Yn y canllaw hwn
1. Cyflwyniad
Telir treth gyngor ar bob cartref. Bydd y bil yn adlewyrchu amgylchiadau yr unigolyn neu’r aelwyd.
Fel arfer, rhaid ichi dalu Treth Gyngor os ydych dros 18 oed ac yn berchen neu’n rhentu cartref. Cyfrifir y Bil Treth Gyngor ar sail 2 oedolyn yn yr eiddo. Ond mewn rhai amgylchiadau cewch ostyngiad yn y bil. Efallai eich bod chi’n gymwys i gael gostyngiad neu ddisgownt am fwy nag un rheswm.
Efallai y byddwch yn gymwys i dalu llai o Dreth Gyngor os:
- rydych yn byw mewn cartref incwm-isel
- rydych yn byw ar ben eich hun
- rydych yn fyfyriwr
- mae gennych nam meddyliol difrifol
- rydych yn anabl
- mae eich eiddo yn wag
Eich awdurdod lleol sy’n cyfrifo eich bil treth gyngor felly dylech gysylltu â nhw os ydych yn meddwl y gallech gael disgownt neu ostyngiad.
Defnyddiwch ein holiadur gwirio i weld a oes modd ichi dalu llai.