Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad a chefndir

Rhesymeg ymchwil

Ym mis Medi 2023, cytunodd Cadeiryddion Gweithgorau'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gydweithio â'r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd (DDEU) gyda'r nod o gydgynhyrchu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR). Roedd y Tasglu wedi nodi cyfres o argymhellion yn flaenorol, ac un ohonynt yn ymwneud â Byw’n Annibynnol.

Argymhellodd aelodau'r gweithgor y dylid sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol, i'w rhedeg a'i rheoli gan bobl anabl. Byddai’n anelu at:

  • gryfhau gwybodaeth a dealltwriaeth am yr hawl i Fyw'n Annibynnol
  • cynyddu gwybodaeth a sgiliau ynghylch arfer da wrth gefnogi a chyflawni Byw'n Annibynnol
  • dyfeisio strategaethau i ehangu mynediad i Daliadau Uniongyrchol ac i fanteisio arnynt, gan gynnwys datblygu'r farchnad ar gyfer Cynorthwywyr Personol
  • gwneud y mwyaf o rôl Canolfannau Byw'n Annibynnol lleol trwy ddarparu cymorth a mynediad at adnoddau

Nod yr ymchwil hon oedd archwilio ymhellach yr argymhelliad hwn gan Weithgor y Tasglu Hawliau Pobl Anabl gydag ystod o randdeiliaid a defnyddio dull o gynhyrchu ar y cyd.

Byw’n Annibynnol yng Nghymru

Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol, a oedd yn nodi ei chamau gweithredu i fynd i'r afael â'r prif faterion sy'n wynebu pobl anabl ar draws ystod o feysydd polisi. 

Roedd y ddogfen hefyd yn dangos yn glir gefnogaeth Llywodraeth Cymru i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (CCUHPA), gan wneud ymrwymiad i ystyried sut y gellid ymgorffori'r confensiwn yn effeithiol yng nghyfraith Cymru.

Trwy gydol y cynllun hwn rydym yn cyfeirio at y confensiwn fel y ‘Confensiwn ar Hawliau Pobl Anabl’ neu CCUHPA yn hytrach na’r enw a roddwyd iddo - y Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau - er mwyn adlewyrchu ein hymrwymiad i’r Model Cymdeithasol o Anabledd.

Mabwysiadwyd y Confensiwn gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn 2006 a'i gadarnhau gan y DU yn 2009. Mae'n gweithredu fel cytundeb gan lywodraethau i gydnabod a diogelu hawliau pobl anabl. Mae hyn yn cynnwys yr hawliau hynny mewn perthynas â Byw'n Annibynnol sy'n cael eu crynhoi gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fel:

  • mae gan bobl anabl hawl gyfartal i fyw yn y gymuned a chymryd rhan ynddi
  • mae gan bobl anabl yr un hawl i’r un dewis a rheolaeth â phobl nad ydynt yn anabl
  • rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod pobl anabl yn mwynhau’r hawliau hyn

Data ar ganlyniadau llesiant i bobl anabl yng Nghymru

Yng Nghyfrifiad 2021, roedd 21% o’r boblogaeth yn bobl anabl, fel y'u diffinnir fel y rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch corfforol neu feddyliol sy'n para neu y disgwylir iddo bara 12 mis neu fwy. Mae hyn yn cyfrif am 670,000 o bobl yng Nghymru. Roedd gan oddeutu 48,500 o oedolion yng Nghymru gynllun gofal a chymorth ym Mawrth 2024 yn ôl data gweithgarwch Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Yn 2002 mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y model cymdeithasol o anabledd. Yn hytrach na diffinio pobl fel rhai y mae eu hamhariad wedi’u gwneud yn anabl (h.y. y model meddygol o anabledd), ystyrir bod pobl ag amhariadau neu gyflyrau iechyd hirdymor wedi’u gwneud yn anabl gan rwystrau corfforol, agweddol a sefydliadol a grëwyd gan gymdeithas. Mae llawer o'r ffynonellau data yn yr adran hon yn defnyddio diffiniadau’r model meddygol o anabledd yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010. Yn y Ddeddf Cydraddoldeb ystyr "anabledd" yw cyflwr corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar eich gallu i wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, rydym wedi defnyddio iaith y model cymdeithasol yn yr adran hon lle bo hynny'n bosibl.

Mae data Llesiant Cymru 2024 yn awgrymu bod pobl anabl yn profi canlyniadau gwaeth na phobl nad ydynt yn anabl ar draws nifer o feysydd sy'n gysylltiedig â Byw'n Annibynnol, gan gynnwys cyflogaeth, incwm, a llesiant.

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23, roedd un o bob pedwar o bobl anabl neu bobl â salwch cyfyngus hirdymor (25%) yn byw mewn cartref a oedd mewn amddifadedd materol. Mae hyn mewn cymhariaeth ag 11% o bobl nad ydynt yn anabl. Dywedodd 22% o bobl anabl neu bobl â salwch cyfyngus hirdymor eu bod yn teimlo'n unig y rhan fwyaf o’r amser neu trwy'r amser, o'i gymharu â 7% o bobl nad ydynt yn anabl. Roedd boddhad pobl anabl â bywyd hefyd yn is na phobl nad ydynt yn anabl.

Y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl anabl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru oedd 50.9% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024. Mae hyn mewn cymhariaeth â chyfradd o 81.5% ymhlith pobl nad ydynt yn anabl. Roedd y bwlch cyfradd cyflogaeth yn 30.6 pwynt canran. Yn 2023, i'r rhai mewn cyflogaeth, roedd pobl anabl yng Nghymru yn ennill, ar gyfartaledd, £1.75 (12.2%) yn llai yr awr na phobl nad ydynt yn anabl.

Dull cydgynhyrchu

Roedd yr ymchwil hon yn brototeip ar gyfer cydgynhyrchu GSR. Aeth ati i brofi a yw'n bosibl cydgynhyrchu'r math hwn o ymchwil, faint y gellir ei gydgynhyrchu ac i ddangos sut y gellid ei wneud yn y dyfodol.

Cyfunodd y tîm cydgynhyrchu brofiad bywyd pobl anabl gyda gwybodaeth eang am hawliau anabledd ac ymchwil gymdeithasol. Roedd y tîm yn cynnwys Cadeiryddion Gweithgorau’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl, a swyddogion ymchwil a pholisi Llywodraeth Cymru.

Nod y tîm oedd dysgu sut i gynhyrchu ymchwil gyda'i gilydd. Byddai hyn yn gwella ansawdd y dystiolaeth a’r defnydd o’r dystiolaeth sy'n llywio penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl anabl.

Methodoleg

Yn seiliedig ar argymhelliad Gweithgor y Tasglu Hawliau Pobl Anabl i sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol (NCFIL), datblygodd y tîm cydgynhyrchu ddogfen Gweledigaeth NCFIL, a oedd yn cynnwys:

  • y cwmpas cyffredinol a awgrymir ar gyfer NCFIL
  • elfennau craidd o sut olwg sydd ar Fyw'n Annibynnol sy’n ‘dda’
  • sefydliadau a gweithgareddau awgrymedig a allai helpu i alluogi a chefnogi Byw'n Annibynnol
  • y mathau o weithgareddau y gallai NCFIL eu gwneud
  • egwyddorion sylfaenol awgrymedig ar gyfer NCFIL
  • cwestiynau ymarferol i'w hystyried ar gyfer dylunio NCFIL

Cynhaliodd y tîm weithdy trafod ym mis Hydref 2024 i archwilio syniadau o weledigaeth y tîm cydgynhyrchu ynghylch sefydlu NCFIL. Roedd y tîm cydgynhyrchu yn cydnabod bod angen i ystod eang o randdeiliaid ddarparu'r gwasanaethau cywir er mwyn i Fyw'n Annibynnol weithio'n dda. Gwahoddwyd cyfranogwyr i gymryd rhan mewn trafodaeth estynedig, gyda gwybodaeth gefndir wrth law, i gefnogi trafodaethau. Dewiswyd cyfranogwyr i gynrychioli gwahanol brofiadau a gwybodaeth am faterion gofal cymdeithasol sy'n effeithio ar bobl anabl. Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys:

  • pobl anabl
  • cynrychiolwyr o ystod o wahanol grwpiau amhariad a Sefydliadau Pobl Anabl
  • undebau llafur
  • llywodraeth leol a sefydliadau eraill y sector cyhoeddus
  • y sector gofal cymdeithasol
  • unigolion sy'n gweithio yn y byd academaidd neu sydd ag arbenigedd cysylltiedig arall
  • swyddogion Llywodraeth Cymru

Diffinnir Sefydliad Pobl Anabl (DPO) fel 'sefydliad sy'n cael ei arwain, ei gyfarwyddo a'i lywodraethu gan bobl anabl, gydag ymrwymiad i'r model cymdeithasol o anabledd a hyrwyddo hawliau dynol i unigolion anabl'.

Gellir diffinio grŵp amhariad (IG) yn fras fel 'sefydliad sydd â’r diben o hyrwyddo buddiannau pobl ag amhariad penodol, nad yw'n cael ei redeg a'i lywodraethu yn llwyr, neu o gwbl, gan bobl anabl'.

Cyfrannodd cyfanswm o 30 o gyfranogwyr o 19 sefydliad gwahanol at yr ymchwil. 

Roedd aelodau o'r tîm cydgynhyrchu yn cadeirio a chyflwyno'r gweithdy ar y cyd. Arsylwodd ymchwilwyr Llywodraeth Cymru ar y trafodaethau, a chymryd nodiadau o themâu’r drafodaeth a phwyntiau yr oedd cytundeb arnynt. 

Cynhaliwyd y gweithdy fel cyfarfod ar-lein i wneud yr ymchwil yn hygyrch. Gallai cyfranogwyr gyfrannu eu barn mewn ffyrdd amgen os oedd yn well ganddynt wneud hynny. 

Cyn y gweithdy, rhannwyd agenda, manylion o ran awgrymiadau i’r drafodaeth, cyfarwyddiadau ar gyfer ymuno â'r drafodaeth rithwir a gwybodaeth gefndir am Fyw'n Annibynnol yng Nghymru. 

Mae'r data a gasglwyd yn cael ei ddangos yn yr adroddiad hwn fel crynodeb o farn y cyfranogwyr ar weledigaeth y tîm cydgynhyrchu ar gyfer NCFIL. Mae hyn yn cynnwys barn ar yr hyn y dylai Byw'n Annibynnol ei olygu yn ymarferol, sut y gallai NCFIL helpu i gefnogi Byw'n Annibynnol i bobl anabl, ac opsiynau ar gyfer modelau cyflawni. 

Nid oedd yr ymchwil hon yn anelu at werthuso'r dull presennol o ymdrin â Byw'n Annibynnol yng Nghymru yn llawn. Nid oedd y sampl cyfranogwyr yn gwbl gynrychioliadol o bob math o randdeiliaid sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol a Byw'n Annibynnol. 

Mae rhai cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â'r dull hwn. Mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod gwybodaeth a roddir i gyfranogwyr yn gytbwys ac nad yw'n gwyro tuag at un safbwynt. Gall hefyd arwain at duedd gan y gall gwahanol grwpiau o randdeiliaid fod yn fwy neu lai parod i fynd i weithdy nag eraill.

Canfyddiadau’r ymchwil

Beth mae Byw’n Annibynnol yn ei olygu yn ymarferol

Trafododd y cyfranogwyr weledigaeth y tîm cydgynhyrchu o sut olwg oedd ar ragoriaeth ar gyfer Byw'n Annibynnol. Nodwyd yr elfennau canlynol gan y tîm cydgynhyrchu yn eu gweledigaeth ar gyfer NCFIL fel rhai sy'n angenrheidiol ar gyfer Byw'n Annibynnol.

  • Cymorth personol a gofal cymdeithasol.
  • Eiriolaeth a chymorth uniongyrchol.
  • Cyfranogiad yn y gymuned.
  • Addysg a sgiliau.
  • Gofal iechyd.
  • Trafnidiaeth.
  • Hamdden

Dangoswyd i’r cyfranogwyr y mathau canlynol o sefydliad neu weithgaredd yr oedd y tîm cydgynhyrchu wedi'u nodi yn eu gweledigaeth fel elfennau a fyddai’n helpu i alluogi a chefnogi Byw'n Annibynnol.

  • Y trydydd sector
  • Darparu gwasanaethau
  • Tystiolaeth a data
  • Llunio polisïau
  • Ymgysylltu â dinasyddion anabl a chydgynhyrchu
  • Ymgyrchu ac ymwybyddiaeth y cyhoedd
  • Rheoleiddio a monitro

Mae’r diagram isod yn cynnwys yr elfennau a’r galluogwyr yr oedd y tîm cydgynhyrchu yn barnu bod eu hangen.

Ffigur 1: Elfennau Byw’n Annibynnol a galluogwyr o Weledigaeth y tîm cydgynhyrchu

Image

Roedd cyfranogwyr yn cytuno mai cam cyntaf pwysig fyddai cytuno ar ddiffiniad o 'Fyw'n Annibynnol' ar gyfer NCFIL a rhannu hyn gyda rhanddeiliaid. Cynigiwyd y dylai gynnwys grymuso pobl anabl i fyw bywyd boddhaus 'ar yr un sail â'u cymheiriaid nad ydynt yn anabl'. Roedd cyfranogwyr yn ymwybodol o lawer o amrywiadau yn y ffordd y mae gwahanol bobl yn dehongli'r term. Credwyd y byddai diffiniad cytunedig yn helpu pobl sydd angen cymorth i ddeall eu hawliau. Gallai hyn hefyd godi ymwybyddiaeth o sut mae angen i strwythurau mewn cymdeithas a gwasanaethau neu brosesau ymarferol weithio gyda'i gilydd i gefnogi pobl anabl.

Teimlwyd y dylai Byw'n Annibynnol olygu gofal cymdeithasol priodol ond dylai hefyd fod yn sail i agweddau eraill gan gynnwys ansawdd bywyd a chyflawniad personol, a galluogi ymgysylltiad llawn â'r gymuned. Teimlwyd na ddylai olygu 'gwneud pethau ar eich pen eich hun' neu fyw ar eich pen eich hun.

Wrth ystyried rhagoriaeth ar gyfer Byw'n Annibynnol, cytunwyd yn eang bod angen i bobl anabl fod mewn rolau i arwain a dylanwadu ar benderfyniadau yn genedlaethol. 'Edefyn euraidd' trwy gydol y trafodaethau oedd ystyried sut i sicrhau bod profiad bywyd yn cael ei ystyried wrth alluogi Byw'n Annibynnol yng Nghymru. Siaradodd llawer o gyfranogwyr am yr effeithiau negyddol ar iechyd meddwl o deimlo nad oedd ganddynt reolaeth dros eu bywydau eu hunain neu fyw gyda phryder am newidiadau polisi posibl a allai effeithio ar y cymorth maen nhw'n ei gael. 

Roedd llawer o gyfranogwyr yn gweld bwlch rhwng yr hyn a ddylai fod ar gael i gefnogi Byw'n Annibynnol a'r hyn sy'n digwydd yn ymarferol. Teimlwyd bod hyn yn effeithio ar bolisi a dylunio gwasanaethau yn ogystal â darpariaeth. 

Rhoddodd cyfranogwyr enghreifftiau o sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 (Government Equalities Office and Equality and Human Rights Commission) gan gynnwys methiant i asesu'n briodol effeithiau penderfyniadau ar bobl anabl. Tynnodd eraill sylw at y diffyg canllawiau i'r rhai sy'n darparu gwasanaethau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddfwriaeth y DU). Roedden nhw'n teimlo bod hyn yn ei gwneud hi'n anodd i sefydliadau ddeall sut i gadw at CCUHPA sy'n nodi hawliau cyffredinol pobl anabl.

Yr awgrym mwyaf cyffredin i alluogi Byw'n Annibynnol oedd cael cymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gydag opsiynau gwasanaeth hyfyw ar gael a'r gallu i ddewis. Roedd hyn yn cynnwys gofal personol o ansawdd da. Teimlai cyfranogwyr fod gofal personol o ansawdd da yn effeithio'n gadarnhaol ar feysydd eraill bywyd fel gwaith a pherthnasoedd teuluol. Er enghraifft, gallai alluogi rhieni i ganolbwyntio ar rianta neu ddarparu'r cymorth cyson a dibynadwy sydd ei angen fel y gall unigolion weithio neu astudio. Nododd cyfranogwyr hefyd fod angen i wasanaethau eraill weithio'n dda i gefnogi agweddau ehangach ar fywyd fel iechyd, gwaith, addysg, teulu a hamdden. 

Roedd llawer yn teimlo bod trydydd sector effeithiol yn elfen hanfodol i alluogi Byw'n Annibynnol, oherwydd ei fod yn darparu gwasanaethau yn uniongyrchol i ddinasyddion ac yn eu galluogi i ymgysylltu â’r sawl sy'n gwneud penderfyniadau. 

Ystyriodd cyfranogwyr y gwasanaethau a oedd ar gael. Amlygwyd enghreifftiau o gyfyngiadau i wasanaethau. Roedd y rhain yn cynnwys diffyg dewisiadau, neu fynediad at yr wybodaeth gywir mewn fformatau hygyrch a fyddai'n galluogi dewisiadau i gael eu gwneud. Nodwyd bod yr enghreifftiau hyn yn mynd yn groes i egwyddor egwyddor ‘Llais a Rheolaeth’ Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) o 'roi’r unigolyn a’i anghenion wrth wraidd y gofal'. 

Dangosodd profiadau negyddol a rannwyd gan gyfranogwyr y gall problemau gyda chydweithredu rhwng gwasanaethau effeithio ar gymorth i bobl anabl. Disgrifiodd rhai wasanaethau fel 'tameidiog', a rhannwyd enghreifftiau o unigolion yn gorfod cael mynediad at sawl darparwr gwahanol am gymorth gydag un mater. 

Rhannwyd profiadau hefyd o wahanol wasanaethau cymorth sydd ar gael mewn gwahanol rannau o Gymru. Rhoddodd rhai enghreifftiau o amrywiadau mewn gwasanaethau gofal personol y ceir mynediad atynt trwy awdurdodau lleol o ran y cymorth a gynigir a rhwystrau i gael mynediad at Daliadau Uniongyrchol i dalu am ofal personol.

Pa weithgareddau y gallai Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol eu gwneud i wella Byw'n Annibynnol i bobl anabl yng Nghymru

Roedd cyfranogwyr yn teimlo bod angen NCFIL i ddod â rhanddeiliaid at ei gilydd i alluogi Byw'n Annibynnol mewn amrywiaeth o ffyrdd ymarferol. Cytunodd y cyfranogwyr yn gryf y byddai'r gweithgareddau a awgrymwyd gan y tîm cydgynhyrchu yng Ngweledigaeth NCFIL (a restrir isod) yn helpu i alluogi Byw'n Annibynnol. 

  • Datblygu polisi: eirioli dros gyfranogiad pobl anabl yn y gwaith o lunio polisïau yng Nghymru i gefnogi Byw'n Annibynnol.
  • Cynhyrchu tystiolaeth a data: ar Fyw'n Annibynnol a lledaenu canfyddiadau i lywio polisi.
  • Ymwybyddiaeth y cyhoedd: ymgyrchu, gweithgareddau addysgol i newid agweddau cymdeithasol.
  • Meithrin Capasiti a Rhwydweithiau: cefnogi Canolfannau Byw'n Annibynnol lleol a sefydliadau eraill sy'n cefnogi pobl anabl.
  • Arweinyddiaeth arfer gorau: datblygu canllawiau ac arfer gorau, cyfleoedd hyfforddi a rhwydweithio i gefnogi sefydliadau.
  • Potensial ar gyfer gweithgareddau cynhyrchu refeniw: gan gynnwys gwasanaethau ymgynghori, hyfforddiant a datblygu cynnyrch.
  • Gwerthuso i fonitro gweithgareddau'r Ganolfan yn erbyn meini prawf llwyddiant y cytunwyd arnynt.

Ffigur 2: Gweithgareddau a awgrymwyd ar gyfer Canolfan Genedlaethol Byw’n Annibynnol a gymerwyd o Weledigaeth y tîm cydgynhyrchu

Image
Gweithgareddau arweinyddiaeth a chynrychiolaeth

Ystyriwyd bod arweinyddiaeth a chynrychiolaeth yn bwysig i wneud NCFIL yn effeithiol wrth gefnogi Byw'n Annibynnol. Yn benodol, cael NCFIL dan arweiniad pobl anabl a gyda phobl anabl yn cael eu cynrychioli ar bob lefel o fewn y sefydliad. Credwyd y byddai hyn yn gwella ansawdd y prosesau gwneud penderfyniadau ac yn darparu enghraifft bwerus o bobl anabl mewn swyddi arweinyddiaeth. Byddai'n dangos i sefydliadau eraill ac i'r cyhoedd sut i wneud gweithle yn hygyrch.

Dywedodd y cyfranogwyr fod angen gwella sut mae profiad bywyd pobl anabl yn cael ei gynnwys pan fydd llywodraeth ganolog a lleol yn gwneud penderfyniadau a pholisïau am ofal cymdeithasol a ffactorau eraill sy'n cefnogi Byw'n Annibynnol. Teimlwyd y gallai NCFIL hwyluso ymgysylltiad ystyrlon â dinasyddion.

Awgrymodd cyfranogwyr y dylai hyfforddiant fod ar gael i annog dinasyddion i weithredu fel cynrychiolwyr. Cynigiwyd y gallai hyfforddi anelu at wella hyder, sgiliau siarad cyhoeddus, ac arfogi dinasyddion i deimlo eu bod yn gallu cynrychioli eu hunain gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Roedd cyfranogwyr yn meddwl y gallai hyn arwain at fwy o amrywiaeth o leisiau mewn sgyrsiau cenedlaethol ac osgoi gorlwytho ychydig o unigolion. Ystyriwyd y dylid rhoi cydnabyddiaeth ariannol deg (taliad) i unigolion sy'n gweithredu fel cynrychiolwyr.

Gweithgareddau cyfathrebu a pholisi

Roedd llawer o’r farn mai un swyddogaeth i NCFIL fyddai cyflwyno llais cryf ac unedig i ysgogi newid a dylanwadu ar bolisi yn lleol ac yn genedlaethol. Teimlwyd y dylai NCFIL gynrychioli buddiannau pobl anabl mewn prosesau llunio polisi a gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar Fyw'n Annibynnol. Awgrymwyd y gallai gymryd trosolwg o sut y dylai gwahanol feysydd polisi weithio gyda'i gilydd i gefnogi pobl anabl, a chyfleu hyn i randdeiliaid. Gallai hefyd ddarparu safbwyntiau profiad bywyd. Ystyriwyd y dylai negeseuon sy'n cael eu lleisio gan bobl anabl hefyd helpu'r cyhoedd i ddeall yr hawl i Fyw'n Annibynnol yn well.

Roedd cyfranogwyr yn teimlo y gallai NCFIL adeiladu rhwydweithiau a rhannu arbenigedd, a fyddai'n helpu i leihau amrywiadau rhanbarthol mewn gwasanaethau a chymorth. Roedd yr awgrymiadau ar gyfer sut y gellid cyflawni hyn yn cynnwys datblygu strategaeth Cymru gyfan ar gyfer Taliadau Uniongyrchol, a hwyluso gwell cydweithio ar draws sefydliadau.

Tystiolaeth a data

Awgrymodd cyfranogwyr y gallai NCFIL gynhyrchu tystiolaeth a data i gefnogi’r gwaith o wneud penderfyniadau gwell, sy'n ystyried profiad bywyd.

Roedd rhai o'r farn nad oes digon o ddata ar gael ar hyn o bryd i werthuso cynnydd o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau yng Nghymru, ac y gallai NCFIL edrych ar ffyrdd o wella'r dystiolaeth i ddangos a oedd polisïau'n gweithio'n effeithiol. Nododd rhai fod bwlch mewn atebolrwydd i sefydliadau sy'n cyflawni canlyniadau sy'n gysylltiedig â Byw'n Annibynnol. Teimlwyd bod y data yr adroddir arno yn gyffredinol yn canolbwyntio ar allbynnau fel nifer yr unigolion a gefnogir, ac nid yw hyn yn rhoi darlun llawn o'r effeithiau ar bobl anabl. Gallai NCFIL hefyd gynhyrchu tystiolaeth sy'n helpu i ddeall pa flaenoriaethau ddylai fod ar gyfer cefnogi pobl anabl yn y dyfodol.

Awgrymodd rhai y gallai NCFIL gefnogi sefydlu canolfan academaidd sy'n canolbwyntio ar astudiaethau anabledd yng Nghymru.

Cefnogi rhanddeiliaid

Roedd cyfranogwyr yn teimlo ei bod yn bwysig iawn cefnogi sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau i bobl anabl ac eirioli drostynt. Ystyriwyd bod angen cydweithredu effeithiol ar gyfer Byw'n Annibynnol. Credwyd y byddai cefnogi cydweithredu gwell yn cryfhau'r cysylltiad rhwng grwpiau lleol sy'n ymgysylltu ag unigolion, a gwneud penderfyniadau cenedlaethol.

Roedd cyfranogwyr o'r farn y gallai NCFIL ddarparu cymorth i randdeiliaid sydd eisoes yn darparu gwasanaethau a dod â nhw at ei gilydd. Roedden nhw'n teimlo y byddai angen i hyn ategu'r hyn sydd eisoes yn gweithio'n dda ac ni ddylai ddyblygu'r hyn sydd eisoes yn ei le. Y rhanddeiliaid a grybwyllwyd oedd canolfannau byw’n annibynnol, sefydliadau pobl anabl ac Anabledd Cymru, a swyddogion awdurdodau lleol sy'n cefnogi hygyrchedd.

Gwelwyd bod sefydliadau pobl anabl yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gwasanaethau yn uniongyrchol i ddinasyddion a theimlwyd eu bod mewn sefyllfa dda i ddeall materion ar lefel gymunedol. Nodwyd gan lawer fod sefydliadau'r trydydd sector yn aml yn cael anawsterau i sicrhau cyllid rheolaidd ac felly maent yn llai abl i ddarparu gwasanaethau tymor hwy, cyson. Roedd cyfranogwyr yn teimlo y dylid darparu cefnogaeth i wella gwytnwch sefydliadau pobl anabl. Awgrymwyd y gallai hyn gynnwys hyfforddiant, cymorth gwasanaethau proffesiynol, a rhwydweithiau cymheiriaid. Ystyriwyd bod rhannu arfer gorau yn arbennig o werthfawr i sefydliadau llai. Credwyd y gallai hyn gynnwys canllawiau ar weithio gyda gwirfoddolwyr, gweithio hygyrch, a chyfleu i eraill beth mae Byw'n Annibynnol yn ei olygu yn ymarferol.

Awgrymodd cyfranogwyr y gallai rhwydweithiau rhanbarthol sefydledig fel Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth sydd newydd gael ei sefydlu rannu arfer gorau.

Gwelwyd bod gwirfoddolwyr yn chwarae rôl bwysig o fewn sefydliadau'r trydydd sector. Fodd bynnag, nododd cyfranogwyr fod llawer o sefydliadau o'r fath yn dibynnu'n bennaf ar wirfoddolwyr, gyda dim ond ychydig o weithwyr cyflogedig i ddarparu gwasanaethau. Ystyriwyd bod hyn yn peri risg o ran cynaliadwyedd, ac roedd cyfranogwyr yn teimlo y dylai gwasanaethau sy'n cefnogi pobl anabl gael eu hariannu'n ddigonol heb yr angen i ddibynnu ar lafur di-dâl.

Gweithgareddau cynhyrchu refeniw

Nododd cyfranogwyr fylchau mewn gwasanaethau cyfredol y gallai NCFIL helpu i'w llenwi, gan gynnwys darparu hyfforddiant i sefydliadau ac unigolion, sesiynau ymwybyddiaeth hygyrchedd, neu hyfforddiant i gynnal archwiliadau hygyrchedd.

Ystyriaethau ymarferol ar gyfer dylunio NCFIL

Cynigiodd y tîm cydgynhyrchu yr egwyddorion canlynol a fyddai, pe byddent yn rhan o ddyluniad NCFIL, yn ei helpu i gyflawni'r gweithgareddau arfaethedig yn effeithiol. Archwiliodd trafodaethau rai ystyriaethau ymarferol ac opsiynau ar gyfer gwahanol fodelau sefydliadol isod, gyda'r egwyddorion mewn golwg.

Roedd gweledigaeth y tîm cydgynhyrchu yn awgrymu y dylai NCFIL:

  • gael ei rhedeg a'i rheoli gan bobl anabl
  • defnyddio strwythur sefydliadol arloesol ac arweinyddiaeth addasadwy
  • bod yn gynaliadwy
  • cydnabod y Model Cymdeithasol o Anabledd ac alinio â CCUHPA
  • defnyddio cydgynhyrchu a phaneli arbenigol gyda phobl anabl yn weithredol ar bob lefel
  • dod â rhanddeiliaid at ei gilydd i annog cefnogaeth a chydweithrediad gan gymheiriaid
  • gwella a chefnogi cymunedau a sefydliadau lleol
  • cynnwys monitro a gwerthuso cadarn ar ei gweithgareddau ei hun
Ffigur 3: Egwyddorion sylfaenol ar gyfer Canolfan Genedlaethol Byw’n Annibynnol a gymerwyd o Weledigaeth y tîm cydgynhyrchu
Image

Nododd y tîm cydgynhyrchu yr ystyriaethau ymarferol canlynol i gyfranogwyr eu trafod.

  • A allai fod â phresenoldeb ffisegol?
  • A allai weithredu'n rhithwir?
  • A allai sefydliad trydydd sector ei darparu?
  • A allai fod wedi'i lleoli o fewn y llywodraeth?
  • A allai gael ei darparu gan neu mewn partneriaeth â sefydliad academaidd?
  • A allai ddefnyddio model partneriaeth, consortiwm, neu rwydwaith?
Ffigur 4: Ystyriaethau ymarferol ar gyfer dylunio Canolfan Genedlaethol Byw’n Annibynnol a gymerwyd o Weledigaeth y tîm cydgynhyrchu
Image
Pwysigrwydd profiad bywyd

Un o'r ystyriaethau pwysicaf a godwyd oedd yr angen i gael profiad bywyd wrth wraidd prosesau gwneud penderfyniadau ar bob lefel o NCFIL. Awgrymwyd y dylai hyn gynnwys arweinyddiaeth o fewn y sefydliad a chynnwys lleisiau dinasyddion trwy gydgynhyrchu. Dylai hefyd ddarparu amgylcheddau gwaith hygyrch a thaliad teg i weithwyr a gwirfoddolwyr.

Ystyriwyd y byddai sefydlu NCFIL o fewn y trydydd sector yn gweithio'n dda i gefnogi cynnwys profiad bywyd o fewn rolau arweinyddiaeth. Roedd cyfranogwyr yn teimlo y byddai hyn hefyd yn galluogi ymgysylltiad effeithiol â phobl anabl. Nodwyd bod llawer o sefydliadau pobl anabl yn cael eu rhedeg gan bobl anabl.

Ategu sefydliadau rhanddeiliaid presennol

Wrth archwilio cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o sefydliadau, trafododd pob grŵp fodelau sy'n cynnwys mwy nag un sefydliad yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni NCFIL. Ystyriwyd partneriaethau, modelau prif ganolfan a lloerennau a rhwydweithiau i gyd fel opsiynau da ar gyfer cyflawni'r ystod eang o weithgareddau a meysydd arfaethedig sy'n effeithio ar Fyw'n Annibynnol.

Roedd cyfranogwyr yn teimlo y dylid dylunio NCFIL mewn ffordd a fyddai'n cefnogi ymgysylltiad effeithiol â sefydliadau rhanddeiliaid a dinasyddion.

Awgrymodd rhai cyfranogwyr y gellid comisiynu sefydliad presennol i sefydlu NCFIL. Awgrymodd eraill y gallai creu swyddi mynediad ac eiriolaeth mewn awdurdodau lleol gefnogi rhai o'r gweithgareddau a nodwyd.

Hygyrchedd

Ystyriwyd bod hygyrchedd i randdeiliaid yn hanfodol er mwyn i NCFIL weithredu'n dda ac i ddangos safon aur ar gyfer cyflogaeth hygyrch ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Cytunwyd y dylai NCFIL gynnig ystod o ffyrdd hygyrch i bobl gael mynediad at ei gwasanaethau, gan gynnwys ffyrdd digidol ac annigidol.

Ystyriwyd y dylid gwasgaru'r gweithgareddau a gyflawnir gan NCFIL ledled Cymru. Roedd cyfranogwyr yn teimlo'n gryf ei bod yn bwysig ystyried anghenion mynediad amrywiol pobl anabl sy'n byw mewn gwahanol ranbarthau a gwahanol fathau o ardaloedd, er enghraifft dinasoedd, trefi, ac ardaloedd gwledig.

Awgrymwyd y gallai fod risgiau ynghylch cael NCFIL mewn un lle neu brif le ffisegol. Roedd rhai yn teimlo y gallai ei chael yn Ne-ddwyrain Cymru wneud anghydraddoldebau rhanbarthol yn waeth a dieithrio rhanddeiliaid mewn rhanbarthau eraill.

Roedd gan rai bryderon y gallai'r adeilad ddod yn ffocws ar draul gweithgareddau NCFIL. Serch hynny, ystyriwyd bod cynnal presenoldeb wyneb yn wyneb ledled Cymru yn hanfodol. Roedd y syniadau i gefnogi ymgysylltu rhanbarthol yn cynnwys gweithio gyda rhwydweithiau o sefydliadau trydydd sector lleol neu brifysgolion, cael canghennau lleol neu ranbarthol o NCFIL, cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb ledled Cymru, a gweithio gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Cyllid, strategaeth, a llywodraethiant

Roedd llawer o gyfranogwyr yn meddwl y dylai NCFIL gael cyllid i gyflawni'r prif weithgareddau a’r rhai pwysicaf. Roedd eraill yn teimlo y byddai cynhyrchu ffynonellau incwm annibynnol yn fwy cynaliadwy. Cytunai pawb y byddai angen digon o gyllid i gyflawni gweithgareddau craidd heb ddibynnu ar wirfoddolwyr.

Credwyd y byddai lleoli NCFIL o fewn y llywodraeth yn darparu gwell mynediad at gyllid, ac roedd rhai o'r farn y byddai sefydliad academaidd hefyd mewn sefyllfa dda i gael mynediad at grantiau i gyflwyno gweithgareddau. Er bod cyfranogwyr wedi nodi llawer o fanteision o ran sefydlu NCFIL yn y trydydd sector, ystyriwyd bod materion ynghylch cyllid, dibyniaeth ar wirfoddolwyr, yn ogystal â sgiliau a chapasiti yn peri risgiau. Awgrymwyd y gallai model ar y cyd sy'n cynnwys partneriaid cyflenwi eraill liniaru'r risgiau hyn.

Teimlwyd y byddai angen i NCFIL gael rheolaeth dros ei chyfeiriad strategol a gallu herio'n effeithiol. Roedd cyfranogwyr yn teimlo y byddai lleoli NCFIL o fewn y sector academaidd yn cynnig mwy o ryddid i osod strategaeth na'r modelau eraill a gynigiwyd. Roedd llawer o'r farn nad oedd modd sefydlu NCFIL o fewn y llywodraeth os am sicrhau digon o annibyniaeth i gael barn ddiduedd, ond archwiliwyd rhai modelau sefydliadol sector cyhoeddus.

Awgrymodd rhai y gellid ystyried corff hyd braich gyda mandad gan y llywodraeth, ac roedd eraill yn archwilio a fyddai modd cyflwyno gweithgareddau NCFIL trwy awdurdodau lleol er y cytunwyd bod angen trosolwg cenedlaethol. Cynigiodd un grŵp y gellid alinio â strwythurau'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, gan archwilio’r syniad o fodel prif ganolfan a lloerennau, sy'n cysylltu sefydliadau lleol a chenedlaethol ac o bosibl yn cynnwys sectorau eraill fel y byd academaidd a'r trydydd sector.

Roedd cyfranogwyr yn teimlo y byddai'n bwysig i NCFIL allu darganfod beth oedd dinasyddion eisiau ac angen, a dylanwadu ar benderfyniadau a oedd yn cael eu gwneud ar lefel genedlaethol. Credwyd y gallai model trydydd sector gefnogi hyn yn effeithiol, o gael mynediad at ddinasyddion ledled Cymru, trwy rwydweithiau presennol a grwpiau lleol neu gymunedol.

Awgrymwyd hefyd y gellid alinio strategaeth NCFIL â fframweithiau presennol fel Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, neu Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: 2022.