Gwerthusiad ffurfiannol y Cwricwlwm i Gymru, adroddiad synthesis cam 1: ymateb y llywodraeth
Ein hymateb i adroddiad gwerthuso.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Ers 2022 mae'n ofynnol i bob ysgol yng Nghymru gynllunio ei chwricwlwm ei hun er mwyn adlewyrchu ei chyd-destun a diwallu anghenion ei dysgwyr. Mae Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yn nodi gofynion a disgwyliadau, gan gynnwys yr wybodaeth a'r sgiliau y dylai pob dysgwr eu datblygu, y profiadau dysgu y dylent eu cael, a'r cynnydd y dylent ei wneud o ran dysgu.
Yn 2024, comisiynodd Llywodraeth Cymru gwmni ymchwil Arad i arwain gwerthusiad ffurfiannol o'r Cwricwlwm i Gymru. Fel rhan o raglen ymchwil eang, mae Arad yn gweithio ochr yn ochr ag AlphaPlus Consultancy, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, y Brifysgol Agored yng Nghymru, Prifysgol Auckland a Phrifysgol Stirling.
Ar 18 Rhagfyr 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth: Adroddiad Synthesis y Cwricwlwm i Gymru, a ddatblygwyd yn rhan o'r gwerthusiad ffurfiannol. Mae'r adroddiad yn darparu synthesis o'r dystiolaeth werthuso a gasglwyd rhwng mis Mai 2024 a mis Medi 2025 yn ystod cam cyntaf y gwerthusiad ffurfiannol, i roi darlun ansoddol a meintiol eang i Lywodraeth Cymru o sut mae'r diwygiadau'n gweithio, sut mae arferion yn newid a sut mae'r newidiadau hyn yn cael eu profi gan uwch-arweinwyr, ymarferwyr, a dysgwyr a'u teuluoedd.
Rydym yn croesawu'r adroddiad hwn a chanfyddiadau’r astudiaethau ansoddol, ynghyd â chanfyddiadau arolygon uwch-arweinwyr ac athrawon, a rhieni, gofalwyr a dysgwyr. Mae'r gwerthusiad wedi nodi rhywfaint o weithgarwch cadarnhaol ledled Cymru, gan nodi sut mae ysgolion yn gwneud newidiadau sylweddol o ran cynllunio cwricwlwm, gan gynnwys dysgwyr yn y cynllunio, a newidiadau sylweddol i arferion addysgegol mewn ymateb i'r Cwricwlwm i Gymru.
Mae synergeddau rhwng canfyddiadau'r gwerthusiad ffurfiannol a'r hyn a nodwyd gan Estyn yn ei adroddiadau Mewnwelediadau Cynnar 2024 i 2025 a'i adroddiad thematig diweddar ar 'Addysgu Cwricwlwm i Gymru' (2025), er enghraifft mae'r adroddiad synthesis yn nodi:
… newidiadau sylweddol mewn ysgolion o ran arferion addysgegol er mwyn ymateb i’r Cwricwlwm i Gymru. Adroddwyd bod y newidiadau hyn wedi cynnwys mwy o ffocws ar ymholi, dysgu drwy brofiad, a dulliau dysgu dilys, yr oeddent yn aml yn cael eu cynorthwyo gan ymarferwyr yn rhoi sylw manylach i ddiben y cynnwys a addysgir ac anghenion eu dysgwyr.
Ac mae canfyddiadau Estyn yn nodi:
Mae llawer o’r ysgolion yr ymwelom â nhw, yn enwedig yn y sector cynradd, yn defnyddio cyd-destunau dysgu dilys a pherthnasol a’r gymuned leol i ddyfnhau ymgysylltiad a sicrhau bod dysgu’n fwy ystyrlon. Mae’r dulliau hyn yn cynorthwyo disgyblion i weld perthnasedd eu dysgu, hybu meddwl beirniadol a chryfhau eu hymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn. Yn yr arfer fwyaf effeithiol, mae addysgu’n meithrin chwilfrydedd am Gymru a’r byd ehangach, gan alluogi disgyblion i greu cysylltiad ar draws meysydd o’u dysgu mewn ffyrdd sy’n cefnogi datblygiad disgyblion tuag at y pedwar diben. (Addysgu Cwricwlwm i Gymru, 2025)
'Mae addysgu cryf wedi’i ategu gan gynllunio cwricwlwm yn bwrpasol.' (Estyn: Mewnwelediadau Cynnar 2024 i 2025)
Mae'r adroddiad synthesis hefyd yn cyfeirio at y canlynol ynghylch arweinyddiaeth:
Barnwyd bod arweinyddiaeth bwrpasol, sy’n canolbwyntio ar amgylchedd cynhwysol a chefnogol, gweledigaeth a rennir, galluogedd ymarferwyr a dulliau sy’n seiliedig ar ymholi o ran arfer y cwricwlwm, yn alluogydd cadarn. I’r gwrthwyneb, adroddwyd bod llwyddiant dulliau’r cwricwlwm newydd yn ddibynnol ar allu arweinyddiaeth unigol, sy’n golygu bod amrywioldeb ar draws y system yn codi pan welir diffyg o ran y gallu hwn, gan gyfyngu ar wireddu cwricwlwm cyson ac o ansawdd uchel o ganlyniad.
Tra bod Estyn yn nodi:
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae uwch arweinwyr yn darparu arweinyddiaeth bwrpasol ac yn cyfleu gweledigaeth glir sy’n hyrwyddo disgwyliadau uchel ymhlith staff a disgyblion.
Yn yr achosion cryfaf, mae arweinwyr yn sicrhau bod dysgu disgyblion wedi’i gynllunio’n ofalus i ddarparu parhad ar draws yr ystod oedran lawn, maent yn adnabod disgyblion yn dda, yn diwallu eu hanghenion lles yn effeithiol, ac yn darparu cefnogaeth briodol i’w teuluoedd.
Fel Estyn, mae'r gwerthusiad ffurfiannol yn tynnu sylw at arweinyddiaeth, cydweithredu a dysgu proffesiynol fel ffactorau galluogi allweddol, gan greu'r amodau ar gyfer gwireddu'r Cwricwlwm i Gymru yn effeithiol. Fodd bynnag, mae'r ddau hefyd yn nodi bod cyfyngiadau o ran amser a chyllideb yn heriau parhaus, yn enwedig o ran cyfyngu ar allu ymarferwyr i fanteisio ar ddysgu proffesiynol.
Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn gymharol newydd o hyd mewn ysgolion, ac rydym yn disgwyl i arfer ddatblygu dros amser. Dyna pam rydym wedi blaenoriaethu'r cymorth sydd wedi'i roi ar waith dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn er mwyn cefnogi ysgolion i adeiladu ar y cynnydd rhagorol y maent yn ei wneud wrth gefnogi dysgwyr i ymgorffori pedwar diben y cwricwlwm, a sicrhau bod ganddynt y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiadau y bydd eu hangen arnynt pan fyddant yn gadael yr ysgol.
Mae'r adroddiad synthesis yn edrych ar ganfyddiadau pedair astudiaeth ansoddol gydag ysgolion a lleoliadau a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2025:
- Tegwch a Chynwysoldeb yn y Cwricwlwm i Gymru
- Cynllunio cwricwlwm ac asesu ac addysgeg yn y Cwricwlwm i Gymru
- Gwireddu’r Cwricwlwm i Gymru mewn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion
- Maes dysgu a phrofiad iechyd a lles yn y Cwricwlwm i Gymru
Mae'r adroddiad synthesis hefyd yn edrych ar ganfyddiadau o'r canlynol:
- Arolwg o 925 o uwch-arweinwyr ac athrawon
- Arolwg o 1,094 o rieni a gofalwyr a 757 o'u plant
- Ymchwil hydredol i deithiau cwricwlwm gyda sampl o 10 ysgol. Mae gwaith maes hyd yma yn rhoi cipolwg cyfoethog felly mae rhai canfyddiadau wedi'u cynnwys yn yr adroddiad synthesis. Bydd adroddiad ar wahân yn edrych ar daith lawn y newid ar draws tonnau yn 2024, 2025 a 2026 yn cael ei gyhoeddi yn 2026.
Rydym yn croesawu'r tair blaenoriaeth a nodir yn yr adroddiad synthesis ar gyfer cam nesaf gwireddu'r cwricwlwm yng Nghymru, a'r tri philer sy'n sail i bob un o'r blaenoriaethau hyn.
Blaenoriaethau
- Mynd i'r afael ag amrywioldeb ar draws y system.
- Gwella a dyfnhau dealltwriaeth ymarferwyr o Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.
- Chryfhau a gwella ymhellach ansawdd arferion cynllunio cwricwlwm, arferion addysgegol ac arferion asesu.
Pileri
- Persbectif system sy'n cydnabod y rhyng-gysylltiad a'r rhyngweithiadau rhwng rhannau o'r system sy'n cefnogi gwireddu'r cwricwlwm.
- Seilwaith wedi’i rwydweithio ar gyfer arweinyddiaeth cwricwlwm
- Dull systematig a chadarn o ddysgu proffesiynol sydd wedi'i ymgorffori fel rhan o weithgarwch cynllunio cwricwlwm ysgolion.
Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r blaenoriaethau hyn yn eu cyfanrwydd, drwy fynd i'r afael â phob un o'r tri philer
Persbectif System
Cyhoeddwyd y canllawiau statudol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru yn 2020 ac roedd yn ofynnol i'r ysgolion cyntaf eu defnyddio o 2022 ymlaen. Mae diweddariadau wedi cael eu gwneud yn flynyddol ers hynny. Mae'r rhain yn cynnwys adrannau ychwanegol o ganllawiau y gofynnwyd amdanynt gan arweinwyr ac ymarferwyr, fel yr adran ymlaen â'r daith (a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2024) sy'n darparu disgwyliadau cyffredin, blaenoriaethau a gwybodaeth ategol ar gyfer cynllunio cwricwlwm. Cyhoeddwyd hefyd offer a thempledi ar gyfer cynllunio cwricwlwm (Mai 2025) i helpu i gefnogi ysgolion a lleoliadau gyda chynllunio cwricwlwm, gan fynd i'r afael ag amrywioldeb wrth wireddu cwricwlwm ar draws y system.
Fel rhan o broses barhaus o adolygu a mireinio, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried pa mor dda y mae gofynion a disgwyliadau cwricwlwm ac asesu yn cael eu mynegi yn Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru a'r ffordd orau o gefnogi cyd-ddealltwriaeth ar draws y system addysg, gan fynd i'r afael ag amrywioldeb mewn perthynas â gwireddu'r cwricwlwm.
Mae Dysgu, y corff arweinyddiaeth a dysgu proffesiynol, wedi'i sefydlu i ddatblygu a darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol uchel eu hansawdd sydd wedi'u cydlynu ac ar gael yn genedlaethol i'n hymarferwyr ysgol. Rydym hefyd wedi ymrwymo i wella cefnogaeth ar gyfer arwain hunanwerthuso mewn ysgolion a bydd Dysgu yn datblygu ystod o gefnogaeth i'n harweinwyr.
Drwy bartneriaethau â phrifysgolion Cymru, rydym wedi creu cyfleoedd i ymarferwyr ymwneud ag ymholiad disgybledig ac ymarfer myfyriol, gan sicrhau bod egwyddorion addysgegol yn cael eu llywio gan dystiolaeth, yn seiliedig ar arferion ystafell ddosbarth ac yn cyfrannu'n uniongyrchol at wella ysgolion a gwireddu'r Cwricwlwm i Gymru.
Yn ystod blwyddyn academaidd 2025 i 2026, mewn partneriaeth â Dysgu ac awdurdodau lleol, rydym yn treialu dull gweithredu newydd o ymdrin â'r Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol. Mae'r dull gweithredu hwn yn dwyn ynghyd brifysgolion, ysgolion ac awdurdodau lleol i feithrin y gallu i ddarparu model mwy cydweithredol er mwyn datblygu sgiliau ymchwil ac ymholi ymarferwyr, cryfhau ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth a chefnogi gwelliant parhaus mewn dysgu ac addysgu.
Ers mis Medi 2024, mae rhaglen o gymorth cenedlaethol wedi bod ar gael i bob ysgol a lleoliad. Mae'n cynnig mewn ffordd gydlynol o gefnogi'r gwaith o wireddu'r Cwricwlwm i Gymru, cwricwlwm a arweinir gan bwrpas, lle mae dysgu yn broses ddeinamig a pharhaus sy'n ymwneud ag archwilio, arbrofi a myfyrio, ac sy'n ceisio lleihau amrywioldeb mewn safonau dysgu ac addysgu.
Rydym wedi ymrwymo o hyd i sicrhau bod pob dysgwr yn cael mynediad i gwricwlwm eang a chytbwys. Mae'r rhaglen o gymorth cenedlaethol ar gael i ymarferwyr mewn unedau cyfeirio disgyblion ac i ddarparwyr eraill addysg heblaw yn yr ysgol hefyd. Rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod gan unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr eraill addysg heblaw yn yr ysgol fynediad i gymorth cwricwlwm ac asesu priodol, ac i hwyluso cydweithio rhwng ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr eraill addysg heblaw yn yr ysgol.
Fel rhan o'r rhaglen, mae Athrofa Cynllunio'r Cwricwlwm i Gymru wedi'i sefydlu i rannu disgwyliadau clir ar gyfer cynllunio cwricwlwm ac asesu fel y nodir yng nghanllawiau statudol y Cwricwlwm i Gymru, datblygu cyd-ddealltwriaeth o Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru, a darparu enghreifftiau ar gyfer cynllunio cwricwlwm ac asesu. Yn ogystal, mae offer a thempledi penodol wedi'u cyhoeddi i roi proses glir i ysgolion ar gyfer datblygu a gwella eu cwricwlwm.
Ar hyn o bryd rydym yn adolygu'r fframweithiau trawsgwricwlaidd ar gyfer llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, gyda'r bwriad o roi sail statudol iddynt. Nod hyn yw codi safonau addysgol a gwella cysondeb yn y ffordd y mae'r sgiliau galluogi allweddol hyn yn cefnogi dysgu ar draws y cwricwlwm, lleihau amrywioldeb yn y ddarpariaeth i ddysgwyr, cefnogi ysgolion i gynllunio'n gydlynol ar gyfer datblygu sgiliau’n gynyddol ar draws y cwricwlwm, a chryfhau cyfleoedd i ddisgyblion gymhwyso ac ymestyn eu sgiliau yn ystyrlon.
Seilwaith wedi’i rwydweithio ar gyfer arweinyddiaeth cwricwlwm
Bydd yr ymarferwyr ysgol sy'n rhan o'r Rhaglen cymorth cenedlaethol, ochr yn ochr â swyddogion gwella ysgolion, yn cael eu hyfforddi i raeadru'r cymorth hwn o fewn eu clystyrau eu hunain, gan gynyddu capasiti a dealltwriaeth fel rhan o raglen barhaus.
Yn ogystal â'r gefnogaeth hon, mae prosiect Camau i'r Dyfodol, a lansiwyd ym mis Mehefin 2022, wedi dod â phartneriaid addysg at ei gilydd i ddatblygu arferion cydlynol i wireddu uchelgeisiau hirdymor y Cwricwlwm i Gymru, yn enwedig i sicrhau dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ar gyfer pob dysgwr. Mae llawer o athrawon wedi dweud bod y prosiect wedi rhoi eglurder iddynt o ran cynllunio dysgu o fewn y Cwricwlwm i Gymru ac wedi rhoi'r hyder iddynt gefnogi cynnydd dysgwyr.
Bydd gan Dysgu rôl allweddol wrth weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaethau i gryfhau dysgu proffesiynol sy’n benodol i bynciau a chyfnodau. Bydd hyn yn sicrhau bod datblygiad proffesiynol wedi'i addasu i ddiwallu anghenion cwricwlwm ac addysgeg ysgolion, a'i fod yn seiliedig ar ymarfer yn yr ystafell ddosbarth.
Dysgu proffesiynol systematig
Mae rhaglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru, sy'n werth £44 miliwn dros 3 blynedd, ar gyfer dysgu proffesiynol cyson sydd ar gael yn genedlaethol, yn cyd-fynd â blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol yn cynnwys cynllunio cwricwlwm ac asesu, llythrennedd, rhifedd, ac iechyd a lles. Bwriad hyn yw cefnogi gwelliannau i ansawdd dysgu ac addysgu ar draws ein system addysg a lleihau amrywioldeb.
Mae ysgolion yn derbyn cyllid fel rhan o'r Grant dysgu proffesiynol (£13.5 miliwn yn 2025 i 2026) sy'n galluogi’r amser i ymarferwyr ddatblygu sgiliau ac ymarfer i ddarparu dysgu ac addysgu o ansawdd uchel i bob dysgwr.
Mae'r Hawl Genedlaethol i Ddysgu Proffesiynol, a gyflwynwyd yn 2022, yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i sicrhau bod gan bob ymarferydd fynediad at ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel drwy gydol ei yrfa, gyda chyfleoedd wedi'u cynllunio'n dda sy'n cyfuno gwahanol ddulliau gweithredu ac yn hyrwyddo myfyrio, ymholi a chydweithredu.
Yn y flwyddyn academaidd 2025 i 2026, cytunwyd ar ddiwrnod hyfforddiant mewn swydd (HMS) ychwanegol arall i ysgolion ac ymarferwyr, i ymgysylltu â dysgu proffesiynol. Dyma'r 7fed flwyddyn yn olynol y mae diwrnod ychwanegol wedi'i ddarparu. Ym mis Rhagfyr 2025 cyhoeddwyd ymgynghoriad yn ceisio barn ar gynnig i ddarparu chwe diwrnod HMS am gyfnod penagored o'r flwyddyn ysgol 2026 i 2027 ymlaen, bydd ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried ochr yn ochr â gwerthusiad cynhwysfawr o ddiwrnodau HMS.
Mae'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu, Arweinyddiaeth a Chynorthwyo Addysgu yn nodi'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ymddygiadau sy'n diffinio arferion rhagorol ac yn sail i dwf proffesiynol. Mae'r safonau'n darparu fframwaith cyffredin ar gyfer gwelliant parhaus ac ymarfer o ansawdd uchel ar draws y gweithlu addysg. Yn ystod 2025, rydym wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid allweddol ar draws y sector addysg i ddatblygu cyfres ddiwygiedig o Safonau Proffesiynol sy'n adlewyrchu ac yn sail i'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer addysg yng Nghymru. Mae'r ymgynghoriad ar y safonau diwygiedig bellach ar y gweill a bydd yn dod i ben ym mis Ionawr 2026.
Yn 2026, byddwn yn dechrau gwaith i archwilio'r ffordd orau o ddarparu llwybr cydlynol, cyson i athrawon a chynorthwywyr addysgu sy'n eu cefnogi ym mlynyddoedd cynnar eu gyrfaoedd. Bydd hyn yn cynnwys creu dull gweithredu strwythuredig a chyson o fynd i'r afael â dysgu proffesiynol, gan alluogi athrawon i fagu hyder a dyfnhau eu harbenigedd a'u dealltwriaeth wrth iddynt symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.
Mae gan adran galluogi dysgu canllawiau statudol y Cwricwlwm i Gymru rôl hanfodol wrth gefnogi ystod eang o ddysgwyr ag anghenion gwahanol i gael mynediad i'r cwricwlwm, ac mae'n rhan o'r rhaglen cymorth cenedlaethol sydd ar gael ar hyn o bryd i ysgolion a lleoliadau. Datblygiad plentyn yw gwraidd hyn, sy'n hanfodol i ddeall a chefnogi ein holl ddysgwyr yn effeithiol wrth iddynt symud ymlaen ar eu teithiau dysgu.
Rhan bwysig o egwyddorion allweddol dysgu holistaidd ac ystyrlon yw oedolion sy'n galluogi dysgu a all ddarparu profiadau sy’n ennyn diddordeb mewn amgylcheddau effeithiol. Mae'r canllawiau yn rhoi lens ymarferol i uwch-arweinwyr ac ymarferwyr i drefnu, cynllunio a gwireddu eu trefniadau cwricwlwm ac asesu mewn ffordd sy'n briodol yn ddatblygiadol ac addysgegol, ac sy'n gynhwysol i'w holl ddysgwyr.
Gwella ysgolion: sylfaen ar gyfer y camau nesaf
Mae'r polisi gwella ysgolion newydd a gyflwynwyd yn dilyn Adolygu rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru yn darparu sylfaen gadarn i fynd i'r afael â'r blaenoriaethau a'r pileri a nodir uchod. Caiff y polisi hwn ei nodi yn y Canllawiau Gwella Ysgolion newydd (a gyhoeddwyd 5 Ionawr 2026) sydd wedi bod yn destun ymgysylltu sylweddol gyda’r sector yn ystod 2024 i 2025 yn dilyn yr adolygiad uchod.
Mewn perthynas â'r blaenoriaethau a'r pileri uchod, mae'r polisi gwella ysgolion:
- yn darparu'r amodau strwythurol a diwylliannol (cydweithredu, ymddiriedaeth, bod yn agored) sydd eu hangen er mwyn dod i ben â'r blaenoriaethau
- gweithredu'r pileri drwy brosesau clir (hunanwerthuso, cynlluniau datblygu ysgolion, modelau cydweithredol) a rolau ar bob lefel sydd wedi’u diffinio
- cysylltu gweithgarwch gwella lleol â blaenoriaethau cenedlaethol, gan sicrhau cysondeb a chynaliadwyedd
Cysylltu â'r tair blaenoriaeth
- Mynd i'r afael ag amrywioldeb ar draws y system:
- Mae'r polisi gwella ysgolion yn hyrwyddo cydweithio fertigol a llorweddol, gan sicrhau bod ysgolion a lleoliadau yn gweithio gyda'i gilydd ar draws cyfnodau a chyd-destunau i alinio cwricwlwm, addysgeg ac asesu.
- Mae'n ymgorffori cyd-ddealltwriaeth a disgwyliadau ar gyfer cynnydd ac yn annog safbwyntiau allanol i leihau anghysondeb wrth weithredu.
- Gwella a dyfnhau dealltwriaeth ymarferwyr o Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru:
- Mae'r polisi yn rhoi lle canolog i hunanwerthuso ac ymholi cydweithredol, ysgolion yn creu cyfleoedd ar gyfer deialog broffesiynol ynghylch cynllunio cwricwlwm ac asesu, gan gynnwys cynnydd.
- Mae'n cysylltu blaenoriaethau gwella yn uniongyrchol ag anghenion dysgu proffesiynol, gyda chefnogaeth Dysgu.
- Cryfhau a gwella ymhellach ansawdd arferion cynllunio cwricwlwm, arferion addysgegol ac arferion asesu:
- Mae'r model gwella ysgolion yn canolbwyntio ar gwricwlwm, dysgu ac addysgu fel un o'i dri lens gwerthuso craidd.
- Mae'n hyrwyddo ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth, cydweithio rhwng cymheiriaid, a defnydd systematig o asesu i gefnogi cynnydd yn hytrach na chydymffurfiaeth.
Cysylltiad â'r tri philer
- Persbectif system sy'n cydnabod y rhyng-gysylltiad a'r rhyngweithiadau rhwng rhannau o'r system sy'n cefnogi gwireddu'r cwricwlwm:
- Mae'r polisi gwella ysgolion yn nodi cyfrifoldeb ar y cyd am gynnydd dysgwyr ar draws ysgolion a lleoliadau, awdurdodau lleol, a phartneriaid cenedlaethol.
- Mae'n nodi rolau clir ar gyfer ysgolion a lleoliadau addysgol eraill, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, ac awdurdodau esgobaethol, gan sicrhau cydlyniant ac atebolrwydd a rennir.
- Seilwaith wedi’i rwydweithio ar gyfer arweinyddiaeth cwricwlwm:
- Mae'r model gwella cydweithredol yn creu cymunedau gwella lleol (partneriaethau rhwng ysgolion sy'n gweithio ar y cyd, a'u hawdurdod lleol) gan alluogi arweinyddiaeth wasgaredig ac arbenigedd a rennir.
- Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am feithrin capasiti, adnabod arbenigedd a threfnu cefnogaeth yn y system leol fel nad oes angen dibynnu cymaint ar ymyriadau allanol.
- Dull systematig a chadarn o ddysgu proffesiynol sydd wedi'i ymgorffori:
- Mae dysgu proffesiynol wedi'i ymgorffori yn y cylch gwella, yn gysylltiedig â blaenoriaethau cynllun datblygu yr ysgol a phrosesau adolygu datblygiad proffesiynol statudol.
- Mae Dysgu (y corff arweinyddiaeth a dysgu proffesiynol) yn sicrhau cysondeb ac ansawdd ledled Cymru mewn meysydd blaenoriaeth allweddol.
- Mae'r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn dibynnu ar wybodaeth a phrofiad ymarferwyr i adnabod ffyrdd o ddarparu dysgu ac addysgu priodol i bob dysgwr.
Atodiad A
Mae'r tabl isod yn nodi'r amcanestyniadau gwariant presennol ar gyfer gweithgareddau y gellir eu priodoli'n uniongyrchol i weithredu Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 dros y flwyddyn ariannol 2025 i 2026.
| Gweithgaredd | 2025 i 2026 (£)
|
|---|---|
Cymorth awdurdodau lleol ar gyfer diwygio'r cwricwlwm a threfniadau asesu
| 2,600,000 |
Diwygio'r cwricwlwm a threfniadau asesu ysgolion, gan gynnwys lles a chynnydd
| 3,000,000 |
| Ymgysylltu ysgolion gyda rhwydweithiau | 3,000,000
|
Cymorth awdurdodau lleol i ysgolion ar gyfer asesu ar gyfer dysgu
| 400,000 |
Grant dysgu proffesiynol ar gyfer ysgolion
| 12,000,000 |
Dysgu proffesiynol sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm
| 5,500,000 |
Costau ymarferwyr ar gyfer datblygu'r Cwricwlwm i Gymru
| 989,600 |
Adnoddau a deunyddiau ategol
| 1,954,000 |
Cymorth i leoliadau nas cynhelir
| 410,000 |
Cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid
| 112,000 |
Trefniadau ymchwilio, gwerthuso a monitro
| 370,000 |
| Costau gweithredol Llywodraeth Cymru, yn cynnwys datblygu canllawiau | 571,500 |
Datblygu cymwysterau newydd
| 1,520,000 |
Cyfanswm
| 32,427,100 |
