Neidio i'r prif gynnwy

3. Byw ar ben eich hun

Mae oedolion sy’n byw ar ben eu hunain yn cael disgownt ar y Dreth Gyngor. Mae disgownt ar gael hefyd pan fo un oedolyn yn byw gyda rhai grwpiau o bobl:

  • Os taw chi yw’r unig oedolyn sy’n byw yn yr eiddo cewch ddisgownt o 25% ar eich Treth Gyngor
  • Os taw chi yw’r unig oedolyn sy’n byw yn yr eiddo a’ch bod yn un o’r categorïau isod, gallech gael disgownt o 50%
  • Os taw chi yw’r unig oedolyn sy’n byw gydag un neu fwy o bobl yn un o’r categorïau isod, cewch ddisgownt o 25%
  • Os ydych yn byw gydag un neu fwy o bobl sydd yn un o’r categorïau isod a’ch bod chi hefyd yn un o’r categorïau, gallech gael 50% o ddisgownt.

Categorïau

  • Person 17 oed neu iau.
  • Person 18 oed y mae rhywun â hawl i gael Budd-dâl Plant ar eu cyfer.
  • Person o dan 20 oed sydd wedi gadael yr ysgol neu goleg ar ôl 30 Ebrill yn y flwyddyn honno. (Ni chânt eu cyfrif ar gyfer Treth Gyngor tan 1 Tachwedd yn yr un flwyddyn, p’un a ydynt yn cymryd swydd neu beidio yn ystod y cyfnod hwnnw).  
  • Person sydd ar gynllun hyfforddiant y llywodraeth neu rai cynlluniau prentis.
  • Myfyriwr llawn-amser (gan gynnwys myfyrwyr ar gwrs gohebu neu gwrs ar-lein).
  • Myfyriwr nyrsio
  • Cynorthwywyr Addysgu Iaith ar raglen swyddogol y Cyngor Prydeinig
  • Cymar, partner sifil neu ddibynnydd myfyriwr (nad yw’n Ddinesydd Prydeinig) sydd, o dan y rheolau mewnfudo, wedi’i atal rhag cymryd swydd neu hawlio budd-daliadau yn y DU
  • Person â nam meddyliol difrifol
  • Person sy’n aros mewn rhai hostelau neu lochesi nos e.e. Hostel Byddin yr Iachawdwriaeth neu Hostel Byddin yr Eglwys
  • Person sy’n byw mewn hostel sy’n darparu gofal neu driniaeth am ei fod yn oedrannus, â nam corfforol neu feddyliol, â salwch meddwl yn y gorffennol neu’r presennol, neu ddibyniaeth ar alcohol/cyffuriau yn y gorffennol neu’r presennol
  • Gweithiwr gofal cyd-fyw
  • Person sydd yn y carchar neu wedi’i gadw dan glo naill ai am ei fod yn aros i gael ei allgludo neu o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl (oni bai bod eu dedfryd am beidio talu’r Dreth Gyngor neu ddirwy)
  • Rhywun sy’n byw mewn hostel fechnïaeth neu hostel brawf.
  • Aelod o Gymuned grefyddol
  • Aelod o lu arfog gwadd a’i ddibynyddion
  • Person sy’n gofalu (llawn-amser) am rywun ag anabledd (heblaw gŵr, wraig, partner neu blentyn o dan 18)
  • Claf sy’n cael triniaeth hirdymor ac yn byw yn yr ysbyty o’r herwydd
  • Person sy’n byw mewn cartref gofal, cartref nyrsio neu gartref nyrsio iechyd meddwl
  • Diplomat

Os ydych yn tybio y gallech fod yn gymwys, dylech gysylltu ag adran treth gyngor eich awdurdod lleol.