Ymchwil ynghylch y posibilrwydd o sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru - Cefndir
Bu cydweithio rhyngom â’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gynnal ymchwil i’r opsiynau ar gyfer Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol a sut y gallai weithrdu. Roeddem am brofi sut oeddem yn cyd greu ymchwil i gefnogi pobl anabl.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair gan arweinydd polisi Tasglu Hawliau Pobl Anabl
Ym mis Gorffennaf 2021, amlygodd adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 yr anghydraddoldebau sy’n wynebu pobl anabl mewn cymdeithas. Un o ymatebion Llywodraeth Cymru i'r adroddiad oedd sefydlu Tasglu Hawliau Pobl Anabl, sef partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a phobl anabl. Roedd y Tasglu’n gweithredu ar egwyddor cydgynhyrchu, gyda mwy na 200 o swyddogion polisi Llywodraeth Cymru a 350 o randdeiliaid allanol yn cydweithio i ddatblygu argymhellion, gyda'r nod o wella’r canlyniadau i bob person anabl yng Nghymru. Defnyddiwyd yr argymhellion hyn fel sail i ganlyniadau a chamau gweithredu’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl.
Y rhesymeg ar gyfer cydgynhyrchu wrth wneud yr ymchwil
Ym mis Medi 2023, cytunodd y Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gydweithio ag Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd (ERDEU) Llywodraeth Cymru gyda'r nod o gydgynhyrchu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth wedi'i llywio gan brofiad bywyd. Byddai'n profi i ba raddau y gellir cydgynhyrchu GSR, gan gydweithio i ymdopi â’r rhwystrau a chroesawu galluogwyr newid.
Nod yr ymchwil oedd profi ffordd amgen o gynnal ymchwil ar y cyd â chynrychiolwyr pobl anabl ac yn unol â’r model cymdeithasol o anabledd. Nodir mai ‘cydgynhyrchydd’ yw aelod o'r tîm traws-sector a gydweithiodd i greu prototeip o adroddiad GSR sydd wedi’i gydgynhyrchu.
Nod yr ymchwil oedd galluogi cyflawni cenhadaeth ERDEU, sef “gwella argaeledd, ansawdd, manylder a hygyrchedd tystiolaeth am unigolion â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig er mwyn inni ddeall yn llawn lefel yr anghydraddoldebau a’r mathau o anghydraddoldebau ledled Cymru”.
Yr uchelgais, fel rhan o gyfrannu at Gymru sy’n Fwy Cyfartal, oedd galluogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddatblygu polisïau sy’n seiliedig ar well gwybodaeth a sbarduno canlyniadau gwell i bobl.
Bwriad yr ymchwil oedd cryfhau gwaddol y Tasglu Hawliau Pobl Anabl trwy archwilio'r argymhellion ymhellach. Dewiswyd dau argymhelliad gan Gadeiryddion y Tasglu ar gyfer gwaith ymchwil. Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar yr argymhelliad canlynol gan y Gweithgor Byw'n Annibynnol: Gofal Cymdeithasol:
‘Sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol, sy'n cael ei rhedeg a'i rheoli gan bobl anabl, gyda'r nod o:
- gryfhau gwybodaeth a dealltwriaeth am yr hawl i Fyw'n Annibynnol
- cynyddu gwybodaeth a sgiliau ynghylch arfer da wrth gefnogi a chyflawni Byw'n Annibynnol
- dyfeisio strategaethau i ehangu mynediad i Daliadau Uniongyrchol ac i fanteisio arnynt, gan gynnwys datblygu'r farchnad ar gyfer Cynorthwywyr Personol
- gwneud y mwyaf o rôl Canolfannau Byw'n Annibynnol lleol trwy ddarparu cymorth a mynediad at adnoddau.’
Profiad bywyd pobl anabl: nodyn gan Gadeirydd y Gweithgor Byw'n Annibynnol: Gofal Cymdeithasol
Cyfarfu Gweithgor Byw'n Annibynnol: Gofal Cymdeithasol y Tasglu Hawliau Pobl Anabl 4 gwaith rhwng Medi 2022 a Mawrth 2023. Roedd aelodaeth y Gweithgor yn cynnwys pobl anabl â phrofiad bywyd o ddefnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol, cynrychiolaeth o Sefydliadau Pobl Anabl, sefydliadau'r trydydd sector, cyrff sector cyhoeddus, academyddion, a swyddogion Llywodraeth Cymru o ystod o feysydd polisi a chyflenwi.
Roedd y cyfarfodydd yn archwilio materion sy'n wynebu pobl anabl yn ymwneud â gofal cymdeithasol a Byw'n Annibynnol. Trafododd yr aelodau ystod eang o rwystrau y mae pobl anabl yn eu profi ynghylch gofal cymdeithasol gan gynnwys diffyg dealltwriaeth gan weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol am eu hanghenion; diffyg dealltwriaeth dinasyddion anabl o'u hawliau ynghylch mynediad at gymorth; rhwystrau i gael mynediad at Daliadau Uniongyrchol; agweddau problematig o fewn cymdeithas; a diffyg sgiliau arbenigol ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol. Roedd y trafodaethau yn ymdrin â ffyrdd o fynd i'r afael â'r rhwystrau hyn, yn ogystal â materion cyd-destunol fel yr argyfwng Costau Byw, yr adferiad araf o ran y ddarpariaeth gofal cymdeithasol yn dilyn pandemig y coronafeirws (COVID-19), a phroblemau gyda gwasanaethau gofal iechyd.
Trafododd y Gweithgor bwysigrwydd arfer ymagwedd hawliau dynol tuag at gefnogaeth i bobl anabl, ac edrychodd ar oblygiadau cadarnhau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl (CCUHPA) gan y DU, yn enwedig Erthygl 19 ar yr Hawl i Fyw'n Annibynnol. Cododd y trafodaethau bryderon hefyd am ddiffyg atebolrwydd ynghylch gweithredu dyletswyddau statudol. Awgrymwyd bod angen canllawiau ar weithredu gofyniad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i roi sylw dyledus i CCUHPA wrth ddarparu gwasanaethau o dan y Ddeddf.
Cynigiodd aelodau'r Gweithgor y gallai sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol (NCFIL) yng Nghymru, yn cael ei rhedeg a'i rheoli gan bobl anabl, helpu i wreiddio Byw'n Annibynnol trwy gynnal ymchwil a goruchwylio gwasanaethau rhanbarthol. Fe wnaethant hefyd argymell bod Llywodraeth Cymru yn ailymrwymo'n weithredol i'r cysyniad o Fyw'n Annibynnol, a'i hyrwyddo ar draws meysydd polisi ac wrth ddarparu gwasanaethau. Roedd aelodau'n teimlo y dylid defnyddio hyn fel y safon aur wrth farnu beth sy'n cael ei gyflawni. Awgrymodd yr aelodau hefyd rai diwygiadau i'r diffiniad o Fyw'n Annibynnol a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru yng Nghynllun Gweithredu 2019.
Hoffwn ddiolch i holl aelodau’r Gweithgor y mae eu cyfraniadau a’u syniadau wedi ysbrydoli’r ymchwil hon.
Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru
Cyd-destun polisi
Yr hawl i Fyw'n Annibynnol yng Nghymru
Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei fframwaith: Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol, a oedd yn nodi camau gweithredu i fynd i'r afael â'r prif faterion sy'n wynebu pobl anabl ar draws ystod o feysydd polisi. Tynnodd sylw at anghydraddoldebau i bobl anabl mewn nifer o feysydd sy'n gysylltiedig â Byw'n Annibynnol, gan gynnwys lefelau uwch o dlodi a mwy o allgáu cymdeithasol.
Mae Byw'n Annibynnol yn cael ei ddiffinio o fewn y Fframwaith fel:
‘Ystyr byw'n annibynnol yw bod gan bob person anabl yr un rhyddid, urddas, dewis a rheolaeth â dinasyddion eraill gartref, yn y gwaith, mewn addysg ac yn y gymuned. Nid yw'n golygu gorfod byw ar eich pen eich hun na gwneud popeth
drosoch chi eich hun. Mae'n golygu hawliau i gymorth a chefnogaeth ymarferol er mwyn cymryd rhan lawn mewn cymdeithas ar yr un sail ag eraill, a'r hawl i fynegi dewis a rheolaeth dros y ffordd y caiff y cymorth a'r gefnogaeth eu darparu.
Mae'n ymwneud â sicrhau y gall pobl o bob oedran ac o bob cymuned barhau i fyw'n annibynnol, mwynhau llesiant a chael gafael ar gymorth priodol pan fydd ei angen arnynt ac yn y ffordd briodol.’
Bwriad y Fframwaith oedd helpu pobl anabl i gyflawni eu huchelgeisiau a gwella eu llesiant trwy gyflogaeth deg, gwell canlyniadau iechyd, cyfleoedd ar gyfer dysgu gydol oes, a chymunedau mwy unedig. Ei nod oedd cael gwared ar y rhwystrau a wynebir wrth gael swydd a chreu'r amgylchedd cywir i fusnesau dyfu a ffynnu.
Wrth wneud hynny, mae wedi dylanwadu ar nifer o bolisïau a chynlluniau strategol ar draws sawl maes polisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys: Mae Casineb yn Brifo Cymru, y Strategaeth ddigidol i Gymru, y Rhaglen tai arloesol a Cymru gryfach, decach a gwyrddach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau.
Yn fwy diweddar, mae gwaith datblygu wedi dechrau ar gynllun gweithredu traws-lywodraethol ar gyfer pobl anabl. Bydd hyn yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru lle gall pobl anabl ddisgwyl cael eu cynnwys a'u parchu. Bydd y cynllun yn dangos ymrwymiad parhaus i ddiogelu hawliau pobl anabl ac i wreiddio’r Model Cymdeithasol o Anabledd trwy’r holl bolisïau yng Nghymru.
Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau hefyd o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl (CCUHPA). Mae'r confensiwn, a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn 2006 ac a gadarnhawyd gan y DU yn 2009, yn gweithredu fel cytundeb rhwng llywodraethau i amddiffyn hawliau pobl anabl. Mae hyn yn cynnwys hawliau sy'n ymwneud â Byw'n Annibynnol o dan Erthygl 19, 'Byw'n annibynnol a chynhwysiant yn y gymuned', sy'n dweud:
- bod gan bobl anabl hawl gyfartal i fyw yn y gymuned a chymryd rhan ynddi.
- bod gan bobl anabl yr hawl i’r un dewis a rheolaeth â phobl nad ydynt yn anabl.
- bod yn rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod pobl anabl yn mwynhau’r hawliau hyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu’r Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol annibynnol i ymchwilio i sut y gellid ymgorffori’r confensiwn hwn yng nghyfraith Cymru.
Cwmpas Byw'n Annibynnol
Mae'r hawl i Fyw'n Annibynnol yng Nghymru yn cyffwrdd â llawer o feysydd polisi a gellir gweld anghydraddoldebau mewn ystadegau swyddogol. Mae data cyfrifiad 2021 yn dangos bod 21% o bobl yng Nghymru (670,000 o bobl) yn anabl, wedi'u diffinio fel rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch corfforol neu feddyliol sy'n para neu y disgwylir iddo bara 12 mis neu fwy, gan alinio â Deddf Cydraddoldeb (2010), Cymru.
Mae data Arolwg Cenedlaethol Cymru (2022 i 2023) yn dangos bod oedolion anabl neu'r rhai sydd â salwch cyfyngus hirdymor yn llawer mwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo'n unig y rhan fwyaf o’r amser neu trwy'r amser ac yn fwy tebygol o fod â boddhad is â bywyd. Roedd pobl anabl neu’r rhai sydd â salwch cyfyngus hirdymor yn fwy na dwywaith yn fwy tebygol o fyw mewn cartref a oedd mewn amddifadedd materol na'r rhai nad ydynt yn anabl.
Yn 2002 mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y model cymdeithasol o anabledd. Yn hytrach na diffinio pobl fel rhai y mae eu hamhariad wedi’u gwneud yn anabl (h.y. y model meddygol o anabledd), ystyrir bod pobl ag amhariadau neu gyflyrau iechyd hirdymor wedi’u gwneud yn anabl gan rwystrau corfforol, agweddol a sefydliadol a grëwyd gan gymdeithas. Mae llawer o'r ffynonellau data yn yr adran hon yn defnyddio diffiniadau’r model meddygol o anabledd yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010. Yn y Ddeddf Cydraddoldeb ystyr "anabledd" yw cyflwr corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar eich gallu i wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, rydym wedi defnyddio iaith y model cymdeithasol yn yr adran hon lle bo hynny'n bosibl.
Er gwaethaf rhywfaint o welliant yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae tystiolaeth o adroddiad Llesiant Cymru 2024 yn awgrymu bod pobl anabl yn parhau i brofi canlyniadau gwaeth na phobl nad ydynt yn anabl ar draws nifer o feysydd sy'n gysylltiedig â Byw'n Annibynnol. Mae'r rhain yn cynnwys cyfraddau cyflogaeth, incwm, a llesiant.
Mae data gweithgarwch economaidd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod y bwlch cyflogaeth anabledd yn 30.6 pwynt canran. Roedd 50.9% o bobl anabl 16 i 64 oed mewn cyflogaeth yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024 o'i gymharu ag 81.5% o bobl nad ydynt yn anabl. Yn ôl data 2023, ar gyfer y rhai oedd mewn cyflogaeth, roedd pobl anabl yng Nghymru, ar gyfartaledd, yn ennill £1.75 (12.2%) yn llai yr awr na phobl nad ydynt yn anabl.
Roedd gan tua 48,500 o oedolion yng Nghymru gynllun gofal a chymorth yn ôl data gweithgarwch Gwasanaethau Cymdeithasol 2023 i 2024 ac o’r rheiny, roedd gan 13% gynllun gofal a chymorth a gefnogwyd gan ddefnyddio Taliad Uniongyrchol. Mae tua 200,000 o bobl yn gweithio ym maes Gwasanaethau Gofal ac Iechyd yng Nghymru. Mae'r gwasanaethau hynny wedi'u nodi fel un o wyth rhan yr Economi Sylfaenol, sydd hefyd yn cynnwys Bwyd, Tai, Trafnidiaeth a nwyddau a gwasanaethau hanfodol bob dydd eraill.
Rôl y Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae awdurdodau lleol yn darparu llawer o'r gwasanaethau gofal personol a ddefnyddir gan bobl anabl yng Nghymru. Roedd fframwaith Llywodraeth Cymru ar Fyw'n Annibynnol yn cydnabod gofal a chymorth personol fel un o ystod o elfennau sydd eu hangen i gael gwared ar rwystrau cymdeithasol neu eu lleihau.
Mae gwasanaethau cymdeithasol wedi'u datganoli yng Nghymru ac mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi mewn cyfraith sut y dylai gofal cymdeithasol gael ei ddarparu. Gellir crynhoi’r egwyddorion sy’n sail i’r Ddeddf fel hyn:
- Llais a rheolaeth. Rhoi’r unigolyn a’u hanghenion wrth wraidd eu gofal, a rhoi llais iddyn nhw ynghylch cyrraedd y canlyniadau sy’n eu helpu i sicrhau llesiant, a rheolaeth dros hynny.
- Atal ac ymyrryd yn gynnar. Cynyddu gwasanaethau ataliol o fewn y gymuned er mwyn lleihau’r cynnydd o ran anghenion critigol.
- Llesiant. Cefnogi pobl i sicrhau eu llesiant eu hunain a mesur llwyddiant gofal a chymorth.
- Cydgynhyrchu. Annog unigolion i gymryd mwy o ran yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau.
Mae'r Cod Ymarfer ar ran 2 o’r Ddeddf yn nodi sut y dylid cyflawni swyddogaethau cyffredinol o dan y Ddeddf. Un peth neilltuol yw ei fod yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl mewn perthynas â phobl anabl sydd angen gofal a chymorth ac i ofalwyr anabl wrth gyflawni’r swyddogaethau hyn.
Fel rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), sefydlwyd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Nod y rhain yw gwella llesiant y boblogaeth a gwella sut mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu. Rhaid i bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ddangos ymgysylltiad â dinasyddion a chydgynhyrchu. Gallant gynnwys aelodau o'r cyhoedd a gofalwyr yn ogystal â chynrychiolwyr o Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.
Sefydlwyd Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth Llywodraeth Cymru yn 2024 i roi arweiniad i'r sector gofal cymdeithasol wrth wneud gwelliannau i ofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n anelu at sicrhau cydweithio ar draws y sector gofal cymdeithasol. Hefyd, i wella mynediad at wasanaethau, i wella'r profiad o ddefnyddio gwasanaethau ac i gyflawni canlyniadau gwell a thecach. Un o'i swyddogaethau craidd yn ystod ei blwyddyn gyntaf oedd datblygu, gweithredu a pharhau i ddarparu’r Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol i Gymru. Bydd y Swyddfa Genedlaethol yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, defnyddwyr gwasanaeth a'r gweithlu. Bydd yn parhau i gefnogi a galluogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol wrth i'r cynllun gweithredu fesul cam, 10 mlynedd symud ymlaen ar gyfer Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol, yn ychwanegol at swyddogaethau craidd eraill.
Mae gwaith pellach ar y gweill i gefnogi pobl anabl a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor i gael mwy o reolaeth dros sut, pryd a chan bwy y darperir eu gofal iechyd. Daeth Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025, sy'n galluogi cyflwyno taliadau uniongyrchol i oedolion sy'n cael Gofal Iechyd Parhaus y GIG (GIP), yn gyfraith yng Nghymru ym mis Mawrth 2025. Mae'n anelu at ddarparu trefn sy’n gydradd â gofal cymdeithasol, lle mae taliadau uniongyrchol a weinyddir gan Awdurdodau Lleol yn opsiwn gwerthfawr i bobl anabl, fel y dengys data Archwilio Cymru.
Rôl y trydydd sector
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod rôl bwysig sefydliadau'r trydydd sector wrth gyfrannu at Fyw'n Annibynnol. Mae hyn yn cynnwys gweithio’n gydgynhyrchiol â phobl anabl a sefydliadau pobl anabl i nodi problemau sy'n effeithio ar bobl anabl ac i ddod o hyd i atebion. Maent hefyd yn darparu gwasanaethau i ddinasyddion fel eiriolaeth a chymorth arall.
Cyhoeddwyd Cynllun y Trydydd Sector Llywodraeth Cymru yn 2014. Mae'n nodi sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda, yn cefnogi ac yn ariannu sefydliadau gwirfoddol. Mae'r Cynllun hwn yn cynnwys Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu'r Trydydd Sector sy'n nodi’r egwyddorion ar gyfer gwaith cyllido a chomisiynu Llywodraeth Cymru. Mae aelodau is-bwyllgor Ariannu a Chydymffurfiaeth Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC) a swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â sefydliadau'r trydydd sector a chyllidwyr sector cyhoeddus i gydgynhyrchu cod diwygiedig.
Pum egwyddor y cod sydd ar ei newydd wedd, ac yn symlach, yw: Tegwch Mynediad; Deialog gynnar a pharhaus; Gwerth a Chanlyniadau; Mecanwaith Cyllido Priodol; Hyblygrwydd. Ers iddo gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r trydydd sector i hyrwyddo mabwysiadu’r cod.
Hefyd, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Grŵp Arwain Traws-sector ar Wirfoddoli Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector i gyd-ddylunio ffyrdd newydd o gefnogi a chynyddu gwirfoddoli yng Nghymru. Bydd y Dull Newydd hwn o ymwneud â Gwirfoddoli yn cael ei lansio yn Gofod3.
Canolfannau Byw'n Annibynnol yn y DU
Fel yng Nghymru, mae canolfannau lleol ar gyfer byw'n annibynnol yn gweithredu yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan gynnig gwasanaethau amrywiol fel eiriolaeth, cymorth cyflogres, a recriwtio cynorthwywyr personol. Mae rhai hefyd yn ymgymryd â gweithgareddau ymgyrchu a hyfforddi.
Yn ogystal â chanolfannau lleol, tan 2011 roedd Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yn Lloegr. Fe'i ffurfiwyd o’r Cyngor Prydeinig Sefydliadau Pobl Anabl ac fe'i rheolwyd gan bobl anabl. Roedd yn ymgyrchu dros hawliau ar Fyw'n Annibynnol, gan gynnwys y defnydd o Daliadau Uniongyrchol ar gyfer gofal cymdeithasol. Yn 2012 unodd â RADAR a’r Gynghrair Anabledd i ffurfio Disability Rights UK, sy'n Sefydliad Pobl Anabl. Mae'n anelu at ddylanwadu ar bolisi sy'n effeithio ar bobl anabl yn genedlaethol ac yn rhanbarthol.
