Neidio i'r prif gynnwy

O 3 Gorffennaf 2023, os ydych yn gyfreithiwr neu'n drawsgludydd, dim ond ar lein y byddwch chi’n gallu ffeilio TTT.

Os ydych yn drethdalwr sydd ddim â chyfreithiwr neu drawsgludydd, bydd angen i chi gysylltu â ni i gael ffurflen TTT bapur ar ôl 3 Gorffennaf 2023.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i fewngofnodi a ffeilio ffurflen Treth Trafodiadau Tir (TTT) ar-lein fel cyfreithiwr neu drawsgludydd.

Mewngofnodwch er mwyn:

  • ffeilio ffurflenni ar-lein
  • gweld ffurflenni a gyflwynwyd
  • cynhyrchu tystysgrifau TTT

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer gweithwyr treth proffesiynol yn unig. Bydd angen i drethdalwyr sydd heb gyfreithiwr neu drawsgludydd lenwi ffurflen dreth bapur.

Gwasanaeth ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi a'ch sefydliad gofrestru ar gyfer ffeilio TTT ar-lein cyn y byddwch yn gallu defnyddio'r gwasanaeth hwn.

Os yw'ch sefydliad eisoes wedi cofrestru, ond nad oes gennych eich manylion mewngofnodi eich hun, dylech greu gyfrif defnyddiwr newydd.

Efallai y byddwch am ddefnyddio ein gwiriwr i weld a yw cod post wedi'i leoli yng Nghymru ar gyfer y TTT.

Cymorth

Os fyddwch yn anghofio eich cyfrinair, gallwch ei ailosod ar y dudalen fewngofnodi.

Os oes angen help arnoch gydag unrhyw un o'r prosesau hyn, cysylltwch â ni.

Defnyddio porwyr ar gyfer gwasanaethau ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru