Neidio i'r prif gynnwy

3. Diogelwch tân

Addasu atig

Wrth addasu lle presennol yn y to yn ystafell neu’n ystafelloedd, bydd angen ystyried y llwybr dianc yn ei gyfanrwydd wrth ystyried y darpariaethau ar gyfer dianc. Bydd hynny’n aml yn golygu cymryd camau ychwanegol i warchod pobl a phethau rhag tân yn rhannau presennol y tŷ.

Er enghraifft, bydd prosiect nodweddiadol sy’n ymwneud ag addasu atig mewn tŷ deulawr yn arwain at yr angen i ddarparu drysau newydd sy’n gallu gwrthsefyll tân, a darparu parwydydd weithiau i warchod y grisiau (Dogfen Gymeradwy Rhan B Cyfrol 1 – Tai Annedd). Y rheswm am hynny yw bod dianc drwy ffenestri lloriau sydd uwchlaw’r llawr cyntaf yn rhy beryglus.

Yn ogystal bydd angen darparu larymau mwg cysylltiedig a gaiff drydan o’r prif gyflenwad, ar bob lefel o fewn ardal y grisiau.

Efallai hefyd y bydd angen uwchraddio’r graddau y caiff rhai rhannau o’r strwythur eu gwarchod rhag tân, megis y lloriau.