Neidio i'r prif gynnwy

Darganfyddwch pryd y gallwch ofyn am opiniwn treth mewn rhai achosion a beth fydd angen i chi ei wneud.

Ar ôl i chi ystyried y canllawiau perthnasol yn llawn, gallwch ofyn i ni a yw treth yn berthnasol i drafodiadau penodol os:

  • na allwch chi ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch
  • rydych yn dal i fod yn ansicr ynglŷn â’n dehongliad o ddeddfwriaeth treth ddatganoledig

Byddwn yn ymateb i'ch cais am opiniwn treth yn ysgrifenedig, o fewn 25 diwrnod gwaith fel arfer.

Os na allwn roi opiniwn i chi, byddwn yn egluro pam.

Gwybodaeth y mae angen i chi ei darparu

Pan fyddwch yn gofyn am opiniwn treth defnyddiwch ein rhestr wirio gwybodaeth er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cynnwys manylion penodol am:

  • y person sy'n gwneud y cais
  • y dreth, a’r trafodiadau neu weithgareddau dan sylw
  • pwyntiau cyfreithiol sy'n berthnasol yn eich barn chi

Gofynnwn hyn er mwyn deall yn llawn gefndir eich sefyllfa a ble’n union mae'r ansicrwydd. Mae hyn yn helpu i brosesu eich cais yn gyflymach.

Weithiau efallai y bydd angen i ni ofyn am ragor o wybodaeth cyn y gallwn roi ateb llawn i chi. Ymatebwch cyn gynted ag y gallwch os gwelwch yn dda. Fel arall, efallai y bydd angen i chi gyflwyno cais newydd am opiniwn treth, fel bod gennym ddarlun cyfredol o’r  ffeithiau.

Sut i gyflwyno eich cais am opiniwn

I anfon eich cais, defnyddiwch ein ffurflen gyswllt ar-lein ac uwchlwythwch eich atodiadau, neu postiwch eich cais at:

Opiniynau Treth Awdurdod Cyllid Cymru

Awdurdod Cyllid Cymru
Blwch Postio 108
Merthyr Tudful
CF47 7DL

Os yw eich cais yn ymwneud â'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi cysylltwch â'ch rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid.

Yr adegau pan na fyddwn yn rhoi opiniwn

Ni fyddwn yn rhoi opiniwn os:

  • yw'n sefyllfa ddamcaniaethol
  • nad ydych wedi darparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom
  • ydych eisoes wedi cyflwyno ffurflen ar gyfer y trafodiad dan sylw; oni bai eich bod yn ystyried diwygio eich ffurflen
  • ydym yn gwirio eich sefyllfa dreth am y cyfnod dan sylw (bydd angen i chi gysylltu â'r swyddog sy'n delio â'r achos)
  • nad ydym yn credu bod pwyntiau dilys o ansicrwydd (os felly byddwn yn egluro hynny ac yn eich cyfeirio at y canllawiau perthnasol)

Neu os ydych chi'n gofyn i ni:

Terfynau amser, llog a chosbau

Nid yw gofyn am opiniwn treth yn effeithio ar faint o amser sydd ganddoch i ffeilio ffurflen dreth neu dalu eich treth. Os fyddwch chi’n hwyr yn ffeilio neu’n talu, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosbau.

Os ydych yn aros am ymateb gennym, bydd angen i chi anfon eich ffurflen yn brydlon yr un fath.

Pan gewch chi ein hymateb, gallwch ddiwygio eich ffurflen dreth cyn belled â'ch bod o fewn y terfynau amser arferol i wneud hynny.

Gweler sut i ddiwygio eich ffurflen Treth Trafodiadau Tir

Gweler sut i ddiwygio eich ffurflen Treth Gwarediadau Tirlenwi

Pryd y gallwch chi ddibynnu ar opiniwn treth

Gallwch chi ddibynnu ar opiniwn treth os:

  • gwnaethoch roi’r wybodaeth gywir i ni
  • cafodd y trafodiad ei weithredu yn y ffordd y gwnaethoch chi ei ddisgrifio

Dim ond y person (neu ei asiant) sy'n gofyn am opiniwn treth a all ddibynnu arno, a dim ond ar gyfer y trafodiad y mae'n cyfeirio ato.

Ni allwch ddibynnu ar opiniwn treth lle mae'r trafodiad yn rhan o gynllun neu drefniant i osgoi neu efadu treth.

Os ydych yn anghytuno gydag opiniwn

Os ydych yn credu nad yw ein hopiniwn wedi ystyried ffeithiau pwysig a nodir yn eich cais, cysylltwch â ni i esbonio'r hyn na wnaethom ei ystyried yn eich barn chi.

Gallwch ffeilio'r ffurflen yn seiliedig ar eich dealltwriaeth chi o’r sefyllfa. Rhaid i chi gysylltu â ni os gwnewch chi hyn, neu ei nodi ar y ffurflen dreth.

A allwch chi apelio ai peidio

Nid oes hawl gyffredinol i apelio yn erbyn opiniwn treth sydd wedi’i wedi'i rhoi gennym. Fel arfer mae hawliau apelio yn erbyn penderfyniadau a gymerir gennym, fel cyhoeddi asesiad ar gyfer treth sydd heb ei thalu neu roi cosb.

Cwynion

Os ydych yn anhapus â'r ffordd rydym wedi ymdrin â'ch cais, y ffordd hawsaf o'i ddatrys yw siarad â'r person rydych chi wedi bod yn delio ag ef. Byddan nhw'n gwneud eu gorau i helpu.

Os nad ydyn nhw'n gallu datrys y mater, gallwch wneud cwyn.