Eich plentyn 2 – 3 oed
Mae ganddo sgiliau corfforol da ond mae angen i chi ei gadw’n ddiogel. Gallwch ei helpu i ddatblygu drwy gynnig cyfleoedd (diogel) i chwarae, wrth i chi gadw llygad arno.
Mae’ch plentyn yn dysgu am eu teimladau. Mae’n gyffredin iawn i blant yr oedran hwn strancio. Byddan nhw’n strancio pan fyddan nhw’n rhwystredig ac yn teimlo dan straen ac yn methu ymdopi â’r teimladau hyn. Mae plant yn strancio pan fyddan nhw wedi blino neu eisiau bwyd neu’n teimlo’n genfigennus, yn ofnus neu’n anhapus hefyd. Mae helpu'ch plentyn i enwi eu hemosiynau yn eu helpu i ddechrau deall eu teimladau.
Mae’r wybodaeth ganlynol yn sôn am gamau datblygiad eich plentyn ac yn rhoi cyngor ar sut gallwch chi ei gynorthwyo. Hwyrach y bydd eich plentyn yn gwneud rhai pethau yn gynt neu’n hwyrach na’r hyn sydd yn y canllawiau yma.
Mae gwybodaeth fanylach am ddatblygiad eich plentyn yn yr e-lyfr Pob Plentyn - 2 Oed Hyd at Ddechrau’r Ysgol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am bwyta’n dda a byrbrydau, imiwneiddio eich plentyn, amser sgrin a lleferydd, iaith a chyfarthrebu.
Os ydych chi’n poeni am ddatblygiad eich plentyn, siaradwch â’ch meddyg teulu neu ymwelydd iechyd.
Rhwng 2 a 3 oed mae’n bosib y bydd eich plentyn yn:
- rhedeg, neidio, dringo a chwarae ar geir bach a threiciau
- defnyddio brawddegau hirach ac yn gofyn cwestiynau
- defnyddio’r geiriau “pam”, “na”, “fi” ac “un/rhai fi” yn aml
- gwerthfawrogi ei bethau’
- chwarae gemau dychmygus mwy cymhleth, e.e. gwisgo i fyny
- sylwi ar deimladau pobl eraill
- cael ei drechu gan ei deimladau cryf a chael trafferth eu mynegi drwy eiriau
- cael ofn synau uchel, anifeiliaid rhyfedd a llefydd anghyfarwydd
- rhyngweithio â phlant eraill
- gallu gwneud mwy o bethau ei hun fel golchi dwylo, gwisgo, dadwisgo
Sut i annog a chynorthwyo datblygiad eich plentyn
- Rhowch lawer o gwtshus, sylw a chanmoliaeth i’ch plentyn. Rhowch sylw unigol iddyn nhw pryd bynnag y gallwch chi a chanmolwch nhw pan fyddant yn gwneud rhywbeth cadarnhaol. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n rhoi llawer o gwtshus a sylw i'ch plentyn pan fyddant yn crio ac wedi cynhyrfu hefyd. Mae'n bwysig bod eich plentyn yn deall eich bod chi'n dal yno gyda nhw beth bynnag.
- Cadwch at yr un drefn gymaint â phosibl. Bydd cael trefn reolaidd yn helpu’ch plentyn i gael teimlad o sicrwydd. Ceisiwch fwydo, ymolchi a rhoi’ch plentyn i’w wely tua’r un amser bob dydd. Dewch o hyd i drefn sy’n gweithio i’ch teulu chi.
- Ceisiwch ddangos yr ymddygiad rydych chi am i’ch plentyn bach ei ddysgu. Er enghraifft, dweud “plîs/os gwelwch yn dda” a “diolch” wrth siarad ag ef a rhoi clod iddo pan fydd yn rhannu neu’n eich helpu chi.
- Labelwch deimladau’ch plentyn pan fyddwch chi’n eu gweld, er enghraifft, pan fyddwch chi’n gweld eu bod yn hapus, yn flin, wedi siomi neu’n rhwystredig. Bydd hyn yn eu helpu i ddeall y gair am y teimlad neu’r emosiwn hwnnw, fel eu bod yn gallu dysgu mynegi sut maen nhw’n teimlo yn nes ymlaen.
- Ceisiwch gadw’n dawel pan fydd eich plentyn yn strancio. Pan fyddwch chi’n dawel, mae'n helpu'ch plentyn bach i dawelu hefyd ar ôl y stranc.
- Anwybyddwch ymddygiad diangen fel stompio neu gwyno a ceisiwch dynnu ei sylw gyda gweithgaredd, tegan neu gêm newydd. Rhowch ddigonedd o sylw a chlod i’ch plentyn am ymddwyn yn dda.
- Ymateb. Mae rhai plant yn cnoi neu frathu neu'n taro pan fyddant yn ddig neu'n rhwystredig. Peidiwch ag ymateb na brathu'ch plentyn yn ôl. Bydd hyn yn eu brifo ac yn rhoi'r neges anghywir iddynt bod yr ymddygiad hwn yn iawn.
- Mae dysgu sut i ddefnyddio’r poti neu doiled yn rhywbeth y mae’r rhan fwyaf o blant yn neud yr oedran yma. Maen nhw’n dysgu ar eu cyflymder eu hunain. Mae amser ac amynedd yn allweddol ar y pwynt hwn. Peidiwch â rhuthro.
- Siaradwch am yr hyn rydych chi’n ei wneud gyda’ch gilydd. Gofynnwch i’ch plentyn am ei farn a’i syniadau. “Beth wyt ti’n ei hoffi yn y llun?” “Pa degan yw dy ffefryn di?” Cofiwch roi amser i’ch plentyn ddewis a defnyddio’i eiriau. Mae gan Siarad Gyda Fi awgrymiadau defnyddiol ar gefnogi sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu eich plentyn.
- Anogwch eich plentyn bach i fwydo a gwisgo’i hun. Bydd eich plentyn yn mwynhau eich helpu chi hefyd, rhoi dillad gadw, brwshio’r llawr neu sychu’r bwrdd.
- Ceisiwch osgoi gormod o thechnoleg fel teledu, llechi neu ffonau deallus. Gallan nhw ddiddanu’ch plentyn ond cyfyngwch eu defnydd.
- Rhowch ddewisiadau syml. “Hoffet ti afal neu fanana?” “Wyt ti eisiau’r car neu’r trên?”
- Paratowch. Pan fyddwch chi’n gadael y tŷ ewch ag ambell degan bach, diod a byrbryd iach gyda chi.
- Darllennwch lyfr, canwch gân neu chwarewch gêmau. Bydd eich plentyn wrth ei fodd â'r amser arbennig hwn gyda chi, a bydd yn helpu eu datblygiad. Os yw’ch plentyn yn gwybod llawer o ganeuon a rhigymau, bydd yn dysgu darllen yn haws. Gallwch gael syniadau ar gyfer caneuon, llyfrau a gweithgareddau chwarae ar Plentyndod Chwareus, neu Words for Life.
- Siaradwch rai geiriau yn Gymraeg gan y gall hyn roi'r dechrau gorau iddynt i fywyd dwyieithog Gall Cymraeg i Blant helpu gyda hyn. Gallech chi a'ch plentyn hefyd ganu gydag amrywiaeth o hwiangerddi a chaneuon Cymraeg ar wefan Book Trust Cymru (dolen allanol). Mae'r caneuon hyn yn cynnwys llawer o eiriau syml sy'n ei gwneud hi'n hawdd i blant ifanc amsugno'r Gymraeg.
- Cofiwch chwarae. Rhowch deganau i’ch plentyn i’w rhoi un ar ben y llall, pethau i’w tynnu’n ddarnau, blociau, jig-so syml, ceir tegan, anifeiliaid a dolis. Ceisiwch fynd i’r parc fel y gall eich plentyn gael hwyl ar yr offer. Wrth i’ch plentyn archwilio, cadwch lygad ar ddiogelwch.
- Dysgwch eich plentyn am rannu. Peidiwch â disgwyl na gorfodi’ch plentyn i rannu. Helpwch y plentyn i ddysgu sut mae rhannu. “Tro Gethin yw hi nawr. Gelli di chwarae gyda dy gar wrth i ti aros dy dro”.
- Beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl bod eich plentyn yn sâl. Os oes ganddynt dymheredd uchel, efallai y bydd ganddynt salwch. Os ydych yn meddwl bod rhywbeth o’i le, gallwch ffonio GIG Cymru ar 111.
- Os ydych chi’n teimlo’n rhwystredig neu’n flin, gwnewch yn siŵr bod eich plentyn bach mewn lle diogel ac yna gadewch yr ystafell am eiliad nes eich bod chi'n teimlo'n dawelach. Neu gallwch ofyn i ffrind neu aelod o'r teulu ofalu am eich plentyn am gyfnod fel y gallwch gael amser i deimlo'n well.
Mae’r rhan fwyaf o rieni yn wynebu adegau pan maen nhw’n teimlo eu bod wedi’u profi i’w terfynau. Nid oes neb yn berffaith. Mae pawb yn colli ei dymer weithiau, ac yn dweud pethau maen nhw’n difaru wedyn. Mae’n iawn dweud sori wrth eich plentyn os ydych chi wedi bod yn flin ag ef. Drwy ymddiheuro wrthyn nhw, mae’n eu helpu i weld yr hyn y gallan nhw ei wneud er mwyn gwneud pethau’n iawn pan fyddan nhw’n colli eu tymer.
Peidiwch â smacio na chosbi’ch plentyn yn gorfforol. Mae hyn anghyfreithlon yng Nghymru. Mae angen i blant deimlo’n ddiogel yn eu teulu ac yn eu cartref er mwyn gallu bod ar eu gorau.
Mae’n iawn gofyn am help. Os ydych chi’n poeni am deimlo dan bwysau neu’n isel, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd neu feddyg teulu.
Efallai y bydd y llinellau cymorth hyn o defnydd I chi hefyd:
- Llinell Gyngor a Gwrando’r Gymuned (C.A.L.L.): cysylltwch ar 0800 132 737 (gwasanaeth 24 awr). Mae’r hon yn llinell gyfrinachol sy’n cynnig cymorth emosiynol ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig.
- Samaritans yng Nghymru ar 0808 164 0123. Gallwch gysylltu am unrhyw beth sy’n eich poeni chi, waeth pa mor fawr neu fach yw’r mater.
Mae’r byd yn lle mawr a chymhleth i blentyn bach 2 i 3 oed. Ar hyn o bryd mae’n ceisio deall y ‘rheolau’ a sut mae’r cyfan yn gwneud synnwyr. Gallwch chi helpu drwy egluro pethau’n syml iddo.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein Llyfryn ar Ddeall ac Ymateb i Ymddygiad Plant yn y Blynyddoedd Cynnar a’r Llyfr Mawr Teimladau.
