Neidio i'r prif gynnwy

Mae teimladau plant am eu hunain, pa mor hyderus ydyn nhw a pha mor dda maen nhw’n ymdopi â straen, yn cael eu heffeithio gan y ffordd mae eu rheini’n ymateb iddyn nhw.

Os oes gennych chi berthynas agos, gariadus ac annwyl gyda’ch plentyn, bydd yn helpu’r plentyn i deimlo’n saff a diogel. Gelwir y teimlad hwn o ddiogelwch yn fondio neu ymlyniad. Pan mae plant yn teimlo’n ddiogel maen nhw’n fwy tebygol o fod yn hapus a hyderus, ac yn gallu ymdopi â gwrthdaro a dicter. Os yw’ch plentyn yn teimlo’n ddiogel, mae’n fwy tebygol o fod yn chwilfrydig a dechrau archwilio, a fydd yn ei helpu i ddatblygu’n dda.

Gwnewch amser ar gyfer cofleidio a chwtshus

Bydd rhoi llawer o gariad a sylw i’ch babi neu’ch plentyn yn eich helpu i glosio. Bydd gwneud amser i’w cofleidio bob diwrnod yn:

  • gwneud iddyn nhw deimlo’n dawel eu meddwl a diogel

  • eu helpu i ymlacio

  • gwneud iddyn nhw deimlo’n fwy diogel a hyderus

  • eu helpu i ymdopi â phethau sy’n eu brifo a phroblemau yn y dyfodol

  • cryfhau eu perthynas â chi

Mae llawer o gyswllt corfforol fel cwtshus, eu cario, eu hanwesu, dal dwylo a’u cosi yn helpu eich babi neu blentyn i ryddhau cemegau naturiol yn eu corff. Mae hyn yn gwneud iddyn nhw deimlo’n dda - ac mae’r cemegau yn helpu eu hymennydd i dyfu. Fydd hyn ddim yn eu difetha.

Gwnewch amser i chwarae

Mae chwarae gyda’ch gilydd yn ffordd bwysig o ddangos i’ch babi neu blentyn eich bod yn eu caru ac yn meddwl y byd ohonyn nhw. Rydych chi’n rhoi sylw iddyn nhw ac yn gwneud iddyn nhw deimlo’n arbennig. Dyw chwarae gyda’ch gilydd ddim yn gorfod costio llawer. Mae’ch amser a’ch sylw yn bwysicach na theganau drud.

Gwneud y gorau o weithgareddau bob dydd

Mae gweithgareddau bob dydd fel amser bath, newid cewyn, amser prydau a gwisgo yn gyfleoedd i gysylltu gyda’ch plentyn mewn ffordd ystyrlon. Beth am roi cwtsh, cofleidio a chosi eich babi neu blentyn ar adegau newid cewyn neu fath. Ar eich ffordd i’r siopau neu’r ysgol, gallech gymryd munud neu ddau i bwyntio at rywbeth a allai fod o ddiddordeb iddyn nhw. Does dim rhaid i’r ymwneud hyn â’ch plentyn gymryd llawer o amser a gall wneud gwahaniaeth go iawn.

Amser Arbennig

Gall fod yn ddefnyddiol iawn neilltuo rhywfaint o amser i dreulio amser arbennig gyda’ch plentyn. Gofynnwch i’ch plentyn beth mae am ei wneud ac yna ymunwch yn yr hwyl. Gallai fod yn chwarae gêm, ymweld â’r parc neu ddarllen gyda’ch gilydd. Drwy dreulio amser arbennig gyda’ch plentyn bydd eich plentyn yn dysgu pa mor bwysig yw ei gwmni i chi. Bydd yn dysgu bod ei ddiddordebau’n bwysig a bydd hyn yn ei helpu i fod yn fwy hyderus.

Rhowch wybod i’ch plentyn eich bod yn ei garu, hyd yn oed pan nad ydych yn hoffi’r hyn y mae’n ei wneud.

Gofalwch fod eich plentyn yn gwybod mai’r ymddygiad – nid ef neu hi - sy’n peri gofid i chi. Yn hytrach na dweud “Rwyt ti’n fachgen drwg am fy nharo”, mae’n well dweud “dydw i ddim yn hoffi pan rwyt ti’n fy nharo. Mae’n brifo ac yn fy ngwneud i’n drist.”

Mae’n iawn gofyn am help

Chi yw rhan bwysicaf bwyd eich plentyn. Os ydych chi’n cael anhawster ymdopi neu os ydych chi’n poeni am eich perthynas â’ch plentyn, gofynnwch am help. Gall cael cymorth wneud gwahaniaeth mawr i chi’ch dau.

Bydd gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd fanylion gweithgareddau a grwpiau yn eich ardal. Gallwch eu ffonio ar 0300 123 7777. 

Mae Family Lives (Dolen allanol) yn cynnig llinell gymorth gyfrinachol ac am ddim (o linellau tir a’r rhan fwyaf o ffonau symudol (yr hen Parentline). Gallwch ffonio 0808 800 2222 am wybodaeth, cyngor, canllawiau a chymorth ar unrhyw elfen o rianta a bywyd teulu. Mae’r llinell gymorth (Saesneg) ar agor 9am – 9pm, dydd Llun i ddydd Gwener a 10am – 3pm dydd Sadwrn a dydd Sul.

Mae’r cyfnod rhwng genedigaeth a chwech oed yn gyfnod pwysig iawn ar gyfer datblygiad ymennydd eich plentyn. Mae eich ymwneud cariadus â’ch plentyn yn hollbwysig i hapusrwydd, datblygiad iach a dysgu eich plenty.