Neidio i'r prif gynnwy

Rhestr termau

Annedd

Uned hunangynhwysol o lety yw annedd. Llety a feddiannir gan aelwyd yw annedd hunangynhwysol, gyda defnydd ecsgliwsif o gawod/bath, toiled y tu mewn a rhywfaint o gyfleusterau coginio. Gall annedd felly gynnwys aelwyd unigol neu nifer o aelwydydd sy’n rhannu o leiaf un o’r cyfleusterau sylfaenol, ond nad ydynt yn rhannu llety preswyl.

Adeiladu tai newydd

Yng Nghymru, y sector preifat, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol sydd yn adeiladu tai newydd. Mae awdurdodau lleol a’r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai yn darparu gwybodaeth ar y cynnydd o ran adeiladu tai newydd ym mhob sector, o safbwynt anheddau a archwilir ganddynt o dan Reoliadau Rheoli Adeiladu. Ar hyn o bryd nid yw’n cynnwys gwybodaeth gan arolygwyr cymeradwy preifat eraill.

Arolygwyr Cymeradwy Preifat

Yn ogystal ag awdurdodau lleol a’r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai, gall arolygwyr cymeradwy annibynnol eraill a elwir yn Arolygwyr Cymeradwy Preifat gymeradwyo dechrau adeiladu tai a chymeradwyo tai a gwblhawyd.

Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

Sefydliadau sy’n darparu ac yn rheoli eiddo i bobl na fyddai’n gallu fforddio prynu neu rentu yn breifat fel arall yw landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Rhaid i landlordiaid cymdeithasol fod wedi cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac maent yn cael eu harolygu yn rheolaidd er mwyn cynnal safon dda o reolaeth.

Dechreuadau

Diffinnir annedd neu addasiad fel un sydd wedi ‘dechrau’ pan fydd gwaith yn dechrau a gofynion y rheoliadau adeiladu yn berthnasol (ee cloddio sylfeini, draenio, addasiadau strwythurol).

Tai a Gwblhawyd

Diffinnir annedd fel un wedi’i chwblhau pan fydd hysbysiad cwblhau wedi ei gyflwyno a phan fydd yr annedd yn barod ar gyfer meddiannaeth.

Gwybodaeth allweddol am ansawdd

Defnyddwyr a defnyddiau

Caiff yr wybodaeth ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i asesu lefelau cyflenwad tai ledled Cymru i nodi a yw’r angen am dai yn cael ei fodloni. Mae hefyd yn ffurfio sylfaen dystiolaeth ar gyfer datblygu a gwerthuso polisïau tai gan y llywodraeth ganolog a llywodraeth leol. 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn defnyddio data am y stoc dai er mwyn cyfrifo amcangyfrifon stoc anheddau ar lefel awdurdod lleol ac ar lefel Cymru gyfan. Am fethodoleg fanwl a gwybodaeth am ansawdd, gweler Amcangyfrifon stoc annedd.

Mae awdurdodau lleol yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn datblygu eu Hasesiadau o’r Farchnad Dai Leol; er mwyn meincnodi; fel tystiolaeth o sut y mae’r angen a’r galw am dai yn cael ei fodloni yn lleol; ac er mwyn asesu gofynion ac anghenion y dyfodol er mwyn cynllunio a dyrannu adnoddau’n effeithiol.

Mae’r wybodaeth hefyd yn cael ei defnyddio fel tystiolaeth i ddadansoddwyr, daroganwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau eraill y farchnad dai, er enghraifft Banc Lloegr, a’r diwydiannau adeiladu a bancio, ac ar gyfer ymchwil marchnad gan amrywiaeth eang o fusnesau eraill. Mae’n cael ei defnyddio gan y cyfryngau mewn adroddiadau ar y farchnad dai, a gan academyddion yn y DU a thramor.

Yn fwy cyffredinol, caiff yr wybodaeth ei defnyddio er mwyn:

  • monitro tueddiadau o ran tai
  • datblygu polisïau
  • cyngor i Weinidogion
  • llywio dadleuon yn Senedd Cymru a thu hwnt
  • gwaith proffilio daearyddol, cymharu a meincnodi.

Ffynonellau a chwmpas y data

Adeiladu tai newydd

Caiff y data am adeiladu tai newydd eu casglu bob chwarter gan y 22 awdurdod lleol a’r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai. Caiff yr wybodaeth ei chasglu drwy daenlenni Excel wedi eu lawrlwytho o wefan drosglwyddo ffeiliau Afon sy’n darparu dull diogel i ddefnyddwyr gyflwyno data. Nid yw’r casgliad adeiladu tai newydd yn cynnwys anheddau a gymeradwywyd gan arolygwyr cymeradwy preifat eraill (dim ond awdurdodau lleol a’r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai). Bydd peidio cynnwys nifer yr anheddau a gymeradwywyd gan arolygwyr cymeradwy preifat eraill yn arwain at dangyfrifiad bychan yn y cyfrifiad cyffredinol o anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd.

Cyfanswm y stoc anheddau

Mae amcangyfrifon cyfanswm y stoc anheddau yn cael eu cyfrifo yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru ac yn seiliedig ar ddata o’r cyfrifiadau poblogaeth. Caiff amcangyfrifon o’r cyfrifiadau eu diweddaru yn flynyddol er mwyn ystyried tai newydd sydd yn cael eu hadeiladu, a thai sy’n cael eu dymchwel. Amcangyfrifir manylion yr amcangyfrifon stoc yn ôl deiliadaeth drwy ddefnyddio’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, a datganiadau niferoedd gan awdurdodau lleol a landlordiaid cofrestredig cymdeithasol.

Mae’r Amcangyfrifon stoc annedd mwyaf diweddar yn berthnasol i 31 Mawrth 2020. Disgrifiwyd yr amcangyfrifon hyn yn adran ‘Cyd-destun ehangach’ y Datganiad Ystadegol Cyntaf ac fe’u defnyddir i gyfrifo cyfradd adeiladu tai newydd fesul 1,000 o anheddau presennol.

Effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19)

Oherwydd pandemig COVID-19, ni chasglwyd data chwarterol ar gyfer y cyfnodau canlynol:

  • Ionawr – Mawrth 2020
  • Ebrill – Mehefin 2020
  • Gorffennaf – Medi 2020
  • Hydref – Rhagfyr 2020
  • Ionawr - Mawrth 2021

Er na chasglwyd data chwarterol ar gyfer y cyfnod 2020-21, cyhoeddwyd ffigurau blynyddol ar gyfer 2020-21 ym mis Gorffennaf 2022.

Cafodd dechrau pandemig y coronafeirws (COVID-19) ym mis Mawrth 2020 a’r mesurau dilynol o safbwynt iechyd y cyhoedd a gyflwynwyd gan lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru effaith sylweddol ar y diwydiant adeiladu yng nghyfnod cynnar y pandemig, ac arweiniodd hynny at ostyngiad yn niferoedd y tai newydd a adeiladwyd.

Amlygodd adroddiad Allbwn Adeiladu ym Mhrydain Fawr: Ebrill 2020 (SYG) (adroddiad Saesneg yn unig) gwymp o 41% mewn gwaith newydd ledled Prydain Fawr, yn bennaf oherwydd gostyngiadau fesul mis nas gwelwyd o’r blaen o ran tai newydd preifat. Fodd bynnag, mae dadansoddiad Dangosyddion allbynnau tymor-byr: Hydref i Rhagfyr 2022 yn nodi bod y Mynegai Adeiladu wedi eu hadfer yng Nghymru, gan fynd y tu hwnt i lefelau cyn y pandemig yn ddiweddar.

Cywirdeb

Mae’r ffigurau a ddarperir gan awdurdodau lleol a’r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai yn dod o gofnodion a gedwir at ddibenion rheoli adeiladu. Mae landlordiaid cofrestredig cymdeithasol yn gwneud defnydd cynyddol o gaffael adeiladu/cynllunio, lle mae’r contractwr yn gyfrifol am gael yr holl ganiatadau adeiladau. Weithiau mae’n anodd i’r swyddogion rheoli adeiladau sy’n cofnodi’r data nodi a yw annedd yn cael ei hadeiladu ar gyfer landlord cofrestredig cymdeithasol neu ddatblygwr preifat. Gallai hynny arwain at dangyfrifiad o anheddau landlordiaid cofrestredig cymdeithasol a chyfrifiad rhy uchel o anheddau sector preifat. Am y rheswm hwn, dylid bod yn ofalus wrth ymdrin â manylion deiliadaeth. Er bod ein hadnoddau wedi eu herio dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i’r pandemig, rydym yn parhau i archwilio sut y gallwn wella sicrwydd ansawdd data adeiladu tai newydd. Rydym yn bwriadu cyhoeddi diweddariad ar y gwaith hwn yn 2024.

Diwygiadau

Gall diwygiadau godi pan fydd cyflenwr data yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru eu bod wedi cyflwyno gwybodaeth anghywir ac yn cywiro hyn. O dro i dro, gall diwygiadau ddigwydd oherwydd gwallau yn ein prosesau ystadegol. Yn yr achosion hyn, gwneir penderfyniad a yw’r newid yn ddigon sylweddol i gyhoeddi datganiad ystadegol wedi ei ddiwygio. Os penderfynir nad yw newidiadau yn sylweddol (hy mân newidiadau), bydd y rhain yn cael eu diweddaru yn y penawdau ystadegol nesaf. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd mân ddiwygiadau i'r ffigurau yn cael eu hadlewyrchu yn nhablau StatsWales cyn y datganiad nesaf hwnnw.

Nodir data wedi ei adolygu ag (r) yn y datganiad ystadegol. Rydym hefyd yn dilyn Polisi diwygiadau ystadegol Llywodraeth Cymru.

Hygyrchedd

Mae rhagor o wybodaeth fanwl ar adeiladu tai newydd yng Nghymru gan gynnwys manylion fesul awdurdod lleol ar gael i’w lawrlwytho o Adeiladu tai newydd (StatsCymru).

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig (UKSA) wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (UKSA).

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod yr ystadegau swyddogol yn cyrraedd y safonau uchaf o ran y gallu i ymddiried ynddynt, ansawdd a gwerth i'r cyhoedd.

Dylai unrhyw ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt ar ôl i gangen rheoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU eu hasesu. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau yn cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus.

Mae cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn amau a yw'r ystadegau hyn yn cyrraedd y safonau priodol o hyd, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Awdurdod ar unwaith. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg lle na lwyddir i gynnal y safonau uchaf, a'i ailddatgan pan gaiff y safonau eu cyrraedd unwaith eto.

Cadarnhawyd dynodiad parhaus yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol yn 2012 ar ôl asesiad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR).

Ers adolygiad diweddaraf y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Cynnwys cymariaethau ag ystadegau adeiladu tai newydd gwledydd eraill y DU.
  • Parhau i archwilio sut y gall setiau data ddatblygu ein dealltwriaeth o adeiladu tai newydd. Rydym yn bwriadu cyhoeddi’n canfyddiadau yn 2024.
  • Mae tudalen Adeiladu tai newydd yn cynnwys dolenni clir i’r casgliad data a’r adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Maent yn anelu at greu Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, â chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog a lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae'n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol ger bron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt (a) cyhoeddi'r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt ger bron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn ger bron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r gyfres a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd gynnig naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a gellid eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Cydlyniant ag ystadegau eraill

 

Tai fforddiadwy

Mae cyhoeddiadau Darpariaeth tai fforddiadwy yn nodi nifer yr unedau o dai fforddiadwy ychwanegol a ddarperir ledled Cymru. Mae tai fforddiadwy’n golygu tai lle mae trefniadau diogel ar waith i sicrhau ei fod yn hygyrch i’r rhai na allant fforddio tai ar y farchnad, ar feddiant cyntaf ac am feddianwyr dilynol fel y diffinnir yn Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 2 Cynllunio a Thai Fforddiadwy (2006). Mae ffigurau tai fforddiadwy’n cynnwys tai rhent cymdeithasol a ddarperir gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ogystal â thai canolradd lle mae prisiau neu renti’n uwch na rhai rhent cymdeithasol ond yn is na phrisiau neu renti’r farchnad dai. Mae hyn yn cynnwys y cartrefi hynny sydd newydd eu hadeiladu, ond hefyd yn cynnwys y rheini sydd wedi eu prynu, eu caffael neu eu rhentu gan landlordiaid cymdeithasol yn ystod y flwyddyn, ac unrhyw unedau ychwanegol a grëwyd yn dilyn addasu anheddau presennol. Nid ydynt yn ystyried unrhyw golled o stoc tai fforddiadwy trwy ddymchweliadau neu werthu yn ystod y flwyddyn. O ran addasiadau, dim ond yr enillion net fydd yn cael eu cynnwys.

Amcangyfrifon stoc anheddau

Mae amcangyfrifon stoc annedd, a gyfrifir drwy ddefnyddio data o gyfrifiadau poblogaeth, fel arfer yn cael eu cyhoeddi yn flynyddol. Mae’r datganiad data diweddaraf yn berthnasol i 31 Mawrth 2020.

Cymorth i Brynu - Cymru

Cynllun benthyciad ecwiti a rennir yw Cymorth i Brynu – Cymru, a gyflwynwyd ar 2 Ionawr 2014 er mwyn cefnogi perchnogaeth cartrefi, ysgogi gweithgarwch adeiladu a rhoi hwb i’r sector tai a’r economi yn ehangach. O dan y cynllun, mae benthyciadau ar gael i brynwyr sydd am brynu eiddo newydd ei adeiladu sydd yn werth hyd at £250,000 (cyn 1 Ebrill 2021, uchafswm gwerth yr eiddo oedd £300,000). Mae Cymorth i Brynu – Cymru ar gael i bob prynwr cartrefi (nid prynwyr tro cyntaf yn unig) sydd am brynu cartref newydd ond a allai fod wedi eu cyfyngu wrth wneud hynny (er enghraifft o ganlyniad i ofynion blaendal), ond y byddai disgwyl iddynt ad-dalu morgais fel arall. Gellir gweld data ar gartrefi a brynwyd gan ddefnyddio Cymorth i Brynu – Cymru ar Cymorth i Brynu - Cymru (Cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir).

Adeiladu tai newydd ledled y DU

Mae pob un o wledydd y DU yn cynhyrchu ei hystadegau ei hun ar adeiladu tai newydd, gan ddefnyddio diffiniadau gweddol gyson ar gyfer tai a ddechreuwyd ac a gwblhawyd. Yn flaenorol, mae’r pedair gwlad wedi casglu data am dai a ddechreuwyd ac a gwblhawyd yn ôl y tri math o ddeiliadaeth (y sector preifat, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol). Fodd bynnag, nid yw Cymru wedi casglu’r data hyn ar wahân o safbwynt anheddau a ddechreuwyd ers 2011-12.

Fel sy’n digwydd yng Nghymru, gall rhai tai a ddechreuwyd ac a gwblhawyd yn Lloegr gael eu cam-adrodd fel dechreuadau mentrau preifat, gan ei bod weithiau’n anodd i ddarparwyr data nodi deiliadaeth fwriadedig annedd. Ni ystyrir hyn yn broblem yn yr Alban, lle cesglir data ar adeiladu tai cymdeithasau tai yn uniongyrchol gan system gweinyddu y Rhaglen Cyflenwi Tai Fforddiadwy (AHSP) yn hytrach na gan dimau arolygu adeiladau. Oherwydd ystyriaethau ansawdd data, mae’r Alban ar hyn o bryd yn defnyddio cymeradwyaethau tai newydd gan gymdeithasau tai fel procsi ar gyfer dechrau adeiladu cymdeithasau tai o’r newydd; fodd bynnag efallai y bydd yn bosibl i’r Alban dechrau adrodd ar ddechreuadau yn y dyfodol.

Yng Ngogledd Iwerddon, dyddiad dechreuad annedd newydd yw dyddiad yr arolwg rheoli adeiladu cyntaf, yn hytrach na phan osodir y sylfeini.

Yn yr Alban ac yn Lloegr, mae cyfran fach o ddata yn cael eu mewnbynnu ar gyfer ymatebion coll.

Cyhoeddir rhaglen waith trawslywodraethol (Swyddogaeth Dadansoddi'r Llywodraeth) i wella cydlyniant, ymarferoldeb a hygyrchedd ystadegau tai yn flynyddol.

Lloegr

Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC) sydd yn gyfrifol am gyhoeddi Cyflenwad Tai: dangosyddion ystadegau cyflenwi newydd (DLUHC) ar gyfer Lloegr. Ar hyn o bryd mae gwybodaeth ar gael hyd at fis Mawrth 2023. Mae ffigurau’r ‘anheddau newydd a adeiladwyd’ yn seiliedig ar ddata arolygwyr rheoli adeiladu a gyflwynwyd i’r Adran gan awdurdodau lleol, Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai ac arolygwyr rheoli adeiladu cymeradwy annibynnol eraill.

Mae DLUHC hefyd yn cyhoeddi Cyflenwad Tai: anheddau ychwanegol net (DLUHC) sy’n prif fesur y cyflenwad tai ac yn olrhain newidiadau ym maint y stoc anheddau oherwydd tai newydd eu hadeiladu, tai wedi eu haddasu, newid defnydd a dymchweliadau. Ar hyn o bryd mae data hyd at 2021 – 22 ar gael. Mae data adeiladau newydd a gesglir ar gyfer ‘anheddau ychwanegiadau net’ yn fwy cynhwysfawr, gan fod y casgliad dros gyfnod hwy o amser, yn seiliedig ar yr holl dystiolaeth sydd ar gael (e.e. ymweliadau safle, cofnodion treth gyngor, cronfeydd data cynllunio, cofnodion rheoli adeiladu ac unrhyw ffynonellau eraill), a gall cipio rhai elfennau sydd ar goll o'r casgliadau rheoli adeiladu chwarterol.

Yr Alban

Mae cyhoeddiad Diweddariad Chwarterol Ystadegau Tai yr Alban: Adeiladu Tai Newydd a Chyflenwad Tai Fforddiadwy (Llywodareth yr Alban) yn cyflwyno gwybodaeth ar adeiladu tai newydd yn yr Alban. Daw ystadegau ar weithgarwch adeiladu tai newydd dan arweiniad y sector preifat a’r awdurdodau lleol o systemau gweinyddu yr awdurdodau lleol, yn seiliedig ar ddata eu harolygwyr adeiladu. Caiff nifer yr anheddau eu cynnwys wrth iddynt gael eu dechrau a’u cwblhau bob chwarter, boed y safle cyfan wedi ei gwblhau ai peidio. Daw ystadegau ar weithgarwch landlordiaid cofrestredig cymdeithasol o system weinyddu y AHSP. Mae hyn yn cofnodi gweithgarwch ar bob prosiect sy’n cael rhyw fath o gyllid gan y llywodraeth. Mae’r data diweddaraf ar holl weithgarwch adeiladu tai newydd yn yr Alban ar gael hyd at fis Mawrth 2023.

Gogledd Iwerddon

Mae Gogledd Iwerddon yn casglu ac yn cyhoeddi gwybodaeth chwarterol ar adeiladu tai newydd o ddwy ffynhonnell wahanol:

  • Anheddau wedi eu dechrau a’u cwblhau yn ôl mathau o ddatblygiad (Perchnogion preifat / hap-ddatblygiadau a Datblygiad Tai Cymdeithasol) fel y’u darperir i Wasanaethau Tir ac Eiddo (LPS) gan adrannau Rheoli Adeiladau awdurdodau lleol Gogledd Iwerddon.
  • Anheddau a ddechreuwyd ac a gwblhawyd gan gymdeithasau tai o dan y Rhaglen Datblygu Tai Cymdeithasol (SHDP), o dan reolaeth Gweithrediaeth Tai Gogledd Iwerddon (NIHE).

Cyhoeddir yr wybodaeth chwarterol ddiweddaraf ym Mwletin Tai Gogledd Iwerddon, Ionawr – Mawrth 2023 (Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA)). Bydd ffigurau dechrau a chwblhau rheoli adeiladu a ffigurau dechrau a chwblhau SHDP yn aml yn amrywio oherwydd gwahaniaeth yn y meini prawf cofnodi. Darperir mwy o wybodaeth yn yr Atodiad sy’n cyd-fynd â’r adroddiad (NISRA). Gellir gweld data adeiladu tai newydd yn Adran 1 crynodeb blynyddol Ystadegau Tai Gogledd Iwerddon 2021–22 ac ystadegau anheddau newydd (NISRA).

Cofrestriadau y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai

Mae’r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai hefyd yn cyhoeddi ystadegau rheolaidd ynghylch nifer y tai newydd a gofrestrwyd ar gyfer gwarant deng mlynedd y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai yn y DU. Mae eu hystadegau yn nodi bod y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai yn darparu gwarantau ar oddeutu 80% o dai newydd ei hadeiladu yn y DU. Mae’n rhaid i adeiladwyr tai sydd wedi cofrestru gyda’r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai gofrestru tai gyda’r Cyngor o leiaf 21 diwrnod cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau.

Tra mae’r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai yn cyfrifo cofrestriadau fel nifer y cartrefi a gofrestrwyd, ac eithrio gostyngiad o ganran fach er mwyn caniatáu ar gyfer diddymiadau tebygol, nid ydynt yn cynrychioli nifer gwirioneddol y tai a ddechreuwyd yn ystod cyfnod. Hefyd nid yw cofrestriadau’r Gymdeithas Cenedlaethol Adeiladu Tai yn cynnwys unrhyw gofrestriadau a wnaed gydag arolygwyr cymeradwy preifat eraill na gydag awdurdodau lleol.

Mae’r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai yn cyhoeddi ystadegau cofrestru cartrefi newydd chwarterol ar gyfer 4 gwlad y DU a rhanbarthau Lloegr, yn ogystal ag adolygiad blynyddol. Er bod patrwm cyffredinol cofrestriadau’r Cyngor ers 2005 yn debyg i ystadegau swyddogol ar ddechreuadau adeiladau tai newydd, gall nifer gwirioneddol y cofrestriadau a’r newidiadau o flwyddyn i flwyddyn amrywio’n fawr. Mae data Cyngor Cenedlaethol Adeiladau Tai (NHBC) yn dangos bod 5,065 o gofrestriadau tai newydd yng Nghymru yn ystod blwyddyn galendr 2022, cynnydd o 22% ers y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn cymharu â chynnydd blynyddol o 27% yn Lloegr, 22% yn yr Alban a gostyngiad o 13% yng Ngogledd Iwerddon (gan gynnwys Ynys Manaw).