Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

2. Sylfeini a waliau sy'n bodoli eisoes

Waliau sy’n cynnal llwyth

O safbwynt sefydlogrwydd strwythurol y waliau presennol, bydd angen ystyried sut y bydd y llwythi newydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn addasu atig. Er enghraifft, os caiff distiau llawr newydd eu darparu ac os bwriedir iddynt gael eu cynnal gan wal bresennol, bydd angen i'r wal honno barhau'r holl ffordd i lawr drwy'r tŷ i'r sylfaen, neu fel arall bydd angen i'r wal gael cynhaliaeth ddigonol yn y canol.

Agorfeydd presennol

Mae gan rai tai lolfeydd sy'n ymestyn drwy'r tŷ ar y llawr gwaelod, lle mae'r wal a oedd yn cynnal llwyth ac yn trosglwyddo'r llwyth i'r sylfaen wedi cael ei dymchwel, neu lle cafodd y lolfa ei hadeiladu felly'n wreiddiol gyda thrawst o ddur/o bren dros yr agorfa. Dylid archwilio'r trawst hwn i sicrhau ei fod yn ddigon cryf i gario unrhyw lwythi newydd o'r atig sydd wedi'i haddasu.

Sylfeini presennol

Yn gyffredinol, ni fydd y llwyth (pwysau) ychwanegol o adeiladu a defnyddio ystafell(oedd) yr atig newydd yn golygu cynnydd sylweddol yn y llwyth a drosglwyddir i'r sylfeini.

Mewn rhai achosion, fodd bynnag, gallai'r cynnydd yn y llwyth fod yn sylweddol a bydd angen cadarnhau i ba raddau y mae'r sylfeini presennol yn ddigonol i gario'r llwyth ychwanegol dan sylw. Efallai y bydd angen i allu'r sylfeini gael ei gynyddu drwy eu hategu. Bydd peiriannydd adeiladu neu'ch Corff Rheoli Adeiladu yn gallu rhoi cyngor ichi.