Neidio i'r prif gynnwy
Cynnydd o ran ein blaenoriaethau

Codi safonau yn ein hysgolion

Codi safonau yn ein hysgolion a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu.

Patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd 

Mae’r siartiau hyn yn dangos canlyniadau pob un o’r pedwar asesiad personol: darllen yn Saesneg ac yn Gymraeg, a’r ddau asesiad rhifedd. 

  • Dangosir cynnydd mewn misoedd o’i gymharu â dysgwyr yn 2022 i 2023 
  • Er enghraifft, mae +10 yn golygu bod dysgwyr wedi gwneud tua 10 mis yn fwy o gynnydd na dysgwyr yn 2022 i 2023 
  • Nid yw’r data yn olrhain yr un dysgwyr dros amser 

Eglurhad ynghylch data cyrhaeddiad mewn rhifedd a darllen

Disgrifiad o siart yr asesiad rhifedd: Siartiau llinell sy’n dangos cynnydd yn yr asesiad personol rhifedd (gweithdrefnol) ar gyfer Blynyddoedd 3, 6 a 9, o’i gymharu â blwyddyn academaidd 2022 i 2023. Bu gostyngiad yn y cynnydd rhwng 2018 i 2019 a 2021 i 2022 ar gyfer pob un o’r tri grŵp blwyddyn. Yna bu gwelliant yn y cynnydd, er bod y canlyniadau yn 2024 i 2025 yn is nag yn 2023 i 2024 ar gyfer Blynyddoedd 3 a 6. Arhosodd y cynnydd yn 2024 i 2025 yn is na lefelau 2018 i 2019 ar gyfer pob un o’r tri grŵp blwyddyn. 

Disgrifiad o siart yr asesiad rhifedd (rhesymu): Siartiau llinell sy’n dangos cynnydd yn yr asesiad personol rhifedd (rhesymu) ar gyfer Blynyddoedd 3, 6 a 9, o’i gymharu â blwyddyn academaidd 2022 i 2023. Yn gyffredinol, roedd y newidiadau dros amser yn llai na’r rhai a welwyd yng nghanlyniadau’r asesiad rhifedd (gweithdrefnol). Rhwng 2023 i 2024 a 2024 i 2025, cynyddodd y cynnydd ar gyfer Blwyddyn 9, arhosodd yn gymharol sefydlog ar gyfer Blwyddyn 6, a gostyngodd ar gyfer Blwyddyn 3. 

Disgrifiad o siart darllen Saesneg: Siartiau llinell sy’n dangos cynnydd yn yr asesiad personol darllen Saesneg ar gyfer Blynyddoedd 3, 6 a 9, o’i gymharu â blwyddyn academaidd 2022 i 2023. Yn gyffredinol, bu gostyngiad yn y cynnydd rhwng 2020 i 2021 a 2022 i 2023, cyn iddo gynyddu eto. Roedd y canlyniadau yn 2024 i 2025 yn uwch nag yn 2020 i 2021 ar gyfer pob un o’r tri grŵp blwyddyn. 

Disgrifiad o siart darllen Cymraeg: Siartiau llinell sy’n dangos cynnydd yn yr asesiad personol darllen Cymraeg ar gyfer Blynyddoedd 3, 6 a 9, o’i gymharu â blwyddyn academaidd 2022 i 2023. Bu gostyngiad yn y cynnydd rhwng 2020 i 2021 a 2022 i 2023, cyn iddo gynyddu eto ar gyfer pob un o’r tri grŵp blwyddyn. Erbyn 2024 i 2025, roedd y cynnydd ym Mlynyddoedd 3 a 6 yn uwch nag yn 2020 i 2021, tra bod y cynnydd ym Mlwyddyn 9 yn parhau’n is na lefelau 2020 i 2021. 

Asesiadau ar-lein sydd wedi’u cynllunio i helpu i ddatblygu sgiliau darllen a rhifedd yw’r asesiadau personol ar gyfer darllen a rhifedd.  

  • Mae asesiadau darllen yn mesur dealltwriaeth o destun ysgrifenedig.  
  • Mae asesiadau rhifedd (gweithdrefnol) yn mesur sgiliau mathemategol a chyfrifo.  
  • Mae asesiadau rhifedd (rhesymu) yn mesur sut mae dysgwyr yn defnyddio mathemateg i ddatrys problemau.  

Fe’u defnyddir mewn ysgolion fel un o ystod o ddulliau i gefnogi cynnydd dysgwyr fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru. Mae’r asesiadau personol blynyddol yn orfodol i ddysgwyr Blynyddoedd 2 i 9 mewn ysgolion a gynhelir. 

Mae’r asesiadau yn darparu gwybodaeth am sgiliau darllen a rhifedd dysgwyr, gan helpu ysgolion i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella. 

Mae’r data hyn yn cymharu canlyniadau asesiadau ar gyfer dysgwyr yn yr un grŵp blwyddyn ar draws gwahanol flynyddoedd academaidd. Er enghraifft, maent yn cymharu canlyniadau dysgwyr Blwyddyn 6 yn yr asesiad Rhifedd (Gweithdrefnol) ym mhob blwyddyn academaidd rhwng 2018 a 2024.  

Rydym yn defnyddio 2022 i 2023 fel y flwyddyn gyfeirio ar gyfer pob asesiad er mwyn gallu cymharu canlyniadau o fewn pob pwnc yn gyson dros amser. 

Gweld y patrymau cyrhaeddiad mewn data darllen a rhifedd.

Absenoldeb o’r ysgol 

Mae’r siartiau hyn yn dangos absenoldeb o’r ysgol ac absenoldeb parhaus: 

  • Absenoldeb o’r ysgol yw canran y sesiynau ysgol (hanner diwrnodau ysgol) a gollir.  
  • Mae absenoldeb parhaus yn golygu colli 10% neu ragor o sesiynau ysgol.  

Mae’r siartiau yn dangos tueddiadau mewn absenoldeb o’r ysgol ac absenoldeb parhaus ar gyfer: 

  • pob disgybl  
  • disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim  
  • disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim  

Eglurhad ynghylch data absenoldeb o’r ysgol

Cynyddodd y ddau fesur rhwng 2018/19 a 2022/23 cyn gostwng yn y blynyddoedd diweddarach. Drwy gydol y cyfnod a ddangosir, roedd gan ddisgyblion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim gyfraddau uwch o absenoldeb ac absenoldeb parhaus na disgyblion eraill.  

Caiff data presenoldeb eu cofnodi drwy gydol y flwyddyn yng nghofrestr bresenoldeb/system wybodaeth reoli pob ysgol.  

Mae Llywodraeth Cymru yn casglu a chyhoeddi gwybodaeth statudol flynyddol am bresenoldeb bob blwyddyn gan bob ysgol a gynhelir yng Nghymru.  

Mae’r data yn cwmpasu pob disgybl o oedran ysgol statudol (disgyblion rhwng 5 a 15 oed) ac yn ystadegau swyddogol achrededig.  

Mae ystadegau swyddogol ar bresenoldeb mewn ysgolion a gynhelir wedi cael eu cyhoeddi ers y 1990au. 

Gweld data ar bresenoldeb ac absenoldeb o ysgolion.

Pam mae safonau ysgolion yn bwysig 

Mae ysgolion yn chwarae rhan hanfodol wrth roi’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen ar blant i lwyddo drwy gydol eu bywydau. Mae presenoldeb rheolaidd a sgiliau cryf yn cyfrannu at ganlyniadau gwell i ddysgwyr. 

Gall gwell presenoldeb a chanlyniadau dysgu da arwain at ganlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc, fel: 

  • cyflawni eu potensial llawn a chael eu cefnogi i ymgysylltu â dysgu drwy eu sgiliau llythrennedd a rhifedd 
  • cael yr un cyfleoedd i ddysgu a llwyddo, beth bynnag fo’u cefndir, gan leihau anghydraddoldebau
  • symud ymlaen i addysg, gwaith neu hyfforddiant sy’n addas iddynt 
  • ennill y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen ar gyfer gwaith a bywyd yn y dyfodol 

Mae gwella presenoldeb, codi cyrhaeddiad a chefnogi safonau uchel ar draws ysgolion yn helpu i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu gwneud ei orau, datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arno ar gyfer y dyfodol, a chefnogi Cymru fwy llewyrchus. 

Mae presenoldeb a chyrhaeddiad wedi cael eu dewis fel mesurau allweddol o gynnydd oherwydd eu bod yn cael eu dylanwadu gan lawer o’r ffactorau sy’n cyfrannu at ddysgu llwyddiannus. Gyda’i gilydd, byddant yn helpu i ddangos a yw gwelliannau mewn ysgolion ledled Cymru yn arwain at ganlyniadau gwell i blant.  

Sut rydym yn mynd ati i wella safonau ysgolion a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu 

Mae gwella safonau addysgol a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu yn gofyn am weithredu ar draws y system addysg gyfan. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y canlynol: 

  • ehangu’r cynllun prydau ysgol am ddim er mwyn lleihau’r pwysau ariannol a all effeithio ar bresenoldeb, llesiant ac ymgysylltiad 
  • cefnogi’r gwaith o ddatblygu llythrennedd a rhifedd drwy osod disgwyliadau cliriach, er mwyn rhoi eglurder llwyr i ysgolion ynghylch beth y dylid ei ddysgu a phryd 
  • buddsoddi yng nghapasiti a gallu’r gweithlu, ei lesiant a’i amodau gwaith drwy ddarparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel, cymhelliant addysg gychwynnol i athrawon a lleihau llwyth gwaith
  • buddsoddi mewn adeiladau a chyfleusterau ysgolion i greu lleoedd diogel, cynhwysol ac effeithiol ar gyfer dysgu 
  • annog gwell rhannu gwybodaeth rhwng ysgolion a gydag awdurdodau lleol, er mwyn cefnogi gwelliant cyson a deall cynnydd yn well 
  • gwella’r ffordd y mae gwasanaethau addysg, iechyd a llesiant yn cydweithio i ddarparu cymorth mwy amserol ac effeithiol i blant a theuluoedd 

Hysbysiadau diweddaraf

Dilynwch ni