Canllawiau ar gyfer llenwi ffurflen Treth Trafodiadau Tir - Cyfrifo treth
Canllawiau ar sut i lenwi ffurflen Treth Trafodiadau Tir (TTT) gan ddefnyddio gwasanaethau Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Os ydych chi'n anghytuno â’r cyfrifiad TTT a gynhyrchwyd gan y system neu’n dymuno dewis ac yn penderfynu nodi swm gwahanol, gofynnir rhagor o gwestiynau i chi.
Yn yr achos hwn, dewiswch y rheswm priodol:
- Trafodiad partneriaeth pan fo’’r dreth yn cael ei chyfrifo drwy ddefnyddio swm y cyfrannau is
- Wedi'i addasu ar gyfer rhyddhad gorgyffwrdd ar drafodiad les
- Rheolau trosiannol yn berthnasol
- Arall
Defnyddiwch ‘reolau trosiannol yn berthnasol’ os ydych yn ffeilio ffurflen dreth lle’r ydych yn dewis i’r trefniadau trosiannol fod yn berthnasol oherwydd y newidiadau i’r prif gyfraddau a bandiau preswyl TTT a wnaed ar 10 Hydref 2022.
Efallai y byddwch yn gallu gwneud y dewis hwn pan:
- fydd contractau wedi'u cyfnewid cyn 10 Hydref 2022 ond heb eu cwblhau, ac
- nad oes unrhyw newidiadau sylweddol i'r trafodiad rhwng cyfnewid a chwblhau
Defnyddiwch 'reolau trosiannol yn berthnasol' os ydych yn ffeilio ffurflen dreth lle mae'r eithriad i'r newidiadau i gyfraddau a bandiau TTT a wnaed ym mis Rhagfyr 2020 yn berthnasol. Mae hyn pan mae contractau wedi'u cyfnewid cyn 22 Rhagfyr ond heb eu cwblhau a gellir defnyddio'r cyfraddau treth blaenorol os nad oes unrhyw newidiadau sylweddol i'r trafodiad rhwng cyfnewid a chwblhau.
Rhagor o ganllawiau ar drafodiadau partneriaeth
Rhagor o ganllawiau ar ryddhad gorgyffwrdd ar drafodiad les
Canllawiau pellach ar reolau trosiannol ar gyfer newidiadau prif gyfraddau Hydref 2022
Canllawiau pellach ar reolau trosiannol ar gyfer newidiadau uwch gyfraddau Rhagfyr 2024
Eglurhad o’r cyfrifiad
Rhowch fanylion sut y gwnaethoch gyfrifo'r dreth ar y ffigwr newydd.
