Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y ffordd rydych chi’n gofalu am eich babi ac yn ymateb iddo nawr yn gwneud byd o wahaniaeth maes o law. Mwya’n byd fyddwch chi’n siarad a chwarae gyda’ch babi ac ymateb iddo, gorau’n byd fydd sgiliau siarad eich plentyn yn 3 oed. Mae dangos cariad at eich babi drwy ei ganmol a’i gofleidio yn rhoi hwb i’w hunan-barch a’i hyder.

Mae’r wybodaeth ganlynol yn sôn am wahanol gamau datblygiad eich plentyn ac yn rhoi cyngor ar sut gallwch chi gynorthwyo’ch babi. Hwyrach y bydd eich babi’n gwneud rhai pethau yn gynt neu’n hwyrach na’r hyn sydd yn y canllawiau. Does dim achos i boeni am y rhan fwyaf o wahaniaethau.

Mae gwybodaeth fanylach am ddatblygiad eich plentyn yn y llyfr Naw Mis a Mwy - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru). Mae’n cynnwys gwybodaeth am fwydo, torri dannedd, brechiadau, iechyd eich plentyn a gwneud eich cartref yn ddiogel hefyd. Os ydych chi’n poeni am ddatblygiad eich plentyn, siaradwch â’ch meddyg teulu neu ymwelydd iechyd.

Mae’n bosib y bydd eich babi 1-2 mis oed yn gallu:

  • Estyn allan atoch pan fydd eisiau sylw neu sicrwydd;
  • Symud ei freichiau a’i goesau’n gryfach;
  • Gwenu ar bobl, chwythu swigod;
  • Dilyn pethau sy’n symud gyda’i lygaid;
  • Ymateb i synau uchel drwy gau ei lygaid a’u hagor eto, gwgu neu ddihuno;
  • Gafael mewn pethau am ychydig; 
  • Dal ei ben i fyny am ychydig funudau.

Mae’n bosib y bydd eich babi 3-4 mis oed yn gallu:

  • Adnabod pobl gyfarwydd;
  • Troi atoch chi wrth glywed eich llais;
  • Gwneud mwy o synau a chwerthin pan fyddwch chi’n siarad a chwarae gydag e;
  • Gafael yn ei draed gyda’i ddwylo;
  • Ceisio gafael mewn pethau’n well;
  • Ceisio symud tegan o un llaw i’r llall;
  • Rholio o un ochr i’r llall;
  • Dal ei ben i fyny bron yn syth ar ei eistedd (gofalwch fod rhywbeth i’w atal rhag cwympo); 
  • Cyffroi wrth weld neu glywed pobl gyfarwydd.

Mae’n bosib y bydd eich babi 5-6 mis oed yn gallu:

  • Dal ei freichiau allan i gael ei godi;
  • Rholio drosodd oddi ar ei fol i’w gefn, ac weithiau yn ôl o’i gefn i’w fol;
  • Eistedd i fyny gyda rhywfaint o gymorth (peidiwch â gadael eich babi ar ei ben ei hun);
  • Gafael mewn teganau bach a phethau eraill sy’n cael eu rhoi o’i flaen;
  • Cyfathrebu drwy ddefnyddio synau, symudiadau ac ystumiau;
  • Gollwng pethau a’u gadael i gwympo;
  • Gwybod bod ratl yn gwneud sŵn pan mae’n cael ei ysgwyd;
  • Crio os yw’n gweld pobl ddieithr.

Sut i annog a chynorthwyo datblygiad eich babi 

  • Ceisiwch ymateb pan fydd eich babi’n llefain. Bydd hyn yn helpu’ch babi i ymddiried ynoch chi. Cyn bo hir bydd eich babi’n rhoi cri fach yn lle un fawr oherwydd bydd yn gwybod y byddwch chi’n dod i’w gysuro. Yn ôl ymchwilwyr, os oedd Mam a Dad yn ymateb yn gyflym pan oedd babi’n crio yn 4 mis oed, roedd y babi’n crio llai pan oedd yn 8 mis oed.
  • Dylech ymateb i ‘arwyddion’ eich babi. Mae babis yn cyfathrebu mewn sawl ffordd - does dim angen i chi aros iddyn nhw grio cyn rhoi cwtsh iddyn nhw neu chwarae gyda nhw. Dylech chwarae gyda’ch babi pan fydd yn effro ac yn fywiog. Rhowch gwtsh iddo pan fydd yn crio, yn troi i ffwrdd neu’n crymu ei gefn. Gallwch ddefnyddio arwyddion eich babi i weld beth mae’ch babi ei eisiau. Ydy e’n sugno’i fys pan fydd e eisiau bwyd, neu’n rhwbio’i lygaid pan fydd e wedi blino?
  • Rhowch eich babi yn rhywle lle mae’n gallu gweld pethau’n digwydd. Gallech newid beth mae’n gallu ei weld neu ei symud i fan arall fel ei fod e’n gallu edrych ar rywbeth gwahanol.
  • Ceisiwch ymateb pan fydd eich babi’n ceisio cyfathrebu. Er enghraifft, pan fydd eich babi’n parablu, siaradwch â’ch babi. Bydd eich plentyn bach yn deall cannoedd o eiriau ymhell cyn iddo ddechrau siarad oherwydd eich bod chi wedi siarad ag e pan oedd e’n fabi.
  • Gallwch siarad gair neu ddau o Gymraeg hefyd. (Dolen allanol). Hyd yn oed os mai ychydig o Gymraeg sydd gennych chi, bydd siarad ychydig bach o Gymraeg gyda'ch babi yn rhoi'r dechrau dwyieithog gorau iddo. Gallwch chi ach plentyn canu gyda’ch gilydd i nifer o hwiangerddi Cymraeg ar wefan Mudiad Meithrin (Dolen allanol). Mae’r caneuon yn cynnwys nifer o eiriau syml i wneud e’n hawdd i blant bach i ddysgu’r iaith Cymraeg.
  • Siaradwch â’ch babi a chanwch iddo wrth fwydo, wrth newid cewyn ac yn ystod amser bath – rhowch gyfle i’ch babi barablu yn ôl. Bydd hyn yn helpu’ch babi i ddysgu siarad a bydd eich babi’n gwybod eich bod chi’n ei garu. 
  • Siaradwch â’ch babi drwy’r amser. Ar y bws, yn y car, wrth gerdded i’r siop neu yn yr archfarchnad, pwyntiwch at y pethau rydych chi’n eu gweld. Esboniwch beth rydych chi’n ei wneud wrth newid cewyn neu wrth ei ymolchi yn y bath.
  • Cyflwynwch bethau newydd yn araf ac yn dyner. Helpwch eich babi i ddysgu ei bod hi’n amser cysgu drwy wneud yr un peth, yn yr un drefn bob nos. Er enghraifft, pan fydd hi’n amser gwely, rhowch fath i’ch babi, edrychwch ar lyfr gyda’ch gilydd, rhowch laeth i’ch babi, chwaraewch gerddoriaeth dawel ac yna diffoddwch y goleuadau neu eu troi i lawr.
  • Dylech drin eich babi’n ofalus. Defnyddiwch eich llaw i gynnal gwddf a phen eich babi wrth ei godi neu ei roi i orwedd. Mae'r NSPCC (Dolen allanol) wedi paratoi llyfryn ar sut i ddal eich babi'n ddiogel.
  • Ceisiwch dynnu sylw’ch babi. Er enghraifft, os yw’ch babi’n ceisio gafael yn rhywbeth anaddas, rhowch degan neu eitem ddiogel arall iddo yn lle.
  • Pwyll ac amynedd piau hi. Mae’ch babi’n dechrau sylwi ar eich hwyliau. Pan fyddwch chi’n ddigynnwrf ac yn ymlacio, mae’ch babi’n fwy tebygol o ymlacio hefyd. Os byddwch chi’n dechrau teimlo dan bwysau, mae’ch babi’n fwy tebygol o fod ar bigau’r drain. Oes rhywbeth allwch chi ei wneud i leihau’r pwysau arnoch chi?  
  • Paratowch! Cyn i’ch babi ddechrau symud, rhowch bethau peryglus neu unrhyw beth a allai dorri gadw. Gosodwch giât ddiogelwch ar y staer. Bydd hyn yn cadw’ch babi’n ddiogel.
  • Cofiwch Chwarae! Ceisiwch roi pethau llachar a diogel i’ch babi edrych arnyn nhw. Chwythwch yn ysgafn ar fol eich babi neu chwaraewch pi-po. Mae llawer o syniadau ar gyfer gweithgareddau chwarae a chaneuon yn Words for Life (Dolen allanol) neu Mudiad Meithrin (Dolen allanol).

Mae Dad yn bwysig iawn hefyd. Mae ymchwil wedi dangos bod tadau’n ddylanwad mawr ar fywyd eu plentyn yn syth o’i eni. Mae helpu i ofalu am eich babi bob dydd – gwisgo, chwarae, ymolchi a newid cewyn - yn rhoi llawer o amser un i un gyda’ch babi. Bydd hyn yn eich helpu i feithrin perthynas gadarnhaol gyda’ch babi.

Beth sydd ddim yn gweithio

Bod yn flin gyda’ch babi. Dydy’ch babi ddim yn ddigon hen i wneud pethau’n fwriadol neu i reoli beth mae’n ei wneud. Dydy’ch babi ddim yn gwneud pethau i’ch gwneud chi’n flin. Er enghraifft, efallai y bydd eich babi’n taflu teganau ar y llaw. Dydy’ch babi ddim yn gwneud hyn i godi gwrychyn. Gêm yw hi i’ch babi ac mae’n dysgu ble mae pethau’n mynd.  

PEIDIWCH BYTH ag ysgwyd eich babi. Gall ysgwyd eich babi wneud niwed i’w ymennydd a gall yr anafiadau bara oes.

Mae’n iawn gofyn am help. Os ydych chi’n poeni am deimlo dan bwysau neu’n isel, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd neu feddyg teulu.  

Ar ôl blwyddyn yn unig, bydd maint ymennydd eich babi wedi dyblu. Wrth ddal eich babi a siarad a chwarae gyda’ch babi, rydych chi’n helpu ei ymennydd i dyfu.