Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS) yn cyfuno samplau manylach o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS). Mae'n darparu data am y farchnad lafur dros bedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol.

Yr LFS yw'r brif ffynhonnell o hyd ar gyfer prif ddangosyddion y farchnad lafur ar lefel Cymru. Mae sampl fwy yr APS yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru dadansoddiad mwy manwl odweddion gwarchodedig yn farchnad llafur yng Nghymru ar 16eg Rhagfyr 2021. Rydym yn croesawu adborth ar gyhoeddiad yma a blaenoriaethau ar gyfer dadansoddiadau’r dyfodol, gweler y manylion cyswllt ar ddiwedd y datganiad hwn.

Ailbwysoliad 2022

Ar 13 Medi 2022, cyhoeddodd ONS set ddata APS wedi'i hailbwysoli ar gyfer mis Mawrth 2020 ymlaen. Roedd hyn yn sgil ailbwysoliad wedi'i gynllunio (gan ddefnyddio data Gwybodaeth Amser Real (RTI) Talu wrth Ennill (PAYE)) yn ogystal â chywiro gwall sy'n effeithio ar ffactorau gros ar gyfer rhai grwpiau oedran ar gyfer y cyfnodau blynyddol rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020, a rhwng mis Gorffennaf 2020 a mis Mehefin 2021. Oherwydd yr ailbwysoliad hwn, canslwyd datganiad Arolwg Blynyddol Llywodraeth Cymru mis Ebrill 2021 i fis Mawrth 2022 a bydd y cyfnod hwn yn cael ei gynnwys fel diweddariad ochr yn ochr â mis Gorffennaf 2021 a mis Mehefin 2022 o fewn y datganiad hwn.

Cyflogaeth

Y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 73.7% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2022, i fyny 1.7 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 75.4%, i fyny 1.1 pwynt canran dros y flwyddyn.

Y cynnydd mwyaf yn y cyfraddau gyflogaeth dros y flwyddyn oedd yn Rhondda Cynon Taf (cynnydd o 9.3 pwynt canran i 75.1%), Merthyr Tudful (cynnydd o 7.1 pwynt canran i 72.9%) a Blaenau Gwent (cynnydd o 6.9 pwynt canran i 74.1%).

Image
Gwelwyd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y rhai rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru a'r DU yn gostwng i'r pwynt isaf yn y ddwy gyfres yn ystod y dirwasgiad. Ers hynny, gwelwyd y gyfradd gyflogaeth yn cynyddu i’w bwynt uchaf yn y ddwy gyfres yn 2020, cyn effaith y pandemig coronafeirws.

Data cyflogaeth ar StatsCymru

Mae canran y bobl mewn cyflogaeth yn un o'r dangosyddion llesiant cenedlaethol. Gosodwyd carreg filltir genedlaethol ar gyfer y dangosydd cenedlaethol hwn sef dileu'r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a'r DU erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a sicrhau bod mwy o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn cyfranogi yn y farchnad lafur. Mae cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu'n raddol ers 2011 ac mae'r bwlch rhwng cyfradd cyflogaeth y DU a Chymru wedi cau yn raddol i 1.7 pwynt canran.

Darperir rhagor o wybodaeth am y dangosyddion cenedlaethol, y cerrig milltir cenedlaethol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol tuag at ddiwedd y datganiad hwn.

Diweithdra

Y gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl 16 oed a throsodd yng Nghymru oedd 3.5%, i lawr 0.9 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol a’r gwerth isaf ers dechrau cofnodion APS ym 1996. Cyfradd y DU oedd 3.8%, i lawr 1.2 pwynt canran dros y flwyddyn, ac roedd hyn hefyd y gyfradd isaf ers dechrau cofnodion APS ym 1996.

Roedd y gostyngiadau mwyaf mewn diweithdra dros y flwyddyn ym Mro Morgannwg (gostyngiad o 2.5 pwynt canran i 3.0%), Powys (gostyngiad o 1.9 pwynt canran i 3.8%) a Merthyr Tudful (gostyngiad o 1.7 pwynt canran i 4.5%). Gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y gyfradd ddiweithdra yn Wrecsam, i fyny 1.9 pwynt canran i 4.7%.

Nodwch fod data ar gyfer Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Ceredigion, Sir y Fflint, Gwynedd, Sir Fynwy a Rhondda Cynon Taf wedi'u hatal oherwydd maint sampl annigonol i ddarparu data o ansawdd.

Image
Cynyddodd y gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl 16 oed a throsodd i'r pwynt uchaf yn ystod y dirwasgiad yng Nghymru a'r DU ond ers hynny gostyngodd i'r lefel isaf yn 2020, cyn effaith pandemig y coronafeirws.

Data diweithdra ar StatsCymru

Anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr)

Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 19.8%, i lawr 0.7 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Y gyfradd yn y DU oedd 17.6%, i fyny 0.3 pwynt canran dros y flwyddyn.

Roedd y cyfraddau anweithgarwch economaidd amcangyfrifedig isaf ym Mro Morgannwg (14.1%), Powys (14.7%) a Sir y Fflint (14.8%).

Image
Mae'r gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) wedi bod yn gostwng yn raddol ers dechrau'r gyfres yng Nghymru a'r DU. Mae cyfradd Cymru bob amser wedi bod yn uwch na chyfradd y DU, er i’r bwlch leihau tan 2020 cyn effaith y pandemig coronafeirws.

Data anweithgarwch economaidd ar StatsCymru

Ystadegau ieuenctid (16 i 24 oed)

Cyflogaeth

Y gyfradd cyflogaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghymru oedd 53.7%, i fyny 4.3 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 53.7%, i fyny 4.1 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mae'r gyfradd cyflogaeth ymhlith dynion ifanc wedi cynyddu 6.5 pwynt canran yng Nghymru dros y flwyddyn i 54.7%.

Gwelodd menywod ifanc yng Nghymru gynnydd o 1.8 pwynt canran yn eu cyfradd gyflogaeth dros y flwyddyn i 52.7%.

Image
Mae'r gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru yn anwadal i'r ddau ryw, ond yn gyffredinol fe’i gwelwyd yn gostwng yn y dirwasgiad a chynyddu dros y 10 mlynedd diwethaf. Anaml y mae'r gyfradd yn wahanol rhwng dynion a menywod ac eithrio yn nechrau 2020 lle gwelwyd gostynngiad sylweddol ymhlith dynion.

Data cyflogaeth ar StatsCymru

Diweithdra

Roedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn 9.8%, yn is na chyfradd y DU o 10.2%. Roedd y ddau ffigur ar gyfer y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yr isaf ers dechrau cofnodion APS ym 1996.

Roedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith dynion ifanc yn uwch nag ymhlith  menywod yng Nghymru, sef 12.0% a 7.2% yn y drefn honno. Dyma’r gyfradd ddiweithdra isaf ymhlith menywod ifanc yng Nghymru ers dechrau cofnodion APS ym 1996.

Y gwahaniaeth yng nghyfradd ddiweithdra pobl ifanc yng Nghymru rhwng y rhywiau oedd 4.8 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2022, gyda chyfradd uwch ar gyfer dynion na menywod. Roedd hyn yn cymharu â 2.9 pwynt canran yn 2001. Roedd bwlch y DU yn 2.8 pwynt canran, i lawr o 3.1 pwynt canran yn 2001.

Image
Mae'r gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru yn anwadal i'r ddau ryw ond yn gyffredinol mae wedi gostwng ers y dirwasgiad. Mae'r bwlch rhwng cyfradd dynion a menywod hefyd wedi lleihau dros y 10 mlynedd diwethaf.

Data diweithdra ar StatsCymru

Anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr)

Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru oedd 21.3%, i lawr 1.3 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 18.2%, i fyny 1.0 pwynt canran dros y flwyddyn.

Gostyngodd y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion ifanc 8.3 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol, tra cynyddodd y gyfradd ar gyfer menywod 7.5 pwynt canran. Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r newidiadau hyn oherwydd anwadalwch y gyfres yn ddiweddar.

Image
Yn gyffredinol, mae'r gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer menywod 16 i 24 oed yng Nghymru wedi gostwng drwy gydol y gyfres. Er hynny, mae'r gyfradd ar gyfer dynion wedi cynyddu'n gyffredinol. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2019, gostyngodd y gyfradd menywod yn is na'r gyfradd dynion am y tro cyntaf yn y gyfres, ond ers hynny mae wedi cynyddu'n llawer uwch na'r gyfradd ar gyfer dynion.

Data anweithgarwch economaidd ar StatsCymru

Diweithdra hirdymor

Roedd 35.4% o’r bobl ddi-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy. Mae hyn yn cymharu ag 28.9% yn y DU.

Cynyddodd cyfran y bobl ddi-waith yng Nghymru sydd wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy 4.1 pwynt canran o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol a gwelwyd cynnydd o 9.5 pwynt canran o’i gymharu â’r amcangyfrifon cyn y pandemig (2019).

Roedd 37.7% o’r dynion di-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy, i fyny 0.6 pwynt canran dros y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â 33.0% yn y DU.

Roedd 32.3% o’r menywod di-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy, i fyny 8.7 pwynt canran dros y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â 24.3% yn y DU.

Statws anabl

Gwelodd y  gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl anabl gynnydd o 2.5 pwynt canran o’i chymharu â'r flwyddyn flaenorol, ac o’i chymharu â chynnydd o 2.1 pwynt canran ar gyfer pobl sydd ddim yn anabl.

Gostyngodd y gyfradd ddiweithdra fwy ar gyfer pobl anabl i 6.6%. Mae hyn yn cymharu â chyfradd ddiweithdra o 2.9% ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl yng Nghymru.

Ethnigrwydd

Cynyddodd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru 1.8 pwynt canran dros y flwyddyn i 66.4%. Roedd hyn yn cymharu â 74.1% ar gyfer pobl wyn, i fyny 1.6 pwynt canran dros y flwyddyn. 

Cyfradd ddiweithdra Cymru ar gyfer pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig oedd 9.4%, cynnydd o 3.5 pwynt canran dros y flwyddyn. Roedd hyn yn cymharu â 3.3% ar gyfer pobl wyn yng Nghymru, y gyfradd isaf ers dechrau cofnodion APS ym 1998, gostyngiad o 1.1 pwynt canran dros y flwyddyn.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Perthnasedd

Gellir mesur y farchnad lafur yng Nghymru gan ddefnyddio’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS).  Mae'r APS yn cyfuno samplau manylach o'r LFS. Mae'n darparu data am y farchnad lafur dros bedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol. Mae sampl fwy yr APS yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.

Yr LFS yw prif ffynhonnell prif ddangosyddion y farchnad lafur o hyd ar lefel Cymru, a chaiff y data eu diweddaru bob mis.  Cyhoeddir data diweddara’r LFS gan Lywodraeth Cymru bob mis yn y Trosolwg o'r farchnad lafur. Mae’r datganiad hwn yn cyfuno data’r LFS a data o ffynonellau eraill (gan gynnwys yr APS) i ddarparu sylwebaeth fanylach ar y farchnad lafur yng Nghymru.  Yn ogystal, mae’r ONS yn cyhoeddi trosolwg o'r farchnad lafur (Swyddfa Ystadegau Gwladol) bob mis sy’n rhoi trosolwg o’r farchnad lafur yn y DU gyfan a datganiad ychwanegol sy’n rhoi  trosolwg o'r farchnad lafur yn rhanbarthau a gwledydd y DU (Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Mae’r datganiad hwn yn dod â phrif ystadegau’r APS am farchnad lafur Cymru ynghyd gyda sylwebaeth fanylach am ranbarthau Cymru a nodweddion gwarchodedig pobl ym marchnad lafur Cymru.

Defnyddir yr ystadegau yn y datganiad hwn gan Lywodraeth Cymru i fonitro prif ystadegau marchnad lafur Cymru yn ogystal ag er mwyn ei chymharu â marchnad lafur y DU. Defnyddir y datganiad hwn hefyd i fonitro cynnydd yn unol â rhai o'r targedau yng Nghynllun cyflogadwyedd  Llywodraeth Cymru. Mae'r datganiad yn ategu dangosfwrdd Economi Cymru mewn rhifau, sy'n rhoi darlun eang o economi a marchnad lafur Cymru. 

Defnyddir y datganiad hwn gan sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, busnesau, y byd academaidd ac unigolion preifat fel ffordd o weld y tueddiadau allweddol ym mhrif ystadegau'r farchnad economaidd a llafur ar gyfer Cymru. Mae ein hymgynghoriad â defnyddwyr 2012 yn rhoi mwy o wybodaeth ynghylch sut y defnyddir ein hallbynnau.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffordd orau o ddiwallu anghenion defnyddwyr am ddadansoddiad o’r farchnad lafur yn ôl nodweddion gwarchodedig. Mae data ar gael ar hyn o bryd ar StatsCymru a Nomis.

Cywirdeb

Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn seiliedig ar arolygon sampl, felly gall amrywio yn ôl y samplau hynny. Mae ‘amrywioldeb y samplu’ felly yn golygu bod y gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod amrywiol o bob tu’r gwerth a amcangyfrifir. Mae'r ystod hon neu amrywioldeb y sampl yn cynyddu wrth i'r manylion yn y data gynyddu, er enghraifft mae data awdurdodau lleol unigol yn destun amrywioldeb uwch na data Cymru. 

Ceir amcangyfrifon o gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS) a'r APS. Mae amcangyfrifon o'r LFS yn seiliedig ar chwarteri treigl ac yn cael eu diweddaru'n fisol. Mae meintiau sampl yr LFS yn rhy isel i gynhyrchu amcangyfrifon dibynadwy ar gyfer ardaloedd llai na lefel Cymru. Mae amcangyfrifon o'r APS yn seiliedig ar ddeuddeg mis treigl, wedi'u diweddaru bob chwarter. Mae'r APS yn defnyddio sampl mwy na'r LFS felly fe'i defnyddir i gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer ardaloedd o fewn Cymru. Ar lefel Cymru, mae'r APS yn fesur ychydig yn fwy cadarn na'r LFS, ond mae'n llai amserol ac yn addasu’n arafach i newidiadau yn y farchnad lafur.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran dibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rhoddir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan adain reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau cyhoeddus a’r drafodaeth gyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a gellir ei ddyfarnu unwaith eto pan bodlonir y safonau.

Cadarnhawyd bod yr ystadegau hyn wedi cadw eu statws fel Ystadegau Gwladol ym mis Mawrth 2010 yn dilyn archwiliad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Cynhaliwyd yr asesiad llawn ddiweddaraf o'r ystadegau yn unol â'r Cod Ymarfer ym mis Mawrth 2010.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Newid i ddatganiad HTML ar gyfer mwy o ryngweithedd a mwy o hygyrchedd i ddefnyddwyr.
  • Ehangu'r sylw a roddir i bynciau i gynnwys mwy o fanylion am brif ystadegau'r farchnad lafur, ac adrannau ychwanegol ar gyflogaeth ieuenctid a diweithdra hirdymor.
  • Cyflwyno adran newydd ar y farchnad lafur yn ôl nodweddion gwarchodedig gwahanol.
  • Siartiau ychwanegol sy'n caniatáu i ddefnyddwyr weld yn glir unrhyw dueddiadau ac anwadalwch yn y data.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys y dangosydd cenedlaethol canlynol:

  • (21) canran y bobl mewn cyflogaeth

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys dangosyddion cyd-destunol, sef y fasged o ddangosyddion a gyflwynwyd yn yr adroddiad Llesiant yn y ddolen flaenorol.

Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau lleol pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SFR 102/2022