Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa i trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.
Ar y dudalen hon
Safon 8: maeth a lles
Llais y plentyn
Dw i'n teimlo bod pobl yn gofalu amdana i ac yn gwrando arna i. Dw i'n teimlo y galla i fod yn fi fy hun.
Deilliant lles
Bod plant yn profi cydberthnasau cynnes, lle ymatebir iddynt, gan feithrin ymdeimlad o berthyn, hyder, lles emosiynol a gwydnwch.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
8.1 Bod gan staff wybodaeth a dealltwriaeth ynghylch Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, a'i oblygiadau i'w gwaith a'u rhyngweithio â'r plant, gan helpu'r plant i ddechrau deall eu hawliau.
8.2 Bod polisïau'r lleoliad a'r gofal a roddir yn hyrwyddo perthynas gynnes rhwng unigolion, ymdeimlad o ddiogelwch, hunan-werth, annibyniaeth a hyder i blant mewn amgylchedd sy'n ymateb iddynt ac yn eu meithrin.
8.3 Y cyfathrebir mewn ffordd gadarnhaol, yr anogir y plant ac y gwrandewir arnynt. Bod y staff yn edrych i lygaid y plant a bod y cyfathrebu ar lefel y plentyn yn gyffredinol.
8.4 Bod y plant yn gallu datblygu hyder a hunan-werth yn y lleoliad.
8.5 Bod y broses ymsefydlu’n briodol ar gyfer plant unigol a’u bod yn cael eu gwahanu oddi wrth eu rhieni neu ofalwyr mewn ffordd sy’n cadw gofid y plant i'r lefel isaf bosibl.
8.6 Bod y babanod a'r plant ifanc iawn yn gallu datblygu ymlyniad i un gofalwr neu nifer fach o ofalwyr rheolaidd.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr
Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried y Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
Rheoliadau cysylltiedig
Mwy o arweiniad a help
- Hawliau plant yng Nghymru.
- Trosolwg Dysgu proffesiynol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau Adnoddau: Hwb.
- Hawliau plant: Gwybodaeth i blant.
- Beth yw hawliau plant: canllawiau i rieni a gofalwyr (gall lleoliadau rannu'r taflenni hyn â rhieni a gofalwyr).
- Adduned i Fabanod yng Nghymru.
- Fframwaith NYTH (iechyd meddwl a lles): cyflwyniad.
- Oedolion yr ymddiriedir ynddynt: Fframwaith NYTH.
- Safer sleep overview: The Lullaby Trust.
- Gofal plant Dechrau’n Deg: canllawiau.
- Ffocws ar chwarae: Sut mae chwarae’n cefnogi iechyd meddwl plant.
