Amdanom ni
Rydym yn datblygu ac yn darparu gwasanaethau i bobl gofrestru, cyfrifo a thalu treth yng Nghymru.
Cynnwys
Trosolwg
Ers 1 Ebrill 2018, rydym wedi casglu a rheoli 2 dreth ddatganoledig ar ran Llywodraeth Cymru:
Rydym yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
Rydym hefyd yn gyfrifol am gasglu a rheoli:
Mae'r arian rydym yn ei godi yn darparu cyllid i gymunedau Cymru a gwasanaethau cyhoeddus, fel ysgolion a'r GIG.
Ein pwrpas cyffredinol yw:
- llunio a darparu gwasanaethau cyllid cenedlaethol i Gymru
- arwain gwell defnydd o ddata trethdalwyr Cymru ar gyfer Cymru
Sut rydym yn gweithio gyda chwsmeriaid
Ein Dull
Rydym yn helpu i ddarparu system dreth deg i Gymru drwy 'Ein Dull', ffordd Gymreig o drethu. Rydym yn gweithio gyda threthdalwyr, cynrychiolwyr, partneriaid a'r cyhoedd, i sicrhau bod trethi’n cael eu casglu'n effeithiol ac yn effeithlon.
Mae 3 gair yn diffinio Ein Dull:
- ‘Cydweithio’: sydd ag ymdeimlad o weithio gyda'n gilydd tuag at nod cyffredin
- ‘Cadarnhau’: sy’n awgrymu cadernid y gellir dibynnu arno; mae hyn yn ymwneud â darparu sicrwydd, bod yn gywir ac atgyfnerthu ymddiriedaeth
- ‘Cywiro’: sy’n ymwneud â'r ffordd rydym yn gweithio gyda chi i ddatrys gwallau neu bryderon
Mae ein Dull wedi'i ysbrydoli gan Ein Siarter sy'n esbonio sut rydym yn gweithio.
Ein nodau
Mae ein Cynllun Corfforaethol 2025 i 2028 yn nodi ein hamcanion. Mae'n esbonio sut y byddwn yn defnyddio ein Dull a'n hegwyddorion yn ein gwaith.
Ein hamcanion strategol yw:
- ei gwneud yn hawdd gwneud y peth iawn
- bod yn deg ac yn gyson yn y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau
- bod yn sefydliad cynaliadwy sy'n edrych ymlaen i’r dyfodol
Byddwn yn dilyn safonau rheoleiddiol a deddfwriaethol newydd, gan gynnwys:
- Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)
- Rheoliadau Safonau'r Gymraeg
Sut rydym yn cydweithio
Ein pobl
Mae gennym fwy na 100 o staff sydd â sgiliau ar draws 14 o wahanol broffesiynau. Rydym yn gweithio mewn ffordd sy'n arloesol, yn gydweithredol ac yn garedig.
Mae ein pobl yn ymgysylltiad cryf, sy’n sgorio'n uchel yn Arolwg Pobl blynyddol y Gwasanaeth Sifil, gyda sgoriau arbennig o uchel gan ein staff ar gyfer Cynhwysiant a Thriniaeth Deg.
Rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd cynhwysol sy'n gwerthfawrogi ac yn parchu gwahaniaethau unigol.
Dysgwch fwy am ein hymrwymiad parhaus i gydraddoldeb yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2025 i 2028.
Arweinyddiaeth a llywodraethiant
Mae ein sefydliad yn cael ei arwain gan Brif Swyddog Gweithredol Dros Dro, Rebecca Godfrey. Mae gennym fwrdd, tîm arwain (Tîm Arwain), a 2 grŵp arwain.
Mae ein bwrdd yn:
- rhoi cyfeiriad strategol ar ein gallu a'n perfformiad
- ceisio sicrwydd ein bod yn cyflawni ein swyddogaethau'n effeithiol
Mae ein huwch dîm arwain yn:
- arwain ein gwaith o ddarparu gwasanaethau i bobl Cymru
- sicrhau ein bod yn cyflawni'r blaenoriaethau sydd yn ein cynllun corfforaethol
Mae ein grwpiau arwain yn:
- rheoli ein gwasanaethau a'n cynllunio sefydliadol
- cefnogi ein tîm arwain a'r bwrdd
Adroddiadau a gwybodaeth
Rydym yn cyhoeddi adroddiadau ar ein gwaith bob blwyddyn. Gweler ein dogfennau diweddaraf:
Gallwch hefyd gael gwybodaeth am:
- swyddi a chyflogaeth
- sut rydym yn rheoli gwybodaeth
- ein hystadegau
- gwariant
- ein cytundeb â Llywodraeth Cymru
- cysylltwch â ni
I gael rhagor o wybodaeth am y mathau o wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi, gweler ein cynllun cyhoeddi.
