Neidio i'r prif gynnwys

Y nod i Gymru o gymunedau cydlynus

Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.

Cynnydd tuag at y nod

Roedd dangosyddion cydlyniant cymunedol wedi bod yn weddol sefydlog ers blwyddyn ariannol 2016 i 2017 tan y gwelwyd cynnydd sylweddol yn 2020 i 2021. Ers hynny mae canran yr oedolion sy'n cytuno â phob un o'r 3 mesur cydlyniant cymunedol wedi gostwng, gyda'r duedd hon hefyd yn cael ei gweld yn 2024 i 2025, gan symud yn nes at y lefelau cyn y pandemig.

Mae arwyddion o ddychwelyd i lefelau cyn y pandemig yn arbennig o amlwg o ran boddhad pobl â’u hardal leol a phobl yn teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau lleol. Roedd y canrannau a adroddwyd ar gyfer y dangosyddion hyn yn 2024 i 2025 naill ai’n hafal i’r hyn a welwyd yn 2018 i 2019 neu o fewn pwynt canran iddo.

Mae pobl sy’n teimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu wedi aros yn gymharol gyson ers iddynt gael eu holi am y tro cyntaf yn 2016 i 2017 ac roeddent yn 68% yn 2024 i 2025.

Roedd canran y bobl sy’n gwirfoddoli wedi bod yn gostwng ond mae’n ddangosydd sydd wedi gweld cynnydd yn ddiweddar. Cyrhaeddwyd y garreg filltir genedlaethol bod 30% o bobl yn gwirfoddoli yn 2022 i 2023, ac mae'n dal i gael ei chyrraedd, gyda 32% o bobl yn gwirfoddoli yn 2024 i 2025.

Mae unigrwydd, sy'n seiliedig ar gyfuniad o 6 mesur gwahanol, wedi aros yr un fath dros y blynyddoedd diwethaf, gyda 13% o bobl yng Nghymru yn teimlo’n unig yn 2022 i 2023. O fewn y mesur cyffredinol, mae’r ganran sydd ‘wedi gweld colli cael pobl o gwmpas’ wedi dilyn patrwm gwahanol gyda chanran wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod pandemig COVID-19 yn 2020 i 2021 a 2021 i 2022 cyn gostwng yn ôl i lefelau blaenorol yn 2022 i 2023 (36%).

Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae canran yr aelwydydd y llwyddwyd i’w hatal rhag digartrefedd a’u rhyddhau o ddigartrefedd wedi cynyddu ychydig, ac mae nifer yr unigolion mewn llety dros dro wedi gostwng, yn ogystal â’r amcangyfrif o nifer yr unigolion sy’n cysgu allan.

Mae hanner y bobl yng Nghymru yn credu bod troseddu wedi codi’n sylweddol yn genedlaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r ffigur hwn wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig a welwyd yn 2018 i 2019 ac yn 2019 i 2020, ar ôl gostyngiad yn 2022 i 2023. Fodd bynnag, ers 2015 i 2016, bu tueddiadau cyffredinol ar i lawr yng nghyfran yr oedolion a oedd wedi dioddef trosedd (ac eithrio twyll), a dioddefwyr troseddau personol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (2025 i 2026), mae troseddau a gofnodir gan yr heddlu yng Nghymru (ac eithrio twyll) wedi gostwng 3% tra bo cyfran yr oedolion sy’n ddioddefwyr troseddau wedi gostwng hefyd (4% o oedolion yn 2025 i 2026).

Cydlyniant cymunedol

Ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd bron i 6 o bob 10 oedolyn (58%) yn cytuno â phob un o’r 3 mesur o gydlyniant cymunedol (ymberthyn i’r ardal leol, pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda, ac yn trin ei gilydd â pharch ac ystyriaeth). Mae hyn yn gynnydd ers y blynyddoedd cyn y pandemig ond yn is na'r hyn a nodwyd yn 2021 i 2022. 

Roedd y ffigurau hyn wedi bod yn weddol sefydlog ers iddynt gael eu casglu am y tro cyntaf yn 2012 tan y cynnydd sylweddol yn 2020 i 2021. Ni ddaw’n glir a oedd y cynnydd yn 2020 i 2021 ac yn 2021 i 2022 yn effaith byrdymor o'r pandemig (gyda chymunedau’n dod at ei gilydd yn lleol) ac a fydd y gostyngiad a welwyd yn 2024 i 2025 yn cael ei gynnal, neu ei gynnal yn rhannol dros y tymor hirach nes y bydd data ar gael ar gyfer y blynyddoedd i ddod. 

Mae dadansoddiad yn ôl ffactorau sy’n gysylltiedig â phob un o’r 3 mesur cydlyniant cymunedol ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru 2025.

Perthyn i’r ardal leol

Os edrychwn ni ar y mesur cydlyniant cymunedol sy'n ymwneud â perthyn i'r ardal leol yn benodol, rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2025 yn benodol, roedd 73% o bobl yng Nghymru yn cytuno eu bod yn perthyn i'w hardal leol. Mae hyn i lawr o 79% rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022.

Roedd pobl a oedd yn teimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol yn fwy tebygol o fod rhwng 45 a 64 oed, neu 65 oed neu hŷn (77% ac 80% yn y drefn honno) o’i gymharu â phobl rhwng 16 a 44 oed (65%). Roeddent hefyd yn fwy tebygol o fod yn Wyn (Cymreig, Seisnig, Prydeinig, ac ati) (73%) neu’n rhan o leiafrif ethnig (ac eithrio lleiafrifoedd Gwyn) (77%). Ni ellid nodi unrhyw wahaniaethau wrth gymharu’r grwpiau hyn â’i gilydd; fodd bynnag, roedd y ddau grŵp yn fwy tebygol o gytuno eu bod yn perthyn i’w hardal leol o’i gymharu â grwpiau lleiafrifoedd Gwyn (56%). Yn ogystal, canfuwyd bod y math o ardal yr oedd pobl yn byw ynddi yn gysylltiedig â theimlad o berthyn i’r ardal leol, gyda hyn yn wir am 79% o bobl a oedd yn byw mewn ardal wledig o’i gymharu â 70% o bobl a oedd yn byw mewn ardal drefol.

Pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda

Os edrychwn ni ar y mesur cydlyniant cymunedol sy'n ymwneud â phobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda, rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2025, roedd 80% o bobl yng Nghymru yn meddwl bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda. Mae hyn i lawr o 82% rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022, y tro diwethaf y gofynnwyd y cwestiwn hwn yn Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Roedd pobl a oedd yn meddwl bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda yn eu hardal leol yn fwy tebygol o fod yn 65 oed neu’n hŷn (84%) o’i gymharu â phobl 16 i 44 oed (78%), neu 45 i 64 oed (79%). Roeddent hefyd yn fwy tebygol o beidio â chael salwch neu anabledd hirdymor cyfyngol (82%) o’i gymharu â phobl sydd â salwch neu anabledd hirdymor cyfyngol (76%), ac roeddent hefyd yn fwy tebygol o fod yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol (82%) o’i gymharu â phobl nad oeddent yn fodlon (73%).

Canfuwyd bod perthyn i’r ardal leol hefyd yn ffactor sy’n gysylltiedig â chytuno bod pobl yn yr ardal leol o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda. Soniodd 89% o bobl a oedd yn cytuno’n gryf eu bod yn perthyn am hyn o’i gymharu â dim ond 50% o bobl a oedd yn anghytuno’n gryf eu bod yn perthyn i’w hardal leol.

Ffigur 5.1: canran y bobl sy’n cytuno â datganiadau am eu hardal leol, yn ôl blynyddoedd ariannol, rhwng 2012 a 2013 a rhwng 2024 a 2025 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 5.1: siart linell yn dangos canran y bobl sy’n cytuno â 3 datganiad am gydlyniant cymunedol yn eu hardal leol o flwyddyn ariannol 2012 i 2013 hyd at 2024 i 2025. Yn 2024 i 2025, roedd 80% yn cytuno bod pobl yn yr ardal o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda; roedd 80% yn cytuno bod pobl yn trin ei gilydd â pharch ac ystyriaeth; ac roedd 73% yn cytuno eu bod yn perthyn i’r ardal leol.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru: Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Nid oes gan y blynyddoedd 2015 i 2016, 2017 i 2018, 2019 i 2020, 2022 i 2023, a 2023 i 2024 ddata sy’n gysylltiedig â nhw.

Teimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu

JMae ychydig dros ddwy ran o dair o oedolion yn teimlo’n ddiogel mewn gwahanol sefyllfaoedd ar ôl iddi dywyllu.

Y dangosydd cenedlaethol yw canran y bobl a gytunodd â'r pedwar datganiad am deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu gartref, wrth gerdded yn eu hardal leol, teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus neu deithio mewn car. Ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd 68% o bobl yn teimlo’n ddiogel ym mhob un o’r pedair sefyllfa.  Mae’r canlyniadau hyn wedi aros yn weddol gyson ar draws y blynyddoedd ers gofyn am y tro cyntaf yn 2016 i 2017.

Mae dadansoddiad yn ôl ffactorau sy’n gysylltiedig â theimlo'n ddiogel ar ôl iddi dywyllu ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru 2025.

Ffigur 5.2: canran y bobl sy’n cytuno â datganiadau am deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu, blwyddyn ariannol 2024 i 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 5.2: siart far yn dangos canran y bobl sy’n cytuno â datganiadau am deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025. Roedd 97% yn teimlo’n ddiogel gartref, roedd 97% yn teimlo’n ddiogel wrth deithio mewn car, roedd 79% yn teimlo’n ddiogel wrth gerdded yn yr ardal leol ac roedd 77% yn teimlo’n ddiogel wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. 

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

[Nodyn 1] ‘Ddim yn gwybod’ oedd ateb 16% o’r bobl a holwyd i’r cwestiwn am drafnidiaeth gyhoeddus ac ni chawsant eu cynnwys yn y dadansoddiad.

Bodlonrwydd ar yr ardal leol

Ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd 84% o bobl yn dweud eu bod yn fodlon â’u hardal leol fel lle i fyw, sydd yn is na'r canlyniadau yn y blynyddoedd blaenorol ac yn debyg i’r hyn oedd yn cael ei nodi cyn y pandemig. 

Mae dadansoddiad yn ôl ffactorau sy’n gysylltiedig â bodlonrwydd ar yr ardal leol ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru 2025.

Mynediad at wasanaethau a chyfleusterau da

Rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2025, roedd 78% o bobl yng Nghymru yn fodlon ar y gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol. Mae hyn i lawr o 86% rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022, y tro diwethaf y gofynnwyd y cwestiwn hwn yn Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Roedd pobl a oedd yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol yn fwy tebygol o fyw mewn ardal drefol (81%) o’i gymharu â phobl a oedd yn byw mewn ardal wledig (74%). Roeddent hefyd yn fwy tebygol o beidio â chael salwch neu anabledd hirdymor cyfyngol (82%) o’i gymharu â phobl sydd â salwch neu anabledd hirdymor cyfyngol (72%).

Canfuwyd hefyd bod bodlonrwydd ar fywyd ac ymdeimlad o berthyn i’r ardal leol yn gysylltiedig â bod yn fodlon ar y gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol. Pobl a oedd yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol oedd fwyaf tebygol o fod â boddhad uchel iawn mewn bywyd (85%), ac yna pobl â boddhad uchel mewn bywyd (79%). Pobl oedd â boddhad â bywyd canolig oedd y mwyaf tebygol wedyn (69%), a phobl â boddhad isel â bywyd oedd y lleiaf tebygol o fod yn fodlon â’u gallu i gyrraedd gwasanaethau lleol (56%). O ran ymdeimlad o berthyn i’w hardal leol, roedd pobl a oedd yn cytuno eu bod yn perthyn yn fwy tebygol o fod yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau a chyfleusterau lleol na phobl a oedd yn anghytuno (cytuno’n gryf: 83%; tueddu i gytuno: 79%; tueddu i anghytuno: 65%; anghytuno’n gryf: 67%).

Ffigur 5.3: mynediad at wasanaethau a chyfleusterau da yn ôl ardal, blwyddyn ariannol 2024 i 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 5.3: siart far yn dangos canran y bobl sy’n fodlon ar eu mynediad at wasanaethau a chyfleusterau da. Mae 81% o bobl mewn ardaloedd trefol yn fodlon o’i gymharu â 67% o bobl sy’n byw mewn pentrefannau ac anheddau ynysig.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Dylanwadu ar benderfyniadau lleol

Rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025, roedd 19% o bobl yn teimlo y gallent ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol o’i gymharu â 30% yn 2021 i 2022, 26% yn 2020 i 2021, ac 19% yn 2018 i 2019. Bydd angen monitro mewn blynyddoedd arolwg yn y dyfodol i weld a oedd y ffigurau uwch a welwyd yn 2020 i 2021 ac yn 2021 i 2022 o ganlyniad i'r pandemig, gyda'r cyfrannau'n dychwelyd i lefelau cyn y pandemig o 2024 i 2025 ymlaen.

Roedd pobl a ddywedodd y gallent ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol yn fwy tebygol o fod yn 65 oed neu’n hŷn, gyda hyn yn wir am 23% o bobl yn yr ystod oedran hon, o’i gymharu â 18% o bobl 16 i 44 oed neu 45 i 64 oed. Roeddent hefyd yn fwy tebygol o fyw mewn ardal wledig (22%) o’i gymharu ag ardal drefol (18%), ac o fod yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol (21%) o’i gymharu â phobl nad oeddent yn fodlon (12%).

Roedd pobl a oedd wedi cysylltu â’u cynghorydd lleol yn ystod y 12 mis diwethaf yn fwy tebygol o deimlo y gallent ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol na phobl nad oeddent wedi gwneud hynny, neu bobl a oedd wedi cysylltu â chynghorydd ond nad oeddent yn siŵr o ba fath. Dywedodd 24% o bobl a oedd wedi cysylltu â’u cynghorydd lleol yn ystod y 12 mis diwethaf y gallent ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol, o’i gymharu â 18% o bobl nad oeddent wedi gwneud hynny.

Ffactor arall a oedd yn gysylltiedig â theimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar yr ardal leol oedd ymdeimlad o berthyn, lle’r oedd pobl a oedd yn cytuno’n gryf eu bod yn perthyn i’r ardal leol yn fwyaf tebygol o deimlo y gallent ddylanwadu ar benderfyniadau (25%). Roedd pobl a oedd yn tueddu i gytuno eu bod yn perthyn yn fwy tebygol o deimlo y gallent ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol (19%) na phobl nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno eu bod yn perthyn i’w hardal leol (11%) neu a oedd yn anghytuno’n gryf eu bod yn perthyn (8%).

Ffigur 5.4: canran y bobl sy’n teimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar yr ardal leol, rhwng blwyddyn ariannol 2012 i 2013 a 2024 i 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 5.4: siart linell sy’n dangos canran y bobl sy’n teimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol. Ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd 19% o bobl yn teimlo y gallent ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol, gan ddychwelyd i’r lefelau a welwyd ddiwethaf yn 2018 i 2019. Mae hyn yn cymharu â chanrannau o 30% a 26% yn 2021 i 2022 ac yn 2020 i 2021, yn y drefn honno.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Gwirfoddoli

Roedd canlyniadau data ar-lein a gasglwyd fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2024 i 2025 yn dangos bod 32% o bobl wedi dweud eu bod yn gwirfoddoli i glybiau neu sefydliadau. Mae hyn yn cymharu â 26% yn 2019 i 2020 (pan gynhaliwyd yr arolwg wyneb yn wyneb), 29% yn 2021 i 2022 (pan ofynnwyd y cwestiynau gwirfoddoli fel rhan o’r modiwl ar-lein am y tro cyntaf) a 30% yn 2022 i 2023 (gan gasglu data ar-lein yn unig unwaith eto). Ym mhob blwyddyn, roedd y bobl fwyaf cyffredin yn gwirfoddoli ar gyfer elusennau a chlybiau chwaraeon. 

Mae dadansoddiad yn ôl ffactorau sy’n gysylltiedig â gwirfoddoli ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru 2025.

Ffigur 5.5: canran y bobl sy’n gwirfoddoli yn ôl math o sefydliad, blwyddyn ariannol 2024 i 2025 

Image

Disgrifiad o ffigur 5.5: siart far yn dangos canran y bobl sy’n gwirfoddoli, yn ôl math o sefydliad, ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025. Mae pobl yn fwy tebygol o wirfoddoli ar gyfer mudiadau elusennol (12%) neu glybiau chwaraeon (9%).

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer y dangosydd gwirfoddoli yw “cynyddu canran y bobl sy’n gwirfoddoli 10% erbyn 2050, gan ddangos statws Cymru fel cenedl sy'n gwirfoddoli”. Mae hyn yn golygu cyrraedd ffigur o 30% erbyn 2050. Cyrhaeddwyd y garreg filltir hon yn 2022 i 2023 ac mae'n parhau i gael ei chyrraedd ar sail canlyniadau 2024 i 2025.

Unigrwydd

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn casglu data gan ddefnyddio graddfa unigrwydd De Jong Gierveld sy’n mynd i'r afael â 6 mesur o unigrwydd emosiynol a chymdeithasol. 

Ni chafodd cwestiwn ar unigrwydd ei gynnwys yn Arolwg Cenedlaethol Cymru blwyddyn ariannol 2024 i 2025. Yn 2022 i 2023, yn seiliedig ar y 6 mesur, canfuwyd bod 13% o bobl yng Nghymru yn unig, sef yr un ganran ag yn 2021 i 2022 ac yn 2020 i 2021, ac yn is nag yn 2019 i 2020. Fodd bynnag, roedd amrywiadau amlwg yng nghanran y bobl oedd yn dweud eu bod yn teimlo’n unig ar draws y mesurau unigol.

Mae dadansoddiad yn ôl ffactorau sy’n gysylltiedig ag unigrwydd ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru 2025. 

Ffigur 5.6: canran y bobl sy’n teimlo’n unig yn ôl rheswm a blwyddyn ariannol, rhwng 2019 i 2020, a 2022 i 2023

Image

Disgrifiad o ffigur 5.6: siart far yn dangos y canlyniadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2019 i 2020 hyd at flwyddyn ariannol 2022 i 2023 a’r chwe chwestiwn a ofynnwyd i greu’r mesur o unigrwydd. Yn gyffredinol, roedd yr ymatebion i’r datganiadau yn dangos bod pobl yn llai unig yn 2022 i 2023 o’i gymharu â 2019 i 2020.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Cynhwysiant digidol

Cafodd dangosydd cenedlaethol newydd ei osod yn 2021 a fydd yn mesur statws cynhwysiant digidol. Mae’r dangosydd hwn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, ochr yn ochr â datblygu safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol. Bydd rhagor o fanylion am y mesur ar gyfer y dangosydd hwn yn cael eu hychwanegu wrth i’r dangosydd gael ei ddatblygu.  

Yn y cyfamser, mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025 yn dangos bod 96% o oedolion yn defnyddio’r rhyngrwyd at ddibenion personol yn y cartref, yn y gwaith neu yn rhywle arall, cynnydd o’r 93% a welwyd yn 2020 i 2021, 2021 i 2022, a 2022 i 2023. 

Mae dadansoddiad yn ôl ffactorau sy’n gysylltiedig â defnyddio'r rhyngrwyd ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru 2025.

Digartrefedd

Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae canran yr aelwydydd y llwyddwyd i’w hatal rhag digartrefedd a’u rhyddhau o ddigartrefedd wedi cynyddu ychydig, ac mae nifer yr unigolion mewn llety dros dro wedi gostwng, yn ogystal â’r amcangyfrif o nifer yr unigolion sy’n cysgu allan.

Atal digartrefedd

Ymysg aelwydydd yng Nghymru a oedd dan fygythiad o ddigartrefedd rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026, cafodd digartrefedd ei atal am o leiaf 6 mis mewn 61% o’r achosion (4,671 o aelwydydd). Mae hyn fymryn yn uwch nag yn 2024 i 2025 (59% (r)) ac yn 2023 i 2024 (58%). Fodd bynnag, mae’n dal yn is na’r lefelau rhwng 2017 a 2018 a rhwng 2021 a 2022, pan gafodd digartrefedd ei atal yn llwyddiannus mewn tua dwy ran o dair o achosion (66%)

Rhyddhad o ddigartrefedd 

Gellir “rhyddhau” unigolyn o ddigartrefedd pan fydd awdurdod lleol yn helpu’r unigolyn hwnnw i gael llety addas sy’n debygol o fod ar gael am o leiaf chwe mis, sy’n golygu nad yw’n ddigartref mwyach. Roedd cyfran yr aelwydydd a ryddhawyd o ddigartrefedd wedi aros yn gymharol sefydlog o 2016 i 2017 hyd at 2019 i 2020. Fodd bynnag, mae wedi bod yn gostwng ers hynny, o 41% yn 2019 i 2020, i 25% yn 2024 i 2025. Yn ystod 2025 i 2026, cynyddodd y ffigur hwn 2 bwynt canran i 27%) (3,351 o aelwydydd).

Ffigur 5.7: canran yr aelwydydd y llwyddwyd i’w hatal rhag digartrefedd a’u rhyddhau o ddigartrefedd, rhwng blwyddyn ariannol 2015 i 2016 a 2025 i 2026

Image

Disgrifiad o ffigur 5.7: siart linell sy’n dangos bod canran yr aelwydydd sy’n cael eu hatal rhag digartrefedd wedi aros yn weddol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf yn dilyn gostyngiad ym mlwyddyn ariannol 2022 i 2023. Gostyngodd canran yr aelwydydd a ryddhawyd o ddigartrefedd rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2025 ond mae wedi cynyddu ychydig yn ystod y flwyddyn ddiweddaraf.

Ffynhonnell: Digartrefedd Statudol: Dangosyddion Allweddol

Llety dros dro

Mae gwybodaeth fisol yn dangos bod 10,339 o unigolion mewn llety dros dro ar 30 Mehefin 2026, sy’n is na’r nifer a gofnodwyd ym mis Mehefin ym mhob un o’r 3 blynedd diwethaf. Roedd 2,227 o’r rhain yn blant dibynnol o dan 16 oed, sydd hefyd yn is na’r nifer a gofnodwyd yn ystod mis Mehefin ym mhob un o’r 3 blynedd diwethaf.

Y math mwyaf cyffredin o lety dros dro oedd stoc awdurdodau lleol (2,502). Dilynir hyn gan letyai wely a brecwast a gwestai (2,493), llety yn y sector preifat (1,980) a hosteli (1,939). Dyma’r tro cyntaf i stoc awdurdodau lleol ddarparu llety i fwy o unigolion na llety gwely a brecwast a gwestai.

Cysgu allan

Ar 30 Mehefin 2026, amcangyfrifwyd bod 158 o unigolion yn cysgu allan ledled Cymru. Mae hyn yn is na’r nifer a gofnodwyd ar 30 Mehefin 2025 (169) a 30 Mehefin 2023 (173) ond yn uwch na’r hyn a gofnodwyd ar 30 Mehefin 2024 (153).

Yr awdurdodau lleol a nododd y niferoedd uchaf o unigolion yn cysgu allan oedd Caerdydd (39), Sir Benfro (24), Torfaen (19), Pen-y-bont ar Ogwr (16) a Cheredigion (14). Nododd pob awdurdod lleol arall fod 8 neu lai o unigolion yn cysgu allan, gyda 4 awdurdod lleol yn adrodd sero.

Troseddu a chyfiawnder

Hyder yn y system gyfiawnder

Mae’r dangosydd cenedlaethol yn mesur canran y bobl sydd â hyder yn y system gyfiawnder. Mae'r system gyfiawnder yn eang ac yn gymhleth, gydag agweddau troseddol ac anhroseddol y mae angen eu cofnodi yn y dangosydd hwn. Dewiswyd 3 metrig i fesur y dangosydd hwn: effeithiolrwydd canfyddedig y system cyfiawnder troseddol, tegwch canfyddedig y system cyfiawnder troseddol, a hygyrchedd y system cyfiawnder anhroseddol.

Er mwyn asesu canfyddiadau o'r system cyfiawnder troseddol, mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (CSEW) yn gofyn y canlynol i bobl 16 oed a hŷn: 

  • a ydyn nhw’n hyderus bod y system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd yn effeithiol
  • a ydyn nhw’n cytuno bod y system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd yn deg

Roedd ychydig o dan hanner (46%) o’r holl ymatebwyr yng Nghymru yn hyderus bod y system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd yn effeithiol yn arolwg CSEW blwyddyn ariannol 2025 i 2026. Mae hyn wedi gostwng o'i gymharu ag arolwg 2019 i 2020 (54%) ac arolwg 2022 i 2023 (53%).

Roedd 63% o'r ymatebwyr yng Nghymru yn cytuno bod y system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd yn deg yn arolwg 2025 i 2026 sydd yn debyg yn fras i'r holl flynyddoedd diweddar yn yr arolwg.

Er mwyn asesu canfyddiadau o'r system gyfiawnder y tu hwnt i gyfiawnder troseddol, defnyddiwyd sgôr hygyrchedd cyfiawnder yr Arolwg Anghenion Cyfreithiol (a gynhaliwyd gan Gymdeithas y Gyfraith a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol). Mae'r sgôr yn mesur i ba raddau y mae rhywun yn meddwl bod y system gyfiawnder (ac eithrio cyfiawnder troseddol) yn hygyrch, gan ystyried materion fel mynediad hawdd, tegwch ac effeithlonrwydd. 

Yn Arolwg Anghenion Cyfreithiol 2023, roedd gan tua 1 o bob 4 o bobl yng Nghymru (24%) sgôr isel, oedd yn dangos eu bod yn meddwl nad oedd cyfiawnder yn hygyrch. Mae hyn yn gynnydd o'r 19% yn arolwg 2019. Gostyngodd cyfran y bobl â sgoriau uchel, oedd yn nodi eu bod yn credu bod cyfiawnder yn hygyrch iawn, i 17% (o 24% yn 2019), tra bod cyfran y bobl â sgoriau canolig yn debyg (59% yn 2023 o'i gymharu â 58% yn 2019). Pan ofynnwyd i ymatebwyr yng Nghymru asesu eu hyder y gallent sicrhau canlyniad teg neu dda ar ddechrau eu mater cyfreithiol, roedd tua thraean o’r ymatebwyr yn anghytuno’n bennaf neu’n gryf (21% ac 11% yn y drefn honno) eu bod yn hyderus. Mae hyn yn awgrymu bod cyfran sylweddol yn brin o hyder i sicrhau canlyniad teg, a allai adlewyrchu cymhlethdod canfyddedig, anghydbwysedd pŵer, neu brofiadau blaenorol o brosesau cyfreithiol.

Dioddefwyr troseddau a chanfyddiadau o droseddau

Ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026, roedd 4% o oedolion yng Nghymru wedi dioddef trosedd (i lawr o 6% y flwyddyn flaenorol) ac roedd 1% wedi dioddef trosedd bersonol (i lawr o 2% y flwyddyn flaenorol). Rydym wedi gweld tuedd ar i lawr yn y gyfres amser sydd ar gael o 2015 i 2016 pan oedd y canrannau’n 15% a 4%.

Mae’r data diweddaraf ar ganfyddiadau o droseddu yn 2025 i 2026 yn dangos bod hanner y bobl yng Nghymru (50%) yn credu bod troseddu wedi codi’n sylweddol yn genedlaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn wedi cynyddu o 41% yn 2022 i 2023, ac mae’n debyg i’r lefelau cyn y pandemig o 53% yn 2018 i 2019 a 2019 i 2020 (nid oes data ar gael ar gyfer 2020 i 2021 na 2021 i 2022). 

Mae canran y rhai sy’n credu bod troseddu wedi cynyddu’n sylweddol yn eu hardal leol yn llawer iawn llai (15%). Mae’r ffigur hwn wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig a welwyd yn 2018 i 2019 ac yn 2019 i 2020 ar ôl disgyn i 11% yn 2022 i 2023.

Troseddau a gofnodir gan yr heddlu

Roedd troseddau a gofnodir gan yr heddlu yng Nghymru (ac eithrio twyll) wedi gostwng 3% ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Gostyngodd trais yn erbyn y person 2%, er bod y gyfradd fesul 1,000 o’r boblogaeth yn dal yn sylweddol uwch na degawd yn ôl. 

Roedd cynnydd mewn 5 o’r 9 prif gategori o droseddau yn 2025 i 2026 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gan gynnwys lladrad (cynnydd o 64%) a throseddau meddiant arfau (cynnydd o 16%), er mai’r categorïau hyn yw’r 2 leiaf o ran nifer a chyfradd y troseddau. 

Ymysg y prif gategorïau eraill o droseddau, roedd cynnydd mewn troseddau rhywiol (9% o gynnydd) a throseddau amrywiol yn erbyn cymdeithas (8% o gynnydd), tra bo gostyngiad mewn achosion o ladrad (9% o ostyngiad).

Nid oes data ynghylch troseddau sy’n ymwneud â thwyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron ar gael ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2026 yn sgil y gwaith o greu system genedlaethol newydd ar gyfer rhoi gwybod am seiberdroseddau a thwyll. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2025, roedd y data diweddaraf ar gyfer ystadegau twyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron a gofnodwyd yn dangos mai'r gyfradd am bob 1,000 o’r boblogaeth oedd 5, sy’n gynnydd o 6% ers y flwyddyn flaenorol. 

Ffigur 5.8: troseddau a gofnodir gan yr heddlu am bob 1,000 o’r boblogaeth, rhwng blwyddyn ariannol 2002 i 2003, a 2025 i 2026

Image

Disgrifiad o ffigur 5.8: siart linell yn dangos bod cyfradd troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu am bob 1,000 o’r boblogaeth wedi gostwng ar gyfer pob un o’r 4 categori yn ystod y cyfnod diweddaraf. 

Troseddau dwyn sydd wedi newid fwyaf, gan ddisgyn o dros 50 am bob 1,000 o’r boblogaeth yn 2002 i 2003 i tua 20 am bob 1,000 o’r boblogaeth yn y blynyddoedd diweddaraf. Roedd cyfradd y troseddau trais yn erbyn y person yn dangos cynnydd mawr rhwng 2013 a 2023, ond mae wedi gostwng ychydig ym mhob un o’r 3 blynedd diwethaf. Gwelwyd gostyngiad yng nghyfraddau difrod troseddol a thanau bwriadol tan 2012-2013, ond mae’r rhain wedi aros yn sefydlog ers hynny. Cyfradd troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus oedd yr isaf am bob 1,000 o'r boblogaeth tan 2020 i 2021, pan ddechreuodd y gyfradd godi yn uwch na chyfradd difrod troseddol a thanau bwriadol.

Ffynhonnell: Troseddau a Gofnodir gan yr Heddlu, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Troseddau casineb

Roedd 5% o gynnydd mewn troseddau casineb a gofnodir gan yr heddlu ledled Cymru ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025 o’i gymharu â 2023 i 2024. Mae’r cynnydd hwn yn dilyn dau ostyngiad blynyddol mewn troseddau casineb a gofnodwyd, a dyma’r ail nifer uchaf o droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru ers i’r Swyddfa Gartref ddechrau casglu data cymaradwy am Gymru a Lloegr yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2013.

Cofnodwyd 6,213 o droseddau casineb ar draws 4 ardal heddlu Cymru, ac o’r rhain roedd:

  • 63% yn droseddau casineb ar sail hil
  • 18% yn droseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol
  • 12% yn droseddau casineb ar sail anabledd
  • 7% yn droseddau casineb ar sail crefydd
  • 5% yn droseddau casineb ar sail trawsrywedd

O’i gymharu â 2023 i 2024, bu cynnydd o 30% yn nifer y troseddau casineb gyda chrefydd yn cael ei gofnodi fel ffactor cymhellol yng Nghymru. Er nad oes dadansoddiadau manwl fesul grŵp crefyddol ar gael ar gyfer Cymru, ar lefel Cymru a Lloegr (ac eithrio Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd (MPS)) roedd 19% o gynnydd mewn troseddau casineb crefyddol wedi’i dargedu at Fwslimiaid. Gwelwyd cynnydd ym mis Awst 2024 ar yr un adeg â’r llofruddiaethau yn Southport. Gostyngodd nifer y troseddau casineb crefyddol wedi’u targedu at Iddewon 18%. Fodd bynnag, mae angen bod yn ofalus gyda’r ffigurau hyn gan nad ydynt yn cynnwys Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd a gofnododd 40% o’r holl droseddau casineb crefyddol a dargedwyd at Iddewon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r gostyngiad hwn yn dilyn 113% o gynnydd yn y troseddau hyn yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024 (a oedd yn cynnwys data Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd), gyda chynnydd yn y troseddau hyn ar ôl dechrau gwrthdaro Israel-Hamas. 

Roedd cynnydd hefyd yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru gyda hil yn ffactor cymhellol (i fyny 8%), tra bod troseddau casineb gydag anabledd, cyfeiriadedd rhywiol a statws trawsryweddol yn ffactorau cymhellol wedi gostwng (dyma’r trydydd gostyngiad blynyddol yn olynol ar gyfer anabledd a chyfeiriadedd rhywiol):

  • gostyngiad o 8% (306 i 282) mewn troseddau casineb trawsryweddol
  • gostyngiad o 3% (1,139 i 1,103) mewn troseddau casineb cyfeiriadedd rhywiol
  • gostyngiad o 2% (752 i 739) mewn troseddau casineb anabledd
  • cynnydd o 8% (3,632 i 3,911) mewn troseddau casineb hil
  • cynnydd o 30% (346 i 451) mewn troseddau casineb crefydd.

Er bod hyn yn ffordd dda o fesur y galw sy’n gysylltiedig â throseddau casineb ar yr heddlu, oherwydd bod heddluoedd yn gwneud gwelliannau sylweddol o ran sut maent yn cofnodi troseddau ers 2014, yn ogystal â gwelliannau o ran nodi beth yw trosedd casineb, nid yw ffigurau troseddau a gofnodir gan yr heddlu yn darparu gwybodaeth ddibynadwy am dueddiadau mewn troseddau casineb ar hyn o bryd. Hefyd, ni ddylid gweld ffigurau gan yr heddlu fel mesur o ba mor gyffredin yw troseddau casineb.

Darllen pellach

Gweld fersiwn argraffadwy o bob tudalen