Neidio i'r prif gynnwy

Cymru sy'n Fwy Cyfartal

Awdur: Scott Clifford

Cymru sy'n fwy cyfartal: Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol). 

Mae’r bennod hon wedi’i threfnu yn ôl nodwedd warchodedig, ac mae’n dwyn ynghyd ddadansoddiadau cydraddoldeb ar gyfer amrediad o ddangosyddion cenedlaethol lle mae’r rhain ar gael. Fodd bynnag, mae rhai dadansoddiadau o gydraddoldeb yn cael sylw mewn penodau eraill ac mae maint ac ansawdd y data sydd ar gael yn amrywio yn ôl nodwedd warchodedig. 

Roedd y bennod hon yn arfer cynnwys adran a oedd yn canolbwyntio ar ddata sy’n ymwneud ag anfantais economaidd-gymdeithasol. Fodd bynnag, nid oedd yn cynnwys llawer o wybodaeth am gefndir economaidd-gymdeithasol ac effaith hyn ar bobl sy’n cyflawni eu potensial. Byddwn yn parhau i adolygu cynnwys y bennod hon wrth i ragor o ddata ar gefndir economaidd-gymdeithasol ddod ar gael. 

Mae yna garreg filltir genedlaethol i leihau’r bwlch tlodi rhwng pobl yng Nghymru sydd â rhai nodweddion allweddol a gwarchodedig (sy’n golygu eu bod fwyaf tebygol o fod mewn tlodi) a’r rhai heb y nodweddion hynny erbyn 2035. Mae data ar dlodi incwm ac amddifadedd materol yn ôl nodweddion gwarchodedig wedi cael eu cynnwys drwy gydol y bennod hon os yw’r ffynonellau data hynny ar gael. I gael gwybodaeth fwy cyffredinol am anfantais economaidd-gymdeithasol, trowch at y bennod ar Gymru lewyrchus. 

Mae’r data ar amddifadedd materol, llesiant meddyliol a theimladau o ddiogelwch yn dod o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Fodd bynnag, mae maint y sampl ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 i 2025 yn llai nag mewn blynyddoedd blaenorol ac mae cyfansoddiad y bobl yn y sampl yn llai cynrychioliadol o boblogaeth Cymru nag mewn blynyddoedd blaenorol. Gallai hyn effeithio ar yr amcangyfrifon ar gyfer y dangosyddion hyn. Gweler yr adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Cynnydd tuag at y nod

Bu cynnydd cymysg tuag at gyflawni’r nod. Mae rhai o’r dangosyddion cenedlaethol yn dangos gwelliant yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig y gostyngiad yn y bwlch cyflogaeth ar gyfer pobl anabl a’r bwlch cyflog rhwng menywod a dynion. Fodd bynnag, nid yw rhai o'r dangosyddion yn dangos fawr ddim arwydd o welliant neu maent wedi dirywio, fel menywod yn dweud eu bod yn teimlo'n llai diogel yn bersonol a lefelau uchel o dlodi incwm mewn aelwydydd lleiafrifoedd ethnig. 

Mae carreg filltir genedlaethol i ddileu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050. Yn gyffredinol, mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi bod yn lleihau dros y ddau ddegawd diwethaf, a gostyngodd i 1.9% yn 2024. Mae'r bwlch cyflog o ran ethnigrwydd ac anabledd yn gyfnewidiol iawn, sy'n golygu na allwn benderfynu a fu newid sylweddol ers 2015.

Mae’r bwlch rhwng y gyfradd cyflogaeth ar gyfer gwahanol grwpiau wedi lleihau’n gyffredinol dros y degawd diwethaf. Rhwng blynyddoedd ariannol 2014 i 2015 a 2024 i 2025, mae’r bwlch rhwng cyfradd cyflogaeth unigolion anabl a’r rhai nad ydynt yn anabl wedi gostwng 4.9 pwynt canran ac mae’r bwlch rhwng unigolion Gwyn ac unigolion o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wedi gostwng 5.0 pwynt canran. 

Mae tlodi wedi bod yn sefydlog dros y degawd diwethaf gydag oddeutu 1 o bob 5 o bobl yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Plant yw’r grŵp oedran sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi o hyd. Mae aelwydydd sydd â pherson anabl neu bennaeth aelwyd Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol hefyd yn fwy tebygol o fod mewn tlodi.

Mae llesiant meddyliol hunangofnodedig wedi gostwng o 50.9 yn y flwyddyn ariannol 2016 i 2017 i 48.4 yn 2024 i 2025. Yn gyffredinol, mae llesiant meddyliol pobl hŷn, pobl sydd ddim yn anabl a phobl o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn uwch. 

Rhwng blynyddoedd ariannol 2016 i 2017 a 2024 i 2025, mae canran y dynion a menywod a ddywedodd eu bod yn teimlo’n ddiogel gartref, wrth gerdded yn yr ardal leol a theithio wedi aros yr un fath fwy neu lai, sef ychydig dros 80% i ddynion a tua 55% i fenywod.

Rhyw

Mae’r dangosyddion yn dangos gwahaniaethau mewn addysg, cyflogaeth, amddifadedd a llesiant ar draws dynion a menywod. 

Mae’r bennod hon yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau data ar ryw. Bydd gan bob ffynhonnell ddata ddull o gasglu data am ryw neu rywedd sy’n cyd-fynd ag anghenion ei defnyddwyr, sy’n golygu na fydd llawer o gysondeb rhwng y diffiniadau o ryw a rhywedd ar draws y ffynonellau. Mae’r adran ddiweddarach ar hunaniaeth rhywedd yn cynnwys data am y rheini y mae eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i’r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni.

Mae merched yn parhau i gael deilliannau addysgol gwell ar lefel TGAU. Yn y flwyddyn academaidd 2023 i 2024 sgoriodd merched 363.6 a sgoriodd bechgyn 341.4 pwynt ar gyfartaledd yn y dangosydd Capio 9 TGAU (fersiwn mesur dros dro). Mae hyn yn golygu bod merched yn sgorio 22.2 pwynt yn fwy na bechgyn. Lleihaodd hyn y bwlch o 32.9 pwynt yn 2018 i 2019, a 24.0 pwynt yn 2022 i 2023.

O ran y boblogaeth oedran gweithio, nid oedd gwahaniaeth sylweddol yng nghyfran y dynion a'r menywod oedd heb unrhyw gymwysterau yn 2024. Ond, roedd menywod yn fwy tebygol o feddu ar gymwysterau lefel 4 neu uwch. 

Mae cyfraddau cyflogaeth ar gyfer pobl 16-64 yng Nghymru yn is ar gyfer menywod nag ar gyfer dynion (70.5% a 76.2% yn y drefn honno yn y flwyddyn ariannol 2024 i 2025). Mae hyn yn berthnasol i’r cyfraddau anweithgarwch economaidd uwch (heb gynnwys myfyrwyr) ar gyfer menywod (23.3%) na dynion (16.5%) dros y cyfnod hwn. Mae’r gwahaniaeth hwn yn cael ei sbarduno, i ryw raddau, gan gyfrifoldebau gofalu (edrych ar ôl teulu/cartref) sy’n cynrychioli cyfran uwch o fenywod a oedd yn economaidd anweithgar na dynion.

Ffigur 4.1: cyfradd cyflogaeth (canran y boblogaeth 16 i 64 oed) yn ôl rhyw a blwyddyn ariannol, 2005-06 i 2024-25 (cyfraddau am y flwyddyn yn dod i ben ym mis Mawrth)

Image

Disgrifiad o ffigur 4.1: siart linell yn dangos cyfraddau cyflogaeth ar gyfer pobl rhwng 16 a 64 oed yn ôl rhyw rhwng blynyddoedd ariannol 2005 i 2006 a 2024 i 2025. Lleihaodd y bwlch yn y gyfradd gyflogaeth yn 2024 i 2025 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, wrth i’r gyfradd cyflogaeth ar gyfer dynion leihau i 76.2%, tra bod y gyfradd gyflogaeth ar gyfer menywod wedi cynyddu ychydig i 70.5%.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ar sail enillion canolrifol amser llawn yr awr (heb gynnwys goramser), yn 1.9% yn 2024, gostyngiad o 3.0 pwynt canran o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, ar gyfer gweithwyr rhan-amser yng Nghymru, roedd menywod yn cael 3.5% yn fwy na dynion ar gyfartaledd (gostyngiad o 0.3 pwynt canran o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol). 

Wrth ystyried gweithwyr llawnamser a rhan-amser, mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn dal yn sylweddol uwch ar 8.9% yn 2024. Mae hyn yn uwch nag ar gyfer gweithwyr llawnamser a gweithwyr rhan-amser, oherwydd mae menywod yn llenwi mwy o swyddi rhan-amser, sydd, o’u cymharu â swyddi llawnamser, â thâl canolrifol is yr awr. Cymru oedd â'r ail fwlch cyflog lleiaf (gweithwyr amser llawn) rhwng y rhywiau o blith 12 gwlad a rhanbarth y DU.

Yn y flwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd canran debyg o fenywod a dynion yn cael eu hystyried yn rhai sydd mewn amddifadedd materol. Mewn blynyddoedd arolwg blaenorol, roedd menywod yn gyson yn fwy tebygol o gael eu hystyried mewn amddifadedd materol. Roedd sampl Arolwg Cenedlaethol Cymru yn llai yn 2024i 2025 nag mewn blynyddoedd blaenorol ac roedd yn cynnwys llai o bobl o ardaloedd incwm isel. Gallai hyn fod wedi effeithio ar yr amcangyfrifon ar gyfer amddifadedd materol. 

Yn y flwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd llesiant meddyliol yr oedd pobl yn ei gofnodi (fel sy’n cael ei fesur gan Raddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer oedolion) fymryn yn uwch i ddynion na menywod, gyda dynion yn cael sgôr gymedrig o 49.0 a menywod yn cael sgôr gymedrig o 47.8. Roedd lefelau unigrwydd yr oedd dynion a menywod yn eu cofnodi yn debyg yn y data diweddaraf sydd ar gael (2022 i 2023). 

Yn y flwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd menywod yn llai tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n ddiogel gartref, yn eu hardal leol ac wrth deithio (56%) o’i gymharu â dynion (82%).

Oedran

Mae’r dangosyddion yn dangos gwahaniaethau mewn llesiant ac amddifadedd ar draws gwahanol grwpiau oedran. 

Mae llesiant y mae pobl yn ei gofnodi yn tueddu i fod yn uwch mewn grwpiau oedran hŷn, gydag unigrwydd hefyd yn is mewn oedolion hŷn. Yn y flwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd llesiant meddyliol yr oedd pobl yn ei gofnodi (fel sy’n cael ei fesur gan Raddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer oedolion) yn 47.5 ar gyfer y rhai 16 i 44 oed o'i gymharu â 49.7 ar gyfer y rhai 65 oed a hŷn. 

Plant yw’r grŵp poblogaeth sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol. Roedd y ffigurau diweddaraf yn dangos bod 31% o blant Cymru mewn tlodi cymharol o’i gymharu ag 15% o bensiynwyr. Ers dechrau’r 2000au, mae cyfran uwch o’r boblogaeth o oedran gweithio wedi bod mewn tlodi incwm cymharol na phensiynwyr.

Wrth edrych ar gyfran y boblogaeth oedolion sy’n byw mewn amddifadedd materol yn 2024 i 2025, mae darlun tebyg gyda’r rheini 25 i 44 oed yn fwyaf tebygol o fyw mewn amddifadedd materol (16%) a’r rheini sy’n 65 i 74 yn lleiaf tebygol (5%).

Ffigur 4.2: Amddifadedd Materol yn ôl grŵp oedran a blwyddyn ariannol, 2016-17 i 2024-25 (y flwyddyn sy’n dod i ben ym mis Mawrth)

Image

[Nodyn 1] Nid oes gan y blynyddoedd 2020 i 2021 a 2023 i 2024 ddata.

Disgrifiad o ffigur 4.2: siart linell yn dangos canran y gwahanol grwpiau oedran mewn amddifadedd materol rhwng blynyddoedd ariannol 2016 i 2017 a 2024 i 2025. Mae amddifadedd materol wedi bod ar ei uchaf ar gyfer y grŵp oedran 25 i 44 ac ar ei isaf ar gyfer y grwpiau oedran 65 i 74 a 75 oed a hŷn dros y cyfnod hwn. Oherwydd ansicrwydd yn yr amcangyfrifon, nid yw’r newidiadau o fewn grwpiau oedran yn arwyddocaol ar y cyfan, yn wahanol i’r gwahaniaethau rhwng grwpiau oedran.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Ethnigrwydd

Ym mis Mehefin 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ARWAP) sy’n cynnwys canllawiau ar iaith wrth-hiliol. Mae’r adran a’r bennod hon yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau data sy’n categoreiddio grwpiau ethnig yn wahanol. Yn gyffredinol, rydym yn adlewyrchu iaith casgliad data’r ffynhonnell nad yw o bosibl yn cyd-fynd â chanllawiau ARWAP. Fodd bynnag, rydym wedi defnyddio iaith wrth-hiliol yn y bennod hon lle bo hynny’n bosibl.

Mae’r dangosyddion yn dangos gwahaniaethau mewn addysg, cyflogaeth, amddifadedd a llesiant ar draws dynion a menywod. 

Mae canlyniadau TGAU ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023 i 2024 yn dangos bod disgyblion Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol wedi sgorio 380.6 ar gyfartaledd yn y dangosydd Capio 9 TGAU (fersiwn mesur dros dro) o'i gymharu â 360.7 ar gyfer disgyblion Gwyn. Mae hyn yn fwlch o 19.9 pwynt i lawr o 22.7 pwynt yn 2022 i 2023, er ei fod wedi cynyddu o'r bwlch o 17.0 pwynt yn 2018 i 2019. Ar gyfartaledd, roedd disgyblion o’r rhan fwyaf o grwpiau ethnig oedd ddim yn Wyn Prydeinig wedi cael sgôr dangosydd Capio 9 TGAU uwch (fersiwn mesur dros dro) na’r holl ddisgyblion yn 2023 i 2024, ar wahân i ddisgyblion Caribïaidd, Gwyn a Charibïaidd, Sipsiwn, Teithwyr a Roma.

Ffigur 4.3: dangosydd capio 9 TGAU (fersiwn mesur dros dro) yn ôl grŵp ethnig, blwyddyn academaidd 2023 i 2024

Image

Disgrifiad o ffigur 4.3: siart far sy’n dangos y dangosydd capio 9 TGAU (fersiwn mesur dros dro) yn ôl grŵp ethnig ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024. Y rheini sy’n ystyried eu hunain yn Sipsiwn, Teithwyr a Roma yw’r unig grwpiau ethnig o dan 275, ac mae grwpiau ethnig eraill yn amrywio o 330 i 465. 

Ffynhonnell: Canlyniadau Arholiadau, Llywodraeth Cymru

Roedd oedolion o oedran gweithio o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (ac eithrio’r rheini o gefndir Sipsiwn, Teithwyr neu Roma) yn fwy tebygol o feddu ar gymwysterau ar lefelau 3 ac uwch na’r oedolion Gwyn (gan gynnwys y rheini o gefndir Sipsiwn, Teithwyr Gwyddelig neu Roma) o oedran gweithio yn 2024.

Mae’r cyfraddau cyflogaeth yn y flwyddyn ariannol 2024 i 2025 ymysg poblogaeth Cymru rhwng 16 a 64 oed yn uwch ymysg unigolion o gefndir ethnig Gwyn (74.0%), nag unigolion o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (63.8%).

Ffigur 4.4: cyfradd cyflogaeth (canran y boblogaeth 16 i 64 oed) yn ôl ethnigrwydd a blwyddyn ariannol, rhwng 2011 i 2012 a 2024 i 2025 (cyfraddau am y flwyddyn yn dod i ben ym mis Mawrth)

Image

Disgrifiad o ffigur 4.4: siart linell yn dangos cyfraddau cyflogaeth ar gyfer pobl rhwng 16 a 64 oed yn ôl ethnigrwydd rhwng 2011 i 2012 a 2024 i 2025. Gostyngodd y bwlch yn y gyfradd cyflogaeth yn gyffredinol hyd at 2022 i 2023. Er, yn 2024 i 2025 ehangodd y bwlch i 10.2 pwynt canran o 1.7 pwynt canran yn 2022 i 2023. Mae’r rhai o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn parhau i fod â chyfradd cyflogaeth is nag unigolion gwyn. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Roedd gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn ennill £0.54 (3.6%) yn llai yr awr ar gyfartaledd na gweithwyr Gwyn yn 2024. Mae hyn yn cymharu â gwahaniaeth cyflog ar sail ethnigrwydd o £1.93 (neu 13.8%) yn 2023. Fodd bynnag, mae anwadalrwydd uchel yn y data gwahaniaeth cyflog ar sail ethnigrwydd sy'n golygu nad yw'n bosibl penderfynu a fu newid sylweddol ers 2015. 

Mae bod yn rhan o grwpiau Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol yn gysylltiedig â bod yn fwy tebygol o ddioddef tlodi incwm cymharol. Ar gyfer y cyfnod o flwyddyn ariannol 2019 i 2020 i 2023 i 2024, roedd 50% o debygolrwydd y byddai pobl lle mae’r penteulu yn ystyried ei hun yn Ddu, Asiaidd neu’n rhan o grŵp Ethnig Leiafrifol yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae hyn yn cymharu â thebygolrwydd o 21% ar gyfer aelwydydd lle mae’r penteulu yn ystyried ei hun yn Wyn.

Roedd mwy o bobl sy’n nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd neu’n rhan o grŵp Ethnig Leiafrifol yn dweud eu bod yn unig yn 2022 i 2023, sef 24% o’i gymharu â 12% ar gyfer y rheini sy’n nodi eu bod yn Wyn. Fodd bynnag, roedd llesiant meddyliol yr oedd pobl yn ei gofnodi (fel sy’n cael ei fesur gan Raddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer oedolion) yn uwch yn 2024 i 2025 ar gyfer y rhai a nododd eu bod yn Ddu, Asiaidd, neu'n rhan o grŵp Ethnig Leiafrifol (50.9) neu Gwyn (Gwyddelig, Sipsi, Teithiwr Gwyddelig neu unrhyw gefndir gwyn arall) (51.5) na Gwyn (Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon) (48.1).

Crefydd

Mae’r dangosyddion yn dangos gwahaniaethau mewn addysg, cyflogaeth, llesiant a theimlad o ddiogelwch ar draws grwpiau crefyddol. 

Yng Nghyfrifiad 2021, pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn Fwslimiaid, yn Sikhiaid neu'n Gristnogion oedd â'r lefel uchaf o unigolion heb unrhyw gymwysterau. Y rheini a oedd yn ystyried eu hunain yn Hindŵiaid neu'n grefydd 'arall' oedd â'r lefel isaf o unigolion heb unrhyw gymwysterau. 

Yng Nghyfrifiad 2021, pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn Hindŵiaid neu nad oedd ganddynt grefydd oedd y mwyaf tebygol o fod mewn gwaith. Y rhai a oedd yn ystyried eu hunain yn Iddewon, Mwslemiaid neu Gristnogion oedd y lleiaf tebygol o fod mewn gwaith. 

Roedd y rhai a nododd eu bod yn Gristnogion neu heb grefydd yn cofnodi lefelau tebyg o unigrwydd yn y flwyddyn ariannol 2022 i 2023, sef 10% a 13% yn y drefn honno. Roedd hyn yn cymharu â 29% ar gyfer y rheini a oedd yn nodi ymlyniad crefyddol arall. Fodd bynnag, yn 2024 i 2025, roedd llesiant meddyliol yr oedd pobl yn ei gofnodi (fel sy’n cael ei fesur gan Raddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer oedolion) yn uwch ar gyfer Cristnogion (49.3) a’r rheini oedd ag ymlyniad crefyddol arall (50.8) na’r rheini oedd heb grefydd (47.4).

Yn 2024 i 2025, roedd y rheini heb grefydd yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n ddiogel gartref, yn eu hardal leol ac wrth deithio (70%) o’i gymharu â Christnogion (66%).

Cyfeiriadedd rhywiol

Mae’r data sydd ar gael yn dangos gwahaniaethau mewn addysg, cyflogaeth, amddifadedd, llesiant a theimlad o ddiogelwch rhwng cyfeiriadedd rhywiol. 

Yng Nghyfrifiad 2021, dywedodd 8.4% o bobl LHD+ nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau ffurfiol, o’i gymharu â 19.5% o bobl a nododd eu bod yn Strêt/Heterorywiol. Roedd canran y bobl heb gymwysterau yn is ar gyfer pobl LHD+ ar draws pob grŵp oedran. 

Yng Nghyfrifiad 2021, pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Hoyw neu Lesbiaidd”, a phobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt” oedd y mwyaf tebygol o fod mewn gwaith (69.9% a 69.8% yn y drefn honno). Roedd pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Ddeurywiol/Bi” a phobl a oedd yn ystyried bod ganddynt gyfeiriadedd rhywiol arall yn llai tebygol (52.5% a 49.9% yn y drefn honno).

Ar gyfer y cyfnod blwyddyn ariannol 2021 i 2022 i flwyddyn ariannol 2023 i 2024, roedd 22% o bobl mewn aelwydydd lle roedd pennaeth yr aelwyd yn ystyried ei hun yn Strêt/Heterorywiol mewn tlodi incwm cymharol o'i gymharu â 29% o bobl mewn aelwydydd lle roedd pennaeth yr aelwyd yn ystyried ei hun yn lesbiaidd, yn hoyw neu'n ddeurywiol. 

Roedd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022 i 2023 yn dangos bod pobl sy’n ystyried eu hunain yn lesbiaidd, yn hoyw neu’n ddeurywiol tua dwywaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n unig nag eraill.

Roedd y rheini a nododd eu bod yn Heterorywiol/Strêt yn arolwg cenedlaethol 2024 i 2025 yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo'n ddiogel gartref, yn eu hardal leol ac wrth deithio (69%) o'i gymharu â'r rheini a nododd eu bod yn Lesbiaidd, Hoyw neu Ddeurywiol (52%).

Hunaniaeth rhywedd

Gofynnwyd cwestiwn gwirfoddol am hunaniaeth rhywedd am y tro cyntaf yng Nghyfrifiad 2021. Gofynnwyd i ymatebwyr 16 oed a hŷn “A yw’r rhywedd rydych chi’n uniaethu ag ef yr un fath â’r rhyw a gofrestrwyd ar adeg eich geni?” ac roedd ganddynt yr opsiwn o ddewis naill ai “Ydy” neu ddewis “Nac ydy” a nodi eu hunaniaeth rhywedd. Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r canlyniadau hyn oherwydd yr ansicrwydd sy'n gysylltiedig ag amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 o hunaniaeth rhywedd. Dylai defnyddwyr gyfeirio at y cyngor penodol yn yr erthygl ystadegol (SYG) a gyhoeddwyd gan SYG am arweiniad ar hyder mewn newidynnau gwahanol wedi'u dadansoddi yn ôl hunaniaeth rhywedd. 

Canfu Cyfrifiad 2021 hefyd fod 41.2% o bobl 16 oed a hŷn yr oedd eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i’r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni, yn dweud eu bod mewn gwaith, o’i gymharu â 54.5% o bobl yr oedd eu hunaniaeth rhywedd yr un fath â’u rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni.

Mae arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn casglu data ar lesiant meddyliol ar gyfer pobl ifanc 11 i 16 oed. Yn y flwyddyn academaidd 2023 i 2024, nododd y rhai a ddewisodd 'nid yw'r naill air na'r llall yn fy nisgrifio' ar gyfer eu rhywedd lesiant meddyliol is a lefelau uwch o unigrwydd na'r rhai a ddewisodd y rhywedd 'bachgen' neu 'merch'.

Anabledd

Yn 2002, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y model cymdeithasol o anabledd. Yn hytrach na diffinio pobl fel pobl anabl yn ôl eu hamhariad (hynny yw, y model meddygol o anabledd), ystyrir bod pobl sydd ag amhariadau neu gyflyrau iechyd hirdymor yn anabl oherwydd rhwystrau corfforol, agweddol a sefydliadol sy’n cael eu creu gan gymdeithas. Mae llawer o’r ffynonellau data yn y bennod hon yn defnyddio diffiniadau model meddygol o anabledd yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010. Yn y Ddeddf Cydraddoldeb mae “anabledd” yn golygu cyflwr corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar eich gallu i wneud gweithgareddau cyffredin o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, rydym wedi defnyddio iaith y model cymdeithasol yn yr adran a'r bennod hon lle bo hynny’n bosibl. 

Mae’r dangosyddion yn dangos gwahaniaethau mewn addysg, cyflogaeth, amddifadedd, llesiant a theimladau o ddiogelwch rhwng unigolion anabl ac unigolion nad ydynt yn anabl. 

Mae deilliannau addysgol disgyblion ag anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol ar y cyfan yn debyg i’r patrwm a welir ym mhob disgybl. Yn y flwyddyn academaidd 2023 i 2024 sgoriodd disgyblion ag anghenion addysgol arbennig 263.9 ar gyfartaledd yn y dangosydd Capio 9 TGAU (fersiwn mesur dros dro).

O’r boblogaeth oed gweithio yn 2024, roedd pobl anabl (14.6%) yn fwy tebygol o fod heb unrhyw gymwysterau na phobl nad ydynt yn anabl (5.2%) ac yn llai tebygol o fod â chymwysterau ar lefel 3 neu uwch. O’i gymharu â 2023, cynyddodd cyfran yr oedolion anabl o oedran gweithio heb gymwysterau 0.7 pwynt canran.

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025, y gyfradd cyflogaeth ymysg pobl anabl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru oedd 52.7%, a'r gyfradd ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl oedd 81.9%. Mae’r bwlch yn y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl anabl yn 2024 i 2025, sef 29.2 pwynt canran, wedi gostwng o 35.4 pwynt canran yn 2015 i 2016.

Ffigur 4.5: cyfraddau cyflogaeth (canran y boblogaeth 16 i 64 oed) pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn ôl blwyddyn ariannol, 2013-14 i 2024-25 (cyfraddau am y flwyddyn yn dod i ben ym mis Mawrth)

Image

Disgrifiad o ffigur 4.5: siart linell yn dangos cyfraddau cyflogaeth ar gyfer unigolion anabl a phobl nad ydynt yn anabl rhwng 16 a 64 oed rhwng blynyddoedd ariannol 2013 i 2014 a 2024 i 2025. Mae’r bwlch cyfradd cyflogaeth wedi gostwng yn gyffredinol dros amser, er bod gan bobl anabl gyfradd cyflogaeth sy’n dal i fod 29.2 pwynt canran yn is na phobl nad ydynt yn anabl yn 2024 i 2025. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Roedd y gwahaniaeth cyflog rhwng pobl anabl a phobl heb anabledd yng Nghymru yn £1.18 (7.8%) yn 2024. Mae hyn yn golygu bod pobl anabl yng Nghymru yn ennill £1.18 yn llai yr awr ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl. Mae hyn yn ostyngiad ar y flwyddyn flaenorol pan oedd y bwlch cyflog yn £1.75 (12.2%). Fodd bynnag, mae anwadalrwydd uchel yn y data gwahaniaeth cyflog ar sail anabledd sy'n golygu nad yw'n bosibl penderfynu a fu newid sylweddol ers 2015.

Yn y cyfnod diweddaraf (blwyddyn ariannol 2021 i 2022 i 2023 i 2024), ar gyfer oedolion o oedran gweithio, roedd 27% o unigolion a oedd yn byw mewn teulu lle’r oedd rhywun yn anabl mewn tlodi incwm cymharol o’i gymharu â 18% mewn teuluoedd lle nad oedd neb yn anabl. Dros yr un cyfnod, roedd 35% o blant a oedd yn byw mewn teulu lle’r oedd rhywun yn anabl mewn tlodi incwm cymharol o’i gymharu â 28% mewn teuluoedd lle nad oedd neb yn anabl.

Ffigur 4.6: canran yr oedolion o oedran gweithio mewn tlodi incwm cymharol mewn aelwydydd â phobl anabl a phobl sydd ddim yn anabl yn ôl blynyddoedd ariannol wedi cyfuno, 2015-17 i 2022-24 (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth) [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 4.6: siart linell yn dangos canran yr oedolion o oedran gweithio mewn tlodi incwm cymharol mewn aelwydydd â phobl anabl a phobl sydd ddim yn anabl. Mae'r gwahaniaeth rhwng aelwydydd sydd â phobl anabl a phobl sydd ddim yn anabl wedi bod yn gostwng yn gyffredinol dros amser. Yn 2015 i 2017, roedd canran yr aelwydydd â pherson anabl mewn tlodi incwm cymharol 12 pwynt canran yn uwch nag aelwydydd heb berson anabl, erbyn 2022 i 2024 roedd y gwahaniaeth yn 9 pwynt canran. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o set ddata Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog

[Nodyn 1] Nid yw’r amcangyfrifon ar gyfer cyfnodau sy’n cwmpasu 2020 i 2021 yn cynnwys y data a gasglwyd yn ystod 2020 i 2021 yn y cyfrifiadau. Mae amcangyfrifon 2020 i 2021 yn annibynadwy gan eu bod yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod blwyddyn gyntaf pandemig y coronafeirws (COVID-19), pan effeithiodd rheolau’r cyfyngiadau symud yn ddifrifol ar brosesau casglu data.

Yn y flwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd 1 o bob 7 o bobl anabl neu bobl â salwch cyfyngol hirdymor (14%) yn byw mewn cartref mewn amddifadedd materol o’i gymharu â 10% o bobl nad oeddent yn anabl. Mewn blynyddoedd arolwg blaenorol, roedd tua 1 o bob 4 neu 5 o bobl anabl neu bobl â salwch hirdymor cyfyngus yn byw mewn aelwyd mewn amddifadedd materol. Roedd sampl Arolwg Cenedlaethol Cymru yn llai yn 2024 i 2025 nag mewn blynyddoedd blaenorol ac roedd yn cynnwys llai o bobl o ardaloedd incwm isel. Gallai hyn fod wedi effeithio ar yr amcangyfrifon ar gyfer amddifadedd materol.

Yn 2024 i 2025, roedd llesiant meddyliol oedolion anabl neu'r rheini â salwch hirdymor cyfyngus yn is (43.6) o'i gymharu ag unigolion sydd ddim yn anabl (50.8) ac yn 2022 i 2023 roedd unigolion anabl yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo'n unig. 

Yn 2024 i 2025 roedd oedolion anabl yn llai tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n ddiogel gartref, yn eu hardal leol ac wrth deithio (60%) o’i gymharu â phobl nad ydynt yn anabl (73%).

Statws priodasol

Yn y flwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd gan bobl briod well llesiant meddyliol na’r rheini a oedd yn sengl. Roedd gan bobl briod sgôr llesiant meddyliol cyfartalog o 49.7, o’i gymharu â 47.1 ar gyfer pobl sengl. 

Yn 2022 i 2023, y rhai a oedd yn briod oedd y lleiaf tebygol o ddweud eu bod yn unig (8%), a’r rhai a oedd wedi gwahanu ond yn briod yn gyfreithiol oedd y mwyaf tebygol (21%). Roedd y rheini a oedd yn sengl, wedi ysgaru, neu’n weddw hefyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig na’r rheini a oedd yn briod (17%, 17% a 14% yn y drefn honno).

Darllen pellach