Neidio i'r prif gynnwy

Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel

Ymrwymiad 1

Sefydlu ysgol feddygol newydd yn y Gogledd.

Ymrwymiad 1 cynnydd

Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud o ran Ysgol Feddygol y Gogledd, a fydd yn derbyn ei myfyrwyr cyntaf am y tro cyntaf yn hydref 2024. Bydd y niferoedd yn cynyddu’n raddol nes bydd yr ysgol yn cyrraedd ei chapasiti llawn (140 o fyfyrwyr y flwyddyn) yn 2029. Gohiriwyd y dyddiad derbyn cychwynnol, sef 2023, yn seiliedig yn rhannol ar argymhellion gan Fwrdd y Rhaglen, ac oherwydd proses achredu’r Cyngor Meddygol Cyffredinol. Mae’r broses achredu ei hun yn mynd rhagddi’n dda, gyda chamau 3 a 4 wedi’u cwblhau ym mis Ebrill ac ymweliad safle’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf (camau 5 a 6). Bydd rhaglen dreigl o sicrhau ansawdd, sy’n cynnwys ymweliadau a chraffu ar dystiolaeth ddogfennol (cam 7), yn parhau rhwng mis Hydref 2024 a mis Gorffennaf 2029. Mae Prifysgol Caerdydd yn parhau i weithredu fel partner wrth gefn. Mae capasiti lleoliadau gofal sylfaenol ar gyfer 24/25 a blynyddoedd academaidd 25/26 hefyd wedi’i sicrhau. Mae gwaith monitro cadarn ar y risgiau cysylltiedig o ran cyflawni a goruchwylio’r rhaglen yn cael ei gwblhau, er mwyn sicrhau bod risgiau’n cael eu rheoli’n briodol, bod mesurau lliniaru’n cael eu cynllunio, a bod cynlluniau wrth gefn effeithiol ar waith.

Ymrwymiad 2

Darparu triniaethau a ohiriwyd yn sgil y pandemig.

Ymrwymiad 2 cynnydd

Mae data amseroedd aros mis Ebrill 2023 yn dangos bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn ar ôl cyhoeddi Ein rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru. Er na chyrhaeddwyd y targedau absoliwt, roedd data amseroedd aros mis Ebrill 2023 yn dangos bod 96% o’r llwybrau aros am driniaeth yn llai na dwy flynedd. Ym mis Ebrill 2022, roedd hyn yn 90%. Mae arosiadau o fwy na blwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf wedi gostwng yn sylweddol ac maent 43% yn is. Mae Cymru hefyd wedi dangos gwell rheolaeth o’r cynnydd yn y galw yn y system, gyda chyfanswm y rhestr aros yng Nghymru yn cynyddu 5% yn y flwyddyn Ebrill 2022 i Ebrill 2023, o’i gymharu â rhestr aros Lloegr a gynyddodd 14% rhwng mis Ebrill 2022 a mis Ebrill 2023; roedd cyfanswm eu rhestr aros ym mis Ebrill 2023 yn uwch nag erioed.

Ymrwymiad 3

Darparu gwell mynediad at feddygon, nyrsys, deintyddion a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.

Ymrwymiad 3 cynnydd

Yn dilyn y cytundeb ynghylch contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol 2022/2023, daeth Mynediad Cam 1 yn orfodol i bob practis meddyg teulu o 1 Ebrill 2023 ymlaen, gan sicrhau cysondeb ledled Cymru. Ers mis Ebrill 2022, mae 78% o bractisau deintyddol wedi symud i amrywio contractau, gan gynnwys mesurau sy’n canolbwyntio ar ddarparu gofal i gleifion presennol ar sail risg ac anghenion, yn ogystal â gweld cleifion newydd y GIG. Yn ystod 22/23, mae gwybodaeth reoli yn dangos bod bron i 174,000 o gleifion newydd wedi cael mynediad at ofal deintyddol, a mwy na miliwn o gleifion wedi cael triniaeth ddeintyddol gyda mwy nag 1.3m o gyrsiau triniaeth yn cael eu darparu. Drwy’r contract Fferylliaeth Gymunedol diwygiedig, mae tua 600,000 o ymgyngoriadau clinigol wedi’u cynnal mewn fferyllfeydd cymunedol, yn rhad ac am ddim ar y pryd, gan ryddhau capasiti hanfodol o fewn gwasanaethau meddygol cyffredinol ac ar draws gwasanaethau eraill y GIG. Fe wnaethom gyhoeddi £5m o gyllid rheolaidd i gynyddu nifer y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gweithwyr cymorth yn y gymuned ac mewn gofal sylfaenol i helpu pobl i barhau i fod yn actif ac yn annibynnol. Mae’r trafodaethau optometreg cyntaf wedi dod i ben ac rydym wedi cytuno, mewn egwyddor, ar delerau gwasanaeth ar gyfer contract optometreg newydd sy’n canolbwyntio ar wella mynediad at wasanaethau iechyd llygaid yn y gymuned ac mewn gofal eilaidd.

Ymrwymiad 4

Diwygio gofal sylfaenol, gan ddod â gwasanaethau meddygon teulu, fferylliaeth, therapi, tai, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, y gymuned a’r trydydd sector at ei gilydd.

Ymrwymiad 4 cynnydd

Mae cynnydd wedi’i wneud o ran cyflymu rôl clystyrau yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau gofal sylfaenol. Mae Grwpiau Cynllunio ar draws Clystyrau a Chydweithrediadau Proffesiynol ar gyfer meddygon teulu, fferyllwyr, optometryddion, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ar waith. Mae gwaith wedi dechrau i sefydlu dulliau cyflawni clystyrau sy’n galluogi amrywiaeth o wasanaethau i weithio gyda’i gilydd i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau’n integredig, gan ganolbwyntio’n gyntaf ar grwpiau agored i niwed. Cynhaliwyd peilot o adolygiad cymheiriaid o dan arweiniad clystyrau ac mae cynllun gweithredu cenedlaethol a chynlluniau gweithredu lleol bellach ar waith. O fis Hydref 2023 ymlaen, bydd Contract Unedig newydd ar gyfer Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn symleiddio pa wasanaethau y mae’n rhaid i bob practis meddyg teulu yng Nghymru eu darparu a sut y maent yn dangos tystiolaeth o gyflawni. Daeth ymgynghoriad anffurfiol, wedi’i dargedu, ar y newidiadau i’r rheoliadau i ben ar 30 Ebrill. Mae’r ymatebion yn cael eu gwerthuso a bydd crynodeb o’r ymatebion yn cael ei ddrafftio. Mae fferyllfeydd cymunedol wedi rhagori wrth gyflwyno diwygiadau Presgripsiwn Newydd: Dyfodol Fferylliaeth Gymunedol yng Nghymru, gan wneud cynnydd sylweddol wrth drosglwyddo i fodel a arweinir gan wasanaethau clinigol, ac mae’r gweithgarwch o fewn fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru ar ei fwyaf erioed.

Ymrwymiad 5

Blaenoriaethu buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Ymrwymiad 5 cynnydd

Mae’r ymrwymiad hwn wedi’i gwblhau drwy flaenoriaethu iechyd meddwl a llesiant yn setliad tair blynedd y gyllideb, gan ddyrannu £100m ychwanegol hyd at 24/25. Yn 22/23, fe wnaethom ddyrannu £50m o adnoddau ychwanegol i gefnogi iechyd meddwl a llesiant. Mae swm sylweddol o’r cyllid hwn wedi’i ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl yn uniongyrchol, sy’n cyd-fynd â’r meysydd blaenoriaeth yng Nghynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Mae hyn yn cynnwys rhagor o gapasiti mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS), cymorth ar gyfer cyswllt gofal sylfaenol, gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol a gwasanaethau anhwylderau bwyta i gefnogi ymyriadau cynnar a mynediad prydlon at wasanaethau. Rydym hefyd wedi buddsoddi’n sylweddol yn y gwaith o gyflwyno’r gwasanaeth 111 Pwyso 2 ar gyfer cymorth iechyd meddwl brys, gyda phob bwrdd iechyd yn gweithredu’r gwasanaeth ddydd a nos, saith diwrnod yr wythnos. Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn meysydd sy’n effeithio ar iechyd meddwl, gan gynnwys problemau camddefnyddio sylweddau, cyflogadwyedd ac atal.

Ymrwymiad 6

Blaenoriaethu ailgynllunio gwasanaethau i wella dulliau ataliol, mynd i’r afael â stigma a hyrwyddo dull dim drws anghywir o ddarparu cymorth iechyd meddwl.

Ymrwymiad 6 cynnydd

Fe wnaethom gyflwyno 111 Pwyso 2 ar gyfer iechyd meddwl’ ledled y wlad, gyda phob bwrdd iechyd lleol yn cynnal gwasanaeth ddydd a nos, saith diwrnod yr wythnos. Mae’r gwasanaeth newydd yn darparu mynediad i bobl o bob oed at gyngor a chymorth, ynghyd ag atgyfeiriad at wasanaethau arbenigol lle bo hynny’n briodol. Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu llinell i weithwyr proffesiynol, er enghraifft yr heddlu, os oes pryder ynghylch iechyd meddwl unigolyn. Mae Uned Gyflawni’r GIG wedi cwblhau adolygiad o wasanaethau CAMHS i ganfod cyfleoedd ar gyfer gwella gwasanaethau, gan gynnwys gwella mynediad a gwella monitro perfformiad. Mae pob bwrdd iechyd wedi derbyn adroddiadau unigol ac wedi cytuno ar gynlluniau ar gyfer gwella. Mae ein harweinydd gweithredu NYTH bellach yn ei swydd, ac yn cefnogi gweithrediad NYTH drwy hyfforddiant, adnodd hunanasesu a chymuned ymarfer. Mae pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn gweithio ar gynlluniau gweithredu rhanbarthol ar gyfer NYTH. Mae Mind Cymru (derbynwyr grantiau) wedi meithrin perthynas gref â chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ledled Cymru fel rhan o ymgyrch Amser i Newid Cymru. Mae deunyddiau’r ymgyrch wedi’u gwneud yn fwy cynhwysol a diwylliannol briodol. Mae mwy nag 20 o hyrwyddwyr cymunedol wedi’u recriwtio a’u hyfforddi. Mae Hyrwyddwyr Cymunedol Amser i Newid Cymru yn wirfoddolwyr sydd â phrofiad uniongyrchol o broblemau iechyd meddwl ac sy’n cael hyfforddiant a chefnogaeth i rannu eu stori er mwyn codi ymwybyddiaeth o salwch meddwl a sicrhau newid. Mae Amser i Newid Cymru yn gweithio gyda mwy o amrywiaeth o sectorau cyflogaeth erbyn hyn ac mae 17 o gyflogwyr newydd o’r sectorau hyn wedi llofnodi Adduned y Cyflogwr. Mae’r sectorau a gynrychiolir yn cynnwys y diwydiannau glanhau a gweithgynhyrchu, grwpiau ffydd a sefydliadau ar lawr gwlad.

Ymrwymiad 7

Cyflwyno gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed ‘o fewn cyrraedd’ mewn ysgolion ledled Cymru.

Ymrwymiad 7 cynnydd

Darparwyd £5.3m i’r Byrddau Iechyd Lleol yn 22/23 i’w galluogi i recriwtio a sefydlu darpariaeth mewngymorth ysgolion CAHMS. Mae pob Bwrdd Iechyd wedi dweud bod gwasanaethau wedi’u recriwtio’n llawn ac yn weithredol erbyn diwedd 2022, gyda mwy na 100 o staff cyfwerth ag amser llawn wedi’u recriwtio. Mae gweithgorau amlasiantaeth wedi’u sefydlu a rhaglenni hyfforddi wedi’u datblygu, gydag ymgyngoriadau clinigol a chyngor ar y gweill i ysgolion a staff eraill sy’n delio ag achosion cymhleth. Sefydlwyd grŵp llywio ffurfiol o ymarferwyr ac arweinwyr mewnol ar sail Cymru gyfan gyda chynrychiolwyr o’r holl Fyrddau Iechyd Lleol a sefydliadau partner eraill. Bydd yn adrodd yn ffurfiol i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant drwy’r Cyd-Fwrdd Goruchwylio a Chyflawni Gweinidogol ar gyfer Dull Ysgol Gyfan o Ymdrin â Llesiant.

Ymrwymiad 8

Cyflwyno fframwaith Cymru gyfan i gyflwyno presgripsiynu cymdeithasol i helpu pobl sy’n teimlo’n ynysig.

Ymrwymiad 8 cynnydd

Ar ôl cydweithio â bron i 1,000 o randdeiliaid, cyhoeddwyd model Cymru o bresgripsiynu cymdeithasol ar gyfer ymgynghoriad ym mis Gorffennaf 2022. Ym mis Rhagfyr 2022, cyhoeddwyd adroddiad yn crynhoi adborth o fwy na 190 o ymatebion. Yn dilyn asesiad trawslywodraethol o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ac ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid, rydym yn datblygu adroddiad dadansoddi’r ymgynghoriad, y fframwaith terfynol a’r cynllun gweithredu ategol.

Ymrwymiad 9

Adolygu cynllunio llwybr cleifion a chyllid hosbisau.

Ymrwymiad 9 cynnydd

Fe wnaethom gyhoeddi’r Datganiad Ansawdd Gofal Lliniarol a Diwedd Oes ym mis Hydref 2022. Cafodd ei gydgynhyrchu ag amrywiaeth o bartneriaid statudol a gwirfoddol ac mae’n nodi ein bwriad polisi lefel uchel ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes i blant, pobl ifanc ac oedolion. Mae’n disgrifio beth a olygir wrth ofal lliniarol a diwedd oes o ansawdd da ac mae’n cynnwys ystod o ymrwymiadau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau, darparu gofal sy’n canolbwyntio ar y claf a chefnogi sgyrsiau ar ddewisiadau gofal ar ddiwedd oes.

Cyflwynwyd adroddiad ar gam 2 yr adolygiad ehangach o gyllid diwedd oes ddiwedd mis Ionawr 2023 ac roedd yn cynnwys argymhellion ar wella darpariaeth gymunedol a darpariaeth y tu allan i oriau a lliniaru effaith yr argyfwng costau byw. Mae argymhellion sy’n canolbwyntio ar gynyddu capasiti nyrsio ardal craidd a nyrsys clinigol arbenigol ar benwythnos/y tu allan i oriau yn cael eu datblygu drwy waith ehangach i ddatblygu gwasanaeth gofal cymunedol integredig. Bydd hyn yn cynyddu’r capasiti ar gyfer darpariaeth gofal diwedd oes y tu allan i oriau ac yn gwella gofal lliniarol a gofal diwedd oes.

Ymrwymiad 10

Datblygu cynllun gweithredu HIV i Gymru.

Ymrwymiad 10 cynnydd

Lansiwyd ymgynghoriad ar y Cynllun Gweithredu HIV drafft i Gymru 2023 i 2026 ym mis Mehefin 2022 a chynhaliwyd ef am 12 wythnos. Roedd yr ymatebion yn gadarnhaol ac, o ganlyniad, cafodd y cynllun terfynol ei gryfhau o ran pobl hŷn a phlant sy’n byw gyda HIV. Cafodd y cynllun terfynol, sydd â’r nod o gyflawni ein targed o ddim trosglwyddiadau erbyn 2030 a mynd i’r afael â stigma sy’n gysylltiedig â HIV, ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2023, gan gwblhau’r ymrwymiad hwn. Mae Grŵp Goruchwylio wedi’i sefydlu erbyn hyn i fwrw ymlaen â’r gwaith o roi’r camau gweithredu ar waith.

Ymrwymiad 11

Cyflwyno cod ymarfer statudol ar gyfer darparu gwasanaethau awtistiaeth.

Ymrwymiad 11 cynnydd

Daeth y Cod Ymarfer i rym ar 1 Medi 2021 gan gwblhau’r ymrwymiad hwn. Rydym wedi ariannu’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, dan ofal Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i ddarparu cyngor ac adnoddau arbenigol ar niwrowahaniaeth yng Nghymru. Mae’n parhau i weithio gyda’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i wreiddio’r Cod 
a chefnogi’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau. Ym mis Gorffennaf 2022, cyhoeddwyd Rhaglen Gwella Cyflyrau Niwroddatblygiadol gyda £12m o gyllid. I gefnogi’r gwaith cyflawni sefydlwyd Grŵp Cynghori Gweinidogol, gyda chymorth grŵp cynghori clinigol sydd â ffrydiau gwaith wedi’u targedu i ymdrin â’r blaenoriaethau gweithredu, a grŵp rhanddeiliaid. Yn 22/23, dyrannwyd £1.4m o’r cyllid i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol i fynd i’r afael ag angen brys a chymorth i deuluoedd. Mae llinell wrando niwrowahaniaeth wedi’i datblygu hefyd ar gyfer teuluoedd sy’n chwilio am gymorth. Dechreuodd hyn ym mis Ebrill 2023 a bydd yn gweithredu fel peilot chwe mis i ehangu llinell gymorth 111 Pwyso 2 ar gyfer iechyd meddwl. Dechreuodd gwerthusiad annibynnol dau gam o’r Cod ym mis Ionawr 2023. Bydd cam 1 yn adolygu effaith gychwynnol y Cod ar randdeiliaid a bydd cam 2 yn adolygu’r gwaith o gyflawni’r argymhellion a wnaed yng ngham 1, a’u heffaith.

Diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed

Ymrwymiad 12

Talu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal a, chan weithio gyda phartneriaid cymdeithasol drwy’r Fforwm Gwaith Teg, ystyried camau pellach tuag at sicrhau bod gweithwyr gofal yn cael eu cydnabod a’u gwobrwyo’n gydradd.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 12 cynnydd

Fe wnaethom ddarparu £43m i awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gyflwyno’r Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol yn 2022/2023. Buom yn gweithio’n agos gyda phartneriaid cymdeithasol i ddatblygu canllawiau i helpu i’w roi ar waith ac i sefydlu proses fonitro. Mae hyn yn cael ei oruchwylio gan y Grŵp Llywio Cyflog Byw Gwirioneddol sy’n cynnwys cynrychiolaeth o blith undebau, comisiynwyr, darparwyr a’r llywodraeth. Rydym yn deall bod y rhan fwyaf o ddarparwyr yn talu cyfradd y Cyflog Byw Gwirioneddol erbyn hyn. Mae grwpiau gorchwyl a gorffen wedi’u comisiynu i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau penodol. Rydym wedi comisiynu gwerthusiad annibynnol o’r flwyddyn gyntaf o weithredu; a thrwy’r adolygiad hwn a’r prosesau monitro sydd ar waith, byddwn yn nodi ac yn gwneud gwelliannau ar gyfer y dyfodol. Mae’r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol wedi datblygu Fframwaith Tâl a Dilyniant drafft a fydd yn darparu cyflog, dilyniant a chyfleoedd datblygu mwy cyson ym maes gofal cymdeithasol, gan gyd-fynd â sgiliau, dysgu a lefelau cyflog. Roedd hyn yn rhan o’r ymgynghoriad ar y Rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth a lansiwyd ym mis Mai 2023. Roedd gwaith y Fforwm hefyd yn cynnwys ymchwil i rolau cynorthwywyr personol a gyhoeddwyd ym mis Medi 2022.

Ymrwymiad 13

Cynyddu prentisiaethau ym maes gofal a recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg.

Ymrwymiad 13 cynnydd

Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a rhanddeiliaid yn y sector ehangach i nodi cyfleoedd i annog pobl i fanteisio ar brentisiaethau mewn gofal ac i recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg. Mae’r sector gofal cymdeithasol yn cael ei gefnogi’n llawn eisoes gan ein rhaglen brentisiaethau. I gefnogi’r ymrwymiad hwn, a thwf mewn gofal cymdeithasol, darparwyd £70,000 ychwanegol i Gofal Cymdeithasol Cymru i drefnu ymgyrch cyfryngau cymdeithasol a google, ac mae gwerthusiad cynnar o’r ymgyrch yn dangos canlyniadau cadarnhaol. Fe wnaethom hefyd gyflwyno’r ymgyrch Dewis Doethi dynnu sylw at brentisiaethau gofal cymdeithasol ac i ariannu ymgyrch hyrwyddo Gymraeg gwerth £200,000; mae adnodd asesu’r Gymraeg er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflwyno archwiliad Cymraeg wedi’i ddatblygu hefyd. Roedd y pecyn cyllido yn cynnwys addasiad i adlewyrchu cyd-destun gofal cymdeithasol y cwrs Camau Sylfaen er mwyn sicrhau llwybr i ddysgwyr o lefel mynediad i lefel uwch.

Ymrwymiad 14

Sefydlu grŵp arbenigol i gynghori erbyn mis Ebrill 2022 ar y camau gweithredu ymarferol ar gyfer cyflenwi gwasanaeth gofal cenedlaethol sy’n rhad ac am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 14 cynnydd

Cynhyrchodd y Grŵp Arbenigol adroddiad trylwyr a manwl gydag argymhellion pellgyrhaeddol ynghylch sut y gellid datblygu gwasanaeth gofal cenedlaethol. Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Medi 2022 ac mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae’r argymhellion yn cael eu hystyried yn y cyd-destun economaidd heriol presennol, sydd wedi codi ers i’r gwaith hwn ddechrau. Mae Cynllun Gweithredu drafft sy’n cynnwys dull gweithredu tri cham yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

Ymrwymiad 15

Deddfu i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ymhellach.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 15 cynnydd

Cafodd y Rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth ei lansio yn 2022 ac roedd yn cynnwys ffrwd waith allweddol i gryfhau gweithio mewn partneriaeth yn rhanbarthol. Mae cyfres o grwpiau gorchwyl a gorffen sy’n cynnwys rhanddeiliaid amrywiol wedi cyfarfod i adolygu a chryfhau’r trefniadau partneriaeth ac integreiddio presennol, gan gynnwys diwygio Canllawiau Statudol Rhan 9 a Chod Ymarfer Rhan 2 o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru. Dechreuodd yr ymgynghoriad ar ganllawiau diwygiedig Rhan 9 a chod Rhan 2 ym mis Mai 2023. Bydd diwygiadau i’r Rheoliadau yn dilyn y broses ymgynghori hon yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:

  • Craffu a Llywodraethiant
  • Cynllunio a Pherfformiad
  • Darparu Gwasanaethau Integredig
  • Ymgysylltu a Llais
  • Ailgydbwyso’r Farchnad

Ymrwymiad 16

Cefnogi datblygiadau tai arloesol i ddiwallu anghenion gofal.

Ymrwymiad 16 cynnydd

Yn 2022/2023, buddsoddwyd mewn 64 o gynlluniau seilwaith ledled Cymru drwy’r Gronfa Tai â Gofal. Mae’r Gronfa wedi cefnogi newid sylweddol yn y ddarpariaeth o wasanaethau llety agos i’r cartref ar gyfer plant ag anghenion cymhleth, gan fuddsoddi mewn 19 o gynlluniau preswyl i blant, a 5 cynllun llety pontio, llety seibiant neu lety brys ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae buddsoddiadau eraill yn cynnwys 14 cynllun byw â chymorth ar gyfer oedolion ag anabledd dysgu; 12 cynllun i bobl hŷn; a 6 chynllun llety â chymorth ar gyfer oedolion a theuluoedd sydd ag anghenion iechyd meddwl ac anghenion gofal eraill.

Ymrwymiad 17

Ariannu gofal plant i fwy o deuluoedd lle mae rhieni mewn addysg a hyfforddiant neu ar gyrion gwaith.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 17 cynnydd

Cafodd Cynnig Gofal Plant Cymru ei ehangu i rieni mewn addysg a hyfforddiant ym mis Medi 2022, gan gwblhau’r ymrwymiad hwn. Mae rhieni plant 3 a 4 oed, sydd wedi cofrestru ar gyrsiau addysg bellach neu addysg uwch am o leiaf 10 wythnos, bellach yn gymwys i wneud cais am 30 awr o ofal plant wedi’i ariannu bob wythnos am 48 wythnos o’r flwyddyn. Roedd yr ehangu hwn yn golygu bod tua 3,000 o rieni yn gymwys ar gyfer darpariaeth y Cynnig Gofal Plant ac, yn y ddau dymor cyntaf, darparodd gymorth i 438 o deuluoedd. Mae’r ehangu hwn hefyd yn adlewyrchu’r gwerth rydym yn ei roi ar gefnogi pobl sy’n ceisio gwella eu rhagolygon cyflogaeth drwy ennill cymwysterau, ailhyfforddi neu newid llwybr gyrfa.

Ymrwymiad 18

Mynd ati’n raddol i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar er mwyn cynnwys pob plentyn dwy flwydd oed, gan roi pwyslais penodol ar gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 18 cynnydd

Dechreuodd y cam cyntaf o ehangu ym mis Medi 2022 ac mae wedi cyrraedd mwy na’r nifer targed o 2,500 o fuddiolwyr ychwanegol. Mae pedair elfen y rhaglen Dechrau’n Deg – mwy o ymweliadau iechyd, cymorth ar gyfer lleferydd, iaith a chyfathrebu, cymorth magu plant a gofal plant – yn rhoi budd i fwy na 3,100 o blant ychwanegol. Rydym nawr yn canolbwyntio ar y cam ehangu nesaf – gan ddarparu elfen gofal plant Dechrau’n Deg i hyd yn oed yn rhagor o blant dwy flwydd oed ledled Cymru. Dros y ddwy flynedd nesaf, byddwn yn buddsoddi £46m i ehangu gofal plant Dechrau’n Deg. Bydd y rhaglen yn cael ei hehangu’n raddol ochr yn ochr â phecyn o fesurau a gyhoeddwyd ym mis Medi 2022 i gefnogi lleoliadau cyfrwng Cymraeg presennol a gweithwyr gofal plant a phobl sydd eisiau ymuno â’r gweithlu plant.

Ymrwymiad 19

Parhau i gefnogi ein rhaglenni Dechrau’n Deg blaenllaw.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 19 cynnydd

Fe wnaethom fuddsoddi mwy nag £83m yn Dechrau’n Deg yn 2022/2023 ac rydym yn parhau i ehangu Dechrau’n Deg, drwy ehangu’n raddol y ddarpariaeth blynyddoedd cynnar sy’n cael ei rhoi ar waith drwy’r rhaglen. Mae hyn wedi cynyddu cyrhaeddiad pedair elfen ein rhaglen Dechrau’n Deg graidd i fwy na 38,500 o blant o dan bedair oed ledled Cymru erbyn cwblhau cam 1 yr ehangu. Mae cyllid cyfalaf o £70m dros gyfnod o dair blynedd yn cefnogi Dechrau’n Deg, y cynnig gofal plant, gofal plant a’r gwaith ehangu, drwy ariannu gwaith cynnal a chadw a mân waith arall, yn ogystal â bodloni cynigion mwy sylweddol a fydd yn cael eu pwysoli i gefnogi ymrwymiadau eraill y Rhaglen Lywodraethu, fel cryfhau’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Ymrwymiad 20

Atal teuluoedd rhag chwalu drwy ariannu gwasanaethau eirioli i rieni y mae eu plant mewn perygl o ddod yn rhan o’r system ofal.

Ymrwymiad 20 cynnydd

Rydym wedi darparu £1.6m dros 4 blynedd i ddarparwyr eiriolaeth y trydydd sector sy’n darparu, datblygu neu ehangu gwasanaethau eiriolaeth ym mhob un o’r 7 rhanbarth ledled Cymru fel rhan o gynllun cyflwyno cenedlaethol. Bydd y gwasanaethau hyn yn cefnogi rhieni y mae eu plant ar ffiniau gofal, gan helpu i feithrin gwydnwch teuluol, osgoi cyfranogiad diangen gan y gwasanaethau cymdeithasol a lleihau’r risg y bydd plant yn dod yn rhan o’r system ofal. Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno yn unol â fframwaith cenedlaethol er mwyn sicrhau cysondeb.

Ymrwymiad 21

Darparu cymorth arbenigol ychwanegol i blant ag anghenion cymhleth a allai fod ar gyrion y system ofal.

Ymrwymiad 21 cynnydd

Mae’r gwaith a ariennir gan Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn canolbwyntio ar hyrwyddo modelau gofal sy’n ystyriol o drawma a sicrhau bod trefniadau comisiynu ar y cyd priodol ar waith rhwng iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg i gynhyrchu ystod o wasanaethau sydd wedi’u hintegreiddio’n agosach. Mae’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn gronfa 5 mlynedd gwerth £144m i gyflawni rhaglen newid tan fis Mawrth 2027, yn seiliedig ar dderbyn a chymeradwyo cynigion buddsoddi sy’n cwmpasu amrywiaeth o fodelau gofal integredig. Mae hyn yn cynnwys cefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd a chymorth therapiwtig i blant â phrofiad o ofal sydd ag anghenion cymhleth. Mae’r 32 o brosiectau a nodwyd hyd yma gan y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cwmpasu Cymru gyfan.

Ymrwymiad 22

Ystyried cyfleoedd radical i ddiwygio’r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac yn gadael gofal.

Ymrwymiad 22 cynnydd

Ymwelodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol â phob un o’r 22 awdurdod lleol yn 22/23 i drafod trawsnewid gwasanaethau plant yng Nghymru a’r cynnydd o ran cynlluniau i ddileu elw. Ym mis Rhagfyr 2022, cynhaliwyd yr Uwchgynhadledd gyntaf i’r Rhai sy’n Gadael Gofal rhwng Gweinidogion Cymru a 50 o lysgenhadon ifanc sydd â phrofiad o ofal. Canlyniad yr uwchgynhadledd yw datganiad sy’n nodi gweledigaeth ar y cyd ar gyfer gwasanaethau plant. Cafodd y datganiad, a ddatblygwyd gan lysgenhadon ifanc a Gweinidogion, ei lofnodi gan y Prif Weinidog a’r llysgenhadon ar 10 Mai. Mae’r trefniadau llywodraethu ar gyfer y Rhaglen Trawsnewid wedi’u cryfhau, gyda Bwrdd Goruchwylio Gweinidogol bellach yn goruchwylio Map Trawsnewid sydd newydd gael ei ddatblygu. Mae Grŵp Cyflawni Trawsnewid ar waith hefyd, gyda chynrychiolwyr o bob sector sydd â diddordeb mewn gwasanaethau plant i lywio ymarfer a bwrw ymlaen â’r ymrwymiadau sy’n rhan o’r map trawsnewid. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cynnal adolygiad o fframweithiau ymarfer, ac rydym yn datblygu Fframwaith Ymarfer Cenedlaethol wedi’i gydgynhyrchu. Egwyddor hollbwysig y Fframwaith fydd cryfhau’r cymorth a chreu’r amodau ar gyfer ymarfer gwasanaethau plant o ansawdd uchel ledled Cymru.

Ymrwymiad 23

Dileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 23 cynnydd

Sefydlwyd Bwrdd Rhaglen amlasiantaeth ym mis Medi 2021, ac ym mis Tachwedd 2022 dechreuodd ail gam y gwaith, gan ganolbwyntio ar ddatblygu darpariaeth awdurdodau lleol a darpariaeth nid-er-elw a gweithio i drosglwyddo darparwyr preifat presennol i statws nid-er-elw. Daeth ymgynghoriad a oedd yn ymwneud â chynigion ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol i gefnogi’r ymrwymiad hwn i ben ym mis Tachwedd 2022 gan ddenu 150 o ymatebion. Rydym yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol i ddatblygu eu strategaethau comisiynu lleoliadau ar gyfer 2023-2027 (yn nodi sut y bydd awdurdodau lleol yn darparu lleoliadau sy’n diwallu anghenion plant a phobl ifanc). Rydym yn darparu £68m o gyllid refeniw dros y tair blynedd 2022-2025 i helpu awdurdodau lleol i gynyddu eu darpariaeth nid-er-elw a lleihau nifer y plant mewn gofal.

Ymrwymiad 24

Ariannu gwasanaethau preswyl rhanbarthol i blant ag anghenion cymhleth, gan sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu mor agos at eu cartrefi â phosibl ac yng Nghymru lle bynnag y bo hynny’n ymarferol.

Ymrwymiad 24 cynnydd

Darparwyd £4.8m o gyllid i’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn 21/22 i ysgogi darpariaeth sylfaenol ym mhob rhanbarth. O ganlyniad i’r cyllid hwnnw, mae pob rhanbarth wedi datblygu darpariaeth, ac mae 8 prosiect bellach ar waith, gan gefnogi 21 o blant a darparu 23 o leoliadau ychwanegol. Mae’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn parhau i flaenoriaethu llety addas ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar gyflawni prosiectau sy’n weddill fel rhan o drefniadau monitro newydd. Rhaid ystyried gwaith ar ddarparu gwasanaethau i blant ag anghenion cymhleth yng nghyd-destun dileu elw a sut y mae cryfhau rhianta corfforaethol a rolau/cyfrifoldebau partneriaid statudol.

Ymrwymiad 25

Cryfhau cyrff cyhoeddus yn eu rôl fel ‘rhiant corfforaethol’.

Ymrwymiad 25 cynnydd

Cytunodd y Grŵp Gweithredu Rhianta Corfforaethol ar fersiwn ddrafft derfynol o’r Siarter Rhianta Corfforaethol ym mis Chwefror 2023. Cyhoeddwyd y Siarter wirfoddol ym mis Mehefin er mwyn i gyrff cyhoeddus ymrwymo iddi. Bydd y Siarter yn cefnogi’r gwaith o gyflawni Datganiad yr Uwchgynhadledd ar Brofiad o Ofal sydd wedi’i ddatblygu ers yr Uwchgynhadledd i’r Rhai sy’n Gadael Gofal ym mis Rhagfyr 2022. Mae gwaith wedi dechrau ar gryfhau canllawiau statudol i gefnogi’r Siarter, gyda phennod benodol ar Rianta Corfforaethol fel rhan o God Ymarfer Rhan 6 (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n Cael eu Lletya) o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol

Ymrwymiad 26

Cyflwyno’r Warant i Bobl Ifanc, gan roi’r cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed.

Ymrwymiad 26 cynnydd

Cyhoeddwyd Cyfres cenhedlaeth Z y Warant i Bobl Ifanc: adroddiad blynyddol 2022 ym mis Chwefror 2023. Mae’r Warant yn dwyn ynghyd ystod eang o raglenni a chynlluniau ar gyfer pobl ifanc er mwyn ceisio gwella cyflogadwyedd, menter, a’r ddarpariaeth sgiliau. Mae mwy na 20,000 o ymyriadau wedi’u darparu drwy ein gwasanaethau cyflogadwyedd yn unig, gyda mwy na 11,000 o bobl ifanc yn dechrau ar ein rhaglenni cyflogadwyedd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hefyd, lansiwyd dwy raglen gyflogadwyedd newydd sy’n sail i hyn: Twf Swyddi Cymru+ a ReAct +. Mae gan bob coleg addysg bellach yng Nghymru bellach Fiwro Cyflogaeth a Menter sy’n darparu amrywiaeth o gymorth a chyfleoedd cyflogaeth i symleiddio’r broses bontio o ddysgu i weithio. Er mwyn helpu i adnabod yn gynnar unrhyw berson ifanc (hyd at 18 oed) sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ac a allai elwa ar gymorth y Biwro, rydym hefyd wedi adnewyddu ein Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid.

Ymrwymiad 27

Creu 125,000 o brentisiaethau bob oed.

Ymrwymiad 27 cynnydd

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 28,815 o brentisiaethau wedi dechrau erbyn diwedd mis Hydref 2022.

Mae £36m ychwanegol wedi’i neilltuo ar gyfer y ddwy flynedd nesaf i gefnogi’r gwaith o ddarparu prentisiaethau. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ansawdd prentisiaethau; hyrwyddo a blaenoriaethu prentisiaethau o safon, gan gynnwys prentisiaethau mewn sectorau uwch a mwy technegol, cefnogi prentisiaethau STEM a pharodrwydd ar gyfer sero net. Rydym hefyd wedi ymrwymo i ehangu prentisiaethau gradd, ac mae’r rhaglen wedi’i gosod ochr yn ochr â phrentisiaethau eraill i ddarparu cynnig cydlynol i fusnesau Cymru a rhagolygon gyrfa gwell i ddysgwyr.

Ymrwymiad 28

Rhoi sail ddeddfwriaethol i’r bartneriaeth gymdeithasol drwy’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).

Ymrwymiad 28 cynnydd

Cafodd y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) ei basio gan y Senedd ar 14 Mawrth 2023 a daeth y cyfnod hysbysu o bedair wythnos i ben ar 11 Ebrill heb unrhyw her. Rhoddwyd y Cydsyniad Brenhinol i’r Bil ym mis Mai 2023. Mae’r ymrwymiad hwn wedi’i gyflawni, felly.

Ymrwymiad 29

Defnyddio’r rhwydwaith newydd o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl i helpu i gau’r bwlch rhwng pobl anabl a gweddill y boblogaeth sy’n gweithio.

Ymrwymiad 29 cynnydd

Mae’r Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl yn parhau i weithio’n agos gyda Chynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl o fewn Busnes Cymru; gan fynychu digwyddiadau i hyrwyddo’r cynllun Hyderus o ran Anabledd a chodi ymwybyddiaeth o’r model cymdeithasol o anabledd. Yn ystod 22/23, fe wnaeth Gwasanaeth Cymorth Anabledd Busnes Cymru ymgysylltu â 381 o fusnesau, gan roi cyngor i 249 o gleientiaid. Yn 22/22, cafodd 213 o fusnesau gyngor i newid polisïau a gweithdrefnau ac mae 119 o fusnesau wedi ymrwymo i’r cynllun Hyderus o ran Anabledd.

Ymrwymiad 30

Cryfhau ein Contract Economaidd.

Ymrwymiad 30 cynnydd

Cafodd y Contract Economaidd ei adnewyddu a’i gryfhau ym mis Mawrth 2021 i adlewyrchu blaenoriaethau allweddol ein Cenhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi. Cafodd gwerthusiad o effaith, canlyniadau a dylanwad y Contract Economaidd ei ddechrau yn gynnar yn 2023. Ffocws ein gwaith parhaus yw estyn cyrhaeddiad ac effaith y Contract Economaidd i ddylanwadu ar ymddygiad busnes a sicrhau bod canlyniadau gwerth cymdeithasol yn deillio o gymorth Llywodraeth Cymru. Ers mis Mai 2018, mae mwy nag 800 o Gontractau Economaidd wedi’u rhoi i fusnesau ledled Cymru, ac mae 300 o’r rhain wedi’u rhoi ers mis Ionawr 2022.

Ymrwymiad 31

Cefnogi cynigion TUC Cymru i aelodau undeb ddod yn Gynrychiolwyr Gwyrdd yn y gweithle.

Ymrwymiad 31 cynnydd

Yn ystod 2022/2023, buom yn gweithio gyda TUC Cymru i edrych ar opsiynau ar gyfer cynyddu eu capasiti i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r rhwydwaith Cynrychiolwyr Gwyrdd. Mae’r swyddogaethau i gefnogi pontio teg yn y gweithle a’r rhwydwaith Cynrychiolydd Gwyrdd wedi’u cynnwys yn rhan o’r Cynllun Gweithredu Blynyddol ar gyfer 2023/2024 ymlaen ac wedi’u hymgorffori o fewn tîm presennol TUC Cymru, gan gwblhau’r ymrwymiad hwn.

Ymrwymiad 32

Cefnogi’r gwaith o greu Banc Cymunedol i Gymru.

Ymrwymiad 32 cynnydd

Mae ein gweledigaeth ar gyfer banc cymunedol Cymru yn seiliedig ar y model cydfuddiannol, sy’n eiddo i’w aelodau ac yn cael ei redeg er eu budd. Er mwyn cefnogi ac ysgogi’r gwaith o ddatblygu model newydd o fancio cymunedol yng Nghymru, byddwn yn ystyried unrhyw gynnig buddsoddi ffurfiol sy’n cyd-fynd â’n gweledigaeth a’n nodau ar gyfer banc cymunedol. Mae Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn datblygu rhaglen waith i adeiladu a darparu banc cymunedol cynaliadwy. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys gwaith helaeth ar fodelu busnes, dylunio cynnyrch, strategaeth leoli a’r gallu i gyflawni. Mae’r Gymdeithas wedi rhoi gwybod i Weinidogion, er bod y sefydliad yn dal wedi ymrwymo’n llwyr i sefydlu banc cymunedol, bod amodau economaidd sydd wedi gwaethygu yn 22/23 wedi effeithio ar y cynlluniau. Roedd Datganiad Ysgrifenedig ym mis Chwefror 2023 yn cadarnhau na fyddai’n bosibl dechrau ei gyflwyno yn 2023. Mewn cyd-destun o ddadfuddsoddi cynyddol gan y prif gorfforaethau, byddwn yn parhau i hyrwyddo model bancio newydd yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar roi gwerth i’n cymunedau.

Ymrwymiad 33

Datblygu Her Morlyn Llanw a chefnogi syniadau a all wneud Cymru yn ganolfan fyd-eang i dechnolegau llanw sy’n dod i’r amlwg.

Ymrwymiad 33 cynnydd

Cyhoeddwyd yr Her Morlynnoedd Llanw ym mis Mawrth. Bydd hwn yn agored i brosiectau ymchwil sy’n ceisio mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal technoleg amrediad llanw yng Nghymru, neu sy’n ceisio pwyso a mesur ei manteision. Rydym yn parhau i gefnogi datblygwyr technoleg llanw, fel Magallanes, a fydd yn cynhyrchu mwy na 5MW o bŵer yng nghyfleuster profi llif llanw Morlais yn y Gogledd. Gan ddangos ein hymrwymiad i ynni gwynt ar y môr, rhoddwyd £950,000 i Gymdeithas Porthladdoedd Prydain ym Mhort Talbot i gefnogi cam datblygu’r gwaith o uwchraddio seilwaith y porthladd. Bydd cymorth o’r fath hefyd yn cryfhau cais y Gymdeithas am gyllid o Gynllun Buddsoddi mewn Gweithgynhyrchu Gwynt Arnofiol ar y Môr Llywodraeth y DU (FLOWMIS).

Ymrwymiad 34

Galluogi canol ein trefi i fod yn fwy ystwyth yn economaidd drwy helpu busnesau i weithio’n gydweithredol, cynyddu eu darpariaeth ddigidol a chefnogi cadwyni cyflenwi lleol, gan gynnwys gwasanaethau cyflenwi lleol.

Ymrwymiad 34 cynnydd

Mae’r rhaglen trawsnewid trefi, Trefi Smart, yn cefnogi busnesau canol trefi i ddefnyddio data a thechnolegau digidol. Mae’r rhaglen yn helpu busnesau i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata a thystiolaeth i hybu gwerthiant ac elw, lleihau costau a chyflymu twf. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r rhaglen wedi ymgysylltu â 67 o drefi ac wedi cynhyrchu 24 astudiaeth achos i sicrhau bod dysgu’n cael ei rannu. Mae cymorth busnes digidol arall wedi’i ddarparu drwy wasanaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau. Yn dilyn ymarfer ailgaffael llawn, bydd Menter Môn yn parhau i roi cam nesaf y Rhaglen Trefi Smart ar waith ledled Cymru rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2025. Bydd hyn yn mynd i’r afael â’r heriau a nodwyd yng nghamau cynnar y rhaglen, gan ganolbwyntio ar harneisio a manteisio’n llawn ar ddata Trefi Smart. Bydd contract cyflenwi newydd Busnes Cymru yn cefnogi’r gwaith hwn drwy ddarparu cymorth digidol i fusnesau. Rydym yn parhau i gefnogi busnesau canol trefi i gydweithio â’i gilydd, gan gynnwys drwy ddatblygu Ardaloedd Gwella Busnes. Mae hyn yn helpu i roi mantais gystadleuol i fusnesau canol trefi a llais unedig cryfach mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu trefi. Mae cyllid o £230,000 o gyllid refeniw dros dair blynedd wedi’i ddyrannu i gefnogi Ardaloedd Gwella Busnes neu fodelau busnes cydweithredol eraill.

Ymrwymiad 35

Ceisio targed o 30% ar gyfer gweithio o bell.

Ymrwymiad 35 cynnydd

Mae sefydliadau ar draws sectorau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ac unigolion nawr yn addasu i weithio hybrid mewn ffyrdd sy’n gweddu orau i ofynion eu busnes ac anghenion eu gweithlu. I gefnogi hyn, mae gennym restr ar ein gwefan o leoliadau hybiau ledled Cymru sy’n caniatáu i bobl weithio’n nes at lle maent yn byw; yn caniatáu i unigolion weithio gyda’i gilydd yn eu cymuned leol; ac yn darparu lle i bobl nad ydynt yn gallu gweithio gartref neu nad ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae hyn yn adeiladu ar Gweithio’n Ddoethach: Strategaeth Gweithio o Bell i Gymru a gyhoeddwyd ynghyd â chyfres o ddogfennau ategol ym mis Mawrth 2022.

Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl

Ymrwymiad 36

Lansio Cynllun Buddsoddi 10 mlynedd newydd yn Seilwaith Cymru ar gyfer economi ddi-garbon.

Ymrwymiad 36 cynnydd

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru ym mis Rhagfyr 2021, gan gwblhau’r ymrwymiad hwn. Sefydlodd y Strategaeth fframwaith strategol ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith dros y ddeng mlynedd nesaf, gydag ymrwymiad trosfwaol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Mae’r uchelgeisiau a nodir yn y Strategaeth yn cael eu hadlewyrchu yn ein cynlluniau seilwaith, gan gynnwys:

  • ein rhaglen flaenllaw Cymunedau Dysgu Cynaliadwy
  • datgarboneiddio tai cymdeithasol Cymru drwy ein rhaglen ôl-osod er mwyn Optimeiddio
  • buddsoddi yn y gwaith o reoli risgiau llifogydd ac erydu arfordirol er mwyn diogelu cymunedau
  • cefnogi ein partneriaid mewn awdurdodau lleol i sefydlu seilwaith trin gwastraff bwyd a gwastraff gweddilliol cynaliadwy
  • a sicrhau bod buddsoddiadau yn ein rhwydweithiau trafnidiaeth yn cael eu blaenoriaethu gan ddefnyddio’r Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy.

Ymrwymiad 37

Darparu’r Strategaeth Ddigidol i Gymru ac uwchraddio ein seilwaith digidol a chyfathrebu.

Ymrwymiad 37 cynnydd

Rydym wedi parhau i gyflawni yn unol ag uchelgais y Strategaeth Ddigidol i Gymru. Mae’r ecosystem arweinyddiaeth ddigidol wedi’i chryfhau wrth i’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol weithio’n agos gyda Phrif Swyddogion Digidol Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Leol a’r maes Iechyd a Gofal. Mae hyn wedi arwain at fwy o gydweithio gan gynnwys datblygu gwasanaethau digidol yn gyflym i gefnogi Cymru fel Cenedl Noddfa, helpu sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus i rannu data’n foesegol, yn ogystal â gwella mynediad at wybodaeth a gwasanaethau ar wefannau gwasanaethau cyhoeddus yn ystod yr argyfwng costau byw.

Fe wnaeth gwaith ymchwil ar y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yn archwilio’r “fasged o nwyddau” yr oedd angen ei chynnwys yn ddigidol mewn Cymru fodern. Mae hyn yn cynnwys y math o ddyfais, cyflymder band eang a/neu ddata symudol a’r sgiliau digidol sylfaenol y mae pobl yn meddwl eu bod yn angenrheidiol er mwyn gallu defnyddio technoleg ddigidol yn hyderus. Bydd cam nesaf yr ymchwil yn edrych ar y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol gyda grwpiau o bobl sydd fwyaf mewn perygl o gael eu heithrio’n ddigidol, gan gynnwys pobl hŷn, pobl anabl, cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a phreswylwyr tai cymdeithasol.

Parhaodd ysgolion i roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith ac roedd canlyniad ymarferion aeddfedrwydd digidol yn dangos cynnydd mesuradwy mewn gallu digidol mewn ysgolion ac awdurdodau lleol. O ran sgiliau, mae’r rhaglen Cyfrif Dysgu Personol wedi’i hestyn i gynnwys cyllid wedi’i dargedu ar gyfer sgiliau yn y sector digidol. O ran cysylltedd, cwblhawyd cam cyntaf y gwaith o adeiladu seilwaith ar gyfer cyflwyno ffeibr llawn gwerth £56m i ddarparu band eang a all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit i adeiladau ledled Cymru.

Ymrwymiad 38

Creu sylfaen ddeddfwriaethol fodern ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru.

Ymrwymiad 38 cynnydd

Buom yn ymgynghori ar gynigion deddfwriaethol i ddiwygio’r maes bysiau yng Nghymru drwy ein Papur Gwyn 'Un Rhwydwaith Un Amserlen, Un Tocyn: cynllunio bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus i Gymru', a chyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion ym mis Rhagfyr. Roedd y rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn gefnogol iawn i’r angen am newid yn y diwydiant bysiau, gyda’r rhan fwyaf yn cytuno â’n cynigion i fasnachfreinio’r rhwydwaith bysiau.

Ymrwymiad 39

Codi’r gwaharddiad ar awdurdodau lleol rhag sefydlu cwmnïau bysiau trefol newydd.

Ymrwymiad 39 cynnydd

Drwy ein deddfwriaeth i ddiwygio’r maes bysiau, byddwn yn codi’r gwaharddiad ar greu cwmnïau bysiau trefol newydd. Rydym wedi bod yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i lywio’r polisi manwl. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn arwain y gwaith o gynllunio gweithredu.

Ymrwymiad 40

Deddfu i foderneiddio’r sector tacsis a cherbydau preifat a mynd i’r afael â phroblemau trawsffiniol.

Ymrwymiad 40 cynnydd

Daeth ymgynghoriad 12 wythnos ar Bapur Gwyn ar gyfer Bil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru) i ben ym mis Mehefin 2023. Mae’r cynigion yn ymwneud â mynd i’r afael â materion trawsffiniol a diwygio trwyddedau i wneud gwasanaethau’n fwy diogel, yn wyrddach ac yn decach. Mae’r Papur Gwyn yn seiliedig ar ymgysylltu’n helaeth â’r diwydiant a rhanddeiliaid allweddol ar y materion pwysicaf sy’n wynebu’r sector. Rydym yn cydnabod y bydd angen ailedrych ar rai materion wrth i dirwedd y diwydiant barhau i esblygu.

Ymrwymiad 41

Rhoi ein Strategaeth Drafnidiaeth newydd i Gymru ar waith.

Ymrwymiad 41 cynnydd

Cyhoeddwyd y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth ym mis Chwefror 2023 yn dilyn ymgynghoriad, ac ochr yn ochr ag ymateb y Llywodraeth i’r Adolygiad Ffyrdd Annibynnol. Mae’r cynllun yn nodi rhaglen gyflawni dros y pedair blynedd nesaf tuag at yr amcanion a nodir yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Ddiwedd 2022 cynhaliwyd ymgynghoriad ar arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru (WelTAG) wedi’i ddiweddaru, sy’n adlewyrchu dull polisi newydd y Strategaeth Drafnidiaeth, ac mae gwaith yn parhau i fireinio’r arweiniad cyn ei gyhoeddi.

Ymrwymiad 42

Adeiladu ar lwyddiant ein cynllun teithio am ddim i bobl hŷn ac edrych ar sut y gall prisiau teg annog teithio integredig.

Ymrwymiad 42 cynnydd

Rydym wedi cynnal dadansoddiad manwl o effeithiau cyflwyno cynllun tocynnau teg yng Nghymru, yn ogystal â chostau polisi o’r fath. Bydd y gwaith modelu hwn yn darparu’r sylfaen ar gyfer bwrw ymlaen â’r gwaith hwn yn y dyfodol. Rydym yn arloesi o ran prisiau tocynnau drwy lansio technoleg ‘tapio unwaith, tapio eilwaith 1Bws’ yn y Gogledd sy’n gwarantu na fydd teithiwr yn talu mwy na £6 mewn prisiau bws bob dydd wrth deithio ar rwydwaith y Gogledd. Rydym hefyd yn gallu cynnig tocynnau integredig ar reilffyrdd ar lwybr bysiau T1 yn y Gorllewin. Cynhaliwyd ein Cynllun Tocynnau Teithio Rhatach Cymru Gyfan ar gyfer pobl 60 oed a hŷn a phobl anabl gymwys, a’r cynllun teithio rhatach Fy Ngherdyn Teithio i bobl ifanc 16 i 21 oed. Yn unol â’n gweledigaeth ar gyfer Cenedl Noddfa, mae ein Tocyn Croeso yn darparu teithio am ddim ar drenau a bysiau i bawb sy’n ffoaduriaid ac i’r rhai sy’n ceisio gwarchodaeth ryngwladol yng Nghymru.

Ymrwymiad 43

Gweithio tuag at ein targed newydd o 45% o deithiau drwy ddulliau cynaliadwy erbyn 2040, gan bennu nodau mwy ymestynnol lle bo hynny’n bosibl.

Ymrwymiad 43 cynnydd

Rydym yn bwrw ymlaen â phecyn o bolisïau, rhaglenni a phrosiectau i wneud teithio cynaliadwy yn ddewis hwylus a hawdd ledled Cymru. Rydym yn buddsoddi mwy na £1bn mewn cymorth trafnidiaeth rhanbarthol, ac £800m ar gerbydau rheilffyrdd a fydd yn gweithredu ledled Cymru. Mae ein hymateb i’r Adolygiad Ffyrdd annibynol wedi arwain at ddull newydd, sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, o ymdrin ag adeiladu ffyrdd, gan osod dibenion ac amodau clir ar gyfer adeiladu ffyrdd sy’n helpu, yn hytrach nag yn rhwystro, ein cynnydd tuag at newid moddol a datgarboneiddio. Rydym yn dechrau ar y gwaith gyda Chyd-bwyllgorau Corfforedig ar ddatblygu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol, a byddwn yn darparu cymorth technegol drwy dimau Trafnidiaeth Cymru sydd wedi’u strwythuro i helpu gweithio rhanbarthol. Mae ein gwaith diwygio ym maes bysiau yn mynd rhagddo a bydd hyn yn ei gwneud yn haws darparu gwasanaethau o ansawdd uchel ledled Cymru. Rydym yn datblygu ac yn gweithredu pecyn o fesurau i ddarparu’n benodol ar gyfer ardaloedd gwledig, er enghraifft y gwasanaeth bysiau fflecsi sy’n ymateb i alw, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o gyflwyno clybiau ceir yn ehangach.

Ymrwymiad 44

Bwrw ymlaen ag adroddiad Comisiwn Burns ar gyfer Casnewydd.

Ymrwymiad 44 cynnydd

Mae Uned Gyflawni benodol yn Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn bwrw ymlaen â’r gwaith o gyflawni’r argymhellion a wnaed gan Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru. Mae’r astudiaethau angenrheidiol ar gyfer Prif Linell y De yn cael eu cynnal i lywio’r broses o wneud penderfyniadau ac rydym yn gweithio gyda Network Rail ac Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU i’w datblygu. Mae TrC yn gweithio’n gyflym ar fesurau lleol â blaenoriaeth megis gwella cysylltiadau bysiau a theithio llesol rhwng Caerdydd a Chasnewydd, gwella cylchfan Old Green yng nghanol Casnewydd, a gwella mynediad at orsaf reilffordd Cyffordd Twnnel Hafren sydd ar hyn o bryd yn anhygyrch ar fws. Mae cydweithio ag awdurdodau lleol yn hanfodol, ac mae’r Bwrdd Cyflawni, o dan gadeiryddiaeth annibynnol yr Athro Simon Gibson CBE a Dr Lynn Sloman OBE, yn gweithio’n gynhyrchiol ac yn gadarnhaol gyda’r awdurdodau perthnasol.

Ymrwymiad 45

Datblygu cronfa prif ffyrdd newydd i wella atyniad a bioamrywiaeth ardaloedd wrth ymyl prif lwybrau trafnidiaeth Cymru.

Ymrwymiad 45 cynnydd

Rydym wedi parhau i roi mesurau gwella bioamrywiaeth ar waith ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol drwy gyllidebau cyfalaf a chyllideb refeniw, gan gynnwys plannu coed, gwella rheoli ymylon ffyrdd a phrosiectau adfer cynefinoedd. Yn ystod 22/23, cafodd 3.5 hectar eu hau â hadau blodau gwyllt a gafwyd gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a chyflenwyr lleol eraill. Mae 120 hectar ychwanegol o laswelltir wedi’u rheoli’n well er mwyn gwella’r amodau ar gyfer blodau gwyllt brodorol ac er budd peillwyr. Mae mwy nag 8,000 o goed a llwyni brodorol newydd a 12,000 metr o wrychoedd wedi’u plannu er budd bywyd gwyllt ac er mwyn gwneud y llwybrau’n fwy deniadol. Ar ben hynny, rydym wedi adfer 1.5 hectar arall o gynefinoedd pwysig fel coetiroedd, pyllau a gwrychoedd i wella eu manteision i fioamrywiaeth a’u gwydnwch yn y tymor hir.

Ymrwymiad 46

Creu system newydd o gymorth ffermio a fydd yn cynyddu pŵer amddiffynnol natur drwy ffermio, gan werthfawrogi anghenion penodol ffermydd teuluol yng Nghymru a chydnabod y broses o gynhyrchu bwyd lleol sy’n ecolegol gynaliadwy.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 46 cynnydd

Cyhoeddwyd amlinelliad o’r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig ym mis Gorffennaf 2022 ac mae ail rownd o gyd-ddylunio gyda’r gymuned ffermio wedi’i chwblhau ers hynny. Mae’r cynllun ffermio cynaliadwy terfynol wrthi’n cael ei ddatblygu a bydd yn destun proses ymgynghori. Mae’r cynllun arfaethedig yn cydnabod y bydd ffermwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur, ond yn cydnabod hefyd y rôl bwysig y mae ffermio’n ei chwarae wrth gynhyrchu bwyd ac yn y gymuned ehangach. Cafodd Bil Amaethyddiaeth (Cymru) ei gyflwyno i’r Senedd ym mis Medi 2022 a phasiodd Gyfnod 3 y broses graffu ym mis Mai 2023. Bydd y Bil hwn yn sefydlu’r egwyddor mai Rheoli Tir Cynaliadwy fydd y fframwaith ar gyfer cymorth yn y dyfodol.

Ymrwymiad 47

Cyflwyno cyfnod pontio i’r cynllun cymorth ffermio newydd, gan gynnwys parhau â thaliadau sefydlogrwydd, y tu hwnt i dymor y Senedd bresennol.

Ymrwymiad 47 cynnydd

Rydym wedi ymrwymo o hyd i sicrhau nad oes ‘ymyl dibyn’ o ran cyllid i ffermwyr, gan gydnabod yr angen am sefydlogrwydd wrth i ffermwyr symud i gynllun newydd. Rydym wrthi’n datblygu’r fframwaith deddfwriaethol i sicrhau’r cyfnod pontio, drwy’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru).

Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn

Ymrwymiad 48

Comisiynu cyngor annibynnol a fydd yn ymchwilio i lwybrau posibl tuag at sero net erbyn 2035.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 48 cynnydd

Mae Grŵp Her Sero Net 2035 annibynnol wedi’i sefydlu. Mae’r grŵp yn cynnwys arbenigwyr o’r byd academaidd, sefydliadau cyhoeddus a phreifat ac arbenigedd o bob sector allweddol o’n heconomi. Cyfarfu’r Grŵp am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2023 a bydd yn cwrdd bob mis gan ganolbwyntio ar y meysydd sydd â’r potensial a’r her fwyaf. Bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cynnal gwaith ymchwil cychwynnol i bob maes her, gyda thystiolaeth ehangach yn cael ei chasglu, yn ôl yr angen, i lywio ei argymhellion. Mae’r ymchwil i’r maes her cyntaf, ‘Sut y gallai Cymru Fwydo ei Hun erbyn 2035?’, bellach ar y gweill. Bydd canlyniadau trafodaethau’r grŵp yn cael eu cyhoeddi.

Ymrwymiad 49

Mynd ar drywydd datganoli’r pwerau sydd eu hangen i’n helpu i gyrraedd sero net, gan gynnwys rheoli Ystad y Goron yng Nghymru.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 49 cynnydd

Rydym wedi bod yn glir bod angen pwerau ychwanegol ar Gymru i weithredu’r polisïau sydd eu hangen i gyrraedd sero net ac i wneud hynny mewn ffordd sy’n cefnogi pontio teg. Credwn y byddai datganoli Ystad y Goron, yn unol â’r datganoli i Lywodraeth yr Alban, yn rhoi mwy o hyblygrwydd inni wrth ddewis pa mor bell a pha mor gyflym rydym am ddefnyddio ynni adnewyddadwy a sut rydym yn cydbwyso’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur. Rydym yn croesawu ffocws y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ar ynni fel maes i’w ystyried ar gyfer datganoli pellach.

Ymrwymiad 50

Gweithio tuag at sefydlu Corff Llywodraethu Amgylcheddol, dyletswydd statudol a thargedau ar gyfer diogelu ac adfer bioamrywiaeth.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 50 cynnydd

Rydym wedi datblygu cynllun gwaith ar gyfer cyflwyno Bil yn ystod tymor y Senedd hon i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol parhaol i Gymru. Mae gwaith cychwynnol yn mynd rhagddo ar dargedau sy’n adeiladu ar y garreg filltir genedlaethol a gyhoeddwyd yn 2021 a mewnbwn parhaus i dargedau COP15 y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol y cytunwyd arnynt ym Montreal. Cwblhawyd dadansoddiad manwl o fioamrywiaeth, sy’n edrych ar ddull gweithredu Cymru ar gyfer y targed o 30 erbyn 30 ac mae cynllun gweithredu’n cael ei ddatblygu. Mae’r asesydd dros dro, sydd ar waith ers 2021 i ystyried pryderon a godwyd ynghylch swyddogaeth cyfraith amgylcheddol yng Nghymru, wedi cael 26 o sylwadau hyd yma ac wedi cyhoeddi un adroddiad i Weinidogion Cymru ar Fil arfaethedig Cyfraith yr UE a Ddargedwir Llywodraeth y DU.

Ymrwymiad 51

Deddfu i ddiddymu’r defnydd o blastigau untro sydd yn aml yn cael eu taflu fel sbwriel.

Ymrwymiad 51 cynnydd

Cyflwynwyd Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) i’r Senedd ar 20 Medi 2022 er mwy craffu arno, a chafodd ei basio ar 6 Rhagfyr 2022. Daeth y Bil yn Ddeddf ar 5 Mehefin 2023, gan gwblhau’r ymrwymiad hwn. Bydd y Ddeddf yn gwahardd cyflenwi rhai cynhyrchion plastig untro sy’n aml yn cael eu taflu fel sbwriel, sef:

  • platiau
  • cytleri
  • troyddion diodydd
  • gwellt (gan gynnwys gwellt sy’n sownd i’r pecyn)
  • cwpanau polystyren allwthiedig ehangedig neu ewynedig
  • cynwysyddion cludfwyd polystyren allwthiedig ehangedig neu ewynedig
  • caeadau polystyren ar gyfer cynwysyddion cludfwyd neu gwpanau
  • ffyn cotwm â choesau plastig
  • ffyn balwnau
  • cynwysyddion plastig ocso-ddiraddadwy
  • bagiau siopa plastig untro.

Mae hefyd yn nodi y bydd rhagor o ystyriaeth yn cael ei rhoi i wahardd rhagor o gynnyrch, gan gynnwys weips a chodenni sawsiau, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt.

Ymrwymiad 52

Cyflwyno cynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr i gymell busnesau i leihau gwastraff.

Ymrwymiad 52 cynnydd

Mae cyflawni’r rhaglen waith i gyflwyno Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr yn cynnwys nifer o brosiectau cysylltiedig i sicrhau bod cynhyrchwyr yn dod yn gyfrifol am gostau gwaredu ac ailgylchu. Bydd hyn yn cymell lleihau gwastraff, ond hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Ar ôl cyhoeddi dyluniad terfynol y cynllun ym mis Mawrth 2022, ac ar y cyd â gwledydd eraill y DU, ymgymerwyd â rhaglen helaeth o ymgysylltu â rhanddeiliaid i helpu busnesau i baratoi ar gyfer cyflwyno’r cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pecynnu yn 24/25. Ym mis Tachwedd 2022, cynhaliwyd dau ymgynghoriad ar y diwygiadau rheoleiddio a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau, y cyhoedd a’r trydydd sector wahanu deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y ffordd y mae’r mwyafrif o ddeiliaid tai Cymru eisoes yn ei wneud. Bydd hyn yn helpu i leihau gwastraff ymhellach yn ogystal â gwella ansawdd a swmp y deunyddiau y gellir eu hailgylchu, a fydd yn ei dro yn creu arbedion carbon sylweddol ac yn sicrhau buddion cadarnhaol i’r economi.

Ymrwymiad 53

Creu Coedwig Genedlaethol i ymestyn o’r Gogledd i’r De.

Ymrwymiad 53 cynnydd

Cynullwyd grŵp gorchwyl a gorffen yng ngwanwyn 2022 i edrych ar opsiynau cyflawni ac ar ddyfarnu statws Coedwig Genedlaethol i goetiroedd. Er mwyn helpu i nodi safleoedd posibl, mae chwe Swyddog Cyswllt Coetiroedd ac Arweinwyr Timau wedi’u penodi ac maent yn gweithio gyda mwy na 100 o safleoedd i ddod â nhw’n rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru a chanfod llwybrau ar gyfer Llwybr Coedwig Genedlaethol Cymru. Ym mis Tachwedd 2022, dechreuodd y fenter Fy Nghoeden, Ein Coedwig – ymgyrch genedlaethol a oedd yn gysylltiedig â Choed Cadw, Llais y Goedwig, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a’r rhaglen Eco-ysgolion gyda chymorth gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a digwyddiadau mawr a oedd yn gysylltiedig â Chwpan y Byd 2022. Roedd hyn yn llwyddiant, a chafodd mwy na 300,000 o goed eu plannu. Cafodd y cynllun Coetiroedd Bach ei lansio’n llwyddiannus ym mis Ebrill 2023. Bydd grwpiau a phartneriaethau cymunedol lleol yn cynnal ac yn monitro’r Coetiroedd Bach, a fydd yn cynhyrchu data gwerthfawr ar newid yn yr hinsawdd a gwyddoniaeth sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion. Mae’r gwaith o greu tair Coedlan Goffa, i gofio’r rheini a fu farw yn ystod y pandemig, hefyd wrthi’n cael eu plannu ar safleoedd yng Nghaerffili, Brownhill yn Nyffryn Tywi a Neuadd Erddig yn Wrecsam.

Ymrwymiad 54

Manteisio ar botensial economaidd, diwylliannol a hamdden y Goedwig Genedlaethol gan adeiladu ar ein cynnydd tuag at greu diwydiant coed cynaliadwy.

Ymrwymiad 54 cynnydd

Ym mis Mawrth 2022, cymeradwywyd cam 2 y prosiect Cartrefi o Bren Lleol, cynllun o dan arweiniad Cyngor Sir Powys sy’n edrych ar sut y gall Cymru greu sector tai cynaliadwy gan ddefnyddio cynnyrch a chyflenwadau pren lleol. Mae’r prosiect yn cyflawni camau gweithredu sy’n cyfrannu at ddatblygu strategaeth ar gyfer y diwydiant pren. Ym mis Mai 2022, cyfarfu Panel Cyflawni’r Adolygiad Manwl o Goed a Phren, sef grŵp cynghori o arbenigwyr, i ystyried yr elfennau allweddol i’w hystyried wrth ddatblygu strategaeth pren. Mae ein gwaith dilynol wedi canolbwyntio ar sefydlu dealltwriaeth glir o’r diwydiant a’r cadwyni cyflenwi presennol, a dadansoddi’r ddarpariaeth a’r gofynion o ran sgiliau.

Ymrwymiad 55

Datblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru i annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 55 cynnydd

Mae’r gwaith o ddatblygu polisi yn digwydd ar sail trawslywodraethol. Mae map systemau wedi’i ddatblygu gyda chyfraniad academaidd gan Brifysgol Caerdydd, er mwyn deall cymhlethdod bwyd cymunedol yng Nghymru a natur ryng-gysylltiedig y materion a’r heriau sy’n effeithio ar ei ddatblygiad, gan gynnwys economi integredig yn y DU, iechyd corfforol a meddyliol, yr amgylchedd, mynediad at dir, a rhannu gwybodaeth. Mae’r map systemau hwn yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i gynnal grwpiau ffocws a fydd yn sail i’r strategaeth newydd.

Ymrwymiad 56

Sicrhau diogelwch tomenni glo drwy gyflwyno deddfwriaeth i ddelio â gwaddol canrifoedd o fwyngloddio, gan gryfhau pwerau’r awdurdodau lleol i sicrhau bod y cyhoedd a’r amgylchedd yn cael eu diogelu.

Ymrwymiad 56 cynnydd

Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pobl sy’n byw ac yn gweithio ger tomenni glo yn teimlo’n ddiogel nawr ac yn y dyfodol drwy leihau’r tebygolrwydd o ragor o dirlithriadau. Mae’r Tasglu Diogelwch Tomenni Glo yn parhau i wneud cynnydd, gan gynnwys cyflwyno pecyn o ddiwygiadau polisi, ac rydym wedi sicrhau bod £44.4m o gyllid cyfalaf ar gael i atgyweirio a chynnal a chadw rhwng 2022 a 2025. Rydym hefyd wedi comisiynu’r Awdurdod Glo i gasglu data am leoliadau tomenni ac i fonitro tomenni yn rheolaidd.

Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol yn y Senedd hon i ddarparu trefn reoli fodern ar gyfer tomenni nad ydynt yn cael eu defnyddio, gan helpu i fynd i’r afael ag effeithiau’r hinsawdd. Rydym wedi ymateb i adolygiad Comisiwn y Gyfraith, gan ddefnyddio’r ymateb i’n hymgynghoriad ar y Papur Gwyn yr haf diwethaf. Gan weithio’n agos gyda’r Awdurdod Glo, awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, rydym yn treialu elfennau allweddol o’r drefn arfaethedig ac rydym yn parhau â’n rhaglen o dreialon technoleg, sy’n cynnwys mwy na 70 o domenni risg uwch. Bydd canlyniadau’r treialon yn sail i’r strategaeth technoleg a monitro hirdymor. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r sector ymchwil a phartneriaid eraill i asesu’r dystiolaeth ddiweddaraf ar effeithiau’r hinsawdd, i ddeall sefydlogrwydd hirdymor tomenni yn well ac i lywio dulliau arloesol o adfer tomenni.

Ymrwymiad 57

Cyflwyno Deddf Aer Glân i Gymru, yn gyson â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ac ehangu’r ddarpariaeth o fonitro ansawdd aer.

Ymrwymiad 57 cynnydd

Cafodd Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) ei gyflwyno i’r Senedd ar 20 Mawrth 2023. Dechreuodd y Bil ar Gyfnod 1 y broses graffu ar 21 Mawrth 2023 a rhoddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd dystiolaeth ar y Bil i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith ar 29 Mawrth 2023. Mae’r Bil yn cynnig:

  • darparu fframwaith ar gyfer gosod targedau ansawdd aer cenedlaethol
  • diwygio’r ddeddfwriaeth bresennol sy’n ymwneud â’r strategaeth ansawdd aer genedlaethol
  • rheoli ansawdd aer yn lleol
  • rheoli mwg
  • parthau aer glân/parthau allyriadau isel a segura cerbydau
  • rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hybu ymwybyddiaeth o lygredd aer a chyhoeddi strategaeth seinweddau genedlaethol.

Ymrwymiad 58

Dynodi Parc Cenedlaethol newydd i gwmpasu Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Ymrwymiad 58 cynnydd

Dechreuodd y Rhaglen Tirwedd Ddynodedig yn ystod blwyddyn ariannol 22/23, wrth i Cyfoeth Naturiol Cymru sefydlu tîm rhaglen â strwythurau adrodd a llywodraethiant. Mae gwaith wedi dechrau i wneud y broses o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn rhan annatod o’r broses ddynodi, gan ganolbwyntio’n benodol ar adfer natur a’r newid yn yr hinsawdd. Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd ymgysylltu ag awdurdodau lleol. Mae’r gwaith o fapio rhanddeiliaid wedi’i gwblhau ac mae cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu sy’n esblygu wedi’i greu. Mae’r asesiad Ardal Chwilio wedi’i gwblhau, sy’n cynnwys gwaith cychwynnol o sgrinio harddwch naturiol a chyfleoedd hamdden, ac mae’n gosod y sylfaen ar gyfer gweddill y drefn ddynodi. Mae gweithgarwch caffael paratoadol wedi digwydd ochr yn ochr â hyn, a fydd yn hwyluso contractau ar gyfer casglu tystiolaeth fanwl. Mae prosiect mapio Harddwch Naturiol Cymru wedi’i gwmpasu hefyd.

Ymrwymiad 59

Cefnogi 80 o ganolfannau ailddefnyddio ac atgyweirio yng nghanol trefi.

Ymrwymiad 59 cynnydd

Rydym wedi ariannu gwaith gyda Caffi Trwsio Cymru, sydd wedi estyn y rhwydwaith caffis trwsio i 81 o gymunedau ledled Cymru. Yn ogystal, rydym wedi darparu cyllid sydd wedi galluori sefydlu 18 o ‘lyfrgelloedd pethau’ a weithredir gan Benthyg Cymru gyda’r nod o ‘wneud benthyca mor hawdd â mynd i’r siop i nôl bara’. Ym mis Medi, lansiwyd strwythurau i oruchwylio’r gwaith o ddarparu rhagor o ganolfannau yng nghanol trefi. Ar sail partneriaeth sy’n cynnwys y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, cefnogir y rhaglen gan weithgor ymarferwyr sydd â’r nod o gynyddu ystod a graddfa’r gweithredu, a phrif ffrydio’r diwylliant ailddefnyddio a thrwsio ledled Cymru. Mae’r gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn wedi cynnwys dadansoddiad manwl ym mis Ionawr 2023 ynghylch sut y gall trwsio ac ailddefnyddio helpu yn yr argyfwng costau byw, a chreu cronfa ddata fanwl o’r gwasanaethau a’r cyfleusterau trwsio ac ailddefnyddio presennol ledled Cymru, wedi’i hategu gan dri arolwg a oedd yn cynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau’r trydydd sector, busnesau a siopau elusen.

Ymrwymiad 60

Cynnal ein polisi o wrthwynebu cloddio am danwydd ffosil yng Nghymru, ar dir ac yn nyfroedd Cymru, gan ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael inni.

Ymrwymiad 60 cynnydd

Rydym wedi ymrwymo i gynnal ein polisi o wrthwynebu cloddio tanwyddau ffosil, gan weithredu ein polisïau petrolewm a glo. Rydym wedi parhau i ddatblygu’r adnoddau a’r canllawiau i alluogi Gweinidogion Cymru i gyflawni eu dyletswydd statudol i weinyddu trwyddedau petrolewm presennol, i bennu trwyddedau gweithredu mwyngloddio’r Awdurdod Glo a thrwyddedau newydd ar gyfer dal, defnyddio a storio carbon. Ym mis Gorffennaf 2022 cyhoeddwyd canllawiau newydd yn nodi’r prosesau ar gyfer y ffordd y bydd Gweinidogion Cymru yn pennu trwyddedau cloddio glo newydd, yn unol â’n polisi glo cyhoeddedig. Yn unol â’n hymrwymiadau polisi, nid oes unrhyw drwyddedau glo newydd wedi’u rhoi eleni, ac o’r 14 trwydded petrolewm a etifeddwyd oddi wrth Lywodraeth y DU yn 2018, dim ond 5 sy’n weddill ac mae’r broses ar y gweill i ildio trwydded arall eleni. Mae gwaith wedi parhau ar ddatblygu’r map rheoleiddiol ar gyfer dal, defnyddio a storio carbon er mwyn deall swyddogaethau rheoleiddio Gweinidogion Cymru. Mae Cymru’n parhau i fod yn aelod gweithredol o’r Gynghrair y Tu Hwnt i Olew a Nwy, sef cynghrair fyd-eang o wledydd sydd wedi addo rhoi’r gorau i drwyddedu cynhyrchu olew a nwy mewn ymgais i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Ymrwymiad 61

Ehangu trefniadau i greu neu wella mannau gwyrdd yn sylweddol.

Ymrwymiad 61 cynnydd

Mae nifer o gynlluniau yn cyfrannu at yr ymrwymiad hwn. Fe wnaeth y Rhaglen Rhwydweithiau Natur ddyrannu tua £15m i Cyfoeth Naturiol Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gyflawni prosiectau tirol, morol a dŵr croyw yn 22/23 gan gyfrannu at ein 30% o dir wedi’i warchod erbyn y targed o 2030. Fe wnaeth ein Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur fuddsoddi £11.4m yn 22/23. Creodd y cynllun Pecynnau Cymunedol 261 o safleoedd peillwyr a 189 o safleoedd tyfu bwyd cymunedol, 132 o berllannau, 7 ardal natur mewn cyfnewidfeydd trafnidiaeth a 23 o erddi therapiwtig gan gynnwys 3.2 hectar o dir wedi’i esgeuluso mewn ardaloedd trefol. Creodd Partneriaethau Natur Lleol ledled Cymru 348 o fannau gwyrdd newydd, gan wella 151 yn sylweddol, datblygu 65 o safleoedd plannu coed a darparu safleoedd tyfu bwyd a pherllannau cymunedol. Mae’r drefn o ran torri gwair mewn mannau gwyrdd trefol wedi newid yn sylweddol i arferion sy’n ystyriol o natur dros y 3 blynedd diwethaf, gyda 203 o safleoedd eraill wedi’u cynnwys i wella bioamrywiaeth a pheillwyr blodau gwyllt. Roedd gan Gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol 8 prosiect gweithredol yn 22/23, sy’n werth £700,000. Datblygwyd chwe phrosiect Chwalu Rhwystrau, gan helpu cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, gan gynnwys cymunedau Sipsiwn, Roma a theithwyr, i gael mynediad i’r amgylchedd. Dyfarnodd ein Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi £460,000 i greu a gwella mannau gwyrdd.

Parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi

Ymrwymiad 62

Ariannu hyd at 1,800 o staff tiwtora ychwanegol yn ein hysgolion.

Ymrwymiad 62 cynnydd

Yn 2022/2023 darparwyd £37.5m o gyllid Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau i ysgolion yng Nghymru, gyda chyllid ychwanegol wedi’i bwysoli tuag at ysgolion â niferoedd uwch o ddysgwyr agored i niwed a difreintiedig. Nod y rhaglen yw sicrhau bod gan bob ysgol y gallu i gefnogi plant a phobl ifanc i leihau effeithiau pandemig Covid-19 ar eu canlyniadau dysgu a llesiant. Erbyn mis Ebrill 2023, roedd mwy na 2,400 o staff ysgol wedi’u penodi a’u cadw mewn ysgolion ledled Cymru o ganlyniad uniongyrchol i’r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau. Cafodd gwerthusiad o’r rhaglen ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2022 a chafodd ei gyhoeddi fis Mai 2023.

Ymrwymiad 63

Adeiladu ar Raglen Gwella Gwyliau’r Haf.

Ymrwymiad 63 cynnydd

Mae’r Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf yn rhaglen addysg yn yr ysgol sy’n darparu bwyd a maeth, addysg, gweithgarwch corfforol, sesiynau cyfoethogi a phrydau iach i blant yn ystod gwyliau haf yr ysgol. Yn ystod haf 2022, cynigiodd 139 o gynlluniau bron i 8,000 o leoedd bob dydd i blant mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol, gan gynnwys i ddysgwyr sydd angen cymorth 1:1 a’r rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae gwerthusiadau blaenorol wedi dangos bod y canlyniadau’n cynnwys gwelliannau o ran ymgysylltu â’r ysgol, llesiant plant a phobl ifanc a dyheadau gwell ymysg plant a’u teuluoedd.

Ymrwymiad 64

Parhau i fodloni’r cynnydd yn y galw am Brydau Ysgol Am Ddim sy’n deillio o’r pandemig ac adolygu’r meini prawf cymhwysedd, gan ymestyn yr hawl cyn belled ag y mae adnoddau yn caniatáu ac i bob plentyn ysgol gynradd o leiaf.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 64 cynnydd

Fe wnaethom ddechrau cyflwyno’r Cynllun Prydau Ysgol am Ddim ym mhob ysgol gynradd ym mis Medi 2022, gan ddechrau â’n dysgwyr ieuengaf ac ehangu hyn yn ystod tymor yr hydref a’r gwanwyn gan sicrhau bod y rhan fwyaf o ddysgwyr y dosbarth derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yn gymwys i gael pryd am ddim o fis Ebrill 2023 ymlaen. Mae mwy na 5 miliwn o brydau ychwanegol wedi’u gweini eisoes ers dechrau eu cyflwyno. Fe wnaethom hefyd sicrhau bod £41.9m ar gael rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mai 2023 i estyn y ddarpariaeth bwyd yn ystod y gwyliau i ddisgyblion sy’n draddodiadol yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Ymrwymiad 65

Buddsoddi yn amgylchedd dysgu ysgolion cymunedol, cydleoli gwasanaethau allweddol, a sicrhau ymgysylltiad cryfach â rhieni a gofalwyr y tu allan i oriau traddodiadol.

Ymrwymiad 65 cynnydd

Yn 2022-2023, fe wnaethom ddarparu mwy na £3.8m i gynyddu nifer y Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd a gyflogir gan ysgolion, gyda rhan o’u rôl yn canolbwyntio ar wella presenoldeb disgyblion. Darparwyd cyllid pellach o £660,000 i ddechrau treialu swyddi Rheolwyr Ysgolion Bro. Mae gwybodaeth gan awdurdodau lleol yn dangos cynnydd da yn gyffredinol, gyda Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd a Rheolwyr Ysgolion Bro bellach yn eu swyddi. I gefnogi hyn, rydym wedi cyhoeddi dwy ddogfen ganllaw: canllawiau cyffredinol ar Ysgolion Bro, a chanllawiau atodol ar ymgysylltu â theuluoedd. Yn ein nod o ddatblygu ysgolion i’w defnyddio’n well gan y gymuned, darparwyd £20m yn 22/23 fel y gellir gwneud addasiadau ffisegol i adeiladau a chyfleusterau ysgolion. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio’r cyllid hwn hefyd i ddarparu cymorth ychwanegol i deuluoedd, cydgysylltu gwasanaethau allweddol a thargedu materion sy’n ymwneud â phresenoldeb, cyrhaeddiad a llesiant.

Ymrwymiad 66

Ymchwilio i ddiwygio’r diwrnod ysgol a’r flwyddyn ysgol.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 66 cynnydd

Mae’r gwaith o ddatblygu polisïau, casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi parhau, gan edrych ar strwythur presennol y flwyddyn ysgol ac ystyried sut y gellid trefnu calendr yr ysgol yn wahanol i fynd i’r afael ag anfantais, lleihau anghydraddoldebau addysgol, cefnogi llesiant dysgwyr a staff, a chyd-fynd yn well â bywyd modern. Comisiynwyd ymchwil ychwanegol ym mis Rhagfyr 2022 i edrych ar effaith y calendr ysgolion presennol ar wahanol grwpiau. Cyhoeddwyd Datganiad Ysgrifenedig ym mis Mehefin 2022, a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd am y cynnydd ac yn cadarnhau y byddai unrhyw gynigion a gyflwynir yn destun ymgynghoriad ffurfiol.

Cynhaliwyd treialon Sesiynau Cyfoethogi ychwanegol rhwng mis Ionawr a mis Mai 2022 i gynnig darpariaeth ddiwylliannol, chwaraeon a hamdden y tu allan i’r diwrnod ysgol arferol. Canfu adroddiad gwerthuso, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2023, fod dysgwyr, darparwyr a rhieni wedi dweud bod mwy o gymdeithasu gyda chyfoedion a gweithgarwch corfforol; gwelliant mewn llesiant, ymddygiad, presenoldeb yn yr ysgol ac ymgysylltiad yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â datblygu sgiliau newydd. Tynnodd rhieni a gofalwyr sylw hefyd at fanteision cael lle diogel a deniadol i’w plant y tu allan i oriau ysgol. Mae’r canfyddiadau’n cael eu hystyried fel rhan o’r gwaith o ddatblygu polisi yng nghyd-destun ein diwygiadau addysg ehangach.

Ymrwymiad 67

Datblygu model cynaliadwy ar gyfer darpariaeth athrawon cyflenwi sydd â gwaith teg yn ganolog iddo.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 67 cynnydd

Mae model cyflogaeth newydd ar gyfer athrawon cyflenwi yn cael ei ddatblygu ochr yn ochr â fframwaith gwell ar asiantaethau. Cynhaliwyd proses gaffael ar gyfer y fframwaith asiantaeth a’r platfform cyflogaeth, a dyfarnwyd y contract ar gyfer y platfform archebu ddiwedd mis Ebrill 2023. Mae adolygiad strategol o gyflogau ac amodau athrawon yn cael ei gynnal ar hyn o bryd gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru. Mae hyn yn cynnwys ystyried cyflogau ac amodau athrawon cyflenwi.

Ymrwymiad 68

Gwella’r trefniadau ar gyfer addysgu hanes Cymru, yn ei holl amrywiaeth a chymhlethdod, fel rhan fandadol o’r cwricwlwm newydd.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 68 cynnydd

Rydym yn rhoi pwys mawr ar hanes Cymru o ran ei holl amrywiaeth a chymhlethdod, a chynhaliwyd ymgynghoriad yn ystod hydref 2022 ar newidiadau arfaethedig i’r datganiadau ‘yr hyn sy’n bwysig’ ar gyfer maes y Dyniaethau mewn perthynas â hanes Cymru a’r byd, fel bod ein hymrwymiad i hyn y tu hwnt i unrhyw amheuaeth. Cafwyd cefnogaeth eang i’r cynigion a chyhoeddwyd canlyniad yr ymgynghoriad ym mis Chwefror 2023. Daeth y newidiadau dilynol i ganllawiau’r Cwricwlwm i Gymru i rym ym mis Mai 2023.

Ymrwymiad 69

Mynd â’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) drwy’r Senedd.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 69 cynnydd

Ar ôl pasio Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) ym mis Mehefin 2022, cafodd y Bil y Cydsyniad Brenhinol a daeth yn Ddeddf ym mis Medi 2022, gan gwblhau’r ymrwymiad hwn. Mae’r Ddeddf yn sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i wneud y Comisiwn yn weithredol erbyn mis Ebrill 2024. Bryd hynny, bydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn cael ei ddiddymu. Bydd y Comisiwn yn gyfrifol am strategaeth, cyllido a goruchwylio’r holl sectorau addysg ôl-orfodol yng Nghymru a bydd yn cael ei rymuso i sicrhau bod y sector addysg drydyddol ac ymchwil yn cael ei drefnu i ddiwallu anghenion dysgwyr, yr economi, cyflogwyr a’r genedl gyfan yng Nghymru. Mae cadeirydd a dirprwy gadeirydd Bwrdd y Comisiwn wedi’u penodi. Bydd y dirprwy gadeirydd hefyd yn gadeirydd y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi. Mae’r Prif Swyddog Gweithredol hefyd wedi’i benodi cyn y dyddiad sefydlu ym Medi 2023.

Ymrwymiad 70

Datblygu strategaeth arloesi genedlaethol newydd, sy’n seiliedig ar genhadaeth, i’w gweithredu ar draws y llywodraeth a chan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 70 cynnydd


Yn dilyn ymgynghoriad allanol yn 2022, fe wnaethom gyhoeddi ein Strategaeth Arloesi newydd, Cymru’n Arloesi: Creu Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach ym mis Chwefror 2023. Mae gwaith ar y gweill yn awr ar ddatblygu cynllun cyflawni. Drwy ymgynghori ymhellach â rhanddeiliaid, bydd yn nodi nifer fach o nodau ym mhob maes cenhadaeth, y camau y byddwn yn eu cymryd gyda phartneriaid, a cherrig milltir a mesurau byrdymor, tymor canolig a hirdymor. Bydd hon yn ddogfen fyw gyda digon o hyblygrwydd i ymateb i sefyllfa wleidyddol ac economaidd sy’n newid ac i nodi cyfleoedd gwahanol a gwell. Drwy nodau ac amcanion ein strategaeth newydd, byddwn yn gweithio gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (ac yn y dyfodol y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil), prifysgolion Cymru a’r sector addysg drydyddol ehangach i gefnogi dull cydweithredol o roi hwb i werth y cyllid ymchwil ac arloesi ar gyfer ein blaenoriaethau.

Ymrwymiad 71

Cynyddu’r cyfleoedd i ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig gymryd rhan yn Rhwydwaith Seren.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 71 cynnydd

Ym mis Medi 2022, lansiwyd porth ar-lein Gofod Seren, ochr yn ochr â phroses gofrestru ar-lein newydd ar gyfer dysgwyr Seren ym Mlwyddyn 12. Eleni, mae 2,995 o ddysgwyr Seren Blwyddyn 12 wedi cofrestru, ac mae 7.2% ohonynt o gefndir difreintiedig o’i gymharu â 10.9% o’r holl ddysgwyr Blwyddyn 12 yng Nghymru. Er mwyn deall pa ymyriadau pellach sydd eu hangen, mae grwpiau ffocws gyda dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig yn cael eu cynnal i nodi rhwystrau ac i hysbysu cynllun ymgysylltu a chyfathrebu newydd. Bydd y llinell sylfaen yn cael ei holrhain i ddeall a yw’r ymyriadau newydd yn llwyddo i ddenu mwy o ddysgwyr o’r cefndiroedd hyn. Mae’r cydweithio rhwng rhaglen Seren a phrifysgolion Cymru wedi parhau’n gryf, a chafodd partneriaethau ychwanegol eu creu gyda phrifysgolion Caerdydd ac Aberystwyth. Bydd rhaglen Seren yn cynnal chwe ysgol haf eleni gyda Chaerdydd, Aberystwyth, Coleg Iesu Rhydychen, y Coleg Newydd, STEMHaus ac ysgol haf ryngwladol ar-lein Seren.

Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math

Ymrwymiad 72

Gweithredu ac ariannu’r ymrwymiadau a wnaed yn ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.

Ymrwymiad 72 cynnydd

Ers cyhoeddi ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ym mis Mehefin 2022, mae’r gwaith wedi symud yn ei flaen.

Ym mis Hydref 2022 lansiwyd y Prosiect Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth, sy’n darparu adnoddau i gefnogi’r rhai sy’n gweithio ym maes addysg i ddeall a datblygu arferion nad ydynt yn hiliol ac sy’n wrth-hiliol. Drwy gyllid grant a ddarparwyd gennym i arbenigwyr cydraddoldeb tai, Tai Pawb, mae rheolwr gwrth-hiliaeth wedi’i benodi i weithio ar draws y sector tai i helpu sefydliadau i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Mae Grŵp Anghydraddoldebau GIG Cymru wedi’i sefydlu i ganfod a chwalu rhwystrau sy’n atal mynediad cyfartal at wasanaethau iechyd i Bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Daeth uwchgynhadledd arweinyddiaeth sector cyhoeddus Cymru ar wrth-hiliaeth a gynhaliwyd ym mis Mai 2023 ag uwch-arweinwyr o bob rhan o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector at ei gilydd i wella ein dealltwriaeth o wrth-hiliaeth.

Ymrwymiad 73

Edrych ar ddeddfwriaeth i fynd i’r afael â bylchau cyflog ar sail rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd, anabledd, a ffurfiau eraill ar wahaniaethu.

Ymrwymiad 73 cynnydd

Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar dri maes gweithgarwch: cloriannu’r ddeddfwriaeth berthnasol sydd eisoes ar waith ar lefel Cymru a’r DU; ystyried effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth honno ac i ba raddau y mae sefydliadau’n cyflawni eu cyfrifoldebau o ran adrodd ar y bwlch cyflog, a chynnal dadansoddiad i bennu a oes potensial i wneud y canlynol: (i) cryfhau/ehangu’r ddeddfwriaeth bresennol sy’n berthnasol i fynd i’r afael â bylchau cyflog a (ii) cyflwyno deddfwriaeth newydd neu (iii) sicrhau bod gofynion o dan y ddeddfwriaeth bresennol yn cael eu cymhwyso’n fwy cyson.

Ymrwymiad 74

Sicrhau bod cyrff cyhoeddus a’r rhai sy’n cael arian cyhoeddus yn mynd i’r afael â gwahaniaethau cyflog.

Ymrwymiad 74 cynnydd

Ym mis Ionawr 2022, cytunodd Grŵp y Sector Datganoledig, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o blith rheolwyr ac undebau mewn nifer o Gyrff Hyd Braich, ar gynnig i Weinidogion Cymru i gysoni isafswm cyflog graddfeydd cyflog staff mewn naw Corff Hyd Braich â rhai Llywodraeth Cymru o 1 Ebrill 2021 ymlaen. Cytunodd Gweinidogion Cymru ar y cynnig hwn ym mis Mehefin 2022. Roedd y newidiadau hyn yn sicrhau na fyddai’r isafswm cyflog ar gyfer swydd yn y cyrff hyn yn llai na’r hyn a delir i staff ar raddfa gyfatebol yn Llywodraeth Cymru. Arweiniodd hyn at addasu cyflog tua 500 o staff mewn naw o gyrff (a swyddfeydd Comisiynwyr). Mae gwaith yn mynd rhagddo i edrych ymhellach ar gysoni cyflogau ac amodau ar draws y sector.

Ymrwymiad 75

Treialu dull o ymdrin â’r Incwm Sylfaenol.

Ymrwymiad 75 cynnydd

Lansiwyd y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer pobl sy’n gadael gofal yng Nghymru ar 1 Gorffennaf 2022, gyda’r bobl ifanc gyntaf yn cael eu taliad cyntaf ym mis Awst 2022. Roedd y ffigurau chwemisol a rannwyd ym mis Mawrth yn cadarnhau bod y nifer a fanteisiodd ar y cynllun peilot hyd yma wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda 92% o’r rheini a oedd yn gymwys wedi cofrestru ac yn cael taliadau. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi bod yn cefnogi’r rheini sy’n cael yr Incwm Sylfaenol, ac erbyn diwedd mis Mawrth 2023 roedd wedi helpu 72% o dderbynwyr posibl i oresgyn amrywiaeth o broblemau ariannol, gan gynnwys cyfrifiadau gwell eu byd i gadarnhau a yw’r Incwm Sylfaenol yn iawn iddynt, yn ogystal â chyngor ariannol wrth iddynt gael yr incwm.

Penodwyd CASCADE i gynnal gwerthusiad trylwyr ac eang, sy’n ystyried effaith y cynllun peilot o ran gwelliannau i lesiant a phrofiadau pobl sy’n gadael gofal, yn ogystal â sut y mae’r cynllun peilot wedi’i roi ar waith ac asesiad gwerth am arian. Mae gwerthuswyr yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a Voices From Care Cymru i sicrhau bod lleisiau’r derbynwyr yn cyfrannu at y gwerthusiad ac yn helpu i wneud gwelliannau i’r cynllun peilot wrth iddo ddatblygu.

Ymrwymiad 76

Sicrhau bod hanes a diwylliant ein cymunedau Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu cynrychioli’n briodol drwy fuddsoddi ymhellach yn ein sector diwylliannol a’n rhwydwaith amgueddfeydd.

Ymrwymiad 76 cynnydd

Yn 2022 darparwyd mwy na £4.5m o gyllid dros dair blynedd i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r nodau a’r camau gweithredu ADiwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon yng Nghynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol. O’r swm hwn dyfarnwyd £1.7m i’n Cyrff Hyd Braich diwylliant a chwaraeon. Mae hyn eisoes wedi galluogi i gynigion gael eu cyflwyno sy’n adeiladu ar yr arddangosfa ddiweddar Ailfframio Picton yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Yn ogystal, mae mwy na £2.8m o’r cyllid hwn wedi’i ddyrannu i 22 o sefydliadau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon lleol, rhanbarthol, cenedlaethol neu annibynnol ledled Cymru. Er enghraifft, mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth wedi cael cyllid i gyflwyno rhaglen o ddysgu proffesiynol gwrth-hiliaeth i staff yn ein Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer chwaraeon. Mae cynllun wedi’i ddatblygu hefyd, drwy gyllid wedi’i glustnodi, i gefnogi gweithgareddau diwylliannol ar lawr gwlad ymysg grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol; mae hwn yn gam allweddol yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol.

Ymrwymiad 77

Sicrhau bod ein system trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru’n fwy hygyrch i bobl anabl.

Ymrwymiad 77 cynnydd

Mae gwaith i’w wneud o hyd i sicrhau system drafnidiaeth gyhoeddus integredig gwbl hygyrch yng Nghymru. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi ariannu a chwblhau gwelliannau hygyrchedd mewn gorsafoedd ledled Cymru i sicrhau nad oes grisiau ynddynt. Er enghraifft, mae mynediad heb risiau yn cael ei ddarparu ar draws holl orsafoedd ‘Llinellau Craidd y Cymoedd’ fel rhan o’r Rhaglen Trawsnewid ac mae trenau newydd sbon yn cael eu cyflwyno ledled Cymru. Mae hyn yn golygu bod y trenau’n llawer mwy cyfforddus a hygyrch i deithwyr. Rydym hefyd wedi lansio cerbydau newydd yn y gwasanaeth bysiau T1. Mae gan y rhain le i ddau ddefnyddiwr cadair olwyn, y dechnoleg ddiweddaraf o ran cyhoeddiadau clyweledol hygyrch ynglŷn â mannau stopio, a gwybodaeth am y trenau sy’n gadael nesaf wrth i’r bws nesáu at gyfnewidfeydd trenau. Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar gynhyrchu canllawiau i weithredwyr ar y safonau hygyrchedd newydd ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol yn y DU.

Ymrwymiad 78

Parhau â’n partneriaeth gref â mudiadau gwirfoddol ar draws ein holl gyfrifoldebau.

Ymrwymiad 78 cynnydd

Rydym yn parhau i gefnogi’r sector gwirfoddol drwy gyflwyno’r adroddiad a gynhyrchwyd ar y cyd, Adroddiad Adfer Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, a thrwy fuddsoddi yn Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, cytunodd yr Is-bwyllgor Ariannu a Chydymffurfiaeth ar egwyddorion drafft fel sail i god ymarfer newydd ar gyfer cyllido ac rydym wrthi’n ymgysylltu â rhanddeiliaid ar yr egwyddorion hyn. Mae gwaith wedi dechrau hefyd ar ddatblygu Fframwaith Ymgysylltu newydd fel rhan o Gynllun y Trydydd Sector.

Mae’r Grŵp Arweinyddiaeth Gwirfoddoli Traws-sector wedi cytuno ar gwmpas y gwaith ar gyfer dull newydd o wirfoddoli yng Nghymru rydym yn ei ddatblygu ar hyn o bryd. Fe wnaethom ddarparu £1m i’r gronfa costau byw a sefydlwyd gan Sefydliad Cymunedol Cymru mewn partneriaeth â Newsquest, i ddarparu cymorth i fudiadau sector gwirfoddol ar lawr gwlad er mwyn iddynt allu parhau i gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae ein gwaith gyda’r Comisiwn Elusennau i ganfod ymddiriedolaethau a sefydliadau sy’n anweithredol neu’n aneffeithiol, a’u helpu i ailgodi ar eu traed, wedi arwain yn awr at gynhyrchu cynllun gan y Comisiwn Elusennau a fydd yn estyn y gwaith hwn am y pedair blynedd nesaf. Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r gwaith hwn wedi adfywio mwy na £1m o gyllid.

Ymrwymiad 79

Rhoi targedau ar waith ynghylch Cyllidebu ar sail Rhyw.

Ymrwymiad 79 cynnydd

Mae’r tri maes peilot: Cyfrifon Dysgu Personol, Gwarant Pobl Ifanc ac E-Symud wedi dangos bod cyllidebu’n llwyddiannus ar sail rhywedd yn gofyn am newid diwylliant systemig, yn hytrach na dim ond dilyn proses. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ddefnyddio’r dysgu hwn wrth iddo esblygu, i ddeall y camau sydd eu hangen i wreiddio’r ffordd hon o weithio yn ein prosesau cyllidebu a threth. Roedd y gwersi a ddysgwyd o’r gwerthusiad o’n cynllun peilot Cyfrif Dysgu Personol yn cynnwys cryfhau’r data a gasglwyd i lywio’r ddarpariaeth yn well er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a darparu mwy o gyfleoedd i randdeiliaid ddysgu oddi wrth ei gilydd a rhannu arferion gorau. Mae ein Gwarant i Bobl Ifanc yn gweithio i gryfhau asesiadau effaith drwy ddadansoddiad croestoriadol i sicrhau bod rhaglenni’n ymateb i anghenion gwahanol bobl ar draws ein cymdeithas gan ddefnyddio rhywedd fel lens. Bydd hyn yn hanfodol i lywio gweithgareddau yn y dyfodol a dyrannu adnoddau. Mae’r cynllun peilot E-Symud yn defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn y camau cyntaf, ac yn canolbwyntio ar sicrhau tegwch gwell o ran rhywedd ymysg buddiolwyr y prosiect, gan roi cyllidebu ar sail rhywedd wrth galon ei ddarpariaeth a’i gynllunio gwaddol ar gyfer unrhyw drosglwyddo asedau cymunedol.

Ymrwymiad 80

Cryfhau’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd ac yn y gweithle yn ogystal â’r cartref.

Ymrwymiad 80 cynnydd

Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddwyd ein cynllun gweithredu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, sy’n cynllun gweithredu glasbrint lefel uchel. Rydym yn gweithio gyda Plismona yng Nghymru, cyrff cyhoeddus eraill a sefydliadau trydydd sector ar agweddau allweddol ar y Strategaeth Genedlaethol gan ddefnyddio dull y glasbrint, sy’n cynnwys sefydliadau datganoledig, sefydliadau sydd heb eu datganoli a sefydliadau sector arbenigol.

Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau i ffynnu

Ymrwymiad 81

Sefydlu Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol.

Ymrwymiad 81 cynnydd

Sefydlwyd y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol ym mis Mai 2022, gan gwblhau’r ymrwymiad hwn. Ers ei sefydlu, mae’r Gwasanaeth wedi llwyddo i gyflwyno’r rhaglen ledled Cymru; roedd prif elfennau’r rhaglen yn canolbwyntio ar ysgolion a lleoliadau. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y cynllun ‘Creu Cerddoriaeth gydag Eraill’, gan ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr mewn ysgolion uwchradd gael profiadau drwy weithio ochr yn ochr â cherddorion a chynrychiolwyr o’r diwydiannau creadigol. Mae’r llyfrgell adnoddau a chyfarpar genedlaethol, i gefnogi mynediad at fanc adnoddau a rennir ledled Cymru, hefyd yn dod yn ei blaen. Mae fframwaith gwerthuso wedi’i gwblhau sy’n nodi sut y bydd canlyniadau allweddol yn cael eu gwireddu yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir.

Ymrwymiad 82

Cyflwyno deddfwriaeth sy’n caniatáu i awdurdodau lleol godi ardoll twristiaeth.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 82 cynnydd

Rydym wedi diweddaru geiriad yr ymrwymiad hwn o ardoll twristiaeth i ardoll ymwelwyr i adlewyrchu natur amrywiol arosiadau dros nos a allai fod yn destun ardoll.

Cyhoeddwyd ein bwriad i fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer ardoll ymwelwyr ym mis Mawrth 2023. Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus helaeth, ymgysylltu wedi’i dargedu â phartneriaid allweddol, a chasglu tystiolaeth i gasglu safbwyntiau trigolion ac ymwelwyr er mwyn cyfrannu at ein dealltwriaeth o’r effeithiau posibl. Cafodd yr ymgynghoriad ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr, a oedd yn canolbwyntio ar opsiynau dylunio posibl, ei lansio ar 20 Medi, a daeth i ben ar 12 Rhagfyr 2022 gan ddenu mwy na 1,000 o ymatebion. Cynhaliwyd pum digwyddiad ymgysylltu, un ym mhob rhanbarth yng Nghymru ac un rhithwir, gan ymgysylltu â mwy na 300 o bartneriaid. Comisiynwyd ymchwil defnyddwyr pwrpasol hefyd i roi cipolwg ar farn trigolion Cymru a gweddill y DU sy’n mynd ar eu gwyliau. Cymerodd mwy na 2,500 o ymatebwyr ran yn yr arolwg – 1,005 ohonynt yn byw yng Nghymru. Er bod busnesau twristiaeth yn mynegi amheuon ynghylch ardoll ymwelwyr, roedd canlyniadau’r ymchwil ymysg defnyddwyr yn adlewyrchu cefnogaeth eang i’r egwyddor. Mae’r rhan fwyaf o drigolion Cymru yn cytuno y dylai twristiaid gyfrannu at gostau cynnal a buddsoddi yn y cyrchfannau y maent yn ymweld â nhw.

Ymrwymiad 83

Deddfu i gryfhau a chynyddu ein darpariaeth mewn addysg Gymraeg.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 83 cynnydd

Cyhoeddwyd y Papur Gwyn yn amlinellu cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg ym mis Mawrth 2023 a daeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Mehefin. Bydd y Bil yn cymryd camau i alluogi pob disgybl yng Nghymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus drwy’r system addysg statudol erbyn 2050.

Ymrwymiad 84

Symleiddio’r broses ar gyfer gweithredu safonau’r Gymraeg.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 84 cynnydd

Ym mis Gorffennaf 2019, cyhoeddodd un o Bwyllgorau’r Senedd yr adroddiad Cefnogi a Hybu’r Gymraeg a oedd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru yn edrych ar opsiynau i addasu safonau’r Gymraeg, o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol. Yn dilyn yr argymhelliad hwnnw, cynhaliwyd adolygiad o’r broses o wneud safonau, a rhoddwyd y canfyddiadau ar waith wrth ddatblygu Rheoliadau safonau newydd ar gyfer rheoleiddwyr gofal iechyd. Wrth ddatblygu’r Rheoliadau hynny, buom yn gweithio gyda’r cyrff sy’n ddarostyngedig i’r safonau, mewn partneriaeth â Chomisiynydd y Gymraeg, i sicrhau bod gan y cyrff sy’n ddarostyngedig i safonau well dealltwriaeth o’r rolau gwahanol sydd gan y Comisiynydd a Llywodraeth Cymru yn y broses o lunio a gweithredu safonau. Fe wnaethom hefyd adolygu’r holl safonau i sicrhau eu bod yn cyfrannu at gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg heb wanhau hawliau, a chyfunwyd nifer o safonau i sicrhau bod y Rheoliadau mor syml â phosibl, gan gwblhau’r ymrwymiad hwn. Mae gan 116 o gyrff ddyletswydd i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg ar hyn o bryd.

Ymrwymiad 85

Gweithredu safonau’r Gymraeg ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus; rheoleiddwyr yn y sector iechyd; cyrff cyhoeddus sydd newydd eu sefydlu a chwmnïau dŵr; a dechrau’r gwaith o weithredu safonau ar gymdeithasau tai.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 85 cynnydd

Cafodd rheoliadau eu pasio gan y Senedd ar 12 Gorffennaf 2022 a oedd yn gwneud safonau’r Gymraeg yn gymwys i 11 o reoleiddwyr gofal iechyd ledled y DU. Daeth y Rheoliadau hyn i rym ym mis Hydref 2022 ac roedd hyn yn caniatáu i Gomisiynydd y Gymraeg ddechrau gweithio gyda’r cyrff i weithredu’r safonau. Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddwyd ymgynghoriad ar safonau drafft ar gyfer cwmnïau dŵr. Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ym mis Ebrill.

Ymrwymiad 86

Sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei siarad mewn rhagor o leoedd, gan gynnwys gweithleoedd.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 86 cynnydd

Gan weithio gyda Cwmpas, fe wnaethom ddarparu £250,000 i Brosiect Perthyn sydd wedi dyfarnu 21 o grantiau i brosiectau cydweithredol cymunedol er mwyn gwarchod y Gymraeg a’i helpu i ffynnu drwy sefydlu neu gefnogi mentrau cydweithredol, mentrau cymdeithasol a thai o dan arweiniad y gymuned. Darparwyd £150,000 hefyd i Brosiect Perthyn i ddarparu gwasanaeth cyngor a chymorth arbenigol a helpodd i sefydlu 10 menter gymdeithasol newydd yn 22/23. Fe wnaethom barhau i ariannu Prifysgol Bangor i ddatblygu ARFer, rhaglen seiliedig ar addewid ymddygiadol i helpu siaradwyr Cymraeg nad ydynt wedi bod yn defnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd ers tro i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Lansiwyd pecyn adnoddau ARFer eleni. Mae’r rhaglen Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog wedi parhau hefyd; mae’r rhaglen iaith mewn arweinyddiaeth hon yn archwilio sut y gall uwch-arweinwyr wneud gwerthoedd ac arferion Cymraeg 2050 yn rhan annatod o’u gwaith.

Ymrwymiad 87

Creu Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 87 cynnydd

Cyhoeddwyd y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg ym mis Hydref 2022, gan gwblhau’r ymrwymiad hwn. Fel rhan o’r cynllun, buddsoddwyd yn Prosiect Perthyn, y Cynllun Llysgennad Diwylliant, a’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Mae’r cynllun Llysgennad Diwylliant, a fydd yn annog unigolion i wirfoddoli fel llysgenhadon cymunedol ar gyfer y Gymraeg a’i diwylliant, yn cael ei greu mewn partneriaeth â Chynllun Llysgennad Cymru: hyfforddiant sy’n rhoi’r hyder i bobl rannu gwybodaeth am eu hardaloedd a’u hatyniadau lleol, sydd yn ei dro yn galluogi ymwelwyr i gael profiad mwy cyfoethog wrth ymweld. Fe wnaeth y Comisiwn Cymunedau Cymraeg a sefydlwyd gennym ym mis Awst 2022 i wneud argymhellion polisi cyhoeddus gyda’r nod o gryfhau cymunedau Cymraeg, gyhoeddi ei ganfyddiadau cychwynnol ym mis Mehefin 2023.

Ymrwymiad 88

Ymchwilio i greu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru a darparu buddsoddiad ychwanegol i ddatblygu mentrau i wella’r cyfryngau a newyddiaduraeth yng Nghymru.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 88 cynnydd

Darparwyd cyllid o fwy na £1m ar gyfer prosiectau’r cyfryngau a newyddiaduraeth yn 22/23. Roedd hyn yn golygu bod modd darparu’r Gronfa Cynnwys i’r Ifanc, gweithio gydag S4C a Ffilm Cymru ar gefnogaeth i ffilmiau Cymraeg, rhoi cyllid ychwanegol ar gyfer cylchgronau Cymraeg drwy Gyngor Llyfrau Cymru, cymorth i’r platfform AM a datblygu pedwar prosiect peilot newyddiaduraeth. Mae manylion am sefydlu’r Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol wedi’u cynnwys yn ymrwymiad 89 isod.

Ymrwymiad 89

Mynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli pwerau darlledu a chyfathrebu.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 89 cynnydd

Fe wnaethom sefydlu panel arbenigol ar Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru ym mis Mehefin 2022 i ddarparu argymhellion ac opsiynau ar gyfer cryfhau cyfryngau Cymru, gan gefnogi’r gwaith o ddatblygu cynlluniau ar gyfer fframwaith rheoleiddio effeithiol ac addas i’r diben a chynghori ar greu awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol i Gymru. Drwy gydol y flwyddyn, rydym wedi gweithio gyda’r panel i gasglu tystiolaeth a chomisiynu ymchwil ac rydym yn eu cefnogi wrth iddynt ddatblygu’r adroddiad terfynol.

Ymrwymiad 90

Ymgysylltu â sector y celfyddydau, y sector diwylliant a’r sector treftadaeth i ddatblygu strategaeth ddiwylliant newydd.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 90 cynnydd

Dechreuodd y gwaith ar Strategaeth Diwylliant newydd i Gymru yn 2022. Cytunwyd y dylai cwmpas y strategaeth gynnwys y sectorau celfyddydau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a threftadaeth, ac y dylai adlewyrchu themâu trawsbynciol. Mae ymgysylltu helaeth wedi digwydd â rhanddeiliaid i lywio’r strategaeth. Sefydlwyd Grŵp Llywio Trosfwaol i fonitro ei ddatblygiad a darparu her briodol. Dechreuodd y gwaith o ddrafftio’r strategaeth yng ngwanwyn 2023.

Ymrwymiad 91

Buddsoddi yn ein theatrau a’n hamgueddfeydd, gan gynnwys ymrwymo i Theatr Clwyd, sefydlu’r Amgueddfa Bêl-droed a’r Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 91 cynnydd

Rydym wedi cytuno ar yr achos busnes llawn ar gyfer Theatr Clwyd yn dilyn adolygiad gateway ac, ochr yn ochr â Chyngor Sir y Fflint, rydym wedi darparu cymorth ychwanegol er mwyn gallu dechrau gweithio ar y gwaith ailddatblygu. Mae hyn yn dod â chyfanswm ein buddsoddiad i £26.5m. Dechreuodd y prif gontractwr ar y safle ym mis Ionawr 2023.

 Mae’r timau dylunio a phenseiri wedi datblygu cynlluniau ar gyfer Amgueddfa Bêl-droed Cymru yn Wrecsam, ac rydym wedi cymeradwyo achos busnes amlinellol, gyda mwy na £5.4m o gyllid pellach yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2023 i fwrw ymlaen â’r prosiect hyd at ei gyflawni.

Mae’r achos busnes amlinellol ar fodel gwasgaredig ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes Cymru bron â chael ei gwblhau ac mae’r gwaith o ddigideiddio’r casgliad i wella mynediad wedi parhau’n gyflym, gyda chynlluniau ar gyfer tudalen we’n cael eu sefydlu. Mae’r gwaith o chwilio am oriel angori bosibl wedi dechrau, gyda galwadau ar wahân i rwydweithiau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, ac mae’r cynigion a dderbyniwyd yn cael eu hasesu ar hyn o bryd.

Rydym wedi buddsoddi yn ein sector amgueddfeydd lleol. Cafodd £1.1m o gyfalaf ei fuddsoddi drwy’r Grantiau Trawsnewid mewn amgueddfeydd a llyfrgelloedd lleol a chafodd £559,000 o gyllid refeniw ei ddyrannu i hybu gwydnwch, cynaliadwyedd, adferiad y sector o’r pandemig, y gallu i ymateb i anghenion ymwelwyr a chymunedau a datblygu’r gweithlu ar draws y sectorau diwylliannol. Darparwyd cyllid ychwanegol hefyd i helpu gyda phwysau costau byw: £1.3m i Amgueddfa Cymru; £650,000 i Lyfrgell Genedlaethol Cymru; a mwy na £208,000 ar gyfer amgueddfeydd annibynnol a llyfrgelloedd cymunedol. Rydym wedi darparu cyllid cyfalaf arall gwerth £4.5m dros dair blynedd i Amgueddfa Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a’r Comisiwn Brenhinol gyda’i gilydd i gefnogi’r gwaith o ddigideiddio, datgarboneiddio a rheoli casgliadau. Rydym wedi darparu £3.2m dros dair blynedd i Gyngor Celfyddydau Cymru fuddsoddi mewn theatrau, neuaddau cyngerdd a lleoliadau celfyddydau perfformio.

Ymrwymiad 92

Cefnogi’r cais i nodi tirwedd llechi’r Gogledd-orllewin fel Safle Treftadaeth y Byd.

Ymrwymiad 92 cynnydd

Cwblhawyd yr ymrwymiad hwn ym mis Gorffennaf 2021 pan gynhwysodd Pwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO Dirwedd Llechi’r Gogledd-orllewin ar y Rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd. Yn dilyn y cadarnhad hwnnw, dechreuodd y Bartneriaeth Llechi, o dan arweiniad Cyngor Gwynedd ac yn cynnwys Cadw, ein Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol, weithredu’r Cynllun Rheoli Safle cynhwysfawr. Mae’r camau a gwblhawyd ar ôl y cofrestru yn cynnwys mabwysiadu Canllawiau Cynllunio Atodol yn ffurfiol gan y ddau awdurdod cynllunio lleol (Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri), gwaith cadwraeth ar asedau hanesyddol gan gynnwys y peiriandy yn Chwarel Dorothea gyda chymorth grant gan Cadw, dynodi asedau hanesyddol allweddol o fewn y Safle Treftadaeth Byd gan Cadw a gosod arddangosfeydd dehongli newydd mewn safleoedd ymwelwyr craidd wedi’u hariannu drwy £150,000 o grantiau gan Lywodraeth Cymru. Ymhlith y llwyddiannau eraill mae cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i ddatblygu gwaith ymgysylltu â’r gymuned.

Ymrwymiad 93

Datblygu cynlluniau ar gyfer Amgueddfa’r Gogledd.

Ymrwymiad 93 cynnydd

Bu rhywfaint o oedi o ran yr amserlen ddatblygu yn ystod 22/23. Ym mis Mawrth 2023, cytunwyd y bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau ar gyfer Amgueddfa’r Gogledd, gan weithio’n agos ag Amgueddfa Cymru. Bydd y newid hwn yn ein galluogi i sicrhau bod y cynlluniau a ddatblygir yn rhoi’r adlewyrchiad gorau o anghenion a safbwyntiau cymunedau amrywiol y Gogledd, gan alluogi ailddatblygu’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol ar yr un pryd.

Ymrwymiad 94

Hyrwyddo mynediad cyfartal at chwaraeon a chefnogi athletwyr ifanc a thalentog a chlybiau llawr gwlad.

Ymrwymiad 94 cynnydd

Mae canlyniadau Arolwg Chwaraeon Ysgol diweddaraf Chwaraeon Cymru, a gynhaliwyd rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2022 ac a gafodd fwy na 116,000 o ymatebion, wedi rhoi cipolwg gwerthfawr ar y rhwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae hyn yn ei dro wedi llywio gwaith dros y 12 mis diwethaf ar y cysylltiad rhwng chwaraeon ysgol a llwybrau perfformiad ar gyfer chwaraeon elît, a hefyd ar ddatblygu Model Buddsoddi Chwaraeon Cymru fel bod cyllid ar gyfer chwaraeon ar lawr gwlad yn cael ei dargedu lle mae ei angen fwyaf. Mae cyllid a ddarperir drwy Chwaraeon Cymru yn parhau i gael effaith sylweddol ar lawr gwlad; er enghraifft, cafodd 595 o brosiectau gymorth drwy’r Gronfa Cymru Actif a chynhaliwyd 82 o brosiectau cyfalaf gan ddefnyddio’r £9.6m a ddyrannwyd yn ystod y flwyddyn. Ym mis Rhagfyr 2022 fe wnaethom gynnal Uwchgynhadledd Chwaraeon, a ddaeth â gwahanol fathau o arbenigedd a phrofiad at ei gilydd i drafod beth y mae system chwaraeon gynhwysol yn ei olygu, a pha rôl y gall y rheini sy’n bresennol ei chwarae o ran ei chyflawni. Mynychwyd yr uwchgynhadledd gan fwy na 200 o randdeiliaid allweddol, a fu’n ystyried sut y gallai’r sector weithio’n well ar y cyd â sefydliadau gwahanol sy’n chwarae’r rôl y maent yn y sefyllfa orau i’w chwarae, a sut y gallai canolbwyntio ar wneud llai o bethau’n well a chydweithio gyfrannu at system chwaraeon gynhwysol.

Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt

Ymrwymiad 95

Adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon-isel newydd i’w rhentu.

Ymrwymiad 95 cynnydd

Mae heriau sylweddol yn wynebu’r sector tai, sy’n effeithio ar ddarparu tai fforddiadwy, ond rydym yn gweithio ar draws y llywodraeth a chyda’r sector tai i ddatgloi safleoedd a bwrw ymlaen â datblygiadau. Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu 20,000 o gartrefi i’w rhentu yn y sector cymdeithasol, gan gynnwys drwy gaffaeliadau, a phob adeilad newydd yn un carbon isel. Bydd hyn yn atgyfnerthu ein hymdrech i ddarparu mwy o gartrefi yn y sector cymdeithasol yn gyflymach. Er ein bod yn canolbwyntio ar adeiladu cartrefi newydd, mae caffaeliadau’n bwysig er mwyn helpu i ddiwallu anghenion tai, yn ogystal ag ehangu ein Cynllun Lesio Cymru. Rydym yn cefnogi amrywiaeth o gynlluniau a fydd yn helpu i gyflawni’r targed o 20,000 o gartrefi, gan gynnwys caffael eiddo, ailwampio adeiladau presennol, troi adeiladau’n llety o ansawdd da, a defnyddio dulliau adeiladu modern a llety modiwlar mewn ffordd arloesol. Ar gyfer pob adeilad newydd, mae ein gofynion ansawdd ar gyfer tai fforddiadwy, Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021, yn gosod gofynion ynni a datgarboneiddio gan gynnwys ennill Tystysgrif Perfformiad Ynni A a pheidio â defnyddio systemau gwresogi a dŵr poeth sy’n defnyddio tanwydd ffosil. Rydym wedi darparu’r lefelau uchaf erioed o gyllid drwy’r Grant Tai Cymdeithasol (£250m yn 2021/2022 a £300m yn 22/23). Cafodd y datganiad ystadegol cyntaf a oedd yn adrodd ar y cynnydd tuag at y targed hwn ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2023 ac roedd yn dangos bod mwy na 2,500 o dai fforddiadwy ychwanegol wedi’u darparu ledled Cymru yn 2021/2022.

Ymrwymiad 96

Sefydlu Unnos, cwmni adeiladu cenedlaethol, i gefnogi cynghorau a landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 96 cynnydd

Cytunwyd ar raglen waith gychwynnol ar gyfer Unnos gan gynnwys rhaglen ymchwil a chamau gweithredu uniongyrchol i helpu i ddatgloi safleoedd tai sy’n cael eu dal yn ôl oherwydd problemau ffosffadau. Mae gwaith i sefydlu strwythurau bwrdd rhaglen cysgodol, hyd nes y sefydlir endid ffurfiol, yn mynd rhagddo hefyd.

Ymrwymiad 97

Diwygio cyfraith tai a gweithredu argymhellion y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd yn sylfaenol er mwyn canolbwyntio ar atal ac ailgartrefu’n gyflym.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 97 cynnydd

Rydym yn parhau i ddefnyddio dull ‘neb heb help’ ar gyfer digartrefedd, ac mae mwy na 35,000 o bobl wedi cael cymorth i gael llety dros dro ers mis Mawrth 2020. Er mwyn cynnal y dull gweithredu cyn diwygio deddfwriaethol ar raddfa ehangach, ym mis Hydref 2022 cymeradwyodd y Senedd ddeddfwriaeth a oedd yn creu 11fed categori o Angen Blaenoriaethol ar gyfer y rheini sy’n ‘ddigartref ac ar y stryd’. Mae’r gwaith o ddiwygio deddfwriaeth digartrefedd yn yr hirdymor wrthi’n cael ei ddatblygu; wedi’i lywio gan Banel Adolygu Arbenigol, sy’n cynnwys pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd a rhanddeiliaid eraill. Mae Fframwaith Canlyniadau Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd drafft wedi’i ddatblygu, gan weithio mewn partneriaeth â phartneriaid allanol allweddol, a chafodd ymgynghoriad ei lansio ym mis Mehefin 2023. Bydd y Fframwaith yn mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nod hirdymor o roi diwedd ar ddigartrefedd drwy ei wneud yn rhywbeth prin a byrhoedlog nad yw’n digwydd eto. Lansiwyd ymgyrch recriwtio gweithlu i annog amrywiaeth eang o bobl i ymuno â’r sector cymorth digartrefedd a thai ym mis Chwefror 2023. Gan gydnabod y pwysau ar wasanaethau digartrefedd, cynyddodd y Gyllideb Atal Digartrefedd £20m yn 2022/2023. Mae hyn yn golygu bod cyfanswm ein buddsoddiad mewn gwasanaethau atal digartrefedd a chymorth tai yn fwy na £205m yn 2022/2023.

Ymrwymiad 98

Cyhoeddi Papur Gwyn i gyflwyno cynigion ar gyfer yr hawl i gartrefi digonol, gan gynnwys rhenti teg a ffyrdd newydd o sicrhau bod cartrefi’n rhai y gall pobl ar incwm lleol eu fforddio.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 98 cynnydd

Penodwyd Canolfan Gydweithredol y DU ar gyfer Tystiolaeth Tai (CaCHE) i gynnal adolygiad o fodelau rheoli rhenti rhyngwladol ac ystyried y dulliau hyn yng nghyd-destun Cymru. Roedd eu casgliadau’n tynnu sylw at ddiffyg tystiolaeth a dealltwriaeth glir o farchnad rentu Cymru, yn ofodol ac o ran ymddygiad a demograffeg landlordiaid a thenantiaid. O ganlyniad, cafodd Papur Gwyrdd i ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth yn y meysydd hyn ei ddatblygu gyda chefnogaeth Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid Allanol a chafodd ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2023. Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o argaeledd a fforddiadwyedd, comisiynwyd hefyd adolygiad o’r data presennol ac mae’r gwaith hwnnw wedi’i gyhoeddi ochr yn ochr â’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd.

Ymrwymiad 99

Bwrw ymlaen â chamau i osod terfyn ar nifer yr ail gartrefi, dod â rhagor o gartrefi o dan berchnogaeth gyffredin a thrwyddedu llety gwyliau.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 99 cynnydd

Comisiynwyd gwerthusiad annibynnol o’r Cynllun Peilot Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd ym mis Mai. Sicrhawyd cyllid i gyflwyno’r gwerthusiad tair blynedd a hanner i’w gynnal ochr yn ochr â’r cynllun peilot, a fydd yn asesu gweithrediad ac effaith y gweithgareddau peilot. Cytunwyd hefyd ar gyllid i gefnogi’r gwaith o ystyried, paratoi a gweithredu Cyfarwyddyd Cynllunio Erthygl 4 yn ardal y cynllun peilot yn Nwyfor. Daeth yr ymgynghoriad ar y cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob darparwr llety i ymwelwyr yng Nghymru i ben ym mis Mawrth 2023, ac mae mwy na 1,500 o ymatebion yn cael eu dadansoddi’n annibynnol ar hyn o bryd. Cynhaliwyd digwyddiadau i randdeiliaid ym mis Mai 2023 i gasglu rhagor o dystiolaeth a gwybodaeth fanwl am y cynigion ac ynghylch cyflawni elfennau penodol o’r cynllun.

Gwnaed deddfwriaeth i gynyddu uchafswm premiymau’r dreth gyngor y gall awdurdodau lleol eu cymhwyso i anheddau gwag hirdymor ac ail gartrefi ac i osod meini prawf gosod uwch ar gyfer rhestru eiddo hunanddarpar ar gyfer ardrethi annomestig. Cyhoeddwyd y datganiad ystadegol Anheddau’r Dreth Gyngor yng Nghymru 2023-24 ym mis Ionawr, gan gynnwys amcangyfrif o nifer y cartrefi gwag ac ail gartrefi trethadwy a’r nifer y codir premiymau arnynt.

Ymrwymiad 100

Cefnogi tai cydweithredol, mentrau a arweinir gan y gymuned, ac ymddiriedolaethau tir cymunedol.

Ymrwymiad 100 cynnydd

Rydym wedi darparu cyllid tair blynedd o £180,000 y flwyddyn i Cwmpas (Canolfan Cydweithredol Cymru gynt) ar gyfer eu rhaglen Cymunedau’n Creu Cartrefi, er mwyn cefnogi grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid eraill i ddarparu tai cydweithredol, mentrau sy’n cael eu harwain gan y gymuned, ac ymddiriedolaethau tir cymunedol. Mae Cwmpas wrthi’n gweithio gyda 58 o grwpiau cymunedol, ac mae 250 o gartrefi posibl ar y gweill.

Ymrwymiad 101

Creu strategaeth ddiwydiannol sy’n seiliedig ar bren a all ddatblygu a chynnal cynhyrchu a phrosesu gwerth uchel i bren Cymru.

Ymrwymiad 101 cynnydd

Mae cynnydd wedi’i wneud o ran cyflawni strategaeth diwydiant pren yng Nghymru. Ym mis Mawrth 2022, cymeradwywyd cam 2 y prosiect Cartrefi o Bren Lleol, a fydd yn sail i ddatblygu’r strategaeth ar gyfer y dyfodol. Ym mis Mai 2022, cyfarfu Panel Cyflawni’r Dadansoddiad Manwl o Goed a Phren i ystyried yr elfennau allweddol i’w hystyried wrth ddatblygu’r strategaeth. Yn dilyn hynny, mae ein gwaith wedi canolbwyntio ar sefydlu dealltwriaeth glir o’r diwydiant a’r cadwyni cyflenwi presennol ac ar ddadansoddi’r ddarpariaeth sgiliau a’r gofynion.

Ymrwymiad 102

Datgarboneiddio rhagor o gartrefi drwy ôl-osod, gan ddarparu swyddi o safon, hyfforddiant ac arloesedd a defnyddio cadwyni cyflenwi lleol.

Ymrwymiad 102 cynnydd

Mae’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio wedi parhau, gyda thrydydd cylch o gyllid gwerth cyfanswm o £56m yn cael ei ddyfarnu. Rydym wedi symud oddi wrth fidiau cystadleuol at ddull cyllido ar sail fformiwla i sicrhau lefel gyson o gyllid ac i gydnabod yr angen i ddod â phob landlord cofrestredig ar y daith ddatgarboneiddio. Hyd yma, mae 44 o bartneriaid wedi llwyddo yn eu ceisiadau am oddeutu £120m o gyllid grant ers lansio’r rhaglen ym mis Medi 2020. Mae hyn wedi golygu y bu modd ôl-osod mwy na 15,700 o gartrefi drwy amrywiaeth o fesurau. Mae cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Sgiliau Sero Net ym mis Chwefror 2023 a datblygu Hwb Carbon Sero Net a gyhoeddwyd ym mis Ebrill yn fecanweithiau cadarnhaol pellach i gefnogi’r gwaith parhaus o ddatgarboneiddio tai.

Ymrwymiad 103

Ystyried ble y gellir dod â gwasanaethau a chontractau yn ôl yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy i mewn i sector cyhoeddus cryfach.

Ymrwymiad 103 cynnydd

Comisiynwyd y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol (CLES) i adolygu’r dirwedd caffael yng Nghymru. Cafodd yr adroddiad terfynol a’r pecyn cymorth i lywio prosesau gwneud penderfyniadau, Pecyn adnoddau ar gyfer mewnoli yng Nghymru, eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2022, gan gwblhau’r ymrwymiad hwn.

Ymrwymiad 104

Sicrhau bod gan bob rhanbarth yng Nghymru ddull effeithiol ac atebol yn ddemocrataidd o ddatblygu economïau’r dyfodol.

Ymrwymiad 104 cynnydd

Mae pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig rhanbarthol wedi’u sefydlu’n llawn erbyn hyn, gan gwblhau’r ymrwymiad hwn. Aelodau’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yw’r cyngor sir a’r cyngor bwrdeistref sirol yn y rhanbarth, ac mae arweinydd pob cyngor yn eistedd ar y cyd-bwyllgor. Maent nawr yn gallu dechrau gweithio ar eu swyddogaethau mewn perthynas â chynllunio trafnidiaeth rhanbarthol, cynllunio defnydd tir yn strategol, a llesiant economaidd.

Ymrwymiad 105

Parhau i adolygu trefniadau gweithio mewn partneriaethau rhanbarthol gyda phartneriaid lleol.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 105 cynnydd

Rydym wedi ymgysylltu’n helaeth â phartneriaid lleol ac wedi trafod themâu sy’n dod i’r amlwg mewn cyfarfod diweddar o Gyngor Partneriaeth Cymru. Mae’r adroddiad terfynol sy’n adolygu trefniadau gweithio rhanbarthol yn cael ei ddatblygu, ac mae Cyngor Partneriaeth Cymru yn chwarae rhan barhaus yn y gwaith o gymeradwyo’r adroddiad a rhannu arferion da.

Ymrwymiad 106

Gwneud 20mya yn derfyn cyflymder safonol mewn ardaloedd preswyl.

Ymrwymiad 106 cynnydd

Pasiodd y Senedd ddeddfwriaeth ym mis Gorffennaf 2022 i newid y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru o 30 mya i 20 mya. Daw’r newid i rym ar 17 Medi 2023.

Mae’r wyth anheddiad cam cyntaf sydd wedi bod ar waith ers mis Mai 2022 wedi galluogi datblygu proses esemptio i ddarparu canllawiau i awdurdodau priffyrdd i benderfynu a ddylai unrhyw ffyrdd aros ar 30mya, yn ogystal â threialu strategaeth gorfodi ac addysg a ddatblygwyd gyda’r heddlu a’r gwasanaeth tân ac achub. Dechreuodd ymgyrch gyfathrebu a newid ymddygiad ar y cyfryngau cymdeithasol ym mis Mawrth 2023. Er mwyn darparu ar gyfer y newidiadau angenrheidiol i arwyddion sy’n ofynnol yn sgil y newid i’r terfyn cyflymder diofyn, cafodd ymgynghoriad rhanddeiliaid ar y newidiadau i’r Rheoliadau Arwyddion Traffig a Chyfarwyddydau Cyffredinol ei gwblhau ym mis Chwefror 2023. Mae ail gyfran o grantiau wedi’u darparu yn 22/23 i bob awdurdod lleol, i helpu i roi’r newid ar waith, ynghyd â chymorth i gynnal rhestr o’r arwyddion presennol a phrosesu’r gorchmynion rheoleiddio traffig sy’n ofynnol ar gyfer yr eithriadau.

Ymrwymiad 107

Gwahardd parcio ar y palmant, ble bynnag y bo modd.

Ymrwymiad 107 cynnydd

Byddwn yn deddfu i fynd i’r afael â pharcio gwrthgymdeithasol, gan gynnwys ar balmentydd, er mwyn adlewyrchu’n well y canlyniad polisi a ddymunir. Gan gydnabod y pwysau ar awdurdodau lleol, penderfynwyd gohirio’r ymgynghoriad ar barcio ar balmentydd tan 2024. Bydd hyn yn galluogi awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar weithredu a chyflwyno terfynau cyflymder diofyn o 20mya ym mis Medi 2023 a’r gwaith i baratoi ar gyfer masnachfreinio bysiau. Mae’r gwaith paratoi ar yr asesiadau effaith a Nodyn Cyfarwyddyd ar gyfer awdurdodau lleol yn parhau.

Arwain Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar y cyd ynglŷn â’n dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i’n gwlad ar y llwyfan byd-eang

Ymrwymiad 108

Sefydlu comisiwn sefydlog annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 108 cynnydd

Fe wnaethom sefydlu’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru (y Comisiwn) yn 2021, gan gwblhau’r ymrwymiad hwn. Arweinir y Comisiwn gan y Cyd-gadeiryddion yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams ac mae’n cynnwys aelodau o bob rhan o Gymru, y DU ac o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol. Caiff ei gefnogi gan banel arbenigol. Ym mis Mawrth 2022, dechreuodd y Comisiwn sgwrs genedlaethol, gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau i sicrhau bod barn pobl Cymru yn ganolog i’w gwaith. Roedd hyn yn cynnwys yr arolwg ar-lein Dweud eich Dweud, a ddaeth i ben ym mis Chwefror 2023 ar ôl cael 2,524 o ymatebion. Ym mis Gorffennaf 2022, lansiodd y Comisiwn ei Gronfa Ymgysylltu â’r Gymuned, gan gefnogi 11 o grwpiau a sefydliadau i gynnal gweithgareddau ymgysylltu yn eu cymunedau. Cyhoeddodd y Comisiwn ei Adroddiad Interim ym mis Rhagfyr 2022. Yn yr adroddiad, mae’r Comisiwn wedi dod i’r casgliad “nad yw’r status quo na dadwneud datganoli yn opsiynau ymarferol i’w hystyried ymhellach”. Felly fe wnaethant nodi tri model posibl ar gyfer y dyfodol: atgyfnerthu datganoli, strwythurau ffederal ac annibyniaeth. Mae’r Comisiwn bellach yn casglu rhagor o dystiolaeth, a disgwylir ei adroddiad terfynol ddiwedd 2023.

Ymrwymiad 109

Cyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio’r Senedd, yn seiliedig ar 80 i 100 o Aelodau; system bleidleisio sydd yr un mor gyfrannol – neu’n fwy cyfrannol – â’r un bresennol a chyflwyno cwotâu rhywedd wedi’u pennu mewn cyfraith.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 109 cynnydd

Ar ôl i’r Senedd gymeradwyo’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ym mis Mehefin 2022, fe wnaethom ymrwymo i lunio deddfwriaeth i fwrw ymlaen â’r argymhellion hynny. Rydym yn parhau i wneud cynnydd da o ran datblygu’r ddeddfwriaeth a’r dogfennau a fydd yn cyd-fynd â hi wrth ei chyflwyno. Wrth wneud hynny, rydym hefyd yn adlewyrchu casgliadau’r Pwyllgor Busnes yn dilyn ystyriaeth o argymhellion adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid cyflawni mewn nifer o fforymau i ystyried y trefniadau gweithredu ar gyfer y diwygiadau hyn, ac i ddatblygu’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer y dogfennau ategol i gyd-fynd â’r ddeddfwriaeth, gan gynnwys asesiadau cost ac effaith.

Ymrwymiad 110

Hyrwyddo a chefnogi gwaith y Comisiwn Cyfansoddiadol ar gyfer y DU gyfan sy’n cael ei sefydlu gan Blaid Lafur y DU.

Mae’r ymrwymiad i “Hyrwyddo a chefnogi gwaith Comisiwn Cyfansoddiadol y DU gyfan sy’n cael ei sefydlu gan Blaid Lafur y DU” yn cael ei ddatblygu gan Lafur Cymru ac nid yw’n cael ei fonitro gan wasanaeth sifil Llywodraeth Cymru.

Ymrwymiad 110 cynnydd

Croesawodd y Gweinidogion adroddiad y Comisiwn a’i argymhellion ar gyfer diwygio strwythurau cyfansoddiadol y DU, gan gynnwys datganoli pwerau newydd i Gymru.

Ymrwymiad 111

Sefydlu Academi Heddwch yng Nghymru.

Ymrwymiad 111 cynnydd

Mae’r Academi Heddwch wedi adeiladu ar bartneriaethau presennol gyda sefydliadau heddwch ledled y byd, gan gynnwys Sefydliad Heddwch Fflandrys a Sefydliad Ymchwil Oslo, gan ymuno â chyfarfod cyntaf y rhwydwaith Sefydliadau Heddwch Ewropeaidd ym Mrwsel ym mis Medi 2022. Cynhaliodd yr Academi Heddwch gyfres o ddigwyddiadau, gan gynnwys sesiynau a oedd yn canolbwyntio ar gamwybodaeth fel arf rhyfel, ac ar fenywod, heddwch a diogelwch. Cytunwyd ar gyllid ychwanegol o £220,000 dros ddwy flynedd, a fydd yn galluogi’r Academi Heddwch i adeiladu ar dreftadaeth heddwch Cymru a datblygu addysg heddwch. Bydd digwyddiadau cyhoeddus fel darlithoedd a seminarau yn cael eu hyrwyddo, gan gynnwys yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Bydd y cyllid yn datblygu rhwydwaith ymchwil heddwch Cymru drwy gynnal ymchwil sylfaenol yng Nghymru ac yn rhyngwladol, denu cyllid ychwanegol a chryfhau’r cydweithio â phartneriaid byd-eang i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor.

Ymrwymiad 112

Ceisio diwygio’r dreth gyngor i sicrhau system decach a mwy graddoledig.

Ymrwymiad sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio ac sy’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru.

Ymrwymiad 112 cynnydd

Cyhoeddwyd cynlluniau ar gyfer treth gyngor decach a mwy blaengar mewn Ymgynghoriad Cam 1 ym mis Gorffennaf 2022. Mae’r rhain yn cynnwys cyflwyno system decach ym mis Ebrill 2025 yn dilyn ymarfer ailbrisio eiddo cynhwysfawr, gyda system lai annheg o fandiau treth a chyfraddau treth, a diweddariadau mwy rheolaidd i gadw’r dreth yn deg yn y dyfodol gan ddefnyddio technoleg fodern sy’n seiliedig ar ddata. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn adolygu’r trefniadau amrywiol ar gyfer disgowntiau, diystyriadau, eithriadau a phremiymau’r dreth gyngor, a Chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, i sicrhau bod y system yn parhau i helpu’r rhai sydd mewn angen. Mae paratoadau’n mynd rhagddynt yn dda i gyflawni’r diwygiadau hyn, sy’n gofyn am gyfres helaeth o ddeddfwriaeth a newid gweithredol gan gyrff annibynnol (Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru) a llywodraeth leol. Mae’r dystiolaeth a’r arbenigwyr yn cytuno mai treth gyngor decach a mwy blaengar yw un o’r camau mwyaf buddiol y gallem eu cymryd i leihau anghydraddoldebau mewn cyfoeth.

Ymrwymiad 113

Diwygio etholiadau llywodraeth leol i leihau’r diffyg democrataidd.

Ymrwymiad 113 cynnydd

Fe wnaethom estyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor cymwys yng Nghymru drwy Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Adeiladwyd ar yr estyniad hwn drwy roi cyllid grant i gyflogi swyddogion ymgysylltu er mwyn annog pobl a oedd newydd gael yr hawl i bleidleisio i gofrestru i wneud hynny. Ar gyfartaledd, roedd cynnydd mewn cofrestriadau bedair gwaith yn fwy, o’i gymharu ag awdurdodau na ofynnodd am gymorth. Hwyluswyd cynlluniau peilot arloesi etholiadol mewn pedwar awdurdod lleol yn etholiadau lleol mis Mai 2022, gan roi rhagor o opsiynau i bleidleisio, a dangos diogelwch a manteision cofrestrau digidol. Fe wnaethom hefyd gefnogi treialon i leihau cyfraddau gwrthod pleidleisiau drwy’r post.

Ym mis Hydref 2022, cyhoeddwyd ein Papur Gwyn ar foderneiddio gweinyddu etholiadol, ac roedd bron bob un o’r 
150 o’r ymatebion i’n hymgynghoriad yn gefnogol i’r cynigion ar y cyfan. Ym mis Mawrth 2023, nodwyd y camau nesaf i leihau’r diffyg democrataidd yng Nghymru a datblygu system etholiadol sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Ym mis Ionawr, cyhoeddwyd rheolau drafft ar gyfer etholiadau gan ddefnyddio’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, i helpu awdurdodau lleol i ystyried a ddylent defnyddio eu pŵer newydd i newid eu system bleidleisio.

Ymrwymiad 114

Rhoi rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol gwerth £65 miliwn ar waith.

Ymrwymiad 114 cynnydd

Mae’r Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu, sef Taith, bellach yn ei hail flwyddyn o gyflawni, gan ariannu ysgolion, pobl ifanc, addysg oedolion, addysg a hyfforddiant pellach a galwedigaethol, ac addysg uwch. Lansiwyd y flwyddyn gyntaf yn unol â’r amserlen a chafodd ei chyflwyno’n llwyddiannus, gyda mwy na £11.5m o gyllid yn cael ei ddyfarnu i 74 o brosiectau gan 184 o sefydliadau yng Nghymru. Mae dau lwybr cyllido wedi’u datblygu. Mae Llwybr 1 yn darparu cyllid i sefydliadau addysg er mwyn i ddysgwyr a staff gael cyfnod o astudio neu ddysgu dramor. Dechreuodd prosiectau Llwybr 1 2022 ym mlwyddyn academaidd 22/23. Mae Llwybr 2 yn darparu cyllid i sefydliadau addysg (ac eithrio addysg uwch) i ddatblygu prosiectau strategol a lledaenu eu canfyddiadau yng Nghymru. Roedd y prosiectau yn Llwybr 2 yn dod o dan dair thema: Amrywiaeth a Chynhwysiant; Datblygiadau mewn Addysg; Newid yn yr Hinsawdd. Bydd blwyddyn gyntaf prosiectau Llwybr 2 yn dechrau yn ystod haf 2023.

Bydd gwefan Taith yn cael ei diweddaru’n rheolaidd ag ystadegau ac astudiaethau achos wrth i’r gweithgarwch ddigwydd.

Yn ogystal â hyn, rhoddodd Taith grant i Prifysgolion Cymru ar gyfer cyflawni prosiect Cymru Fyd-eang III. Bydd y prosiect yn creu partneriaethau rhyngwladol newydd ar gyfer darparwyr addysg uwch a phellach yng Nghymru ac yn cynyddu recriwtio myfyrwyr rhyngwladol.

Ymrwymiad 115

Ailfywiogi ein perthynas efeillio ledled yr UE drwy Gronfa Gefeillio Pobl Ifanc.

Ymrwymiad 115 cynnydd

Mae’r ymrwymiad hwn yn cael ei ddatblygu mewn dau gam. Yng ngham 1, cynhelir archwiliad o’r trefniadau gefeillio presennol ledled Cymru, gyda chefnogaeth Un Llais Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Bydd safbwyntiau llywodraeth leol yn cael eu dadansoddi i ddeall pa drefniadau gefeillio gweithredol sydd ar waith ledled Cymru a’r awydd i dargedu cyllid lle mae’r rhain yn dangos manteision cadarnhaol. Bydd yr archwiliad yn caniatáu inni ystyried yng ngham 2 sut y gellid sefydlu Cronfa Gefeillio Pobl Ifanc.