Neidio i'r prif gynnwy

Yr hyn sy’n bwysig yw eich bod yn gofalu am eich plentyn ac yn ceisio rhoi’r dechrau gorau iddo yn ei fywyd. Gall pa fath o riant ydych chi effeithio ar les eich plentyn, sut maen nhw’n datblygu a sut maen nhw’n dysgu. Gall effeithio hefyd ar eich perthynas â’ch plentyn.

Er bod magu plant yn gyfnod gwerth chweil, llawn mwynhad yn aml, i’r rhan fwyaf ohonom, dydy hi ddim yn hawdd bod yn rhiant. Weithiau mae’n llawer anoddach na’r disgwyl. Efallai nad ydym yn meddwl llawer am ein hymddygiad tuag at ein plentyn neu sut rydym yn ymateb i’w ymddygiad. Yn aml, rydym ni’n dilyn yr hyn rydym ni wedi’i ddysgu gan ein rhieni neu’n cael syniadau gan ffrindiau. Mae rhai rhieni’n cael syniadau o lyfrau neu gan y bobl y maen nhw’n eu gweld, fel ymwelwyr iechyd.

Gallwch ddewis yr hyn rydych chi am ei ddefnyddio o’ch plentyndod eich hun, neu gan bobl eraill yn eich bywyd, a’r hyn rydych chi am ei adael allan.

Dulliau rhianta

Ers y 1960au, mae seicolegwyr wedi disgrifio pedwar dull rhianta gwahanol ac wedi'u cysylltu â'r hyn yr oeddent wedi’i sylwi am y ffordd yr oedd plant ifanc y rhieni hynny'n ymddwyn. Arweiniodd yr arddull rhianta at wahaniaethau yn ymddygiad y plant. Rydym i gyd yn ffitio rywle ar y raddfa.

  • Rhieni positif neu awdurdodol
    • caredig a chariadus;
    • rheolau syml a chlir ac yn egluro pam eu bod am i’w plant eu dilyn – “gallet ti eu torri neu anafu rhywun os wyt ti’n taflu dy deganau”;
    • ceisio dal eu plant yn bod yn dda a’u canmol;
    • rhoi dewisiadau i’w plant sy’n briodol ar gyfer eu hoedran - “wyt ti am wisgo dy siwmper goch neu dy siwmper las?”;
    • dangos esiampl dda;
    • cymryd amser i wrando, siarad a mwynhau gyda’u plant.

      Gallai eich plentyn ddangos:
    • perfformiad academaidd uwch
    • mwy o hunan-barch
    • gwell sgiliau cymdeithasol
       
  • Rhieni gorawdurdodol
    • llawer o reolau llym;
    • ddim yn egluro pam eu bod am i’w plant wneud pethau. Maen nhw’n fwy tebygol o ddweud “gan fy mod i’n dweud”;
    • tueddu i ganolbwyntio ar ymddygiad drwg, yn hytrach nag ymddygiad da;
    • cosbi eu plant (gan daro yn aml), am beidio â dilyn rheolau.

      Gallai eich plentyn ddangos:
    • perfformiad academaidd is
    • llai o hunan-barch
    • sgiliau cymdeithasol gwan
       
  • Rhieni goddefol (hamddenol iawn)
    • caredig a chariadus;
    • dim llawer o reolau, os o gwbl;
    • ildio i gwyno a checru gan eu bod am gael bywyd tawel a ddim eisiau peri gofid i’w plant;
    • gwneud popeth dros eu plant heb roi cyfle i’w plant roi cynnig arni.

      Gallai eich plentyn ddangos:
    • ymddygiad byrbwyll
    • agwedd hunanganolog
    • sgiliau cymdeithasol gwan
       
  • Rhieni anghyfrannog neu esgeulus/wedi ymddieithrio
    • wedi datgysylltu’n emosiynol
    • gallent fod yn yr un ystafell â'u plentyn, ond nid ydynt yno mewn gwirionedd
    • mewn swydd brysur iawn ac yn ei chael hi'n anodd peidio â meddwl amdani
    • gall y cysyniad o amldasgio arwain at ddiffyg cysylltiad rhyngddyn nhw a’u plentyn

      Gallai eich plentyn ddangos:
    • ymddygiad byrbwyll
    • perfformiad academaidd is
    • sgiliau cymdeithasol gwan

Gall rhieni ddefnyddio cymysgedd o’r mathau hyn o fagu plant. Ond yn aml, maen nhw’n defnyddio un math yn amlach nag un arall. Gallwch weld bod gan y dull cadarnhaol neu awdurdodol ganlyniadau gwell i blant. Os ydych rhieni dan bwysau, efallai y byddan nhw’n fwy llym am beth amser. Neu efallai na fydd ganddyn nhw’r egni ac yn gadael i bethau fod am dipyn. Mae’r rhan fwyaf o rieni’n cadw cydbwysedd rhwng bod yn “rhy llym” neu’n “rhy faddeugar” bob dydd. Bydd cael perthynas gynnes ac ymatebol gyda'ch plentyn gyda ffiniau a disgwyliadau clir a chyson yn eu helpu i dyfu i fyny a theimlo'n well amdanynt eu hunain, gwneud ffrindiau a bod yn barod i ddysgu.

Does gan neb yr atebion i gyd a does dim ffasiwn beth â rhiant perffaith.

Mae’n iawn gofyn am gymorth

Mae gwasanaethau a sefydliadau ar gael sy’n rhoi cymorth a chyngor i chi. Gallai’r llinellau cymorth hyn fod yn ddefnyddiol:

  • Llinell Gymorth C.A.L.L. ar 0800 132 737 (gwasanaeth 24 awr) – Llinell Gyngor a Gwrando Gymunedol - (neu anfonwch neges destun ‘help’ at 81066). Llinell gymorth gyfrinachol yw hon sy’n cynnig cymorth emosiynol ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig.
  • Y Samariaid ar 116 123 (gwasanaeth cyfrinachol 24 awr). Gallwch gysylltu ynglŷn ag unrhyw beth sy’n eich poeni, mawr neu fach.

Gofalu amdanoch chi’ch hun

Gall cwrdd â rhieni eraill eich atgoffa nad ydych chi ar eich pen eich hun. Bydd eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn gallu dweud wrthych beth sy'n digwydd yn eich ardal.

Os byddwch am ddysgu rhagor am fagu plant cadarnhaol, beth am gael gwybodaeth am y cymorth i rieni a'r grwpiau y mae eich Awdurdod Lleol yn eu cynnig.

Mae Family Lives yn cynnig gwasanaeth llinell gymorth gyfrinachol am ddim i deuluoedd yng Nghymru ar unrhyw agwedd ar fagu plant a bywyd teuluol. Gallwch siarad â rhywun drwy ffonio 0808 800 2222, neu ewch i wefan Parenting and Family Support – Family Lives i ddefnyddio'r cyfleuster sgwrs fyw.

Mae Parent Talk Cymru (Action for Children) yn cynnig cyfle i gael sgwrs fyw gyfrinachol am ddim gyda hyfforddwr magu plant yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ewch i wefan Parent Talk Cymru