Neidio i'r prif gynnwy

Ystadegau dros dro ar ysgolion, athrawon a disgyblion ym mis Ionawr 2023.

Data ar ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim

Ar ôl rhyddhau’r prif ystadegau hyn am y tro cyntaf ar 25 Mai 2023, dadansoddwyd y data’n fwy manwl gennym fel rhan o’n rhaglen waith arferol a gododd rai pryderon ynghylch y data cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim. Er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon hyn, fe wnaethom gynnal dilysiad ychwanegol o’r data hwn ar ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim gydag awdurdodau lleol.

Canlyniad y dilysiad ychwanegol hwn oedd bod rhai disgyblion a oedd ond yn derbyn prydau ysgol am ddim oherwydd gwarchodaeth drosiannol neu drwy'r polisi prydau ysgol am ddim cynradd cyffredinol wedi'u cofnodi'n anghywir fel rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim drwy'r meini prawf modd (mae disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth, gweler Prydau ysgol am ddim: gwybodaeth i rieni a gofalwyr). Gweler isod am wybodaeth am warchodaeth trosiannol. O ganlyniad i'r cywiriadau a dderbyniwyd gan awdurdodau lleol, mae canran y disgyblion rhwng 5 a 15 oed yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ym mis Ionawr 2023 trwy'r meini prawf prawf modd wedi'i ddiwygio i lawr o 23.9% i 22.2%. Mae'r data hwn bellach yn cael ei ystyried yn derfynol.

Tabl 1: Nifer a chanran y disgyblion 5 i 15 sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (PYDd) neu o dan warchodaeth drosiannol (TP), Ionawr 2023
 GwreiddiolDiwygiedig
Nifer sy'n gymwys i PYDd91,49185,057
% sy'n gymwys i PYDd23.922.2
Nifer TP yn unig18,85124,920
% TP yn unig4.96.5
Nifer sy'n gymwys i PYDd neu TP110,342109,977
% sy'n gymwys i PYDd neu TP28.828.7

Ffynhonnell: 

Efallai bod nifer y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim drwy'r meini prawf modd hefyd wedi cael eu dros gofnodi yn 2020 i 2022, ond nid yw'n bosibl adolygu'r data hwn. Gall y dros gofnodi hyn fod yn rhannol oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), a gyflwynodd her sylweddol i ysgolion ac awdurdodau lleol ac a arweiniodd yn uniongyrchol at atal neu ganslo nifer o gasgliadau data. Hefyd, hyd yn oed pan aeth casgliadau yn eu blaen, mae'n bosibl bod pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi cael goblygiadau pellach ar ansawdd y data na fyddai wedi bod yn amlwg ar unwaith. Fel y dangosir isod, effeithiwyd ar gyfrifiadau'r ysgol yn 2020 i 2022 gan bandemig y coronafeirws (COVID-19):

  • Ni chynhaliwyd y broses ddilysu derfynol arferol yng nghyfrifiad Ionawr 2020 fel rhan o Setliad Cyllid Llywodraeth Leol Cymru oherwydd y cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf o fis Mawrth 2020.
  • Gohiriwyd cyfrifiad 2021 tan fis Ebrill 2021 oherwydd yr ail gyfyngiadau cenedlaethol yng Ngwanwyn 2021.
  • Gohiriwyd cyfrifiad 2022 tan fis Chwefror 2022 oherwydd dychweliad graddol ar gyfer disgyblion yn dilyn gaeaf 2021.

Byddwn yn gwneud mwy o waith i ddeall yn llawn y rhesymau dros y diwygiadau a sut i wella ansawdd data yn y dyfodol, yna cyhoeddi blog / adroddiad ansawdd gyda'r canfyddiadau yn ystod yr wythnosau nesaf.

Ar hyn o bryd rydym ond yn cyhoeddi set gyfyngedig o wybodaeth. Byddwn yn rhyddhau ein cyfres lawn arferol o ddata drwy Daenlen Dogfen Agored a StatsCymru ym mis Medi 2023.

Prif bwyntiau ar gyfer Ionawr 2023

  • Roedd 1,463 ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 7 llai o’i gymharu ag Chwefror 2022.
  • Roedd 469,872 (r) disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 1,259 (r) llai na mis Chwefror 2022.
  • O’r 383,065 (r) disgybl 5 i 15 oed, roedd 22.2% (r) yn gymwys am brydau ysgol am ddim. Nid yw’r ffigurau yma yn cynnwys gwarchodaeth drosiannol (gweler isod).
  • Roedd 28.7% (r) o ddisgyblion 5 i 15 oed yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu o dan warchodaeth drosiannol, i fyny o 26.9% ym mis Chwefror 2022.
  • Roedd 63,089 (r) disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion a gynhelir (13.4% o'r holl ddisgyblion), i lawr o 74,661 (15.8%) ym mis Chwefror 2022.
  • Roedd 10,499 (r) o ddisgyblion â Chynlluniau Datblygu Unigol o dan y system ADY newydd mewn ysgolion a gynhelir (16.6% o’r holl ddisgyblion a ADY neu AAA), i fyny o 3,330 (4.5%) ym mis Chwefror 2022. Gweler y nodyn isod.
  • Roedd 24,884 (r) o athrawon cymwysedig cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion a gynhelir, 228 (r) yn fwy na mis Chwefror 2022.

(r) Diwygiwyd ar 16 Awst 2023.

Newidiadau i ddata anghenion addysgol arbennig (AAA) yn dilyn Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Daeth Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y Cod ADY) a rheoliadau i rym ar 1 Medi 2021 i sicrhau bod plant a phobl ifanc 0 i 25 oed yn gallu cael mynediad at gymorth ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion sydd wedi’i gynllunio’n briodol a’i ddiogelu, gyda dysgwyr wrth galon y broses.

Mae gweithredu ar waith, gyda phlant yn symud o’r system anghenion addysgol arbennig (AAA) i’r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) mewn grwpiau dros 4 blynedd tan fis Awst 2025. Ar 20 Mawrth 2023, mewn ymateb i adborth gan y sector, cyhoeddodd Gweinidog Y Gymraeg ac Addysg estyniad i’r cyfnod gweithredu o 3 i 4 blynedd. Bydd hyn yn caniatáu mwy o amser i symud dysgwyr o'r system AAA i'r system ADY ac yn creu mwy o hyblygrwydd i'r cyrff hynny sy'n gyfrifol am y broses hon.

Mae’r Cod ADY wedi’i weithredu mewn partneriaeth ag arweinwyr trawsnewid addysg, partneriaid darparu a sefydliadau addysg, gyda rhaglen ddysgu a datblygu, a chreu rolau statudol newydd mewn awdurdodau lleol, ysgolion a’r gwasanaeth iechyd.

Roedd cyfrifiad ysgolion 2022 blwyddyn diwethaf yn cynrychioli’r cyflwyniadau cyntaf gan Gydlynwyr ADY penodedig ledled Cymru, fel rhan o Weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

Mae dadansoddiad o’r data, ynghyd ag adborth gan awdurdodau lleol yn awgrymu bod y gostyngiad yn nifer y disgyblion ADY/AAA dros y ddwy flynedd diwethaf o ganlyniad i adolygiad systematig gan ysgolion o’u cofrestrau ADY/AAA yn barod ar gyfer cyflwyno’r system ADY. Tynnwyd y disgyblion hynny ag anghenion lefel isel, na nodwyd bod ganddynt ADY/AAA cydnabyddedig, oddi ar y gofrestr.

Gofynnwyd hefyd i ysgolion beidio defnyddio’r categori ‘Anawsterau dysgu cyffredinol’ ac i ailasesu categori priodol o angen ar gyfer disgyblion o’r fath. Roedd y categori hwn wedi dod yn un cyffredinol ar gyfer y rhai yr oedd angen cymorth dal i fyny arnynt, gyda mân anghenion a/neu le'r oedd anghenion lluosog yn bodoli, yn lle ei fwriad gwreiddiol, sef dal dysgwyr a oedd yn aros am asesiad. Mae hyn wedi arwain at dynnu rhai disgyblion oddi ar y gofrestr os canfyddir nad oedd ganddynt ADY/AAA. Mae’r categori ‘Anawsterau dysgu cyffredinol’ wedi cael ei ddileu o gyfrifiad ysgolion 2023.

Yn ogystal, mae llawer o ddisgyblion ar Gynlluniau Gweithredu Gan Yr Ysgol (y rhai sydd angen y swm lleiaf o ddarpariaeth addysgol arbennig) wedi'u tynnu oddi ar y gofrestr ADY/AAA. Roedd hyn naill ai oherwydd bod eu hanghenion yn rhai tymor byr ond eu bod wedi parhau ar y gofrestr, neu nid oes angen darpariaeth ychwanegol neu wahanol i'r hyn a ddarperir ar gyfer dysgwyr eraill, y gellir mynd i'r afael â hi fel rhan o ddarpariaeth gyfannol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro’r niferoedd drwy gydol gweithredu’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod y data’n adlewyrchiad cywir o niferoedd a chategorïau’r dysgwyr ag ADY yng Nghymru.

Gwarchodaeth drosiannol ar gyfer prydau ysgol am ddim

Ar 1 Ebrill 2019 cyflwynodd Llywodraeth Cymru polisi gwarchodaeth drosiannol newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim. Daethpwyd â hyn i mewn i sicrhau bod prydau ysgol am ddim y disgyblion yn cael eu gwarchod yn ystod y cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol.

Mae'r warchodaeth hon yn berthnasol i ddisgyblion unigol a bydd yn parhau tan ddiwedd eu cyfnod ysgol bresennol, sef diwedd ysgol gynradd neu ddiwedd ysgol uwchradd.

Dylai unrhyw ddisgybl a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wrth gyflwyno'r polisi ar 1 Ebrill 2019 hefyd gael gwarchodaeth drosiannol. Yn ogystal, dylid gwarchod unrhyw ddisgybl sydd wedi dod yn gymwys ar unrhyw adeg yn ystod y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol o dan y meini prawf cymhwysedd newydd.d.

Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd (UPFSM)

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, bydd holl blant ysgol gynradd Cymru yn cael prydau ysgol am ddim erbyn 2024. Dechreuodd y broses gyflwyno ym mis Medi 2022 gyda’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn darparu prydau ysgol am ddim i blant oed Derbyn o’r dechrau tymor yr hydref (Medi 2022) ac ymestyn y cynnig i flynyddoedd 1 a 2 heb fod yn hwyrach na dechrau tymor yr haf (Ebrill 2023).

Er bod y broses hon o gyflwyno prydau ysgol am ddim i’r rhai nad oeddent yn gymwys i’w cael o’r blaen wedi dechrau, nid yw’r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn adlewyrchu cyfanswm nifer y disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim ym mis Ionawr 2023. Yn hytrach, mae ond yn cynnwys nifer y disgyblion sy’n gymwys i brydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau penodol (fel yr adroddwyd mewn blynyddoedd blaenorol). Gweler y canllaw gwybodaeth prydau ysgol am ddim am fanylion llawn y meini prawf cymhwysedd a'r buddion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Canlyniadau'r cyfrifiad ysgolion (prif ystadegau): Ionawr 2023 (diwygiad) , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 10 KB

ODS
10 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Geraint Turner

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.