Neidio i'r prif gynnwy

Gyda’r ddau ohonom ni’n bwriadu dychwelyd i’r gwaith, fi ar ôl naw mis a Mark ar ôl pythefnos, a’r ffaith nad yw’n rhieni ni’n byw yn gyfagos, doedd dim dewis gennym ni mewn gwirionedd.

Roedd yn gyfnod reit ddirdynnol wrth i ni ymchwilio i’r opsiynau lleol, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud y penderfyniad cywir.

I gychwyn, gofynnom ni i’n ffrindiau a’n teuluoedd am argymhellion, cyn mynd ati i ddarllen gwefannau ac adolygiadau ar gyfryngau cymdeithasol. 

Ar ôl gwneud hynny, darllenom ni adroddiadau o archwiliadau ar wefan Arolygiaeth Gofal Cymru. Ar ôl i ni gytuno ar y lleoedd mwyaf addas, trefnom ni ymweliadau er mwyn gweld y cyfleusterau a siarad â’r staff, gofyn cwestiynau a gwneud yn siŵr bod ganddynt gyfnodau ymsefydlu.

Roedd y lleoliad yn ffactor bwysig achos roedd hi’n bwysig dod o hyd i rywle agos at ein mannau gwaith, rhag ofn bod angen i ni fod wrth law mewn argyfwng. Yn debyg i’r rhan fwyaf o rieni, roedd y gost yn ffactor hefyd ac edrychom ni ar ddefnyddio talebau gofal plant – sy’n gynllun treth-effeithlon sy’n cael ei ddefnyddio gan nifer o gyflogwyr, lle caiff ffioedd gofal plant eu talu yn uniongyrchol o’ch cyflog. Yn ogystal, penderfynom ni ddefnyddio ein gwyliau blynyddol er mwyn cymryd pob yn ail ddydd Llun fel gwyliau. Roedd hynny’n golygu nad oedd Lily mewn gofal plant am bum diwrnod yr wythnos a bod Mark a minnau’n cael cyfle i dreulio diwrnod cyfan yn ei chwmni. 

Ar ôl gwneud ein penderfyniad ac ar ôl i Lily ddechrau yn y feithrinfa, roedd hi’n bwysig cadw meddwl agored o ran sut roedd pethau’n mynd. Sut oedd hi’n setlo? Oedd hi’n cael amser da ac yn gwneud ffrindiau? Beth arall oeddem ni’n sylwi o ran ei datblygiad yn gyffredinol?

Roedd yr wythnosau cynnar yn gyfnod o emosiynau cymysg. Ar ôl naw mis o gyfnod mamolaeth, o dreulio’r dydd a’r nos gyda’ch plentyn, roedd meddwl am ei gadael gyda rhywun arall yn hynod anodd. Roedd y ddau ohonom ni’n teimlo braidd yn drist, yn nerfus a hyd yn oed yn euog ar adegau. Yn enwedig pan fyddai Lily’n crio wrth fynd mewn i’r feithrinfa a ni’n ei gadael er mwyn mynd i’r gwaith.

Wrth iddi ddod i arfer â mynd i’r feithrinfa, lleddfwyd ein pryderon cychwynnol. Er hynny, nid yw’r pryder yn diflannu’n gyfan gwbl. I ni, roedd hi’n braf gweld bod Lily’n mwynhau mynd i’r feithrinfa ac i’w gweld hi’n datblygu. Mae hi’n dal i wrthod gadael fynd o bryd i’w gilydd ac yn crïo pan fyddwn ni’n ei gadael yn y bore, ond mae hi wedi magu hyder ac wedi dysgu sut i chwarae gyda grŵp o ffrindiau. 

Weithiau, mae hi’n ein synnu gyda’i gwybodaeth ac mae hi wrth ei bodd yn dangos ei sgiliau newydd i ni (cyfri, tynnu llun, golchi ei dwylo ac ati). Yn ogystal, pan mae’n cael tegan newydd, mae hi’n hoff o fynd â fe i’r feithrinfa i ddangos i bawb, sy’n arwydd da gan fod hynny’n dangos cysylltiad cadarnhaol rhyngddi hi, ei ffrindiau a’i gofalwyr. 

Ar ôl dychwelyd i’r gwaith, rwy’n cofio teimlo bod ein hamser gyda Lily wedi’i gyfyngu, yn enwedig yn ystod yr wythnos, felly rydym yn ceisio treulio cymaint o amser o ansawdd gyda hi ag sy’n bosibl gyda’r nos ac ar y penwythnos. Nid yw hi’n mynd i’r gwely mor gynnar â rhai plant arall yn ystod yr wythnos, oherwydd rydym ni eisiau treulio amser yn ei chwmni a chlywed am ei diwrnod, bwyta swper gyda’n gilydd ac yna amser chwarae cyn cael bath a stori cyn gwely.

Rhaid i bob rhiant wneud penderfyniad personol wrth gwrs, ond mae dewis y lleoliad gofal plant cyntaf yn gallu bod yn heriol tu hwnt. Byddwch yn barod i edrych ar wahanol fathau o ddarparwyr a’r hyn y maen nhw’n ei gynnig. Mae’n syniad da cael barn broffesiynol am eich darpar ddarparwr, felly darllenwch yr adroddiadau diweddaraf ar-lein ac, yn bwysicach fyth, ewch i gwrdd â’r bobl a fydd yn gofalu am eich plentyn a gofynnwch nifer o gwestiynau iddynt a fydd yn sicrhau eich bod yn gwneud y penderfyniad cywir i chi a’ch teulu.

Byddwch yn ymwybodol bod rhestrau aros gan rai darparwyr, felly dechreuwch gynllunio cyn gynted ag y bo modd. Mae yna opsiynau amgen ar gael, fel nani neu warchodwyr plant, ond i ni, roedd meithrinfa ddydd yn darparu lle diogel, hwyl ac addysgiadol i Lily fynd tra ein bod ni yn y gwaith. Mae hi’n hapus ar ddiwedd pob diwrnod pan fyddwn yn ei chasglu, felly rydym yn sicr ein bod wedi gwneud y penderfyniad cywir. 

Gobeithio bydd ein profiad ni o werth i chi hefyd. Pob lwc!

Adnodd ardderchog arall wrth ddewis gofal plant yw’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd , sy’n bwynt cyswllt cyntaf a chyngor a gwybodaeth ar nifer o wasanaethau lleol i deuluoedd a gofalwyr yng Nghymru.

Another great resource when choosing childcare is your local Family Information Service, which provides a first point of contact for advice and information on lots of local services for families and carers in Wales.