Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ddiweddariadau chwarterol, i ddefnyddwyr ystadegau yng Nghymru, ar ein datblygiadau, ein hymgyngoriadau a’n cynlluniau diweddaraf.

Gellir gweld rhestr lawn o’n cyhoeddiadau mwyaf diweddar ar ein calendr i ddod.

Gwasanaeth Data Agored StatsCymru

Ydych chi'n defnyddio gwasanaeth StatsCymru i gael gafael ar ddata neu i'w lawrlwytho? Rydym wedi bod yn datblygu fersiwn fwy modern a haws ei defnyddio o'r gwasanaeth ac rydym yn disgwyl dechrau ei defnyddio yn ystod haf 2025. Byddwn yn defnyddio blog Digidol a Data Llywodraeth Cymru i roi diweddariadau rheolaidd ar gynlluniau a chynnydd, i danysgrifio i'r blog er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf.

Yr economi a'r farchnad lafur

Yr economi 

Rôl Grŵp Defnyddwyr Ystadegau Economaidd Cymru yw ymgysylltu â dadansoddwyr Llywodraeth Cymru a rhoi cyngor iddynt ar flaenoriaethau strategol a'r cynllun gwaith ar gyfer ystadegau economaidd yng Nghymru. Cyfarfu'r grŵp ddiwethaf ar 13 Mawrth 2025 – prif ffocws y cyfarfod oedd Tablau Mewnbwn-Allbwn ac Ystadegau Masnach.  Roedd yr eitemau hyn yn cynnwys cyflwyniad ar y broses o gyhoeddi Tablau Mewnbwn-Allbwn ar gyfer Cymru (gweler isod), cyflwyniad ar lunio a defnyddio Tablau Mewnbwn-Allbwn yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, diweddariad ar Arolwg Masnach Cymru a'r amcangyfrifon rhyngranbarthol o nwyddau a gwasanaethau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y SYG. Rhoddodd y Prif Ystadegydd o'r Adran Busnes a Masnach drosolwg o'r Cynllun Gwaith Ystadegau Masnach sydd ar droed hefyd. Mae eitemau agenda a chyflwyniadau blaenorol, ynghyd â chylch gorchwyl y grŵp, ar gael ar-lein. Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Iau 14 Hydref 2025. Rydym yn awyddus i ymestyn aelodaeth y grŵp hwn i gynulleidfa ehangach. Os hoffech ymuno â'r grŵp hwn, sy'n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn (naill ai'n hybrid neu ar-lein), cysylltwch â DigwyddiadauGGD@llyw.cymru

Ym mis Ebrill, gwnaethom gyhoeddi ein dogfen Cynnyrch domestig gros rhanbarthol a gwerth ychwanegol gros: 1998 i 2023. Gwnaethom hefyd gyhoeddi ein Dangosyddion allbynnau tymor-byr: Hydref i Ragfyr 2024 sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad.

Os hoffech gysylltu, e-bostiwch ystadegau.economi@llyw.cymru

Y Farchnad lafur

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi nodi bod yr heriau sy'n gysylltiedig â chynnal cyfraddau ymateb ar gyfer yr Arolwg o’r Llafurlu yn parhau i effeithio ar ansawdd y data. O ganlyniad, caiff ystadegau'r llafurlu sy'n deillio o'r Arolwg o'r Llafurlu eu labelu'n ystadegau swyddogol sydd wrthi'n cael eu datblygu (Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) hyd nes y cynhelir adolygiad pellach ac rydym yn parhau i argymell y dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r data hyn. 

Rydym yn parhau i gyhoeddi ein datganiad misol yn cynnig trosolwg o'r farchnad lafur, sy'n dod ag amrywiaeth o wahanol ffynonellau mewn perthynas â'r farchnad lafur ynghyd. Rydym yn argymell y dylai data'r Arolwg o'r Llafurlu gael eu defnyddio ochr yn ochr â'r tueddiadau yn y mesurau eraill hyn o'r farchnad lafur er mwyn cael darlun cliriach o'r effaith y mae digwyddiadau gwahanol yn ei chael ar y farchnad lafur yng Nghymru. 

Mae SYG yn cyflwyno Arolwg Trawsnewidiol newydd o'r Llafurlu (TLFS) a'r nod yw mai'r arolwg hwn fydd y brif ffynhonnell ddata ar gyfer gwybodaeth am y farchnad lafur yng Nghymru a'r DU yn y dyfodol. Ym mis Ebrill, cyhoeddodd y SYG ddwy erthygl –Labour Market Transformation update (SYG), sy'n amlinellu'r ffordd ymlaen ar gyfer yr Arolwg o'r Llafurlu a'r Arolwg Trawsnewidiol newydd o'r Llafurlu, gan gynnwys dyluniad yr Arolwg Trawsnewidiol newydd o'r Llafurlu a'r amserlen ar gyfer trosglwyddo; ac erthygl TLFS Technical Design (SYG) ategol sy'n amlinellu'r dystiolaeth dechnegol a lywiodd y penderfyniad. Bydd yr Arolwg o'r Llafurlu yn parhau wrth i'r gwaith pellach o ddatblygu'r Arolwg Trawsnewidiol newydd o'r Llafurlu barhau. 

Ym mis Mawrth, gwnaethom gyhoeddi'r diweddariad blynyddol ar gyfer Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur: 2022 a 2023 sy'n ffynhonnell benodol ar gyfer amcangyfrifon o'r gyfran o bobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) yng Nghymru. Gwnaethom hefyd gyhoeddi ystadegau Twf Swyddi Cymru+ Hydref i Ragfyr 2024 sy'n cyflwyno gwybodaeth am bobl ifanc sydd wedi cofrestru ar raglen Twf Swyddi Cymru+.

Ym mis Ebrill, gwnaethom gyhoeddi ein data o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar ystadegau'r farchnad lafur ar gyfer 2024 sy'n cynnwys data ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU yn ogystal ag ardaloedd lleol. Caiff y diweddariad nesaf ar y datganiad ystadegol hwn ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2025.

Roedd yr allbynnau eraill a gyhoeddwyd ym mis Ebrill yn cynnwys y diweddariad chwarterol ar bobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) sy'n cyflwyno'r data ar gyfer 2024 ac yn rhoi ystadegau mwy manwl ac amserol ar bobl ifanc (unigolion rhwng 16 a 24 oed) heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yng Nghymru. Cyhoeddwyd Cymudo yng Nghymru: 2001 i 2024 hefyd ar StatsCymru sy'n dangos llifoedd cymudo o ardaloedd yng Nghymru i ardaloedd eraill (yng Nghymru a'r tu allan i Gymru).

Cyhoeddwyd y diweddariad diweddaraf o'r datganiad Lefel y cymwysterau uchaf a ddelir gan oedolion o oed gweithio hefyd, sy'n cwmpasu data ar gyfer 2024. Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno ystadegau ar y cymhwyster uchaf a ddelir gan oedolion o oedran gweithio yng Nghymru ac mae'n rhoi gwybodaeth ar lefel awdurdod lleol.

Os hoffech gysylltu, e-bostiwch ystadegau.yfarchnadlafur@llyw.cymru

Masnach a Thablau Mewnbwn Allbwn

Arolwg Masnach Cymru 

Cafodd y dadansoddiad o ddata 2022 ei gyhoeddi ar 16 Gorffennaf 2024 ac mae ar gael yma: Arolwg Masnach Cymru: 2022

Roedd bwlch yn y data a gasglwyd yn 2024 oherwydd pwysau cyllidebol, ond caiff gwahoddiad i dendro ar gyfer y fersiwn nesaf o'r arolwg ei hysbysebu yn ystod haf 2025. 

Masnach Nwyddau Rhyngwladol Cymru 

Cafodd y prif ganlyniadau o Ystadegau Masnach Ranbarthol CThEF ar gyfer masnach nwyddau rhyngwladol Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2024 eu cyhoeddi ar 20 Mawrth 2025, a bydd data'r chwarter nesaf yn cael eu cyhoeddi ar 11 Mehefin 2025. Masnach nwyddau rhyngwladol Cymreig: 2024 ar 10 Ebrill 2025, ac roedd yn cynnwys dadansoddiad pellach o ddata 2024. 

Ochr yn ochr â'r ystadegau uchod, caiff y dangosfwrdd masnach rhyngweithiol ei ddiweddaru yn unol â data'r chwarter diweddaraf. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag: ystadegau.masnach@llyw.cymru.

Cyhoeddi Tablau Cyflenwad a Defnydd a Thablau Mewnbwn Allbwn

Cafodd tablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn-allbwn ar gyfer 2019 eu cyhoeddi fel ystadegau swyddogol sydd wrthi'n cael eu datblygu ar 11 Mawrth 2025. Mae'r tablau yn rhoi ciplun o economi Cymru a manylion am gydberthnasau prynu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau rhwng pob rhan ohoni ar gyfer 2019. Mae hyn yn ffrwyth prosiect 3 blynedd i ddeall economi Cymru yn well. 

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ddatblygu o hyd, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i ddiweddaru'r tablau gan ddefnyddio blwyddyn gyfeirio ar ôl y pandemig. Byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

Os hoffech ddefnyddio'r tablau hyn ar gyfer eich gwaith ymchwil eich hun a'ch bod am gael cyngor ar sut i'w cymhwyso, mae croeso i chi gysylltu.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag: InputOutputTables@llyw.cymru.

Addysg

Mae ystadegau ar addysg ôl-16 bellach wedi'u trosglwyddo i Medr. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am ystadegau addysg bellach, chweched dosbarth ysgolion, prentisiaethau neu ddysgu oedolion, cysylltwch ag ystadegau@medr.cymru, a chaiff eich ymholiad ei drosglwyddo i'r tîm yn Medr.

Ysgolion

Data ar bresenoldeb mewn ysgolion

Gwnaethom barhau i gyhoeddi data bob pythefnos ar bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir drwy gydol tymor y gwanwyn. O 6 Mai 2025 caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi'n fisol ar y dydd Iau cyntaf o bob mis hyd at ddiwedd mis Awst 2025. Byddwn yn dechrau ei gyhoeddi eto yn y flwyddyn ysgol newydd ym mis Medi 2025.

Ar 4 Mawrth 2025 gwnaethom gyhoeddi datganiad ystadegol newydd sef Presenoldeb ac absenoldeb o ysgolion Medi 2023 i Awst 2024 sy'n cyfuno'r wybodaeth a gyhoeddwyd yn ystod hydref 2024 yn y ddau ddatganiad ystadegol ar wahân ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd. Mae'r datganiad hwn yn rhoi un ffynhonnell o ystadegau swyddogol i ddefnyddwyr sy'n cwmpasu presenoldeb ac absenoldeb ym mhob ysgol a gynhelir. Ein nod mewn blynyddoedd i ddod fydd cyhoeddi'r datganiad hwn cyn y Nadolig.

Cyhoeddwyd Cwnsela ar gyfer plant a phobl ifanc: Medi 2023 i Awst 2024 ar 27 Mawrth 2025.

Datganiadau ystadegol i ddod

Caiff diweddariad ar y datganiad ystadegol sef Patrymau cyflawniad mewn darllen a rhifedd ei gyhoeddi ar 19 Mehefin 2025.

Caiff canlyniadau'r Cyfrifiad Ysgolion ym mis Ionawr 2025 eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2025.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech roi adborth, gallwch gysylltu â ni yn ystadegau.ysgolion@llyw.cymru.

Addysg uwch a chyllid myfyrwyr

Rydym wedi parhau i gyhoeddi ein hystadegau misol ar Geisiadau am gymorth i fyfyrwyr ar gyfer addysg uwchLwfansau Cynhaliaeth Addysg (LCA) a ddyfarnwyd yng Nghymru.

Er mwyn rhoi adborth neu ar gyfer unrhyw wybodaeth bellach, anfonwch neges e-bost i addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru.

Tai

Seminar Flynyddol y Grŵp Gwybodaeth am Dai

Eleni, bydd seminar flynyddol y Grŵp Gwybodaeth am Dai ar 26 Mehefin yn canolbwyntio ar ddigartrefedd, gyda'r nod o rannu gwaith dadansoddi ac ymchwil diweddar yn y maes hwn. Bydd y diwrnod yn cynnwys cyflwyniadau gan elusennau, awdurdodau lleol, academyddion ac adrannau'r llywodraeth, a fydd yn rhoi diweddariad ar ddatblygu data digartrefedd ar lefel achosion ar gyfer Cymru, yn arddangos gwaith ymchwil diweddar, gwaith dadansoddi a phrosiectau sy'n cysylltu data a fydd yn rhoi mwy o ddealltwriaeth o'r boblogaeth ddigartref. Mae'n gyfle i'r sawl sy'n bresennol drafod tystiolaeth ystadegol, ymchwiliol a dadansoddol, er mwyn rhannu profiad a nodi buddiannau a rennir yn y maes hwn.

Bydd y seminar yn canolbwyntio'n bennaf ar ddata sy'n ymwneud â Chymru. Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar-lein.

Arolwg Tai Cymru 2027-28

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo achos busnes i gynnal Arolwg Tai Cymru yn 2027-28. Bydd dwy ran i'r arolwg newydd hwn: arolwg cymdeithasol manwl i gasglu gwybodaeth am gartrefi sy'n ofynnol er mwyn dadansoddi tlodi tanwydd (fel incwm), ynghyd â phrofiadau a safbwyntiau o ran tai; ac arolygiad ffisegol o gartrefi a gynhelir gan arolygydd cymwys er mwyn casglu gwybodaeth am adeiladwaith a chyflwr y cartref. Bydd arolwg 2027-28 yn rhoi tystiolaeth ehangach nag Arolwg Cyflwr Tai 2017-18 a gellir ei gymharu ar y cyfan ag Arolwg Tai Lloegr.

Drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu manyleb tendr fanwl fel y gall ymarfer caffael ddechrau erbyn diwedd 2025-26. Bydd hyn yn sicrhau y gellir gwneud gwaith maes yn 2027-28, a bydd y prif ganlyniadau ar gael o 2028-29, a chanfyddiadau manylach o 2029-30.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Arolwg Tai 2027-28 yn datganiad ysgrifenedig.

Ers y diweddariad diwethaf, mae'r allbynnau ystadegol canlynol wedi cael eu cyhoeddi:

Cysylltwch â ni drwy flwch post ystadegau.tai@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu geisiadau.

Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Ystadegau ysbytai

Yn y chwarter hwn gwnaethom ddiweddaru ein diweddariad misol arferol ar ein Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG a'r allbwn chwarterol a ddatblygwyd yn ddiweddar gennym ar archwiliad dwfn o berfformiad y GIG ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru.

Gofal sylfaenol a chymdeithasol 

Yn y chwarter hwn cyhoeddwyd data chwarterol wedi'u diweddaru ar Weithgaredd practis cyffredinolgwasanaethau deintyddol GIG, a chaiff data mwy amserol eu darparu ar gyfer gwasanaethau deintyddol y GIG o'r chwarter hwn. 

Gweithlu a gwariant y GIG 

Yn y chwarter hwn cafwyd diweddariad i'n hallbynnau blynyddol a chwarterol ar Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIGAbsenoldeb oherwydd salwch yn y GIG ac Ystadegau swyddi gwag y GIG gan gynnwys dadansoddiad yn ôl grŵp staff a nodweddion staff. Cafwyd diweddariad chwarterol hefyd i ddata ar y Gweithlu practis cyffredinol.

Ystadegau eraill ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Yn y chwarter hwn cafwyd diweddariad i'n diweddariad chwarterol rheolaidd o ddata ar gyfer Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010Nifer y bobl a gadwyd o dan Adran 135 ac 136 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl.

Yn y chwarter hwn hefyd cafwyd diweddariad i'n hallbwn blynyddol ar weithgarwch Gwasanaethau Cymdeithasol gan gynnwys data ar weithgarwch asesu a diogelu gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol.

Yn y chwarter hwn hefyd cafwyd diweddariadau rheolaidd i amrywiaeth o ystadegau eraill, gan gynnwys: Ystadegau ar fwydo ar y fronRhaglen Plant Iach CymruMesurau gofal llygaid  a Gwasanaethau rhoi'r gorau ysmygu.

Mae nifer o allbynnau eraill ar gael gan sefydliadau partner, gan gynnwys diweddariadau ar Gamddefnyddio sylweddau gan Iechyd a Gofal Digidol CymruGoroesi canser yng Nghymru a'r Rhaglen Mesur Plant gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae ein holl ddatganiadau ystadegol ar gael ar y wefan Ystadegau ac ymchwil ac mae data sylfaenol manylach ar gael yn ardal iechyd a gofal cymdeithasol StatsCymru

Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Cysylltwch â ni yn arolygon@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw gwestiynau.

Y celfyddydau, safleoedd treftadaeth, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd

Ar 4 Mehefin byddwn yn cyhoeddi bwletin y celfyddydau, safleoedd treftadaeth, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd. Bydd y bwletin yn cynnwys dadansoddiad ar gyfrannau'r bobl sy'n mynd i weithgareddau'r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth yng Nghymru ac yn cymryd rhan ynddynt, ac yn ystyried rhai o'r nodweddion sy'n gysylltiedig â chymryd rhan yn y digwyddiadau hyn, yn seiliedig ar ymatebion i Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022 i 2023.

Y Gymraeg

Byddwn hefyd yn cyhoeddi bwletin y Gymraeg dros yr haf. Bydd y bwletin yn cynnwys dadansoddiad ar gyfrannau'r bobl sy'n siarad ac yn defnyddio'r Gymraeg, ac yn ystyried rhai o'r nodweddion sy'n gysylltiedig â siarad a defnyddio'r Gymraeg, yn seiliedig ar ymatebion i Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022 i 2023.

Cyfiawnder cymdeithasol

Tlodi a chostau byw

Ar 27 Mawrth 2025, gwnaethom gyhoeddi diweddariadau i grynodebau o ddata blynyddol ar gyfer Cymru ar dlodi incwm cymharol a thlodi parhaus, a oedd yn cynnwys y data diweddaraf yn ymwneud â'r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar ddiwedd 2024. Ar yr un diwrnod, cyhoeddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau ei chyfres wedi'i diweddaru o ddata lefel y DU ar dlodi incwm ac amddifadedd materol (yr Adran Gwaith a Phensiynau)tlodi parhaus (yr Adran Gwaith a Phensiynau)adnoddau teuluol (yr Adran Gwaith a Phensiynau), a diweddariad i'r ystadegau ardaloedd lleol ar blant mewn teuluoedd incwm isel (yr Adran Gwaith a Phensiynau).

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi diweddaru ei dull ar gyfer amcangyfrif tlodi materol, sy'n golygu na ellir cymharu'r data diweddaraf ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar ddiwedd 2024 yn uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol. Gan mai hon yw'r flwyddyn gyntaf o ddefnyddio'r dull newydd, dim ond un flwyddyn o ddata sydd ar gael. Oherwydd problemau â maint y sampl, nid yw amcangyfrifon o flynyddoedd unigol ar gyfer gwledydd a rhanbarthau gwahanol y DU wedi'u cyhoeddi. Yn hanesyddol, defnyddiwyd cyfartaledd tair blynedd, ond nid yw'r newidiadau diweddar yn cynnwys data o'r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar ddiwedd 2021.

Oherwydd y newidiadau hyn, ni all yr Adran Gwaith a Phensiynau ddiweddaru'r amcangyfrifon tair blynedd ar gyfer Cymru ar hyn o bryd. Rydym yn bwriadu cyhoeddi erthygl yr haf hwn yn esbonio'r newidiadau ac yn rhoi amcangyfrifon blwyddyn unigol ar gyfer Cymru, ynghyd â chyfyngau hyder. Caiff y dyddiad rhyddhau ei gyhoeddi o leiaf bedair wythnos ymlaen llaw. I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at adroddiad technegol yr Adran Gwaith a Phensiynau (yr Adran Gwaith a Phensiynau).

Ar 29 Mai 2025, byddwn yn cyhoeddi'r chweched datganiad mewn cyfres chwarterol o ystadegau'r Gronfa Cymorth Dewisol, gyda dadansoddiadau yn ôl oedran ac awdurdod lleol. 

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

Rydym wrthi'n gweithio ar gynhyrchu'r diweddariad nesaf i MALIC. Daeth ein harolwg o ddangosyddion arfaethedig ar gyfer MALlC 2025 i ben ar 16 Rhagfyr 2024, ac ar 17 Ebrill 2025 gwnaethom gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r adborth a gafwyd

Os hoffech gael eich hysbysu pan gaiff gwybodaeth ddiweddaraf MALlC ei chyhoeddi, e-bostiwch ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru i danysgrifio.

Diogelwch cymunedol

Gwnaethom gyhoeddi Ystadegau achosion tân ac achub: Ebrill i Fedi 2024 ar 20 Mawrth 2025.

Yn dilyn gwaith i ailstrwythuro ein hallbynnau digwyddiadau tân a pherfformiad ar ddiwedd 2024, byddwn yn adolygu ein datganiadau Tanau glaswelltirTanau llosgi bwriadol cyn eu diweddariadau nesaf yn hydref 2025 a 2026 yn y drefn honno. Os ydych yn defnyddio'r allbynnau ystadegol hyn, cysylltwch â ni ar ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.

Trosedd a chyfiawnder

Os oes gennych unrhyw adborth ar ein dangosfyrddau rhyngweithiol Carchardai a phrawfCyfiawnder ieuenctid, cysylltwch ar ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.

Cydraddoldeb

Cyfrif carafanau sipsiwn a theithwyr

Gwnaethom gyhoeddi'r datganiad ystadegol Cyfrif carafanau Sipsiwn a Theithwyr: Ionawr 2025 ar 10 Ebrill 2025. Rydym yn oedi cyn diweddaru'r gyfres hon er mwyn adolygu'r broses o gasglu data cyfrif carafanau dros 2025. Fel rhan o'r adolygiad hwn, byddwn yn ystyried gwelliannau er mwyn helpu i sicrhau bod datganiadau ystadegol yn y dyfodol yn adlewyrchu'n gywir y llety presennol ar gyfer cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru.

Cynhelir y broses nesaf o gasglu data dros dro yn amodol ym mis Ionawr 2026 ar ôl cwblhau'r adolygiad hwn. Os ydych yn defnyddio'r cyfrif carafanau Sipsiwn a Theithwyr a'ch bod am roi adborth ar y cyhoeddiad hwn, cysylltwch ag ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.

Hunaniaeth o ran rhywedd

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi gwneud rhagor o waith i ddarparu gwybodaeth fanylach am yr ansicrwydd sy'n gysylltiedig â'r amcangyfrifon hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghyfrifiad 2021 a chanllawiau ar ddefnydd priodol ohonynt. Cyhoeddwyd Census 2021 gender identity estimates for England and Wales, additional guidance on uncertainty and appropriate use article ar 26 Mawrth (SYG). Rydym yn adolygu ein hallbynnau ystadegol cyhoeddedig sy'n defnyddio'r amcangyfrifon hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghyfrifiad 2021 a byddwn yn ychwanegu canllawiau ychwanegol i'r allbynnau i helpu defnyddwyr i ddehongli'r data a gwneud defnydd priodol ohonynt. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch equalityevidenceunit@llyw.cymru.

I roi adborth ac i wneud sylwadau, e-bostiwch ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru.

Trafnidiaeth

Ym mis Mai, gwnaethom gyhoeddi amcangyfrifon dros dro ar gyfer gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu: 2024 a diweddaru ein dangosfwrdd rhyngweithiol, gan gynnwys dadansoddiadau fel difrifoldeb anafiadau, y math o ddefnyddiwr ffordd a lleoliad gwrthdrawiadau ar fap

I roi adborth ac i wneud sylwadau, e-bostiwch ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru

Mae prosesau casglu data ar gyfer Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru yn mynd rhagddynt, ac mae'r cyfraddau ymateb cynnar wedi bod yn gadarnhaol iawn ac yn unol â'r disgwyliadau. 

I ddechrau, disgwylir i ddata chwe mis gael eu cyhoeddi o fis Mawrth 2026, yna'r set ddata blwyddyn lawn gyntaf o fis Hydref 2026. Yna caiff data eu cyhoeddi bob blwyddyn yn yr hydref yn y blynyddoedd dilynol.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi adborth rhanddeiliaid mewn ymateb i'w arolwg byr ar Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru blaenoriaethu pynciau i'w dadansoddi (Trafnidiaeth i Gymru).

Mae Trafnidiaeth Cymru yn croesawu unrhyw adborth neu sylwadau ar Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru yn: travelsurvey@tfw.wales.

Y Gymraeg

Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth

Cyhoeddwyd Data ar y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2024 ar 16 Ebrill. Gwnaethom hefyd ddiweddaru ein tablau StatsCymru (Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: y Gymraeg) er mwyn cynnwys y data diweddaraf.

Roedd yr amcangyfrifon hyn yn cael eu dosbarthu'n ystadegau swyddogol achrededig yn flaenorol. Bu lleihad ym maint y samplau a ddefnyddiwyd yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Oherwydd hyn a'r ffaith nad yw'r arolwg wedi'i ail-bwysoli i'r amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth, cytunodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau y dylid atal yr achrediad hwn dros dro ac y dylai'r amcangyfrifon gael eu hailddynodi'n ystadegau swyddogol (y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau).

Dangosfwrdd ar gyfer data ar y Gymraeg mewn addysg

Mae dangosfwrdd rhyngweithiol sy'n cyflwyno data ar y Gymraeg mewn addysg yn ôl awdurdod lleol bellach ar gael. 

Mae'r adnodd hwn yn darparu data ar leoliadau blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, nifer a chanran y disgyblion sy'n astudio yn Gymraeg, cofrestriadau ar gyfer arholiadau TGAU, UG. a Safon Uwch iaith Gymraeg, a gallu Cymraeg y gweithlu ysgolion. 

Mae'r data, a oedd ar gael mewn fformat gwahanol o'r blaen, bellach yn cael eu cyflwyno mewn ffordd fwy hygyrch a hwylus, gan ei gwneud yn haws archwilio dirnadaethau allweddol.

Data ar y Gymraeg y tu allan i Gymru

Diolch i bawb a gymerodd ran yn ein harolwg diweddar ar ddata ar y Gymraeg y tu allan i Gymru. Mae'r arolwg bellach wedi cau, ac rydym yn gwerthfawrogi'r holl adborth gwerthfawr a gawsom. Gobeithiwn rannu'r canfyddiadau o'r ymarfer maes o law.

Fel rhan o'n rhaglen waith ar y cyd â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), rydym yn archwilio ffyrdd o fynd i'r afael â'r prinder data cynhwysfawr a geir ar hyn o bryd ar siaradwyr Cymraeg yn Lloegr a gweddill y DU. Wrth i bobl fod yn fwy symudol, daw'n fwyfwy pwysig ein bod yn deall y tueddiadau hyn. Byddwn yn dogfennu gofynion defnyddwyr ar gyfer data am y Gymraeg y tu allan i Gymru a hoffem glywed eich barn ynghylch pa ddata a allai fod yn werthfawr i chi a sut y byddech yn eu defnyddio.

Bydd eich adborth yn helpu i lywio ein dull gweithredu a sicrhau bod unrhyw ddata a gesglir yn berthnasol ac yn ddefnyddiol.

Rhaglen Dysgu Cymraeg 2023 i 2024

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cyhoeddi ei data blynyddol diweddaraf ar gyfer 2023-24. Mae'r diweddariad yn cynnwys gwybodaeth am nifer y dysgwyr, y mathau o gyrsiau a lefelau, tueddiadau'r boblogaeth a chynnydd ar draws y rhaglen Dysgu Cymraeg. Mae'r data hyn yn helpu i greu darlun cliriach o ddysgu Cymraeg ledled Cymru a thu hwnt. 

Gallwch weld y diweddariad llawn ar wefan Dysgu Cymraeg Cymru.

Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ein gwaith, e-bostiwch: dataiaithgymraeg@llyw.cymru.

Amaethyddiaeth a'r amgylchedd

Datgarboneiddio a'r newid yn yr hinsawdd

Cyhoeddwyd y ffigurau chwarterol diweddaraf ar gyfer gwastraff trefol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2024 ar 14 Mai.

E-bostiwch ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Amaethyddiaeth

Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ein gwaith, e-bostiwch: ystadegau.amaeth@llyw.cymru.

Cyllid llywodraeth leol

Lefelau'r Dreth Gyngor 

Ym mis Mawrth, gwnaethom gyhoeddi manylion lefelau'r dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025 i 2026 a'r data cysylltiedig ar StatsCymru.

Poblogaeth a demograffeg

Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru.

Manylion cyswllt ar gyfer ystadegau Llywodraeth Cymru