Teithio i bawb: gwella mynediad a chynhwysiant ar draws trafnidiaeth yng Nghymru - Egwyddor 2: teimlo bod croeso i chi
Rydyn ni am ei gwneud hi'n haws i fwy o bobl ddefnyddio ein rhwydwaith trafnidiaeth.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yr hyn sydd ei eisiau arnom
Rydym am i bobl deimlo bod croeso iddynt wrth ddefnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth.
Rydym am i bobl deimlo bod croeso iddynt a'u bod yn cael eu cefnogi drwy gydol eu siwrneiau.
Bydd sicrhau bod pobl yn cael eu trin â pharch a chael digon o seddi, arwyddion clir a chyfleusterau hawdd eu defnyddio yn helpu i greu rhwydwaith lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel, yn hyderus ac yn gyfforddus wrth deithio.
Yr hyn y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- gwneud yn siŵr bod staff sy'n delio â chwsmeriaid ar gyfer pob dull teithio yn cwblhau hyfforddiant rheolaidd ar bynciau sy'n ymwneud â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant gan gynnwys y model cymdeithasol o anabledd, gwrth-hiliaeth a ffyrdd o sicrhau bod cymuned y Lluoedd Arfog yn teimlo bod croeso iddynt ar ein rhwydweithiau
- gwneud yn siŵr bod system glir a hygyrch ar waith er mwyn rhoi gwybod am ymddygiad annerbyniol staff neu deithwyr ac i’r camau hynny gael eu cymryd pan fo angen.
Sut y byddwn yn gwneud hyn?
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- Gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i adolygu, datblygu a chyflwyno hyfforddiant gorfodol i staff rheng flaen y rheilffyrdd.
Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.
- Gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ymgorffori rhaglen hyfforddi mewn contractau bysiau a sicrhau y caiff ei gwblhau yn rheolaidd gan staff rheng flaen.
Amserlen: erbyn gwanwyn 2030
- Diweddaru canllawiau ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat i gynnwys gwell gwasanaeth cwsmeriaid a gwell prosesau ar gyfer ymdrin â chwynion ac adborth
Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.
- Helpu Trafnidiaeth Cymru i adolygu ei wasanaethau cwyno ac uwchgyfeirio a'u hatgyfnerthu lle y bo angen ar draws rhwydweithiau rheilffyrdd a bysiau.
Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.
