Neidio i'r prif gynnwy

Mae yna fanteision amlwg o dreulio rhan helaeth o’r dydd tu allan – mae Myla’n tueddu cysgu’n well, rwy’n teimlo’n adfywiol ac yn llawn egni, ac mae Sam wrth ei fodd yn cael cyfle i glirio ei ben.

Cymryd mantais o fannau gwyrdd

Rydym ni’n ffodus o fyw ger parc mawr sy’n cynnwys coedwig, llyn a chaeau. Mae’r ardaloedd gwahanol yn darparu cyfloedd amrywiol i Myla, ac mae’r amser yn hedfan wrth i ni dreulio bore neu brynhawn yn crwydro. 

Mae hi wrth ei bodd yn chwilio am frigau, taflu cerrig i’r dŵr, bwydo’r hwyaid, rhedeg trwy’r gwair ac, wrth gwrs, neidio mewn pyllau dŵr. Wrth gwrs, rwy’n cadw llygad barcud ar Myla pan fyddwn ni allan, yn enwedig os ydym ni wrth y dŵr. Mae’n gallu bod yn lleidiog tu hwnt yn ystod y gaeaf, ond nid yw hynny’n ein stopio ni. Mae Myla’n gwisgo siwt gwrth-ddŵr gynnes, sy’n berffaith ar gyfer neidio mewn pyllau dŵr. Ar ôl golchi ein dwylo, yn aml mae’n rhaid i ni ddiosg ein dillad yn syth a’u rhoi nhw yn y peiriant golchi er mwyn osgoi baeddu’r carped.

Mae treulio amser yn yr awyr agored yn brofiad synhwyraidd i blant bach, ac rydym yn ceisio cyflwyno pethau gwahanol i Myla allu ei cyffwrdd a’u harogleuo. Mae hi wrth ei bodd yn crafu rhisgl coed, arogleuo blodau a chasglu concyrs, cerrig, més a dail. Mae Myla hefyd yn mwynhau gwylio bywyd gwyllt, ac rydym weithiau’n treulio deg munud a mwy yn dilyn chwilen neu aderyn!

Llesiant corfforol a meddyliol 

Yn fy mhrofiad i, roedd treulio amser yn yr awyr agored yn ystod misoedd cynnar bywyd Myla yn beth cadarnhaol o ran fy llesiant cyffredinol. Ar adegau, roedd hi’n ymdrech fawr i adael y tŷ er mwyn mynd am dro o amgylch yr ardal leol. Yn aml, byddem yn ei chario hi mewn sling ac yn cerdded am oriau, cyn galw i mewn i gaffi i gael paned a chacen haeddiannol. Y peth gorau am fwynhau’r awyr agored yw ei fod yn rhad ac am ddim. Mae’r rhan fwyaf o barciau mewn trefi a dinasoedd yn llawn rhieni a’u plant yn mwynhau ychydig o amser i ffwrdd o’r tŷ. Rydw i wedi gwneud ffrindiau da trwy drefnu teithiau cerdded wythnosol o amgylch y parc – mae rhywbeth boddhaol iawn am gerdded a sgwrsio tra bod y babanod yn cysgu (neu’n sgrechian!).

Wrth gwrs, mae yna fanteision corfforol amlwg i adael i’ch plentyn redeg o amgylch yn yr awyr agored. Rydw i wedi llosgi miloedd o galorïau yn cario Myla mewn sling neu ar fy ysgwyddau! Credaf fod annog plant bach i fwynhau’r awyr agored, beth bynnag yw’r tywydd, yn arwain at arferion iach o ran ymarfer corff. Does dim angen poeni am y glaw. Yn wir, un o fy hoff bethau i’w wneud gyda Myla ar ddiwrnodau diflas yn gwisgo dillad cynnes a mynd allan i’r awyr iach, hyd yn oed os yw hi’n bwrw glaw. Mae Myla wrth ei bodd yn gweiddi “glaw!” pan mae’n teimlo’r diferion ar ei chot. 

Ysbrydoli gweithgareddau crefftus

Yn ogystal, mae treulio amser yn yr awyr agored yn rhoi syniadau i ni am weithgareddau dan do diddorol, pan fydda i’n gorfod gwneud pethau diflas o amgylch y tŷ. Yn yr hydref, casglom ddail er mwyn gwneud garlant i’w hongian yn y lolfa. Rwy’n siŵr y bydd teithiau cerdded yn y dyfodol yn arwain at jariau llawn chwyn o amgylch y tŷ yn hwyrach yn ystod y flwyddyn! Rydym ni’n edrych ymlaen at y gwanwyn a’r haf, pan fydd gennym fwy o gyfle i fwyta bwyd yn yr ardd gyda’r nos!