Fframwaith Pontio Teg - Cyflwyniad
Nod y Fframwaith Pontio Teg yw ymwreiddio ystyriaethau pontio teg mewn cynlluniau, polisïau a phenderfyniadau a wneir ar draws pob lefel o gymdeithas Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae'n gwneud hyn trwy'r ffyrdd canlynol:
- Disgrifio gweledigaeth o Gymru yn y dyfodol.
- Esbonio'r tair elfen sy'n sail i bontio teg.
- Nodi'r egwyddorion canllaw y dylid eu dilyn wrth gynllunio'r broses o bontio i sero net.
- Darparu canllawiau i gefnogi'r rhai sy'n ysgogi'r newid.
Beth yw Pontio Teg?
Yng Nghymru, mae pontio teg yn golygu cyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2050 mewn ffordd sy'n dosbarthu'r buddion a'r costau yn deg ar draws cymdeithas Cymru. Nod pontio teg yw darparu dyfodol tecach, gwyrddach a mwy ffyniannus mewn partneriaeth â busnesau, gweithwyr a chymunedau ledled Cymru. Mae ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at bontio teg yn adeiladu ar ymrwymiadau sy'n rhwymol yn gyfreithiol i genedlaethau'r dyfodol, cydraddoldeb, partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg.
Pontio Teg: Pam?
Nid yw'r angen i ddatgarboneiddio ein heconomi erioed wedi bod mor daer. Mae datgarboneiddio a meithrin y gallu i wrthsefyll effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn her fawr o ran polisi. Bydd effeithiau'r newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio yn effeithio ar wahanol sectorau, sefydliadau, cymunedau ac unigolion mewn gwahanol ffyrdd.
Mae datgarboneiddio ein heconomi mewn ffordd sy'n cyflawni i bawb yn ychwanegu at y cymhlethdod hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi deddfu ar gyfer targed o allyriadau carbon sero net erbyn 2050 ac mae'n hanfodol bod y pontio hwn yn deg. Yn y ddogfen Cymru Sero Net (2021), gwnaeth Llywodraeth Cymru ailddatgan ei hymrwymiad i gyflawni 'pontio teg' i ffwrdd o economi seiliedig ar danwydd ffosil y gorffennol i ddyfodol carbon isel newydd, gan ddysgu gwersi o bontio blaenorol ac adeiladu dyfodol i Gymru sy'n cefnogi economi llesiant [WEALL.ORG].
Bydd cyflawni pontio teg yn golygu datblygu dealltwriaeth fwy clir o'r effeithiau posibl y bydd datgarboneiddio economi Cymru yn ei chael. Bydd hyn yn ei dro yn ein cefnogi i wneud y mwyaf o'r buddion a lliniaru'r effeithiau negyddol neu anfwriadol. Mae cynllunio ar gyfer pontio teg yn golygu meddwl am ddatgarboneiddio fel ffordd o gyflawni ein hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol, gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol ac ar draws ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol.
Mae dull Llywodraeth Cymru o gynllunio ar gyfer pontio teg yn cael ei ddylanwadu'n helaeth gan ofynion deddfwriaethol gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn ein helpu i sicrhau bod camau ar yr hinsawdd yn cael eu cymryd mewn ffordd sy'n osgoi creu neu waethygu anghydraddoldebau ac yn cefnogi ymagwedd sy'n ystyried systemau tuag at ddeall risgiau a chyfleoedd a mynd i'r afael â nhw. Er eu bod yn cael eu defnyddio yn fwyaf cyffredin yng nghyd-destun lleihau allyriadau carbon, mae ystyriaethau pontio teg yr un mor gymwys mewn ymdrechion i addasu i newid yn yr hinsawdd. Fel y mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn ei gynghori, rhaid ystyried effeithiau dosbarthu os am addasu’n effeithiol a theg oherwydd gall camau addasu gael effeithiau anghyfartal, ac mae cysylltiad cryf rhwng tegwch wrth addasu â'r cysyniad o bontio teg.
Bydd pobl wrth wraidd y pontio; felly, mae'n hanfodol ein bod yn cynnal ac yn adeiladu ymhellach ar gyfranogiad amrywiaeth eang o randdeiliaid a phartneriaid yn ein hymagwedd at ddatgarboneiddio. Mae newidiadau mewn busnesau, marchnadoedd a thechnoleg yn ffurfio'r economi ar y daith i sero net. O ran Cyllideb Carbon 2 Cymru (2021-2025), rydym wedi datblygu ein sylfaen dystiolaeth ac wedi gwella ymhellach ein dealltwriaeth o sut y bydd y pontio yn effeithio ar Gymru a sut mae ein dewisiadau defnydd yn effeithio ar rannau eraill o'r byd.
Gweledigaeth ar gyfer Cymru Sero Net yn 2050
Mae'n 2050 ac rydym wedi pontio tuag at sero net ac wedi cyflawni ein hymrwymiadau i genedlaethau'r dyfodol, gan wneud Cymru yn lle tecach, gwyrddach a mwy ffyniannus i fyw ynddo.
Cyflawnwyd y pontio mewn partneriaeth rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, a chyda'n cymunedau – o'r cymoedd ôl-ddiwydiannol i froydd gwledig Cymru. Mae busnesau a diwydiannau Cymru yn ffynnu mewn economi gylchol werdd oherwydd y syniadau hirdymor a'r cydweithio - rhywbeth a sicrhaodd fod ein cymunedau a’n cyflogwyr wedi ymbaratoi ar gyfer y pontio a’u bod wedi manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer swyddi’r dyfodol.
Mae gan genedlaethau'r presennol a'r dyfodol y sgiliau cywir ar gyfer swyddi gwydn, â chyflog da mewn economi sero net. Mae arferion gwaith teg wedi'u hymwreiddio ar draws pob sector, gan hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae gweithwyr yn cael eu grymuso, eu cynrychioli a'u cefnogi mewn gweithleoedd iach, cynhwysol lle mae hawliau'n cael eu parchu a chyfleoedd ar gyfer dilyniant yn hygyrch i bawb.
Rydym wedi ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth sy'n wynebu Cymru, ac yn parhau i fynd i'r afael â nhw, gan gynnwys mwy o lifogydd, erydiad arfordirol, a cholli bioamrywiaeth. Mae ein hamgylcheddau tir a môr bellach wedi'u diogelu a'u hadfer yn well, gan gefnogi natur a bywoliaeth – o ffermio cynaliadwy i gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae yna gyfleoedd economaidd hanfodol i gymunedau gwledig, lle mae cynhyrchwyr yn gallu ennill bywoliaeth dda a darparu bwyd o safon i bobl Cymru.
Mae Cymru wedi addasu i newidiadau demograffig, gan gynnwys poblogaeth sy'n heneiddio, drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau gofal, cysylltedd digidol, ac economïau lleol. Mae pawb yn cael eu cefnogi i ffynnu yn eu cymunedau, gyda mynediad at swyddi gwyrdd, tai fforddiadwy, a dysgu gydol oes. Gwnaethom sicrhau bod iaith a diwylliant Cymru nid yn unig yn cael eu gwarchod ond yn ffynnu fel rhan o ddyfodol cynaliadwy. Mae cymunedau yn cael eu grymuso i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio arnynt, ac mae lleisiau ardaloedd gwledig, arfordirol a threfol yn cael eu gwerthfawrogi'n gyfartal.
Mae'r pontio wedi helpu i wella cysylltedd hefyd, gan ddarparu opsiynau trafnidiaeth hyfyw i bobl Cymru a mynd i'r afael â thlodi trafnidiaeth. Mae wedi helpu i gyflawni dosbarthiad teg o gostau a buddion, gyda chostau'r pontio ddim yn disgyn yn anghymesur ar ysgwyddau'r rhai sydd â'r lleiaf o allu i fforddio'r newid.
Mae ein gweithredu ar newid hinsawdd wedi gwella iechyd a llesiant y cyhoedd, wedi lleihau tlodi tanwydd trwy gartrefi effeithlon o ran ynni, wedi hyrwyddo teithio llesol ac wedi cefnogi mynediad at fwyd iach, lleol. Mae'r newidiadau hyn wedi lleddfu'r pwysau ar systemau iechyd a gofal cymdeithasol ac wedi lleihau anghydraddoldebau ledled Cymru.
Mae'r ffocws ar economi gylchol, sy’n gostwng ein defnydd o nwyddau a deunyddiau, wedi lleihau ein heffaith fyd-eang fel bod Cymru'n defnyddio ei chyfran deg o adnoddau.
Bu pobl Cymru yn hollbwysig o ran deall effaith ein ffordd o fyw ar yr hinsawdd ac ar natur o ran gwneud y penderfyniadau iawn drostynt eu hunain, i’w cymunedau ac i’r blaned. Ar ôl y pontio annheg a ddaeth i ran Cymru yn y ganrif flaenorol, rydym yn falch o sicrhau y bydd Cymru yn arweinydd byd-eang o ran pontio teg tuag at sero net. Rydym wedi gallu defnyddio ein profiadau i helpu’r bobl hynny sydd ar flaen y gad o ran y newid hinsawdd ledled y byd.
Beth yw'r Fframwaith Pontio Teg?
Mae'r Fframwaith Pontio Teg yn nodi ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at gyflawni pontio teg i sero net erbyn 2050. Mae'r Fframwaith wedi'i anelu at y rhai sy'n cymryd camau i ddatgarboneiddio'r economi, sy'n cynnwys pob lefel o lywodraeth, busnesau, y trydydd sector, a chymunedau. Mae Llywodraeth Cymru yn annog y partïon hyn i ymwreiddio’r Fframwaith yn eu prosesau datblygu polisi a gwneud penderfyniadau presennol er mwyn helpu i leihau ymhellach anghydraddoldebau a gwella’r canlyniadau i'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan y pontio.
Mae'r Fframwaith yn disgrifio tair elfen sy'n llywio sut y dylid datblygu polisïau a phrosiectau, a saith egwyddor canllaw y dylid eu dilyn er mwyn sicrhau bod canlyniadau'n deg i bobl a'r blaned.
Sut y datblygwyd y Fframwaith Pontio Teg
Gan adeiladu ar ein gwaith a’n hymchwil flaenorol ar ddulliau rhyngwladol [WCPP.ORG.UK], cynhaliodd Llywodraeth Cymru Alwad am Dystiolaeth, ynglŷn â Phontio Teg rhwng Rhagfyr 2022 a Mawrth 2023. Nod yr Alwad oedd ceisio deall yr effeithiau negyddol posibl, y buddion a'r arferion gorau sy'n gysylltiedig â phontio teg tuag at economi sero net yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys sut y gallwn ddefnyddio ac integreiddio dysg a gwybodaeth trwy’r penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid er mwyn deall yn well yr effeithiau a’r cyfleoedd a ddaw i ran Cymru a’r gofynion o safbwynt ategu’r pontio.
Derbyniwyd 117 o ymatebion i'r Alwad am Dystiolaeth ac mae'r wybodaeth a gyflwynwyd wedi helpu i siapio'r fframwaith drafft, a oedd yn amodol ar ymgynghoriad ffurfiol rhwng Rhagfyr 2023 a Mawrth 2024. Mae'r 106 yn rhagor o ymatebion a ddaeth i law wedi llywio'r fframwaith terfynol hwn. Fel rhan o'r ymgynghoriad, cynhaliwyd sgyrsiau hinsawdd gyda gwahanol grwpiau, gyda’r cwestiwn a ofynnwyd: "Sut mae mynd i'r afael â newid hinsawdd mewn ffordd deg?". Cyflwynwyd y canlyniad fel rhan o'r ddogfennaeth ymgynghori.
Yn seiliedig ar ymchwil a'r broses ymgynghori, gwnaethom ddatblygu'r Fframwaith Pontio Teg, sy'n cynnwys:
- Tair elfen sy'n elfennau hanfodol o bontio teg.
• Dadansoddi Effeithiau a Chyfleoedd
• Gweithio gyda Rhanddeiliaid a Chydgysylltu Ymateb ar y Cyd
• Integreiddio'r Pontio Teg a'i Droi'n Benderfyniadau
- Saith egwyddor canllaw sy'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
• Buddsoddi mewn Addysg, Sgiliau ac Economi Carbon Isel
• Addasu i Newid Hinsawdd a Gwella'r Amgylchedd Naturiol
• Gwella Iechyd a Llesiant drwy Weithredu ar Newid Hinsawdd
• Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau a Rhannu'r Costau a'r Buddion yn Deg
• Cynnwys cymunedau yn y Camau Cynharaf a Drwyddi Draw
• Cefnogi a Gwella Diwylliant Cymru a'r Gymraeg
• Ystyried yr Effeithiau Byd-eang ar Bobl ac ar y Blaned
- Canllawiau i helpu i lunio'r broses o bontio tuag at sero net ar sawl lefel.
