Neidio i'r prif gynnwy

Wrth gwrs, gallwch chi ddarllen llwyth o lyfrau a blogiau, neu ymchwilio i bethau ar-lein, ond mae’n siŵr nad yw hynny’n paratoi’r rhan fwyaf o bobl ar gyfer bod yn fam neu’n dad.

Dw i’n credu bod gennym ni gyd y gallu i fod yn rhieni gwych. Efallai bod rhai’n ymgyfarwyddo’n haws nag eraill, mae rhai’n fwy petrusgar nag eraill, ond dw i’n siŵr bod modd i ni gyd droi ein llaw at hyn.

Yn debyg i brentisiaethau, mae magu plant yn golygu dysgu wrth wneud y gwaith. O ddydd i ddydd, bydd cyfnodau llwyddiannus ac aflwyddiannus: nosweithiau digwsg, salwch, apwyntiadau, ymweliadau teuluol. Does dim byd byth yn syml gyda rhai bach, ond dyna hanner yr hwyl. Y gamp yw dod o hyd i atebion sy’n gweithio i chi a’ch teulu: rydych chi’n dîm wedi’r cyfan.

Wedi dweud hynny, er na all neb ddweud wrthoch chi sut i fod yn rhiant da, gall clywed am brofiadau pobl eraill a chael ambell awgrym gan rywun sydd wedi bod yn yr un sefyllfa fod yn help mawr. 

Er enghraifft, roeddem arfer mynd ag Ayda allan yn y car ambell noson pan roedd hi’n gwrthod setlo am fod rhywun wedi awgrymu hynny wrthon ni ac fe weithiodd i’r dim. Roedd ffrind arall â phlant hefyd wedi awgrymu cael coets rad am ei bod yn hawdd i’w gosod yn y car a’i thynnu allan, ei benthyg i aelodau o’r teulu neu ei storio. Mae’n gwneud mwy o synnwyr na choets grand sy’n gwneud tua 12 o wahanol bethau, ond nad ydych braidd yn ei defnyddio. Mae hi bob amser yn anoddach gyda’ch plentyn cyntaf am nad ydych yn sylweddoli’r pethau hyn; rydych eisiau i bopeth fod yn newydd a’r gorau y gallwch ei fforddio. Felly gall awgrymiadau fel hyn fod yn amhrisiadwy.

Ond os ydych yn rhiant am y tro cyntaf, yna byddwch yn dod i ben yn ddigon cyflym, beth bynnag, felly peidiwch â phoeni am hynny. Efallai nad oherwydd eich bod yn naturiol neu ei fod yn rhywbeth yr oeddech wedi cael eich geni i’w wneud, ond oherwydd nad oes gennych ddewis mewn gwirionedd. Mae’n anodd ac yn frawychus ar adegau, wrth gwrs, ond yn gyffrous hefyd.

Peidiwch â’m camddeall i, nid yw magu plant yn waith diflas, ond weithiau nid yw’n hawdd. Mae gweld eich plentyn yn cael ei eni yn brofiad hudolus. Ni fyddwch eisiau gwneud unrhyw beth ond ei warchod a dangos cymaint o gariad ag y gallwch tuag ato. Ei eiriau cyntaf, dannedd cyntaf, y tro cyntaf iddo gropian a’i gam cyntaf - byddwch yn dyst i’r cyfan, ac mae’r emosiwn a’r balchder y byddwch yn ei deimlo heb ei debyg. Ond chi sydd i ddewis y ffordd y byddwch yn ei fagu. Mae pob plentyn yn wahanol, yn debyg i bob sefyllfa y byddwch yn ei wynebu a phob her fydd o’ch blaen chi. Byddwch yn goresgyn rhwystrau, datblygu eich steil eich hun ac yn canfod ffordd o wneud pethau.

Fel y dywedais, dw i’n credu bod y gallu gan bawb i fod yn rhieni gwych. Mae’n sgil, ond dw i ddim yn credu y gallech chi fyth ddweud bod rhaid ei wneud mewn ffordd benodol. I mi, dysgu wrth fy ngwaith oedd y ffordd orau a’r unig ffordd.