Neidio i'r prif gynnwy

Mae ein tîm Galluogrwydd ac Arweinyddiaeth wedi bod yn gweithio ar y cyd â sefydliadau partner i ddatblygu cynllun i gynyddu galluogrwydd a sgiliau yn y proffesiwn caffael.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn 2020, sefydlodd Llywodraeth Cymru gynllun ar gyfer y rhaglen galluogrwydd a chapasiti, a oedd yn cydnabod yr angen i gynyddu cynaliadwyedd a thwf hirdymor y proffesiwn caffael yng Nghymru. Mae'r cynllun wedi'i rannu'n nifer o feysydd allweddol.

Er mwyn ein helpu i ddatblygu'r gwaith hwn, rydym angen eich help chi i ddeall maint a strwythur proffesiynol timau caffael ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Felly, rydym wedi cynhyrchu arolwg rydym yn annog sefydliadau i'w gwblhau:

Cymerwch yr arolwg

Prentisiaethau

Rydym yn gweithio gyda Grŵp Llywio o gyflogwyr o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat, darparwyr hyfforddiant a chyrff dyfarnu i ddatblygu prentisiaeth achrededig CIPS i Gymru. Rydym hefyd yn gobeithio lansio'r cynllun yng ngwanwyn 2024.

Dyfarniad Corfforaethol y CIPS

Fe wnaethom gyhoeddi yn 2020 y byddem yn gweithio gyda Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS) i greu cyfleoedd i unigolion ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru ymgymryd â Rhaglenni Ymarferydd Dyfarniad Corfforaethol Lefel 4Rhaglenni Ymarferydd Uwch Lefel 5. CIPS yw'r corff proffesiynol ar gyfer caffael, gyda hanes amlwg o ragoriaeth caffael yn fyd-eang.

Ers lansio'r rhaglen, mae dros 230 o leoedd wedi'u cefnogi gan Lywodraeth Cymru yn ein haddewid i wella a datblygu sgiliau a phroffesiynoli caffael cyhoeddus yng Nghymru.

Pe baech chi’n llwyddo i gael lle, byddem yn croesawu adborth gan fyfyrwyr a rheolwyr llinell myfyrwyr y rhaglen a byddem yn ddiolchgar pe baen nhw’n cwblhau arolwg byr i ddweud wrthym am eu profiadau.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am rai o dderbynwyr rhaglen hydref/gaeaf 2022 i 2023 yma a darllen ein hastudiaeth achos ar sut mae Sophie Stacey, Uwch-reolwr Busnes Caffael ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, wedi elwa o’r rhaglen.

Fe wnaethom gynhyrchu astudiaeth achos sy'n rhoi mwy o fanylion am y rhaglen yn 2021.

Rhaglen Galluogrwydd Rheoli Contractau

Ym mis Mehefin 2022, gwnaethom gyhoeddi y gallai holl gyrff sector cyhoeddus Cymru a ariennir yn llawn gael mynediad at Raglen Rheoli Contractau Swyddogaeth Fasnachol y Llywodraeth. Mae rhagor o fanylion ar gael yn adran newyddion ein gwefan.

Er bod datganiadau o ddiddordeb ar gyfer rhaglen brawf 2023 wedi dod i ben, rydym yn croesawu datganiadau o ddiddordeb i gefnogi’r gwaith o gynllunio ar gyfer y dyfodol. Darllenwch hysbysiad preifatrwydd y rhaglen yma.

Rhaglen Lleoliadau Myfyrwyr

Ym mis Medi 2021, fe ddechreuom ni weithio gyda Sefydliadau Addysg Uwch Cymru, Prifysgol De Cymru a Bangor i ddatblygu rhaglen lleoliadau myfyrwyr.

Ers hynny, mae 13 o fyfyrwyr wedi cael eu cefnogi ar draws 6 sefydliad caffael cyhoeddus yng Nghymru. O blith y pum myfyriwr a fu ar leoliad yn y flwyddyn brawf gyntaf, sicrhaodd pedwar ohonynt swyddi caffael cyhoeddus parhaol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y rhaglen yma:

Paratoi’r proffesiwn caffael yng Nghymru at y dyfodol

Adnoddau ychwanegol

Mae deunyddiau dysgu defnyddiol fel cynllunydd llwybrau caffael, astudiaethau achos a digwyddiadau dysgu dros ginio ar gael ar ar wefan Cyd. Cyd yw'r ganolfan ragoriaeth newydd lle gall cymunedau caffael a masnachol ddysgu a chefnogi ei gilydd.

Mae yna hefyd amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol yn enwedig yn ymwneud â diwygio caffael ar wefan GwerthwchiGymru.