Neidio i'r prif gynnwy

Un o’r pethau cyntaf y mae pobl yn ei ddweud pan fyddwch chi’n cael plentyn yw “Mae’n rhaid i ti sefydlu trefn arferol cyn gynted â phosibl”, ac er bod hyn yn gyngor gwych, mae’n aml yn haws dweud na gwneud - yn enwedig pan fo gennych chi fwy nag un plentyn i ymdopi â nhw.

Yn gyffredinol, rwy’n un sy’n hoff iawn o drefn. Fel rhiant, rwy’n credu bod trefn yn helpu popeth i fynd yn esmwyth ac mae’n fy nghadw i mor drefnus â phosibl, ac mae’r plant yn gwerthfawrogi hyn hefyd - hyd yn oed os ydynt yn rhy ifanc i sylwi ar hyn eto. Er enghraifft, yn y boreau mae’r plant yn gwybod bod angen iddynt godi, gwisgo, a bwyta eu brecwast er mwyn gallu cyrraedd yr ysgol mewn pryd. Maent hefyd yn gwybod bod hawl ganddynt i chwarae os oes ychydig o amser ar ôl cyn bod yn rhaid i ni adael. Dydy pethau ddim yn mynd yn esmwyth bob dydd, ond rwyf wedi rhoi llawer o ymdrech i sefydlu’r drefn felly mae bron yn ail natur iddynt erbyn hyn. Mae hyn hefyd yn wych i mi oherwydd nad ydyn nhw’n teimlo bod ‘Dadi’ yn cwyno o hyd.

Un peth sydd wedi bod ychydig yn anodd yw’r ffaith nad yw fy mhlant yr un oed. Dyw’r bwlch o bedair blynedd ddim yn broblem ynddo’i hun, ond y broblem yw bod plentyn pum mlwydd oed a phlentyn naw mlwydd oed mewn cyfnodau gwahanol o’u plentyndod. Mae fy mhlentyn hynaf wedi cyrraedd oedran lle mae hi eisiau aros i fyny’n hwyrach ac nid oes ganddi unrhyw broblemau codi’n gynnar tra ar ben arall y raddfa, mae fy mhlentyn ieuengaf yn gwybod pryd mae ef yn barod i fynd i’r gwely, ond mae’n anodd ei godi yn y bore. Rwy’n credu taw'r ffordd orau o ddelio gyda hyn, i ni, yw cadw’r un drefn i bawb. Galla i ond dychmygu’r dagrau a’r stranciau o ganiatáu i un aros fyny’n hwyrach na’r llall!! Felly, yn ein tŷ ni mae’n amser gwely am 7:30yh (roedd hi’n arfer bod yn gynharach ond chi’n gwybod sut mae plant: pan oeddynt wedi trio pob esgus i aros fyny, brwsio eu dannedd, a gofyn i mi pam mae’r môr yn las, byddai fy noswaith gyfan wedi mynd).

Nawr, gyda’r amser gwely cynharach, rwy’n cael cwpl o oriau o ‘hunanofal’ (sydd yn aml yn cael eu treulio yn llwytho’r peiriant golchi llestri) ac mae pawb yn cael noswaith dda o gwsg.

Fel y soniais i, fel arfer fy mhlentyn hynaf yw'r un cyntaf i godi yn y bore, a hi yw fy nghloc larwm. Yr un olaf i godi yw’r ieuengaf. Mae’r ddau yn wych am wisgo eu hunain cyn gynted ag y maent yn codi, ac ar ôl hyn, rydym ni i gyd yn bwyta brecwast gyda’n gilydd. Ar ôl i mi eu casglu o’r ysgol, byddwn yn chwarae cwpl o gemau a gwylio ychydig o deledu cyn bwyta swper am tua 5:30yh. Pan fyddant wedi bwyta ag yfed, rydym ni’n dechrau’r drefn amser gwely gyda bath, yna amser tawel yn ‘ymlacio’, brwsio eu dannedd, ac yn olaf stori amser gwely. (Bron bob dydd, beth bynnag).
 
Gan taw dim ond fi sydd, rwy’n annog fy mhlant i fy helpu cymaint â phosibl. Mae hyd yn oed y pethau bach fel rhoi eu hesgidiau gadw, neu roi eu dillad yn y fasged golchi wir yn helpu. O fy mhrofiad fy hun, fy awgrymiadau i rieni eraill sydd yn ei gweld hi’n anodd cadw at drefn arferol yw:

  • Mae paratoi a chynllunio yn allweddol: cymaint â phosibl, paratowch y gwisgoedd ysgol a’r pecynnau bwyd y noson gynt fel bod eich trefn yn y bore mor esmwyth â phosibl. Cynlluniwch y coginio o flaen llaw: rwy’n gweld bod plant yn llai tebygol o greu ffwdan pan maent yn gwybod beth sydd i ddod. Mae pethau yn llawer mwy esmwyth pan fo llai o straen.
  • Os oes gennych chi blant hŷn, gofynnwch iddynt helpu gyda’r rhai ieuengaf. Mae fy mhlentyn hynaf wrth ei bodd yn chwarae bod yn ‘oedolyn’ ac mae’r cymorth ychwanegol wir yn helpu.
  • Byddwch yn gyson. Os ydych chi ond wedi dechrau ceisio rhoi trefn newydd ar waith, peidiwch â disgwyl i’r plant ddilyn y drefn ar y diwrnod cyntaf. Rhowch amser iddi sefydlu, ac yn y diwedd bydd y drefn yn ail natur iddynt.  

Er bod dilyn y cyngor hwn yn ddefnyddiol, rwy’n sylweddoli ei bod hi’n gallu bod yn anodd cadw at drefn benodol. Mae’r gwyliau ysgol a’r newid yn y tymhorau yn her fawr yn ein tŷ ni. Yn yr haf, mae’r plant yn cwestiynu pam maent yn cael eu danfon i’w gwelyau pan mae hi’n dal mor olau y tu allan, ac yn y gaeaf, mae’r plant yn gofyn pam maent yn gorfod codi pan mae’n dywyll y tu allan. I helpu gyda hyn, mae cloc mawr yn ystafell fy mhlentyn hynaf ac yn gyffredinol mae hi’n deall y cysyniad o amser llawer mwy na fy mhlentyn ieuengaf. Gyda’r ieuengaf, rwy’n ceisio fy ngorau i esbonio’r amser iddo.

Gall gwyliau ysgol fod yn anodd iawn i’w rheoli oherwydd bod y drefn yr ydym ni wedi gweithio mor galed i lynu ato wedi diflannu yn sydyn! Yn gyffredinol mae’r plant yn ceisio aros i fyny’n hwyrach ac yn naturiol dydw i ddim mor llym ag y byddwn yn ystod y tymor. Ond, rwy’n gwneud fy ngorau i beidio â chrwydro’n rhy bell o’r drefn arferol. Galwch fi’n gas, ac mae fy mhlant i yn gwneud hynny fel arfer, ond mae trefnau clir yn gweithio i mi ac yn cadw pawb ar y trywydd cywir.

Os ydy pawb yn hapus, mae popeth yn haws.