Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

Nid yw'r holl ddadansoddiadau yn y datganiad hwn yn cynnwys gwarediadau heb eu hawdurdodi. Mae Awdurdod Cyllid Cymru, am y tro cyntaf, wedi casglu swm bach iawn o dreth yn ymwneud â gwarediadau anawdurdodedig. Oherwydd y nifer fach o achosion treth a gwblhawyd hyd yn hyn, nid yw’n bosibl cyhoeddi unrhyw ystadegau sy’n ymwneud â gwarediadau anawdurdodedig eto. Byddwn yn parhau i adolygu ein dull o gyhoeddi ystadegau gwarediadau anawdurdodedig yn natganiadau’r dyfodol.

O ran gwastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi yn y cyfnod Ionawr i Mawrth 2023:

  • bu 243 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn yn cynnydd o 1% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022. Gwrthbwyswyd gostyngiad mawr ym mhwysau gwarediadau cyfradd safonol a gostyngiad bach mewn gwarediadau cyfradd is gan gynnydd mewn gwarediadau wedi’u rhyddhau neu eu disgowntio
  • roedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £7.2 miliwn o dreth yn ddyledus. Dyma’r gwerth chwarterol ail isaf a welwyd hyd yma ac yn 26% yn is na’r treth yn ddyledus ar gyfer yr un cyfnod in 2022. Y prif reswm am hyn oedd gostyngiad mawr ym mhwysau gwarediadau cyfradd safonol
  • efallai bod tystiolaeth o batrwm tymhorol yn y data. Mae dyddiau byrrach misoedd y gaeaf yn ffactor o bosib yn lefel y gwarediadau
  • cyfrifodd gronynnau mân am 38% o bwysau'r gwastraff a waredwyd ar y gyfradd is. Roedd pridd a cherrig i gyfrif am 32%. Nid yw’n glir a fydd patrwm tymhorol yn dod i’r amlwg yn y data hwn, a byddwn yn parhau i fonitro hyn yn y dyfodol
  • roedd y pum gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth yn cyfrif 81% yr holl dreth yn ddyledus
  • mae 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 20 safle. Gellir cael mwy o wybodaeth am y gweithredwyr safleoedd tirlenwi hyn ar wefan Awdurdod Cyllid Cymru

O ran gwastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi yn y cyfnod Ebrill 2022 i Fawrth 2023:

  • bu 1,207 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn yn cynnydd o 4% o'i gymharu â Ebrill 2021 i Fawrth 2022. Cafodd cynnydd mewn gwarediadau wedi’u rhyddhau a’u disgowntio ei wrthbwyso'n rhannol gan ostyngiadau llai mewn gwarediadau cyfradd safonol a chyfraddau is
  • roedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £42.0 miliwn o dreth yn ddyledus. Er gwaethaf y cynnydd ym mhwysau’r gwastraff a waredwyd, mae’n lleihad 7% yn dreth yn ddyledus o'i gymharu â Ebrill 2021 i Fawrth 2022, oherwydd newid yn y math o warediadau
  • mae deunydd dirwyon i gyfrif am 40% o bwysau'r gwastraff a waredwyd ar y gyfradd is
  • roedd y pum gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth yn cyfrif 83% yr holl dreth yn ddyledus

Mae Tabl 1a isod yn dangos newidiadau canrannol ar gyfer y chwarter diweddaraf yn erbyn yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Mae rhai newidiadau canrannol yn fawr gan eu bod yn seiliedig ar niferoedd bach, felly mae angen bod yn ofalus wrth ddehongli unrhyw newidiadau canrannol mawr a ddangosir.

Tabl 1a: Pwysau o wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, treth yn ddyledus, a’r newid o ganran o’r gwerth blaenorol blwyddyn ynghynt [nodyn 5]
  Ion i Maw 2022 Ion i Maw 2023 [dros dro] Newid o ran %
Pwysau a waredwyd [mil tunnell]      
Cyfradd safonol 95 69 -28%
Cyfradd is, of which: 132 127 -4%
     Deunydd dirwyon [nodyn 1]  47 48 3%
     Priddoedd a cherrig [nodyn 2]  55 40 -26%
     Teils, brics, concrid, a serameg [nodyn 2]  13 16 26%
     Arall cyfradd is [nodyn 2]  17 22 28%
Rhyddhad neu ddisgownt [nodyn 3]  15 48 225%
Cyfanswm 242 243 1%
Treth yn ddyledus [£ miliwn]      
Cyfradd safonol 9.2 6.8 -27%
Cyfradd is 0.4 0.4 -2%
Cyfanswm 9.6 7.2 -26%
Swm y dreth a ryddhawyd [nodyn 4]  [c] 0.1 [c]

Tabl 1b: Treth ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl blwyddyn cafwyd gwared a wastraff [nodyn 5]

Treth yn ddyledus [£ miliwn]
  Cyfradd is Cyfradd safonol Cyfanswm Swm y dreth a ryddhawyd [nodyn 4]
2018-19 1.5 46.8 48.3 0.9
2019-20 1.3 35.8 37.2 0.2
2020-21 1.6 30.4 32.0 0.3
2021-22 1.8 43.3 45.1 0.3
2022-23 [dros dro] 1.8 40.2 42.0 0.7

Ffynnhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru

[Nodyn 1] Darnau mân o ddeunydd a gynhyrchir gan broses fecanyddol o drin gwastraff yw gronynnau mân. Rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi sicrhau bod meini prawf penodol yn cael eu bodloni er mwyn i'r deunydd gael ei drin fel gronynnau cymwys ar y gyfradd dreth is. Gweler yr eirfa am ragor o wybodaeth.

[Nodyn 2] Mae’r data ar gyfer y categorïau hyn yn cynrychioli deunyddiau gronynnau mân nad ydynt yn gymwys, wedi'i grwpio yn ôl cod y Rhestr Wastraffoedd (LoW). Mae’r grwpiau a ddefnyddir ar gyfer y tri chategori hyn i’w gweld ar ein tudalen geirfa.

[Nodyn 3] Mae hyn yn cynnwys pwysau dŵr a dynnwyd o wastraff a waredwyd, ar gyfradd sero, a phwysau’r holl wastraff sy’n destun unrhyw ryddhad Treth Gwarediadau Tirlenwi.

[Nodyn 4] Dyma’r gostyngiad mewn treth o ganlyniad i'r ceisiadau am ryddhad. Nid yw'r swm yn cynnwys unrhyw elfen am ddisgownt dŵr, nad yw’n cael ei drethu.

[Nodyn 5] Rydym wedi gwneud cywiriadau ystadegol i’r data yn y tabl hwn i eithrio rhai newidiadau gan drethdalwyr, lle mae dilysrwydd y newidiadau hynny’n cael ei ymchwilio.

Nôl i dop y dudalen

Sylw'r ystadegydd

Gwnaeth Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data yn Awdurdod Cyllid Cymru, sylw ar yr ystadegau hyn:

“Roedd y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a oedd yn ddyledus ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 y gwerth chwarterol ail isaf a welwyd hyd yma a 26% yn is na’r un cyfnod yn 2022. Y prif reswm am hyn oedd gostyngiad yn lefel y gwarediadau cyfradd safonol. Cododd pwysau cyffredinol y gwastraff a waredwyd 1% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gyda gostyngiadau mewn gwarediadau cyfradd safonol a chyfradd is yn cael eu gwrthbwyso gan gynnydd mewn gwarediadau wedi’u rhyddhau a’u disgowntio.”

“Ar wahân i hyn, gallwn adrodd am y tro cyntaf bod Awdurdod Cyllid Cymru wedi casglu swm bach iawn o dreth yn ymwneud â gwarediadau anawdurdodedig. Oherwydd y nifer fach o achosion treth a gwblhawyd hyd yn hyn, nid yw’n bosibl cyhoeddi ystadegau ar yr elfen hon o’r dreth eto ond byddwn yn parhau i adolygu hyn yn y dyfodol.”

Nôl i dop y dudalen

Ynglŷn â’r ystadegau yma

Dynodiad Ystadegau Gwladol

Ar 16 Chwefror 2022, rhoddodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) ddynodiad Ystadegau Gwladol holl ystadegau Awdurdod Cyllid Cymru. Mae hyn yn golygu bod OSR wedi asesu bod ystadegau Awdurdod Cyllid Cymru yn:

  • cydymffurfio'n llawn â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
  • bodloni safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth

Pwrpas o Dreth Gwarediadau Tirlenwi a gwerth ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi

O fis Ebrill 2018, mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn newid y Dreth Tirlenwi yng Nghymru. Rydym, Awdurdod Cyllid Cymru, yn casglu a rheoli’r Treth Gwarediadau Tirlenwi. Mae'r dreth wedi'i llunio a'i gwneud yng Nghymru a bydd y refeniw a gesglir yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Fel Treth Tirlenwi, mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dreth ar waredu gwastraff i dirlenwi a chodir y dreth yn ôl pwysau. Mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn talu’r treth a maent yn trosglwyddo’r costau hyn i weithredwyr gwastraff eraill drwy eu ffi glwyd.

Diben y dreth yw:

  • lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi
  • annog dulliau llai niweidiol o reoli gwastraff fel ailgylchu a llosgi

Gall fod amrywiadau a rhai effeithiau tymhorol ond yn gyffredinol, disgwylir y bydd pwysau'r gwastraff sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi yn lleihau dros amser.

Mae ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi’n ffynhonnell ddata werthfawr ar lefel y gwastraff sy'n cael ei dirlenwi. Mae gan y Dreth Gwarediadau Tirlenwi rôl bwysig yng nghynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni allyriadau sero net.

Rhagweld refeniw’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar gyfer Cymru yn y dyfodol yw defnydd pwysig o ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yw. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cynhyrchu rhagolygon Treth Gwarediadau Tirlenwi i gyd-fynd â chyllidebau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Data ar gael dros Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae'r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn ar gael mewn taenlen ar y dudalen ystadegau cryno.

Mae ddata ar gael hefyd ar wefan StatsCymru.

Tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Gwelwch y datganiad ystadegol hwn dylai defnyddwyr gyfeirio at y tudalennau rhestr termau a’r gwybodaeth am ansawdd a gyhoeddir ar wahân:

  • rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad
  • mae ein tudalen gwybodaeth am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd

Diwygiadau i ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae'r amcangyfrifon chwarterol yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y cyfnod cyfrifyddu o dri mis diweddaraf ar gyfer pob gweithredwr safle tirlenwi. Gall pob ffurflen Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dilysu fel rhan o waith lliniaru ac adfer a wneir fel mater o drefn gan Awdurdod Cyllid Cymru ac a all, o’r herwydd, gael ei ddiwygio yn y dyfodol.

Yn yr adran ganlynol, rydym yn disgrifio y dulliau yr ydym yn defnyddio i ganfod yr ystadegau o’r data a ddarparwyd yn y ffurflenni. Mae'r amcangyfrifon cychwynnol rydym yn eu gwneud ar gyfer gweithredwyr sydd â chyfnodau cyfrifyddu ansafonol yn cael eu diwygio'n rheolaidd yn rhifyn canlynol y datganiad ystadegol.

Mynediad i’n hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau

Rydym yn cyhoeddi rhestr o’r swyddi sydd â mynediad i’r hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, gan gynnwys ar gyfer Treth Gwarediadau Tirlenwi.

Nôl i dop y dudalen

Dulliau a ddefnyddiwyd yn y datganiad hwn

Amcangyfrifon ar gyfer gweithredwyr sydd â chyfnodau cyfrifyddu ansafonol

Mae gan y rhan fwyaf o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru yn defnyddio cyfnodau cyfrifyddu safonol. Mae'r rhain yn cyd-fynd â diwedd ein chwarteri adrodd.

Mae nifer fach o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn defnyddio dyddiadau dechrau a gorffen gwahanol ar gyfer adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Rydym yn egluro yma sut yr ydym yn ymdrîn â’r mater hwn wrth gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer y chwarteri adrodd cyfredol a blaenorol.

Yn yr eisampl yn ddangos yr isod:

  • mae gan Weithredwr 1 gyfnod cyfrifyddu safonol
  • mae Gweithredwr 2 wedi cytuno ar gyfnod cyfrifyddu gwahanol gydag Awdurdod Cyllid Cymru. Mae amser cychwyn a gorffen yn wahanol i’n chwarteri adrodd yn ôl safonol
Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r diagram yn dangos llinell amser y ffurflen flaenorol a’r ffurflen ddiweddaraf ar gyfer Gweithredwyr 1 a 2. Mae llythrennau A, B ac C yn dynodi rhannau o'r ffurflen flaenorol a’r diweddaraf ar gyfer Gweithredwr 2 a sut mae'r rhain yn cael eu defnyddio wrth gyfrifo.

A + B: Defnyddir dwy ran o dair o’r ffurflen flaenorol ac un ran o dair o’r ffurflen ddiweddaraf i roi amcangyfrifon ar gyfer y chwarter blaenorol.

C: Caiff cyfran y ffurflen sy’n rhoi sylw i’r cyfnod diweddaraf ei chodi i roi amcangyfrifon ar gyfer y chwarter cyfredol. Mae’r codi’n digwydd ar sail pro rata o ran nifer y dyddiau yn y chwarter presennol sy’n berthnasol i’r ffurflen.

Rhyddhad a disgowntiau

Yn ein gwybodaeth am ansawdd, rydym yn disgrifio sut y gwnaethom gyflwyno ffurflen dreth newydd o Ebrill 2021. Yn y ffurflen newydd, mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn cofnodi unrhyw wastraff wedi'i ryddhau ac unrhyw ddisgownt dŵr mewn rhannau ar wahân o'r ffurflen. Yn y datganiad hwn, rydym yn cyfuno’r ddau gategori hyn i gyflwyno categori ‘wedi’i ryddhau neu’i ddisgowntio’.

Yn y ffurflen dreth flaenorol, byddai gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn cofnodi gwastraff wedi’i ryddhau fel gwastraff cyfradd is i ddechrau ac yna'n ei dynnu i ffwrdd mewn rhan ddiweddarach o'u ffurflen. Fodd bynnag, byddai ein datganiadau blaenorol yn adrodd am wastraff wedi’i ryddhau o fewn y categori ‘wedi’i ryddhau neu’i ddisgowntio’ ond nid fel rhan o’r categori cyfradd is, felly nid yw hyn wedi golygu newid yng nghyflwyniad y data dros amser.

Yn ein gwybodaeth am ansawdd, rydym wedi ychwanegu gwybodaeth newydd am y rhesymau dros y gwahaniaethau rhwng y data o ffurflenni Treth Gwarediadau Tirlenwi a data a’r data a gesglir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar wastraff i mewn ac allan o safleoedd gwastraff trwyddedig. Mae hyn yn berthnasol ar gyfer gwastraff wedi'i ryddhau.

Gwarediadau heb awdurdod

Does dim data ar gael eto ar warediadau heb awdurdod. Byddwn yn cadw’r hyn dan adolygiad. Pan fydd gennym ddigon o ddata, byddwn yn darparu mwy o fanylion am ein dull o gyhoeddi gwybodaeth am warediadau heb awdurdod.

Ansolfedd cwsmer

Mae’r system Treth Gwarediadau Tirlenwi yn caniatáu rhoi credyd yn erbyn y dreth sy’n ddyledus ar gyfer ansolfedd cwsmer. Mae hyn pan fydd cwsmer gweithredwr safle tirlenwi wedi mynd allan o fusnes ac yn methu â thalu'r gweithredwr am y gwastraff a gafodd ei waredu i dirlenwi.

Yn flaenorol, cafodd swm bychan iawn o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr yn ystod chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2018. Fodd bynnag, gwrthododd Awdurdod Cyllid Cymru y cais hwn ac roedd treth yn ddyledus ar y swm hwn.

Cafodd swm bach o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr ar gyfer y chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2019. Cymeradwyodd Awdurdod Cyllid Cymru yr hawliad. Yn y datganiad ystadegol hwn, rydym wedi tynnu y swm wedi’I hawlio o gyfanswm y dreth sy’n ddyledus.

Gwarediadau esempt

Gall rhai enghreifftiau o waredu deunyddiau gael eu hystyried yn esempt rhag Dreth Gwarediadau Tirlenwi ac felly ni fyddant yn cael eu hadrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Nid ydym yn casglu data ar y gwarediadau esempt hyn.

Nôl i dop y dudalen

Dadansoddiad

Nid yw'r holl ddadansoddiadau yn y datganiad hwn yn cynnwys gwarediadau heb eu hawdurdodi. Mae Awdurdod Cyllid Cymru, am y tro cyntaf, wedi casglu swm bach iawn o dreth yn ymwneud â gwarediadau anawdurdodedig. Oherwydd y nifer fach o achosion treth a gwblhawyd hyd yn hyn, nid yw’n bosibl cyhoeddi unrhyw ystadegau sy’n ymwneud â gwarediadau anawdurdodedig eto. Byddwn yn parhau i adolygu ein dull o gyhoeddi ystadegau gwarediadau anawdurdodedig yn natganiadau’r dyfodol.

Hefyd, nid yw'r datganiad ystadegol yn cynnwys nifer fach o ddiwygiadau i ffurflenni treth a dderbyniwyd gennym, gan fod y tîm gweithrediadau Treth Gwarediadau Tirlenwi yn adolygu'r gwelliannau hyn.

Cyfraddau treth sy’n berthnasol, yn ôl blwyddyn ariannol

[Cyfradd y dunnell]
Blwyddyn ariannol Cyfradd safonol Cyfradd is Cyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi

2018-19

£88.95

£2.80

£133.45

2019-20

£91.35

£2.90

£137.00

2020-21

£94.15

£3.00

£141.20

2021-22

£96.70

£3.10

£145.05

2022-23

£98.60

£3.15

£147.90

2023-24

£102.10

£3.25

£153.15

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfraddau sy'n cyfateb i'r rhai yng ngweddill y DU ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018-19 i 2023-24.

Ffigur 1a: Pwysau o wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl cyfradd treth a chwarter [nodyn 2]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos, ers mis Ebrill 2018, bod amrywiadau tymhorol wedi’u gweld yn gyffredinol ym mhwysau chwarterol gwarediadau cyfradd safonol. Amrywiodd gwarediadau cyfradd is, tra bod gwarediadau wedi’u rhyddhau a’u disgowntio’n gyffredinol isel yn y tair blynedd flaenorol cyn y niferoedd uwch yn gyffredinol a welwyd yn 2022-23.

Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae hyn yn cynnwys pwysau dŵr a dynnwyd o wastraff a waredwyd, ar gyfradd sero, a phwysau’r holl wastraff sy’n destun unrhyw ryddhad Treth Gwarediadau Tirlenwi.

[Nodyn 2] Rydym wedi gwneud cywiriadau ystadegol i’r data yn y siart hwn i eithrio rhai newidiadau gan drethdalwyr, lle mae dilysrwydd y newidiadau hynny’n cael ei ymchwilio.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Yn Ionawr i Fawrth 2023, roedd 243 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn 1% yn uwch na'r un cyfnod yn 2022.

O fewn y cyfanswm hwn, roedd 69 mil tunnell o warediadau ar y gyfradd safonol, y gwerth chwarterol ail isaf a welwyd hyd yma. Mae hyn 28% yn is na'r un cyfnod yn 2022. Nid yw'r rhesymau dros y gostyngiad cymharol fawr hwn i gyd yn hysbys ar hyn o bryd. Un ffactor posibl yw bod rhai gwarediadau y gellid bod wedi’u gwneud yn 2020-21 wedi’u symud i 2021-22 oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19) oedd yn effeithio ar y sector gwastraff. Yn adran ‘Ynghlŷn â’r ystadegau hyn’ y datganiad hwn, rydym yn disgrifio’r tueddiadau cyffredinol ar i lawr ym mhwysau’r gwastraff a waredir y disgwylir eu gweld. Yn 2022-23, mae'n ymddangos bod y tueddiadau cyffredinol ar i lawr hyn wedi ailddechrau.

Roedd y 127 mil o dunelli a waredwyd ar y gyfradd is 4% yn is nag yn Ionawr i Fawrth 2022. Mae'r esboniad o dan Siart 1c yn dadansoddi'r categorïau o fewn data cyfradd is sy'n cyfrannu at y duedd hon.

Yn Ionawr i Fawrth 2023, roedd y 48 mil tunnell o warediadau wedi’u rhyddhau a’u disgowntio dros deirgwaith y pwysau a welwyd yn yr un chwarter flwyddyn ynghynt, ond yn dal i fod yn is na’r gwerthoedd a welwyd yn Ebrill i Fehefin 2022 a Gorffennaf i Fedi 2022. Mae lefel y gwastraff wedi'i ryddhau a'i ddisgowntio wedi amrywio'n fawr dros amser. Nid yw'n syml amcangyfrif a fydd symiau tebyg o wastraff wedi'i ryddhau a'i ddisgownito yn codi neu'n gostwng yn y dyfodol.

Yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023, bu 1,207 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn yn cynnydd o 4% o'i gymharu â Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Ffigur 1b: Treth ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl cyfradd treth a chwarter [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos bod treth chwarterol oedd ddyledus o warediadau cyfradd safonol yn dilyn tuedd dymhorol debyg i bwysau’r gwarediadau a ddangosir yn y siart blaenorol. Roedd y dreth a oedd yn ddyledus o warediadau cyfradd is yn amrywio rhwng £0.3 miliwn a £0.5 miliwn bob chwarter.

Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru

[Nodyn 1] Rydym wedi gwneud cywiriadau ystadegol i’r data yn y tabl hwn i eithrio rhai newidiadau gan drethdalwyr, lle mae dilysrwydd y newidiadau hynny’n cael ei ymchwilio.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Arweiniodd y gwarediadau hyn ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 at £7.2 miliwn o dreth yn ddyledus, 26% yn is na'r un cyfnod yn 2022. Dyma’r gwerth chwarterol ail isaf a welwyd hyd yma, gyda dim ond Ebrill i Fehefin 2020 yn is oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19) a oedd ar y sector gwastraff bryd hynny. Y prif reswm dros y newid hwn yn Ionawr i Fawrth 2023 oedd gostyngiad canrannol o faint tebyg ym mhwysau gwarediadau cyfradd safonol, fel y disgrifir yn Ffigur 1a.

Arweiniodd y gwarediadau hyn ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023 at £42.0 miliwn o dreth yn ddyledus. Mae hyn yn lleihad oddeutu 7% o'i gymharu â Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Efallai bod tystiolaeth o batrwm tymhorol yn y data, gyd dyddiau byrrach misoedd y gaeaf yn ffactor o bosib yn lefel y gwarediadau.

Ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023, roedd y 5 gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth i gyfrif am 81% yr holl dreth a dalwyd. Mewn chwarterau cyn hyn, mae'r ffigur wedi amrywio rhwng 80% a 90%. Ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023, roedd y 5 gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth i gyfrif am 83% yr holl dreth a dalwyd.

Nid yw’r swm treth a ryddhawyd yn cael ei ddangos ar y siart ond mae wedi amrywio o ychydig iawn hyd at £0.3 miliwn bob chwarter. £0.1 miliwn oedd y gwerth hwn yn Ionawr i Fawrth 2023.

Diwygiadau i bwysau’r gwastraff a warediwyda’r dreth oedd yn ddyledus ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022

Fel y disgrifir yn adran Dulliau'r datganiad hwn, mae ein prosesau amcangyfrif yn arwain at ddiwygio amcangyfrifon dros dro a wnaethpwyd ar gyfer y chwarter diweddaraf fel mater o drefn yn rhifyn nesaf y datganiad ystadegol. Fel arfer, mae'r diwygiadau hyn yn gymharol fach.

O’i gymharu ag amcangyfrifon a gyhoeddwyd yn ein datganiad ystadegol blaenorol, rydym wedi diwygio data Hydref i Ragfyr 2022 fel a ganlyn:

  • pwysau gwastraff a waredwyd ar y gyfradd safonol wedi’i ddiwygio i lawr o 98 mil tunnell i 96 mil tunnell
  • pwysau gwastraff a waredwyd ar y gyfradd is wedi'i ddiwygio i lawr o 139 mil tunnell i 135 mil tunnell
  • cyfanswm y dreth ddyledus wedi’i diwygio i lawr o £10.1 miliwn i £9.9 miliwn

Ffigur 1c: Pwysau o wastraff cyfradd is a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl math o wastraff a chwarter [nodyn 3]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Yn Ionawr i Fawrth 2023, mae'r siart llinell yn dangos bod, pwysau’r deunydd gronynnau mân a waredwyd yn debyg i’r un chwarter flwyddyn ynghynt ond yn is nag y tri chwarter blaenorol. Roedd pwysau'r pridd a'r cerrig a waredwyd yn is nag yn yr un chwarter flwyddyn ynghynt. Roedd pwysau’r gwastraff a waredwyd a ddosbarthwyd fel 'concrit, brics,' teils a serameg' a 'chyfradd is arall' ar lefel is na'r ddau gategori a grybwyllwyd yn gynharach.

Ffigur 1d: Pwysau o wastraff cyfradd is a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl math o wastraff a chwarter [nodyn 3]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, yn Ionawr i Fawrth 2023, bod canran y pwysau cyfradd is a gyfrifwyd fel deunydd gronynnau mân 3 bwynt canran yn uwch na’r un chwarter flwyddyn ynghynt. Ar gyfer prioedd a cherrig, roedd y gwerth 10 pwynt canran yn is na'r un chwarter flwyddyn ynghynt.

Ffynnhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru

[Nodyn 1] Darnau mân o ddeunydd a gynhyrchir gan broses fecanyddol o drin gwastraff yw gronynnau mân. Rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi sicrhau bod meini prawf penodol yn cael eu bodloni er mwyn i'r deunydd gael ei drin fel gronynnau cymwys ar y gyfradd dreth is. Gweler y tudalen geirfa am ragor o wybodaeth.

[Nodyn 2] Mae’r data ar gyfer y categorïau hyn yn cynrychioli deunyddiau gronynnau mân nad ydynt yn gymwys, wedi'i grwpio yn ôl cod y Rhestr Wastraffoedd (LoW). Mae’r grwpiau a ddefnyddir ar gyfer y tri chategori hyn i’w gweld ar ein tudalen geirfa.

[Nodyn 3] Rydym wedi gwneud cywiriadau ystadegol i’r data yn y siart hwn i eithrio rhai newidiadau gan drethdalwyr, lle mae dilysrwydd y newidiadau hynny’n cael ei ymchwilio.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Roedd Tabl 1a yn gynharach yn y datganiad yn dangos bod 48 mil tunnell o ddeunydd gronynnau mân wedi'i waredu Ionawr i Fawrth 2023 ar y gyfradd dreth is. Mae hyn 3% yn uwch na'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol. Ar gyfer pwysau priddoedd a cherrig a waredwyd ar y gyfradd dreth is, bu gostyngiad o 26% o'r un chwarter flwyddyn ynghynt, i 40 mil o dunelli.

Ers Ebrill 2021, mae Siart 1d yn dangos bod canran chwarterol y gwastraff cyfradd is sy’n ronynnau mân yn amrywio o 35% i 48%. Gwelwyd y gwerthoedd isaf ac uchaf ym Ionawr i Fawrth 2022 ac Ebrill i Fehefin 2021 yn y drefn honno. 38% oedd y gwerth yn Ionawr i Fawrth 2023.

Ers Ebrill 2021, roedd canran chwarterol y gwastraff cyfradd is oedd yn briddoedd a cherrig yn amrywio o 29% i 42%. Gwelwyd y gwerthoedd isaf ac uchaf yn Hydref i Ragfyr 2022 ac Ionawr i Fawrth 2022 yn y drefn honno. 32% oedd y gwerth yn Ionawr i Fawrth 2023.

Cododd canran y gwarediadau cyfradd is a ddosbarthwyd fel ‘arall’ o 3% yn Ebrill i Fehefin 2021 i 18% yn Ebrill i Fehefin 2022, cyn gostwng yn y 2 chwarter dilynol yna codi eto i 17% rhwng Ionawr a Mawrth 2023.

Yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023, roedd gronynnau mân i gyfrif am 40% o bwysau’r gwastraff a waredwyd ar y gyfradd dreth is, 2 bwynt canran yn is na'r flwyddyn flaenorol. Y ganran gyfatebol ar gyfer priddoedd a cherrig oedd 31%. Roedd hyn 8 pwynt canran yn is nag ar gyfer y flwyddyn flaenorol.

Gyda data cyfyngedig hyd yn hyn, nid yw'n glir a fydd unrhyw batrymau tymhorol yn y ganran hon. Byddwn yn parhau i fonitro hyn mewn datganiadau yn y dyfodol.

Tabl 1c: Canran y deunydd gronynnau mân cyfradd is a dderbyniwyd o dan bob cod Rhestr Wastraffoedd (LoW) perthnasol, Ebrill 2021 i Fawrth 2023
Cod Rhestr Wastraffoedd Disgrifiad Canran

19 12 12

Gwastraff arall (gan gynnwys cymysgedd o ddeunyddiau) o drin gwastraff yn fecanyddiol ar wahân i'r hyn sy'n 19 12 11

80%

19 12 09

Mwynau (e.e. tywod, cerrig)

20%

17 05 04

Pridd a cherrig ar wahân i'r hyn sy'n 17 05 03

0%

Yn blaenorol, rydym wedi derbyn cais i ddadansoddi data ar gyfer deunydd gronynnau mân cyfradd is yn ôl cod Rhestr Wastraffoedd. Yna gwnaethom ddechrau cyhoeddi’r tabl hwn yn rhifyn Hydref i Ragfyr 2022 y datganiad hwn. Yn y datganiad cyfredol, rydym wedi diweddaru'r canrannau bras hyn i gynnwys data ar gyfer y chwarter diweddaraf, ni arweiniodd hyn at unrhyw newid yn y canrannau. Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r canrannau hyn mewn modd debyg yn y dyfodol.

Derbyniadau o Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae Siart 2 isod yn dangos derbyniadau chwarterol ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hyn yn seiliedig ar y dyddiad y cafwyd y taliad, a elwir yn 'ar sail arian parod' weithiau.

Ffigur 2: Treth Gwarediadau Tirlenwi a dalwyd i Awdurdod Cyllid Cymru, yn ôl chwarter

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart llinell yn dangos bod gwerth taliadau Treth Gwarediadau Tir wedi tueddu i gyrraedd uchafbwynt yn Ngorffennaf i Fedi a Hydref i Ragfyr bob blwyddyn cyn disgyn yn Ionawr i Fawrth. Roedd y rhain yn werth arbennig o isel yn Ebrill i Fehefin 2020 oherwydd effaith cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19) ar y sector gwastraff. Roedd y cyfartaledd treigl 4-chwarter yn dangos gostyngiad graddol ar gyfer y flwyddyn gyntaf o ddata a gyflwynir yn y siart cyn cynyddu'n gyffredinol o ddechrau 2020.

Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar dreth a dalwyd, ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae’r ffigurau o Ebrill i Fehefin 2018 wedi cael eu cyfuno i ffigurau Gorffennaf i Fedi 2018. Mae oherwydd nifer fechan y darparwyr a oedd eisoes wedi cyflwyno ffurflenni ac wedi talu cyn diwedd mis Mehefin 2018 (cyflwynodd a thalodd y rhan fwyaf ohonynt ym mis Gorffennaf 2018).

Yn Ionawr i Fawrth 2023, cawsom £9.7 miliwn o daliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hyn yn 3% yn is na'r un cyfnod yn 2022.

Yn Ngorffennaf i Fedi a Hydref i Ragfyr, mae derbyniadau Treth Gwarediadau Tirlenwi chwarterol yn uwch yn gyffredinol na'r cyfartaledd treigl 4 chwarter. Rhwng Ebrill a Mehefin, mae derbyniadau yn gyffredinol is na'r cyfartaledd treigl 4 chwarter. Fel y disgrifiwyd mewn datganiadau blaenorol, effeithiwyd ar dderbyniadau chwarterol yn 2020-21 gan gytundebau Amser i Dalu a roddwyd ar waith oherwydd coronafeirws (COVID-19).

Yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023, cawsom £44.8 miliwn o daliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hyn yn 3% yn fwy nag yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Mae'r tueddiadau yn y data yma ychydig yn arferol wahanol i'r data treth sy'n ddyledus. Mae hyn oherwydd bod yr union gyfnodau cyfrifyddu y cytunwyd arnynt gyda'r gweithredwyr Treth Gwarediadau Tirlenwi a'r dyddiadau talu sy'n deillio o hynny yn dylanwadu ar y tueddiadau yma. Gall hyn olygu bod taliadau’n disgyn mewn gwahanol chwarteri i'r gweithgareddau perthnasol. Yn gyffredinol, mae ffigurau derbyniadau arian parod yn cyd-fynd yn fras â'r cyfanswm sy'n ddyledus ar gyfer y chwarter blaenorol.

Bydd Siart 2:

  • yn cynnwys symiau bach iawn o gosbau a llog a dalwyd mewn perthynas â Threth Gwarediadau Tirlenwi
  • ni fydd yn cynnwys swm bach o Treth Gwarediadau Tirlenwi heb ei dalu, yr ydym yn ei reoli drwy ein prosesau rheoli dyledion

Addasiadau cyfrifo sydd wedi'u gwneud mewn blwyddyn wahanol i'r un y gwaredwyd y gwastraff ynddi

Yn y daenlen a gyhoeddwyd ar y dudalen bigion, mae Tabl 3 yn cynnwys manylion yr addasiadau a wnaed er mwyn adlewyrchu gwastraff a waredwyd mewn un flwyddyn ond y rhoddwyd cyfrif amdano mewn blwyddyn wahanol yng nghyfrifon ariannol Awdurdod Cyllid Cymru. Gall y sefyllfa hon godi pan fydd gweithredwr safle tirlenwi yn rhoi gwybod am welliant trethdalwr i’r gwarediadau. Mewn rhai sefyllfaoedd gall y gwelliannau hyn gael eu derbyn, neu arwain at ymholiad, ac wedi hynny gellir eu cadarnhau, eu gwrthod neu wrthdroi'r gwelliant (os oedd wedi'i dderbyn yn flaenorol). Gall yr holl senarios hyn arwain at addasiadau cyfrifyddu. Gall y sefyllfa gael ei chymhlethu ymhellach gan apêl a allai arwain at dribiwnlys ac at oedi pellach o ran cyfrifyddu. Gellir gwneud addasiadau cyfrifyddu pan fo ansicrwydd a fydd treth yn ddyledus yn y pen draw, cyn i ganlyniad unrhyw apêl neu dribiwnlys gael ei benderfynu.

Adlewyrchir sefyllfa net yr addasiadau cyfrifyddu hyn yn y Tabl 3 hwn. Gallai'r defnyddiwr ddewis cymhwyso'r addasiadau hyn i'r symiau blynyddol ar gyfer cyfanswm y dreth sy'n ddyledus yn Nhabl 1b, os oes ganddo ddiddordeb mewn ffigurau ar sail blwyddyn gyfrifyddu. I wneud hynny, dylai'r defnyddiwr ddechrau gyda'r ffigur gwaredu ar gyfer blwyddyn benodol, tynnu unrhyw eitemau o Dabl 3 sydd â'r un flwyddyn waredu, yna ychwanegu eitemau lle mae'r flwyddyn gyfrifo yr un fath â'r flwyddyn waredu. Byddai hyn yn galluogi defnyddiwr i addasu'r data yn Nhabl 1b i adlewyrchu'n agosach y symiau a gofnodwyd yng nghyfrifon ariannol Awdurdod Cyllid Cymru.

Dylai defnyddwyr nodi bod y tabl yn cyflwyno gwerthoedd negatif ar gyfer rhai rhesi, sy'n cynrychioli symiau treth a ddadgydnabuwyd o gyfrifon ariannol Awdurdod Cyllid Cymru mewn blwyddyn gyfrifyddu benodol. Mae hefyd yn bosibl diwygio gwerthoedd yn y tabl ar i lawr yn y dyfodol. Byddai hyn yn bosibl, er enghraifft, os yw apeliadau yn erbyn penderfyniadau treth yn llwyddiannus.

Yn y rhifyn hwn o’r datganiad, rydym wedi gwneud mân ddiwygiadau i rai eitemau data yn y tabl sy'n ymwneud â blynyddoedd cyfrifyddu cynharach. Drwy drafodaethau gyda chydweithwyr cyllid Awdurdod Cyllid Cymru, mae ein dealltwriaeth wedi gwella o ran ym mha flynyddoedd mae refeniw wedi’i ddad-gydnabod o’r cyfrifon ariannol. Mae hyn wedi ein galluogi i fireinio'r amcangyfrifon a gyflwynir yn y tabl hwn.

Addasiadau cyfrifo sydd wedi'u gwneud mewn blwyddyn wahanol i'r un y gwaredwyd y gwastraff ynddi (Taenlen Ddogfen Agored, 14 KB)

Nôl i dop y dudalen

Dolenni i’r tudalennau gwybodaeth am ansawdd a rhestr termau

Mae'r dudalen gwybodaeth am ansawdd yn disgrifio sut mae eing hystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.

Adborth a manylion cyswllt

Byddem yn ddiolchgar iawn o’ch adborth ar yr ystadegau hyn, er mwyn ein helpu i'w gwella. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image
Awdurdod Cyllid Cymru / Welsh Revenue Authority logo

 

Image
Ystadegau Gwladol