Neidio i'r prif gynnwy

Paratoi o flaen llaw sy’n allweddol, yn fy mhrofiad i. Dyma gyngor yn seiliedig ar yr hyn rydw i wedi’i ddysgu fel rhywun sydd â phrofiad helaeth o siopa gyda phlant...

Siaradwch

Cyn mynd i siopa, rwy’n siarad gyda’r plant am ble rydym yn mynd ac yn sôn am y math o bethau sydd angen i ni eu prynu - yn ogystal â chrybwyll y math o ymddygiad rydw i’n ei ddisgwyl ganddynt. Rwy’n ceisio rhoi’r argraff iddynt fod angen eu help nhw arna i gyda’r siopa. Mae eu disgrifio nhw fel “fy helpwyr arbennig” a rhoi canmoliaeth iddynt yn helpu, yn fy mhrofiad i.

Y Rhestr

Rwy’n ysgrifennu rhestr bob tro y bydda’ i’n mynd i siopa neu, fel arall, rwy’n sicr o anghofio rhywbeth. Mae’r rhestr hefyd yn ffordd o gyfeirio’n ôl at “ein cynllun”, sydd byth yn cynnwys treulio dwy awr yn adran y teganau. Mae fy mhlant i wrth eu boddau’n teimlo’n rhan o’r profiad, yn enwedig dewis y ffrwythau, pwyso llysiau a dod o hyd i’r eitemau anodd i’w ffeindio. Roedd Sebastian yn arfer mwynhau cael rhestr ei hun, pan oedd yn ifancach. Byddwn i’n rhoi rhestr fer iddo – wyau, melon dŵr, iogwrt. Roedd e wrth ei fodd petai’r lluniau yn ddoniol, felly byddwn i’n rhoi wynebau hapus ar y ffrwythau.

Amseru a thactegau

Rwy’n ceisio dewis amser da i fynd i siopa, gan osgoi amser cysgu’r plant neu amser bwyd, oherwydd mae pawb ychydig yn flin pan maen nhw eisiau bwyd.
Fel arfer, mae’r plant yn mwynhau siopa gyda mi, chwilio am eitemau a’u tynnu nhw oddi ar y silffoedd a helpu i wthio’r troli. Os ydyn nhw wedi blino, maen nhw’n hapus i eistedd yn sedd y troli a helpu o’r fan yna, felly rwy’n tueddu cario tegan neu lyfr yn fy mag i’w diddanu nhw. Rwy’n defnyddio bwyd a diod fel opsiwn olaf (mae banana neu flwch o resins fel arfer yn gwneud y tro), fel arfer wrth y tiliau os oes ciw hir. Mae’n helpu i’w cadw nhw’n brysur wrth i’r nwyddau gael eu sganio a’u pacio.

Yr adran deganau

Fel arfer, bydd Sebastian ac Imogen yn gofyn am gael gweld y teganau pan fyddwn yn mynd i siopa, felly rwy’n defnyddio hynny i’w gwobrwyo nhw ar ddiwedd y daith, cyn belled â’u bod nhw wedi bod yn blant da. Os byddwch chi’n penderfynu gwneud rhywbeth tebyg, byddwch yn amyneddgar a gadewch iddyn nhw edrych ar bopeth sy’n dal eu diddordeb. O bryd i’w gilydd, bydd un ohonynt yn gofyn am degan ac rwyf wastad yn ateb, “wrth gwrs, rhown ni hwnnw ar dy restr pen-blwydd / Nadolig”. Fel arfer, maen nhw’n hapus gyda hynny, sy’n ein galluogi ni i orffen siopa, talu a llwytho’r car. Mae prynu tegan i’ch plant ar bob ymweliad â’r archfarchnad yn mynd i godi eu gobeithion a bod yn ddrud iawn.

Ymweld â’r stryd fawr

Roedd Sebastian ac Imogen yn arfer casáu siopa am ddillad. Fel babanod bach iawn, roedd hi fel petaent yn gallu synhwyro pan fyddwn i’n gwthio’r bygi mewn i siop ddillad, ac yn dechrau crio ar unwaith. Fodd bynnag, maen nhw bellach yn mwynhau dewis eitemau o ddillad i’w hunain, ar yr amod nad yw’n cymryd yn rhy hir.

Os oes angen rhywbeth newydd arnynt, rwy’n tueddu i edrych ar-lein o flaen llaw i gael syniad o’r hyn sydd ar gael. Mae hynny’n golygu y gallaf anelu’n syth at y lle cywir er mwyn dod o hyd i’r opsiynau derbyniol iddynt gael dewis. Fy nghyngor i yw gadael i’r plant ddewis o’r opsiynau rydych chi’n hapus i brynu iddynt - os ydych chi wedi dweud wrthynt y byddant yn cael y gair olaf wrth ddewis cot ysgol, byddwch yn barod i brynu siaced felen lachar gyda smotiau coch! Eisoes, mae gan y ddau blentyn hynaf chwaeth bersonol o ran dillad. Dillad plaen yn unig y bydd Sebastian yn eu gwisgo, tra bod Imogen yn tueddu i ffafrio lliwiau llachar, jîns neu drowsus, ac unrhyw beth â deinosoriaid.

Cadw’n bwyllog

Pryd bynnag yr ewch chi i siopa gyda phlant, rhaid cael disgwyliadau rhesymol o’r hyn sy’n bosibl. Os byddant yn sgrechian, gweiddi neu’n rholio ar y llawr (fel maen nhw’n gwneud o bryd i’w gilydd), gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n ddiogel, arhoswch gyda nhw a gadewch iddyn nhw sgrechian am gyfnod. Mae siopa yn brofiad digon heriol i nifer o oedolion, felly rhowch gwtsh i’ch plentyn ar ôl iddo dawelu a’i ganmol am wneud. Peidiwch â phrynu tegan neu roi losin iddynt neu byddant yn cofio hynny ac yn disgwyl cael gwobr ar bob achlysur tebyg.

Mae mynd i siopa gyda phlant ifanc yn heriol, felly ceisiwch fynd ar adeg dda iddyn nhw a chi; paratowch o flaen llaw a cheisiwch eu cynnwys nhw yn y gweithgaredd. Mae mwy o gyngor ar wefan Magu Plant. Rhowch Amser Iddo, ac, yn olaf, byddwch yn gadarnhaol a phob lwc!