Neidio i'r prif gynnwy

Nod y Fframwaith Pontio Teg yw ymwreiddio ystyriaethau pontio teg mewn cynlluniau, polisïau a phenderfyniadau a wneir ar draws pob lefel o gymdeithas Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf: 11 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Rhagfyr 2025

Cyflwyniad

Mae'n gwneud hyn trwy'r ffyrdd canlynol:

  • Disgrifio gweledigaeth o Gymru yn y dyfodol.
  • Esbonio'r tair elfen sy'n sail i bontio teg.
  • Nodi'r egwyddorion canllaw y dylid eu dilyn wrth gynllunio'r broses o bontio i sero net.
  • Darparu canllawiau i gefnogi'r rhai sy'n ysgogi'r newid.

Beth yw Pontio Teg?

Yng Nghymru, mae pontio teg yn golygu cyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2050 mewn ffordd sy'n dosbarthu'r buddion a'r costau yn deg ar draws cymdeithas Cymru. Nod pontio teg yw darparu dyfodol tecach, gwyrddach a mwy ffyniannus mewn partneriaeth â busnesau, gweithwyr a chymunedau ledled Cymru. Mae ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at bontio teg yn adeiladu ar ymrwymiadau sy'n rhwymol yn gyfreithiol i genedlaethau'r dyfodol, cydraddoldeb, partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg.

Pontio Teg: Pam?

Nid yw'r angen i ddatgarboneiddio ein heconomi erioed wedi bod mor daer. Mae datgarboneiddio a meithrin y gallu i wrthsefyll effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn her fawr o ran polisi. Bydd effeithiau'r newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio yn effeithio ar wahanol sectorau, sefydliadau, cymunedau ac unigolion mewn gwahanol ffyrdd.

Mae datgarboneiddio ein heconomi mewn ffordd sy'n cyflawni i bawb yn ychwanegu at y cymhlethdod hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi deddfu ar gyfer targed o allyriadau carbon sero net erbyn 2050 ac mae'n hanfodol bod y pontio hwn yn deg. Yn y ddogfen Cymru Sero Net (2021), gwnaeth Llywodraeth Cymru ailddatgan ei hymrwymiad i gyflawni 'pontio teg' i ffwrdd o economi seiliedig ar danwydd ffosil y gorffennol i ddyfodol carbon isel newydd, gan ddysgu gwersi o bontio blaenorol ac adeiladu dyfodol i Gymru sy'n cefnogi economi llesiant [WEALL.ORG].

Bydd cyflawni pontio teg yn golygu datblygu dealltwriaeth fwy clir o'r effeithiau posibl y bydd datgarboneiddio economi Cymru yn ei chael. Bydd hyn yn ei dro yn ein cefnogi i wneud y mwyaf o'r buddion a lliniaru'r effeithiau negyddol neu anfwriadol. Mae cynllunio ar gyfer pontio teg yn golygu meddwl am ddatgarboneiddio fel ffordd o gyflawni ein hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol, gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol ac ar draws ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol

Mae dull Llywodraeth Cymru o gynllunio ar gyfer pontio teg yn cael ei ddylanwadu'n helaeth gan ofynion deddfwriaethol gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn ein helpu i sicrhau bod camau ar yr hinsawdd yn cael eu cymryd mewn ffordd sy'n osgoi creu neu waethygu anghydraddoldebau ac yn cefnogi ymagwedd sy'n ystyried systemau tuag at ddeall risgiau a chyfleoedd a mynd i'r afael â nhw. Er eu bod yn cael eu defnyddio yn fwyaf cyffredin yng nghyd-destun lleihau allyriadau carbon, mae ystyriaethau pontio teg yr un mor gymwys mewn ymdrechion i addasu i newid yn yr hinsawdd. Fel y mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn ei gynghori, rhaid ystyried effeithiau dosbarthu os am addasu’n effeithiol a theg oherwydd gall camau addasu gael effeithiau anghyfartal, ac mae cysylltiad cryf rhwng tegwch wrth addasu â'r cysyniad o bontio teg. 

Bydd pobl wrth wraidd y pontio; felly, mae'n hanfodol ein bod yn cynnal ac yn adeiladu ymhellach ar gyfranogiad amrywiaeth eang o randdeiliaid a phartneriaid yn ein hymagwedd at ddatgarboneiddio. Mae newidiadau mewn busnesau, marchnadoedd a thechnoleg yn ffurfio'r economi ar y daith i sero net. O ran Cyllideb Carbon 2 Cymru (2021-2025), rydym wedi datblygu ein sylfaen dystiolaeth ac wedi gwella ymhellach ein dealltwriaeth o sut y bydd y pontio yn effeithio ar Gymru a sut mae ein dewisiadau defnydd yn effeithio ar rannau eraill o'r byd.

Gweledigaeth ar gyfer Cymru Sero Net yn 2050

Mae'n 2050 ac rydym wedi pontio tuag at sero net ac wedi cyflawni ein hymrwymiadau i genedlaethau'r dyfodol, gan wneud Cymru yn lle tecach, gwyrddach a mwy ffyniannus i fyw ynddo. 

Cyflawnwyd y pontio mewn partneriaeth rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, a chyda'n cymunedau – o'r cymoedd ôl-ddiwydiannol i froydd gwledig Cymru. Mae busnesau a diwydiannau Cymru yn ffynnu mewn economi gylchol werdd oherwydd y syniadau hirdymor a'r cydweithio - rhywbeth a sicrhaodd fod ein cymunedau a’n cyflogwyr wedi ymbaratoi ar gyfer y pontio a’u bod wedi manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer swyddi’r dyfodol. 

Mae gan genedlaethau'r presennol a'r dyfodol y sgiliau cywir ar gyfer swyddi gwydn, â chyflog da mewn economi sero net. Mae arferion gwaith teg wedi'u hymwreiddio ar draws pob sector, gan hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae gweithwyr yn cael eu grymuso, eu cynrychioli a'u cefnogi mewn gweithleoedd iach, cynhwysol lle mae hawliau'n cael eu parchu a chyfleoedd ar gyfer dilyniant yn hygyrch i bawb.

Rydym wedi ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth sy'n wynebu Cymru, ac yn parhau i fynd i'r afael â nhw, gan gynnwys mwy o lifogydd, erydiad arfordirol, a cholli bioamrywiaeth. Mae ein hamgylcheddau tir a môr bellach wedi'u diogelu a'u hadfer yn well, gan gefnogi natur a bywoliaeth – o ffermio cynaliadwy i gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae yna gyfleoedd economaidd hanfodol i gymunedau gwledig, lle mae cynhyrchwyr yn gallu ennill bywoliaeth dda a darparu bwyd o safon i bobl Cymru. 

Mae Cymru wedi addasu i newidiadau demograffig, gan gynnwys poblogaeth sy'n heneiddio, drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau gofal, cysylltedd digidol, ac economïau lleol. Mae pawb yn cael eu cefnogi i ffynnu yn eu cymunedau, gyda mynediad at swyddi gwyrdd, tai fforddiadwy, a dysgu gydol oes. Gwnaethom sicrhau bod iaith a diwylliant Cymru nid yn unig yn cael eu gwarchod ond yn ffynnu fel rhan o ddyfodol cynaliadwy. Mae cymunedau yn cael eu grymuso i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio arnynt, ac mae lleisiau ardaloedd gwledig, arfordirol a threfol yn cael eu gwerthfawrogi'n gyfartal.

Mae'r pontio wedi helpu i wella cysylltedd hefyd, gan ddarparu opsiynau trafnidiaeth hyfyw i bobl Cymru a mynd i'r afael â thlodi trafnidiaeth. Mae wedi helpu i gyflawni dosbarthiad teg o gostau a buddion, gyda chostau'r pontio ddim yn disgyn yn anghymesur ar ysgwyddau'r rhai sydd â'r lleiaf o allu i fforddio'r newid. 

Mae ein gweithredu ar newid hinsawdd wedi gwella iechyd a llesiant y cyhoedd, wedi lleihau tlodi tanwydd trwy gartrefi effeithlon o ran ynni, wedi hyrwyddo teithio llesol ac wedi cefnogi mynediad at fwyd iach, lleol. Mae'r newidiadau hyn wedi lleddfu'r pwysau ar systemau iechyd a gofal cymdeithasol ac wedi lleihau anghydraddoldebau ledled Cymru.

Mae'r ffocws ar economi gylchol, sy’n gostwng ein defnydd o nwyddau a deunyddiau, wedi lleihau ein heffaith fyd-eang fel bod Cymru'n defnyddio ei chyfran deg o adnoddau.

Bu pobl Cymru yn hollbwysig o ran deall effaith ein ffordd o fyw ar yr hinsawdd ac ar natur o ran gwneud y penderfyniadau iawn drostynt eu hunain, i’w cymunedau ac i’r blaned. Ar ôl y pontio annheg a ddaeth i ran Cymru yn y ganrif flaenorol, rydym yn falch o sicrhau y bydd Cymru yn arweinydd byd-eang o ran pontio teg tuag at sero net. Rydym wedi gallu defnyddio ein profiadau i helpu’r bobl hynny sydd ar flaen y gad o ran y newid hinsawdd ledled y byd.

Beth yw'r Fframwaith Pontio Teg?

Mae'r Fframwaith Pontio Teg yn nodi ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at gyflawni pontio teg i sero net erbyn 2050. Mae'r Fframwaith wedi'i anelu at y rhai sy'n cymryd camau i ddatgarboneiddio'r economi, sy'n cynnwys pob lefel o lywodraeth, busnesau, y trydydd sector, a chymunedau. Mae Llywodraeth Cymru yn annog y partïon hyn i ymwreiddio’r Fframwaith yn eu prosesau datblygu polisi a gwneud penderfyniadau presennol er mwyn helpu i leihau ymhellach anghydraddoldebau a gwella’r canlyniadau i'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan y pontio. 

Mae'r Fframwaith yn disgrifio tair elfen sy'n llywio sut y dylid datblygu polisïau a phrosiectau, a saith egwyddor canllaw y dylid eu dilyn er mwyn sicrhau bod canlyniadau'n deg i bobl a'r blaned.

Sut y datblygwyd y Fframwaith Pontio Teg

Gan adeiladu ar ein gwaith a’n hymchwil flaenorol ar ddulliau rhyngwladol [WCPP.ORG.UK], cynhaliodd Llywodraeth Cymru Alwad am Dystiolaeth, ynglŷn â Phontio Teg rhwng Rhagfyr 2022 a Mawrth 2023. Nod yr Alwad oedd ceisio deall yr effeithiau negyddol posibl, y buddion a'r arferion gorau sy'n gysylltiedig â phontio teg tuag at economi sero net yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys sut y gallwn ddefnyddio ac integreiddio dysg a gwybodaeth trwy’r penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid er mwyn deall yn well yr effeithiau a’r cyfleoedd a ddaw i ran Cymru a’r gofynion o safbwynt ategu’r pontio.

Derbyniwyd 117 o ymatebion i'r Alwad am Dystiolaeth ac mae'r wybodaeth a gyflwynwyd wedi helpu i siapio'r fframwaith drafft, a oedd yn amodol ar ymgynghoriad ffurfiol rhwng Rhagfyr 2023 a Mawrth 2024. Mae'r 106 yn rhagor o ymatebion a ddaeth i law wedi llywio'r fframwaith terfynol hwn. Fel rhan o'r ymgynghoriad, cynhaliwyd sgyrsiau hinsawdd gyda gwahanol grwpiau, gyda’r cwestiwn a ofynnwyd: "Sut mae mynd i'r afael â newid hinsawdd mewn ffordd deg?". Cyflwynwyd y canlyniad fel rhan o'r ddogfennaeth ymgynghori. 

Yn seiliedig ar ymchwil a'r broses ymgynghori, gwnaethom ddatblygu'r Fframwaith Pontio Teg, sy'n cynnwys:

  1. Tair elfen sy'n elfennau hanfodol o bontio teg.
    • Dadansoddi Effeithiau a Chyfleoedd
    • Gweithio gyda Rhanddeiliaid a Chydgysylltu Ymateb ar y Cyd
    • Integreiddio'r Pontio Teg a'i Droi'n Benderfyniadau
     
  2. Saith egwyddor canllaw sy'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

    • Buddsoddi mewn Addysg, Sgiliau ac Economi Carbon Isel
    • Addasu i Newid Hinsawdd a Gwella'r Amgylchedd Naturiol
    • Gwella Iechyd a Llesiant drwy Weithredu ar Newid Hinsawdd
    • Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau a Rhannu'r Costau a'r Buddion yn Deg
    • Cynnwys cymunedau yn y Camau Cynharaf a Drwyddi Draw
    • Cefnogi a Gwella Diwylliant Cymru a'r Gymraeg
    • Ystyried yr Effeithiau Byd-eang ar Bobl ac ar y Blaned
     
  3. Canllawiau i helpu i lunio'r broses o bontio tuag at sero net ar sawl lefel.

Y Fframwaith Pontio Teg

Tair Elfen

Mae'r tair elfen yn nodi'r elfennau y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw er mwyn sicrhau bod pontio teg gwirioneddol yn cael ei gynllunio. Mae'r elfennau'n cyd-fynd â'r pum ffordd o weithio fel yr amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n cefnogi'r gred na fydd pontio teg yn cael ei gyflawni heb weithredu yn erbyn y tair elfen. Yr elfennau yw:

Dadansoddi Effeithiau a Chyfleoedd

Dadansoddi cyfleoedd ac effeithiau negyddol posibl a sut y mae'r effeithiau a'r cyfleoedd yn gydgysylltiedig. Er enghraifft, sut y gall cyfleoedd sy'n gysylltiedig â phontio i wresogi carbon isel ddarparu cyfleoedd i liniaru tlodi tanwydd ac arallgyfeirio'r gweithlu.

Gweithio gyda Rhanddeiliaid a Chydgysylltu Ymateb ar y Cyd

Cydnabod bod angen cynnwys y rhai yr effeithir arnynt fwyaf o fewn dull aml-sector a chydlynol os ydym am wneud y mwyaf o'r cyfleoedd ar gyfer pontio teg. Er enghraifft, trwy ymgysylltu'n ymgynghorol â chymunedau wedi'u targedu.

Integreiddio'r Pontio Teg a'i Droi'n Benderfyniadau

Cynllunio ar gyfer Pontio Teg mewn gwahanol gyd-destunau trwy ymwreiddio Egwyddorion Canllaw y Fframwaith yn brosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau. Er enghraifft, wrth osod cynllun datgarboneiddio sefydliad.

Bydd llawer o sefydliadau eisoes yn gweithredu yn unol â'r elfennau mewn ffurfiau amrywiol – pwrpas y Fframwaith yw tynnu sylw at bwysigrwydd y meysydd hyn mewn perthynas â sicrhau pontio teg. Mae'r tabl ar y dudalen nesaf yn darparu cyfres o gwestiynau yn erbyn pob un o'r tri elfen, gan ddangos yr aliniad â'r pum ffordd o weithio, ac yn cynorthwyo datblygwyr polisi a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau yn eu cynlluniau ar gyfer pontio.

Dadansoddi Effeithiau a Chyfleoedd

Sut mae cyfleoedd ac effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol hirdymor y polisi hwn wedi'u dadansoddi, ac a oes sylfaen dystiolaeth gref?

Sut y gall y pontio atal rhagor o anghydraddoldebau ac ysgogi dyfodol mwy cadarnhaol i gymunedau, gweithluoedd, busnesau ac amgylchedd Cymru?

Sut y bydd y gwaith o ddosbarthu effeithiau a chyfleoedd y polisi yn cael eu hystyried o safbwynt croestoriadol er mwyn atal anghydraddoldeb gwaeth?

Sut mae'r polisi hwn yn integreiddio nodau llesiant lluosog (e.e. iechyd, yr hinsawdd a'r economi)?

A all integreiddio ar draws sectorau ddarparu buddion a chyfleoedd ehangach? 

Gweithio gyda Rhanddeiliaid a Chydgysylltu Ymateb ar y Cyd    

Sut mae anghenion a dyheadau hirdymor cymunedau yr effeithir arnynt wedi'u hystyried?

Pa fewnwelediadau y gallwn eu defnyddio i'n helpu i atal anghydraddoldebau yn y dyfodol, gan gynnwys gan y rhai sydd â phrofiadau bywyd?

A ydym yn cynnwys rhanddeiliaid o wahanol sectorau i nodi buddion integredig, trawsbynciol?

A all dull cydweithredol feithrin ymddiriedaeth a rhanberchnogaeth gyda phartneriaid cyflawni?

Sut mae'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan y polisi wedi bod yn rhan o'r broses o'r cychwyn cyntaf?

Sut yr ydym wedi sicrhau bod y cydweithio a'r cyfranogi wedi bod yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn gynrychiadol?    

Integreiddio'r Pontio Teg a'i Droi'n Benderfyniadau

Sut mae meddwl yn yr hirdymor wedi'i ymwreiddio yn ein prosesau gwneud penderfyniadau?

Sut mae'r polisi yn integreiddio penderfyniadau sy'n helpu i ddileu'r rhwystrau systemig sy'n effeithio'n anghymesur ar wahanol grwpiau o bobl, e.e. Cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol?

Sut yr ydym yn monitro a gwerthuso effeithiolrwydd mesurau ataliol?

Sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud gyda phersbectif integredig system gyfan?

Sut mae dulliau cydweithredol wedi'u hymwreiddio mewn strwythurau gwneud penderfyniadau?

Beth yw'r broses ar gyfer cynnwys rhanddeiliaid trwy gydol y cylch polisi?

A yw cymunedau'n ymwneud â dylanwadu ar benderfyniadau, nid ymateb iddynt yn unig?

Egwyddorion Canllaw

Er mwyn helpu i sicrhau ymagwedd gyson, rydym wedi datblygu egwyddorion canllaw sy’n bwriadu helpu bartïon i gynllunio ac integreiddio pontio teg mewn ffordd sy’n cyd-fynd a Nodau Llesiant Cenedlaethol Cymru, fel y nodir yn Neddf LlCD. Caiff y rhain eu seilio ar arferion gorau rhyngwladol a bennir mewn gwaith ymchwil , enghreifftiau a ddeilliodd o'n Galwad am Dystiolaeth, ac adborth o'r broses ymgynghori. 

Cyfresi o Gwestiynau ar gyfer y Saith Egwyddor Canllaw

Nod Llesiant: Cymru Lewyrchus

Egwyddor Pontio Teg

Buddsoddi mewn Addysg, Sgiliau ac Economi Carbon Isel    

Cwestiynau allweddol
  • Pa gyfleoedd economaidd y gellir eu datgloi gan y newid neu'r polisi arfaethedig hwn?
  • A yw'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y pontio ar gael? Os na, a oes cymorth neu gyfleoedd y gallwch eu darparu i helpu i ddiwallu anghenion yn y dyfodol?
  • Sut y bydd y pontio yn ysgogi buddsoddiad mewn busnesau presennol neu newydd, yn ein gweithlu ac mewn sgiliau?
  • Sut y bydd y pontio yn cefnogi creu swyddi o ansawdd uchel sy'n ddiogel, yn cynnig cyflog teg, ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer dilyniant a datblygu?
  • Pa ymddygiadau y mae'r pontio yn eu cymell a’u datgymell?
  • Sut y bydd y pontio yn cefnogi'r economi leol ac yn lliniaru effeithiau negyddol posibl?

Nod Llesiant: Cymru Gydnerth  

Egwyddor Pontio Teg  

Addasu i Newid Hinsawdd a Gwella'r Amgylchedd Naturiol    

Cwestiynau allweddol
  • A yw cyfleoedd ac effeithiau amgylcheddol y pontio wedi'u hasesu gan ddefnyddio ffynonellau tystiolaeth dibynadwy?
  • Sut y bydd y pontio yn effeithio ar fioamrywiaeth ac iechyd ecosystemau?
  • Sut y bydd y pontio yn cyfrannu at liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd ac addasu iddynt?
  • Sut y bydd y pontio yn hyrwyddo economi gylchol , gan annog effeithlonrwydd adnoddau a lleihau gwastraff?

Nod Llesiant:Cymru Iachach

Egwyddor Pontio Teg

Gwella Iechyd a Llesiant drwy Weithredu ar Newid Hinsawdd    

Cwestiynau allweddol
  • Sut y bydd y pontio, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn effeithio ar benderfynyddion ehangach iechyd a lles?
  • Sut y bydd y pontio yn cyfrannu at ymddygiadau a ffyrdd iach o fyw?
  • Sut y bydd y pontio yn lleddfu'r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol?

Nod Llesiant: Cymru sy'n fwy Cyfartal

Egwyddor Pontio Teg

Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau a Rhannu'r Costau a'r Buddion yn Deg    

Cwestiynau allweddol
  • Pa grwpiau o bobl sy'n debygol o gael eu heffeithio'n gadarnhaol ac yn negyddol gan y pontio a beth y gellid ei wneud i liniaru'r effeithiau negyddol, a gynyddu'r effeithiau positif?
  • Sut y bydd y pontio yn mynd i'r afael â thlodi ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal, gan gynnwys i bobl o gefndiroedd wedi’u hymyleiddio?
  • Sut mae effeithiau croestoriadol (e.e. rhywedd ac ethnigrwydd) yn cael eu hystyried?

Nod Llesiant: Cymru sy'n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang

Egwyddor Pontio Teg

Ystyried yr Effeithiau Byd-eang ar Bobl ac ar y Blaned

Cwestiynau allweddol
  • A fydd y pontio yn cael unrhyw effeithiau amgylcheddol a/neu gymdeithasol dramor, er enghraifft datgoedwigo neu amodau gwaith gwael? Os felly, a ellir lliniaru unrhyw effeithiau negyddol, ac a oes cyfleoedd i gael effaith gadarnhaol?
  • Sut mae'r pontio yn effeithio ar ôl troed byd-eang Cymru  neu ar allyriadau'r gadwyn gyflenwi?
  • Sut y bydd y pontio yn cyfrannu at arferion da byd-eang a gwybodaeth a rennir?
  • A ellir dysgu gwersi o brosesau pontio tebyg eraill ledled y byd?

Nod Llesiant: Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu 

Egwyddor Pontio Teg

Cefnogi a Gwella Diwylliant Cymru a'r Gymraeg    

Cwestiynau allweddol
  • Sut mae grwpiau a chymunedau lleol wedi bod yn ymwneud â'r pontio, gan sicrhau hunaniaeth a thraddodiadau cymunedol cryfach?
  • Sut mae pontio yn hyrwyddo neu'n diogelu treftadaeth ddiwylliannol a hunaniaeth Gymreig a'r iaith Gymraeg?
  • Sut y bydd y pontio yn cefnogi mynediad at ddiwylliant ac amrywiaeth diwylliant?
  • A yw arferion traddodiadol neu systemau gwybodaeth lleol wedi'u hintegreiddio i'r polisi?

Nod Llesiant: Cymru o Gymunedau Cydlynus    

Egwyddor Pontio Teg

Cynnwys cymunedau yn y Camau Cynharaf a Drwyddi Draw

Cwestiynau allweddol
  • Sut y bydd rhanddeiliaid yr effeithir arnynt yn cael eu cynnwys trwy gydol y prosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau?
  • Pa fecanweithiau sy'n bodoli ar gyfer cyfranogi parhaus, adborth, a chyd-ddylunio, h.y. dylunio atebion i broblemau gyda phobl sy'n cael eu heffeithio, yn hytrach nag ar eu cyfer?
  • A yw grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio  neu wedi'u tangynrychioli'n  yn cael eu cynnwys yn weithredol wrth wneud penderfyniadau?
  • Sut y bydd y pontio yn cefnogi cymunedau diogel, deniadol a chysylltiedig?
     

Diffiniadau yn y cyfresi o gwestiynau

Croestoriadedd

Y ffordd gymhleth, gronnol y mae effeithiau ffurfiau lluosog o wahaniaethu (fel hiliaeth, rhywiaeth, a dosbarthiaeth) yn cyfuno, yn gorgyffwrdd, neu'n croestorri yn enwedig ym mhrofiadau unigolion neu grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio. Diffiniad Merriam-Webster.

Ymyleiddio

Wedi'i ddiraddio i safle dibwys, di-rym mewn cymdeithas neu grŵp. Diffiniad Merriam-Webster.

Wedi'u tangynrychioli

Os yw math o berson neu beth wedi'i dangynrychioli mewn grŵp neu sefydliad, nid oes digon ohonynt ynddo. 

Diffiniad Geiriadur Caergrawnt.

Sut i ddefnyddio’r Fframwaith

Rydym yn gofyn i bob parti – y sector cyhoeddus ehangach, y sector preifat, y trydydd sector a chymunedau – ddefnyddio'r Fframwaith wrth ddatblygu polisi a gwneud penderfyniadau. Gall unigolion ym maes yr hinsawdd a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar unrhyw lefel ddefnyddio'r Fframwaith i helpu i sicrhau bod effeithiau a chyfleoedd gweithredu ar yr hinsawdd yn cael eu dosbarthu'n deg ar draws cymdeithas. Rhaid cymryd camau yn erbyn pob un o'r tair elfen er mwyn deall ble mae'r risgiau a'r cyfleoedd, a sut y gall cyrff cyhoeddus, busnesau a chymunedau gymryd rhan, er mwyn llywio'n well y penderfyniadau a wneir. Dylid dilyn yr egwyddorion canllaw drwy gydol y broses er mwyn sicrhau bod sefydliadau'n cyfrannu at nodau llesiant Cymru. Dylid defnyddio'r Fframwaith ar y cyd â phrosesau sefydliadol cyfredol fel ei fod yn ychwanegu gwerth at ddewisiadau ac yn cael ei ymwreiddio mewn arferion gwneud penderfyniadau. 

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r Fframwaith

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r Fframwaith Pontio Teg wrth ddatblygu polisi i gefnogi ein targedau sero net. Bydd yn ganolog i ddatblygiad ein cynllun Cyllideb Carbon 3 (2026-2030). Bydd gweithredu'r Fframwaith yn golygu cydweithio â meysydd polisi Llywodraeth Cymru, cyrff sector cyhoeddus, busnesau'r sector preifat a grwpiau cymunedol, i brofi sut y cymhwysir y Fframwaith yn y cyd-destunau hynny. Bydd y profion hyn yn cryfhau'r gwaith o ddatblygu canllawiau a chymorth sydd wedi'u targedu i raddau mwy. 

Mae'r camau canlynol yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r Fframwaith i lywio ei gwaith ar y daith tuag at Gymru Sero Net. Mae'r camau gweithredu yn dangos sut, fel llywodraeth, y byddwn yn cryfhau pob un o'r tair elfen i gefnogi pontio teg i sero net. 

Dadansoddi Effeithiau a Chyfleoedd

Byddwn yn adeiladu ein sylfaen dystiolaeth ac yn parhau i rannu gwybodaeth am yr effeithiau a'r cyfleoedd ar draws ein sectorau allyriadau er mwyn cefnogi eraill i flaenoriaethu'r camau sydd eu hangen i wella'r gwaith o gynllunio pontio teg.

Bydd ein gwaith i sicrhau pontio teg yn cael ei lywio gan gynnydd Cymru yn erbyn ei dangosyddion a'i cherrig milltir cenedlaethol, yn ogystal â mewnwelediadau o'r Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol. Ochr yn ochr â'r offerynnau hyn, byddwn yn cael mewnwelediad o asesiadau effaith integredig Llywodraeth Cymru a sesiynau ymgysylltu â rhanddeiliaid, megis drwy fentrau fel Wythnos Hinsawdd Cymru a'r sgyrsiau ar yr hinsawdd.  

Bydd parhau â'n gwaith gyda phartneriaid rhyngwladol yn helpu i ddysgu gwersi o'u profiadau o bontio.

Gweithio gyda Rhanddeiliaid a Chydgysylltu Ymateb

Byddwn yn cydweithio â rhanddeiliaid i ddatblygu canllawiau neu offerynnau wedi'u targedu i raddau mwy i'w defnyddio mewn gwahanol gyd-destunau, er mwyn galluogi eraill i baratoi ar gyfer pontio teg.

Byddwn yn archwilio opsiynau ar gyfer cefnogi deialog effeithiol rhwng undebau llafur, busnesau a’r llywodraeth, gan sicrhau bod gweithwyr yn deall y cyfleoedd, y risgiau a’r buddion sy’n gysylltiedig â phontio teg. 

Bydd gweithio gyda chydweithwyr yn y sector cyhoeddus yn allweddol i rannu gwybodaeth am gynllunio a gweithredu pontio teg. Byddwn yn defnyddio'r strwythurau presennol i barhau â'r drafodaeth bwysig hon.   

Byddwn yn gweithio gyda chymunedau ac yn adeiladu ar fentrau fel y Sgyrsiau am yr Hinsawdd er mwyn sicrhau cyfranogiad teg y cyhoedd ar faterion newid hinsawdd.

Integreiddio Pontio Teg yn y Gwaith o Wneud Penderfyniadau

Byddwn yn ymwreiddio egwyddorion canllaw Pontio Teg ym mholisïau Llywodraeth Cymru drwy asesiadau effaith integredig o bolisïau. Bydd pob asesiad yn edrych ar y sefyllfa yn groestoriadol, gan ystyried y gwahanol nodweddion gwarchodedig fel hil, anabledd, oedran, hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, a statws economaidd-gymdeithasol, ochr yn ochr â'i gilydd. Os rhagwelir y bydd polisïau yn cael effaith sylweddol ar allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy waith sgrinio'r asesiadau effaith integredig, bydd yn ofynnol iddynt gynnal asesiad effaith carbon llawn ochr yn ochr â'r asesiad effaith pontio teg. 

Byddwn yn profi'r Fframwaith i gefnogi llunwyr polisi a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau trwy'r gwaith o ddatblygu canllawiau neu offerynnau wedi'u targedu i raddau mwy.

Y Sector Cyhoeddus

Mae cyrff sector cyhoeddus a chyrff rhanbarthol sy'n gwneud penderfyniadau yn bartïon allweddol o safbwynt sicrhau llwyddiant pontio teg, a hynny ar sail eu gwybodaeth leol. Wrth ddatblygu cynlluniau pontio neu ddiweddaru cynlluniau ar lefel sefydliad fel cynlluniau datgarboneiddio, dylai cyrff cyhoeddus gynnwys ystyriaethau pontio teg gan ddefnyddio tair elfen y Fframwaith a'r saith egwyddor canllaw. Bydd hyn yn helpu wrth osod cyfeiriadau a deall yr effeithiau a'r cyfleoedd ehangach sy'n gysylltiedig â gwaith y sefydliad.

Wrth ddatblygu polisïau a fydd yn helpu i gyflawni ein huchelgeisiau sero net, dylai cyrff cyhoeddus ddefnyddio'r Fframwaith yn fuan yn y broses ac ochr yn ochr â'u prosesau cyfredol ar gyfer llunio polisïau. Bydd y tair elfen yn helpu i gasglu'r dystiolaeth angenrheidiol, yn ysgogi dull cydweithredol, a sicrhau bod pontio teg yn cael ei ystyried trwy gydol y broses o wneud penderfyniadau polisi. Bydd defnyddio'r saith egwyddor canllaw yn helpu cyrff cyhoeddus i ystyried eu gweithgareddau yng nghyd-destun y saith nod llesiant.

Bydd rhoi'r Fframwaith Pontio Teg ar waith drwy weithredu ar yr hinsawdd yn helpu gyrff cyhoeddus gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol o fewn y ddeddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Deddf Cydraddoldeb (y DU) 2010, a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

Busnes, y Trydydd Sector a Grwpiau Cymunedol

Gall busnesau, fel cyrff cyhoeddus, ddefnyddio'r Fframwaith Pontio Teg wrth ddatblygu cynlluniau a pholisïau. Wrth ddatblygu cynlluniau pontio neu ddiweddaru cynlluniau cyfredol ar lefel sefydliad, dylid defnyddio'r Fframwaith yn fuan yn y broses i helpu i lywio sut mae cynlluniau yn cael eu datblygu ac yna cyfeirio atynt wrth gyflawni camau gweithredu mewn perthynas â'r cynlluniau. Ceir rhagor o fanylion am gamau penodol y gall busnesau eu cymryd, sy'n berthnasol i'w sector, yn llyfryn canllaw Datgarboneiddio Busnes Llywodraeth Cymru

Bydd dilyn yr egwyddorion canllaw a sicrhau bod camau gweithredu yn cael eu cymryd yn erbyn pob un o'r tair elfen – yn unol â’u perthnasedd i brosesau sefydliadol – yn helpu i sicrhau pontio tecach.

Pontio Teg fel Taith

Mae cyflawni Pontio Teg yn daith—proses gyfunol, esblygol o symud o orffennol echdynnol i ddyfodol adfywiol, wedi'i arwain gan degwch, cyfranogiad a gofal am bobl a'r blaned. Mae'r Fframwaith Pontio Teg hwn yn offeryn a all helpu i lywio'r broses esblygol honno. Fel offeryn byw, bydd y Fframwaith yn cael ei ailadrodd a'i wella trwy adborth gan randdeiliaid, gan sicrhau bod y Fframwaith a'r broses o bontio i sero net yn parhau i fod yn ymatebol, yn deg ac yn effeithiol dros amser. Rydym yn parhau i wella ein dealltwriaeth o'r hyn y mae pontio teg yn ei olygu yn ymarferol. Drwy ddangosyddion cenedlaethol Cymru, a'r data a'r dystiolaeth sy'n sail i'r gwaith o lunio polisïau Llywodraeth Cymru, gellir monitro a gwerthuso cynnydd tuag at bontio teg, gan fynd i'r afael â bylchau ac addasu strategaethau dros amser. Bydd adborth ar y Fframwaith yn cefnogi ei welliant parhaus a’n gobaith yw y bydd yn blatfform ar gyfer trafodaethau ar sut y gallwn gyda'n gilydd ddod yn wlad fwy cynaliadwy a gwydn.

Canllawiau

Dadansoddi Effeithiau a Chyfleoedd

Er mwyn helpu i gynllunio pontio teg, dangosodd yr Alwad am Dystiolaeth ei bod yn hanfodol diffinio’r effeithiau (y risgiau a’r cyfleoedd) o’r cychwyn cyntaf, a’u cofnodi mewn sylfaen dystiolaeth. Mae angen gwahanol fathau o ddadansoddiadau i lywio polisïau, gwaith cynllunio a strategaethau. Rhaid i ni ddeall y risgiau a’r cyfleoedd posibl a all ddeillio o’r pontio, gan eu mesur pan fo modd. Mae'r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, effeithiau posibl ar gyflogaeth, amodau cymdeithasol ac economaidd, rheoli tir, yr amgylchedd naturiol a diwylliant.

Mae’n arbennig o bwysig i ni ddeall sut y bydd risgiau a chyfleoedd yn cael eu dosbarthu. Bydd rhai pobl yn dioddef mwy o golledion neu fwy o galedi nag eraill. Er enghraifft, efallai bydd y rhai sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig yn cael eu heffeithio'n wahanol. Felly, mae dadansoddi cyd-destun economaidd-gymdeithasol mewn achos o newid, cynnal asesiadau o'r effaith (er enghraifft effeithiau ar gydraddoldeb, effeithiau ar blant), a deall sut y gall cyfuniad o newidiadau lluosog gynyddu colled neu galedi yn hanfodol os ydym am gyflawni'n gadarnhaol i holl gymunedau Cymru. Mae'r un mor bwysig sicrhau bod buddion y pontio yn cael eu rhannu'n deg. Mae hyn yn golygu nodi'n rhagweithiol gyfleoedd i wella canlyniadau ar gyfer grwpiau difreintiedig a sicrhau bod gwelliannau economaidd ac amgylcheddol ac o ran iechyd yn cyrraedd pob cymuned.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal y dadansoddiad hwn fel rhan o’i phrosesau datblygu polisïau, megis trwy gyfrwng asesiadau effaith integredig a thrwy ddatblygu llwybrau ar gyfer sectorau allyriadau. Bydd busnesau, y trydydd sector a chymunedau'n elwa ar ymwreiddio ystyriaethau pontio teg yn eu prosesau a'u trefniadau gwneud penderfyniadau. Mae Llyfr Gwyrdd [GOV.UK] a Llyfr Magenta [GOV.UK] Llywodraeth y DU yn darparu canllawiau ar sut i werthuso polisïau, prosiectau a rhaglenni. Mae Hwb Dyfodol yn darparu cyfleoedd i sefydliadau ddysgu oddi wrth ei gilydd a chydweithio ar syniadau ar gyfer y dyfodol a pharatoi ar gyfer dyfodol gwahanol.

Asesu'r Effeithiau a'r Cyfleoedd ar draws Sectorau Allyriadau

Mae allyriadau’n digwydd ar draws sectorau, gan gynnwys y sector tai, y sector trafnidiaeth, y sector diwydiant a busnes, y sector pŵer, y sector defnydd tir, y sector cyhoeddus a’r sector gwastraff. Trwy edrych ar dystiolaeth ar draws llwybrau’r sectorau allyriadau, gellir dadansoddi mesurau â chyd-destunau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol ehangach gyda’i gilydd, dros gyfnod o amser. Mae gennym fan cychwyn ar gyfer ystyried effeithiau a chyfleoedd y mesurau hyn ar draws y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor  gan fod gennym rywfaint o sicrwydd eisoes ynghylch rhai targedau polisi, uchelgeisiau neu dechnolegau fesul cam.

Er mwyn adeiladu ar hyn, nod ein Galwad am Dystiolaeth oedd casglu tystiolaeth a syniadau gan amrywiaeth eang o randdeiliaid, ledled Cymru a’r DU, ac ar draws ein sectorau allyriadau. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i adeiladu’r sylfaen dystiolaeth er mwyn ategu gwaith cynllunio pontio teg, gan weithio gyda rhanddeiliaid fel y bo’n briodol.

Asesu’r Effeithiau a’r Cyfleoedd yn ymwneud â Chyflogaeth a Busnes   

Yn anochel, bydd unrhyw bontio economaidd yn amharu ar y farchnad lafur. Bydd pontio yn creu swyddi newydd, yn cael gwared â rhai swyddi ac yn trawsnewid swyddi eraill. Yn 2023, cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd ei asesiad o’r gweithlu sero net. Daeth y Pwyllgor i’r casgliadau canlynol:

  • Ni fydd y mwyafrif o weithwyr yn gweld effeithiau mawr. Bydd oddeutu un rhan o bump o weithwyr yn gweld yr effeithiau mwyaf – y rhai a gyflogir ar hyn o bryd mewn sectorau a fydd â rôl hollbwysig o ran cyflawni Sero Net, yn aml yn y degawd nesaf.
  • Mae gan bontio tuag at Sero Net y potensial i greu mwy o swyddi nag a gollir, mewn sectorau carbon isel fel ôl-osod adeiladau, cynhyrchu ynni adnewyddadwy a gweithgynhyrchu cerbydau trydan.
  • Mae’r pontio’n cynnig amryw byd o gyfleoedd – yn cynnwys ysgogi twf mewn meysydd â chyflogaeth hanesyddol isel a chreu gweithlu mwy amrywiol mewn sectorau sy’n gwbl greiddiol i Sero Net. Fodd bynnag, mae risgiau ynghlwm wrth y pontio hefyd.
  • Mae gan y llywodraeth ysgogiadau polisi y gall eu defnyddio i gynorthwyo gweithwyr yn ystod y pontio tuag at Sero Net. Nid oes yn rhaid i’r llywodraeth ymyrryd ym mhob sector o’r economi, ond mae angen cynlluniau cliriach er mwyn gallu gwneud yn fawr o botensial y pontio a rheoli’r risgiau sydd ynghlwm wrtho. 

Er mwyn cynllunio pontio teg, mae angen i ni ddeall sut y gallai'r pontio effeithio ar weithwyr, gan gynnwys unrhyw effeithiau anuniongyrchol ar eu teuluoedd, sut y gallai gwahanol strategaethau pontio wella canlyniadau cyflogaeth. Bydd rhai rhannau o'r economi'n newid yn gyflymach wrth i gyfleoedd newydd ddod i'r amlwg, ac mewn gwahanol ffyrdd ar draws gwahanol rannau o Gymru. Gallai hyn arwain at heriau i fusnesau a gweithwyr o ran pontio’n llwyddiannus, dysgu sgiliau newydd neu ddiweddaru eu sgiliau presennol mewn da bryd er mwyn bodloni’r uchelgeisiau sero net hyn ar gyfer y dyfodol. O ran sefydliadau, gweithwyr ac eraill yr effeithir arnynt, mae’n bwysig iddynt weithio gyda’i gilydd i gynllunio’r pontio.

Asesu’r Effeithiau a’r Cyfleoedd ar gyfer Gwahanol Grwpiau mewn Cymdeithas 

Heb gynllunio priodol, efallai y bydd pobl â nodweddion gwarchodedig, pobl ar incwm is neu o grwpiau mwy agored i niwed yn wynebu risg uwch o ddioddef effeithiau negyddol y pontio i economi sero net. Er enghraifft, dengys data Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog ar gyfer Cymru fod cefndir ethnig heb fod yn wyn yn gysylltiedig â thebygolrwydd uwch y bydd pobl yn dioddef tlodi incwm cymharol, a bod byw gydag unigolyn anabl yn gwneud tlodi incwm cymharol yn fwy tebygol i blant a phobl o oedran gweithio.  Dim ond un enghraifft o groestoriadedd yw hon, gyda llawer o enghreifftiau eraill yn bodoli. Ceir dadansoddiad pellach gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar yr effeithiau ar wahanol aelwydydd ym Mhennod 8 o’i adroddiad ar y Seithfed Cyllideb Carbon y DU

Mae yna risgiau y gallwn eu lliniaru, a chyfleoedd y gallwn wneud yn fawr ohonynt, os ydym yn deall y gwahanol grwpiau yn ein cymunedau. Gyda'r pontio o ran sgiliau, mae gennym gyfle i greu cyfleoedd cyflogaeth newydd i grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli yn ein cymunedau. Er enghraifft, canran gymharol isel o fenywod sy’n gweithio yn y sector adeiladu [THECCC.ORG.UK], a bydd hwn yn sector pwysig wrth ôl-osod y stoc dai – efallai y bydd cyfleoedd i wneud yr yrfa yn fwy hygyrch i fenywod.

Gweithio gyda Rhanddeiliaid a Chydgysylltu Ymateb

Dangosodd yr Alwad am Dystiolaeth fod cydweithio rhwng y sector cyhoeddus, busnesau, gweithwyr, undebau a chymunedau yn hanfodol ar gyfer pob penderfyniad yn ymwneud â phontio teg. Mae cyfranogiad dinasyddion yn hanfodol wrth bontio tuag at sero net er mwyn sicrhau bod y pontio yn gyfiawn ac yn deg. Rhaid i blant a phobl ifanc gael llais fel dinasyddion y dyfodol a fydd yn gorfod byw gyda gwaddol y penderfyniadau a wnawn.

Mae’n bwysig creu deialog ymhlith rhanddeiliaid er mwyn gallu rhoi’r broses bontio ar waith. Bydd y newidiadau’n effeithio ar sefydliadau, gweithluoedd, economïau lleol a chymunedau. Felly, rhaid i ni sicrhau y bydd gennym broses glir a fydd yn galluogi’r bobl o dan sylw i gymryd rhan mewn deialog. Rydym eisiau i arbenigwyr a phobl sydd â phrofiad bywyd weithio gyda'i gilydd a chyfrannu at y gwaith o gynllunio a chyflawni pontio teg. Dylid gwneud hyn mewn ffordd sy'n benodol i'r cyd-destun. 

Rhaid mynd ati mor gynnar â phosibl i bennu’r modd y gall dinasyddion gyfrannu. Dylent barhau i gyfranogi drwy gydol y broses gynllunio, y broses weithredu a’r broses werthuso, fel y bydd modd dod o hyd i broblemau ac atebion posibl drwy gydol yr holl brosesau. Gall deialog gynnar ymhlith rhanddeiliaid greu’r momentwm ar gyfer gwaith cynllunio manylach.

Mae'r ymagwedd hon yn cyd-fynd â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Fodd bynnag, mae yna lawer o randdeiliaid a phartneriaid na chânt eu henwi yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae modd i lawer mwy o randdeiliaid ar draws amryfal bolisïau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol fod yn bartneriaid allweddol o ran arwain y pontio tuag at sero net. Hefyd, rhaid mynd ati i ddiffinio’r rolau a’r cyfrifoldebau ar gyfer cynllunio a gweithredu pontio teg tuag at Sero Net.

Arweiniad, Cydweithio, a Rolau a Chyfrifoldebau 

Er mwyn cyflawni pontio llwyddiannus a theg, bydd angen i lywodraethau, y sector cyhoeddus ehangach, cynrychiolwyr diwydiannau a busnesau, sefydliadau academaidd a chymunedau gydweithio.

Rôl Llywodraeth Cymru mewn Pontio Teg 

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig arweiniad o ran ymwreiddio’r ymagwedd at bontio teg. Byddwn yn parhau i adeiladu’r sylfaen dystiolaeth a’r gallu er mwyn cynllunio a gweithredu newid. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â bylchau mewn tystiolaeth, pan fyddai tystiolaeth o'r fath yn cael effaith sylweddol ar benderfyniadau. Byddwn yn sicrhau y bydd pontio teg yn cael ei integreiddio’n effeithiol yn ein polisïau hinsawdd cenedlaethol. Wrth wneud hynny byddwn yn anelu at gydlunio a chydgyflawni gyda’r rhai y bydd y pontio tuag at sero net yn effeithio fwyaf arnynt. 

Oddi mewn i sefydliadau unigol

Os ydym am lwyddo i bontio’n deg, bydd yn hanfodol cael partneriaeth gref rhwng y sector cyhoeddus, busnesau, undebau, gweithluoedd a chymunedau lleol. Golyga hyn y bydd angen meithrin gwybodaeth a gallu ar draws holl rannau’r gymdeithas yng Nghymru, yn cynnwys ar lefel sefydliadau unigol o bob math: busnesau, awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector. Dylai sefydliadau ddefnyddio’r fframwaith hwn i gychwyn neu ddiweddaru cynlluniau i sicrhau Pontio teg.

Cymunedau

Rhaid parhau i ymgysylltu’n weithredol gyda chymunedau, y sector gwirfoddol a rhwydweithiau cymunedol er mwyn archwilio mentrau a chyfleoedd i feithrin gallu’n ymwneud â phontio teg. Hefyd, bydd angen rhoi cymorth i bobl yn y gymuned sy’n dymuno cymryd camau i helpu eu cymuned i wneud newidiadau.

Y byd academaidd ac addysgwyr

Gall prifysgolion a sefydliadau ymchwil eraill chwarae rhan hollbwysig yn y dasg o gynllunio’r cyfnod pontio. Bydd modd iddynt fod yn bartneriaid allweddol yn y gwaith dadansoddi sy’n angenrheidiol ar gyfer cynlluniau o’r fath ac o ran ailsgilio ac ailhyfforddi. 

Yn ôl pob tebyg, bydd angen i lywodraethau, cynrychiolwyr diwydiannau, a sefydliadau academaidd gydweithio er mwyn sicrhau bod y sectorau addysg ac ymchwil yn cyd-fynd ag anghenion pontio teg. 

Rôl Llywodraeth y DU 

Mae llawer o’r ysgogiadau mwyaf pwerus o ran cyflawni pontio teg, fel pwerau dros lesiant a masnach, yn gorwedd gyda Llywodraeth y DU. Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gweithio gyda Llywodraeth y DU ar faterion a gadwyd yn ôl fel y bydd modd defnyddio’r pwerau hyn yn effeithiol yng Nghymru.

Ymgysylltu â’r Cyhoedd 

Mae cyfraniad gweithwyr, cymunedau a busnesau yn hollbwysig o ran sicrhau y bydd cynlluniau a pholisïau pontio teg yn berthnasol ac yn effeithiol. Rhaid i blant gael llais fel y dinasyddion a fydd yn gorfod byw gyda gwaddol y penderfyniadau a wnawn. Mae'n bwysig hefyd fod ymgysylltu â phobl â nodweddion gwarchodedig yn cael ei flaenoriaethu, gan gynnwys cymunedau ethnig leiafrifol a phobl anabl, er mwyn sicrhau bod eu profiadau bywyd yn dylanwadu ar ein gwaith o gynllunio pontio. Mae hyn yn unol â'n hymrwymiad i gydgynhyrchu cynhwysol ar draws yr holl grwpiau gwarchodedig. 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried a chynnwys pobl o bob oed ac amrywiaeth wrth wneud penderfyniadau. Ni ellir cyflawni maint y newid sydd ei angen i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd heb agor y drafodaeth a chymryd ymagwedd o gydgynhyrchu. Mae Cymru Sero Net: Cyllideb Carbon 2  yn ymrwymo i ddeialog ddwy ffordd ar newid yn yr hinsawdd, yn enwedig gyda’r bobl a’r cymunedau sy'n fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan newid yn yr hinsawdd ac o gael eu heffeithio'n negyddol gan benderfyniadau polisi yn y dyfodol. 

Mae'r Dull Ymgysylltu o amgylch y Newid yn yr Hinsawdd (2022-2026) yn nodi dull Llywodraeth Cymru o sicrhau cyfranogiad amserol ac effeithiol rhanddeiliaid wrth wneud penderfyniadau ar yr hinsawdd a chryfhau clymblaid sefydliadau Cymreig. 

Mae Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd  yn pennu sut mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn cydweithio er mwyn cynorthwyo pobl a chymunedau Cymru a'u cynnwys mewn gweithredu ar yr argyfyngau hinsawdd a natur. Wrth gyflwyno’r dystiolaeth, mae’n cyfleu pa mor bwysig yw sicrhau y caiff tegwch ei ymwreiddio yn yr ymagwedd, er budd pobl Cymru a chenedlaethau’r dyfodol. Y strategaeth hon fydd y sylfaen ar gyfer sut byddwn yn cynnwys y cyhoedd yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt mewn perthynas â phontio teg.

Sicrhau tegwch i grwpiau a allai gael eu heffeithio'n andwyol gan y pontio.

Mae rhaglen ymgysylltu â'r cyhoedd Gweithredu ar Newid Hinsawdd yn ymrwymo i flaenoriaethu sgyrsiau gyda grwpiau a allai gael eu heffeithio’n andwyol gan y newid yn yr hinsawdd a'r pontio. Mae cymhlethdod llawer o bynciau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd yn golygu bod angen mecanweithiau wedi'u teilwra i sicrhau bod y grwpiau hyn yn cael cyfleoedd i ymgysylltu'n ystyrlon a theg am yr hinsawdd drwy ddulliau allgymorth y rhaglen. Mae hyn yn gymwys hefyd wrth ddarparu cyfathrebiadau hygyrch am yr hinsawdd a sicrhau bod yr ymgyrch Gweithredu ar Newid Hinsawdd yn defnyddio sianeli cyfathrebu, negeseuon a lleisiau dibynadwy wedi'u teilwra fel bod negeseuon yn cyrraedd y grwpiau hyn. Mae'r ymgyrch genedlaethol yn darparu ffynonellau gwybodaeth defnyddiol ar gymorth i wneud dewisiadau gwyrdd o ran ynni’r cartref, teithio, bwyd ac arferion defnydd, ac yn cyhoeddi cyfleoedd i bawb gymryd rhan mewn penderfyniadau polisi fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Gweithio ledled Cymru i ymgysylltu â'r cyhoedd 

Ynghyd â'r dull a ddisgrifir yn y ddogfen Dull Ymgysylltu ynghylch Newid Hinsawdd (2022-2026), a'r Strategaeth Ymgysylltu â'r Cyhoedd, nod digwyddiad blynyddol Wythnos Hinsawdd Cymru yw meithrin perthnasoedd â sefydliadau eraill, gan ddod â sefydliadau ledled Cymru (cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector) at ei gilydd i rannu dysgu, ysgogi syniadau ac annog trafodaeth ar atebion ar gyfer mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Cyflwynwyd y gronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad blynyddol hwn i gefnogi cyrff cynrychiadol busnesau, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol i gynnal digwyddiadau allgymorth drwy gydol yr wythnos ac annog trafodaethau ehangach ar y newid yn yr hinsawdd.

Integreiddio Pontio Teg wrth Wneud Penderfyniadau

Ein hymagwedd yw hwyluso dealltwriaeth gyffredin o’r pontio teg tuag at Sero Net ar draws y llywodraeth, ar draws sefydliadau ac ar draws cymunedau Cymru. Rydym wedi datblygu egwyddorion canllaw Pontio Teg, sy'n cefnogi'r tair rlfen ac yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd hyn yn helpu i gynllunio prosesau pontio cydlynol ac effeithiol ac rydym wedi nodi camau i helpu i brif ffrydio ac integreiddio ein hymagwedd i brosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau. 

Mae ein hymagwedd at Bontio Teg yn gyfle i ni ddatblygu golwg fwy cyfannol ar ein cynlluniau datgarboneiddio presennol a'n polisïau ar draws pob lefel o gymdeithas ac oddi mewn i sefydliadau, ynghyd ag ystyried eu heffaith yn unol â’n hymrwymiadau i ysgogi tegwch a chydraddoldeb ym mhopeth a wnawn, gan sicrhau ein bod yn cyflawni canlyniadau gwell i bawb. 

Nodir senarios pontio enghreifftiol isod a'n nod yw adeiladu ar y senarios hyn trwy ddatblygu canllawiau wedi'u targedu i raddau mwy mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid yn y dyfodol. Gellir dod o hyd i ragor o ganllawiau yn erthygl Ganllaw Sefydliad Grantham ar Bontio Teg. Mae'r erthygl yn darparu awgrymiadau ar y camau gweithredu y gellir eu cyflawni ar lefel genedlaethol, rhanbarthol ac ar lefel y sector preifat, ac mae'n cynnwys dolenni i offerynnau, adnoddau ac astudiaethau achos eraill.

Rhanbarthol neu Sectorol

Dadansoddiad o lefel sector neu ardal ddaearyddol, sy'n cynnwys ffin cyflawni sefydliad e.e. Ardal gyflawni'r Awdurdod Lleol.

Pwy

Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, Cyfoeth Naturiol Cymru, busnesau a sefydliadau'r trydydd sector o fewn yr ardal ddaearyddol neu'r sector.

Sut

Integreiddio a llywio cynlluniau presennol – fel cynlluniau Llesiant, Datganiadau Ardal, cynlluniau Datblygu Economaidd neu ddatblygu cynlluniau Datgarboneiddio a/neu Bontio Teg ar lefel sectorol neu gymunedol.

Sefydliad

Yn canolbwyntio ar bontio sefydliad neu safle diwydiannol unigol.

Pwy

Busnes, llywodraeth leol, GIG, grwpiau cymunedol, sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus. 

Sut

Diweddaru cynlluniau hinsawdd a/neu fusnes presennol neu ddatblygu cynlluniau Pontio Teg penodol.

Datblygu Polisi

Yn cynnwys asesu'r angen am bolisïau yn y dyfodol i ymateb i'r bygythiadau a'r cyfleoedd, ac edrych ar effeithiau a chyfleoedd y polisi sy'n cael ei ddatblygu.    

Pwy

Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, GIG, Cyfoeth Naturiol Cymru a busnesau.

Sut

Offerynnau datblygu polisi fel dadansoddi opsiynau polisi ac asesiadau o'r effaith ar bolisïau.