Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yn tyfu fwyaf yn ystod y tair blynedd gyntaf, ac erbyn tair oed, bydd 90% o'i ymennydd wedi'i ddatblygu. Bydd chwarae, cariad a gofal ac ymateb i'w grïo a'i breblan yn cynnig y profiadau iawn i'ch plentyn a fydd yn helpu ei ymennydd i dyfu'n dda.

Sut mae ymennydd eich babi'n datblygu? 

Mae ymennydd eich babi'n cynnwys gwahanol rannau sy'n rheoli popeth y mae'n ei wneud - o ran clywed a cherdded i ddatrys problemau a sut mae'n teimlo. Mae gan bob rhan o'r ymennydd filiynau o gelloedd yr ymennydd, neu niwronau, sydd wedi'u cysylltu â'i gilydd gan synapsau.  

Yn syth ar ôl yr enedigaeth mae gan eich babi 100 biliwn o gelloedd yr ymennydd, ond prin iawn yw'r cysylltiadau (synapsau) rhwng y celloedd hynny. Eich cariad, eich teimladau a'ch agosrwydd sy'n helpu i sicrhau bod gwifriad yr ymennydd wedi'i gysylltu.

Yn ystod blynyddoedd cynnar eich babi, mae'r cysylltiadau'n datblygu'n gyflym iawn. O'r dyddiad geni i ddwy oed, bydd eich plentyn yn ffurfio 700 o gysylltiadau newydd bob eiliad! 

Wrth i'r cysylltiadau hyn ffurfio, bydd eich plentyn yn datblygu sgiliau fel cydio yn degan, cropian, cymryd cam cyntaf a dweud ei eiriau cyntaf.

Mae gan bob rhan o ymennydd eich plentyn rôl wahanol. Rôl rhan isaf yr ymennydd yw rheoli'r ymddygiadau sydd eu hangen ar eich plentyn i fyw, fel bwyta, anadlu a symud. Mae canol yr ymennydd yn gyfrifol am ei emosiynau, fel ofn, bondio, dicter a hapusrwydd. Mae rhan uchaf yr ymennydd yn helpu eich plentyn i wneud penderfyniadau, bod yn hunanymwybodol, dangos empathi a defnyddio'i ddychymyg. Mae'r rhan hon o'r ymennydd hefyd yn helpu eich plentyn i reoli neu dawelu teimladau fel dicter. Nid yw'r rhan resymegol o ymennydd eich plentyn yn datblygu llawer cyn tair oed. Pan fydd eich plentyn yn ddig neu wedi cynhyrfu, mae angen eich help chi arno i'w dawelu.   

Beth sydd angen ar ymennydd eich babi i ddatblygu'n dda?

Mae eich eisiau chi arno i helpu ei ymennydd i dyfu'n dda. Nid oes angen ichi wneud unrhyw beth cymhleth,  na phrynu teganau drud. Yr hyn sydd ei angen ar ymennydd eich babi er mwyn iddo ddatblygu yw:

  • Cariad a sylw - Pan fyddwch chi'n ymateb i'ch babi mewn ffordd gariadus a chyson, gallwch chi helpu i sicrhau bod cysylltiadau'r ymennydd yn cael eu ffurfio.  Ceisiwch ymateb i'ch babi pan fydd yn crio. Bydd yn dysgu bod y byd yn lle diogel, a bydd yn teimlo'n ddiogel. 

  • Profiadau cadarnhaol - Pan fydd babi'n preblan, yn crio neu'n gwenu ac rydych chi'n ymateb drwy ddefnyddio eich llygaid, drwy wenu, canu, geiriau neu drwy roi maldod, mae hynny'n helpu i ddatblygu cysylltiadau yn yr ymennydd. Mae'r cysylltiad yn ôl ac ymlaen yn helpu i ddatblygu cysylltiadau iach yn yr ymennydd sy'n helpu i'ch plentyn ddatblygu'n dda.  

  • Gweithgareddau difyr - Mae treulio amser yn chwarae yn cynnig profiadau newydd i'ch babi sy'n 'bwydo' ei ymennydd! Mae hynny'n well na threulio amser yn gwylio'r teledu ac yn defnyddio cyfrifiaduron llechen. Mae siarad, darllen a chanu'n weithgareddau difyr a hawdd i helpu ymennydd eich babi i dyfu.

  • Cartref diogel, digyffro a chariadus - Pan fyddwch chi'n aros yn dawel ac yn ddigyffro, mae eich babi yn fwy tebygol o fod yn dawel hefyd. Nid yw'r rhan o'r ymennydd sy'n helpu eich plentyn i reoli neu dawelu teimladau fel dicter wedi'i datblygu'n dda cyn tair oed. Nid yw eich babi'n ddigon hen i wneud rhywbeth o fwriad neu i reoli ei weithredoedd. Pan dydd eich plentyn yn ddig neu wedi cynhyrfu, mae angen eich help chi arno i'w dawelu.   

  • Cadw pethau'r un fath cymaint ag sy'n bosibl. Dilynwch drefn sy'n gweithio i'ch teulu.

  • Bwyd da - Mae llaeth y fron yn rhoi'r dechrau gorau i'ch babi. P'un a ydych chi'n bwydo ar y fron neu'n defnyddio fformiwla babanod, mae bwydo'ch babi yn amser gwych i'r ymennydd ddatblygu - drwy ddefnyddio'ch llygaid, canu, gwenu a rhoi maldod. Wrth i'ch babi dyfu, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cynnig deiet iach iddo.  Mae hynny'n helpu'r ymennydd i dyfu. 

Chi sy'n chwatae'r rhan bwysicaf ym mywyd eich plentyn.

Mae eich llesiant emosiynol yn cael effaith fawr ar gyflwr emosiynol ymennydd eich plentyn. Mae dod o hyd i ffyrdd i ymlacio a rheoli'r straen yn gallu helpu. Efallai y byddai cael seibiant yn eich helpu i ymdopi â phopeth. 

Mae ansawdd eich perthynas â'ch partner yn bwysig iawn, p'un a ydych chi'n magu'r plentyn gyda'ch gilydd neu ar wahân. Os byddwch chi a'ch partner yn cyfathrebu mewn ffordd gadarnhaol, gall hynny leihau'r straen ar eich teulu.   

Nid oes neb yn ei chael hi'n iawn bob amser. Gallai fod o gymorth i drafod pethau â'r teulu neu â ffrindiau. Os byddwch chi'n poeni am deimlo dan bwysau, yn isel neu'n ddigalon, siaradwch â'ch ymwelydd iechyd neu'ch meddyg teulu. Bydd gan eich Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd wybodaeth am wasanaethau yn eich ardal - ffoniwch nhw ar 0300 123 7777.

Adnoddau defnyddiol

Llyfr ‘Naw mis a mwy’ (Dolen allanol)

I gael help gyda bwydo ar y fron ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru (Dolen allanol)
Llinellau cymorth cyfrinachol: 
Family Lives – Rhif ffôn: 0808 800 2222
Cry-sis -  Rhif ffôn: 08451 228 
Y Samariaid -  Rhif ffôn: 116 123

O'r dyddiad geni i dair oed mae ymennydd eich plentyn yn mynd trwy gyfnod datblygu anhygoel - gan gynhyrchu 700 o gysylltiadau nerfol newydd bob eiliad!