Neidio i'r prif gynnwy

Mae pob plentyn yn unigryw. Wrth siarad, gwrando a chwarae gyda’ch plentyn byddwch yn dysgu mwy am ei anghenion a’i ddiddordebau. Bydd hyn yn helpu’ch plentyn i ddatblygu’n dda a hefyd yn eich helpu i feithrin perthynas gref.

Os oes gennych chi berthynas dda â’ch plentyn, bydd y ddau ohonoch chi’n hapus. Bydd hefyd:

  • yn gwneud i’ch plentyn deimlo’n ddiogel a’i fod yn cael ei garu, sy’n helpu ei ymennydd i ddatblygu;
  • yn eich helpu i oresgyn unrhyw anawsterau gyda phatrymau bwyta, cysgu, dysgu ac ymddygiad eich plentyn.

Gwnewch amser i siarad a gwrando ar eich plentyn

Mae dysgu siarad yn un o’r sgiliau pwysicaf sydd angen i blant eu dysgu cyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol. Mae gallu siarad a chyfathrebu yn dda yn helpu i blant wneud ffrindiau, dysgu darllen a chael gwell cyfleoedd mewn bywyd.

Hyd yn oed yn y groth, gall eich babi glywed eich llais. O’i enedigaeth, bydd eich babi yn ymateb i leisiau cyfarwydd. Mae’ch babi yn cael ei eni gydag ymennydd ac sydd â photensial enfawr i ddysgu.

Mae dwy flynedd gyntaf bywyd eich plentyn yn bwysig iawn. Yn ystod y cyfnod hwn byddan nhw’n dysgu’r holl sgiliau sydd eu hangen i siarad. Mae’r rhain yn cynnwys edrych, gwrando, copïo a gwneud synau cynnar.

Mae ymchwil yn dangos bod pa mor aml mae’ch yn siarad gyda u’ch plentyn yn effeithio ar eu gallu i siarad. Bydd siarad ac ymateb i’ch babi a phlentyn ifanc ynghyd â chanu, chwarae a darllen gyda’ch gilydd yn helpu’ch babi sy’n parablu i dyfu’n blentyn hapus ac iach sy’n siarad.

Mae Siarad gyda Fi mynnwch awgrymiadau ymarferol a chyngor arbenigol am ddim ar sut y gallwch ddatblygu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu eich plentyn

Mae gan Cymraeg lawer o wahanol adnoddau i’ch helpu i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’ch babi, hyd yn oed os nad ydych chi’n siarad yr iaith yn rhugl eich hun.

Mae gan Words for Life (Dolen allanol) a Mudiad Meithrin (Dolen allanol) lawer o syniadau ar gyfer gweithgareddau i chi a’ch babi neu blentyn, i'w hannog i siarad.

Gwnewch amser i chwarae bob diwrnod

Mae chwarae’n hwyl i fabis a phlant. Dyma sut maen nhw’n dysgu a gwybod pwy ydyn nhw hefyd, sut mae’r byd yn gweithio a sut maen nhw’n ffitio yn y byd hwnnw.

Un o’r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud gyda’ch plentyn yw chwarae. Mae’r amser rydych chi’n ei dreulio’n chwarae gyda’ch gilydd yn rhoi cant a mil o wahanol ffyrdd ac amseroedd i’ch plentyn ddysgu.

Hefyd, mae chwarae yn helpu’ch plentyn i: 

  • fod yn fwy hyderus
  • teimlo ei fod yn cael ei garu, yn hapus a diogel
  • datblygu eu sgiliau cymdeithasol fel rhannu a gwneud ffrindiau
  • dysgu i siarad a chyfathrebu
  • datblygu sgiliau corfforol fel dal pensil, ysgrifennu, cerdded, dringo, sgipio, hopian
  • cysylltu a choethi llwybrau yn yr ymennydd.

Bydd eich plentyn yn hapus os oes ganddo ddigon o amser a gofod i chwarae. Does dim angen llawer o deganau drud.

Syniadau chwarae rhad

  • Newydd-anedig - Er na fydd eich babi newydd-anedig yn gallu dal teganau eto, bydd yn mwynhau llawer o ryngweithio chwareus gyda chi. Tynnwch wynebau gwirion, gwenu, chwerthin a thynnu tafod. Canwch hwiangerddi, sgwrsio, cosi, cyfrif bodiau neu chwythu’n wirion. Gallwch hefyd ddarllen i’ch babi, ond cofiwch ddal y llyfr yn agos gan nad ydy babis newydd-anedig yn gweld llawer pellach na’u trwyn.
  • Babi - Rhowch bethau llachar a diogel i’ch babi edrych arnyn nhw. Chwythwch yn ysgafn ar fol eich babi neu chwarae tylino neu chwarae mig. Gwnewch synau gyda’ch gilydd - canu, taro dysglau a sosbenni a gwneud synau anifeiliaid. Rhannwch lyfr - bydd eich babi’n gwirioni ar dreulio amser gyda chi.
  • Plant bach - Mae plant yn gwirioni ar sgriblo ar bapur gyda pensiliau a phaent. Fel arfer, maen nhw’n mwynhau chwarae gyda dŵr - gallwch roi potiau plastig a photeli plastig gwag iddyn nhw chwarae gyda nhw. Cofiwch gadw llygad barcud ar eich plentyn bach o gwmpas dŵr. Bydd chwarae yn yr awyr agored, yn yr ardd neu’r parc, yn rhoi cyfle i’ch plentyn bach ollwng stêm a datblygu sgiliau. Erbyn i’ch plentyn gyrraedd tair oed, bydd yn mwynhau gwisgo i fyny, chwarae tŷ, a chwarae esgus. Rhannwch lyfr – bydd hyn yn helpu’ch plentyn bach i ddysgu siarad.
  • Plentyn 3-5 oed - Mae plant wrth eu bodd yn chwarae mewn bocsys cardbord - maen nhw’n gallu smalio mai cownter siop, popty, car, cwch neu dŷ doliau yw’r bocs. Beth am ludo lluniau lliw sydd wedi’u torri o gylchgronau ar y bocs? Byddan nhw’n mwynhau gwisgo i fyny - defnyddio hen ddillad a darnau o ddefnydd. Rhowch bapur lliw, sticeri a phennau ffelt y gellir eu golchi i ffwrdd i’ch plentyn.

Mae mwy o syniadau ar gyfer gweithgareddau chwarae a chaneuon ar gael ar wefan Words for Life (Dolen allanol), Mudiad Meithrin (Dolen allanol) neu Plentyndod Chwareus (Dolen allanol). Mae gan dudalen Facebook Education Begins at Home (Dolen allanol) syniadau am bethau i’w wneud yn y cartref hefyd.

Cymorth gyda geiriau a rhifau ar gyfer plant rhwng 0 a 4 oed

Dechreuwch ddefnyddio geiriau a rhifau gyda’ch plentyn o’r cychwyn cyntaf. Byddwch yn helpu’ch plentyn i ddatblygu drwy gynnwys gweithgareddau syml, llawn hwyl yn eich arferion bob dydd.

Does dim angen iddo gymryd llawer o amser. Bydd darllen am 10 munud bob dydd yn rhoi’r cychwyn gorau posibl i’ch plentyn.

Darllen

  • Darllenwch gyda’ch gilydd bob dydd. 
  • Canwch, darllenwch, ailadroddwch. 
  • Pwyntiwch at eiriau ymhob man. 
  • Rhowch lyfrau o fewn cyrraedd eich plentyn. 
  • Ymunwch â llyfrgell leol am ddim.

Rhifau

  • Byddwch yn gadarnhaol ynglyn â rhifau. 
  • Edrychwch ar siapiau, trefn rhifau a mesuriadau. 
  • Dechreuwch siarad am amser. 
  • Dysgwch rigymau a chaneuon yn ymwneud â rhifau, fel 1 bys, dau fys, tri bys yn dawnsio. 
  • Cyfrifwch bethau fel rhan o’ch arferion bob dydd.

Rhagor o wybodaeth

Gwnewch amser ar gyfer amser o ansawdd gyda’ch gilydd

Ceisiwch gael rhywfaint o amser gyda’ch gilydd fel teulu. Defnyddiwch amser gyda’ch gilydd, fel amser prydau bwyd, i siarad a rhannu a chael hwyl. Trefnwch bethau gyda’ch gilydd fel mynd i’r parc neu’r traeth, mynd am bicnic neu ymweld â’r amgueddfa. Mae llond gwlad o weithgareddau am ddim ar gael. Bydd gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd fanylion pethau i’w gwneud yn eich ardal. 

Erbyn y bydd eich plentyn yn dair oed, bydd 85% o’i ymennydd wedi ffurfio. Pan fyddwch chi’n dal, siarad, gwrando a chwarae gyda’ch babi, rydych chi’n helpu ei ymennydd i dyfu.