Eich babi 1 – 6 mis
Mae eich babi yn dod yn gymdeithasol iawn. Maen nhw wrth eu bodd yn bod gyda chi a byddwch chi'n dechrau deall mwy am ffyrdd a negeseuon eich babi.
Bydd y ffordd rydych chi’n gofalu am eich babi ac yn ymateb iddo nawr yn gwneud byd o wahaniaeth iddyn nhw yn ddiweddarach mewn bywyd. Mwya’n byd fyddwch chi’n siarad, chwarae, canu gyda’ch babi ac ymateb iddo, gorau’n byd fydd sgiliau siarad eich plentyn. Bydd hefyd yn helpu eu hymennydd sy'n tyfu i ddatblygu. Mae dangos cariad at eich babi drwy rhoi sylw, ei ganmol a’i gofleidio, yn rhoi hwb i’w hunan-barch a’i hyder hefyd.
Yn ystod y misoedd cynnar iawn, bydd eich babi yn treulio llawer o amser yn cysgu, a bydd eu hanghenion yn newid llawer yn ystod y cyfnod hwn. Cofiwch fe welwch drefn sy'n bodloni eu hanghenion ac yn gweithio i chi fel teulu.
Mae’r ganlynol yn sôn am wahanol gamau datblygiad eich babi yn ystod y misoedd cynnar ac yn rhoi cyngor ar sut gallwch chi gynorthwyo’ch babi. Hwyrach y bydd eich babi’n gwneud rhai pethau yn gynt neu’n hwyrach na’r hyn sydd yn y canllawiau.
Mae gwybodaeth fanylach am ddatblygiad eich plentyn yn yr e-lyfr Pob Plentyn Newydd Anedig hyd at 2 oed. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am fwydo’ch babi, torri dannedd, brechiadau, iechyd eich plentyn a gwneud eich cartref yn ddiogel.
Os ydych chi’n poeni am ddatblygiad eich plentyn, siaradwch â’ch meddyg teulu neu ymwelydd iechyd.
Mae’n bosib y bydd eich babi 1-2 mis oed yn gallu:
- Estyn allan atoch pan fydd eisiau sylw neu sicrwydd;
- Symud ei freichiau a’i goesau’n gryfach;
- Gwenu ar bobl, chwythu swigod;
- Dilyn pethau sy’n symud gyda’i lygaid;
- Ymateb i synau uchel drwy gau ei lygaid a’u hagor eto, gwgu neu ddihuno;
- Gafael mewn pethau am ychydig; a
- Dal ei ben i fyny am ychydig funudau.
Mae’n bosib y bydd eich babi 3-4 mis oed yn gallu:
- Adnabod pobl gyfarwydd;
- Troi atoch chi wrth glywed eich llais;
- Gwneud mwy o synau a chwerthin pan fyddwch chi’n siarad a chwarae gydag e;
- Gafael yn ei draed gyda’i ddwylo;
- Ceisio gafael mewn pethau’n well;
- Ceisio symud tegan o un llaw i’r llall;
- Rholio o un ochr i’r llall;
- Dal ei ben i fyny bron yn syth ar ei eistedd (gofalwch fod rhywbeth i’w atal rhag cwympo); a
- Cyffroi wrth weld neu glywed pobl gyfarwydd.
Mae’n bosib y bydd eich babi 5-6 mis oed yn gallu:
- Dal ei freichiau allan i gael ei godi;
- Rholio drosodd oddi ar ei fol i’w gefn, ac weithiau yn ôl o’i gefn i’w fol;
- Eistedd i fyny gyda rhywfaint o gymorth (peidiwch â gadael eich babi ar ei ben ei hun);
- Gafael mewn teganau bach a phethau eraill sy’n cael eu rhoi o’i flaen;
- Cyfathrebu drwy ddefnyddio synau, symudiadau ac ystumiau;
- Gollwng pethau a’u gadael i gwympo;
- Gwybod bod ratl yn gwneud sŵn pan mae’n cael ei ysgwyd; a
- Crio os yw’n gweld wynebau anghyfarwydd.
Sut i annog a chynorthwyo datblygiad eich babi
- Ceisiwch ymateb pan fydd eich babi’n llefain. Crio yw ffordd eich babi o gyfathrebu â chi, yn enwedig pan fyddant yn ifanc iawn. Maen nhw'n dweud wrthych chi fod angen eich help arnyn nhw i'w gysuro. Os yw’r cyfan yn mynd yn ormod i chi, rhowch eich babi mewn lle diogel a gadewch yr ystafell am eiliad tan eich bod yn teimlo’n well. Mae Cry-sis (dolen allanol Saesneg) yn rhoi cymorth i ymdopi â babis sy’n crio a ddim yn cysgu.
- Beth i’w wneud os ydych yn credu bod eich babi’n sâl. Os oes ganddo dymheredd uchel, efallai y bydd ganddynt salwch. Os ydych chi’n meddwl bod rhywbeth o’i le, cysylltwch â GIG 111 Cymru i gael cyngor. Gallwch eu ffonio ar 111.
- Dylech ymateb i ‘arwyddion’ eich babi. Mae babis yn cyfathrebu mewn sawl ffordd; does dim angen i chi aros iddyn nhw grio cyn rhoi cwtsh iddyn nhw neu chwarae gyda nhw. Dylech chwarae gyda’ch babi pan fydd yn effro ac yn fywiog. Rhowch gwtsh iddo pan fydd yn crio, yn troi i ffwrdd neu’n crymu ei gefn. Gallwch ddefnyddio arwyddion eich babi i weld beth mae’ch babi ei eisiau. Ydy e’n sugno’i fys pan fydd e eisiau bwyd, neu’n rhwbio’i lygaid pan fydd e wedi blino?
- Rhowch lawer o wenu, cofleidio a chanmol i’ch babi. Mae'n eu tawelu ac yn helpu i adeiladu eu hunanhyder.
- Cyflwynwch bethau newydd yn araf ac yn dyner. Helpwch eich babi i ddysgu ei bod hi’n amser cysgu drwy wneud yr un peth, yn yr un drefn bob nos. Er enghraifft, pan fydd hi’n amser gwely, rhowch fath i’ch babi, edrychwch ar lyfr gyda’ch gilydd, rhowch laeth i’ch babi, chwaraewch gerddoriaeth dawel ac yna diffoddwch y goleuadau neu eu troi i lawr.
- Rhowch eich babi yn rhywle lle mae’n gallu gweld pethau’n digwydd. Gallech newid beth mae’n gallu ei weld neu ei symud i fan arall, fel ei fod e’n gallu edrych ar rywbeth gwahanol.
- Dylech drin eich babi’n ofalus. Defnyddiwch eich llaw i gynnal gwddf a phen eich babi wrth ei godi neu ei roi i orwedd. Mae'r NSPCC (dolen allanol Saesneg) wedi paratoi llyfryn ar sut i ddal eich babi'n ddiogel.
- Siaradwch am y pethau rydych chi'n eu gweld a'r pethau rydych chi'n eu gwneud. Pan fyddwch chi ar y bws, yn y car, yn cerdded i'r siopau neu yn yr archfarchnad, tynnwch sylw at y pethau rydych chi'n eu gweld. Pan fyddwch chi'n newid eu cewynnau neu'n rhoi bath iddynt, sgwrswch am yr hyn rydych chi'n ei wneud. Bydd hyn yn helpu'ch babi i ddysgu. Mae gan Siarad Gyda Fi awgrymiadau defnyddiol ar gefnogi sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu eich plentyn bach.
- Darllenwch i'ch babi, gan adael iddyn nhw weld a theimlo'r llyfr. Mae yna syniadau ar gyfer siarad a chwarae gyda'ch babi ar Book Trust Cymru (dolen allanol).
- Siaradwch gair neu ddau o Gymraeg bydd siarad ychydig bach o Gymraeg gyda'ch babi yn rhoi'r dechrau dwyieithog gorau iddo.Gall Cymraeg i Blant helpu gyda hyn. Gallwch canu gyda’ch gilydd i nifer o hwiangerddi a chaneuon Cymraeg ar wefan Book Trust Cymru (dolen allanol). Mae’r caneuon yn cynnwys nifer o eiriau syml i wneud e’n hawdd i blant bach i ddysgu’r iaith Cymraeg.
- CofiwchChwarae. Ceisiwch roi pethau llachar a diogel i'ch babi edrych arnynt. Chwythwch yn ysgafn ar bol eich babi neu chwarae peek-a-boo. Mae yna lawer o syniadau ar gyfer gweithgareddau chwarae a chaneuon ar Plentyndod Chwareus (dolen allanol), neu Words for Life (dolen allanol Saesneg).
- Ceisiwch dynnu sylw’ch babi. Er enghraifft, os yw’ch babi’n ceisio gafael yn rhywbeth anaddas, rhowch degan neu eitem ddiogel arall iddyn nhw yn lle.
- Pwyll ac amynedd piau hi. Mae’ch babi’n dechrau sylwi ar eich hwyliau. Pan fyddwch chi’n ddigynnwrf ac yn ymlacio, mae’ch babi’n fwy tebygol o ymlacio hefyd. Os byddwch chi’n dechrau teimlo dan bwysau, mae’ch babi’n fwy tebygol o fod ar bigau’r drain.
- Byddwch yn dawel gyda’ch babi. Dydy’ch babi ddim yn ddigon hen i wneud pethau’n fwriadol neu i reoli beth mae’n ei wneud. Dydy’ch babi ddim yn gwneud pethau i’ch gwneud chi’n flin. Er enghraifft, efallai y bydd eich babi’n taflu teganau ar y llaw. Gêm yw hi i’ch babi ac mae’n dysgu ble mae pethau’n mynd. Peidiwch byth â siglo’ch babi, gall hyn achosi niwed i’w ymennydd.
- Os ydych chi’n teimlo’n rhwystredig neu’n flin, gwnewch yn siŵr bod eich plentyn bach mewn lle diogel (e.e., cot clir a diogel heb anifeiliaid yn agos ato) ac yna gadewch yr ystafell am eiliad nes eich bod chi'n teimlo'n dawelach. Neu gallwch ofyn i ffrind neu aelod o'r teulu ofalu am eich plentyn am gyfnod fel y gallwch gael amser i deimlo'n well.
Mae’n iawn gofyn am help. Os ydych chi’n poeni am deimlo dan bwysau neu’n isel, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd neu feddyg teulu.
Efallai y bydd y llinellau cymorth hyn o defnydd i chi hefyd:
- Llinell Gyngor a Gwrando’r Gymuned (C.A.L.L.) – cysylltwch ar 0800 132 737 (gwasanaeth 24 awr), neu e-bostio call@helpline.wales . Mae’r hon yn llinell gyfrinachol sy’n cynnig cymorth emosiynol ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig.
- Samaritans yng Nghymru ar 0808 164 0123. Gallwch gysylltu am unrhyw beth sy’n eich poeni chi, waeth pa mor fawr neu fach yw’r mater.
