Neidio i'r prif gynnwy
Kevin Lawrence

Deall pa fath o riant ydych chi er mwyn i chi allu cael y berthynas orau â'ch plentyn.

Blog Kevin Lawrence ar arddulliau magu plant

Rwy'n Weithiwr Cymdeithasol Iechyd a Pherthynas o Dechrau'n Deg. Rwy'n cefnogi teuluoedd bob dydd ac yn eu helpu i roi'r dechrau gorau posibl i'w plant.

Weithiau, mae'n ddefnyddiol i mi weithio gyda rhieni i'w helpu i ddeall pa fath o arddull magu plant sydd ganddyn nhw. Yn aml bydd ganddyn nhw arddulliau wahanol a gall hyn achosi anghytuno. Ydych chi erioed wedi ystyried eich arddull magu plant? Mae gwahanol fathau, ac mae meddwl am hyn yn gallu eich helpu i gefnogi datblygiad, ymddygiad a lles eich plentyn. Pam mae hyn yn ddefnyddiol? Os ydych chi'n gwybod pa fath o arddull magu plant rydych chi'n dueddol o’i ddefnyddio, gallwch chi wedyn wneud yn siŵr eich bod chi’n gyson yn eich arddull a gall hyn helpu, yn arbennig wrth ymdrin â'r adegau anoddach.

Deall eich arddull magu plant

Mae hi bob amser yn bwysig i ddeall eich ymddygiad chi neu'ch plentyn chi yn gyntaf, yna gallwch chi ddysgu a datblygu eich dull chi.

Mae pedwar prif arddull magu plant – awdurdodus, goddefgar, anghyfrannog ac awdurdodol (sy’n cael ei alw’n rhianta cadarnhaol hefyd). Er bod gan y rhan fwyaf o rieni arddull y maen nhw’n ei ffafrio'n naturiol, mae'n gyffredin iawn symud rhwng y pedwar math yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'ch hwyliau ar y pryd.

Awdurdodus

Os ydych chi’n rhiant awdurdodus, mae'n debyg eich bod yn defnyddio ffordd fwy llym o fynd ati. Rydych chi’n dweud, yn hytrach na gofyn, i'ch plentyn yr hyn y dylai ei wneud a sut y dylai ymddwyn. Drwy ddilyn yr arddull hwn, rydych chi’n sicrhau mai chi yw'r un sydd wrth y llyw – gan atgyfnerthu’r ffaith y dylai eich plentyn chi bob amser wneud fel yr ydych chi’n ei ddweud wrtho. Ffordd dda o grynhoi'r math hwn o fagu plant yw'r ymadrodd 'gwnewch fel rwy’n ei ddweud, nid fel rwy’n ei wneud'.

Goddefgar

Os oes gennych chi arddull magu plant oddefgar, efallai y gwelwch chi’n aml eich bod chi’n ildio i ofynion eich plentyn chi – gan fod yn ffrind iddo ef uwchlaw popeth arall. Rwy'n gweld y math hwn o fagu plant yn aml yn dod i'r amlwg pan fydd rhieni'n brysur ac yn teimlo'n euog nad oes modd iddyn nhw dreulio gymaint o amser gyda'u plentyn ag yr hoffen nhw. Os ydych chi’n rhiant goddefgar, efallai y byddwch chi’n teimlo bod angen i chi 'wneud yn iawn' am eich amserlen brysur drwy ildio i ofynion eich plentyn.

Anghyfrannog

Mae arddull magu plant anghyfrannog yn disgrifio sefyllfa lle y gallech chi fod yn yr un ystafell â'ch plentyn, ond nid ydych chi yno mewn gwirionedd – efallai bod gennych chi swydd brysur iawn a'ch bod yn ei chael hi’n anodd peidio â meddwl amdani. Gall y cysyniad o amldasgio arwain at "ddatgysylltu" rhyngoch chi a'ch plentyn chi .

Rhianta Cadarnhaol neu Awdurdodol

Os oes gennych chi arddull magu plant cadarnhaol, rydych chi’n deall mai chi yw'r un wrth y llyw, ond yn cydnabod ei bod hi’n bwysig i chi wrando ac ymateb i anghenion unigol eich plentyn. Byddwn i’n disgrifio'r arddull hwn fel un sy'n arwain drwy esiampl a helpu eich plentyn i ddysgu o brofiad.

Yn eich barn chi, p’un ydych chi?

Yn fy mhrofiad i, mae manteision enfawr o ddilyn yr arddull magu plant cadarnhaol a dyma rai awgrymiadau y gallech chi eu defnyddio:

  • Gwnewch amser i'ch teulu. Mae datblygu a meithrin cysylltiad â'ch plentyn mor bwysig. Nid yw'n ymwneud â faint o amser yn unig ond yn hytrach, ansawdd yr amser hwnnw, a sicrhau bod gweithgareddau'n werthfawr ac yn ystyrlon.
  • Sefydlwch ffiniau gyda'ch plentyn. Rydych chi'n rhiant yn gyntaf, ac yn ffrind yn ail. Nid yw gosod ffiniau'n golygu bod yn llym, mae'n ymwneud â rhoi ymdeimlad o strwythur a diogelwch i'ch plentyn chi. Pan fo ffiniau yn eu lle, bydd plant yn teimlo'n fwy diogel yn naturiol.
  • Cydnabod ymddygiad da. Mae canmoliaeth yn wych i hunan-barch eich plentyn. Mae dweud wrthyn nhw yr hyn y maen nhw wedi'i wneud yn iawn yr un mor bwysig â dweud wrthyn nhw yr hyn maen nhw wedi'i wneud o'i le. Mae rhianta cadarnhaol yn ymwneud â helpu’ch plentyn i ddysgu drwy ei brofiadau ei hun a chreu amgylchedd lle mae'r plentyn yn gwybod y bydd canlyniadau os bydd yn ymddwyn yn wael.
  • Rhowch ddewis i’ch plentyn. Bydd rhoi dewis i’ch plentyn yn y broses o wneud penderfyniadau yn ei helpu i deimlo ei fod yn cymryd rhan a bod ganddo fwy o reolaeth – hyd yn oed pan mai chi sydd wrth y llyw. Er enghraifft: yn hytrach na dweud wrth eich plentyn, 'Rho dy ’sgidiau ymlaen nawr neu fyddwn ni’n hwyr!', dywedwch: 'Wyt i eisiau rhoi dy ’sgidiau ymlaen nawr, fel ein bod ni’n cyrraedd yr ysgol ar amser?'
  • Cofiwch am eich lles eich hun. Fel rhieni, rydym ni’n aml yn euog o roi ein hunain yn olaf. Ond os ydym ni’n teimlo’n flinedig ac yn bryderus, does dim llawer o egni ar ôl gennym ni a gallai hyn olygu ein bod yn colli tymer yn gyflym. Drwy roi ychydig o amser tawel i chi eich hun, byddwch chi’n buddsoddi yn eich lles eich hun, byddwch chi’n teimlo eich bod chi’n gallu ymdopi’n well â sefyllfaoedd anodd.