Neidio i'r prif gynnwy

5. Elfennau mewnol newydd

Yn gyffredinol, dyma’r elfennau newydd a fydd yn helpu i greu ystafell(oedd) yn yr atig newydd:

  • Y llawr a’r trawstiau
  • Y waliau
  • Y drysau.

Y llawr a’r trawstiau

Mae’n annhebygol y bydd distiau’r nenfwd presennol yn ddigonol i gynnal y pwysau (llwythi) a fydd yn deillio o adeiladwaith, cynnwys a defnydd ystafell nodweddiadol y gellir byw ynddi, a ddatblygir mewn atig.

Er mwyn goresgyn y broblem, bydd angen gosod distiau llawr newydd i gymryd y llwythi newydd hyn. Gellir gosod y rhain rhwng y distiau nenfwd presennol fel rheol, ac mae’n debyg y byddant yn fwy na’r distiau hynny. Gall y waliau presennol gynnal y distiau llawr newydd, os ydynt yn ddigonol. 

Fel arall dylid darparu cynhaliaeth ychwanegol – megis trawstiau o ddur neu bren – y bydd angen iddynt hwythau yn eu tro gael eu cynnal yn ddigonol a chael y gallu i wrthsefyll tân.

Y waliau

Bydd waliau newydd yn cyfrannu at berimedr yr ystafell(oedd) newydd, a byddant yn helpu i gynnal y to presennol a’r to newydd lle mae cynheiliaid presennol y to wedi’u tynnu i ffwrdd.  Fel rheol, bydd cynhaliaeth newydd o’r fath ar gyfer y to ar ffurf waliau isel wrth ymyl bondo’r eiddo, a fydd yn helpu i leihau rhychwant y ceibrennau presennol (yr hyd na chynhelir). Bydd waliau eraill, sy’n cynnal llwyth fel rheol, yn gwahanu’r ystafell(oedd) newydd oddi wrth ardaloedd eraill y cartref. Efallai y bydd angen trin y waliau hyn er mwyn eu galluogi i wrthsefyll tân.

Inswleiddio rhag sŵn

Bydd angen system inswleiddio rhag sŵn rhwng ystafelloedd y gellir byw ynddynt. Yn achos tŷ teras neu dŷ pâr, gallai’r Corff Rheoli Adeiladu ofyn hefyd ichi wella’r system inswleiddio rhag sŵn rhwng yr atig a addaswyd ac atig eich cymdogion.  Yn ogystal, gallai’r Corff Rheoli Adeiladu ofyn i brawf gael ei gynnal os yw o’r farn bod hynny’n angenrheidiol, ond bydd hynny’n dibynnu ar gael caniatâd gan eich cymdogion i’r sawl sy’n cynnal y prawf fynd i mewn i’w hatig.  Bydd angen uwchraddio’r mur cyd presennol er mwyn darparu system inswleiddio rhag sŵn rhwng yr eiddo.