Neidio i'r prif gynnwy

Adnoddau i'ch helpu i ddod o hyd i'r term neu'r ymadrodd Cymraeg cywir.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw ‘termau’

Yn syml, geiriau neu ymadroddion yw termau sydd ag ystyron penodol mewn cyd-destunau neu feysydd penodol (mewn gofal iechyd, addysg neu'r amgylchedd, er enghraifft). Gall yr ystyron hyn fod yn wahanol i'w hystyron bob dydd.

Beth yw ‘terminoleg’

Casgliad o dermau arbenigol yw terminoleg. Mae'n dweud wrthych pa dermau y dylid eu defnyddio mewn maes penodol, er enghraifft pan fyddwch chi'n ysgrifennu ar gyfer sector neu gynulleidfa benodol. 

Yn wahanol i eiriaduron, sy'n canolbwyntio ar eiriau a'u hystyron, mae gwaith terminoleg yn cynnwys astudio cysyniadau a'u labeli. Er enghraifft, mae llygoden os yw wedi'i chynnwys mewn terminoleg technoleg gwybodaeth, yn declyn yn hytrach nag anifail blewog.

Mae sawl gwefan terminoleg i'ch helpu i ddefnyddio'r Gymraeg.

Pryd i ddefnyddio gwefannau terminoleg

Gall offer cyfieithu fel Bing a Google Translate fod yn ddefnyddiol ar gyfer atebion cyflym. Ond mae'n bwysig cofio nad yw'r rhain bob amser yn defnyddio'r termau safonedig ac efallai nad ydynt bob amser yn hollol gywir.

Bydd y gwefannau terminoleg canlynol yn eich helpu i ddod o hyd i'r term neu'r ymadrodd Cymraeg safonol cywir i'w ddefnyddio.

Y Termiadur Addysg

Mae'r Termiadur Addysg yn darparu terminoleg safonedig ar gyfer y maes addysg yng Nghymru.

Mae ar gael ar-lein neu fel ap. Chwiliwch am Ap Geiriaduron ar gyfer iOS neu Android. 

Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio

Gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i'r termau a ddefnyddir:

  • mewn ysgolion
  • mewn arholiadau ac asesiadau cyfrwng Cymraeg
  • mewn adnoddau ar gyfer athrawon a dysgwyr

Cynulleidfaoedd 

  • Rhieni a gofalwyr.
  • Plant.
  • Myfyrwyr.
  • Athrawon a thiwtoriaid.
  • Dysgwyr Cymraeg neu siaradwyr newydd.
  • Cyfieithwyr.

Porth Termau Cenedlaethol Cymru (Prifysgol Bangor)

Mae Porth Termau Cenedlaethol Cymru yn eich helpu i ddod o hyd i dermau Cymraeg a Saesneg safonedig o ystod o gronfeydd data terminoleg gwahanol.

Mae ar gael ar-lein neu drwy’r Ap Geiriaduron ar gyfer iOS neu Android.

  • Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio

  • Caiff ei ddefnyddio i ddod o hyd i dermau sy'n gysylltiedig â meysydd penodol, gan gynnwys:
  • addysg
  • archaeoleg
  • nyrsio
  • iechyd meddwl
  • cyllid
  • natur
  • cyfiawnder
  •  Cynulleidfaoedd 

  • Rhieni a gofalwyr.
  • Myfyrwyr.
  • Athrawon a thiwtoriaid.
  • Dysgwyr Cymraeg neu siaradwyr newydd.
  • Busnesau.
  • Pobl yn drafftio deunyddiau yn Gymraeg.
  • Pobl sy'n defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.
  • Academyddion.
  • Cyfieithwyr..

BydTermCymru

Mae BydTermCymru yn gasgliad arloesol o ddeunyddiau sy'n cynorthwyo cyfieithwyr mewnol ac allanol Llywodraeth Cymru yn eu gwaith. Mae ar gael i unrhyw un ei ddefnyddio. 

Mae'n cynnwys:

  • TermCymru: cronfa ddata chwiliadwy o dermau
  • Yr Arddulliadur: cyngor ac arweiniad ar gyfer cyfieithu yn arddull tŷ Llywodraeth Cymru
  • Geirfa ar gyfer meysydd penodol, er enghraifft COVID-19, LGBTQ+, hil ac ethnigrwydd
  • Enwau lleoedd yng Nghymru
  • Enwau lleoedd rhyngwladol
  • Cofau cyfieithu
  • Deunyddiau cyfeirio deddfwriaethol
  • Arwyddion traffig dwyieithog safonol

Cynulleidfaoedd 

  • Pobl sy’n drafftio deunyddiau yn Gymraeg.
  • Pobl sy'n defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.
  • Cyfieithwyr.
  • Cysylltu â ni: Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu ymholiad yn ymwneud â therminoleg, neu os nad ydych yn gallu dod o hyd i derm, e-bostiwch Cymraeg2050@llyw.cymru.

Llywodraeth Cymru

Enwau lleoedd

Comisiynydd y Gymraeg (y Comisiynydd) sy’n arwain ar y gwaith o safoni enwau dinasoedd, trefi a phentrefi yng Nghymru. Mae’n gwneud hyn drwy Banel Safoni Enwau Lleoedd sy’n canolbwyntio ar orgraff. Maen nhw’n cadw rhestr mae modd chwilio trwyddi o’r enwau lleoedd safonol Cymraeg.

Rhestrau o enwau eraill