Neidio i'r prif gynnwys

Dysgwch pa gosbau sy'n berthnasol a phryd y byddan nhw’n berthnasol os byddwch chi’n methu â chofrestru eich llety i ymwelwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd y gallech gael cosb

Os ydych chi'n cofrestru eich llety

Mae'r cosbau perthnasol yn seiliedig ar a oedd eich llety yn cymryd archebion cyn 1 Ebrill 2027 neu beidio.

Cynnig eich llety cyn 1 Ebrill 2027

Rhaid i chi gofrestru eich holl leoliadau erbyn 31 Mawrth 2027.

Cynnig eich llety ar ôl 1 Ebrill 2027

Rhaid i chi gofrestru eich llety cyn i chi ei agor ar gyfer archebion.

Os ydych chi'n diweddaru eich manylion cofrestru

Rhaid i chi ddiweddaru eich cofrestriad o fewn 30 diwrnod i'r newid ddigwydd.

Er enghraifft, rydych chi'n ychwanegu mwy o ystafelloedd i'ch gwesty. Rhaid i chi ddiweddaru eich cofrestriad o fewn 30 diwrnod i hynny ddigwydd.

Os na fyddwch yn diweddaru'ch manylion o fewn 30 diwrnod, gallwch gael cosb.

Os byddwch yn rhoi'r gorau i gynnig eich llety

Rhaid i chi ddadgofrestru o fewn 30 diwrnod:

  • ar ôl i chi roi’r gorau i gymryd archebion
  • ar ôl i’r gwestai olaf adael

Er enghraifft, os ydych yn rhoi'r gorau i hysbysebu eich gwesty, rhaid i chi ei ddadgofrestru mewn 30 diwrnod ar ôl i'r gwestai olaf adael.

Os na fyddwch yn dadgofrestru o fewn 30 diwrnod, gallech gael eich cosbi.

Sut mae cosbau yn cael eu cymhwyso

Mae'r cosbau yn cael eu cymhwyso fesul pob lleoliad sydd gennych.

Mae lleoliadau’n golygu cyfeiriadau lle rydych chi'n cynnig llety.

Er enghraifft, os ydych yn cymryd archebion ar gyfer 3 tŷ sydd â gwahanol gyfeiriadau, mae gennych 3 lleoliad. Os oes gennych ysgubor wedi'i drosi a bwthyn sy’n rhannu’r un cyfeiriad, mae gennych 1 lleoliad.

Faint o gosb gewch chi

Y gosb am fethu â chofrestru, diweddaru eich manylion, neu ddadgofrestru eich llety yw £100 y lleoliad.

Methu â chofrestru pob un o’ch lletai

Er enghraifft, os oes gennych 3 bwthyn mewn gwahanol gyfeiriadau, a’ch bod yn methu â chofrestru yr un ohonynt, byddwch yn cael cosb o £300. Os ydych yn cofrestru un o'r bythynnod mewn pryd, ond yn methu â chofrestru'r 2 arall, byddwch yn cael cosb o £200.

Methu â diweddaru'ch cofrestriad

Os ydych yn prynu bwthyn newydd, rhaid i chi ei ychwanegu at eich cofrestriad cyn i chi ddechrau ei hysbysebu. Os na fyddwch yn diweddaru eich cofrestriad, byddwch yn cael cosb o £100.

Os byddwch yn newid nifer yr ystafelloedd gwely neu nifer y gwelyau yn un o'ch bythynnod, rhaid i chi ddiweddaru eich capasiti o fewn 30 diwrnod. Os na wnewch chi hynny, byddwch yn cael cosb o £100.

Methu â dadgofrestru eich llety

Os byddwch yn rhoi’r gorau i ddarparu llety ym mhob un o'ch 3 bwthyn, rhaid i chi ddadgofrestru o fewn 30 diwrnod. Os na wnewch chi hynny, byddwch yn cael cosb o £300.

Pryd mae'n rhaid i chi dalu eich cosb

Rhaid i chi thalu eich cosb o fewn 30 diwrnod.

Methu â chofrestru ar ôl i chi gael cosb

Os nad ydych yn cofrestru, yn diweddaru eich manylion, neu’n dadgofrestru mewn pryd byddwch yn cael cosb arall. Bydd y gosb hon yn £10 y lleoliad y dydd am hyd at y 30 diwrnod.

Er enghraifft, os nad ydych yn cofrestru neu’n dadgofrestru 3 thŷ mewn gwahanol gyfeiriadau am 30 diwrnod arall, byddwch yn cael:

  • £10 × 3 lleoliad × 30 diwrnod = £900 o gosb i’w thalu

Os na fyddwch yn cofrestru o fewn y 30 diwrnod hynny, byddwch yn cael cosb arall o £1000 fesul lleoliad.

Enghraifft o roi'r dirwyon at ei gilydd

Mae gan Leopold 3 thŷ o gwmpas Caerdydd y mae'n eu cynnig ar Airbnb. Mae pob tŷ mewn cyfeiriad gwahanol. Felly, mae'n rhaid iddo eu cofrestru fel 3 lleoliad.

Mae Leopold yn methu â chofrestru mewn pryd ac yn cael cosb o £300.

Nid yw’n eu cofrestru o fewn 30 diwrnod arall ychwaith.

Nawr mae’n rhaid iddo dalu £900 ychwanegol o gosb am bob un o'r dyddiau pan nad oedd wedi cofrestru (£10 × 3 lleoliad × 30 diwrnod = £900).

Ac am nad oedd wedi cofrestru o fewn y 30 diwrnod hwn, bydd yn cael cosb o £3000 hefyd (£1000 × 3 lleoliad = £3000).

Nawr mae cyfanswm cosbau Leopold yn £4200 (£300 + £900 + £3000 = £4200).

Os byddwch yn rhoi'r gorau i gynnig eich llety

Bydd dal rhaid i chi dalu pob dirwy.

Os bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn eich cofrestru

Mae gan Awdurdod Cyllid Cymru hawl i'ch cofrestru. Bydd y cofrestriad hwn yn cyfrif fel cofrestriad hwyr, a bydd yr un cosbau’n berthnasol.

Os ydych yn anghytuno â’r gosb

Os nad ydych chi’n credu y dylech dalu dirwy, gallwch wneud y canlynol: 

Sut allwch chi gael cymorth

Am gymorth gyda chosbau cofrestru, cysylltwch ag Awdurdod Cyllid Cymru.