Defnyddio canlyniadau (addas i blant 3-7 oed)
Canlyniad yw rhywbeth y byddwch chi’n ei wneud ar ôl i’ch plentyn ymddwyn mewn ffordd benodol. Mae canlyniadau positif a negyddol. Ceisiwch roi canlyniadau positif ar gyfer ymddygiad positif eich plentyn yn amlach nag y byddwch yn rhoi canlyniadau negyddol am ymddygiad digroeso.
Ceisiwch addasu canlyniadau yn ôl anghenion a galluoedd eich plentyn. Dewiswch ganlyniadau sy’n cyfateb i oedran a dealltwriaeth eich plentyn a’u gwneud yn deg a rhesymol.
Enghreifftiau o ganlyniadau:
- Os yw’ch plentyn yn rhannu ei degan, cofiwch ei ganmol.
- Os yw’ch plentyn yn mynd i’r gwely’n ddiffwdan, darllenwch stori arall iddo.
- Os yw’ch plentyn yn taflu tywod, mae’n gorfod cael hoe o’r pwll tywod am funud neu ddau.
- Os yw plant yn ymladd dros degan, mae’r tegan yn cael ei osod ar y silff am 10 munud.
- Os yw’ch plentyn yn dwyn tegan gan blentyn arall, dylai adael y man chwarae am 5 munud.
- Os yw’ch plentyn yn gwrthod gwisgo, eglurwch na fydd yn gallu gwneud yr hyn roeddech wedi’i gynllunio ar gyfer y diwrnod, dim ond aros yn y tŷ.
- Os yw’ch plentyn yn dadlau gyda phlant eraill, dylai adael y man chwarae am 5 munud i eistedd i lawr a meddwl a myfyrio gyda chi.
Canolbwyntiwch mwy ar ganmol a rhoi sylw i’ch plentyn am ymddwyn mewn ffyrdd rydych chi’n eu hoffi. Fel arfer, mae hyn yn arwain at lai o ganlyniadau negyddol.
Cyngor ar wneud canlyniadau’n fwy effeithiol
- Cysylltu ymddygiad da â gweithgaredd y mae eich plentyn yn ei fwynhau a rhowch ganmoliaeth wirioneddol, “Da iawn am gadw dy deganau, nawr beth am ddarllen llyfr gyda’n gilydd”.
- Os ydych chi’n defnyddio canlyniadau yn yr un ffordd ac am yr un ymddygiad bob tro, bydd eich plentyn yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Fe all fod yn werth i chi feddwl am ganlyniadau ymlaen llaw, cyn i’r ymddygiad ddigwydd, yn hytrach na cheisio ei wneud pan fyddwch chi wedi’ch cynhyrfu. Mae’n helpu’ch plentyn i ddysgu o’r canlyniad os yw’n ymwneud yn rhesymegol â’r ymddygiad, er enghraifft cadw tegan o’r neilltu os yw’n cael ei daflu.
- Os ydych chi’n cadw’r canlyniadau’n syml a chryno, bydd eich plentyn yn gallu rhoi cynnig arall ar ymddwyn fel rydych chi’n ei hoffi.
- Dyw plant ifanc ddim yn gallu canolbwyntio am lawer. Mae’n well syniad rhoi canlyniadau’n syth ar ôl yr ymddygiad er mwyn gofalu bod eich plentyn yn cofio beth oedd wedi’i wneud yr oeddech chi’n ei hoffi neu ddim yn ei hoffi.
- Wrth i’ch plentyn dyfu’n hŷn, gallwch egluro beth fydd y canlyniadau e.e., “Mi wnawn ni adael y parc os wyt ti’n dwyn pethau’n gas gan blant eraill”.
- Gallai plant hŷn hefyd elwa ar wybod pam y maent wedi cael eu tynnu o sefyllfa a pha mor hir y bydd y canlyniad. Plygwch i lawr er mwyn gallu edrych i lygaid eich plentyn ac eglurwch yn dawel beth sydd wedi digwydd a pha mor hir y dylai aros nes ei fod yn gallu ailymuno â gweithgaredd. Gallai amserydd digidol neu amserydd wy fod yn ddefnyddiol.
- Gallech geisio symud eich plentyn o weithgaredd i le tawel, os ydych gartref. Gallant gysylltu'r man yma ag amser i feddwl a myfyrio ar eu hymddygiad gyda chi. Gwnewch yn siŵr bod y man yn gwbl ddiogel.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n bwrw ymlaen â'r canlyniad, neu bydd eich plentyn yn dysgu nad ydych chi'n golygu'r hyn rydych chi'n ei ddweud.
- Cyflwyno canlyniadau'n dawel ac mewn tôn niwtral, gan osgoi dicter. Peidiwch â smacio eich plentyn na'i gosbi'n gorfforol. Mae hyn yn anghyfreithlon yng Nghymru.
Ceisiwch beidio â gwneud pethau’n bersonol. Defnyddiwch ganlyniadau fel ymateb i ymddygiad eich plentyn, ac nid fel ymateb i’ch plentyn.