu’r treth a maent yn trosglwyddo’r costau hyn i weithredwyr gwastraff eraill drwy eu ffi glwyd.

Diben y dreth yw:

  • lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi
  • annog dulliau llai niweidiol o reoli gwastraff fel ailgylchu a llosgi

Gwerth ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi’n ffynhonnell ddata werthfawr ar lefel y gwastraff sy'n cael ei dirlenwi. Mae gan y Dreth Gwarediadau Tirlenwi rôl bwysig yng nghynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni allyriadau sero net.

Rhagweld refeniw’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar gyfer Cymru yn y dyfodol yw defnydd pwysig o ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yw. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cynhyrchu rhagolygon TGT i gyd-fynd â chyllidebau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Data ar gael dros Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae'r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn ar gael mewn taenlen ar y dudalen ystadegau cryno.

Mae ddata ar gael hefyd ar wefan StatsCymru.

Tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Gwelwch y datganiad ystadegol hwn dylai defnyddwyr gyfeirio at y tudalennau rhestr termau a’r gwybodaeth allweddol am ansawdd a gyhoeddir ar wahân.

  • Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.
  • Mae ein tudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Diwygiadau i ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae'r amcangyfrifon chwarterol yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y cyfnod cyfrifyddu o dri mis diweddaraf ar gyfer pob gweithredwr safle tirlenwi. Gall pob ffurflen Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dilysu fel rhan o waith lliniaru ac adfer a wneir fel mater o drefn gan Awdurdod Cyllid Cymru ac a all, o’r herwydd, gael ei ddiwygio yn y dyfodol.

Yn yr adran ganlynol, rydym yn disgrifio y dulliau yr ydym yn defnyddio i ganfod yr ystadegau o’r data a ddarparwyd yn y ffurflenni.

Mynediad i’n hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau

Rydym yn cyhoeddi rhestr o’r swyddi sydd â mynediad i’r hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, gan gynnwys ar gyfer Treth Gwarediadau Tirlenwi.

Dulliau a ddefnyddiwyd yn y datganiad hwn

Cyfnodau cyfrifyddu

Mae gan y rhan fwyaf o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru yn defnyddio cyfnodau cyfrifyddu safonol. Mae'r rhain yn cyd-fynd â diwedd ein chwarteri adrodd.

Mae nifer fach o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn defnyddio dyddiadau dechrau a gorffen gwahanol ar gyfer adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Rydym yn egluro yma sut yr ydym yn ymdrîn â’r mater hwn wrth gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer y chwarteri adrodd cyfredol a blaenorol.

Yn yr eisampl yn ddangos yr isod:

  • mae gan Weithredwr 1 gyfnod cyfrifyddu safonol
  • mae Gweithredwr 2 wedi cytuno ar gyfnod cyfrifyddu gwahanol gydag Awdurdod Cyllid Cymru. Mae amser cychwyn a gorffen yn wahanol i’n chwarteri adrodd yn ôl safonol
Image
Mae'r diagram yn dangos llinell amser y ffurflen flaenorol a’r ffurflen ddiweddaraf ar gyfer Gweithredwyr 1 a 2. Mae llythrennau A, B ac C yn dynodi rhannau o'r ffurflen flaenorol a’r diweddaraf ar gyfer Gweithredwr 2 a sut mae'r rhain yn cael eu defnyddio wrth gyfrifo.

Mae'r diagram yn dangos llinell amser y ffurflen flaenorol a’r ffurflen ddiweddaraf ar gyfer Gweithredwyr 1 a 2. Mae llythrennau A, B ac C yn dynodi rhannau o'r ffurflen flaenorol a’r diweddaraf ar gyfer Gweithredwr 2 a sut mae'r rhain yn cael eu defnyddio wrth gyfrifo.

A + B: Defnyddir dwy ran o dair o’r ffurflen flaenorol ac un ran o dair o’r ffurflen ddiweddaraf i roi amcangyfrifon ar gyfer y chwarter blaenorol.

C: Caiff cyfran y ffurflen sy’n rhoi sylw i’r cyfnod diweddaraf ei chodi i roi amcangyfrifon ar gyfer y chwarter cyfredol. Mae’r codi’n digwydd ar sail pro rata o ran nifer y dyddiau yn y chwarter presennol sy’n berthnasol i’r ffurflen.

Rhyddhad a disgowntiau

Yn ein gwybodaeth ansawdd allweddol, rydym yn disgrifio sut y gwnaethom gyflwyno ffurflen dreth newydd o Ebrill 2021. Yn y ffurflen newydd, mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn cofnodi unrhyw wastraff wedi'i ryddhau ac unrhyw ddisgownt dŵr mewn rhannau ar wahân o'r ffurflen. Yn y datganiad hwn, rydym yn cyfuno’r ddau gategori hyn i gyflwyno categori ‘wedi’i ryddhau neu’i ddisgowntio’.

Yn y ffurflen dreth flaenorol, byddai gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn cofnodi gwastraff wedi’i ryddhau fel gwastraff cyfradd is i ddechrau ac yna'n ei dynnu i ffwrdd mewn rhan ddiweddarach o'u ffurflen. Fodd bynnag, byddai ein datganiadau blaenorol yn adrodd am wastraff wedi’i ryddhau o fewn y categori ‘wedi’i ryddhau neu’i ddisgowntio’ ond nid fel rhan o’r categori cyfradd is, felly nid yw hyn wedi golygu newid yng nghyflwyniad y data dros amser.

Gwarediadau heb awdurdod

Does dim data ar gael eto ar warediadau heb awdurdod. Byddwn yn cadw’r hyn dan adolygiad. Pan fydd gennym ddigon o ddata, byddwn yn darparu mwy o fanylion am ein dull o gyhoeddi gwybodaeth am warediadau heb awdurdod.

Ansolfedd cwsmer

Mae’r system Treth Gwarediadau Tirlenwi yn caniatáu rhoi credyd yn erbyn y dreth sy’n ddyledus ar gyfer ansolfedd cwsmer. Mae hyn pan fydd cwsmer gweithredwr safle tirlenwi wedi mynd allan o fusnes ac yn methu â thalu'r gweithredwr am y gwastraff a gafodd ei waredu i dirlenwi.

Yn flaenorol, cafodd swm bychan iawn o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr yn ystod chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2018. Fodd bynnag, gwrthododd Awdurdod Cyllid Cymru y cais hwn ac roedd treth yn ddyledus ar y swm hwn.

Cafodd swm bach o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr ar gyfer y chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2019. Cymeradwyodd Awdurdod Cyllid Cymru yr hawliad. Yn y datganiad ystadegol hwn, rydym wedi tynnu y swm wedi’I hawlio o gyfanswm y dreth sy’n ddyledus.

Gwarediadau esempt

Gall rhai enghreifftiau o waredu deunyddiau gael eu hystyried yn esempt rhag Dreth Gwarediadau Tirlenwi ac felly ni fyddant yn cael eu hadrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Nid ydym yn casglu data ar y gwarediadau esempt hyn.

Dadansoddiad

Cyfraddau treth sy’n berthnasol i Dablau 1a a 1b

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfraddau sy'n cyfateb i'r rhai yng ngweddill y DU ar gyfer 2018-19 i 2022-23.

 

Cyfradd safonol

Cyfradd is

Cyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi (ddim yn Nhablau 1a a 1b)

2018-19

£88.95 y dunnell

£2.80 y dunnell

£133.45 y dunnell

2019-20

£91.35 y dunnell

£2.90 y dunnell

£137.00 y dunnell

2020-21

£94.15 y dunnell

£3.00 y dunnell

£141.20 y dunnell

2021-22

£96.70 y dunnell

£3.10 y dunnell

£145.05 y dunnell

2022-23

£98.60 y dunnell

£3.15 y dunnell

£147.90 y dunnell

Siart 1a: Pwysau o wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl cyfradd treth a chwarter [nodiad 1]

Image

Mae'r siart llinell yn dangos tueddiadau ym mhwysau'r gwastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, ar gyfer cyfradd safonol, cyfradd is, pwysau wedi'i ryddhau neu ei ddisgowntio, a’r cyfanswm. Cyflwynir data chwarterol ar gyfer Ebrill i Fehefin 2018 a hyd at Ebrill i Fehefin 2022.

Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru

Nodiadau:

1. Nid yw’r siart hon yn cynnwys unrhyw wybodaeth am warediadau heb awdurdod gan nad oes unrhyw ddata ar gael eto.

2. Mae hyn yn cynnwys pwysau dŵr a dynnwyd o wastraff a waredwyd, ar gyfradd sero, a phwysau’r holl wastraff sy’n destun unrhyw ryddhad Treth Gwarediadau Tirlenwi.

[p] Mae'r gwerthoedd yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gwerthoedd wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Yn Ebrill i Fehefin 2022, roedd 338 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn 5% yn uwch na'r un cyfnod yn 2021.

O fewn y cyfanswm hwn, roedd 118 mil tunnell o warediadau ar y gyfradd safonol. Mae hyn 1% yn is na'r un cyfnod yn 2021.

Roedd y 129 mil o dunelli a waredwyd ar y gyfradd is 26% yn is nag yn Ebrill i Fehefin 2021. Mae'r esboniad o dan Siart 1c yn dadansoddi'r categorïau o fewn data cyfradd is sy'n cyfrannu at y duedd hon.

Yn Ebrill i Fehefin 2022, roedd y 91 mil tunnell o warediadau wedi’u rhyddhau a’u disgowntio ychydig dros deirgwaith yn uwch na’r un cyfnod flwyddyn ynghynt, a’r gwerth chwarterol y trydydd uchaf a welwyd hyd yma. Mae’r tîm gweithrediadau Treth Gwarediadau Tirlenwi wedi adolygu'r newid sylweddol hwn ac ni chyflwynwyd unrhyw bryderon ynghylch ei gywirdeb. Mae lefel y gwastraff wedi'i ryddhau a'i ddisgowntio wedi amrywio'n fawr dros amser. Nid yw'n bosibl rhagweld a fydd symiau tebyg o wastraff wedi'i ryddhau a'i ddisgownito i'w weld yn y chwarteri sy'n weddill o'r flwyddyn ariannol, neu a fydd yn dychwelyd i'r lefelau is blaenorol a welwyd yn y 3 blynedd flaenorol.

Siart 1b: Treth ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl cyfradd treth a chwarter [nodiad 1 a 2]

Image

Mae'r siart llinell yn dangos tueddiadau yn y dreth oedd yn ddyledus ar wastraff a anfonwyd i safleoedd tirlenwi, ar gyfer gwastraff ar y gyfradd safonol a’r gyfradd is. Cyflwynir data chwarterol ar gyfer Ebrill i Fehefin 2018 a hyd at Ebrill i Fehefin 2022.

Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru

Nodiadau:

1. Nid yw’r siart hon yn cynnwys unrhyw wybodaeth am warediadau heb awdurdod gan nad oes unrhyw ddata ar gael eto.

2. Nid yw'r siart yn cynnwys nifer fach o ddiwygiadau i ffurflenni treth a dderbyniwyd gennym, gan fod y tîm gweithrediadau Treth Gwarediadau Tirlenwi yn adolygu'r gwelliannau hyn.

[p] Mae'r gwerthoedd yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gwerthoedd wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Arweiniodd y gwarediadau hyn ar gyfer Ebrill i Fehefin 2022 at £12.1 miliwn o dreth yn ddyledus. Mae'n tebyg i'r un cyfnod yn 2021.

Efallai bod tystiolaeth o batrwm tymhorol yn y data, gyd dyddiau byrrach misoedd y gaeaf yn ffactor o bosib yn lefel y gwarediadau. Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn gallu cadw’r effeithiau yma ar wahan i’r tueddiadau mwy cyffredinol yn y data. Ond byddwn angen gwerth sawl blwyddyn o ddata cyn i hynny fod yn bosibl, ac mae effaith coronafeirws (COVID-19) bellach yn gymhlethdod ychwanegol.

Ar gyfer Ebrill i Fehefin 2022, roedd y pum gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth i gyfrif am 87% yr holl dreth a dalwyd. Mewn cyfnodau o dri mis cyn hyn, mae'r ffigur wedi amrywio rhwng 80% a 90%.

Nid yw’r swm treth a ryddhawyd yn cael ei ddangos ar y siart ond mae wedi amrywio o ychydig iawn hyd at £0.3 miliwn bob chwarter. £0.3 miliwn oedd y gwerth hwn yn Ebrill i Fehefin 2022.

Siart 1c: Pwysau o wastraff cyfradd is a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl math o wastraff a chwarter [nodiad 1]

Image

Mae'r siart yn cyflwyno dadansoddiad o bwysau cyfradd is wedi’i rannu’n ronynnau mân cymwys, gyda gronynnau mân anghymwys wedi'i grwpio'n dri chategori yn ôl cod y Rhestr Wastraffoedd (LoW). Cyflwynir data chwarterol ar gyfer Ebrill i Fehefin 2021 a hyd at Ebrill i Fehefin 2022.

Ffynnhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru

Nodiadau:

1. Nid yw’r siart hon yn cynnwys unrhyw wybodaeth am warediadau heb awdurdod gan nad oes unrhyw ddata ar gael eto.

2. Darnau mân o ddeunydd a gynhyrchir gan broses fecanyddol o drin gwastraff yw gronynnau mân. Rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi sicrhau bod meini prawf penodol yn cael eu bodloni er mwyn i'r deunydd gael ei drin fel gronynnau cymwys ar y gyfradd dreth is. Gweler yr eirfa am ragor o wybodaeth.

3. Mae’r data ar gyfer y categorïau hyn yn cynrychioli deunyddiau gronynnau mân nad ydynt yn gymwys, wedi'i grwpio yn ôl cod y Rhestr Wastraffoedd (LoW). Mae’r grwpiau a ddefnyddir ar gyfer y tri chategori hyn i’w gweld ar ein tudalen geirfa.

[p] Mae'r gwerthoedd yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gwerthoedd wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Sylwch ein bod wedi gwneud cywiriad ystadegol wrth ddeillio'r data a gyflwynir yn y siart uchod. Mae'r cywiriad hwn yn berthnasol i un eitem o ddata a dderbyniwyd oddi wrth un gweithredwr yn Ebrill i Fehefin 2022, lle mae ymholiad heb ei ateb ar ffigur a ddarparwyd yn eu ffurflen dreth. Pan fyddwn yn cyhoeddi ein datganiad nesaf, rydym yn disgwyl y byddwn wedi derbyn diwygiad i’r ffurflen dreth berthnasol. Yna bydd y ffigurau dros dro ar gyfer Ebrill i Fehefin 2022 a gyflwynir yma yn cael eu hadolygu yn y datganiad nesaf hwnnw.

Roedd Tabl 1a yn gynharach yn y datganiad yn dangos bod 47 mil tunnell o ddeunydd gronynnau mân wedi'i waredu yn Ebrill i Fehefin 2022 ar y gyfradd dreth is. Mae hyn 43% yn is na'r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Roedd newid tebyg o ran priddoedd a cherrig a waredwyd ar y gyfradd dreth is: gostyngiad o 40% i 39 mil tunnell.

Mae Siart 1c yn dangos bod canran y gwastraff cyfradd is sy’n ronynnau mân yn lleihau o 48% yn Ebrill i Fehefin 2021, i 36% yn Ebrill i Fehefin 2022. Roedd canran y gwastraff cyfradd is oedd yn briddoedd a cherrig yn amrywio o 31% yn Ebrill i Fehefin 2022, i 42% yn Ionawr i Fawrth 2022. Cododd canran y gwarediadau cyfradd is a ddosbarthwyd fel ‘arall’ o 3% rhwng Ebrill a Mehefin 2021 i 19% rhwng Ebrill a Mehefin 2022.

Gyda data cyfyngedig hyd yn hyn, nid yw'n glir a fydd unrhyw batrymau tymhorol yn y ganran hon. Byddwn yn parhau i fonitro hyn mewn datganiadau yn y dyfodol.

Derbyniadau o Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae Siart 2 isod yn dangos derbyniadau chwarterol ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hyn yn seiliedig ar y dyddiad y cafwyd y taliad, a elwir yn 'ar sail arian parod' weithiau.

Siart 2: Treth Gwarediadau Tirlenwi a dalwyd i Awdurdod Cyllid Cymru, yn ôl chwarter

Image

Mae'r siart llinell yn dangos y duedd mewn derbyniadau chwarterol Treth Gwarediadau Tirlenwi a chyfartaledd treigl 4 chwarter. Cyflwynir data ar gyfer y cyfnod o chwe mis Ebrill i Fedi 2018, ac yna bob chwarter hyd at Ebrill i Fehefin 2022.

Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar dreth a dalwyd, ar StatsCymru

Nodiadau:

1. Mae’r ffigurau o Ebrill i Fehefin 2018 wedi cael eu cyfuno i ffigurau Gorffennaf i Fedi 2018. Mae oherwydd nifer fechan y darparwyr a oedd eisoes wedi cyflwyno ffurflenni ac wedi talu cyn diwedd mis Mehefin 2018 (cyflwynodd a thalodd y rhan fwyaf ohonynt ym mis Gorffennaf 2018).

Yn Ebrill i Fehefin 2022, cawsom £9.0 miliwn o daliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hyn yn 18% yn uwch na'r un cyfnod yn 2021.

Yn Ngorffennaf i Fedi a Hydref i Ragfyr, mae derbyniadau Treth Gwarediadau Tirlenwi chwarterol yn uwch yn gyffredinol na'r cyfartaledd treigl 4 chwarter. Rhwng Ebrill a Mehefin, mae derbyniadau yn gyffredinol is na'r cyfartaledd treigl 4 chwarter. Fel y disgrifiwyd mewn datganiadau blaenorol, effeithiwyd ar dderbyniadau chwarterol yn 2020-21 gan gytundebau Amser i Dalu a roddwyd ar waith oherwydd coronafeirws (COVID-19).

Mae'r tueddiadau yn y data yma ychydig yn arferol wahanol i'r data treth sy'n ddyledus. Mae hyn oherwydd bod yr union gyfnodau cyfrifyddu y cytunwyd arnynt gyda'r gweithredwyr Treth Gwarediadau Tirlenwi a'r dyddiadau talu sy'n deillio o hynny yn dylanwadu ar y tueddiadau yma. Gall hyn olygu bod taliadau’n disgyn mewn gwahanol chwarteri i'r gweithgareddau perthnasol. Fel rheol gyffredinol, mae ffigurau derbyniadau arian parod yn cyd-fynd yn fras â'r cyfanswm sy'n ddyledus ar gyfer y chwarter blaenorol.

Sylwch hefyd fod Siart 2:

  • yn cynnwys symiau bach iawn o gosbau a llog a dalwyd mewn perthynas â Threth Gwarediadau Tirlenwi
  • ni fydd yn cynnwys swm bach o Treth Gwarediadau Tirlenwi heb ei dalu, yr ydym yn ei reoli drwy ein prosesau rheoli dyledion

Addasiadau cyfrifo sydd wedi'u gwneud mewn blwyddyn wahanol i'r un y gwaredwyd y gwastraff ynddi

Yn y daenlen a gyhoeddwyd ar y dudalen bigion, mae Tabl 3 yn cynnwys manylion yr addasiadau a wnaed er mwyn adlewyrchu gwastraff a waredwyd mewn un flwyddyn ond y rhoddwyd cyfrif amdano mewn blwyddyn wahanol yng nghyfrifon ariannol Awdurdod Cyllid Cymru. Gall y sefyllfa hon godi pan fydd gweithredwr safle tirlenwi yn rhoi gwybod am welliant trethdalwr i’r gwarediadau. Mewn rhai sefyllfaoedd gall y gwelliannau hyn gael eu derbyn, neu arwain at ymholiad, ac wedi hynny gellir eu cadarnhau, eu gwrthod neu wrthdroi'r gwelliant (os oedd wedi'i dderbyn yn flaenorol). Gall yr holl senarios hyn arwain at addasiadau cyfrifyddu. Gall y sefyllfa gael ei chymhlethu ymhellach gan apêl a allai arwain at dribiwnlys ac at oedi pellach o ran cyfrifyddu. Gellir gwneud addasiadau cyfrifyddu pan fo ansicrwydd a fydd treth yn ddyledus yn y pen draw, cyn i ganlyniad unrhyw apêl neu dribiwnlys gael ei benderfynu.

Adlewyrchir sefyllfa net yr addasiadau cyfrifyddu hyn yn y Tabl 3 hwn. Gallai'r defnyddiwr ddewis cymhwyso'r addasiadau hyn i'r symiau blynyddol ar gyfer cyfanswm y dreth sy'n ddyledus yn Nhabl 1b, os oes ganddo ddiddordeb mewn ffigurau ar sail blwyddyn gyfrifyddu. I wneud hynny, dylai'r defnyddiwr ddechrau gyda'r ffigur gwaredu ar gyfer blwyddyn benodol, tynnu unrhyw eitemau o Dabl 3 sydd â'r un flwyddyn waredu, yna ychwanegu eitemau lle mae'r flwyddyn gyfrifo yr un fath â'r flwyddyn waredu. Byddai hyn yn galluogi defnyddiwr i addasu'r data yn Nhabl 1b i adlewyrchu'n agosach y symiau a gofnodwyd yng nghyfrifon ariannol Awdurdod Cyllid Cymru.

Dylai defnyddwyr nodi bod y tabl yn cyflwyno gwerthoedd negatif ar gyfer rhai rhesi, sy'n cynrychioli symiau treth a ddadgydnabuwyd o gyfrifon ariannol Awdurdod Cyllid Cymru mewn blwyddyn gyfrifyddu benodol. Mae hefyd yn bosibl diwygio gwerthoedd yn y tabl ar i lawr yn y dyfodol. Byddai hyn yn bosibl, er enghraifft, os yw apeliadau yn erbyn penderfyniadau treth yn llwyddiannus.

Addasiadau cyfrifo sydd wedi'u gwneud mewn blwyddyn wahanol i'r un y gwaredwyd y gwastraff ynddi (Taenlen Ddogfen Agored, 14 KB)

Dolenni i’r tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Mae'r dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae eing hystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.

Adborth a manylion cyswllt

Byddem yn ddiolchgar iawn o’ch adborth ar yr ystadegau hyn, er mwyn ein helpu i'w gwella. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image
Awdurdod Cyllid Cymru / Welsh Revenue Authority logo