Adroddiad blynyddol Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac Adroddiad Gweinidogion Cymru 2025
Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud rhwng mis Ionawr 2024 a mis Mawrth 2025 i gefnogi cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair gan y Gweinidog
Rwy’n falch i gyflwyno Adroddiadau Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb a Hawliau Dynol ac Adroddiad Gweinidogion Cymru 2025, sy’n rhoi sylw i’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i hyrwyddo a chryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol, a’r cynnydd o ran cyflawni gofynion Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru.
Fel llywodraeth, mae cyfiawnder cymdeithasol wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud. Mae hyrwyddo hawliau dynol a chydraddoldeb yn ganolog i gyfiawnder cymdeithasol, ac rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a gwahaniaethu o bob math.
Wrth gwrs, mae llawer o waith i’w wneud o hyd yn ein taith i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Mae ein deddfwriaeth, ein Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol a'n holl gynlluniau cydraddoldeb yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer hyn.
Rwy'n cynnal fy ymrwymiad i Gymru sy'n poeni'n fawr am anghenion ei holl ddinasyddion a'i chymunedau yn eu holl amrywiaeth, Cymru sydd wedi'i gwreiddio mewn tegwch a hawliau dynol.
Jane Hutt AS
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
Pennod 1: cyflwyniad
Mae’r adroddiad hwn, sy’n rhoi sylw i'r cyfnod rhwng 1 Ionawr 2024 a 31 Mawrth 2025, yn egluro sut mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio i gyflawni ei hamcanion cydraddoldeb yn ystod y cyfnod hwn.
Mae’n rhaid i’n polisïau a’n penderfyniadau gael eu llywio gan y bobl hynny sy’n cael eu heffeithio’n fwyaf uniongyrchol ganddynt. Mae cydweithio ag arbenigwyr, grwpiau cydraddoldeb, unigolion a chymunedau sydd â phrofiad bywyd yn ein helpu i ddeall beth yw’r ffordd orau o gefnogi pob person a chymuned yng Nghymru gan gynnwys y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig. Mae hynny'n un o ofynion sylfaenol Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru.
Drwy gydol y cyfnod dan sylw yn yr adroddiad hwn, bu Gweinidogion Cymru yn ymgysylltu’n rheolaidd mewn llawer o ddigwyddiadau a chyfarfodydd gyda grwpiau sy’n gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol, er mwyn deall eu blaenoriaethau a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu bob dydd.
Mae gan Lywodraeth Cymru lawer o fforymau sydd wedi’u sefydlu ers tro, lle rydym yn cydweithio’n rheolaidd ag eiriolwyr a grwpiau cynrychioliadol i drafod atebion cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Grŵp Rhanddeiliaid Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
- Y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl a’r Tasglu Hawliau Anabledd
- Y Fforwm Cymunedau Ffydd
- Fforwm Hil Cymru
- Grŵp Cynghori ar Effaith y Gyllideb (BIIAG)
- Y Grŵp Llywio Cryfhau Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Bellach mae’r Grŵp hwn wedi esblygu i fod yn Grŵp Cynghori Hawliau Dynol; bydd mwy o wybodaeth am hyn yn nes ymlaen yn yr adroddiad)
- Y Fforwm Cydraddoldeb Rhywedd
- Bord Gron Urddas Mislif
- Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol
- Bwrdd Trosolwg Cenedl Noddfa
- Y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Mae'r fforymau hyn naill ai'n cael eu cadeirio gan Weinidogion Cymru neu uwch swyddog yn Llywodraeth Cymru a/neu'n cael eu cyd-gadeirio â chynrychiolwyr o'r gymuned fuddiant berthnasol. Mae rhai ohonynt yn unigryw yn y DU o ran y ffordd maen nhw’n rhoi cyfle i randdeiliaid cydraddoldeb ymgysylltu’n uniongyrchol ac yn rheolaidd â’r lefelau uchaf mewn llywodraeth ynghylch y materion sy’n eu poeni.
Mae’r adroddiad hwn hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill yn y Sector Cyhoeddus wedi cyflawni gofynion Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Mae’r adran hon wedi’i chynnwys ym Mhennod 2 yr adroddiad hwn.
Mae’n amlinellu’r ffordd rydym wedi defnyddio ein cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb i gynnwys cydraddoldeb yn ein gwaith o ddatblygu polisïau a gwneud penderfyniadau. Rydym yn croesawu’r her o ystyried yn ofalus sut mae ein gwaith yn effeithio ar grwpiau gwahanol o bobl, ac yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion amrywiol pob dinesydd sy’n byw yng Nghymru. Yn ogystal â lleihau’r risg y bydd ein penderfyniadau’n arwain at effeithiau negyddol, mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn ein hysgogi i ystyried sut gallwn ni gyfrannu’n gadarnhaol at y gwaith o hybu cydraddoldeb i bawb.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio i wella data ac ystadegau cydraddoldeb er mwyn iddynt fod yn sail i'r broses o ddatblygu polisïau yn y dyfodol.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yw'r rheoleiddiwr ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol a sicrhau y cedwir at ofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 a deddfwriaeth hawliau dynol yng Nghymru a Lloegr.
Mae Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb a Hawliau Dynol 2025 yn ystyried Nodau ac Amcanion Tymor Hir Cynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru 2020 i 2024. Yn 2024 a 2025, rydym wedi datblygu dull symlach o ymdrin â'n Nod Hirdymor a’n Hamcanion Cydraddoldeb sydd wedi cael eu cyhoeddi drwy ein Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol 2025 i 2029, gydag un Nod Hirdymor a 7 Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol. Bydd Adroddiad Blynyddol y flwyddyn nesaf ar Gydraddoldeb a Hawliau Dynol (2026) yn adlewyrchu'r dull symlach hwn. Trafodir hyn ymhellach yn Adran 5 o’r Adroddiad hwn: Edrych Tua’r Dyfodol.
Pennod 2: cyflawni ein dyletswyddau cydraddoldeb, dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus
Mae’r adroddiad hwn yn cyflawni ein dyletswyddau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac mae’n nodi’r hyn rydym wedi’i wneud i ymgorffori gofynion adrodd statudol deddfwriaeth cydraddoldeb yn ein polisïau a’n harferion, yn enwedig Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) a Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru.
Cefndir cyfreithiol
Mae Adran 77 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb. Mae Adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn mynnu bod cyrff cyhoeddus, wrth arfer eu swyddogaethau, yn rhoi sylw dyledus i'r angen i wneud y canlynol:
- Dileu achosion o wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon.
- Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheini nad ydynt yn ei rhannu.
- Meithrin perthynas dda rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a’r rheini sydd hebddynt.
Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yw’r enw ar hyn, neu’r ‘ddyletswydd gyffredinol’. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddyletswyddau cydraddoldeb ychwanegol sy'n benodol i Gymru o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Mae'r dyletswyddau hyn yn berthnasol i sefydliadau sydd wedi’u rhestru yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac maent yn cynnwys cyfrifoldebau ar ymgysylltu, asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb, gwahaniaethau cyflog, caffael, gwybodaeth am gydraddoldeb a chyflogaeth, a threfniadau adrodd. Cyhoeddir yr adroddiad hwn yn ôl rheoliad 16 o Reoliadau 2011 er mwyn dangos cydymffurfiad â’r ddyletswydd gyffredinol.
Y Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026
Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ymrwymiadau'r llywodraeth hon. Roedd y cyfrifoldeb dros yr ymrwymiadau sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at ein hamcanion llesiant yn nwylo’r Prif Weinidog a’r Cabinet llawn gan fod y rhain yn galw am y lefel uchaf o gydlynu ac integreiddio ar draws y llywodraeth gyfan.
Gweinidogion sydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb uniongyrchol dros yr ymrwymiadau sy’n weddill.
Yn y meysydd hynny sy’n dod o dan y Cytundeb Cydweithio, bu Gweinidogion Cymru yn gweithio gyda Phlaid Cymru dan delerau’r Cytundeb. Sylwer: Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â'r cyfnod cyn diddymu'r Cytundeb Cydweithio.
Ar ben hynny, rydym wedi cyhoeddi amcanion llesiant sy’n egluro sut byddwn ni’n defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i helpu i gyflawni ein Rhaglen Lywodraethu, ac i gyfrannu cymaint â phosibl at y saith nod llesiant cyffredin cenedlaethol.
Mae ein Rhaglen Lywodraethu a’n hamcanion llesiant yn ategu ac yn cefnogi ein hamcanion cydraddoldeb. Maen nhw’n cryfhau’r broses o weithredu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru drwy wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru mewn ffordd gynaliadwy.
Er bod y rhaglen wedi’i chynllunio i wella ffyniant a bywydau holl ddinasyddion Cymru, rydym wedi gwneud nifer o ymrwymiadau penodol sy’n ymwneud â dathlu amrywiaeth a chymryd camau i ddileu anghydraddoldeb ledled Cymru. Mae’r rheolau wedi’u hamlinellu isod.
Byddwn yn:
- Gweithredu ac ariannu’r ymrwymiadau a wnaed yn ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil (cyfeirir ato bellach fel y “Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol”).
- Edrych ar ddeddfwriaeth i fynd i’r afael â bylchau cyflog ar sail rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd, anabledd, a ffurfiau eraill ar wahaniaethu.
- Sicrhau bod cyrff cyhoeddus a’r rhai sy’n cael arian cyhoeddus yn mynd i’r afael â gwahaniaethau cyflog.
- Treialu dull o ymdrin â’r Incwm Sylfaenol.
- Sicrhau bod hanes a diwylliant ein cymunedau Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu cynrychioli’n briodol drwy fuddsoddi ymhellach yn ein sector diwylliannol a’n rhwydwaith amgueddfeydd.
- Sicrhau bod ein system trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru’n fwy hygyrch i bobl anabl.
- Parhau â’n partneriaeth gref â mudiadau gwirfoddol ar draws ein holl gyfrifoldebau.
- Rhoi targedau ar waith ynghylch Cyllidebu ar sail Rhyw.
- Cryfhau’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd ac yn y gweithle yn ogystal â’r cartref.
- Sefydlu unedau tystiolaeth gwell i gasglu data ar gydraddoldeb, hil ac anabledd:
- Ac ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UNCRPD) a’r Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW) yng nghyfraith Cymru.
Mae adroddiad ar gynnydd yn erbyn pob un o’r ymrwymiadau a nodir yn ein Rhaglen Lywodraethu wedi cael ei gyhoeddi yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2022 (mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio’n benodol ar weithredoedd cydraddoldeb a hawliau dynol)
Y Darlun Ehangach
Mae nifer o gyfreithiau eraill Cymru a’r DU, ynghyd â chytuniadau rhyngwladol, yn cefnogi cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Mae'r cyfreithiau hyn yn ymdrin ag agweddau fel cyflogaeth, addysg, iechyd, cyfiawnder a grwpiau penodol fel y rheini sy'n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol, pobl anabl a phlant. Mae deddfwriaeth nodedig yn cynnwys Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn ymgorffori’r hawliau a nodir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR) yng nghyfraith ddomestig Prydain. Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, gan Gyngor Ewrop, yn seiliedig ar y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol. Mae'r DU yn parhau i fod yn llofnodwr i'r ddau ohonynt.
Rhaid i Lywodraeth Cymru alinio â rhwymedigaethau rhyngwladol o dan Adran 82 Deddf Llywodraeth Cymru 2006, gan gynnwys saith Confensiwn y Cenhedloedd Unedig a gadarnhawyd gan y DU. Maent yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru'n bodloni rhwymedigaethau'r Cenhedloedd Unedig ac Ewrop.
Pennod 3: cryfhau a gwella cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, amcanion a chamau Gweithredu Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o Amcanion Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru yn ystod y 15 Mis sy’n cael sylw yn yr adroddiad hwn.
Mae amcanion strategol cynllun 2020 i 2024 wedi’u nodi’n llawn yn Atodiad 2. Mae’r bennod hon yn cynnwys rhai enghreifftiau o weithgarwch i gyflawni’r amcanion hyn. Rhoddir rhagor o enghreifftiau yn Atodiad 3
Nid yw'r enghreifftiau sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn a'r atodiadau yn rhestr gyflawn o bopeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn i gyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb, ond maent yn rhoi rhai enghreifftiau o'n hymyriadau a'r polisïau rydym wedi'u cyflawni.
Trosolwg o Gynlluniau Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru
Mae ein Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol yn nodi:
- y sail gyfreithiol y mae’r cynlluniau hynny wedi’u seilio arnynt
- y brif dystiolaeth ynghylch cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru a oedd wedi dylanwadu ar ddatblygiad y cynlluniau hynny, gan ddefnyddio llawer ar ymchwil ac adroddiadau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, A yw Cymru’n decach?
- cyfres o gamau gweithredu yr oeddem wedi ceisio eu cyflawni, i gefnogi nodau ac amcanion pob cynllun
Mae pob cynllun yn cwmpasu cyfnod o bedair blynedd. Cafodd Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024 ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2020. Mae llawer o ddilyniant rhwng y cynllun hwn a’r un blaenorol, ac mae eu nodau’n debyg i raddau helaeth, ond mae newidiadau pwysig hefyd yn ogystal â gweithgarwch newydd o flwyddyn i flwyddyn.
Mae’r prif newidiadau’n cynnwys rhoi mwy o bwyslais ar ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol (Nod Hirdymor 2) a rhoi pwyslais o’r newydd ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau (Nod Hirdymor 4), sy’n cael ei adlewyrchu yn ein Cynllun Gweithredu: Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau.
Mae tair prif elfen wrth galon Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024: Nodau, Amcanion a Chamau Gweithredu.
- Nodau Hirdymor. Mae'r nodau hyn yn nodi ein huchelgais hirdymor yng Nghymru ac rydym yn disgwyl y bydd yn parhau i fod yn berthnasol y tu hwnt i'r cyfnod sy'n cael sylw yn y cynllun hwn; ni fydd cyflawni'r Nod hwn yn dibynnu'n llwyr ar gamau gweithredu penodol Llywodraeth Cymru.
- Ar gyfer pob un o’r nodau hirdymor hyn, rydym yn pennu un Amcan Cydraddoldeb ar gyfer Llywodraeth Cymru yn 2020 i 2024. Mae’r amcanion hyn yn perthyn yn agosach na’r nodau hirdymor i rôl a phwerau Llywodraeth Cymru. Maen nhw’n pwyso a mesur gofynion statudol ac yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflawni Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
- Wrth wraidd pob un o’r Amcanion hyn mae nifer o Gamau Gweithredu mesuradwy, sy’n dangos sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hamcanion.
Mae’r adroddiad hwn yn nodi sawl enghraifft o gamau a gymerwyd i gefnogi’r gwaith o gyflawni ein hamcanion.
Mae’r amcanion strategol wedi’u nodi’n llawn yn Atodiad 2, gydag enghreifftiau ychwanegol yn Atodiad 3.
Cryfhau a hyrwyddo hawliau dynol yng Nghymru
Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad clir i hyrwyddo a diogelu hawliau dynol ac mae hyn wedi’u gwreiddio yn neddfwriaeth sefydlu Llywodraeth Cymru.
Mae gan y Rhaglen Lywodraethu ymrwymiad i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UNCRPD) a’r Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW).
Mae’r adroddiad ymchwil i Gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 26 Awst 2021, wedi edrych ar ystod o faterion cysylltiedig. Mae’r adroddiad yn dangos y ffordd o ran diogelu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol unigolion a chymunedau yng Nghymru a bydd yn sail i’n gwaith yn y dyfodol.
Cyhoeddwyd ein hymateb ym mis Mai 2022: Adroddiad ymchwil Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru: Ymateb Llywodraeth Cymru.
Mae’r ymateb yn nodi’r prif feysydd gwaith rydym yn bwrw ymlaen â nhw, gan gynnwys:
- gwaith paratoi ar yr opsiynau ar gyfer ymgorffori confensiynau’r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru:
- llunio cyfres o ganllawiau ar hawliau dynol
- adolygu rheoliadau Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
- ychwanegu hawliau dynol at ein hasesiadau effaith integredig
- gwella’r ffordd yr ydym yn hyrwyddo’r materion hyn yng Nghymru
Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol
Mae’r Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol yn olynydd uniongyrchol i’r Grŵp Llywio i’r adroddiad ymchwil SAEHR, ac mae’r aelodaeth yn eang i sicrhau ymgysylltiad cryf â rhanddeiliaid wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip sy'n cadeirio'r Grŵp Cynghori hwn.
Mae’r Grŵp Cynghori yn monitro’r pum prif ffrwd waith sy’n deillio o’r ymchwil (opsiynau deddfwriaethol; canllawiau; adolygu Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru; asesu a hyrwyddo effaith), gan gynnwys y materion cydraddoldeb perthnasol. Bydd hefyd yn cynnal cysylltiadau cryf gyda’n fforymau cydraddoldeb eraill a chyda gwaith sy’n deillio o’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.
Cafodd y Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol, LOWG, is-bwyllgor o’r Grŵp Cynghori, ei sefydlu i fwrw ymlaen â’r gwaith o edrych ar opsiynau deddfwriaethol i gyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru.
Enghreifftiau o’r camau a gymerwyd ar draws Llywodraeth Cymru
Cydlyniant Cymunedol
Mae ein Rhaglen Cydlyniant Cymunedol yn ariannu wyth tîm ledled Cymru i feithrin cysylltiadau da rhwng gwahanol gymunedau a chyda chyrff cyhoeddus. Mae'r rhaglen yn gweithredu fel cyfrwng i gefnogi cyfranogiad a chynhwysiant mewn penderfyniadau a pholisïau lleol. Mae gwaith y Rhaglen Cydlyniant wedi bod yn hanfodol i brif ffrydio cydlyniant cymunedol drwy holl waith awdurdodau lleol, drwy ddarparu hyfforddiant a sicrhau bod ystod eang o leisiau'n cael eu clywed yn ystod y prosesau gwneud penderfyniadau.
Mae'r timau Cydlyniant yn rhan bwysig o ymateb Llywodraeth Cymru i faterion sy'n dod i'r amlwg a materion nad oes modd eu rhagweld sy'n effeithio ar gymunedau yng Nghymru, gan weithio gyda phartneriaid allweddol i fonitro a lliniaru tensiynau cymunedol. Roedd y Rhaglen yn rhan allweddol o ymateb Llywodraeth Cymru i'r aflonyddwch yn ystod haf 2024, gan gynnwys gweithio gyda'r heddlu a phartneriaid eraill i sicrhau bod cymunedau'n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u hysbysu.
Cyflogaeth Pobl Anabl
Cymorth i Unigolion
Nodir y cymorth sydd ar gael i unigolion gael gwaith a symud ymlaen mewn gwaith yn Cymru gryfach, decach a gwyrddach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau. Mae hwn yn amlinellu ein hamrywiaeth o raglenni cyflogadwyedd sy'n targedu grwpiau a dangynrychiolir yn y farchnad lafur ac yn cefnogi pobl anabl i ddod o hyd i waith, ac aros a symud ymlaen mewn gwaith neu hunangyflogaeth. Mae'r rhaglenni hyn yn cynnwys Twf Swyddi Cymru a Mwy, Cymunedau am Waith a Mwy, a'n Rhaglen Prentisiaethau. Darperir arweiniad gyrfaoedd drwy ein gwasanaeth Cymru'n Gweithio, sy'n cynnig cyngor arbenigol i bobl anabl.
- Mae Twf Swyddi Cymru a Mwy yn gwasanaethu rhai o’r bobl ifanc fwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas, gan ganolbwyntio’n benodol ar gynnig darpariaeth i’r bobl ifanc hynny sydd â nodweddion gwarchodedig. Rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, fe wnaeth cyfran o 23.8% o’r dysgwyr a ddechreuodd ar y rhaglen a nodi dros eu hunain eu bod yn anabl neu fod ganddynt anhawster dysgu.
- Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn rhaglen gyflogadwyedd yn y gymuned, sy'n cael ei rhedeg mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a'i darparu drwy fentoriaid cyflogadwyedd mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar bobl 20 oed a hŷn nad ydynt mewn gwaith ac sy'n wynebu anfanteision yn y farchnad swyddi, gan gynnwys pobl anabl. Ers mis Ebrill 2024, mae 29% o gyfranogwyr wedi datgan bod ganddynt gyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio ac mae 12% wedi datgan eu bod yn anabl.
- Wrth edrych tua’r dyfodol, rydym yn datblygu Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd yng Nghymru a fydd yn dod â'r rhaglenni hyn at ei gilydd i greu system cymorth cyflogadwyedd ddi-dor ac integredig gyda chymysgedd o gymorth ar lefel genedlaethol a lleol. Yn ogystal â darparu cymorth i bobl anabl, bydd y rhaglen newydd yn cynnwys cyflogaeth â chymorth a chefnogaeth hyfforddwr swydd arbenigol i ddiwallu anghenion pobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth.
Mae ein rhaglen Prentisiaethau’n galluogi dysgwyr i ennill cymwysterau cydnabyddedig wrth iddynt weithio. Mae cymorth dwys ychwanegol dysgu a chyflogaeth ar gael i bobl anabl drwy'r cynllun Rhannu Prentisiaeth â Chymorth. Yn 2023 i 2024, cafodd 11% o'r holl raglenni dysgu prentisiaeth eu cychwyn gan ddysgwyr a nododd eu bod yn anabl a / neu fod ganddynt anhawster dysgu, (o'i gymharu â 5.8% ym mlwyddyn academaidd 2016 i 2017), a darparwyd cymorth ar gyfer hyd at 50 o brentisiaethau a rennir â chymorth.
Fe wnaeth Prentisiaethau Llywodraeth Cymru:Datganiad Polisi (Chwefror 2024) gydnabod bod rhwystrau’n bodoli sy'n atal rhai grwpiau rhag cael gafael ar brentisiaethau a'u cwblhau. Er ein bod wedi cynyddu’r amrywiaeth o brentisiaethau sydd ar gael, mae rhai rhwystrau penodol yn dal i fodoli. Gall fod gwahaniaethu gwirioneddol neu’r canfyddiad o hynny hefyd gyda llai o fodelau rôl prentisiaeth o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig neu o grwpiau anabl.
Rydym wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth mewn prentisiaethau. Mae Prentisiaethau Cynhwysol: Cynllun Gweithredu ar Anabledd eisoes wedi cefnogi twf prentisiaethau i bobl anabl. Ar ben hynny, rydym yn bwriadu addasu Manyleb Safonau Prentisiaeth Cymru i ddarparu cynnig mwy cynhwysol ac ehangu cyfranogiad ar gyfer pobl anabl. Rydym yn chwilio am gyfleoedd i wella'r nifer o bobl â nodweddion gwarchodedig sy'n manteisio ar brentisiaethau. Rydym hefyd wedi ymestyn y Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr, sy'n darparu cymorth ariannol o £2,000 i gyflogwyr i’w helpu i ddarparu cyfleoedd i brentisiaid anabl hyd at fis Mehefin 2025.
Cymorth i Gyflogwyr
Yn ogystal â darparu cymorth uniongyrchol i unigolion, yn unol â'n hagenda Gwaith Teg, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol â chyflogwyr ac undebau llafur ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i hyrwyddo manteision gweithlu amrywiol, codi ymwybyddiaeth o'r Model Cymdeithasol o Anabledd a gwella dealltwriaeth gweithwyr a chyflogwyr o hawliau yn y gweithle.
- Rydym wedi cyflogi tîm parhaol o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl, pob un â phrofiad uniongyrchol o fod yn anabl neu o ofalu am berson anabl. Eu rôl yw cynghori cyflogwyr mawr a chyflogwyr yn y sector cyhoeddus ar recriwtio a chadw gweithwyr anabl. Mae'r Hyrwyddwyr yn gweithio ochr yn ochr â Chynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru sy'n ymgymryd â rôl debyg gyda busnesau bach a chanolig.
- Rydym wedi datblygu adnoddau newydd sydd wedi'u targedu at gyflogwyr, gan ddarparu cyngor ac arweiniad ymarferol ar gyflogi a chefnogi gweithwyr anabl. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi yn ystod haf 2025 a byddant yn ategu amrywiaeth eang o adnoddau sy’n cael eu darparu drwy Busnes Cymru.
- Rydym yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU i edrych ar opsiynau i wella'r cynllun Hyderus o ran Anabledd. Rydym hefyd yn cydweithio'n agos gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i gynyddu nifer y cyflogwyr sy'n cyrraedd statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd (Lefel 3).
- Aeth y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, a sefydlwyd yn 2021, ati i greu amrywiaeth o weithgorau, pob un yn canolbwyntio ar faterion penodol sy'n effeithio ar bobl anabl yng Nghymru. Rhoddodd y Gweithgor Cyflogaeth ac Incwm gyfle i aelodau'r Tasglu gyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru i wella canlyniadau cyflogaeth i bobl anabl. Yr argymhellion hyn fydd sail y Cynllun Hawliau Pobl Anabl sydd yn ei gamau olaf ac a fydd yn cael ei gyhoeddi eleni.
Y Ddyletswydd economaidd-gymdeithasol
Daeth y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol i rym ar 31 Mawrth 2021. Mae'n mynnu bod cyrff cyhoeddus perthnasol, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, wrth wneud penderfyniadau o natur strategol yn rhoi “sylw dyledus” i sicrhau bod unrhyw gamau gweithredu neu bolisïau yn lleihau anghydraddoldebau o ran canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.
Dros y 4 blynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau sylweddol tuag at ymgorffori'r Ddyletswydd yn ei phrosesau o wneud penderfyniadau. Mae cyfoeth o wybodaeth ar gael i gefnogi cyrff sy'n dod o dan y ddyletswydd drwy dudalennau gwe penodol Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol: trosolwg / Cymru Fwy Cyfartal:Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i adnewyddu'r tudalennau hyn a'r adnoddau sydd ar gael ynddynt.
Yn fewnol, mae gennym dudalen benodol ar y Fewnrwyd Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol i sicrhau bod staff Llywodraeth Cymru’n gallu cael gafael yn hawdd ar wybodaeth ac adnoddau cywir ar y Ddyletswydd.
Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i ddangos ymrwymiad i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol drwy barhau i gymhwyso'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol.
Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn cyflawni blaenoriaeth yn y Rhaglen Lywodraethu, gan sbarduno ein hymrwymiad i gael Cymru decach a mwy cynhwysol. Mae’r Cynllun Gweithredu, a lansiwyd ym mis Mehefin 2022, yn galw am beidio â goddef unrhyw anghydraddoldeb hiliol. Mae Cynllun Gweithredu ar ei newydd wedd, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2024, yn ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru sy’n wirioneddol wrth-hiliol. Mae'r diweddariad yn adeiladu ar sylfeini'r cynllun gwreiddiol ac yn canolbwyntio ar gyflawni mewn modd trawslywodraethol a fydd yn arwain at welliant pendant yn y canlyniadau i bobl o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Mae pobl a chymunedau ethnig leiafrifol yn dal i fod â theimladau o anghydraddoldeb a hiliaeth sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn dal wedi ymrwymo i ymdrechu i greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030.
Mae'r Cynllun Gweithredu ar ei newydd wedd yn cynnwys nodau a chamau gweithredu sy'n rhedeg ar draws bron pob maes llywodraeth, a 6 thema drawsbynciol. Y themâu hyn yw:
- Arweinyddiaeth a Chynrychiolaeth
- Gwella canlyniadau i Sipsiwn, Roma a Theithwyr
- Data ac ymchwil
- Croestoriadedd
- Cryfhau systemau cwyno
- Gweithredu cadarnhaol
Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar ei newydd wedd yn wyn ynghyd ymrwymiadau Cenedl Noddfa o'n Cynllun yn 2019, y bennod berthnasol yn y fersiwn wreiddiol o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (2022) a'n haddewid i'r Fforwm Ffoaduriaid Byd-eang (2023) mewn pennod ddiwygiedig, sef 'Cymru cenedl noddfa'.
Llywodraethu
Mae cynrychiolwyr amrywiaeth ac arbenigwyr ar Grŵp Atebolrwydd Allanol y Cynllun Gweithredu yn helpu i ddal y Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus i gyfrif.
Mae'r grŵp hwn yn cyfarfod bob deufis ac yn cael ei gadeirio ar y cyd gan yr Athro Emmanuel Ogbonna a Dr Andrew Goodall, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru. Mae'r Grŵp Atebolrwydd Allanol yn gweithio'n agos gyda'r Grŵp Cefnogi a Herio Mewnol i gyflawni nodau a chamau gweithredu trawslywodraethol y Cynllun.
Data ac ymchwil
Sefydlwyd yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil ym mis Ionawr 2022, ac mae'n gweithio mewn partneriaeth â thîm Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a'r Grŵp Atebolrwydd Allanol. Mae'r Uned wedi datblygu Fframwaith Mesur i werthuso a mesur effaith y Cynllun Gweithredu ar draws Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus ehangach a'i effaith ar fywydau pobl o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Bydd y fframwaith yn allweddol i fonitro trylwyr ac i arddangos gweithredoedd a’u heffaith, mae hyn yn hanfodol er mwyn cynnal ymddiriedaeth rhanddeiliaid a'n pobl ethnig leiafrifol.
Ymrwymiad ar y cyd
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi pwysleisio ymrwymiad ar y cyd ar draws Llywodraeth Cymru i weithredu gwrth-hiliol. Mae'r Grŵp Atebolrwydd Allanol a'r Grŵp Swyddogion Cefnogi a Herio Mewnol yn sicrhau bod integreiddiad ar draws y llywodraeth. Mae'r Athro Ogbonna ac aelodau'r Grŵp Cynghori Allanol wedi pwysleisio pwysigrwydd arweinyddiaeth wrth-hiliol weladwy gan Ysgrifenyddion a Gweinidogion y Cabinet.
Rhai diweddariadau allweddol
- Ym mis Ionawr 2025, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Diwylliant ar y pryd, y Trefnydd a'r Prif Chwip lythyr at arweinwyr awdurdodau lleol a sector cyhoeddus Cymru, yn eu hatgoffa o'u rôl a'u cyfrifoldeb o ran rhoi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar waith.
- Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2024, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet gwrdd â chydweithwyr yn y Cabinet i drafod ymrwymiad i gyflawni nodau a chamau gweithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol o dan eu portffolios.
- Lansiodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ymgynghoriad ac ymchwiliad i weithredu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: Cymru Wrth-hiliol (Senedd: Cymru). Roedd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar y pryd a'r Prif Chwip yn bresennol yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar 4 Rhagfyr 2023. Cyhoeddwyd yr adroddiad, 'Gweithredoedd, nid Geiriau', ym mis Mawrth 2024, gan wneud 10 argymhelliad. Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Diwylliant ar y pryd, y Trefnydd a'r Prif Chwip ymateb swyddogol ym mis Mai 2024 ac ymddangosodd ar gyfer Cyfarfod Llawn y Pwyllgor ar 12 Mehefin 2024.
- Ym mis Awst 2024, bu swyddogion Llywodraeth Cymru yn bresennol fel cynrychiolwyr ym Mhwyllgor Dileu Gwahaniaethu ar sail Hil y Cenhedloedd Unedig yng Ngenfa, gan wneud cyfraniadau allweddol ar Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol mewn perthynas â nodau a chamau gweithredu trawslywodraethol, cydlyniant cymunedol a mynd i'r afael â throseddau casineb, yn enwedig yn dilyn yr aflonyddwch sifil yn sgil y digwyddiadau yn Southport.
Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn allweddol wrth lunio Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, ac roedd gwreiddio ffyrdd hirdymor, ataliol a chydweithredol o weithio yn ganolog i hynny.
Mae'r Cynllun Gweithredu yn ganolog i'n Rhaglen Lywodraethu. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn atgyfnerthu hyn drwy osod cyfrifoldebau clir tuag at gyflawni ei gweledigaeth. Mae tri o'r saith nod llesiant a nodir yn y Ddeddf yn gweithredu fel y sail mwyaf uniongyrchol i'n gwaith tuag at greu Cymru wrth-hiliol: sef creu Cymru sy'n Fwy Cyfartal, Cymru o Gymunedau Cydlynus, a Chymru â Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu.
Mae ffocws y Ddeddf ar integreiddio wedi annog partneriaethau cryfach rhwng y llywodraeth, y cymunedau a’r rhanddeiliaid, gan sicrhau y rhoddir ystyriaeth i faterion gwrth-hiliaeth ar draws meysydd polisi. Mae’r Cynllun Gweithredu yn adlewyrchu pwyslais y Ddeddf ar greu Cymru decach a mwy cyfartal drwy osod nodau a chamau gweithredu beiddgar a mesuradwy sydd angen arweinwyr atebol er mwyn cael effaith barhaus a hirdymor. Yn ei thro, mae'r Ddeddf yn gosod fframwaith clir er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau systemig a sbarduno newid diwylliannol ar draws gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd gynaliadwy a pharhaol.
Y sector cyhoeddus ehangach, y trydydd sector a’r sector preifat sy’n cael ei ariannu gan y Llywodraeth
Rydym yn disgwyl i'r sefydliadau sector cyhoeddus, y trydydd sector a'r sefydliadau sector preifat hynny rydym yn eu hariannu gyflawni 5 cam gweithredu craidd sy'n ymwneud â chyflawni ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol:
- Ymrwymiad cryf i arwain drwy esiampl a dangos hyn drwy fod â gwerthoedd ac ymddygiad gwrth-hiliol, a chynrychiolaeth ar bob lefel o’ch sefydliad a mesurau atebolrwydd.
- Cyfranogiad ym mhob grŵp sy’n gwneud penderfyniadau ac uwch grŵp arwain mewn ffordd sy’n ei gwneud hi’n bosibl clywed profiadau bywyd pobl o leiafrifoedd ethnig a gweithredu arnynt.
- Cyflawni gofynion sylfaenol Deddf Cydraddoldeb 2010 a chyhoeddi eich canlyniadau mewn fforwm/llwyfan agored a hygyrch.
- Sicrhau safonau sylfaenol a darparu gwasanaethau sy’n ddiwylliannol sensitif a phriodol, gan gynnwys darparu cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.
- Sefydlu polisïau a phrosesau cwyno cadarn ar gyfer aflonyddu hiliol sy’n cael eu dilysu er boddhad grwpiau lleiafrifoedd ethnig.
LHDTC+ Cynllun Gweithredu
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+. Dyna pam ein bod wedi datblygu Cynllun Gweithredu i Gymru ar gyfer Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol sy’n gadarn ac yn drawsbynciol. Ers hynny, mae'r Cynllun wedi cael ei ystyried yn enghraifft dda o ddull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau dynol gan Arbenigwr Annibynnol y Cenhedloedd Unedig ar Gyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rhywedd un sy'n cryfhau'r mesurau diogelu ar gyfer Pobl LHDTC+, yn hyrwyddo cydraddoldeb i bawb ac yn helpu i gydlynu camau gweithredu uchelgeisiol ar draws y llywodraeth a thu hwnt.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau camau gweithredu mesuradwy a fydd yn cael effaith sylweddol a chadarnhaol ar fywydau pobl LHDTC+ yng Nghymru. Rydym yn bwriadu ymchwilio i effeithiolrwydd ac effaith y cynllun dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae'r cynnydd o ran cyflawni'r camau gweithredu i'w weld yn: Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru: diweddariad ar gynnydd.
Arferion Trosi neu Therapi
Mae ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddefnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i roi terfyn ar arferion trosi yng Nghymru ac i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno gwaharddiad ar arferion trosi ledled y DU.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr arferion trosi drwy ariannu Galop i ddarparu eiriolaeth a gwasanaethau therapiwtig.
Cwricwlwm i Gymru, Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
Dechreuodd y gwaith o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru ym mis Medi 2022, a bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy’n briodol yn ddatblygiadol yn orfodol i bob dysgwr. Mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn chwarae rôl gadarnhaol a gwarchodol yn addysg dysgwyr. Mae gan ysgolion a lleoliadau rôl bwysig i’w chwarae yn creu amgylcheddau diogel a grymusol i gefnogi hawliau dysgwyr i fwynhau perthnasoedd boddhaus, iach a diogel drwy gydol eu bywyd.
Bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cael ei ddarparu mewn ffordd gynhwysol yn unol ag egwyddorion cydraddoldeb. Bydd y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn sicrhau ‘y gall y dysgwyr i gyd weld eu hunain, eu teuluoedd, eu cymunedau a'i gilydd yn cael eu hadlewyrchu ym mhob rhan o'r cwricwlwm a dysgu sut i werthfawrogi gwahaniaeth ac amrywiaeth fel ffynhonnell cryfder’.
Bwlio homoffobig a thrawsffobig mewn addysg
Mae bwlio yn gwbl annerbyniol. Rydym am weld diwedd ar bob math o fwlio. Rydym yn parhau i weithio gyda’r Cynghrair Gwrth-Fwlio i sicrhau bod bwlio ac aflonyddu, ar unrhyw ffurf, yn cael eu dileu mewn ysgolion.
Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys yr heddlu, i ddatblygu cynllun gweithredu aml-asiantaeth i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysg. Bydd yn cynnwys camau gweithredu penodol i fynd i’r afael â’r ymddygiadau dieisiau sy’n cael eu profi’n rhy aml gan blant a phobl ifanc LHDTC+.
Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Cryfhau’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd ac yn y gweithle yn ogystal â’r cartref.
Strategaeth Genedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022 i 2026 yw'r cyfrwng ar gyfer cyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd ac yn y gweithle yn ogystal â'r cartref.
Caiff y strategaeth ei chyflawni drwy ddefnyddio dull Glasbrint, a fydd yn dwyn ynghyd sefydliadau datganoledig ac annatganoledig, yn ogystal ag atgyfnerthu'r bartneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat ac arbenigol.
Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol sy’n goruchwylio'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth - bwrdd dan arweiniad Gweinidogion sy'n cael ei gadeirio ar y cyd gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Emma Wools, ar ran Plismona yng Nghymru, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a Phrif Chwip Llywodraeth Cymru.
Mae'r Bwrdd Partneriaeth yn darparu arweinyddiaeth ar gyfer y dull amlasiantaeth o weithredu'r ffrydiau gwaith a dyma'r mecanwaith cyflawni ar gyfer bwrw ymlaen â chamau gweithredu allweddol, i roi'r Strategaeth a'i hamcanion ar waith.
Mae diweddariad ar gynnydd yn erbyn chwe Amcan Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gael yn Adroddiad Blynyddol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Ebrill 2024 i Mawrth 2025.
Mae'r Glasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn cynnwys ffrwd waith benodol ar aflonyddu ar sail rhywedd ym mhob man cyhoeddus ac ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle, gan ddod â phartneriaid allanol yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector at ei gilydd i fynd i'r afael â'r materion hollbwysig hyn.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r ymgyrch gyfathrebu Aflonyddu ar sail Rhywedd mewn Mannau Cyhoeddus wedi tynnu ar lwyddiant ein hymgyrch 'Sound Campaign' i daflu goleuni ar brofiadau menywod a merched mewn nifer o leoliadau cyhoeddus, gan gynnwys mannau lle mae menywod yn ymarfer corff; y strydoedd, y gampfa ac mae’n cynnwys themâu fel syllu amhriodol, gofod personol a chyffwrdd digroeso.
Eleni, cynhaliwyd cynllun ‘Sound run’ gyda deg clwb rhedeg lleol yng Nghaerdydd yn dod at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth a thrafod aflonyddu rhywiol cyhoeddus a gafodd sylw yn y cyfryngau ar ITV Cymru, BBC Radio Wales, BBC Ar-lein ac S4C.
Mae ffrwd waith Glasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle wedi rhoi blaenoriaeth dros y flwyddyn ddiwethaf i gynnal cyfres o gynadleddau ledled Cymru sy’n ceisio dod ag arweinwyr a gweithwyr proffesiynol yn y sector cyhoeddus at ei gilydd i ganolbwyntio ar fater hollbresennol ac annerbyniol aflonyddu rhywiol yn y gweithle.
Roedd y cynadleddau'n hyrwyddo'r angen a'r gofyniad hollbwysig ar bob cyflogwr i gymryd camau ymarferol i atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle ac ymateb yn briodol i ddioddefwyr a goroeswyr.
Cyflwynwyd y gyfres o gynadleddau drwy waith cyd-gynhyrchu llwyddiannus gan bartneriaethau ffrydiau gwaith ac fe'i sbardunwyd gan y profiadau bywyd pwerus yr oedd y dioddefwyr a’r goroeswyr yn ddigon dewr i’w rhannu. Yn ogystal, comisiynodd Uned Gwahaniaethau ar sail Hil Llywodraeth Cymru ymchwil ar ran y ffrwd waith Aflonyddu yn y Gweithle i edrych ar brofiadau uniongyrchol menywod Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol o aflonyddu rhywiol yn y gweithle yng Nghymru.
Pennod 4: Tystiolaeth a Llywodraethu, Rhaglen waith Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru
Mae’r bennod hon yn egluro sut mae Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn defnyddio tystiolaeth i lywio a chefnogi ei gwaith i hyrwyddo a diogelu cydraddoldeb. Mae hyn yn cynnwys amlinellu sut cafodd Cronfa Effeithiau COVID-19 ar Gydraddoldeb ei datblygu, a’r wybodaeth ddiweddaraf am yr asesiad o effaith cyllideb Llywodraeth Cymru.
Mae’r bennod hefyd yn cynnwys adran ar ein polisi caffael.
Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd
Mae’r Unedau Tystiolaeth a sefydlwyd yn 2022 yn parhau i weithio'n agos gyda chydweithwyr yn ein His-adran Cydraddoldeb, Tlodi a Thystiolaeth a Chymorth Plant ehangach a'r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi i wella argaeledd, ansawdd, manylder a hygyrchedd tystiolaeth am unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig, er mwyn i ni gael gwell dealltwriaeth o lefel yr anghydraddoldebau ledled Cymru, a’r mathau ohonynt.
Mae'r Unedau Tystiolaeth yn cynnwys 4 tîm:
- Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb
- Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil
- Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd
- Uned Datblygu Ystadegau Cydraddoldeb
Mae'r rhan fwyaf o waith yr Unedau Tystiolaeth yn fwriadol drawsbynciol a chroestoriadol. Mae'r Unedau Tystiolaeth yn cynnwys cymysgedd o ddadansoddwyr, sy'n cynnwys ystadegwyr ac ymchwilwyr cymdeithasol sy'n cefnogi'r gwaith o lunio polisïau ar draws Llywodraeth Cymru.
Sefydlwyd yr Uned Datblygu Ystadegau Cydraddoldeb newydd ym mis Medi 2024 i gyflawni swyddogaethau ystadegol ac adrodd data'r Unedau Tystiolaeth, gan weithio ochr yn ochr â'r unedau eraill i ddarparu cymorth ystadegol i'w prosiectau.
Rhoddir yr wybodaeth ddiweddaraf am rai o’n prosiectau penodol isod:
Adolygiad o Ffynonellau Data Cydraddoldeb ac Allbynnau Ystadegol Llywodraeth Cymru
Cwblhawyd yr Adolygiad o ffynonellau data ac allbynnau cydraddoldeb Llywodraeth Cymru yn 2025. Pwrpas yr adolygiad hwn oedd gwella ymwybyddiaeth o ffynonellau ac allbynnau cydraddoldeb presennol a gedwir neu a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, a nodi'n systematig lle mae bylchau ar draws y sylfaen dystiolaeth cydraddoldeb. Mae'r adolygiad yn cael ei ddefnyddio i helpu i nodi gwelliannau pellach posibl wrth gasglu, adrodd a defnyddio data ar nodweddion gwarchodedig.
Adroddiad ar Lesiant Cymru: Pennod Cymru sy'n Fwy Cyfartal
Cyhoeddwyd Adroddiad Llesiant Cymru:Pennod Cymru sy'n Fwy Cyfartal 2024 ym mis Medi 2024. Mae'r adroddiad hwn yn coladu'r ystadegau cyhoeddedig ynglŷn â chydraddoldeb ar gyfer y bennod ar Gymru sy'n Fwy Cyfartal yn adroddiad blynyddol Llesiant Cymru, sy'n helpu i asesu cynnydd o ran y Dangosyddion Cenedlaethol. Mae'n ffynhonnell allweddol sy’n cael ei defnyddio gan randdeiliaid Llywodraeth Cymru, dinasyddion a'r cyfryngau i ddeall y tueddiadau a’r heriau sy'n wynebu Cymru, gan ddarparu data i Senedd Cymru graffu arno yn erbyn nodau perfformiad Cymru.
Adolygiad o Ddata Cydraddoldeb yn Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae'r Unedau Tystiolaeth yn adolygu Arolwg Cenedlaethol Cymru i asesu i ba raddau y mae'r Arolwg Cenedlaethol yn gynrychioliadol, ac y gellid ei ddefnyddio i fesur canlyniadau arolygon ar gyfer grwpiau cydraddoldeb yng Nghymru; a gwneud argymhellion ar sut i wella ansawdd a manylder y data cydraddoldeb a fydd yn cael ei gasglu mewn arolygon yn y dyfodol. Bydd canfyddiadau'r gwaith hwn yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Adolygiad o Amrywiaeth yng Ngweithlu a Byrddau'r Sector Cyhoeddus yng Nghymru
Amcanion yr adolygiad hwn yw rhoi syniad o amrywiaeth byrddau cyhoeddus yng Nghymru; edrych i weld a yw data ynghylch amrywiaeth o ran aelodau byrddau'r sector cyhoeddus yn cael ei gasglu'n effeithiol; deall gwerth amrywiaeth mewn cyrff sector cyhoeddus a nodi rhwystrau a strategaethau priodol i gynyddu amrywiaeth mewn grwpiau heb gynrychiolaeth mewn gweithluoedd ac uwch reolwyr. Mae'n cynnwys dau ddarn o ymchwil ategol; arolygon ar gyrff y sector cyhoeddus ac aelodau byrddau yng Nghymru ac adolygiad o lenyddiaeth berthnasol ar amrywiaeth yn y sector cyhoeddus. Bydd adroddiadau o ganfyddiadau’n cael eu cyhoeddi maes o law.
Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: Fframwaith Mesur Effaith
Mae'r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil wedi parhau i ddarparu cymorth dadansoddol i'r Cynllun Gweithredu drwy gefnogi'r gwaith o ddiweddaru'r cynllun a sefydlu dull ar gyfer ei werthuso. Cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: Fframwaith Mesur Effaith ym mis Rhagfyr 2024. Mae'n nodi'r meysydd lefel uchel i'w mesur (y setiau allweddol o niferoedd ac ystadegau) a fydd yn cael eu hasesu'n rheolaidd i'n helpu i ddeall a yw'r cynllun yn gwneud gwahaniaeth. Bydd y fframwaith mesur effaith yn cael ei ddefnyddio fel un rhan o'r ffynonellau tystiolaeth niferus y byddwn yn eu defnyddio i asesu a oes newid wedi digwydd wrth werthuso effaith gyffredinol y Cynllun Gweithredu.
Ymchwil i edrych ar argymhellion gan y Tasglu Hawliau Pobl Anabl
Mae'r Unedau Tystiolaeth wedi bod yn gweithio gyda'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl i ystyried dau o argymhellion y Tasglu. Mae'r prosiect cyntaf yn edrych ar y cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd presennol ledled y DU a'r syniad o gael cynllun gwell neu wahanol ar gyfer Cymru. Mae'r ail brosiect yn edrych ar y syniad o sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol i Gymru a sut y gellid ei rhoi ar waith. Disgwylir i'r adroddiadau gael ei gyhoeddi yn 2025. Roedd y prosiectau hyn yn treialu dull cyd-gynhyrchu ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth. Bydd adroddiad gwersi a ddysgwyd ar y dull gweithredu hefyd yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Ymchwil ynghylch sut y gellir casglu gwybodaeth i adlewyrchu’r model cymdeithasol o anabledd
Nod y gwaith hwn yw datblygu cyfres o gwestiynau, opsiynau ymateb, a chanllawiau sy’n adlewyrchu’r Model Cymdeithasol o Anabledd, i’w ymgorffori mewn ymchwil gymdeithasol yn y dyfodol a galluogi dull gweithredu safonol a chyson. Comisiynwyd y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol i wneud y gwaith hwn. Bydd hyn yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall effaith polisïau ar bobl anabl, a sut y gall polisïau leihau neu ddileu rhwystrau i bobl â chyflyrau iechyd. Bydd adroddiad canfyddiadau dros dro yn cael ei gyhoeddi yn 2025.
Asesiad o’r Gallu i Werthuso Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pobl LHDTC+
Comisiynodd Llywodraeth Cymru Alma Economics i ddarparu argymhellion ar sut y dylid gwerthuso'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Pobl LHDTC+. Cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru: asesiad gwerthusadwyedd ym mis Tachwedd 2024. Defnyddiwyd yr adroddiad i lywio'r gwaith o ddylunio gwerthusiad proses a gwaith gwaelodlin ar gyfer gwerthuso effaith yn y dyfodol. Bydd y gwerthusiad yn helpu i benderfynu a yw'r Cynllun Gweithredu LHDTC+ yn llwyddiannus ac yn cyflawni ei nodau arfaethedig o wella bywydau a phrofiadau pobl LHDTC+ yng Nghymru.
Dadansoddiad o Ddata’r Cyfrifiad ar Gyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth o ran Rhywedd
Edrychodd y dadansoddiad hwn yn fanylach ar ddata Cyfrifiad 2021 ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd. Cafodd y diweddariad ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2024.
Asesiad o Effaith y Gyllideb ar Gydraddoldeb
Mae’r Asesiad Effaith Integredig Strategol o’r Gyllideb Ddrafft yn parhau i ystyried penderfyniadau gwariant o sawl safbwynt er mwyn deall eu heffaith ar wahanol grwpiau o bobl ac ardaloedd. Mae hyn yn cynnwys ystyried cydraddoldeb. Rydym yn cydnabod bod sawl dimensiwn i bobl a lleoedd, ac mae’r dull gweithredu integredig yn ceisio cofnodi effeithiau lluosog a chronnus sy’n adlewyrchu profiad bywyd pobl a realiti ein heconomi, ein diwylliant a’n hamgylchedd.
Hefyd, rydym yn dal wedi ymrwymo i adolygu’r ffordd rydym yn asesu effeithiau. Ar 10 Rhagfyr 2024, cyhoeddom Gynllun Gwella’r Gyllideb wedi’i ddiweddaru fel rhan o becyn Cyllideb ddrafft 2025-26. Mae’r cynllun hefyd yn edrych ar y gwaith a wnaed dros y 12 mis diwethaf ac mae’n amlinellu ein gweledigaeth, gan gynnwys yr uchelgeisiau tymor byr a thymor canolig dros y pum mlynedd nesaf, er mwyn gwella ein prosesau blynyddol ar gyfer y gyllideb a threthi. Mae hyn yn cynnwys gwelliannau arfaethedig i'r ffordd o asesu effaith penderfyniadau a wneir ynghylch y Gyllideb.
Caffael
Mae cyrff gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gwario tua £10.7 biliwn bob blwyddyn ar brynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith gan gyflenwyr. Dylid gwario pob punt mewn ffordd sy’n sicrhau’r gwerth gorau i bobl Cymru.
Cyflawni’r Ddyletswydd Caffael yn Nyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru
Fel rhan o ddyletswyddau cydraddoldeb penodol Cymru, rhaid i ni:
- fynd ati i ystyried a fyddai’n briodol i feini prawf ar gyfer dyfarnu contract gynnwys ystyriaethau i helpu i gyflawni tri nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (edrychwch ar Atodiad 1)
- mynd ati i ystyried a fyddai’n briodol pennu amodau ynghylch perfformiad contract er mwyn helpu i gyflawni tri nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Ein Polisi Caffael
Mae Datganiad Polisi Caffael Cymru (WPPS) yn gosod y weledigaeth strategol ar gyfer caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n helpu i ddiffinio ein cynnydd yn erbyn y nodau llesiant rydym yn ceisio eu cyflawni ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan roi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth galon yr holl benderfyniadau caffael i’n helpu ni i greu’r ‘Gymru a Garem’. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau ein bod ni’n atal problemau ac yn meddwl am y tymor hir, gan fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i sicrhau llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.
Mae Datganiad Polisi Caffael Cymru yn cynnwys deg egwyddor allweddol y dylai holl sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru lynu wrthynt wrth gyflawni eu gweithgarwch caffael.
Mae Deddf Caffael 2023, a ddaeth i rym ar 24 Chwefror 2025, yn cynnwys gofyniad i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru gynllunio eu prosesau caffael mewn ffordd sy'n helpu i sicrhau bod blaenoriaethau polisi caffael Cymru’n rhan annatod o swyddogaethau a gweithgarwch caffael unrhyw sefydliad.
Mae Deddf Caffael 2023 hefyd yn caniatáu gweithdrefnau mwy hyblyg ac yn annog ystyried ffactorau y tu hwnt i'r pris isaf yn unig, fel gwerth cymdeithasol, arloesi a chynaliadwyedd. Nid yw tendrau'n cael eu hasesu mwyach ar sail y Tendr Mwyaf Manteisiol yn Economaidd ond ar sail y Tendr Mwyaf Manteisiol, gan felly ddileu'r meini prawf ‘economaidd’ a chaniatáu mwy o flaenoriaeth i werth cymdeithasol.
Yn ogystal, mae Adran 24 Deddf Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael (Cymru) 2023 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau contractio i sicrhau canlyniadau sy'n gyfrifol o safbwynt cymdeithasol drwy brosesau caffael sy’n rhoi lle canolog i waith teg a gwerth cymdeithasol, yn hytrach na chanolbwyntio ar sicrhau arbedion ariannol yn unig.
Mae nifer o ffactorau pwysig wedi'u gwreiddio yn y darnau hanfodol hyn o ddeddfwriaeth sy'n dylanwadu ar weithredu ystyriaethau cydraddoldeb, fel:
- sicrhau bod polisïau allweddol, fel gwerth cymdeithasol, yn cael eu cynnwys mewn contractau
- symleiddio’r broses gaffael a dileu neu leihau rhwystrau i gyflenwyr
- sicrhau bod cydraddoldeb yn cael sylw priodol yn y cam dewis cyflenwr
- gwella tryloywder drwy hysbysebu cyfleoedd contract drwy wefan GwerthwchiGymru
- cynhyrchu piblinell gaffael i roi rhybudd ymlaen llaw i gyflenwyr baratoi ar gyfer cyfleoedd tendro sydd ar y gweill
Ar ben hyn, mae Cymru’n cydweithio i fynd i’r afael â’r risgiau o gaethwasiaeth, ac i hyrwyddo cyflogaeth foesegol yng nghadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus. Adeg yr adroddiad hwn, roedd dros 980 o sefydliadau wedi ymrwymo i’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Mae’r llofnodwyr yn cynnwys 79 o gyrff yn y sector cyhoeddus, 564 o sefydliadau yn y sector preifat, ac 24 o fudiadau yn y trydydd sector sy’n dod o amrywiaeth eang o farchnadoedd gwahanol.
Prif ffrydio ac ymwreiddio cydraddoldeb ym maes caffael: canlyniadau
Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn gwario tua £700m ar nwyddau, gwaith a gwasanaethau sy’n cael eu caffael yn allanol. Bu tîm Masnachol Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r sector busnes i ymwreiddio Dyletswyddau Cydraddoldeb Cymru yn ein contractau, drwy wneud y canlynol:
- Rhoi’r Asesiad Risg Cynaliadwyedd ar waith ar gyfer holl gontractau Llywodraeth Cymru sydd dros £25,000, gan sicrhau bod dyletswyddau cydraddoldeb yn cael eu hystyried, bod camau’n cael eu cymryd mewn contractau pan fydd hynny’n briodol, a bod Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael ei gynnal.
- Defnyddio cymalau Budd i’r Gymuned mewn contractau priodol i sicrhau cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth i bobl ddifreintiedig, a thargedu cefnogaeth addysgol gan ein cyflenwyr ar draws cymunedau yng Nghymru.
- Ymrwymo i’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, a mabwysiadu’r arferion gorau yn ein prosesau caffael.
- Adolygu ein dogfennau safonol i sicrhau bod manylebau a dogfennau contract yn bodloni’r arferion gorau.
Pennod 5: edrych tua'r dyfodol
Yn y bennod hon byddwn yn ystyried rhai o'r datblygiadau a'r ymyriadau mwy diweddar rydym wedi bod yn gweithio arnynt. Rydym wedi rhoi enghreifftiau, ond nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr o'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol 2025-2029 ar 16 Mehefin 2025, gan amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol mewn dull cyflawni cyfun newydd.
Mae Cynllun 2025 i 2029 yn cyflawni ar alwadau gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (a rhanddeiliaid eraill) yn Adroddiad Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru 2021, i integreiddio polisi cydraddoldeb a hawliau dynol. Roedd yr alwad am ddull gweithredu mwy integredig hefyd yn nodwedd o'r ymgynghoriad ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft.
Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol 2025 i 2029
Rydym yn cydnabod y berthynas bwysig rhwng cydraddoldeb a hawliau dynol wrth ddatblygu polisi a gwneud penderfyniadau. Credwn fod cydraddoldeb yn egwyddor ac yn ganlyniad i barchu, amddiffyn a chyflawni hawliau dynol yn effeithiol. Bydd ymgorffori hawliau dynol yn ein gwaith yn cryfhau ac yn hyrwyddo tegwch i bawb.
Mae hefyd angen newid systemig a diwylliannol er mwyn gwreiddio dulliau cydraddoldeb a hawliau dynol yng ngwaith Llywodraeth Cymru, a bydd hynny’n cymryd amser. Drwy ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol a nodir yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn, a'n Datganiad Hawliau Dynol, byddwn yn cyflwyno fframwaith cydlynol ar gyfer cynllunio a darparu.
Bydd y fframwaith hwn yn sail i'n cynlluniau ymyrryd unigol (nodweddion gwarchodedig penodol a thu hwnt) ac yn sicrhau eu bod yn cyfrannu at ein hamcanion cyffredinol, gan dargedu camau gweithredu lle gall gael yr effaith fwyaf.
Bydd hyn yn darparu sail ar gyfer gweithgarwch prif ffrydio ehangach ac yn galluogi cyfathrebu mwy cydlynol â rhanddeiliaid allanol ar agendâu cydraddoldeb a hawliau dynol Llywodraeth Cymru.
Y weledigaeth: ein nod hirdymor i Gymru
"Mae Cymru'n wlad sy'n seiliedig ar degwch, cynhwysiant ac atal gwahaniaethu, trwy gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol."
Ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol 2024 i 2028
- 1: Byddwn yn creu Cymru lle mae pawb yn cael cyfleoedd i ffynnu yn unol â'n nod sefydliadol i leihau tlodi.
- 2: Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb fod yn ymwybodol o'u hawliau dynol, lle cânt eu diogelu, eu hyrwyddo a lle maent yn sail i bob polisi cyhoeddus.
- 3: Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb fod yn ymwybodol o wasanaethau cyhoeddus o safon uchel a chael mynediad cyfartal atynt.
- 4: Byddwn yn creu Cymru sy'n atal gwahaniaethu, erledigaeth, aflonyddu, cam-drin, troseddau casineb a/neu fwlio yn erbyn pawb.
- 5: Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb o'r amrywiaeth lawn o gefndiroedd gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, cael eu lleisiau wedi'u clywed, a gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu mewn swyddi arwain.
- 6: Byddwn yn creu Cymru â chyfleoedd teg a chyfartal i gael swydd ac sy'n sicrhau triniaeth deg a chyfartal yn y gweithle, gan gynnwys cyflog ac amodau teg.
- 7: Byddwn yn creu Cymru sy'n amgylcheddol gynaliadwy gyda'r gallu i sicrhau bod ein taith i sero net yn deg a'n bod yn ymateb i effeithiau annheg newid yn yr hinsawdd.
Mae ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol a'n dull hawliau dynol yn drawsbynciol a bydd angen gweithredu ar draws holl feysydd polisi Llywodraeth Cymru. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'r cynlluniau gweithredu presennol yn nodi'r camau gweithredu sy'n targedu meysydd gwaith penodol neu grwpiau o randdeiliaid lle mae'r rhain yn fwyaf tebygol o sbarduno newid. Bydd cyflawni'r cynlluniau penodol hyn yn cyfrannu at gyflawni'r Nod Hirdymor i Gymru, gan gefnogi dull hawliau dynol.
Hawliau dynol
Mae hawliau dynol yn sylfaenol i sicrhau urddas, rhyddid a chydraddoldeb i bob unigolyn, gan ffurfio sylfaen cymdeithasau cyfiawn, teg a democrataidd. Gan gydnabod y rhyng-gysylltiad rhwng cydraddoldeb a hawliau dynol, ochr yn ochr â chyflawni ein Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol i Gymru, mae Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol 2025 i 2029 yn cynnwys y Datganiad Hawliau Dynol canlynol:
Mae hawliau dynol yn hawliau sy'n eiddo i bawb. Byddwn yn parchu, yn diogelu ac yn cyflawni ein dyletswyddau hawliau dynol a chydraddoldeb fel y gall pawb yng Nghymru fyw eu bywydau gydag urddas, rhyddid, diogelwch a heb wahaniaethu. Rydym yn ymrwymo i ddull o weithredu hawliau dynol sy'n rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn, gan wella lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Ein nod yw bod 'dull o weithredu ar hawliau dynol' yn cael ei ymgorffori ar draws holl feysydd polisi Llywodraeth Cymru. Byddwn yn gwneud hyn drwy weithredu'r camau rydym wedi cytuno i'w cymryd mewn ymateb i Adroddiad Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru 2021, a thrwy gymryd camau i gefnogi hawliau dynol mewn cynlluniau cydraddoldeb penodol.
Byddwn yn parhau i gynnal ein rhwymedigaethau mewn perthynas â chyfraith hawliau dynol ryngwladol, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, y Confensiynau i Ddileu Gwahaniaethu ar sail Hil a Gwahaniaethu yn erbyn Menywod, a'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn, yn ogystal â'r holl rwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol rhwymol eraill yng Nghymru.
Datblygu’r cynllun hawliau pobl anabl
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hybu hawliau pobl anabl ac i sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cynnwys ac yn gallu cymryd rhan ym mhob cymuned yng Nghymru. Rydym am wneud Cymru’n lle cynhwysol a hygyrch i bobl anabl; cymdeithas lle gall pobl anabl gymryd rhan heb gyfyngiadau a chael eu grymuso i fyw bywyd llawn, lle mae eu hawliau unigol a chyfunol yn cael eu cydnabod a’u cynnal, a lle mae eu cyfraniad yn cael ei gydnabod.
Ar 15 Mai 2025, lansiodd Llywodraeth Cymru Ymgynghoriad i lywio'r gwaith o ddatblygu dulliau gweithredu i wella bywydau pobl anabl yng Nghymru, ac mae’r ymgynghoriad bellach wedi cau. Mae'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl Drafft yn fframwaith trawslywodraethol 10 mlynedd o hyd sy'n ceisio sicrhau bod pobl anabl yn gallu ffynnu fel aelodau cyfartal o gymdeithas Cymru, a herio gwahaniaethu a rhagfarn.
Mae’r cynllun wedi’i strwythuro yn erbyn pedwar maes gweithredu cyffredinol, sy’n cyd-fynd ag un o’r saith Nod Llesiant Cenedlaethol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: yr hanfodion:
- Cymdogaethau a lleoedd.
- Cyflogaeth, incwm ac addysg.
- Byw’n annibynnol.
- Cyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol.
Ar gyfer pob un o’r meysydd gweithredu hyn, mae’r cynllun arfaethedig yn nodi ein huchelgeisiau a’r canlyniadau cyffredinol rydyn ni am eu gweld dros y deg mlynedd nesaf. Mater i lywodraethau’r dyfodol fydd ystyried y canlyniadau a’r ffordd orau o’u cyflawni dros y cyfnod hwn. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud cynnydd sylweddol i gyflawni rhai o’r uchelgeisiau cyffredinol.
Atodiad 1: Amcanion Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024
Mae ein Hamcanion Cydraddoldeb yn cryfhau ein hymdrechion i fodloni tri gofyniad y ddyletswydd gyffredinol ac yn ein helpu i weithio tuag at Gymru sy’n fwy cyfartal. Maent yn amlinellu ein hymrwymiad i ddileu’r rhwystrau sy’n cyfyngu ar gyfleoedd a dyheadau. Maen nhw’n ceisio mynd i’r afael ag anghydraddoldebau hirdymor, sydd wedi’u sefydlu’n ddwfn, ac sy’n aml yn pontio’r cenedlaethau ar gyfer y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Roedd Amcanion Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru 2020 i 2024 fel a ganlyn (mae crynodeb o'r cynnydd ar bob Amcan yn Atodiad 2):
Nod hirdymor 1: dileu anghydraddoldeb sy’n deillio o dlodi
Amcan Cydraddoldeb 1 Llywodraeth Cymru: erbyn 2024, byddwn yn gwella canlyniadau ar gyfer y rheini sydd fwyaf mewn perygl o fyw ar aelwydydd incwm isel, yn enwedig y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig, drwy liniaru effaith tlodi, gwella cyfleoedd a lleihau’r anghydraddoldebau y mae’r rheini sy’n byw mewn tlodi yn eu hwynebu.
Mesurir drwy: amrywiaeth o ddata, gan gynnwys data sy’n ymwneud â Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog (HBAI)]
Nod hirdymor 2: mesurau amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol cryf a blaengar i bawb yng Nghymru
Amcan Cydraddoldeb 2 Llywodraeth Cymru: erbyn 2024, byddwn yn cwblhau ymchwiliadau i ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru sicrhau fframwaith cydraddoldeb a hawliau dynol integredig sy’n hyrwyddo canlyniadau a chyfle cyfartal ac sy’n gallu helpu i ddileu gwahaniaethu ar gyfer pob grŵp o bobl sydd ag un neu ragor o nodweddion gwarchodedig
Mesurir drwy: waith y Grŵp Llywio Hyrwyddo a Chryfhau Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Nod hirdymor 3: bydd anghenion a hawliau pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig yn flaenllaw yn y broses o gynllunio a darparu pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru
Amcan Cydraddoldeb 3 Llywodraeth Cymru: er mwyn gweithio tuag at feithrin cyfle cyfartal a chanlyniadau i bawb yng Nghymru, byddwn yn parhau i sicrhau bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru ym mhopeth a wnawn, ac yn gweithio i annog sefydliadau eraill yn y Sector Cyhoeddus i ddilyn ein hesiampl. Drwy fabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar ddileu rhwystrau sy’n atal pobl rhag cyflawni eu potensial (gan gynnwys, er enghraifft, cyflog cyfartal, neu ddilyn esiampl y Model Cymdeithasol o Anabledd), byddwn yn creu polisïau a gwasanaethau gwell i bawb.
Mesurir drwy wella trefniadau adrodd ar Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a newidiadau i reoliadau penodol i Gymru.
Nod Hirdymor 4: bydd Cymru’n arwain y byd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae Cymru sy’n gyfartal o ran rhywedd yn golygu rhannu pŵer, adnoddau a dylanwad yn gyfartal rhwng pob menyw, dyn a phobl anneuaidd
Amcan Cydraddoldeb 4 Llywodraeth Cymru: byddwn yn dechrau cyflawni gweledigaeth ac egwyddorion yr Adolygiad o Gydraddoldeb rhwng y Rhywiau.
Mesurir drwy: ddatblygu’r Adroddiad a’r Map ar gyfer ymgorffori egwyddorion ffeministaidd ar draws Llywodraeth Cymru.
Nod hirdymor 5: dileu cam-drin, aflonyddu, troseddau casineb a bwlio sy’n seiliedig ar hunaniaeth
Amcan Cydraddoldeb 5 Llywodraeth Cymru: erbyn 2024, byddwn yn sicrhau bod dioddefwyr sy’n dioddef cam-drin, aflonyddu, trosedd casineb neu fwlio o ganlyniad i gael un neu ragor o nodweddion gwarchodedig yn cael mynediad at gyngor a chymorth i fyw heb ofn a heb gael eu cam-drin.
Mesurir drwy: fonitro adroddiadau ar droseddau casineb, gwasanaethau a ddarperir gan Gymorth i Ddioddefwyr, cwnselwyr mewn ysgolion, monitro adroddiadau ar fwlio, ymatebion yr Arolwg Cenedlaethol ynghylch ofn troseddau / erledigaeth.
Nod Hirdymor 6: Cymru o gymunedau cydlynus sy’n gydnerth, yn deg ac yn gyfartal
Amcan Cydraddoldeb 6 Llywodraeth Cymru: erbyn 2024, byddwn yn datblygu fframwaith monitro i fesur cynnydd tuag at gydlyniant cymunedol ac yn meithrin cysylltiadau da rhwng pob grŵp, gan adeiladu ar ein polisïau a’n hymyriadau presennol.
Mesurir drwy: fwy o fetrigau yn y Dangosyddion Cenedlaethol ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Dangosyddion Integreiddio’r Swyddfa Gartref.
Nod Hirdymor 7: bydd pawb yng Nghymru yn gallu cymryd rhan mewn bywyd gwleidyddol, bywyd cyhoeddus a bywyd pob dydd
Amcan Cydraddoldeb 7 Llywodraeth Cymru: erbyn 2024, byddwn yn cynyddu amrywiaeth y rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn bywyd cyhoeddus a phenodiadau cyhoeddus, gan edrych ar feysydd lle mae angen cymryd rhagor o gamau gweithredu i sicrhau cydbwysedd gwell o amrywiaeth ymysg y rheini sy’n gwneud penderfyniadau a chanfod ac ymchwilio i ddulliau i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb.
Mesurir drwy: ganran yr unigolion o grwpiau gwarchodedig sy’n cael swyddi gwneud penderfyniadau mewn rolau cyhoeddus a gwleidyddol.
Nod hirdymor 8: bydd y sector cyhoeddus yng Nghymru yn arwain y ffordd fel sefydliadau a chyflogwyr cynhwysol ac amrywiol sy’n dangos esiampl
Amcan Cydraddoldeb 8 Llywodraeth Cymru: erbyn 2024, bydd Llywodraeth Cymru yn gyflogwr sy’n dangos esiampl, gan gynyddu amrywiaeth, chwalu rhwystrau a chefnogi staff o bob cefndir i gyflawni eu potensial, a sicrhau cyfle cyfartal i bawb.
Mesurir drwy: ddata amrywiaeth ym maes cyflogaeth a recriwtio a’r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol.
Atodiad 2: crynodeb o’r cynnydd tuag at amcanion cydraddoldeb
Yn yr Atodiad hwn, cewch ragor o wybodaeth am ddetholiad o weithgareddau sy’n helpu i gyflawni pob un o’r Nodau a’r Amcanion sydd wedi’u nodi yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020-2024, yn ogystal â’r rheini y tynnir sylw atynt ym Mhennod 3 y prif adroddiad. Mae’r enghreifftiau isod yn cynnig cipolwg o weithgarwch y unig, ac nid ydynt yn adlewyrchu’r ystod lawn o gamau a gymerwyd yn ystod y cyfnod hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i barhau i gyflawni yn erbyn yr amcanion a nodir. Mae llawer ohonynt yn ymrwymiadau parhaus a byddant yn parhau y tu hwnt i gwmpas Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024.
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024
Nod Hirdymor 1: Dileu Anghydraddoldeb a Achosir gan Dlodi
Amcan 1: Erbyn 2024, byddwn yn gwella canlyniadau ar gyfer y rheini sydd fwyaf mewn perygl o fyw ar aelwydydd incwm isel, yn enwedig y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig, drwy liniaru effaith tlodi, gwella cyfleoedd a lleihau’r anghydraddoldebau y mae’r rheini sy’n byw mewn tlodi yn eu hwynebu.
Enghreifftiau o Gynnydd
Cynlluniau cyflogaeth
Rydym yn parhau i ddatblygu ymyriadau sy'n cefnogi'r rheini sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur. Rydym hefyd yn gweithio i gefnogi'r rheini sy'n wynebu rhwystrau cymhleth i gyflogaeth sy’n cael eu cynyddu o ganlyniad i fod â nodwedd warchodedig, yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig drwy ein rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol.
Rydym wedi parhau i gynnig cyfleoedd mentora a chymorth dwys, hyfforddiant a phrofiad gwaith sydd wedi galluogi pobl i sicrhau swyddi cynaliadwy fel llwybr allan o dlodi.
Daeth y cynlluniau Cymunedau am Waith a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth, a oedd yn cael eu cefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, i ben ar 31 Mawrth 2023.
Gwelodd Cymunedau am Waith a Mwy gynnydd mewn cyllid yn 2023/24 sydd wedi galluogi Llywodraeth Cymru i barhau i dargedu'r unigolion mwyaf difreintiedig yn y farchnad lafur. Mae nifer yr unigolion sy'n cael cymorth a chefnogaeth i gael gwaith yn cael ei gofnodi drwy adroddiadau allbwn misol.
Mae astudiaethau achos o ddetholiad o brosiectau wedi’u hariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, gan gynnwys manylion ar lefel prosiect am gymorth i grwpiau â nodweddion gwarchodedig ar gael yn Astudiaethau achos o ddetholiad o brosiectau a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, gan gynnwys cymorth i grwpiau â nodweddion gwarchodedig.
Mynediad Cleifion Incwm Isel at Wasanaethau'r GIG
Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i weithio i sicrhau nad yw cleifion ar incwm isel dan anfantais annheg oherwydd costau cael gafael ar driniaeth ddeintyddol, gwasanaethau gofal llygaid y GIG, neu deithio i'r ysbyty dan ofal ymgynghorydd.
Rydym yn disgwyl y bydd y nifer sy'n manteisio ar y Cynllun Incwm Isel a Chredydau Treth y GIG yn aros yn gyson. Wrth i ni barhau i fwrw ymlaen â gwaith arall ar draws Llywodraeth Cymru i godi lefelau incwm ledled Cymru, rydym yn rhagweld y bydd angen i lai o bobl ei ddefnyddio wrth i incwm cyfartalog gynyddu. Byddwn yn parhau i adolygu ei gyllid ac yn gwneud addasiadau yn y dyfodol yn ôl yr angen.
Darperir ystadegau chwarterol ar y nifer sy'n manteisio ar y cynllun gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG, sy'n gweithredu'r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru ac sy'n cael eu hadrodd drwy ystadegau swyddogol blynyddol (Ffi cleifion am Gyrsiau Triniaeth yn ôl bwrdd iechyd lleol, math o glaf a band triniaeth).
Bu gostyngiad graddol yng nghyfran yr oedolion sydd wedi'u heithrio rhag talu ffi claf deintyddol yn ystod y deng mlynedd cyn y pandemig (o 44.6% i 38.5%). Cafodd hyn ei ddilyn gan ostyngiad sydyn yn ystod y pandemig, o 38.5% i 30.9%. Er bod y gyfran wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i lefelau mynediad wella, gan gyrraedd 35.5% yn 2024, nid yw wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig eto.
Gwelliannau Amgylcheddol
Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod gostyngiadau sylweddol mewn llygredd aer ledled Cymru o fudd i iechyd y cyhoedd, i fioamrywiaeth, i’r economi ac i'r amgylchedd.
Bydd cynnydd yn cael ei fesur yn erbyn y gwahanol ymrwymiadau a nodir yn y Cynllun Aer Glân i Gymru a Deddf Ansawdd Aer a Seinweddau 2024, gyda'r nod o wella ansawdd aer i bawb. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu’r canlynol:
- hybu ymwybyddiaeth o’r cynllun cyflawni llygredd aer (i'w gyhoeddi yn 2025) i gynnwys cydraddoldeb fel thema sylfaenol
- targedau a monitro lefelau llygredd aer
Mae'r gwaith o roi camau gweithredu ar waith yn cael ei olrhain a chafodd y cynnydd yn erbyn y Cynllun Aer Glân i Gymru:Awyr Iach, Cymru Iach ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2024. Mae gwaith cenedlaethol i fonitro a modelu ansawdd aer yn dangos y newidiadau a'r tueddiadau hirdymor o ran ansawdd aer yng Nghymru.
Nod Hirdymor 2: Mesurau amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol cryf a blaengar i bawb yng Nghymru
Amcan 2: Erbyn 2024, byddwn yn cwblhau ymchwiliadau i ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru sicrhau fframwaith cydraddoldeb a hawliau dynol integredig sy’n hyrwyddo canlyniadau a chyfle cyfartal ac sy’n gallu helpu i ddileu gwahaniaethu ar gyfer pob grŵp o bobl sydd ag un neu ragor o nodweddion gwarchodedig.
Enghreifftiau o Gynnydd
Gwella canlyniadau i bobl ag anableddau dysgu
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl ag anableddau dysgu drwy sefydlu archwiliad iechyd gofal sylfaenol blynyddol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.
Nod GIG Cymru yw bod o leiaf 75% o'r boblogaeth a nodwyd o bobl ag anableddau dysgu yn cael y gwiriad.
Y nod hirdymor yw gweld gostyngiad yn nifer y marwolaethau cynnar y gellir eu hatal ymhlith y boblogaeth hon.
O ganlyniad i gytundeb contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol 2024-25, mae bellach yn ofynnol i bob practis gadw Cofrestr Meddygon Teulu o bobl ag anableddau dysgu, a chynnig archwiliad iechyd blynyddol i bawb ar y gofrestr honno. Yn y gorffennol, dim ond practisiau penodol oedd yn cynnig yr archwiliadau iechyd hyn, felly mae'r datblygiad hwn yn cefnogi gwell mynediad cyfartal.
Byddwn yn monitro byrddau iechyd wrth iddynt weithio gyda'u practisau meddygon teulu a'u cefnogi i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar yr archwiliadau iechyd hyn ledled Cymru.
Ar ben hynny, rydym yn gweithio gyda phartneriaid sy’n rhanddeiliaid i edrych ar y posibilrwydd o ehangu'r cymhwysedd ar gyfer archwiliadau iechyd anabledd dysgu i blant a phobl ifanc 14-17 oed, er mwyn gwella'r gwaith o ganfod, atal ac ymyrryd yn gynnar mewn materion iechyd posibl ar gyfer y boblogaeth agored i niwed hon.
Cwnsela mewn ysgolion i bobl ifanc
Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i adolygu’r ddarpariaeth cwnsela statudol mewn ysgolion yn ystod 2020 i 2021, gan edrych yn fanylach ar fodelau cyflawni newydd, gan gynnwys ar gyfer y plant iau hynny nad ydynt wedi’u cynnwys yn y cynllun cwnsela eto, er mwyn sicrhau bod anghenion llesiant pawb sydd angen cymorth emosiynol ac iechyd meddwl yn cael eu diwallu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i sicrhau mynediad teg a chyson i bobl ifanc sy'n dod o dan y cynllun statudol presennol ac i sicrhau bod anghenion llesiant emosiynol pob dysgwr (ni waeth beth fo'i oedran) yn cael eu diwallu mewn modd priodol ac amserol.
Mae gan bob awdurdod lleol ddarpariaeth ar waith ar gyfer plant sy'n iau na’r trothwy presennol, sef Blwyddyn 6. Mae gwaith yn parhau i fynd rhagddo i ddatblygu ac annog darparu manyleb gwasanaeth safonol i sicrhau bod cysondeb a darpariaeth gyfartal ledled Cymru.
Gosododd Llywodraeth Cymru gyfres o gerrig milltir cyflawni i adrodd yn eu herbyn gan gynnwys tystiolaeth yn dangos sut y cyflawnwyd y cerrig milltir cyflawni drwy adroddiadau gan awdurdodau lleol yn erbyn y cyfrifoldebau statudol presennol.
Mae bwletin blynyddol StatsCymru ar ddarpariaeth Cwnsela ar gyfer plant a phobl ifanc yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth bob blwyddyn.
Nod hirdymor 3: bydd anghenion a hawliau pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig yn flaenllaw yn y broses o gynllunio a darparu pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru
Amcan 3: er mwyn gweithio tuag at feithrin cyfle cyfartal a chanlyniadau i bawb yng Nghymru, byddwn yn parhau i sicrhau bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol i Gymru ym mhopeth a wnawn, ac yn gweithio i annog sefydliadau eraill yn y Sector Cyhoeddus i ddilyn ein hesiampl. Drwy fabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar ddileu rhwystrau sy’n atal pobl rhag cyflawni eu potensial (gan gynnwys, er enghraifft, cyflog cyfartal, neu fabwysiadu’r Model Cymdeithasol o Anabledd), byddwn yn creu polisïau a gwasanaethau gwell i bawb.
Enghreifftiau o gynnydd
Cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus a mynediad at wasanaethau
Mae Cymru o blaid pobl hŷn: Ein strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n heneiddio, yn nodi’r camau y byddwn ni’n eu cymryd i baratoi ar gyfer y dyfodol. Mae’n ystyried nifer o bethau sy’n dylanwadu ar sut rydyn ni’n heneiddio, fel iechyd a gofal cymdeithasol, trafnidiaeth a hyd yn oed y ffordd rydyn ni’n cymdeithasu, yn gweithio ac yn gofalu am eraill.
I gefnogi'r gwaith o roi’r strategaeth ar waith, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu swydd ym mhob awdurdod lleol i ymgysylltu â phobl hŷn ac i weithio tuag at fod yn aelod o Rwydwaith o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-Gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd.
Mae cyllid yn parhau i sbarduno'r gwaith o ddatblygu amrywiaeth eang o fentrau lleol sydd wedi cael eu cynllunio a'u harwain mewn partneriaeth â phobl hŷn. Bedair blynedd ers ei lansio, mae'r Strategaeth wedi gosod Cymru'n gadarn fel rhan o'r ymateb byd-eang i boblogaethau sy'n heneiddio.
Ers 2022, dyrannwyd gwerth £1.1 miliwn y flwyddyn o gyllid wedi'i dargedu i awdurdodau lleol (£50,000 yr un) i weithio tuag at fod yn aelod o Rwydwaith Byd-eang o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-Gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd.
Mae wyth awdurdod lleol yng Nghymru wedi sicrhau aelodaeth a bydd mwy yn eu dilyn yn 2025.
Mae Awdurdodau Lleol yng Nghymru wedi rhannu eu ffigurau sy'n dangos faint o bobl hŷn sydd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau oed-gyfeillgar.
Adeg cyhoeddi'r adroddiad hwn, roedd pedwar awdurdod lleol ar bymtheg wedi ymateb, gan amcangyfrif y canlynol:
- Mae tua 66,500 o bobl hŷn ledled Cymru wedi elwa mewn rhyw ffordd o'r rhaglen oed-gyfeillgar.
- mae dros 33,000 wedi cymryd rhan mewn digwyddiad ymgysylltu wyneb yn wyneb, neu wedi bod mewn digwyddiad o'r fath, gyda 2000 yn rhoi o’u hamser i ymateb i arolwg neu ymgynghoriad
- mae gwybodaeth uniongyrchol gan ddeiliaid y swyddi oed-gyfeillgar wedi cyrraedd 23,000 o unigolion hŷn
Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar y deuddeg mis diwethaf hyd at fis Tachwedd 2024 ac yn tynnu sylw at sut mae buddsoddiad blynyddol cymharol fach o £1.1 miliwn yn helpu i annog datblygu amrywiaeth eang o brosiectau ataliol sy'n cael eu harwain yn lleol ac o fudd i bobl hŷn ledled Cymru.
Nod hirdymor 4: bydd Cymru’n arwain y byd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau
Amcan 4: byddwn yn dechrau cyflawni gweledigaeth ac egwyddorion yr Adolygiad o Gydraddoldeb rhwng y Rhywiau.
Enghreifftiau o gynnydd
Cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus a mynediad at wasanaethau
Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau i bleidiau gwleidyddol ar y canlynol:
- Datblygu, cyhoeddi, gweithredu ac adolygu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer holl etholiadau Cymru
- casglu, crynhoi a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Senedd
Cyhoeddwyd Canllawiau ar amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig ar 31 Mawrth 2025.
Prif nod y canllawiau yw gwella amrywiaeth yng ngwleidyddiaeth Cymru drwy gefnogi pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth a strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant cyn etholiad nesaf y Senedd, gan nodi sut maen nhw'n bwriadu gwella cynrychiolaeth ymysg rhai grwpiau.
Mae tair rhan i'r canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol. Mae Rhannau 1 a 2 o'r canllawiau'n canolbwyntio ar gefnogi pleidiau gwleidyddol i gynllunio ar gyfer amrywiaeth a'i sicrhau yn yr ystyr ehangaf, ar draws sbectrwm eang o nodweddion ac amgylchiadau. Mae Rhan 3 yn rhoi syniadau am yr hyn y gallai pleidiau ddewis meddwl amdano os byddant yn penderfynu cyflwyno cwotâu rhywedd gwirfoddol.
Cyllidebu ar sail Rhyw
Mae cyllidebu ar sail rhyw yn dadansoddi sut mae polisïau a chyllidebau cysylltiedig yn effeithio ar bobl o wahanol rywedd. Nid yw’r dull hwn yn golygu gosod cyllidebau ar wahân ar gyfer menywod a dynion. Yn hytrach, mae'n golygu mynd ati i nodi effeithiau gwariant ar gydraddoldeb rhywedd, gan arwain at benderfyniadau cyllido polisi mwy penodol ac, yn eu tro, at ganlyniadau gwell.
Mae ein cyllideb yn parhau i gael ei llywio gan yr hyn rydym yn ei ddysgu o gynlluniau peilot cyllidebu ar sail rhyw a sut gellir gwreiddio ac ehangu'r gwaith hwn ymhellach yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau yn ein Cynllun Gwella'r Gyllideb ochr yn ochr â'r Gyllideb Ddrafft flynyddol.
Mae Cyllideb Ddrafft 2025 i 2026: asesiad effaith integredig strategol yn dal wedi'i wreiddio mewn asesu effeithiau strategol a chronnus y dewisiadau y mae angen i ni eu gwneud. Mae defnyddio’r dull integredig hwn ac ystyried yr effeithiau croestoriadol yn sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio cyllid lle gall gael yr effaith fwyaf cadarnhaol ac mae’n ein galluogi i gymryd camau i sicrhau ein bod yn lliniaru’r effeithiau uniongyrchol ar bobl a lleoedd, cyn belled â bo modd.
Adroddiad Cyflwr y Genedl 2024
Cyhoeddwyd y chweched rhifyn o adroddiad Cyflwr y Genedl ar 25 Medi 2024. Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar dri maes strategol, sef:
- Menywod yn yr Economi
- Cynrychiolaeth o Fenywod
- a Menywod mewn Perygl
Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod sy'n gyfrifol am gynhyrchu'r adroddiad sy'n dwyn ynghyd ddangosyddion allweddol ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Nod hirdymor 5: dileu cam-drin, aflonyddu, troseddau casineb a bwlio sy’n seiliedig ar hunaniaeth
Amcan 5: erbyn 2024, byddwn yn sicrhau bod dioddefwyr sy’n dioddef cam-drin, aflonyddu, trosedd casineb neu fwlio o ganlyniad i gael un neu ragor o nodweddion gwarchodedig yn cael mynediad at gyngor a chymorth i fyw heb ofn a heb gael eu cam-drin.
Enghreifftiau o gynnydd
Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb
Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ariannu Canolfan Cymorth Casineb Cymru, sy’n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, i gynnig cymorth cyfrinachol ac eiriolaeth am ddim i bawb sy’n dioddef troseddau casineb, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Mae’r cymorth yn cael ei ddarparu dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu ar-lein. Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru hefyd yn cynnig gwasanaeth troseddau casineb cenedlaethol sy’n addas i blant a phobl ifanc.
Mae ein hymgyrch gyfathrebu yn erbyn troseddau casineb, Mae casineb yn brifo Cymru, yn tynnu sylw troseddwyr, neu ddarpar gyflawnwyr, at effaith hynod negyddol eu gweithredoedd ar y dioddefwr ac ar eu bywydau eu hunain, yn ogystal â thynnu sylw at bwysigrwydd gwylwyr o ran sicrhau canlyniad cadarnhaol.
Fe wnaethom gynnal ymgyrch arall o ddigwyddiadau Mae Casineb yn Brifo Cymru ym mis Chwefror 2025, a oedd yn cynnwys hysbysebion radio, digidol a hysbysebion y tu allan i'r cartref. Buom yn gweithio gyda heddluoedd yng Nghymru i nodi ble i dargedu ein gweithgarwch, a datblygwyd yr holl adnoddau gyda mewnbwn gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o droseddau casineb.
Ym mis Tachwedd 2024, fe wnaethom gynnal cynhadledd 'Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb Pŵer Lleisiau Dioddefwyr' ar gyfer ymarferwyr gwasanaethau cyhoeddus. Rhoddodd y gynhadledd gipolwg ar droseddau casineb sy'n seiliedig ar hunaniaeth, wedi'i lywio gan ymchwil fanwl ddiweddar gan Ganolfan Cymorth Casineb Cymru ochr yn ochr â mewnbwn gan aelodau o Fforwm Eiriolaeth Profiad Bywyd.
Dangosodd canlyniadau arolwg Troseddau Casineb, Cymru a Lloegr, 2021 i 2024 ostyngiad o 2% yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar annog dioddefwyr a gwylwyr i roi gwybod am achosion o gasineb.
Nod hirdymor 6: Cymru o gymunedau cydlynus sy’n gydnerth, yn deg ac yn gyfartal
Amcan 6: erbyn 2024, byddwn yn datblygu fframwaith monitro i fesur cynnydd tuag at gydlyniant cymunedol ac yn meithrin cysylltiadau da rhwng pob grŵp, gan adeiladu ar ein polisïau a’n hymyriadau presennol.
Enghreifftiau o gynnydd
Cydlyniant Cymunedol
Mae Rhaglen Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru yn ariannu wyth tîm ledled Cymru i feithrin cysylltiadau da rhwng gwahanol gymunedau a chyda chyrff cyhoeddus. Mae'r Rhaglen yn gweithredu fel cyfrwng i gefnogi cyfranogiad a chynhwysiant mewn penderfyniadau a pholisïau lleol.
Mae gwaith y Rhaglen Cydlyniant wedi bod yn hanfodol i brif ffrydio cydlyniant cymunedol drwy holl waith awdurdodau lleol, drwy hyfforddiant a sicrhau bod ystod eang o leisiau'n cael eu clywed yn ystod y prosesau gwneud penderfyniadau.
Fe wnaeth y Rhaglen Cydlyniant hefyd ddarparu cynllun grantiau bach yn 2024 i 2025. Roedd yn darparu cyllid ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau a chynlluniau cymunedol sy'n dod â phobl at ei gilydd ledled Cymru.
Mae'r timau Cydlyniant yn parhau i fod yn rhan bwysig o ymateb Llywodraeth Cymru i faterion sy'n dod i'r amlwg a materion nad oes modd eu rhagweld sy'n effeithio ar gymunedau yng Nghymru, gan weithio gyda phartneriaid allweddol i fonitro a lliniaru tensiynau cymunedol.
Roedd y Rhaglen yn rhan allweddol o ymateb Llywodraeth Cymru i'r aflonyddwch yn ystod haf 2024, gan gynnwys gweithio gyda'r heddlu a phartneriaid eraill i sicrhau bod cymunedau'n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u hysbysu.
Mae Llywodraeth Cymru yn casglu dangosyddion cydlyniant cymunedol fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Bydd canlyniadau 2024-2025 ar gael yn nes ymlaen yn 2025.
Cymru fel cenedl noddfa
Llywodraeth y DU yn hytrach na Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am loches a mewnfudo. Mae hyn yn golygu nad yw rhai o'r prif ysgogwyr i atal canlyniadau niweidiol, fel gwneud penderfyniadau amserol a da am achosion lloches, ansawdd llety lloches a darparu cymorth cyfreithiol, wedi cael eu datganoli.
Mae angen ymdrech ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, gwasanaethau cyhoeddus Cymru a chymunedau Cymru er mwyn integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn llwyddiannus. Dyna pam y gwnaethom ddatblygu Cenedl Noddfa: Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches yn 2019.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i'r weledigaeth hon, ac wedi ymrwymo i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil mudo, er mwyn helpu ein heconomi a'n cymunedau i ffynnu.
Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, a gafodd ei adnewyddu ym mis Tachwedd 2024, yn cynnwys pennod lawn ar ein gweledigaeth Cenedl Noddfa, gan ddisodli ein Cynllun Cenedl Noddfa blaenorol (2019).
Bydd y 33 cam gweithredu sydd wedi'u cynnwys yn y bennod newydd yn ein galluogi i ganolbwyntio ar gyflawni yn erbyn y materion mwyaf dybryd yn ystod gweddill tymor y Senedd hon. Byddwn yn blaenoriaethu cymorth i'r rhai sydd fwyaf agored i ganlyniadau niweidiol, gan weithio'n agos gyda Llywodraeth newydd y DU i wella'r broses o weithredu cynlluniau lloches ac ailsefydlu yng Nghymru.
Mae ein Gwasanaeth Noddfa Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth a chyngor hanfodol i geiswyr noddfa yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaethau cyfreithiol arbenigol a gwasanaethau i bobl ifanc. Yn ystod 2025 i 2026, rydym yn darparu £840,000 i ariannu Gwasanaeth Noddfa Cymru, sydd hefyd wedi cael ei ymestyn tan 31 Mawrth 2027.
Mae ein Gwasanaeth Symud Ymlaen, a elwir hefyd yn Dai i Ffoaduriaid, yn parhau i gynnig cymorth i ffoaduriaid sydd newydd gael eu cydnabod i ddod o hyd i lety Symud Ymlaen arall a chofrestru gyda banciau a gwasanaethau eraill o fewn 56 diwrnod ar ôl i'r Swyddfa Gartref roi statws ffoadur iddynt. Yn ystod 2025 i 2026, rydym yn darparu £300,000 i'r Gwasanaeth Symud Ymlaen.
Rydym yn parhau i ariannu prosiect Ceisio Noddfa Housing Justice Cymru. Yn ystod 2025 i 2026, dyrannwyd £211,500 i Housing Justice Cymru, sy'n arwain partneriaeth sy'n cynnwys EYST (Abertawe), Home4U (Caerdydd) a'r Gap Centre (Casnewydd) i gefnogi lleoliadau sy’n cael eu lletya er mwyn i'r rheini y gwrthodwyd lloches iddynt yng nghymunedau Cymru gael lloches, sefydlogrwydd a chyngor cyfreithiol. Cynigir y gefnogaeth hon i'r rhai sy'n mynnu eu bod wedi ffoi rhag rhyfel neu erledigaeth. Mae cyngor cyfreithiol diduedd yn galluogi unigolion i ystyried a allant gyflwyno apêl am loches, gwneud cais newydd am loches, neu gymryd rhan ym mhrosesau dychwelyd gwirfoddol y Swyddfa Gartref.
Rydym wedi cynhyrchu gwybodaeth am bob agwedd ar fywyd yng Nghymru ar wefan Noddfa Llywodraeth Cymru. Mae hwn ar gael mewn amrywiaeth o ieithoedd.
Nod hirdymor 7: bydd pawb yng Nghymru yn gallu cymryd rhan mewn bywyd gwleidyddol, bywyd cyhoeddus a bywyd pob dydd
Amcan 7: erbyn 2024, byddwn yn cynyddu amrywiaeth y rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn bywyd cyhoeddus a phenodiadau cyhoeddus, gan edrych ar feysydd lle mae angen cymryd rhagor o gamau gweithredu i sicrhau cydbwysedd gwell o ran amrywiaeth ymysg y rheini sy’n gwneud penderfyniadau a chanfod ac ymchwilio i ddulliau i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb.
Enghreifftiau o gynnydd
Cynnydd rhwng mis Ionawr 2024 a mis Mawrth 2025
- Cynnal a chryfhau’r ffocws strategol: Parhaodd y ddarpariaeth yn unol â nodau'r strategaeth Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru. Er bod y strategaeth wedi dod i ben yn 2023, roedd ei nodau'n dal yn ganolog i weithgarwch penodiadau cyhoeddus drwy gydol y cyfnod adrodd. Roedd gwaith i adnewyddu ac adfer y strategaeth yn mynd rhagddo erbyn mis Mawrth 2025, a chafodd cytundeb y Gweinidog ei gadarnhau yn fuan wedyn. Dechreuodd y gwaith cynllunio hefyd ar gyfer gwerthusiad annibynnol a fyddai’n llywio camau amrywiaeth a chynhwysiant mewn penodiadau cyhoeddus yn y dyfodol.
- Ehangu ymgysylltu â rhanddeiliaid: Fe wnaeth ymarfer mapio rhanddeiliaid nodi sefydliadau sy'n cefnogi unigolion o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol i fod yn barod ar gyfer y bwrdd. Helpodd yr ymgysylltu ag uwch aelodau annibynnol o'r panel i lywio'r ffordd o feddwl ynghylch dulliau asesu cynhwysol a chefnogol.
- Gwell cydweithio ac ymgysylltu: Gwell cydweithio mewnol gan y Grŵp Cyfeirio Cyrff Cyhoeddus a’r Rhwydwaith Cadeiryddion Byrddau. Lansiwyd cylchlythyr chwarterol y Tîm Partneriaeth, ac ategwyd hyn gan ymgysylltu rheolaidd. Rhannwyd canllawiau newydd ar arferion bwrdd cynhwysol â Chadeiryddion Byrddau, gan gynnig camau ymarferol i leihau rhagfarn ddiarwybod, gwerthfawrogi talent amrywiol, a datblygu diwylliannau cynhwysol ar fyrddau.
- Gwell data a sylfaen dystiolaeth well: Rhoddwyd system rheoli achosion newydd ar waith i wella cysondeb wrth gofnodi gweithgarwch penodiadau cyhoeddus. Er bod data amrywiaeth ond yn cael ei gasglu ar adeg gwneud y cais ar hyn o bryd, mae opsiynau ar gyfer gwella tracio cylch oes yn cael eu harchwilio. Mae tair ffynhonnell ddiweddar bellach yn darparu llinell sylfaen gliriach ar gyfer amrywiaeth ar fyrddau:
- data CAIS ar gyfer 2023 i 2024
- adroddiad blynyddol y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus
- adolygiad o Amrywiaeth yng Ngweithlu a Byrddau'r Sector Cyhoeddus yng Nghymru (cyhoeddwyd 2025)
- mae'r rhain yn dangos gwelliannau o ran amrywiaeth ethnig, cydbwysedd rhwng y rhywiau a chynrychiolaeth cyfeiriadedd rhywiol. Fodd bynnag, mae pobl anabl ac unigolion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn dal i gael eu tangynrychioli. Cynhaliwyd arolwg hefyd o allu iaith Gymraeg aelodau presennol o fyrddau i lywio'r gwaith o gynllunio apwyntiadau yn y dyfodol.
- Ymrwymiad parhaus: rydym wedi ymrwymo o hyd i wella tryloywder, mynediad a thegwch mewn penodiadau cyhoeddus. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar gryfhau amrywiaeth, moderneiddio prosesau, a datblygu cymorth wedi'i dargedu i helpu unigolion o gefndiroedd sy'n cael eu tangynrychioli i ennill y sgiliau a'r hyder i wneud cais.
Uchafbwyntiau cyflawni hanesyddol (cyn mis Ionawr 2024)
- Gosododd y Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus (2020 i 2023) weledigaeth glir i wella amrywiaeth ymhlith arweinwyr mewn bywyd cyhoeddus.
- Yn 2021, penododd Llywodraeth Cymru gronfa o 13 uwch aelod panel annibynnol o gefndiroedd amrywiol i eistedd ar baneli recriwtio ar gyfer penodiadau cyhoeddus mawr. Fe wnaeth y dull hwn, y cyntaf o'i fath yn y DU, helpu i gynnwys safbwyntiau ehangach a phrofiad bywyd yn y broses asesu.
- Roedd rhaglenni hyfforddi a mentora peilot, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru rhwng 2021 a 2023, yn canolbwyntio ar gefnogi unigolion anabl a’r rheini o leiafrifoedd ethnig i gael mynediad at rolau ar fyrddau. Roedd y rhain yn cynnwys hyfforddiant cynefino'r bwrdd, datblygu arweinyddiaeth a sesiynau llywodraethu cynhwysol. Mae gwerthusiad interim yn mynd rhagddo i asesu effaith y rhaglenni hyn.
- Fe wnaethom gefnogi mentrau allanol fel y cynllun mentora Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, sy'n cael ei redeg gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, EYST, Anabledd Cymru a Stonewall Cymru, i greu llif cynaliadwy a chynhwysol o bobl sy'n gwneud penderfyniadau yn y dyfodol.
- Roedd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (2022) yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â Chadeiryddion Byrddau i gryfhau arferion data ac arweinyddiaeth wrth-hiliol. Y gwaith hwn oedd y sail i ganllawiau mwy diweddar ar ddiwylliant cynhwysol ar fyrddau a gosod amcanion cydraddoldeb.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau dros y blynyddoedd diwethaf i godi ymwybyddiaeth o benodiadau cyhoeddus a hyrwyddo gwell dealltwriaeth o'r broses ymysg grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli, er bod blaenoriaeth bellach yn cael ei roi i ragor o welliannau.
- Roedd y gweithgareddau cynharach yn cynnwys diweddariadau mewnol i ganllawiau penodiadau cyhoeddus ac ymgysylltu ar gam cam cynnar i wella'r gwaith o gasglu data amrywiaeth, a oedd yn gosod rhywfaint o sylfaeni ar gyfer y diwygiadau presennol.
Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024
Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 ('y Ddeddf') yn diwygio ac yn moderneiddio'r ffordd mae etholiadau'r Senedd ac etholiadau lleol yn cael eu cynnal yng Nghymru, drwy roi ar waith llawer o'r cynigion a nodir yn y Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2022, er mwyn cryfhau atebolrwydd a rheolaeth ddemocrataidd.
Mae'r Ddeddf wedi dechrau bron yn gyfan gwbl, a bydd y darpariaethau terfynol, sy'n ymwneud â Chofrestru Pleidleiswyr yn Awtomatig a drafodir isod) yn dechrau yn ystod y mis nesaf.
Dyma rhai o’r trefniadau a wnaed o dan y Ddeddf:
- Sefydlu'r Bwrdd Rheoli Etholiadol o fewn Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru i gydlynu etholiadau'r Senedd, etholiadau llywodraeth leol, a refferenda datganoledig. Mae hefyd yn gweithredu Llwyfan Gwybodaeth Etholiadau Cymru, ac mae wrthi’n cael ei ddatblygu ar gyfer etholiadau 2026.
- Datblygu a chyhoeddi Canllawiau Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol, gan annog strategaethau a chasglu data i wella cynrychiolaeth, yn enwedig o fenywod.
- Lansiwyd cynllun peilot Grant Amrywiaeth Ymgeiswyr ym mis Medi 2025 gyda'r nod o gefnogi sefydliadau trydydd sector sy'n helpu ymgeiswyr sy'n cael eu tangynrychioli.
- Y gofyniad i Weinidogion Cymru gael cynllun cymorth ariannol ar waith i gefnogi ymgeiswyr anabl. Anabledd Cymru sy’n gweinyddu’r cynllun hwn ac mae'n darparu cefnogaeth wedi’i deilwra i ymgeiswyr unigol.
- Cwblhawyd y cynlluniau peilot ar gyfer Cofrestru Pleidleiswyr yn Awtomatig, a disgwylir gwerthusiad erbyn mis Ionawr 2026.
- Mae'r Comisiwn Etholiadol yn paratoi Codau Ymarfer ar gyllid ymgyrchoedd ac yn adrodd ar fesurau hygyrchedd a gymerwyd gan Swyddogion Canlyniadau.
Cynlluniau Cymorth Ariannol
Daeth y rheoliadau sy'n cyflwyno Rheoliadau Cynllun Cymorth Ariannol Etholiadau Cymru i rym ym mis Gorffennaf 2025. Nod y cynllun yw chwalu rhwystrau a hyrwyddo cyfle cyfartal i bobl anabl. Dyma rai o brif nodweddion y cynllun:
- Gweinyddu Annibynnol: Bydd y cynllun yn cael ei weithredu gan Anabledd Cymru, gan sicrhau ei fod yn ddiduedd ac yn gyfrinachol.
- Y Model Cymdeithasol o Anabledd: Bydd y dull gweithredu hwn yn llywio'r math o gymorth a gynigir, gan ganolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau yn hytrach na diffinio cyfyngiadau.
- Cymorth Cynhwysfawr: O nodi anghenion i ariannu addasiadau a gymeradwywyd, bydd y cynllun yn cynorthwyo ymgeiswyr trwy gydol cyfnod yr etholiad o'r enwebiad i gyhoeddi'r canlyniadau.
Mae’r cynllun, a elwir yn Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig, yn derbyn ceisiadau ers mis Medi 2025 ac mae'n cynnwys:
- Help i nodi'r cymorth angenrheidiol.
- Cymorth i gwblhau ceisiadau.
- Asesiad teg o geisiadau i sicrhau tegwch.
- Darparu cyllid neu wasanaethau cymeradwy.
Cynllun Peilot Grant Amrywiaeth i Ymgeiswyr
Mae Grant Amrywiaeth i Ymgeiswyr yn cael ei dreialu. Mae hyn yn cynnig cyllid i sefydliadau i ddarparu gwasanaethau sy'n cefnogi ymgeiswyr o grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli i sefyll mewn etholiadau datganoledig. Agorodd y cynllun peilot ar 26 Medi a daeth i ben ar 24 Hydref 2025.
Mae'r cynllun hwn yn caniatáu darparu cymorth ariannol uniongyrchol i unigolion, neu’n darparu cymorth ariannol i drydydd partïon sy'n darparu gwasanaethau fel hyfforddiant neu fentora. Mae'r cynllun yn agored i fudiadau trydydd sector sy'n gweithio yng Nghymru (neu sy'n bwriadu gweithio yng Nghymru gan ddefnyddio cyllid grant).
Mae wedi'i anelu at Senedd 2026 ac etholiadau llywodraeth leol 2027, mewn perthynas ag ymgeiswyr presennol ac ymgeiswyr posibl.
Nod Hirdymor 8: bydd y sector cyhoeddus yng Nghymru yn arwain y ffordd fel sefydliadau a chyflogwyr cynhwysol ac amrywiol sy’n dangos esiampl
Amcan 8: erbyn 2024, bydd Llywodraeth Cymru yn gyflogwr sy’n dangos esiampl, gan gynyddu amrywiaeth, chwalu rhwystrau a chefnogi staff o bob cefndir i gyflawni eu potensial, a sicrhau cyfle cyfartal i bawb.
Enghreifftiau o gynnydd
Rydym wedi parhau i weithio i gefnogi'r camau gweithredu a nodir yn Strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu Llywodraeth Cymru: 2021 i 2026.
Ein hamcan cyffredinol, fel y nodir yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru, yw y bydd Llywodraeth Cymru yn gyflogwr sy’n dangos esiampl drwy gynyddu amrywiaeth drwy’r dulliau canlynol:
- mynd i’r afael yn benodol â thangynrychiolaeth pobl anabl a phobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig ar bob lefel o’r sefydliad a thangynrychiolaeth menywod mewn rolau uwch
- chwalu rhwystrau
- cefnogi prentisiaethau o gymunedau amrywiol
- galluogi staff o bob cefndir i gyflawni eu potensial, gan greu cyfle cyfartal i bawb
Mae Adroddiadau Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb Cyflogwyr ar gael yn Adroddiadau cydraddoldeb cyflogwyr Llywodraeth Cymru.
Uchafbwyntiau sefydliadol 2023 i 2024
Mae'r prif gyflawniadau i hyrwyddo ein huchelgeisiau o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cynnwys y canlynol:
- Pecyn allgymorth cynhwysfawr ar gyfer recriwtio rheolwyr llinell a ddatblygwyd i gefnogi'r broses recriwtio a denu ystod eang o ymgeiswyr.
- Cyflwynwyd amcanion perfformiad mesuradwy ar y model cymdeithasol o anabledd a gwrth-hiliaeth ar gyfer yr Uwch Wasanaeth Sifil i gryfhau atebolrwydd.
- Cyflwyno system recriwtio ar-lein newydd (CAIS), sy'n galluogi recriwtio heb weld enwau, gan leihau'r risg o ragfarn ddiarwybod yn y broses recriwtio.
- Digwyddiadau ar-lein i'r holl staff i feithrin dealltwriaeth o niwrowahaniaeth.
- Dathlu Diwrnod Rhwydweithiau Staff ail-lansio rhaglen ddatblygu Aspire ar gyfer cydweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy'n awyddus i ddatblygu eu gyrfaoedd, a ddatblygwyd ar y cyd â'n rhwydwaith staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
- Rydym yn parhau i gydnabod a chefnogi amrywiaeth o ddigwyddiadau i bawb drwy gydol y flwyddyn ar thema Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i godi ymwybyddiaeth.
Atodiad 3: ein dyletswyddau cyfreithiol
Deddf Cydraddoldeb 2010: Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (Deddf 2010) yn disodli deddfau gwrth-wahaniaethu blaenorol ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban, gan eu cyfuno mewn un Ddeddf. Mae’r Ddeddf yn amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu oherwydd:
- oedran
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- priodas a phartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil
- crefydd neu gred
- rhyw
- cyfeiriadedd rhywiol
Gelwir y categorïau hyn yn ‘nodweddion gwarchodedig’.
Mae Deddf 2010 hefyd wedi cyflwyno Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED), sydd â thri nod cyffredinol. Rhaid i’r rheini sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd roi sylw dyledus i’r angen i wneud y canlynol wrth gyflawni eu dyletswyddau:
- dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth ac ymddygiad arall sydd wedi’i wahardd gan y Ddeddf
- hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheini nad ydynt yn ei rhannu
- meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydynt yn ei rhannu
Nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yw sicrhau bod y rhai sy’n ddarostyngedig iddi yn ystyried hyrwyddo cydraddoldeb yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd. I Lywodraeth Cymru, mae hyn yn cynnwys siapio polisïau, gwasanaethau darparu ac mewn perthynas â’n gweithwyr.
Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 (y rheoliadau)
Yng Nghymru, mae’r cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn ddarostyngedig hefyd i ddyletswyddau penodol a geir yn y Rheoliadau. Gelwir y Rheoliadau hyn hefyd yn ddyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru.
Mae ‘awdurdodau rhestredig’ yn cyfeirio at gyrff cyhoeddus a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 19. Pan fyddwn yn cyfeirio at ‘sector cyhoeddus Cymru’ neu rywbeth tebyg, rydym yn cyfeirio at y cyrff hynny a restrir yn yr atodlen ac sy’n ddarostyngedig i ddyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru yn unig.
Nod y dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru yw galluogi Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i gael ei chyflawni’n well. Maen nhw’n gwneud hynny drwy fynnu, er enghraifft, fod amcanion cydraddoldeb yn cael eu cyhoeddi ynghyd ag asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, gofynion ymgysylltu, adroddiadau cynnydd, casglu data a mwy. Rhaid i’r amcanion cydraddoldeb, yn eu hanfod, geisio mynd i’r afael ag anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig â’r naw nodwedd warchodedig a nodir yn Neddf 2010.
Rheoliad 16: adroddiadau gan awdurdodau ar gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol
Mae Pennod 1 yr adroddiad hwn yn cydymffurfio’n rhannol â rheoliad 16 o Reoliadau 2011 Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2010 sy’n darparu ar gyfer y dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru, sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad bob blwyddyn yn nodi sut maen nhw’n cydymffurfio â’r dyletswyddau penodol. Rhaid i'r adroddiad nodi'r camau y mae'r awdurdod wedi'u cymryd i nodi a chasglu gwybodaeth, sut y defnyddiwyd yr wybodaeth honno i gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol, unrhyw resymau dros beidio â chasglu gwybodaeth, unrhyw gynnydd a wnaed i gyflawni pob un o'r amcanion cydraddoldeb, datganiad o effeithiolrwydd a'r wybodaeth y mae'n ofynnol ei chasglu yn unol â Rheoliad 9.
Mae Pennod 1 yn cynnwys nifer o ddatganiadau cynnydd sy’n amlinellu sut rydym yn cydymffurfio â’r dyletswyddau penodol, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud ag ymgysylltu, tystiolaeth ynghylch cydraddoldeb ac asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb.
Mae Rheoliad 16 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau rhestredig ddarparu datganiad blynyddol o’r trefniadau ar gyfer nodi a chasglu gwybodaeth berthnasol ac effeithiolrwydd y camau rydym wedi’u cymryd i gyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad ar wahân yn ymdrin â’r wybodaeth hon erbyn y dyddiad cau statudol ar gyfer ei gyflwyno, sef 31 Mawrth 2019.
Deddf Llywodraeth Cymru 2006
Mae’r ddyletswydd yn adran 77 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau priodol er mwyn helpu i sicrhau bod eu swyddogaethau’n cael eu cyflawni gan roi sylw dyledus i’r egwyddor o sicrhau cyfle cyfartal i bawb. Bob blwyddyn, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad sy'n cynnwys gwybodaeth am y trefniadau hyn a'u heffeithiolrwydd o ran hybu cyfle cyfartal.
Mae’r ddyletswydd hon yn pwysleisio ymhellach y pwysigrwydd y mae Gweinidogion yn ei roi ar brif ffrydio cydraddoldeb yn eu gwaith a sicrhau y rhoddir sylw dyledus i hynny wrth wneud eu penderfyniadau. Mae’r ddyletswydd o dan Ddeddf 2006 yn sicrhau ein bod yn rhoi pwys ar hyrwyddo cydraddoldeb, yn ogystal â chyflawni ein cyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys enghreifftiau ac astudiaethau achos sy’n amlinellu sut rydym wedi arfer ein swyddogaethau gan roi sylw dyledus i'r egwyddor o sicrhau cyfle cyfartal i bawb.
Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol
Rhoddodd Adran 45 o Ddeddf Cymru 2017 bwerau i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i awdurdodau perthnasol ar sut i gyflawni eu dyletswyddau sector cyhoeddus o ran anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol.
Roedd hyn yn golygu cyflwyno Rhan 1, Adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol. Mae'r ddyletswydd yn berthnasol i gyrff cyhoeddus cymwys.
Mae'n mynnu bod cyrff cyhoeddus penodol yn ystyried sut gallai eu penderfyniadau helpu i leihau'r anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol fel ‘penderfynu ar flaenoriaethau a gosod amcanion’.
Diffiniad Llywodraeth Cymru o’r term “anfantais economaidd-gymdeithasol” yw “Byw mewn amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd llai ffafriol na phobl eraill yn yr un gymdeithas”.
Mae’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn sicrhau bod y rheini sy’n gwneud penderfyniadau strategol:
- yn ystyried tystiolaeth ac effaith bosibl drwy ymgynghori ac ymgysylltu
- yn deall barn ac anghenion y rheini y mae'r penderfyniad yn effeithio arnynt, yn enwedig y rheini sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol
- yn croesawu her a chraffu
- yn sbarduno newid yn y ffordd y caiff penderfyniadau eu gwneud a'r ffordd y mae llunwyr penderfyniadau yn gweithredu
Mae amrywiaeth eang o ddeunyddiau ar gael i helpu unigolion a sefydliadau yn y Sector Cyhoeddus, gan gynnwys Cymru sy’n Fwy Cyfartal: Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol ac Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol: canllawiau ac adnoddau i gyrff cyhoeddus.
Atodiad 4: cynnydd sefydliadau’r Sector Cyhoeddus yng Nghymru o ran cyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus: esboniad o nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a’r sefydliadau y mae’r ddyletswydd yn berthnasol iddynt.
Mae’r adran hon yn cyflawni ein dyletswydd i gyhoeddi Adroddiad Gweinidogion Cymru ar Gydraddoldeb bob pedair blynedd, yn unol â rheoliad 17 o Reoliadau 2011, gan amlinellu’r cynnydd y mae awdurdodau perthnasol yng Nghymru wedi’i wneud tuag at gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, a rhagor o gyfleoedd ar gyfer gweithredu cydlynol.
Mae 'awdurdodau perthnasol yng Nghymru’ yn cyfeirio at gyrff cyhoeddus a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 19 Deddf Cydraddoldeb 2010. Pan fyddwn yn cyfeirio at ‘sector cyhoeddus Cymru’ neu rywbeth tebyg, rydym yn cyfeirio at y cyrff hynny a restrir yn yr atodlen ac sy’n ddarostyngedig i Ddyletswyddau Cydraddoldeb penodol i Gymru yn unig.
Fe wnaethom wahodd yr awdurdodau perthnasol yng Nghymru i ddarparu adborth ar eu profiadau wrth weithredu tri nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn eu sefydliadau, gan gydnabod yr ystod eang o ran maint, adnoddau a natur eu swyddogaethau.
Eleni, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru yn cynnal ei ymchwil ei hun i fesur cydymffurfiad â gofynion cyfreithiol a sefydlu a yw Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn cael ei defnyddio i fwrw ymlaen â chamau i wneud Cymru’n wlad fwy cyfartal.
Er mwyn osgoi dyblygu gwaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn y maes hwn, nid ydym wedi cynnwys disgrifiad cynhwysfawr o’r holl weithgarwch cydymffurfio. Yn hytrach, rydym wedi rhoi trosolwg sy’n tynnu sylw at arferion da ar draws sampl ar hap o waith Awdurdod Cymraeg Perthnasol.
Mae awdurdodau perthnasol yng Nghymru yn ddarostyngedig i ofynion adrodd statudol Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru ac, oherwydd hynny, mae’n ofynnol iddynt gyhoeddi adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb. Mae gwybodaeth fwy manwl ar gyfer y cyrff hyn ar gael ar eu gwefannau fel arfer.
Sefydliadau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Mae gweinidogion Cymru, fel mater o drefn, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy’n cael ei wneud i gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy’n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i gyflawni eu dyletswyddau. Mae’r rhain yn cynnwys:
Llywodraeth Cymru
- Prif Weinidog Cymru
- Gweinidogion Cymru
- Y Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru
Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru
- Cyngor Celfyddydau Cymru
- Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Amgueddfa Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cymwysterau Cymru
- Chwaraeon Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
Byrddau iechyd lleol
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Ymddiriedolaethau’r GIG
Llais: eich llais mewn iechyd a gofal cymdeithasol
Mae Llais Cymru yn gorff annibynnol sydd:
- yn ymgysylltu ag aelodau o'r cyhoedd
- yn cynrychioli llais pobl i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol
- yn darparu eiriolaeth a chymorth cyfrinachol am ddim ar gyfer cwynion
Llywodraeth leol
Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerdydd
- Sir Gaerfyrddin
- Caerffili
- Ceredigion
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Ynys Môn
- Merthyr
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg
- Wrecsam
Mae 4 partneriaeth ranbarthol neu gydbwyllgor Corfforedig, lle mae sefydliadau llywodraeth leol wedi dewis cydweithio er budd pawb.
- Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru
- Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru
- Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain Cymru
- Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru
Er eu bod yn dod o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, nid oes ganddynt wefan eu hunain. Gellir cael gwybodaeth am eu gweithgareddau drwy gysylltu ag awdurdodau lleol perthnasol.
Awdurdodau tân ac achub
- Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
- Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Awdurdodau parciau cenedlaethol
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Cyrff Addysgol
- Cyngor Gweithlu Addysg Cymru (Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru gynt)
- Estyn Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
- Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
- Cymwysterau Cymru
Awdurdodau cyhoeddus eraill
- Archwilio Cymru
- Archwilydd Cyffredinol Cymru
- Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
- Gofal Cymdeithasol Cymru
- Awdurdod Cyllid Cymru
Comisiynwyr Cymru
Prifysgolion Cymru
- Prifysgol Aberystwyth
- Prifysgol Bangor
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Prifysgol Caerdydd
- Prifysgol Abertawe
- Prifysgol De Cymru
- Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
- Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Sefydliadau Addysg Bellach
- Coleg Pen-y-bont ar Ogwr
- Coleg Caerdydd a’r Fro
- Coleg Cambria
- Coleg Gwent
- Coleg Sir Gar
- Coleg y Cymoedd
- Coleg Gŵyr Abertawe
- Grŵp Llandrillo Menai
- Grŵp Colegau NPTC
- Coleg Sir Benfro
- Coleg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant - Caerdydd
- Y Coleg Merthyr Tudful
Sefydliadau y DU sy’n gwasanaethu Cymru a Lloegr
Sefydliadau trawsffiniol (ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr): awdurdodau trawsffiniol Cymru
- Asiantaeth yr Amgylchedd
- Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG
- Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG
- Y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr
Mae nifer o sefydliadau yn y DU yn gweithredu yng Nghymru nad ydynt wedi’u cynnwys yn adroddiad gweinidogion Cymru gan eu bod yn gweithredu ar lefel y DU.
Cynnydd a chyflawniadau allweddol
Mae cyflwyno Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru wedi helpu i ddatblygu'r agenda cydraddoldeb yng Nghymru. Bydd gan bob Awdurdod Perthnasol yng Nghymru ei Gynlluniau Cydraddoldeb Strategol eu hunain sydd i'w gweld ar eu gwefannau eu hunain. Rydym wedi cynnwys enghreifftiau a roddwyd i ni gan Awdurdodau Perthnasol yng Nghymru.
Mae'n amlwg bod llawer iawn o gynnydd wedi'i wneud ar draws sefydliadau'r Sector Cyhoeddus yng Nghymru o ran gweithredu gofynion Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ac o ran gwreiddio ei egwyddorion yn eu gwaith o ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru o ddydd i ddydd. Mae hyn yn rhywbeth i’w groesawu. Rydym yn glir yn ein dymuniad i weld y momentwm a enillwyd yn parhau ar draws ein nodau cyffredin.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Mae adroddiad blynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn tynnu sylw at sut maen nhw'n cyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (y “ddyletswydd gyffredinol”).
Mae Adroddiad Blynyddol llawn Cynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent 2024-25 ar gael yn yr adran Cydraddoldeb ym Mlaenau Gwent. Fel ciplun yn yr adroddiad hwn, rydym wedi canolbwyntio ar Amcan 6 Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn unig: Amcan Cydraddoldeb 6 Byddwn yn ymdrechu i leihau'r anghydraddoldeb a achosir gan dlodi.
Crynodeb o'r hyn sydd wedi'i wneud
Hybiau cymunedol
Mae ein hybiau cymunedol yn cynnig amrywiaeth o gymorth ac arweiniad i unigolion sy'n wynebu heriau ariannol neu rwystrau digidol sy'n eu hatal rhag cael gafael ar wasanaethau angenrheidiol. Maen nhw'n darparu taliadau dewisol ar gyfer costau byw, cymorth rhent i oedolion hŷn a phobl anabl, ac yn helpu gyda gwiriadau cymhwysedd ar gyfer gostyngiadau'r dreth gyngor, sydd o fudd i bobl sydd â namau meddyliol neu gorfforol, i ofalwyr, ac i'r rheini sydd ar incwm isel. Yn ogystal, gall teuluoedd â phlant gael cymorth drwy grantiau gwisg ysgol.
Mae'r hybiau'n fannau lle gall pobl gael help mewn llyfrgelloedd lleol sydd ar gael ym mhob cwm. Rhwng 1 Ionawr 2024 a 31 Rhagfyr 2024, mae'r hybiau wedi cefnogi 6,881 o bobl. Y prif resymau pam roedd pobl yn ymweld â'r canolfannau oedd i gael cymorth â budd-daliadau, bathodynnau glas, y dreth gyngor a thalebau tanwydd. Ystyrir bod yr hybiau'n hanfodol er mwyn i breswylwyr gael yr help sydd ei angen arnynt mewn mannau sy'n hawdd eu cyrraedd.
Cefnogaeth i bobl sy'n gadael gofal
Mae Grant Plant a Chymunedau Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth hanfodol i bobl sy'n gadael gofal yr effeithiwyd yn andwyol arnynt gan yr argyfwng costau byw, neu sy'n wynebu pwysau gormodol yn ei sgil.
Yn 2024 yn unig, cafwyd 110 o geisiadau unigol am gyllid i helpu gyda cholli incwm, cyflenwadau bwyd, biliau'r cartref, a chostau byw hanfodol eraill, gan gynnwys sicrhau trefniadau tenantiaeth. Mae'r grant hwn wedi bod yn hanfodol i helpu pobl ifanc sydd yng ngofal awdurdod lleol neu sydd wedi bod yn eu gofal i fanteisio ar gyfleoedd sy'n arwain at fywydau annibynnol a llwyddiannus.
Mae defnydd hyblyg yn cael ei wneud o'r gronfa, ac rydym yn annog y tîm 14 oed a hŷn i gydweithio â'r plant a'r bobl ifanc ynghylch ei defnyddio. Mae'r dull cydgynhyrchiol hwn yn sicrhau bod y cymorth a ddarperir yn cyd-fynd â'u canlyniadau personol, gan leihau'r rhwystrau y maent wedi'u nodi ar gyfer cyflawni eu nodau a'u dyheadau. Rydym wedi ymrwymo o hyd i barhau i gefnogi pobl sy'n gadael gofal mewn ffordd hyblyg, gan eu helpu i ymdopi ag effaith yr argyfwng costau byw a chyflawni eu dyheadau personol a phroffesiynol.
Agwedd economaidd-gymdeithasol yr Asesiad Effaith Integredig
Yn dilyn cynnig y cyngor i gydnabod unigolion sydd wedi cael profiad o ofal fel nodwedd warchodedig, rydym wedi gwneud diwygiadau i'r Asesiad Effaith Integredig o dan Adran 6, Dull Gweithredu ar Hawliau Plant Y Ffordd Iawn.
Mae'r newidiadau hyn yn mynd i'r afael yn benodol ag effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl ein penderfyniadau ar Blant sy'n Derbyn Gofal a Phlant a Phobl Ifanc sydd â phrofiad o ofal.
Mae'r adran wedi'i diweddaru nawr yn cynnwys dadansoddiad manwl o sut mae ein polisïau a'n penderfyniadau'n effeithio ar y grwpiau hyn. Mae hyn yn cynnwys asesu'r manteision posibl, fel gwell mynediad at wasanaethau a chymorth, yn ogystal â nodi unrhyw ganlyniadau negyddol posibl, fel rhwystrau neu heriau anfwriadol.
Drwy ymgorffori safbwyntiau a phrofiadau unigolion sydd â phrofiad o ofal, rydym yn ceisio sicrhau bod ein penderfyniadau'n fwy cynhwysol a chefnogol.
Cynllun Grant Datblygu Bwyd Cymunedol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Mae cyllid grant ar gyfer mentrau bwyd cymunedol lleol wedi bod ar gael yn ystod 2024 i 2025 i wella mynediad at fwydydd iach a chynaliadwy ym Mlaenau Gwent. Mae'r cynllun grant ar gyfer prosiectau sy'n hyrwyddo dull mwy cydlynol o fynd i'r afael ag achosion sylfaenol ansicrwydd bwyd drwy gefnogi mentrau a arweinir gan y gymuned i hyrwyddo bwyta a thyfu'n iach ac yn gynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys prosiectau tyfu, pantris bwyd cymunedol, rhaglenni addysg bwyd fel dosbarthiadau coginio a maetheg.
Cyngor Sir Ceredigion
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn nodi ei fod yn dal wedi ymrwymo i weithredu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, gan gyfeirio at dair cangen Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus:
- Dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth a mathau eraill o ymddygiad sydd wedi’u gwahardd gan y Ddeddf.
- Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r rhai nad ydynt yn ei rhannu.
- Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydynt yn ei rhannu.
Siarter Troseddau Casineb
Ym mis Tachwedd 2022, llofnododd Cabinet Ceredigion Siarter Troseddau Casineb Cymorth i Ddioddefwyr, gan ymrwymo i fynd i'r afael â throseddau casineb, darparu cymorth a gwybodaeth i ddioddefwyr, a chodi ymwybyddiaeth staff a chymunedau o droseddau casineb.
Er mwyn cyflawni'r ymrwymiad hwn, datblygodd Gweithgor Cydraddoldeb Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion gynllun gweithredu 10 pwynt, a oedd yn cael ei gydnabod fel arfer da gan Cymorth i Ddioddefwyr:
- Cynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb ac ar adegau allweddol eraill drwy gydol y flwyddyn.
- Gofyn i Gyngor Ieuenctid Ceredigion am adborth ar adnoddau sydd â'r nod o godi ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc.
- Dosbarthu posteri, taflenni ac adnoddau eraill i ysgolion.
- Darparu hyfforddiant ar droseddau casineb i staff rheng flaen, i reolwyr, i arweinwyr addysg ac i Aelodau Etholedig.
- Annog hyfforddiant ar ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â chasineb ar gyfer staff tai a gweithwyr eraill yn y gymuned.
- Ystyried cynnwys troseddau casineb mewn polisïau presennol ar ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Rhoi taflenni ymwybyddiaeth o droseddau casineb yn adeiladau'r Cyngor.
- Asesu'r angen i ddiwygio polisïau AD i fynd i'r afael â gweithredoedd casineb yn y gweithle.
- Cadw troseddau casineb fel eitem sefydlog ar yr agenda mewn cyfarfodydd monitro tensiwn amlasiantaethol wythnosol.
- Monitro cynnydd i weld a ydym yn gwneud gwahaniaeth.
Rhoddodd Cyngor Sir Ceredigion y cynllun ar waith rhwng mis Mehefin 2023 a mis Ionawr 2024 (mae pwynt gweithredu 10 yn mynd rhagddo) gan gyflwyno tystiolaeth i Gymorth i Ddioddefwyr, a gymeradwyodd Cyngor Ceredigion fel partneriaid cyflawni gweithredol ym mis Chwefror 2024.
Cyfrannodd hyn at waith parhaus i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth ac ymddygiad arall sydd wedi'i wahardd gan y Ddeddf ac i feithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rheini nad ydynt yn ei rhannu.
Ceredigion Oed-Gyfeillgar
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn disgrifio cymunedau oed-gyfeillgar fel lleoedd lle mae pobl hŷn, cymunedau, polisïau, gwasanaethau, lleoliadau a strwythurau’n gweithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth i gefnogi a galluogi pob un ohonom i heneiddio'n dda.
Ym mis Hydref 2022, dechreuodd Cyngor Sir Ceredigion sesiynau ymgysylltu mewn archfarchnadoedd lleol a gyda grwpiau lleol i ofyn 3 chwestiwn:
- Beth sy'n dda am heneiddio yng Ngheredigion?
- Beth sydd ddim cystal am heneiddio yng Ngheredigion?
- Beth allai fod yn well am heneiddio yng Ngheredigion?
Yr adborth o'r digwyddiadau ymgysylltu hynny oedd sylfaen hunanasesiad y Cyngor.
Ym mis Hydref 2023, dathlodd Cyngor Sir Ceredigion Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn. Ym mis Rhagfyr 2023, ymunodd y Cyngor â'r Gymuned Ymarfer Oed-Gyfeillgar, a sefydlwyd gan y Comisiynydd Pobl Hŷn ar gyfer pob Awdurdod Lleol yng Nghymru.
Y Ddyletswydd economaidd-gymdeithasol
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn datgan eu bod yn ymwybodol iawn o ofynion y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol. Mae ei Asesiad Effaith Integredig yn cynnwys adran benodol sy'n egluro beth mae'n ei olygu, ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i swyddogion ystyried yr effaith y gallai polisi arfaethedig ei chael ar bobl sy'n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol.
Mae Cynllun Llesiant Lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion 2023-2028 yn cydnabod mai tlodi yw un o'r heriau mwyaf i'r sir o hyd. Lleihau Credyd Cynhwysol a chostau tai uchel/fforddiadwyedd tai sy'n sbarduno tlodi yng Ngheredigion. Y Cyngor sy’n arwain y gwaith o gydlynu is-grŵp Tlodi'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac mae'n cael ei gadeirio gan ei Hyrwyddwr Cydraddoldeb sydd hefyd yn aelod o'r Cabinet. Mae'r is-grŵp yn dwyn ynghyd bartneriaid perthnasol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a grwpiau penodol yn y trydydd sector i sicrhau bod mynd i'r afael â chaledi a thlodi yn flaenoriaeth i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae'n gweithredu fel llais i'r rheini y mae tlodi a chaledi’n effeithio arnynt yng Ngheredigion ac yn sicrhau bod manteision ac adnoddau i liniaru effaith tlodi yn cael eu casglu a'u rhannu i sicrhau eu bod yn cyrraedd pawb sydd angen cymorth. Mae gwefan y Cyngor, Cymorth Costau Byw - Cyngor Sir Ceredigion yn enghraifft o sut maent yn gwneud hyn.
Enghreifftiau o achos lle mae'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol wedi siapio penderfyniad strategol mewn ffordd sy'n cael effaith gadarnhaol ar leihau anghydraddoldebau canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.
Cynhaliodd y Cyngor Asesiad o'r Farchnad Dai Leol yn 2023 a gadarnhaodd fod problem o ran fforddiadwyedd tai yng Ngheredigion. Oherwydd y gydnabyddiaeth fod tai’n ddrud ac anfforddiadwy i raddau helaeth yn y sir, ychwanegwyd ffactor bandio newydd at ein Polisi Dyrannu Cyffredin. Os bydd ymgeiswyr yn gallu profi eu bod yn gwario mwy na 30% o'u hincwm ar rent, bydd band blaenoriaeth yn cael ei ddyfarnu. Fe wnaeth y Cabinet gymeradwyo’r polisi ym mis Chwefror 2025 eitem 168 ar yr agenda Cyngor Sir Ceredigion.
Cyngor Sir y Fflint
Mae Cyngor Sir y Fflint yn datgan eu bod wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a dileu gwahaniaethu. Mae polisi Amrywiaeth a Chydraddoldeb y Cyngor yn nodi sut y bydd yn dileu gwahaniaethu, yn hyrwyddo cyfle cyfartal ac yn meithrin cysylltiadau da rhwng cymunedau. Mae'r Cyngor hefyd wedi datblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 i fodloni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Mae'r cynllun hwn yn cynnwys amcanion cydraddoldeb a'r camau y bydd y Cyngor yn eu cymryd i'w cyflawni. Mae holl bolisïau amrywiaeth y Cyngor a’u hadroddiadau cysylltiedig ar gael ar dudalennau gwe Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Cyngor Sir y Fflint.
Llwyddiannau allweddol, gan gyfeirio at dair cangen Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus:
- Penderfynodd myfyrwyr o ysgolion uwchradd Sir y Fflint weithio gyda'r Gwasanaeth Ieuenctid i drefnu eu digwyddiad Pride eu hunain i godi ymwybyddiaeth o faterion sy'n wynebu pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT) ac i ddathlu bod yn wahanol. Mae'r digwyddiad hwn bellach yn cael ei gynnal yn flynyddol. Deilliant - datblygu mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth mewn amgylcheddau ysgol a chreu amgylchedd ysgol cynhwysol..
- Mae saith ysgol uwchradd yn cymryd rhan ym mhrosiect Arweinwyr Nawr Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth. Dyma ganlyniadau'r prosiect:
- grymuso pobl ifanc i fynd ati i fod yn wrth-hiliol yn eu cymunedau eu hunain
- creu rhwydwaith hunangynhaliol o ymgyrchwyr gwrth-hiliaeth
- galluogi sgyrsiau tymor hirach parhaus am hiliaeth a gwrth-hiliaeth
- galluogi pobl ifanc i deimlo'n hyderus wrth herio hiliaeth yn eu gofodau eu hunain.
- Gweithiodd Gwasanaeth Ieuenctid a Thîm Chwarae'r Cyngor gyda Thîm Ailsefydlu'r Cyngor i gefnogi Ffoaduriaid a theuluoedd a ailsefydlwyd i gymryd rhan mewn Cynlluniau Chwarae dros yr Haf. Mae'r Timau'n cydweithio i ganolbwyntio ar ganfod a mynd i'r afael â rhwystrau posibl i gyfranogiad er mwyn gwella presenoldeb a chryfhau'r berthynas â theuluoedd. Canlyniadau'r prosiect: Mwy o gyfranogiad mewn gweithgareddau cymunedol, gwella sgiliau Saesneg, mwy o ryngweithio cymdeithasol rhwng teuluoedd wedi'u hailsefydlu a'r gymuned leol gan fod rhieni aros i sgwrsio mewn rhai gweithgareddau.
Camau a gymerwyd i hyrwyddo a datblygu Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol Cymru wrth ddatblygu polisïau a darparu gwasanaethau
Gweithredu
Hyfforddiant: mae hyfforddiant wedi cael ei ddarparu i bob aelod etholedig sy'n eistedd ar bwyllgorau Craffu. Roedd hyn yn cynnwys darparu enghreifftiau o wneud newidiadau i fentrau/prosiectau i gyflawni'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol. (SED). Rhannwyd adnoddau Llywodraeth Cymru gydag aelodau etholedig fel rhan o'r hyfforddiant hwn.
Mae rhagor o hyfforddiant yn cael ei gynllunio i sicrhau bod aelodau etholedig yn cael eu hatgoffa o hyn.
Asesiadau Effaith Integredig: mae templed Asesiad Effaith Integredig y Cyngor yn cynnwys y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol i sicrhau bod awduron yr Asesiadau yn ystyried hyn. Mae is-grŵp Sicrhau Ansawdd Asesiad Effaith Integredig y Bwrdd Cydraddoldeb wedi cael ei sefydlu. Pwrpas y grŵp hwn yw “sicrhau ansawdd Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac Asesiadau o'r Effaith Economaidd-gymdeithasol/Asesiadau Effaith Integredig i gefnogi'r gwaith o wella gwasanaethau a sicrhau eu bod yn bodloni canllawiau a rheoliadau statudol”.
Mae'r grŵp hwn yn gwirio sampl o Asesiadau Effaith Integredig a gwblhawyd ac yn rhoi cyngor/adborth i awduron yr Asesiadau. Mae’r Gwasanaethau Democrataidd yn datblygu proses i sicrhau nad yw adroddiadau ffurfiol yn mynd i Bwyllgorau heb Asesiad Effaith Integredig drafft neu fersiwn derfynol lle bo hynny'n berthnasol.
Enghraifft: mae'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn cynnwys dadansoddiad o Blant sy'n Derbyn Gofal, Tlodi ac Amddifadedd yn eu hadolygiad o bobl ifanc sy'n ymuno â'r system cyfiawnder ieuenctid i ganfod unrhyw anghymesuredd. Mae hyn yn golygu edrych ar godau post plant a phobl ifanc sy'n dod i mewn i'r system cyfiawnder ieuenctid i nodi ardaloedd difreintiedig ac edrych ar ddangosyddion tlodi eraill e.e. yn cael prydau ysgol am ddim, grant gwisg ysgol. Bydd hyn yn helpu i nodi unrhyw gamau penodol y gellir eu cymryd i fynd i'r afael â chanlyniadau anghyfartal oherwydd eu statws economaidd-gymdeithasol. Megis dechrau mae'r prosiect hwn.
Cydraddoldeb anabledd
Mae'r Cyngor yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd achrededig (lefel 2) ac mae wedi ymrwymo i gyflawni lefel 3 (Arweinydd Hyderus o ran Anabledd).
Mae'r Cyngor hefyd yn gweithredu cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr anabl sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.
Mae'r Cyngor yn cyd-gynnal carfan o interniaid drwy Chwilio Prosiect HFT DFN (mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) sy'n rhaglen interniaeth â chymorth ar gyfer oedolion ifanc sydd ag anabledd dysgu neu gyflwr ar y sbectrwm awtistiaeth i sicrhau gwaith parhaol ystyrlon.
Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau
Mae'r Cyngor yn cyhoeddi gwybodaeth flynyddol i’w weithlu am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Fe wnaeth Cabinet y Cyngor gymeradwyo’r adroddiad ar 15 Ebrill 2025. Mae'r adroddiad eglurhaol, a'r atodiadau ar gael drwy glicio ar y ddolen ganlynol.
Cyngor Sir Ynys Môn
Dyma rai enghreifftiau o sut mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi hyrwyddo a datblygu Cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ystod 2024 yn unol â'i amcanion cydraddoldeb a'i
Gynllun Cydraddoldeb Strategol
Addysg: mae Canolfan Addysg y Bont wedi cael statws ‘Enghraifft o Ragoriaeth’ gan yr elusen EQUALS yr ysgol arbennig gyntaf yng Nghymru ac un o ddim ond saith ar draws Prydain
Y gweithle: sefydlwyd grŵp Iechyd a Lles Staff a'i bwrpas yw meithrin diwylliant gwaith cynhwysol a chefnogol, gan hyrwyddo iechyd a lles da i'r holl staff
Safonau byw: wedi sicrhau cyllid gwerth £250,000 i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw
Iechyd a gofal cymdeithasol: Cafodd y Cyngor ei gydnabod fel y Cyngor sy’n Deall Dementia cyntaf yng Ngogledd Cymru
Diogelwch personol: wedi erlyn ‘Twyllwr proffesiynol’ a oedd yn targedu preswylwyr agored i niwed
Cyfranogiad: wedi cyhoeddi arolwg bodlonrwydd tenantiaid - cynhelir arolwg bob dwy flynedd i roi cyfle i denantiaid ddweud eu dweud
Anfantais economaidd-gymdeithasol: mae dangosfwrdd data costau byw ar gael ar ein mewnrwyd i helpu swyddogion a chynghorwyr i wneud penderfyniadau mwy gwybodus
Arferion gweithio: rhannu negeseuon ‘Materion Cydraddoldeb’ misol i godi ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac i ddangos parch at eraill, er gwaethaf ein gwahaniaethau
Dathlu amrywiaeth: Croesawu Balchder Gogledd Cymru i Ynys Môn am y tro cyntaf
Mae llawer mwy o enghreifftiau ar gael ar y dudalen ‘Newyddion’ ar ein gwefan, yn ogystal ag amryw o gyhoeddiadau corfforaethol a chyhoeddiadau gwasanaeth eraill.
Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC)
Mae Cynllun cydraddoldeb strategol Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer 2022 i 2027 ar gael yn Beth rydym yn ei wneud | Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'n cefnogi uchelgeisiau eu Cynllun strategol ehangach ar gyfer 2022 i 2027. Mae hefyd yn ymateb i'r anghydraddoldebau parhaus y gwnaeth pandemig COVID-19 dynnu sylw atynt a'u gwaethygu.
Fe wnaeth Gofal Cymdeithasol Cymru ddatblygu’r cynllun drwy siarad â phobl sy'n defnyddio gofal a chymorth a'u gofalwyr, a gwrando ar bobl sy'n cynrychioli amryw o'r nodweddion gwarchodedig.
Mae pum canlyniad i'r cynllun. Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn gwneud y canlynol:
- gwella'r defnydd o ddata a gwybodaeth am gydraddoldeb
- gweithio gyda chyflogwyr ac arweinwyr ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar i helpu i hyrwyddo cydraddoldeb yn y gwaith
- gweithio i sicrhau bod cydraddoldeb, hygyrchedd a chynhwysiant yn ganolog i'n gwaith o greu gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar sy'n barod yn ddigidol
- cefnogi'r gweithlu drwy hyrwyddo adnoddau a chynigion llesiant, a gwella mynediad atynt
- hyrwyddo cyfleoedd i weithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, i helpu i sicrhau bod y Bwrdd, y staff a’r panel rheoleiddio yn fwy amrywiol a chynhwysol, ac i ehangu eu rhwydweithiau
Diweddariad ar Gynnydd
Er mwyn hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gwella Asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb
Fe wnaeth Gofal Cymdeithasol Cymru werthuso effeithiolrwydd ei broses o asesu'r effaith ar gydraddoldeb ar ôl i Archwilio Cymru gyhoeddi ei adroddiad ‘Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb mwy nag ymarfer blwch ticio’. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi diweddaru ei broses o asesu'r effaith ar gydraddoldeb, wedi darparu hyfforddiant ar draws y sefydliad ac wedi dechrau ar broses o newid diwylliannol yn 2024 i 2025.
Datblygu Safon Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer y Gweithlu
Mae gwella data wedi golygu bod modd cynhyrchu Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu gyda chydweithwyr o Lywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd adroddiad cyntaf Gofal Cymdeithasol Cymru yn 2025. Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu | Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu yn adnodd i helpu i fonitro profiadau pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Dan oruchwyliaeth Llywodraeth Cymru, mae'n dwyn ynghyd ddata am y gweithlu i helpu i dynnu sylw at wahaniaethau rhwng profiadau staff Gwyn, staff Du, staff Asiaidd a staff o leiafrifoedd ethnig. Mae'n cynnwys ffocws ar bedwar maes:
- arweinyddiaeth a chynnydd
- datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) a hyfforddiant
- disgyblaeth a gallu
- bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu
Wedyn, gellir defnyddio'r wybodaeth sy’n cael ei chasglu i gefnogi sefydliadau i gymryd camau i fynd i'r afael â'r materion mwyaf a gwella profiadau gweithwyr ethnig leiafrifol.
Hyfforddi a chasglu gwybodaeth am gyflogaeth
Cynllun hyderus o ran anabledd
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cynnal cam cyntaf y cynllun 'Hyderus o ran Anabledd' eleni ac, er mwyn gwella tegwch yn ei brosesau recriwtio, mae bellach yn rhannu'r holl gwestiynau cyfweliad â darpar ymgeiswyr am swyddi cyn y cyfweliad. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gweld cynnydd bach yn nifer y ceisiadau gan ymgeiswyr anabl gyda 10.29% o ymgeiswyr yn dweud eu bod yn anabl, i fyny o 9.34% yn 2022 i 2023. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd wedi gweld cynnydd amlwg yn nifer yr ymgeiswyr anabl sy’n cael eu penodi, gan bron ddyblu o 6.67% i 12%.
Recriwtio i'r bwrdd
Gan weithio gyda'r tîm penodiadau cyhoeddus yn 2023 i 2024, fe wnaeth Gofal Cymdeithasol Cymru recriwtio 11 aelod newydd o Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'r broses recriwtio sy'n seiliedig ar werthoedd wedi galluogi recriwtio aelodau Bwrdd sy'n adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu, gydag aelodau o wahanol gefndiroedd ethnig, rhyw, oedran a galluoedd corfforol.
Grŵp Cyfeirio Profiad Bywyd
Yn ystod 2024 i 2025, dechreuodd Gofal Cymdeithasol Cymru hysbysebu am grŵp cyfeirio profiad bywyd ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Gofal Cymdeithasol Cymru.
Adolygiad o wrth-hiliaeth mewn rhaglenni gradd gwaith cymdeithasol rheoleiddiedig
Rhwng 2023 a 2024, gofynnodd Gofal Cymdeithasol Cymru i Sefydliadau Addysg Uwch sy'n cynnig rhaglenni addysg gwaith cymdeithasol i fanylu ar eu gwaith ym maes gwrth-hiliaeth.
Roedd hyn yn cynnwys:
- sut mae gwrth-hiliaeth yn cael ei ddysgu mewn rhaglenni gradd gwaith cymdeithasol
- sut mae strwythurau gwrth-hiliol yn cefnogi myfyrwyr gwaith cymdeithasol
Comisiynodd Gofal Cymdeithasol Cymru adroddiad annibynnol hefyd i wneud yn siŵr ei fod yn ystyried lleisiau myfyrwyr yn y rhaglenni gradd gwaith cymdeithasol sy'n cael eu rheoleiddio. Mae hyn wedi helpu i nodi camau gweithredu i ddatblygu uchelgeisiau cydraddoldeb ymhellach mewn rhaglenni gwaith cymdeithasol.
Ymlaen
Yn 2024, cyhoeddodd Gofal Cymdeithasol Cymru
Ymlaen, strategaeth ymchwil, arloesi a gwella ar gyfer gofal cymdeithasol.
Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn thema ganolog. Cynhaliodd Gofal Cymdeithasol Cymru weithdai am gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth a'r Gymraeg i helpu i lunio ei strategaeth. Cynhaliodd Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd grŵp ffocws gyda phobl â phrofiad uniongyrchol o nodweddion gwarchodedig.
Mae'r strategaeth hon yn cefnogi gwaith gan amrywiaeth o bartneriaid i helpu i fynd i'r afael â gwahaniaethu, drwy Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, a chynllun iaith Gymraeg Mwy na Geiriau a gwneud newid mesuradwy i genedlaethau presennol a rhai'r dyfodol.
Monitro iechyd a lles y gweithlu gofal cymdeithasol
Yn 2023 i 2024, cyhoeddodd Gofal Cymdeithasol Cymru ganfyddiadau ‘dweud eich dweud’, yr arolwg cyntaf erioed o'r gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru. Cafwyd ymatebion gan dros 3,000 o weithwyr gofal cymdeithasol (chwech y cant o'r gweithlu cofrestredig).
O’r arolwg hwn:
- Dywedodd bron i hanner (45 y cant) yr ymatebwyr â threftadaeth Ddu, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd eu bod wedi profi gwahaniaethu, o'i gymharu â 21 y cant o'r rheini â threftadaeth Asiaidd a 14 y cant o weithwyr Gwyn.
- Gweithwyr Asiaidd oedd y mwyaf tebygol o ddweud nad oeddent wedi cael unrhyw brofiadau negyddol (73 y cant).
- Roedd y rheini â threftadaeth Gwyn yn fwy tebygol na grwpiau ethnig eraill o ddweud eu bod wedi cael eu bwlio.
- Mae cydberthynas rhwng teimlo bod rheolwyr a chydweithwyr yn eich cefnogi, a pheidio byth â dioddef bwlio, gwahaniaethu nac aflonyddu yn y gweithle (71 y cant). Canfu'r arolwg fod y rheini sy'n teimlo bod eu rheolwyr a’u cydweithwyr ond yn eu helpu a’u cefnogi ‘weithiau’, ‘yn anaml’ neu ‘byth’ yn fwy tebygol o roi gwybod am fwlio (42 y cant), gwahaniaethu (26 y cant) ac aflonyddu (17 y cant).
Mae'r arolwg hwn yn cefnogi Gofal Cymdeithasol Cymru i fynegi lle mae angen gwaith ar draws y sector gofal cymdeithasol i gefnogi tegwch.
Cefnogi Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru Wrth-hiliol
Yn 2023 i 2024, parhaodd Gofal Cymdeithasol Cymru i weithio i gyflawni'r camau gweithredu a nodir yng Nghynllun Gweithredu ar gyfer Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru. Roedd hyn yn cynnwys:
- comisiynu ymchwil i helpu i ddatblygu cynnig arweinyddiaeth ar gyfer pobl o leiafrifoedd ethnig sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol
- datblygu adnodd e-ddysgu gwrth-hiliol ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol
- treialu fframwaith cymhwysedd diwylliannol sy'n adnodd datblygu yn y gweithle i helpu sefydliadau i weithredu arferion da yn y gweithle, gan sicrhau bod gwasanaethau'n deg ac yn gyfartal i bobl Ddu, pobl Asiaidd a phobl Ethnig Leiafrifol yng Nghymru. Fe wnaeth Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd gynhyrchu adroddiad i Lywodraeth Cymru ar botensial y cynllun ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru
- datblygu dull o adolygu'r canllawiau ar gymwysterau blynyddoedd cynnar a gofal plant, gyda chymorth Llywodraeth Cymru
Gweithio gyda chyflogwyr
Cefnogodd Gofal Cymdeithasol Cymru gyflogwyr i ddechrau ar eu taith gwrth-hiliaeth drwy gynnal sesiynau ar wrth-hiliaeth mewn gofal cymdeithasol mewn sioeau teithiol rheolaidd i gyflogwyr
Cynllun Cydraddoldeb Strategol
Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru gynllun cydraddoldeb strategol ar waith sy'n rhedeg o 2022 i 2027 Cynllun cydraddoldeb strategol 2022 i 2027. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd yn darparu adroddiadau ar gynnydd. Ein hadroddiad cydraddoldeb blynyddol:Yr hyn a wnaethom yn 2023 i 2024.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gael yn Cynllun Cydraddoldeb Strategol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Amcanion Cydraddoldeb 2020-2024. Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Bwrdd Iechyd, y cyfeirir ato bellach fel ‘Rydym i gyd yn Perthyn’, yn amlinellu amcanion clir i sicrhau bod gwasanaethau ar gael i bawb a bod arferion cyflogaeth yn deg. Mae'r cynlluniau'n cael eu datblygu drwy ymgysylltu â grwpiau amrywiol gan gynnwys staff a chymunedau, ac maent yn cael eu diweddaru'n rheolaidd ar sail adborth a thystiolaeth, fel adroddiad “A yw Cymru'n Decach” y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Cynnydd a chyflawniadau allweddol
Dileu achosion o Wahaniaethu, Aflonyddu ac Erledigaeth Anghyfreithlon
- Hyfforddiant Stigma Iechyd Meddwl: Cydweithiodd y Bwrdd Iechyd ag Amser i Newid Cymru i ddatblygu modiwlau hyfforddi pwrpasol a oedd yn ceisio herio stigma ynghylch iechyd meddwl a gwahaniaethu ymysg staff y GIG. Roedd y sesiynau hyn yn cynnwys astudiaethau achos go iawn a thrafodaethau ar sail senarios, gwella ymwybyddiaeth staff ac annog myfyrio ar arferion personol.
- Cyfathrebu ynghylch Dim Goddefgarwch a Chymorth: Dosbarthwyd posteri dim goddefgarwch a'u harddangos ar draws safleoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe drwy Iechyd a Diogelwch ynghylch diogelwch staff a chleifion. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cael negeseuon rheolaidd gan eu Prif Swyddog Gweithredol a'u cydweithwyr Gweithredol ynghylch hyn, ynghyd â chyfeirio perthnasol at gymorth. Cafwyd un enghraifft o hyn yn ystod haf 2024, pan anfonodd y Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro neges i gefnogi cydweithwyr a allai fod wedi cael eu heffeithio, gyda'r protestiadau'n cael eu gweld yn genedlaethol drwy gyfeirio at fecanweithiau cymorth perthnasol.
Hyrwyddo Cyfleoedd Cyfartal Rhwng Pobl
- Rhwydweithiau Staff: Mae'r Bwrdd Iechyd yn cefnogi rhwydweithiau staff amrywiol, gan gynnwys y Rhwydwaith Staff Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a Rhwydwaith Staff a Chynghreiriaid LHTDC+ Calon a'r Rhwydwaith Niwroamrywiaeth. Mae'r grwpiau hyn yn cynnig cymorth gan gymheiriaid, yn dathlu amrywiaeth, ac yn gweithio tuag at greu gweithle cynhwysol.
- Optimeiddio: Cydnabod yr angen i gefnogi menywod ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, datblygu a chefnogi ymdrechion i fynd i'r afael â'r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau. Yn 2022, fe wnaethom gynllunio a datblygu ein rhaglen datblygu fewnol i fenywod. Mae'r rhaglen wedi'i hanelu at bob menyw a'r rheini sy'n ystyried eu hunain yn fenywod, o bob gweithiwr proffesiynol a theulu swyddi ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae'r rhaglen yn rhoi amser i bobl ganolbwyntio arnynt eu hunain ac edrych ar ddatblygiad arweinyddiaeth bersonol ymhellach fel carfan. Gan gydnabod y gall fod rhwystrau i gydweithwyr sy'n ystyried eu hunain yn Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ac i gefnogi cyfleoedd i bawb, mae arweinydd y rhaglen wedi gweithio'n agos gyda Fforwm y Mwyafrif Byd-eang ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i sicrhau bod cydweithwyr sy'n ystyried eu hunain yn Ddu, yn Asiaidd ac yn Ethnig Leiafrifol yn cael cymorth i fynychu.
- Mae tîm Ehangu Mynediad, Cydraddoldeb a Gyrfaoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cefnogi'r gwaith o recriwtio a chadw staff yn y Bwrdd Iechyd drwy wahanol ffrydiau gwaith, o brofiad gwaith i ddatblygu talent fewnol ar gyfer staff presennol. Mae ymgysylltu'n cynnwys cysylltiadau â sefydliadau addysg a chymunedau lleol. Mae'r tîm yn ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid allanol amrywiol i rannu'r cyfleoedd a'r mentrau hyn o fewn ôl troed y Bwrdd Iechyd, sy'n agored i bawb. Mae'r tîm wedi cefnogi nifer o bobl o grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli drwy leoliadau sy'n eu cefnogi i ennill profiad drwy hyfforddiant galwedigaethol gyda llawer yn dewis gwneud cais am waith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a chael swyddi parhaol gyda'r Bwrdd Iechyd.
Meithrin Cysylltiadau Da Rhwng Pobl
- Menter Sgwrs Ddiwylliannol: Mae'r Bwrdd Iechyd yn bwriadu ehangu sgyrsiau diwylliannol a gafodd eu dechrau yn wreiddiol i ddeall profiadau Nyrsys a Addysgwyd yn Rhyngwladol a oedd yn ymuno â Bae Abertawe, i ddatblygu sesiynau ymwybyddiaeth o gymhwysedd diwylliannol sy'n dathlu amrywiaeth, hyrwyddo cynhwysiant, ymdeimlad o berthyn a dealltwriaeth ymysg staff.
- Sesiynau Ymwybyddiaeth o'r Menopos a Chaffi Menopos: Mae'r Bwrdd Iechyd yn codi ymwybyddiaeth ac yn addysgu am y Menopos. Mae Caffis Menopos yn ddigwyddiadau cynhwysol ac yn agored i staff o bob rhyw ac oedran, gan roi cyfle i staff gefnogi ei gilydd a rhannu syniadau. Maen nhw'n cael eu cynnal wyneb yn wyneb ar draws safleoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac maen nhw hefyd wedi cael eu cynnal ar-lein. Mae'r caffis wyneb yn wyneb wedi cael eu cynnal dros y pum mlynedd diwethaf ac maen nhw'n cynnig lle diogel i drafod unrhyw faterion a phrofiadau sy'n ymwneud â'r menopos - boed y rheini’n dda neu’n ddrwg. I ategu'r digwyddiadau caffi, mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn cynnal sesiynau Menopos Ystyriol ynghyd â hyfforddiant i Hyrwyddwyr Menopos ac ymwybyddiaeth o'r menopos a'r mislif i Reolwyr.
- Chai a Sgwrs: Mae'r sesiynau "Chai a Sgwrs" a drefnir gan y Bwrdd Iechyd yn rhan o ymdrechion allgymorth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ymgysylltu â chymunedau amrywiol, yn enwedig grwpiau lleiafrifoedd ethnig. Mae'r sesiynau hyn yn ddigwyddiadau anffurfiol, wyneb yn wyneb a’u bwriad yw rhannu negeseuon pwysig am iechyd a lles. Maent yn aml yn cynnwys siaradwyr gwadd sy'n trafod pynciau fel maetheg, sgrinio iechyd, imiwneiddio, a gwasanaethau cymorth lleol.
