Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom ni

Ers 1 Ebrill 2018 rydym wedi casglu a rheoli'r trethi datganoledig canlynol, a ddyluniwyd ac a grëwyd i Gymru gan Lywodraeth Cymru: 

  • Treth Trafodiadau Tir
  • Treth Gwarediadau Tirlenwi

Rydym yn sefydliad Gwasanaeth Sifil, a ni yw’r adran anweinidogol gyntaf a grëwyd gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn angerddol am ein gwaith, yn codi refeniw i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, fel y GIG ac ysgolion, mewn cymunedau ledled Cymru. 

Rydym wedi arloesi ffordd Gymreig o drethu o'r enw 'Ein Dull'. Rydym yn defnyddio'r dull hwn i weithio gyda threthdalwyr ac eraill er mwyn sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei thalu ar yr adeg gywir. Drwy gydweithio, rydym yn helpu i ddarparu system dreth deg i Gymru.

Rydym yn seilio popeth a wnawn ar ein cynllun corfforaethol. Mae hwn yn nodi ein diben, ein hamcanion strategol a’n huchelgeisiau tymor hwy. Rydym yn adrodd ar ein gwaith yn flynyddol - gweler ein hadroddiad blynyddol a’n cyfrifon diweddaraf.

Rydym yn sefydliad ystwyth ac aml-sgiliau, sy'n cyflogi tua 80 o bobl sydd â sgiliau a phrofiad sy'n cwmpasu 14 o broffesiynau gwahanol. Rydym yn hyrwyddo arloesi, cydweithredu a gwneud penderfyniadau ar y cyd. Ac rydym yn grymuso ac yn ymddiried yn ein pobl i weithio gyda lefelau uchel o gyfrifoldeb ac ymreolaeth.

Rydym wedi gweithio mewn ffordd hybrid yn ystod 2022 a 2023. Mae gan ein pobl lefel uchel o ymgysylltiad, a daethom yn drydydd o dros 100 o gyflogwyr yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2022. Gallwch ddysgu mwy am yr hyn mae ein pobl yn ei feddwl o weithio i ni drwy edrych ar ein canlyniadau Arolwg Pobl diweddaraf.

Mae mwy o wybodaeth amdanom ni ar wefan LLYW.CYMRU.

Ein Dull

Mae Ein Dull yn gyfuniad o dri therm: Cydweithio, Cadarnhau, Cywiro, ac fe'i hysbrydolwyd gan Ein Siarter, sy'n cynnwys wyth cred, gwerth a chyfrifoldeb a rennir.

  • Cydweithio: sydd ag ymdeimlad o weithio gyda'n gilydd tuag at nod cyffredin
  • Cadarnhau: sy’n awgrymu cadernid y gellir dibynnu arno. Mae hyn yn ymwneud â darparu sicrwydd, bod yn gywir ac atgyfnerthu ymddiriedaeth
  • Cywiro: sy’n ymwneud â'r ffordd rydym yn gweithio gyda chi i ddatrys gwallau neu bryderon

Fel Gweision Sifil, rydym hefyd yn cadw at werthoedd craidd Cod y Gwasanaeth Sifil:

  • gonestrwydd
  • uniondeb
  • didueddrwydd
  • gwrthrychedd 

Gallwch ddarganfod mwy am Ein DullEin Siarter a’n Cynllun Corfforaethol 2022 i 2025 ar ein gwefan.

Cydraddoldeb yn ACC

Datblygwyd ein hamcanion cydraddoldeb strategol ar gyfer 2020 i 2024 fel rhan o Bartneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru. Partneriaeth a ddechreuwyd gennym ym mis Ebrill 2019 ynghyd â Chwaraeon Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ers hynny mae’r bartneriaeth hon wedi tyfu i gynnwys cyfanswm o 10 corff cyhoeddus:

  • Awdurdod Cyllid Cymru
  • Chwaraeon Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Comisiynydd y Gymraeg
  • CCAUC (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru)
  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Amgueddfa Cymru
  • AaGIC (Addysg a Gwella Iechyd Cymru)
  • Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Cyfunodd y bartneriaeth adnoddau i greu 5 amcan cydraddoldeb strategol ar y cyd a chytuno ar gamau gweithredu a mesurau ar y cyd ar gyfer 2020 i 2024. Byddem yn cydweithio ar ddatblygu’r amcanion hyn drwy gydol y cyfnod hwnnw, gan ddylanwadu ar amcanion sefydliad-benodol fel y bo'n briodol i bob corff.

Comisiynodd y bartneriaeth Diverse Cymru i ymgysylltu ac ymgynghori ar ran y bartneriaeth. Cynhaliwyd digwyddiadau ymgynghori ledled Cymru a chawsom 43 o ymatebwyr i'n dogfen ymgynghori. Cafodd canlyniadau hyn eu bwydo i'n hamcanion terfynol.

Roedd gwaith ac amcanion y bartneriaeth yn destun Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac yn dilyn Pum Ffordd o Weithio Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae'r amcanion terfynol a'r nodau sy’n benodol i ACC yn ein Cynllun ac Amcanion Cydraddoldeb Strategol (2020 i 2024), pedair blynedd gyntaf a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2020.

Ein Hadroddiad Cydraddoldeb Blynyddol

Heddiw (29 Mawrth 2024) rydym yn falch o gyhoeddi ein Hadroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2024 (sy’n ymwneud â’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023).

Ein data cydraddoldeb

Recriwtio

Fel rhan o'n proses recriwtio, rydym yn casglu data ar bob un o'r 9 nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010:

  • oed
  • anabledd
  • rhyw
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • statws priodasol
  • crefydd neu gred
  • hil ac ethnigrwydd
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • ailbennu rhywedd

Gofynnir i ddarpar ymgeiswyr gwblhau holiadur cydraddoldeb hunanddatgan pan fyddan nhw’n gwneud cais am ein swyddi. Mae'r data hwn yn cael ei gadw'n ddiogel o fewn ein system tracio ymgeiswyr yn unol â'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol.

Ein pobl

Rydym yn casglu data ar 8 o'r 9 nodwedd warchodedig ar gyfer ein pobl. Rydym yn cofnodi 4 nodwedd warchodedig ar ffeil Adnoddau Dynol (AD) unigolion:

  • oed
  • rhyw
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • statws priodasol

Dim ond ein tîm AD a'r rhai sy'n cefnogi ein system sydd â mynediad i'r uchod, ac mae gennym fesurau i sicrhau mai dim ond pan fo rhesymau busnes dilys y caniateir mynediad.

Gofynnwn i'n pobl hunanddatgan 4 nodwedd warchodedig arall ar eu proffil ar ein System AD:

  • crefydd neu gred
  • statws anabledd
  • hil ac ethnigrwydd
  • cyfeiriadedd rhywiol

Rydym wedi annog ein pobl i hunanddatgan y wybodaeth hon ers mis Hydref 2018. Mae ei gwblhau'n ddewisol ond rydym yn annog ein pobl i’w gwblhau gan fod data cryf yn ein helpu i greu gwell polisïau pobl a deall pa mor amrywiol yr ydym fel sefydliad. Ar hyn o bryd mae ein lefelau datgan tua 71%.

Nid ydym yn cofnodi achosion ailbennu rhywedd ar hyn o bryd. Rydym yn credu y gallai cofnodi'r wybodaeth hon mewn sefydliad mor fach gael effaith negyddol ar breifatrwydd unigolion a byddai'r set ddata yn rhy fach i'w dadansoddi.

Ein gwasanaethau treth

Wrth ddarparu ein gwasanaethau treth, rydym yn casglu data ar oedran trethdalwyr sy'n talu Treth Trafodiadau Tir. Rydym yn casglu'r wybodaeth hon gan ei bod yn ein helpu i sicrhau bod y person cywir yn talu’r swm cywir o dreth. Nid ydym yn cofnodi'r wybodaeth at ddibenion cydraddoldeb.

Mae cwsmeriaid eraill yn cynnwys gweithwyr proffesiynol fel cyfreithwyr a thrawsgludwyr. Rydym wedi edrych ar ba ddata cydraddoldeb sydd ar gael eisoes ar gyfer y grwpiau proffesiynol hyn, fel y wybodaeth sy’n cael ei chasglu gan eu cyrff aelodaeth proffesiynol ac yn ei ddefnyddio i lywio ein penderfyniadau, er enghraifft, wrth gwblhau Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb. 

Oni bai bod ein sylfaen cwsmeriaid yn newid, megis pe baem yn ymgymryd â gwasanaeth refeniw newydd, nid ydym yn disgwyl casglu data cydraddoldeb yn uniongyrchol gan ein cwsmeriaid.

Cwynion

Rydym yn annog adborth cymaint â phosibl er mwyn gwella ein gwasanaethau. 

Wrth dderbyn cwynion, nid ydym yn gofyn i unrhyw un roi data amrywiaeth i ni. Rydym yn credu y gallai gofyn i bobl gwblhau ffurflenni datgan amrywiaeth greu rhwystrau i bobl sy'n rhoi adborth i ni. Byddwn yn parhau i adolygu'r dull hwn.

Os ydym yn derbyn cwyn sy’n cyfeirio at wahaniaethu, neu nodweddion gwarchodedig eraill, caiff ei chofnodi a'i hanfon at ein Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu i'w hadolygu. Nid ydym wedi cael unrhyw gwynion o'r fath hyd yma.

Ein dull o ymwneud â phreifatrwydd wrth gasglu a chyhoeddi data

Ar 31 Mawrth 2023, roeddem yn cyflogi bron i 80 o bobl. Mae dehongli data amrywiaeth yn ystyrlon yn anodd mewn sefydliad o faint ein un ni, lle gall nifer fach o unigolion newid canrannau ar draws y sefydliad yn sylweddol. Mae hefyd yn golygu na allwn gyhoeddi'r rhan fwyaf o'n data amrywiaeth sy'n ymwneud â'r 9 nodwedd warchodedig.

Fel sefydliad, rydym yn rhoi pwys mawr ar ddiogelu preifatrwydd pobl a'u data, gan gydymffurfio'n llawn â Deddf Diogelu Data 2018. Mae hyn yn berthnasol i’n: 

  • pobl
  • cwsmeriaid
  • rhanddeiliaid
  • ymgeiswyr swyddi

Nid ydym yn cyhoeddi data a allai ddatgelu hunaniaeth unigolyn neu grŵp bach o unigolion, er mwyn diogelu preifatrwydd. Mae hyn yn golygu na fyddwn yn cyhoeddi data grwpiau sydd â llai na 10 o bobl. 

Byddwn yn cyhoeddi data lle gallwn ni, fel arall, byddwn yn darparu naratif.

Rydym yn casglu data ar gyfer y bobl sy'n ymgeisio am swyddi gyda ni, a’r rhai a gyflogir gennym. Rydym yn adolygu ein data cydraddoldeb yn Tîm Arwain, sef tîm gweithredol ACC, a’n Bwrdd. Rydym yn defnyddio’r hyn a allwn ni o'r data hwn er mwyn ystyried pa mor dda rydym yn gwneud a thrafod meysydd i'w gwella.

Ein pobl

Fe wnaethom adolygu'r wybodaeth am amrywiaeth ar gyfer ein hymgeiswyr am swyddi a'n gweithlu presennol ar 31 Mawrth 2023. Mae'r hyn y gallwn ni ei gyhoeddi isod:

Gweithwyr yn ôl Gradd
GraddMenywodDynion
Uwch Wasanaeth Sifil------
Gradd 6 a 71213
Uwch Swyddog Gweithredol (SEO) a Swyddog Gweithredol Uwch (HEO)1416
Swyddog Gweithredol (EO)10---
Cymorth Tîm------

Cynrychiolir dynion a menywod ar bob lefel o'r sefydliad, o'n prentisiaid i'n Bwrdd.

Dynion yw 48.1% o'n sefydliad, a menywod 51.9%. Yn ystod cyfnodau tebyg, roedd hyn yn cyd-fynd yn fras â'r Gwasanaeth Sifil, sydd â 45.4% yn ddynion a 54.6% yn fenywod.

Ar 31 Mawrth 2023:

  • roedd 2 o'r 6 aelod o Tîm Arwain (ein Tîm Gweithredol) yn fenywod
  • roedd 5 allan o 9 aelod ein Bwrdd yn fenywod
  • mae cyfran y dynion a'r menywod yn weddol gyfartal ar draws y graddau, ond mae mwy o fenywod ar raddau is

Mae rhaniad ein graddau ar sail rhywedd yn rhywbeth rydym yn ei adolygu yn gyson. 

Bwlch cyflog ar sail rhywedd

Ers 2017, mae cyflogwyr sydd â 250 neu fwy o weithwyr wedi gorfod cyhoeddi ac adrodd ffigurau penodol am eu bwlch cyflog ar sail rhywedd.

Rydym yn gyflogwr rhy fach iddo fod yn ofynnol i ni gyhoeddi ein bwlch cyflog ar sail rhywedd ond rydym yn ei gyfrifo ac yn ei gyflwyno'n flynyddol i'n Tîm Arwain i'w drafod ac i weithredu yn ei gylch.

Mae ein cyfrifiadau'n dangos bod ein cyflog cymedrig a chanolrifol yn sylweddol uwch i ddynion nag i fenywod. Y rheswm am hyn yw, yn y cyfnod adrodd, bod cyfran uwch o fenywod mewn graddau islaw ein pwynt cyflog canolrifol, sydd o fewn y raddfa gyflog SEO. Fodd bynnag, mewn sefydliad bach fel ACC, gall y niferoedd hyn newid yn sylweddol pan fo dim ond ychydig o bobl yn ymuno neu'n gadael y sefydliad.

Mae ein system gyflogau wedi’i graddoli yn seiliedig ar naill ai 3 neu 4 pwynt o fewn y radd (yn dibynnu ar y radd), gyda'n pobl yn symud drwy’r pwyntiau ar ôl pob blwyddyn o wasanaeth nes eu bod yn cyrraedd pwynt uchaf y radd. 

Yn 2020 gwnaethom weithredu polisi newydd o dalu wrth gael dyrchafiad, er mwyn trin ein staff a fu mewn rôl dros dro cyn cael eu gwneud yn barhaol, yn fwy cyfartal. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol barhaus ar ein bwlch cyflog ar sail rhywedd

Rydym yn sefydliad bach sy’n cynnwys 14 o broffesiynau gwahanol. Mae rhai o'r proffesiynau hynny'n cael eu dominyddu gan un rhywedd yng ngweithlu’r DU, megis:

  • Digidol, Data a Thechnoleg (sy'n cynnwys dynion yn bennaf)
  • Adnoddau Dynol (sy’n cynnwys menywod yn bennaf)

Mae ein graddfeydd cyflog ar ein tudalen gweithio i ni.

Gweithwyr yn ôl patrwm gwaith a math o gontract

Mae ein gweithwyr yn ôl patrwm gwaith a rhywedd yn set ddata rhy fach i'w chyhoeddi, fodd bynnag, mae mwy o fenywod na dynion yn gweithio’n rhan-amser.

Rydym yn annog diwylliant lle gall pobl weithio'n hyblyg ac rydym yn gwerthfawrogi effaith modelu rôl, gyda dynion a menywod sy’n ein Tîm Arwain yn gweithio patrymau gweithio hyblyg. Rydym:

  • yn falch o arddangos y logo Hapus i Siarad am Weithio Hyblyg ar ein gwefan
  • yn hysbysebu pob swydd fel rhai sydd ar gael i weithwyr rhan-amser, gweithwyr sydd am rannu swydd, neu weithio’n hyblyg
  • â phroses agored ar gyfer gwneud cais i weithio'n hyblyg ac rydym yn annog rheolwyr llinell i siarad â’u tîm am y cyfleoedd ar gyfer trefniadau gweithio amgen
  • yn darparu'r dechnoleg fel y gall ein pobl i gyd weithio'n hyblyg gartref, yn y swyddfa neu wrth deithio, er mwyn eu helpu i sicrhau cydbwysedd bywyd gwaith

Dim ond nifer fach iawn o bobl yr ydym yn eu cyflogi ar gontractau dros dro, sy'n set ddata rhy fach i'w chyhoeddi. Mae nifer y gweithwyr dros dro ac asiantaeth ar draws y flwyddyn yn ein hadroddiad blynyddol a chyfrifon.

Gweithwyr yn ôl oedran

Mae gennym weithlu sylweddol iau na'r Gwasanaeth Sifil yn ehangach. Rydym wedi darparu'r data lle gallwn ni, ond mae rhai setiau data’n rhy fach i'w cyhoeddi:

 ACCGwasanaeth Sifil
Canolrif oedran4144
16 i 19---0.3%
20 i 2914%16.4%
30 i 3934%22.4%
40 i 4931%22.8%
50 i 5919%27.2%
60 i 64---8.3%
65+---2.7%

Ymgeiswyr am swyddi

Yn 2022 i 2023, gwnaethom:

  • dderbyn 239 o geisiadau am swyddi
  • cynnal 49 cyfweliad
  • penodi 12 aelod newydd o staff

Ni allwn gyhoeddi unrhyw ddadansoddiad pellach o'r data hwn. Dyma rai o'n sylwadau:

  • rhywedd: ymgeisiodd mwy o ddynion na menywod am rolau gyda ni, a dewiswyd mwy o ddynion na menywod hefyd ar gyfer eu penodi 
  • oed: roedd mwyafrif yr ymgeiswyr rhwng 30 a 44 oed a nhw hefyd oedd y grŵp a ddewiswyd fwyaf ar gyfer eu penodi 
  • ethnigrwydd: roedd 9% o'r holl geisiadau a dderbyniwyd gan bobl yn datgan eu hunain fel ethnigrwydd heblaw gwyn. Roedd hyn ychydig yn uwch na’r 8% a welwyd y flwyddyn flaenorol.
  • anabledd: roedd 13% o'r holl geisiadau a dderbyniwyd gan bobl a ddatganodd eu bod yn anabl. Roedd hyn ychydig yn uwch na'r flwyddyn flaenorol. Gallai nifer gwirioneddol yr ymgeiswyr anabl fod yn uwch na’r 12% a welwyd y flwyddyn flaenorol.
  • priodas a phartneriaeth sifil, rhywioldeb, crefydd neu gred: roedd y gyfran uchaf o ymgeiswyr a nododd ei bod yn 'well gen i beidio â dweud' o bob cwestiwn cydraddoldeb yn ymwneud â rhywioldeb, sef 16%
  • ailbennu rhywedd, beichiogrwydd/mamolaeth: mae’r ffigurau hyn yn rhy fach i’w rhannu nac i ddarparu naratif

Ein Bwrdd

Mae ein Bwrdd yn cynnwys 6 Aelod Anweithredol, 2 Gyfarwyddwr Gweithredol ac Aelod Staff Etholedig (gweithiwr a gaiff eu penodi i'r Bwrdd drwy bleidlais staff). Mae'r Aelod Staff Etholedig yn aelod llawn o'r Bwrdd, sy’n rhannu eu profiad a'u barn eu hunain, a gallant fod o unrhyw radd. 

Oherwydd nifer y bobl sy'n rhan o'n Bwrdd, ni ellir cyhoeddi'r rhan fwyaf o’r data amrywiaeth. Un maes y credwn sy'n briodol i'w rannu yw dadansoddiad o’n Bwrdd ar sail rhywedd (ar 31 Mawrth 2023) roedd:

  • 5 yn fenywod 
  • 4 yn ddynion 

Hyfforddiant

Rydym yn cofnodi faint o bobl sydd wedi cwblhau hyfforddiant lle mae cost ynghlwm â’r peth a gallwn gymharu hyn yn erbyn nodweddion amrywiaeth. Fodd bynnag, nid yw hwn yn faes sy'n peri pryder ac mae’n rhywbeth y byddwn yn parhau i'w fonitro.

Data na ellir ei gyhoeddi

Mae rhai setiau data sy'n rhy fach i'w cyhoeddi nac i ddarparu naratif arnynt.

Caiff y data hwn ei fonitro'n fewnol gan ein tîm AD ac fe'i hadolygir yn rheolaidd. Hyd yn hyn nid oes unrhyw fater sy’n peri pryder; ond byddwn yn darparu naratif pan fo hynny’n bosibl.

Mae’r data perthnasol yn cynnwys:

  • dynion a menywod yn ôl eu swydd
  • pobl sydd wedi gadael y sefydliad
  • pobl sydd wedi symud yn fewnol neu sydd wedi gwneud cais i wneud hynny
  • pobl sy'n rhan o gwynion
  • pobl sy'n rhan o achosion disgyblu

Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb a'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol

Rydym yn ystyried ein rhwymedigaethau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (y ddyletswydd gyffredinol) fel y’u nodir yn:

  • Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011
  • Rheoliadau’r Ddeddf Cydraddoldeb (Awdurdodau sy'n ddarostyngedig i Ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Cymru) 2021

Mae hyn yn cynnwys dileu neu leihau anfanteision a ddioddefir gan bobl oherwydd eu nodweddion gwarchodedig a phobl sy'n dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol. 

Mae'r ddyletswydd gyffredinol yn nodi bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru, fel ACC, wneud y canlynol er mwyn cydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol:

  • asesu effaith debygol polisïau ac arferion arfaethedig
  • asesu'r effaith ar unrhyw bolisi neu arfer rydym wedi penderfynu ei adolygu neu ei ddiwygio
  • monitro effaith polisïau ac arferion

Mae Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael eu hadolygu gan Tîm Arwain neu gan ein Bwrdd. Mae hyn yn sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ei ystyried yn briodol wrth wneud penderfyniadau strategol. Rydym yn parhau i adeiladu ar wybodaeth a hyder ein pobl trwy hyrwyddo cyfleoedd i ddysgu am anfanteision economaidd-gymdeithasol.

Yn 2022 i 2023, ni chanfu unrhyw asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb effeithiau negyddol sylweddol ar unrhyw grŵp.

Cynnydd yn erbyn ein hamcanion 2022 i 2023

Amcan 1: cynyddu’r ddealltwriaeth o gydraddoldeb ar draws ein sefydliad

Mae pob un o'n pobl wedi cwblhau hyfforddiant cydraddoldeb fel rhan o'u cyfnod sefydlu. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant penodol yn ôl yr angen a gweithgareddau, gwybodaeth a digwyddiadau eraill drwy gydol y flwyddyn er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth. Er enghraifft:

  • uwch arweinwyr yn cael mentora o chwith
  • hybu cydraddoldeb drwy rannu fideos, erthyglau, hyfforddiant a phrofiadau byw gyda'n pobl
  • digwyddiadau ymwybyddiaeth iechyd meddwl
  • hyfforddiant staff cyfan ar ddeall a hyrwyddo amrywiaeth yn y sefydliad a'n gwasanaethau, roedd hyn yn cynnwys Creu Gweithleoedd Cynhwysol, Sgyrsiau Gofod Diogel, Delio ag Ymddygiad Microymosodol a Deall Ymddygiad Gwahaniaethol

Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bob aelod o'r panel recriwtio ymgymryd â hyfforddiant Recriwtio Teg y Gwasanaeth Sifil. 

Amcan 2: deall amrywiaeth ein cwsmeriaid a'n gweithwyr yn well

Rydym yn parhau i ddefnyddio data sydd ar gael i'r cyhoedd er mwyn deall amrywiaeth ein cwsmeriaid. Rydym yn defnyddio data sydd ar gael i’r cyhoedd ac adborth gan gwsmeriaid i asesu effeithiau ein polisïau a'n prosesau ar ein cwsmeriaid.

Er ein bod eisoes yn casglu llawer o ddata am drethdalwyr ar gyfer ffurflenni a thaliadau treth, ni chesglir dim o’r data hwn at ddibenion sefydlu amrywiaeth ein cwsmeriaid. Ni allwn gasglu data amrywiaeth drwy ffurflenni treth. Ar hyn o bryd, dim ond data sy'n gysylltiedig ag oed sy'n cael ei gofnodi ar ffurflenni treth, a allai ddarparu dadansoddiad o'r fath i ni.

Rydym yn dysgu'n barhaus am ein cwsmeriaid, drwy ddadansoddi data, ymchwil defnyddwyr ac ymgysylltu â defnyddwyr, i wella ein gwasanaethau er mwyn bodloni eu hamrywiol anghenion. Mae deall anghenion ein cwsmeriaid yn rhan bwysig o'n dull o weithredu a bydd yn parhau felly. O ran sicrhau ein data amrywiaeth ein hunain am ein cwsmeriaid, byddwn yn parhau i adolygu hyn.

Rydym wedi parhau i ddatblygu dealltwriaeth o amrywiaeth ein pobl, fel sydd wedi'i amlinellu uchod. Rydym yn annog ein pobl i hunanddatgan, ac mae ein cyfradd datgan bresennol tua 71%, sydd ychydig yn is nag yn 2022 oherwydd bod mwy o bobl wedi ymuno ag ACC. Rydym yn dal i ystyried hyn yn gyfradd ddatgan flaengar ac yn parhau i weithio tuag at annog mwy o bobl i hunanddatgan trwy sefydlu cyd-ymddiriedaeth a chyd-ddealltwriaeth.

Amcan 3: cynyddu hygyrchedd ein gwybodaeth gyhoeddedig a'n gwasanaethau o'r dechrau i'r diwedd, gan gynnwys ein system dreth

Rydym wedi parhau i wneud cynnydd cadarnhaol yn erbyn yr amcan hwn ac rydym wedi bod yn gweithio tuag at gyflawni ein Datganiad Hygyrchedd sydd wedi’i gyhoeddi ar LLYW.CYMRU 

Rydym wedi sicrhau bod ein cynnwys newydd yn hygyrch ac rydym yn defnyddio Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG). Rydym wedi datblygu cynllun ac yn rydym parhau i wella ein cynnwys presennol ymhellach.

Rydym yn defnyddio dull HTML yn gyntaf ar gyfer ein cyhoeddiadau, fel yr adroddiad hwn neu ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon, gan ein bod yn gwybod fod hwn yn fformat mwy hygyrch. 

Rydym wedi diweddaru ein hystadegau cyhoeddedig er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni canllawiau hygyrchedd ar gyfer siartiau, tablau a thaenlenni cyhoeddedig. 

Rydym wedi parhau i godi ymwybyddiaeth o hygyrchedd a chymorth digidol â chefnogaeth. Mae gennym bolisi darparu mwy o gymorth ar gyfer ein cwsmeriaid sydd angen cymorth ychwanegol.

Rydym wedi darparu hyfforddiant ac adnoddau hygyrchedd ar gyfer ein pobl. Mae enghreifftiau'n cynnwys sut i adeiladu gwasanaethau hygyrch a sut i ysgrifennu cynnwys hygyrch.

Rydym hefyd yn profi hygyrchedd gwasanaethau newydd. Er enghraifft, gwnaethom gomisiynu a chyflawni camau gweithredu archwiliad hygyrchedd allanol o'n cyfrifiannell Treth Trafodiadau Tir a’n cyfrifiannell rhyddhad anheddau lluosog.

Mae ein gwasanaethau a’n cynnwys i gyd yn ddwyieithog.

Amcan 4: cynyddu hygyrchedd ein digwyddiadau allanol

Ni wnaethom gynnal unrhyw ddigwyddiadau allanol wyneb yn wyneb yn 2022 i 2023 er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

Mae ein digwyddiadau ar-lein yn ystyried dysgu hygyrchedd a sut y gallwn wneud y rhain yn fwy hygyrch. Er enghraifft, mae gennym brosesau ar waith er mwyn darparu capsiynau ar gyfer ein gweminarau ar-lein i gefnogi cwsmeriaid sydd â nam ar eu clyw neu fyddardod.

Amcan 5: cael ein hystyried yn gyflogwr teg gan ein pobl a’r sawl sy’n ymgeisio am ein swyddi

Rydym yn falch ein bod yn y safle uchaf ar gyfer Cynhwysiant a Thriniaeth Deg yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2022, allan o dros 100 o sefydliadau.

Yn ystod 2022 i 2023, gwnaethom barhau i weithio tuag at gynnal ein statws Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 3, sef y lefel uchaf sydd ar gael. Rydym yn falch iawn ein bod wedi cyflawni hyn ym mis Tachwedd 2022. 

Rydym yn cymryd camau i wneud ein prosesau recriwtio yn deg ac yn hygyrch ac yn:

  • cynnig Cynllun Gwarantu Cyfweliad, lle mae ymgeiswyr sydd ag anableddau sy'n bodloni gofynion sylfaenol y rôl yn cael gwarantu cyfweliad
  • cynnig yr holl rolau newydd fel rhai gweithio hyblyg/rhan-amser/rhannu swydd yn ddiofyn ac yn arddangos logo 'Hapus i Drafod Gweithio Hyblyg' ar ein deunyddiau recriwtio a'n gwefan
  • derbyn ceisiadau am swyddi mewn fformatau amgen
  • parhau i gynnig cyfweliadau rhithwir ar gyfer y mwyafrif o'n rolau
  • cynnig 'sgyrsiau hygyrchedd cyn cyfweliad' i bawb sy'n cael cyfweliad 
  • dadansoddi ein hysbysebion am iaith ryweddol 
  • recriwtio ar-lein a chynnig cynnal gwiriadau cyn cyflogi o bell er mwyn cynyddu cynhwysiant
  • cynnig cymorth drwy ein darparwr iechyd galwedigaethol i rai sy’n dechrau o’r newydd a'n pobl presennol, ynghyd â gwefan a llinell ffôn Rhaglen Cymorth i Weithwyr (EAP)
  • hyrwyddo'r gallu i ymuno â rhwydweithiau cymorth staff Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl anabl a grwpiau eraill sydd mewn lleiafrif yn ystod y cyfnod sefydlu ac ar ein mewnrwyd
  • cynnig asesiadau offer sgrin arddangos (DSE) i'n pobl i gyd a'i gwneud yn hawdd cael offer arbenigol neu addasiadau rhesymol 
  • darparu cyfleoedd ar gyfer hyfforddi, mentora a mentora
  • cofrestru ar gyfer addewid Dim Hiliaeth Cymru
  • cyflwyno 'sesiynau gwybodaeth i ymgeiswyr' er mwyn rhoi gwell hygyrchedd i'n swyddi a chefnogaeth i ymgeiswyr
  • cynnal 'sgwrs hygyrchedd cyn cyfweliad' er mwyn helpu i ddileu rhwystrau a'i gwneud yn haws i ddarpar ymgeiswyr drafod eu hanghenion hygyrchedd ac addasiadau rhesymol
  • hyrwyddo proses Pasbort Addasiadau i’r Gweithle y Gwasanaeth Sifil er mwyn lleihau'r baich ar bobl sydd angen addasiadau er mwyn gwneud eu rôl, gan ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i weithredu addasiadau rhesymol
  • cynnig hyfforddiant ar arferion recriwtio i reolwyr llinell 
  • parhau i adolygu a gwneud gwella hygyrchedd ein tudalennau gwe recriwtio, rhybuddion swyddi, ein dogfennau a’n prosesau, gan ei gwneud yn haws gwneud cais am swyddi gyda ni

Amcan 6: dileu rhwystrau i ymuno a ffynnu yn y gweithlu drwy annog gweithio hyblyg

Mae gweithio hyblyg yn cael ei ystyried yn rhan o'n diwylliant ac mae ein staff yn ei werthfawrogi, gyda'r rhan fwyaf o'n timau’n gweithio'n hyblyg. Rydym yn defnyddio'r logo Hapus i Siarad am Weithio Hyblyg ar ein hysbysebion swyddi a'n gwefan. Rydym yn hysbysebu pob un o’n swyddi fel rhai lle gellir gweithio'n rhan-amser, yn hyblyg, neu ar sail rhannu swydd, oni bai bod rheswm busnes penodol dros beidio â’u hysbysebu felly. 

Yn ystod 2022 i 2023, bu ein pobl yn gweithio gartref y rhan fwyaf o'r amser. Fel sefydliad sy’n seiliedig y cwmwl, rydym wedi parhau i ddefnyddio technoleg newydd er mwyn gwella sut rydym yn gweithio. Mae sicrhau llesiant ein pobl wedi bod yn brif flaenoriaeth.

Ymhlith y camau a gymerwyd gennym yn y cyfnod hyd at fis Mawrth 2023 roedd:

  • arwain rheolwyr llinell ar gefnogi aelodau o’u timau a oedd angen trefniadau gweithio mwy hyblyg, er enghraifft, oherwydd cyfrifoldebau gofalu 
  • annog timau i ddod at ei gilydd at ddibenion cydweithio a chymdeithasu 
  • lansio diwrnodau cwrdd i ffwrdd sefydliad cyfan fel bod pobl yn gallu dod at ei gilydd i rannu gwybodaeth a chydweithio wyneb yn wyneb
  • parhau i adolygu asesiadau offer sgrin arddangos a sicrhau addasiadau rhesymol, er enghraifft drwy archebu offer ychwanegol fel cyfarpar i godi gliniaduron, neu i roi cynhaliaeth i’r cefn
  • parhau i ddarparu asesiadau ar-lein mwy arbenigol lle bo angen
  • lansio gweithgareddau llesiant rheolaidd drwy ein Grŵp Llesiant er mwyn hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio ystyrlon yn y gwaith a chefnogi ein 5 maes llesiant
  • gofyn am adborth gan ddechreuwyr newydd er mwyn sicrhau bod y profiad sefydlu a chynefino yn addas i'r diben
  • gofyn am fewnbwn gan ein pobl drwy arolygon pwls er mwyn deall anghenion ein pobl o ran sut y gallwn gydweithio'n effeithiol 

Amcan 7: nodi a dileu rhagfarn ac annhegwch o'n system gyflogau

Rydym yn falch o fod yn gyflogwr achrededig gyda'r Sefydliad Cyflog Byw ers 2020. Mae pob un o’n rolau’n destun gwerthuso swyddi er mwyn dileu rhagfarn neu annhegwch o ran tâl.

Rydym yn monitro ac yn adolygu ein bwlch cyflog ar sail rhywedd yn rheolaidd ac yn chwilio am arwyddion o fylchau cyflog eraill. Er mae ein maint bach fel cyflogwr yn ein hatal rhag cyfrifo’n ystyrlon fwlch cyflog ar sail ethnigrwydd neu anabledd, er enghraifft.