Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Mae'r 4 blynedd diwethaf wedi cyflwyno llawer o heriau, gyda'r argyfwng costau byw, rhaniadau cymdeithasol a gwrthdaro byd-eang. Ledled Cymru, mae'r angen am ofal a chymorth mor uchel ag erioed. O’r herwydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i roi cryn bwyslais ar wella iechyd a llesiant y genedl.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi llesiant wrth wraidd gofal cymdeithasol. Mae'n pwysleisio'r angen i bobl i fod yn bartneriaid cyfartal wrth lunio'u gofal, cael llais a rheolaeth ac yn tanlinellu bod rhaid i'w llesiant fod yn ganolog i'r cymorth a gânt. Wrth ystyried y flwyddyn ddiwethaf a'r heriau parhaus sy'n wynebu Cymru, mae sicrhau bod pobl ledled Cymru'n cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt, fel y rhagwelir yn y ddeddf, yn parhau i fod yn hanfodol.

Yn 2016, gwnaethom gyhoeddi'r datganiad llesiant a ddisgrifiodd beth mae llesiant yn ei olygu i bobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr di-dâl sydd angen cymorth. Mae'r datganiad hwn mor berthnasol nawr ag yr oedd naw mlynedd yn ôl. Mae pawb eisiau cyflawni eu canlyniadau personol eu hunain, y bach a'r mawr, pethau sy'n bwysig iddynt. Mae'r datganiad yn helpu sefydliadau i weithio gyda’i gilydd, mewn ffordd well, er mwyn helpu unigolion i gyflawni eu canlyniadau.

Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn cyflwyno ein blaenoriaethau ar gyfer tymor y Senedd hon. Mae hefyd yn cynnwys y deg amcan llesiant. Rydym yn defnyddio'r rhain i sicrhau bod ein cyfraniad at gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu yn canolbwyntio ar gyflawni pob un o'r nodau llesiant. Byddwn yn gweithio i roi cyfle cyfartal i bawb yng Nghymru gyrraedd eu nodau a chyflawni eu canlyniadau.

Felly, rydym yn parhau i fonitro iechyd a llesiant pawb yng Nghymru. Byddwn yn gwneud hyn drwy ddefnyddio adroddiad y fframwaith canlyniadau cenedlaethol.

Crynodeb gweithredol

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o'r data sydd ar gael sydd gennym am lesiant pobl. Mae’r adroddiad hwn yn nodi canlyniadau cadarnhaol iawn. Er enghraifft, am yr ail flwyddyn yn olynol, roedd yr holl stoc tai cymdeithasol yng Nghymru yn cydymffurfio â Safonau Ansawdd Tai Cymru, yn ogystal â lefelau uchel o bobl yn dweud bod y gofal a'r cymorth a gawsant yn dda neu'n ardderchog.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi meysydd i'w gwella, er enghraifft, cau'r bwlch rhwng pobl sy'n cael gofal a chymorth a grwpiau eraill, er mwyn sicrhau eu bod yn profi'r un lefelau o lesiant, ar draws yr holl amcanion llesiant.

Mae rhai casgliadau data wedi newid dros amser, tra bod eraill wedi peidio â bod yn berthnasol neu wedi cael eu heffeithio gan y pandemig. O ganlyniad, lle byddem fel arfer yn darparu cyfresi amser ar gyfer mesurau penodol, nid oedd rhai o'r rhain ar gael cyn y pandemig neu efallai na fydd data'n gymaradwy â data blynyddoedd blaenorol oherwydd newidiadau yn y dull casglu. Yn ogystal, mae rhai casgliadau wedi dod i ben yn gyfan gwbl, felly mae'r dangosyddion cysylltiedig wedi dod i ben.

Sicrhau hawliau a hawlogaethau

Roedd y rhan fwyaf o bobl sy'n cael gofal a chymorth neu gymorth fel gofalwyr di-dâl:

  • yn dweud bod y gofal a’r cymorth y maent yn eu cael yn ardderchog neu’n dda
  • yn cytuno eu bod wedi cael yr wybodaeth neu’r cyngor cywir pan oedd eu hangen arnynt
  • yn teimlo'n rhan o'r penderfyniadau ynghylch eu gofal a'u cymorth
  • yn dweud eu bod yn cael eu trin â pharch

Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi fod lle i wella eto o safbwynt hawliau a hawlogaethau:

  • mae bwlch rhwng y rhai sy'n cael gofal a chymorth (gan gynnwys gofalwyr di-dâl sy'n cael cymorth) a'r rhai nad ydynt yn cael gofal a chymorth mewn perthynas â rheoli eu bywyd bob dydd.
  • cytunodd cyfran is o bobl fod y cymorth a gafwyd wedi eu helpu i gael gwell ansawdd bywyd o gymharu â'r llynedd.
  • gostyngiad yng nghyfran y bobl sy'n dweud bod y bobl sy'n darparu help, gofal a chymorth yn ardderchog neu'n dda.
  • ac yn olaf, er bod llawer o bobl yn disgrifio eu gofal a'u cymorth yn gadarnhaol, roedd cynnydd hefyd yng nghyfran y gofalwyr di-dâl a ddywedodd bod eu cymorth yn wael neu'n wael iawn.

Iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant emosiynol

Roedd cymysgedd o ganlyniadau cadarnhaol a negyddol yn y maes hwn, er bod rhaid cydnabod bod gofal cymdeithasol yno i gefnogi pobl sy'n aml â llesiant corfforol, meddyliol neu emosiynol gwael.

Yn gadarnhaol, ers 2022 bu cynnydd yng nghyfran y plant sy'n cael gofal a chymorth sydd wedi cael yr imiwneiddiadau a'r archwiliadau deintyddol diweddaraf. Serch hynny, mae bylchau o hyd rhwng y rhai sy'n cael gofal a chymorth a'r rhai nad ydynt yn cael gofal a chymorth, gan gynnwys o ran:

  • hapusrwydd a llesiant meddyliol oedolion
  • iechyd meddwl plant
  • iechyd corfforol
  • bodlonrwydd â bywyd 

Mae lefelau'r bylchau'n wahanol; er enghraifft, roedd cyfran y gofalwyr di-dâl sy'n dweud eu bod yn fodlon iawn â'u bywyd dim ond ychydig yn uwch na'r rhai nad ydynt yn ofalwyr. Fodd bynnag, mae gwelliannau i'w gwneud i gau'r bwlch er mwyn sicrhau bod anghenion iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol y rhai sy'n cael gofal a chymorth yn cael eu diwallu yng Nghymru.

Amddiffyniad rhag camdriniaeth ac esgeulustod

Bu gostyngiad yn nifer y digwyddiadau a throseddau cam-drin domestig yng Nghymru yn 2022 i 2023, yn ogystal â chynnydd yn nifer y bobl sy'n dweud eu bod yn teimlo'n ddiogel, waeth a ydynt yn cael gofal a chymorth ai peidio. Fodd bynnag, mae'n werth nodi bod bwlch o hyd yn lefel y diogelwch a deimlir gan y rhai sy'n cael gofal a chymorth a'r rhai nad ydynt yn cael gofal a chymorth. Bu gostyngiad hefyd yn nifer y troseddau rhywiol a gofnodwyd yng Nghymru yn 2023 i 2024 o gymharu â 2022 a 2021.

Mae cyfran y plant yng Nghymru sy'n cael eu rhoi ar gofrestrau amddiffyn plant awdurdodau lleol wedi cynyddu, yn ogystal â chynnydd yn nifer yr oedolion sy'n wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod mewn perthynas â'r un categorïau a gwahanol gategorïau o gamdriniaeth.

Addysg, hyfforddiant a gweithgareddau hamdden

Fe wnaeth COVID-19 amharu ar drefniadau arholiadau yn 2020 a 2021, felly nid ydym hyn cyflwyno data cyrhaeddiad yn yr adroddiad hwn. Ar ben hynny, mae cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru ym mis Medi 2022 wedi arwain at sawl newid i'r prosesau asesu ac, o ganlyniad, i'r dull casglu data ar gyrhaeddiad addysgol. Felly, mae rhai o'r dangosyddion a ddefnyddir hefyd wedi newid neu wedi dod i ben.

Y dangosydd capio 9 cyfartalog (fersiwn mesurau interim) oedd 192 pwynt ar gyfer plant sy'n cael gofal a chymorth. Perfformiodd plant sy'n cael gofal a chymorth a oedd hefyd yn derbyn gofal yn well na'r rhai sy'n cael gofal a chymorth ond nad oeddent hefyd yn derbyn gofal. Serch hynny, cyflawnodd plant sy'n cael gofal a chymorth sgoriau pwyntiau capio 9 sylweddol is yn gyffredinol na phoblogaeth gyffredinol plant yng Nghymru yn 2023.

O ran addysg a hyfforddiant, rydym wedi gweld cynnydd mewn dysgu oedolion, dysgu galwedigaethol a phrentisiaethau ers 2021 i 2022, a chynnydd hefyd yn nifer y rhai sy'n gadael gofal sy'n cwblhau o leiaf 3 mis yn olynol o gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant ers 2021 i 2022.

Yn anffodus, mae angen gwneud gwelliannau mewn addysg a hyfforddiant. Yn gyntaf, mae'r cyfraddau presenoldeb yn yr ysgol ar gyfer plant sy'n cael gofal a chymorth yn is yn 2023 nag yr oedd yn 2019. Yn ail, bu gostyngiad mewn cyfraddau llwyddiant addysg gyffredinol ers 2021 i 2022. Mae bwlch rhwng plant sy'n cael gofal a chymorth (waeth a ydynt hefyd yn derbyn gofal ai peidio) a phoblogaeth gyffredinol disgyblion Cymru yn y gyfran sy'n cyflawni'r Dangosydd Pynciau Craidd (CSI) yng nghyfnod allweddol 3.

Mae agweddau eraill ar addysg a hyfforddiant wedi aros yn sefydlog. Er enghraifft, canran y bobl economaidd weithgar sydd ag o leiaf un cymhwyster.

O ran hamdden, roedd cyfran is o bobl sy'n cael gofal a chymorth yn dweud eu bod yn gallu gwneud y pethau sy'n bwysig iddynt o gymharu â'r rhai nad oes ganddynt anghenion gofal a chymorth. Yn gadarnhaol, fodd bynnag, roedd cyfran uwch o ofalwyr di-dâl yn dweud eu bod yn gallu gwneud pethau sy'n bwysig iddynt o gymharu â'r rhai nad ydynt yn ofalwyr.

Perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol

Bu cynnydd cyffredinol yn nifer y bobl sy'n dweud eu bod yn meddwl bod pobl yn eu hardal leol yn trin ei gilydd gyda pharch ac ystyriaeth. Fodd bynnag, mae bwlch rhwng pobl sy'n cael gofal a gofalwyr di-dâl a'r rhai nad ydynt yn cael gofal a chymorth a'r rhai nad ydynt yn ofalwyr. 

Mae'r gwahaniaeth hwn yn parhau wrth drafod unigrwydd emosiynol a chymdeithasol. Adroddodd pobl sy'n cael gofal a chymorth a gofalwyr di-dâl sy'n cael cymorth lefelau uwch o unigrwydd na'r rhai nad ydynt yn ofalwyr a'r rhai nad ydynt yn cael gofal a chymorth.

Y cyfraniad a wneir at gymdeithas

Bu gostyngiad yng nghyfran y mudiadau gwirfoddol sy'n ymwneud â gweithgareddau cymunedol, gweithgareddau ieuenctid a gweithgareddau plant a theuluoedd rhwng 2023 a 2024.

Hefyd, mae'r rhai sy'n cael gofal a chymorth yn adrodd lefelau is o wirfoddoli na'r rhai nad ydynt yn cael gofal a chymorth. Ac, yn ddiddorol, gofalwyr di-dâl sy'n gwirfoddoli fwyaf.

Yn olaf, bu canlyniadau tebyg ers 2020 i 2021 o ran y nifer sy'n dweud eu bod yn teimlo bod y pethau y maent yn ei wneud yn eu bywydau yn werth chweil. Mae'n dal i fod yn wir bod y rhai sy'n cael gofal a chymorth yn adrodd lefelau is na'r rhai nad ydynt yn cael gofal a chymorth; mae gofalwyr di-dâl yn adrodd ychydig yn uwch na'r rhai nad ydynt yn ofalwyr.

Llesiant cymdeithasol ac economaidd

Eleni, rydym wedi gweld y ganran uchaf o bobl rhwng 16 a 64 oed ac sydd ag anabledd craidd neu anabledd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio dan y ddeddf cydraddoldeb mewn cyflogaeth nag yn y pum mlynedd diwethaf. Yn ogystal, mae gennym y gyfran isaf o bobl ifanc 19 i 24 oed nad oeddent mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) a welwyd ers dechrau casglu data, a chynnydd yn nifer yr oedolion 50 oed a throsodd mewn cyflogaeth ers 2022.

Er bod y rhain yn ddatblygiadau cadarnhaol, pobl sy'n cael gofal a chymorth a adroddodd yr amddifadedd materol mwyaf o gymharu â'r grwpiau eraill yn yr adroddiad.

Addasrwydd llety preswyl

Roedd yr holl stoc tai cymdeithasol yng Nghymru yn cydymffurfio â Safonau Ansawdd Tai Cymru, gan gynnwys methiannau derbyniol, sy'n gyflawniad sydd wedi'i gynnal ers y llynedd.

Adroddodd pob grŵp gyfraddau uchel o lety sy'n addas i'w hanghenion. Fodd bynnag, mae'r rhai sy'n cael gofal a chymorth yn dal i adrodd cyfradd is o lety addas (89%) o gymharu â'r rhai sy'n cael gofal a chymorth a gofalwyr sy'n cael cymorth (92%), gan dynnu sylw at y bwlch mewn profiadau.

Yn anffodus, bu cynnydd bach yng nghyfran yr aelwydydd digartref sy'n cynnwys plant dibynnol. Yn ogystal, mae’r gyfran o sefydliadau gwirfoddol sy'n cynnig cymorth gyda thai wedi gostwng ers 2023.

Cyflwyniad

Cefndir

Yn 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei huchelgeisiau ar gyfer dyfodol gofal cymdeithasol Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu mae’n:

  • amlinellu’r blaenoriaethau ar gyfer datblygu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy yng Nghymru
  • llunio fframwaith ar gyfer ymateb i'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y degawd nesaf
  • darparu system sy'n canolbwyntio ar lesiant:
    • pobl sy’n cael gofal neu gymorth
    • gofalwyr di-dâl sy'n cael cymorth (er enghraifft, seibiannau byr neu seibiant)

Mae deddfwriaeth yn cefnogi Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru. Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a llesiant (Cymru) ('y ddeddf') i rym ym mis Ebrill 2016. Mae'r ddeddf yn cynnwys 11 rhan:

  • rhan 1 – cyflwyniad
  • rhan 2 – swyddogaethau cyffredinol
  • rhan 3 – asesu anghenion unigolion
  • rhan 4 – diwallu anghenion
  • rhan 5 – codi ffioedd ac asesiadau ariannol
  • rhan 6 – plant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n cael eu lletya
  • rhan 7 – diogelu
  • rhan 8 – swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol
  • rhan 9 – cydweithrediad a phartneriaeth
  • rhan 10 – cwynion a sylwadau a gwasanaethau eirioli
  • rhan 11 – amrywiol a chyffredinol

Mae rheoliadau, codau ymarfer a chanllawiau statudol yn ategu'r ddeddf. Mae gan awdurdodau lleol, byrddau iechyd a Gweinidogion Cymru ddyletswyddau o dan y ddeddf. Mae dyletswydd arnynt i hybu llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr di-dâl sydd angen cymorth.

Mae'r ddeddf wedi newid y ffordd mae'r sector gwasanaethau cymdeithasol yn cyflawni ei swyddogaethau:

  • fel bod gan bobl reolaeth dros y cymorth sydd ei angen arnynt
  • fel bod pobl yn gallu gwneud penderfyniadau am eu gofal a'u cymorth fel partner cyfartal
  • fel bod asesiad cymesur yn canolbwyntio ar yr unigolyn
  • fel bod gan ofalwyr di-dâl hawl gyfartal i gael asesiad ar gyfer cymorth i’r rhai y maent yn gofalu amdanynt
  • fel bod gan bawb fynediad rhwydd at gyngor a gwybodaeth
  • fel bod pwerau i ddiogelu pobl yn gryfach
  • fel bod pwyslais ar ddull ataliol o ddiwallu anghenion gofal a chymorth
  • fel bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn dod at ei gilydd mewn partneriaethau statudol newydd Mae'r rhain yn sbarduno integreiddio, arloesi a newid gwasanaethau

Egwyddorion y ddeddf

  • Mae’r ddeddf yn cynorthwyo pobl ag anghenion gofal a chymorth i gyflawni llesiant.
  • Mae pobl yn ganolog i'r system newydd drwy roi llais cyfartal iddynt am y cymorth y maent yn ei gael.
  • Mae partneriaeth a chydweithrediad yn sail i ddarparu gwasanaethau.
  • Bydd gwasanaethau'n hybu atal; bydd hyn yn atal angen rhag gwaethygu. Bydd gwasanaethau’n sicrhau bod y cymorth cywir ar gael ar yr adeg gywir.

Mae’r ddeddf yn trawsnewid gofal cymdeithasol yng Nghymru a’i nod yw gwella llesiant pobl. Bydd gwasanaethau gofal a chymorth ledled Cymru’n canolbwyntio ar:

  • y canlyniadau llesiant y mae pobl sydd angen gofal a chymorth eisiau eu cyflawni
  • y canlyniadau llesiant y mae gofalwyr di-dâl sydd angen cymorth eisiau eu cyflawni
  • hawliau a chyfrifoldebau pobl

Mesur llesiant cenedlaethol

Mae'r fframwaith canlyniadau cenedlaethol:

  • yn disgrifio llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr di-dâl sydd angen cymorth
  • yn bodloni gofynion rhan 2 o adran 8 o'r ddeddf
  • yn adeiladu ar y canlyniadau llesiant cenedlaethol o'r datganiad llesiant
  • yn cynnwys dangosyddion canlyniadau cenedlaethol sy'n ymwneud ag wyth agwedd ar lesiant

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • sicrhau hawliau a hawlogaethau
  • iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant emosiynol
  • amddiffyniad rhag camdriniaeth ac esgeulustod
  • addysg, hyfforddiant a gweithgareddau hamdden
  • perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol
  • cyfraniad a wneir at gymdeithas
  • llesiant cymdeithasol ac economaidd
  • addasrwydd llety preswyl

Mae'r dangosyddion canlyniadau cenedlaethol yn dangos a yw'r canlyniadau llesiant cenedlaethol yn cael eu cyflawni. Maent yn rhoi mesur o lesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr di-dâl sydd angen cymorth. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu'r dangosyddion canlyniadau cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â chyfres eang o randdeiliaid o bob cwr o Gymru. Mae'r rhestr lwyr o'r dangosyddion, eu hangen a'r data mwyaf diweddar y gellir ei ddod o hyd iddi i gyfeiriad at waelod yr adroddiad hwn.

Mae prif dargedau'r fframwaith canlyniadau cenedlaethol yn:

  • Hybu llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr di-dâl sydd angen cymorth yng Nghymru. Bydd newid pwyslais y ddarpariaeth i hybu llesiant yn rhoi ffocws i’r holl wasanaethau. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau statudol, y trydydd sector a'r sector annibynnol. Bydd gwasanaethau'n cydweithio i hybu llesiant mewn perthynas â gofal a chymorth. Bydd gwasanaethau'n gweithio gyda phobl sy'n cael gofal a chymorth a gofalwyr di-dâl er mwyn:
    • deall yr hyn sy'n bwysig iddynt
    • gweithio mewn partneriaeth i adeiladu ar gryfderau a galluoedd pobl. Bydd hyn yn galluogi pobl i gynnal lefel briodol o annibyniaeth. Efallai y bydd angen lefelau priodol o ofal a chymorth ar bobl i aros yn annibynnol.
  • Dangos a yw gwasanaethau'n gwella canlyniadau llesiant i bobl sydd angen gofal neu gymorth. Bydd yn gwneud hyn gan ddefnyddio dangosyddion cyson y gellir eu cymharu. Bydd hyn yn caniatáu i'r sector farnu ei berfformiad. Bydd yn tynnu sylw at gamau sydd eu hangen i wella llesiant pobl. Bydd yn gwneud hyn yn hytrach na chanolbwyntio ar brosesau'r gwasanaethau cymdeithasol. Bydd y fframwaith canlyniadau cenedlaethol yn nodi blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwella. Bydd hefyd yn nodi arferion gorau a'r adnoddau a'r polisïau sydd eu hangen.
  • Disgrifio'r canlyniadau llesiant cenedlaethol ar gyfer pobl sydd angen gofal neu gymorth. Dyma'r canlyniadau y dylai pobl ddisgwyl eu cyflawni er mwyn byw bywydau bodlon. Bydd hyn yn rhoi mwy o lais a mwy o reolaeth i bobl dros eu bywydau. Bydd hyn yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus. Bydd hyn yn sicrhau bod pobl yn cyfrannu at wella eu llesiant eu hunain. Bydd canolbwyntio ar ganlyniadau llesiant pobl yn arwain at brofiadau a gwasanaethau gwell.
  • Mesur a yw Cymru'n cyflawni'r nodau sydd yn Neddf llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae saith nod llesiant wedi'u gosod yn y ddeddf. Mae'r rhain yn cynnwys sicrhau Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru fwy cyfartal a Chymru iachach. Mae’r ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ni wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Nod y ddeddf yw gwneud hyn nawr ac yn y dyfodol.

Cysylltiadau â fframweithiau eraill

Mae'r fframwaith canlyniadau cenedlaethol hwn hefyd yn cysylltu'n agos â chod ymarfer Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chod ymarfer Llywodraeth Cymru mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru gan awdurdodau lleol. Daeth hwn i rym ym mis Ebrill 2020. Mae'n edrych ar dystiolaeth ar ddarparu gofal a chymorth, a’r cymorth i ofalwyr di-dâl ledled Cymru. Mae'n defnyddio tystiolaeth gan awdurdodau lleol ledled Cymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynhyrchu fframwaith canlyniadau Iechyd y cyhoedd, chwaer-fframwaith i'r fframwaith canlyniadau cenedlaethol, a ddyluniwyd i helpu i ddeall yr effaith mae ymddygiad, gwasanaethau cyhoeddus, rhaglenni a pholisïau unigol yn ei chael ar iechyd a llesiant yng Nghymru. Lle mae dangosyddion y fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol yn gorgyffwrdd â'r rhai yn fframwaith canlyniadau iechyd y cyhoedd, rydym yn cyfeirio darllenwyr at fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd, sef:

  • 13. canran yr oedolion (16 oed neu hŷn) sydd â 2 neu fwy o ymddygiadau ffordd iach o fyw:
    • ddim yn ysmygu
    • bod â phwysau iach
    • bwyta 5 dogn o ffrwythau neu lysiau bob dydd
    • peidio ag yfed mwy na’r canllawiau a dilyn
    • canllawiau gweithgarwch corfforol
  • 14. canran y genedigaethau byw, unig-anedig, sydd â phwysau geni o lai na 2,500 gram
  • 18. disgwyliad oes iach adeg genedigaeth
  • 19. nifer y bobl hŷn sy'n torri eu clun
  • 44. bwlch o ran disgwyliad oes rhwng y rhai lleiaf difreintiedig a'r mwyaf difreintiedig

Yn flaenorol, roedd y fframwaith canlyniadau cenedlaethol wedi'i gysylltu'n agos â'r fframwaith canlyniadau ar y cyd, ond nid yw'r fframwaith hwn yn cael ei gynhyrchu mwyach; adroddir am unrhyw ddangosyddion sy'n gorgyffwrdd yma. 

Ynglŷn â'r adroddiad hwn

Mae'r dystiolaeth o adroddiadau'r fframwaith canlyniadau cenedlaethol yn cyfrannu at sylfaen dystiolaeth ehangach i Gymru, sy'n cynnwys data a gasglwyd, adroddiadau blynyddol awdurdodau lleol a gofynion eraill, megis asesiadau anghenion y boblogaeth. Byddwn yn defnyddio'r dystiolaeth hon i nodi'r blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwella. Bydd hyn yn cynnig dealltwriaeth o effaith gofal a chymorth ar fywydau pobl.

Bydd yr adroddiad hwn yn cynnwys data hyd at 31 Mawrth 2024, lle bo hynny'n bosibl. Lle nad yw hyn yn bosibl, bydd y data mwyaf diweddar i gael ei gyhoeddi yn cael ei gynnwys. Y tro diwethaf i ni gyhoeddi adroddiad oedd yn ystod hydref 2024, a oedd yn cynnwys data hyd at 31 Mawrth 2023.

Ansawdd a ffynonellau data

Mae'r manylion am y ffynonellau data a ddefnyddiwyd i lunio'r adroddiad hwn, a'u hansawdd, ar gael yn yr atodiadau ar ddiwedd y ddogfen hon.

Mae 4 categori o bobl wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn:

  1. pobl ag anghenion gofal, sydd wedi nodi eu bod yn cael gofal a chymorth
  2. pobl nad ydynt yn cael gofal a chymorth
  3. pobl sydd â chyfrifoldebau fel gofalwr di-dâl
  4. pobl nad ydynt yn ofalwyr di-dâl (y rhai nad ydynt yn ofalwyr)

Nid yw'r categorïau hyn yn gwbl ar wahân i'w gilydd. Felly, gall rhai unigolion fod yn cael gofal a chymorth a hefyd bod â chyfrifoldebau gofalu eu hunain. Yn yr un modd, gall unigolion nad ydynt yn cael gofal a chymorth fod yn ofalwyr di-dâl sy'n cael cymorth neu ddim yn ofalwyr di-dâl sy’n cael cymorth.

Mae arolwg cenedlaethol Cymru yn arolwg o oedolion mewn aelwydydd preifat, felly nid yw plant o dan 16 oed wedi'u cynnwys. Hefyd, nid yw oedolion sy'n drigolion hirdymor mewn cartrefi gofal wedi'u cynnwys. Mae hyn yn golygu nad yw cyfran sylweddol o bobl sy'n cael gofal a chymorth wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn. Noder na ellir cymharu data o arolwg cenedlaethol Cymru 2020 a 2021 ymlaen yn uniongyrchol â data blynyddoedd blaenorol oherwydd newidiadau i ddull yr arolwg o ddull wyneb yn wyneb i ddull ffôn ac ar-lein. Roedd hyn oherwydd COVID-19.

Yn ogystal, newidiodd y cwestiynau a ddefnyddiwyd i bennu pa bobl sy'n cael gofal a chymorth a gofalwyr sy'n cael cymorth. Felly, efallai na fydd modd eu cymharu. Fodd bynnag, darperir data ar gyfer 2018 a 2019 at ddibenion cyfeirio.

Oherwydd pwysau costau a'r gostyngiad mewn cyfraddau ymateb a brofwyd gan arolygon yn gyffredinol, ni fydd gwaith maes ar gyfer arolwg cenedlaethol Cymru 2025 a 2026 yn mynd rhagddo. Mae gwaith wedi dechrau ar ddull arolwg ar-lein yn gyntaf y disgwylir iddo gael ei gynnal o 2026 a 2027. Bydd hyn yn effeithio ar rai o'r dangosyddion a adroddir mewn Fframweithiau Canlyniadau Cenedlaethol yn y dyfodol.

Sicrhau hawliau a hawlogaethau

Mae gan bawb hawl i gael llais a chyfle i gael ei glywed. Dylai pobl gael rheolaeth go iawn dros eu bywydau beunyddiol. Mae hawliau pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr di-dâl sydd angen cymorth, yn ganolog i ddeddf 2014. Mae'r datganiad llesiant hwn yn adlewyrchu'r ymrwymiad hwnnw.

Mae'r prif ganlyniadau llesiant yn cynnwys helpu pobl i fod â rheolaeth dros eu bywydau eu hunain. Mae hefyd yn golygu helpu pobl i wneud penderfyniadau am eu gofal neu eu cymorth.

Dangosyddion canlyniadau

Mae'r prif ganlyniadau lles yn cynnwys helpu pobl i fod yn rheolaeth dros eu bywydau eu hunain. Mae hefyd yn cynnwys helpu pobl i wneud penderfyniadau am eu gofal neu eu cefnogaeth:

  1. canran y bobl sy’n dweud bod y gofal a’r cymorth y maent wedi’u cael yn ardderchog neu’n dda
  2. canran y bobl sydd ag ansawdd bywyd gwell, diolch i gyfraniad eu gofal a chymorth
  3. canran y bobl sy'n teimlo eu bod wedi cael eu trin â pharch
  4. canran y bobl sy’n dweud bod y bobl a roddodd help, gofal a chymorth iddynt yn ardderchog neu’n dda
  5. canran y bobl a gafodd yr wybodaeth neu’r cyngor cywir pan oedd eu hangen arnynt
  6. canran y bobl sy’n dweud eu bod yn gallu rheoli eu bywyd beunyddiol gymaint ag y gallant
  7. canran y bobl a oedd yn teimlo eu bod yn rhan o benderfyniadau am eu gofal a’u cymorth
  8. canran y mudiadau gwirfoddol sy’n cynnig gweithgareddau plant a gweithgareddau lles i deuluoedd
  9. canran yr oedolion sy'n cael gofal a chymorth sy'n cael taliad uniongyrchol

1. Canran y bobl sy’n dweud bod y gofal a’r cymorth y maent wedi’u cael yn ardderchog neu’n dda

Rhaid i bobl a gofalwyr di-dâl gael gwasanaethau gofal a chymorth o ansawdd da er mwyn gallu:

  • gwella eu llesiant
  • byw'n annibynnol
  • cyflawni eu canlyniadau llesiant personol

Ffigur 1: Canran y bobl sy’n dweud bod y gofal a’r cymorth y maent wedi’u cael yn ardderchog neu’n dda rhwng 2018 i 2019 a 2022 i 2023.

Image
Graff llinell sy'n dangos y gwahaniaethau rhwng y gyfran o bobl sy'n cael gofal a chymorth a gofalwyr sy'n cael cymorth sy'n dweud bod eu gofal a'u cymorth yn ardderchog neu'n dda.

Disgrifiad o Ffigur 1: Graff llinell sy'n dangos y gwahaniaethau rhwng y gyfran o bobl sy'n cael gofal a chymorth a gofalwyr sy'n cael cymorth sy'n dweud bod eu gofal a'u cymorth yn ardderchog neu'n dda. 

Mae cyfrannau’r bobl sy'n cael gofal a chymorth a gofalwyr sy'n cael cymorth wedi aros yn debyg, ar wahân i 2018 i 2019 lle’r oedd cyfran sylweddol is o ofalwyr yn dweud bod eu cymorth yn ardderchog neu'n dda.

Ffynhonnell: arolwg cenedlaethol Cymru

2. Canran y bobl sydd ag ansawdd bywyd gwell, diolch i gyfraniad eu gofal a chymorth

Gofynnwyd i bobl a oedd yn cael gofal a chymorth a gofalwyr di-dâl a oedd yn cael cymorth a yw gwasanaethau gofal a chymorth wedi eu helpu i fwynhau ansawdd bywyd gwell.

Ffigur 2: Canran y bobl sydd ag ansawdd bywyd gwell, diolch i gyfraniad eu gofal a chymorth rhwng 2018 i 2019 a 2022i 2023

Image
Graff llinell sy'n dangos y gwahaniaethau rhwng pobl sy'n cael gofal a chymorth a gofalwyr sy'n cael cymorth a ddywedodd fod eu gofal a/neu eu cymorth wedi eu helpu i fwynhau ansawdd bywyd gwell. Roedd cyfran y bobl sy'n credu bod eu gofal a/neu eu cymorth wedi eu helpu i fwynhau ansawdd bywyd gwell yn uwch ym mhob blwyddyn ar gyfer unigolion sy'n cael gofal a chymorth nag ar gyfer gofalwyr sy'n cael cymorth.

Disgrifiad o Ffigur 2: Graff llinell sy'n dangos y gwahaniaethau rhwng pobl sy'n cael gofal a chymorth a gofalwyr sy'n cael cymorth a ddywedodd fod eu gofal neu eu cymorth wedi eu helpu i fwynhau ansawdd bywyd gwell. 

Roedd cyfran y bobl sy'n credu bod eu gofal neu eu cymorth wedi eu helpu i fwynhau ansawdd bywyd gwell yn uwch ym mhob blwyddyn ar gyfer unigolion sy'n cael gofal a chymorth nag ar gyfer gofalwyr sy'n cael cymorth.

Ffynhonnell: arolwg cenedlaethol Cymru

3. Canran y bobl sy'n teimlo eu bod wedi cael eu trin â pharch

Mae llesiant pobl a’u canlyniadau llesiant personol yn gwella:

  • pan maen nhw'n cael eu trin â pharch ac urddas
  • pan maen nhw'n cael y gofal/a neu'r cymorth priodol
  • pan maen nhw'n rhydd rhag camdriniaeth ac esgeulustod
  • pan maen nhw'n cael cymorth i fyw’n annibynnol

Mae cyfrannau’r bobl sy'n cael gofal a chymorth, a'r gofalwyr sy'n cael cymorth, sy'n teimlo eu bod wedi cael eu trin â pharch wedi aros yn debyg dros y blynyddoedd diwethaf. I'r rhai sy'n cael gofal a chymorth, y cyfrannau sy'n teimlo eu bod wedi cael eu trin â pharch oedd

  • 89% yn 2022 i 2023
  • 92% yn 2020 i 2021

Mae hyn yn cymharu â gofalwyr sy'n cael cymorth, lle'r oedd y cyfrannau yn

  • 86% yn 2022 i 2023
  • 86% yn 2020 i 2021

Ffynhonnell: arolwg cenedlaethol Cymru

4. Canran y bobl sy’n dweud bod y bobl a roddodd help, gofal a chymorth iddynt yn ardderchog neu’n dda

Gofynnwyd i bobl a oedd yn cael gofal a chymorth a gofalwyr a oedd yn cael cymorth i raddio'r bobl a oedd yn eu helpu, yn gofalu amdanynt neu'n eu cefnogi'n uniongyrchol.

Ffigur 3: Canran y bobl sy’n dweud bod y bobl a roddodd help, gofal a chymorth iddynt yn ardderchog neu’n dda rhwng 2018 i 2019 a 2022 i 2023

Image
Graff llinell sy'n dangos y gwahaniaethau rhwng pobl sy'n cael gofal a chymorth a gofalwyr sy'n cael cymorth a ddywedodd bod y bobl sy'n rhoi cymorth, gofal a chymorth iddynt yn ardderchog neu'n dda. Adroddodd unigolion sy'n cael gofal a chymorth ganrannau uwch yn gyson na gofalwyr sy'n cael cymorth. Roedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng y grwpiau yn 2018 i 2019.

Disgrifiad o Ffigur 3: Graff llinell sy'n dangos y gwahaniaethau rhwng pobl sy'n cael gofal a chymorth a gofalwyr sy'n cael cymorth a ddywedodd bod y bobl sy'n rhoi cymorth, gofal a chymorth iddynt yn ardderchog neu'n dda. Adroddodd unigolion sy'n cael gofal a chymorth ganrannau uwch yn gyson na gofalwyr sy'n cael cymorth. Roedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng y grwpiau yn 2018 i 2019.

Ffynhonnell: arolwg cenedlaethol Cymru

Yr un mor bwysig, yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, dywedodd cyfran nodedig o ofalwyr di-dâl fod eu cymorth yn wael neu'n wael iawn:

  • 14% yn 2022 i 2023
  • 5% yn 2020 i 2021
  • 10% yn 2018 i 2019 

5. Canran y bobl a gafodd yr wybodaeth neu’r cyngor cywir pan oedd eu hangen arnynt

Mae pobl angen gwybodaeth amserol a hygyrch i wneud penderfyniadau gwybodus am eu llesiant. Dylai gwybodaeth a chyngor fod ar gael ar yr adeg iawn a'r llefydd iawn. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth hygyrch am ofal a chymorth.

Gofynnwyd i bobl a oedd yn cael gofal a chymorth a gofalwyr di-dâl a oedd yn cael cymorth a oeddent yn cytuno neu'n anghytuno â’r gosodiad ‘wrth gael gofal a chymorth yn y 12 mis diwethaf, roeddent wedi cael yr wybodaeth neu’r cyngor cywir fel bo'r angen'. Mae cyfran y bobl sy'n cael gofal a chymorth a dderbyniodd yr wybodaeth neu'r cyngor cywir wedi bod yn sefydlog dros y pum mlynedd diwethaf, gydag:

  • 81% yn 2022 i 2023
  • 82% yn 2020 i 2021
  • 79% yn 2018 i 2019

Fodd bynnag, ar gyfer gofalwyr di-dâl sy'n cael cymorth, roedd hyn yn fwy amrywiol: 

  • 74% yn 2022 i 2023
  • 80% yn 2020 i 2021
  • 68% yn 2018 i 2019

Ffynhonnell: arolwg cenedlaethol Cymru

6. Canran y bobl sy’n dweud eu bod yn gallu rheoli eu bywyd beunyddiol gymaint ag y gallant

“Llais a rheolaeth" yw un o egwyddorion craidd Deddf 2014, a'i nod yw rhoi unigolion, gan gynnwys gofalwyr di-dâl, a'u hanghenion wrth wraidd eu gofal i'w galluogi neu eu grymuso i lunio'r canlyniadau sy'n caniatáu iddynt gyflawni ymdeimlad o lesiant ac ansawdd bywyd da o ran y pethau sydd bwysicaf iddynt. Mae sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed a bod rhywun yn gwrando arnoch, a chael rheolaeth dros fywyd beunyddiol, yn cael ei ystyried yn hawl sylfaenol.

Mae cyfran y bobl sy'n dweud eu bod yn gallu rheoli eu bywyd beunyddiol yn is ar gyfer y rhai sy'n cael gofal a chymorth, neu gymorth fel gofalwyr di-dâl. Yn 2022 i 2023, y cyfrannau oedd:

  • 74% cant o bobl sy'n cael gofal a chymorth
  • 86% o ofalwyr di-dâl,
  • 92% o bobl nad ydynt yn cael gofal a chymorth, neu gymorth fel gofalwyr

Yn 2018 i 2019, cytunodd 73% o'r bobl sy'n cael gofal a chymorth neu ofalwyr di-dâl sy'n cael cymorth eu bod yn gallu rheoli eu bywyd beunyddiol gymaint ag y gallent, sy'n is nag yn 2022 i 2023. 

Nid oedd data ar gael ar gyfer 2020 i 2021.

Ffynhonnell: arolwg cenedlaethol Cymru

7. Canran y bobl a oedd yn teimlo eu bod yn rhan o benderfyniadau am eu gofal a’u cymorth

Rhaid i bobl sy'n cael gofal a chymorth fod yn bartneriaid cyfartal yn eu gofal. Mae hyn yn cynnwys dylunio a darparu eu gofal a'u cymorth. Yr unigolion eu hunain sy'n gwybod beth sydd orau iddynt. Mae Deddf 2014 yn rhoi’r un hawliau cyfreithiol i ofalwyr di-dâl yng Nghymru ag i’r rhai y maent yn gofalu amdanynt.

Bu gwelliant bach dros amser yng nghyfran y bobl a oedd yn teimlo eu bod yn rhan o benderfyniadau am eu gofal a'u cymorth, neu eu cymorth fel gofalwyr. Ar gyfer pobl sy'n cael gofal a chymorth:

  • 84% yn 2022 i 2023
  • 80% yn 2020 i 2021
  • 80% yn 2018 i 2019 

Mae'r duedd hon hefyd i'w gweld ar gyfer gofalwyr di-dâl lle:

  • 82% yn 2022 i 2023
  • 80% yn 2020 i 2021
  • 78% yn 2018 i 2019 

Ffynhonnell: arolwg cenedlaethol Cymru

8. Canran y mudiadau gwirfoddol sy’n cynnig gweithgareddau plant a gweithgareddau lles i deuluoedd

Mae'r trydydd sector yn ategu gwasanaethau statudol. Maent yn darparu gwasanaethau er budd pobl a chymunedau yng Nghymru.

Mae mudiadau gwirfoddol yn cynnig gweithgareddau i gefnogi lles teuluoedd a phlant. Gallai’r rhain gynnwys:

  • darpariaeth cyn ysgol
  • canolfannau lleol sy'n darparu gwasanaethau
  • gwasanaethau mabwysiadu a maethu
  • sefydliadau hawliau plant
  • gwasanaethau i blant anabl

Ym mis Mawrth 2024, roedd 6% o fudiadau gwirfoddol yn ymwneud â gweithgareddau plant a theuluoedd. Mae hyn yn is na mis Gorffennaf 2023, pan oedd 9% o fudiadau gwirfoddol yn ymwneud â gweithgareddau plant a theuluoedd.

Daw'r data hwn o giplun ym mis Medi 2024 ac efallai na fydd yn adlewyrchu'r data a gedwir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) ar adeg arall. Cymerodd Fframweithiau Canlyniadau Cenedlaethol blaenorol gipluniau ym mis Mawrth y flwyddyn gasglu; o 2024 ymlaen, bydd y rhain yn cael eu cymryd ym mis Medi 2024 yn lle hynny.

Ffynhonnell: CGGC.

9. Canran yr oedolion sy'n cael gofal a chymorth sy'n cael taliad uniongyrchol

Mae taliadau uniongyrchol yn caniatáu i bobl brynu'r gofal neu'r cymorth sydd ei angen arnynt. Am ragor o wybodaeth, gweler y canllaw i daliadau uniongyrchol yng Nghymru. Awdurdodau lleol sy'n darparu'r arian i oedolion sydd angen gofal neu gymorth. Dyma un ffordd y gall unigolion reoli'r ffyrdd mae eu hanghenion gofal a chymorth yn cael eu diwallu.

Mae cyfrannau'r oedolion sy'n cael taliadau uniongyrchol a ddefnyddir i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth wedi aros tua 11%. Roedd yn:

  • 11.3% yn 2022 i 2023
  • 11.1% yn 2021 i 2022
  • 11.4% yn 2020 

Ffynhonnell: Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol

Iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant emosiynol

Mae angen iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol da arnom i wella ein hansawdd bywyd. Mae hyn yn wir am bobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr di-dâl sydd angen cymorth. Mae'r datganiad llesiant hwn yn cydnabod hyn. Mae bod yn iach ac yn egnïol yn gallu caniatáu i blant ddatblygu i'w llawn botensial. Mae'n lleihau'r tebygolrwydd y byddant angen cymorth gan wasanaethau gofal a chymorth yn ddiweddarach yn eu bywydau. I oedolion, mae mwynhau iechyd a llesiant corfforol ac emosiynol da yn gallu eu helpu i gadw eu hannibyniaeth. Mae sawl ffactor yn cyfrannu at iechyd meddwl a llesiant emosiynol. Er mwyn gwella llesiant unigolion, rhaid i wasanaethau weithio mewn modd cyfannol. Mae angen i wasanaethau weithio gyda'r unigolyn ac edrych ar ei fywyd yn ei gyfanrwydd. Drwy gydweithio, gallant helpu'r unigolyn i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddo.

  • 10. canran y bobl sydd â sgoriau hapusrwydd uchel
  • 11. canran y bobl sydd â sgoriau uchel o ran bodlonrwydd â bywyd
  • 12. canran y bobl â llesiant meddwl uchel
  • 15. canran y plant sy'n cael gofal a chymorth sydd â phroblemau iechyd meddwl
  • 16. canran y plant sy'n cael gofal a chymorth sydd wedi cael yr imiwneiddiadau diweddaraf
  • 17. canran y plant 5 oed a hŷn sy'n cael gofal a chymorth sydd wedi cael yr archwiliadau deintyddol diweddaraf
  • 20. canran yr oedolion sy’n dweud bod eu hiechyd cyffredinol yn dda iawn neu’n dda

10. canran y bobl sydd â sgoriau hapusrwydd uchel

Pan ofynnir iddynt yn arolwg cenedlaethol Cymru, mae pobl sy'n cael gofal a chymorth yn tueddu i adrodd lefelau is o hapusrwydd na gofalwyr di-dâl sy'n cael cymorth a phobl nad ydynt yn cael gofal a chymorth neu'r rhai nad ydynt yn ofalwyr. Roedd gofalwyr di-dâl yn tueddu i adrodd lefelau tebyg o hapusrwydd i bobl nad ydynt yn ofalwyr a'r rhai nad ydynt yn cael gofal a chymorth.

Ffigur 4: Canran y bobl sy'n adrodd hapusrwydd uchel neu uchel iawn rhwng 2018 i 2019 a 2022 i 2023

Image
Graff llinell sy'n dangos y gwahaniaethau mewn hapusrwydd a adroddwyd rhwng pobl sy'n cael gofal a chymorth, gofalwyr sy'n cael cymorth, a'r rhai nad ydynt yn cael gofal a chymorth a'r rhai nad ydynt yn ofalwyr. Y rhai nad ydynt yn cael gofal a chymorth a'r rhai nad ydynt yn ofalwyr a adroddodd y lefelau hapusrwydd uchel gan mwyaf. Unigolion sy'n cael gofal a chymorth oedd â’r gyfran isaf o bobl â lefelau hapusrwydd uchel.

Disgrifiad o Ffigur 4: Graff llinell sy'n dangos y gwahaniaethau mewn hapusrwydd a adroddwyd rhwng pobl sy'n cael gofal a chymorth, gofalwyr sy'n cael cymorth, a'r rhai nad ydynt yn cael gofal a chymorth a'r rhai nad ydynt yn ofalwyr. Y rhai nad ydynt yn cael gofal a chymorth a'r rhai nad ydynt yn ofalwyr a adroddodd y lefelau hapusrwydd uchel gan mwyaf. Unigolion sy'n cael gofal a chymorth oedd â’r gyfran isaf o bobl â lefelau hapusrwydd uchel.

Ffynhonnell: arolwg cenedlaethol Cymru

11. Canran y bobl sydd â sgoriau uchel o ran bodlonrwydd â bywyd

Ers 2018 i 2019, pobl sy'n cael gofal a chymorth sydd wedi adrodd y sgoriau isaf o ran bodlonrwydd â bywyd. Mae hyn yn cyferbynnu â sgoriau bodlonrwydd â bywyd tebyg rhwng pobl nad ydynt yn cael gofal a chymorth, gofalwyr di-dâl a'r rhai nad ydynt yn ofalwyr.

Ffigur 5: Canran y bobl â sgoriau uchel o ran bodlonrwydd â bywyd rhwng 2018 i 2019 a 2022 i 2023

Image
Siart llinell sy'n dangos y gwahaniaethau yng nghyfrannau pob grŵp sy'n adrodd sgoriau uchel o ran bodlonrwydd â bywyd. Y grwpiau yw: unigolion sy'n cael gofal a chymorth, unigolion nad ydynt yn cael gofal a chymorth, gofalwyr sy'n cael cymorth a'r rhai nad ydynt yn ofalwyr. Gall rhai pobl fod mewn mwy nag un grŵp, er enghraifft, gofalwyr sydd hefyd ag anghenion gofal a chymorth eu hunain.

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart llinell sy'n dangos y gwahaniaethau yng nghyfrannau pob grŵp sy'n adrodd sgoriau uchel o ran bodlonrwydd â bywyd. Y grwpiau yw: unigolion sy'n cael gofal a chymorth, unigolion nad ydynt yn cael gofal a chymorth, gofalwyr sy'n cael cymorth a'r rhai nad ydynt yn ofalwyr. Gall rhai pobl fod mewn mwy nag un grŵp, er enghraifft, gofalwyr sydd hefyd ag anghenion gofal a chymorth eu hunain.

Adroddodd pobl nad ydynt yn ofalwyr ac unigolion nad ydynt yn cael gofal a chymorth lefelau cymharol uchel tebyg o fodlonrwydd â bywyd ar draws pob blwyddyn. Nododd cyfran is o ofalwyr lefelau uchel o ran bodlonrwydd â bywyd, ac unigolion sy'n cael gofal a chymorth a adroddodd y lefelau isaf. Adroddodd pob grŵp y lefelau isaf o ran bodlonrwydd â bywyd yn 2020 i 2021.

Ffynhonnell: arolwg cenedlaethol Cymru

12. Canran y bobl â llesiant meddwl uchel

Cafodd Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin (WEMWBS) ei chynnwys yn yr Arolwg Cenedlaethol i roi gwybodaeth am lesiant meddyliol. Gofynnwyd cyfres o ddatganiadau i'r ymatebwyr ac, yn seiliedig ar eu hatebion, rhoddwyd sgôr o rhwng 14 (y llesiant meddyliol isaf) a 70 (uchaf) iddynt. At ddibenion dadansoddi, gwnaethom grwpio'r sgoriau hyn fel a ganlyn:

  • llesiant meddyliol is na'r cyfartaledd: sgoriau 14 i 44
  • llesiant cyfartalog: sgoriau 45 i 57
  • llesiant meddyliol uwch na'r cyfartaledd: sgoriau 58 i 70

Roedd sgoriau llesiant meddyliol yn sylweddol is yn 2022 i 2023 nag yn 2018 i 2019 ar gyfer pob grŵp. Yn ogystal, adroddodd pobl sy'n cael gofal a chymorth y sgoriau llesiant meddyliol isaf, gyda:

  • llai na 6% yn 2022 i 2023 yn adrodd llesiant meddyliol uwch na'r cyfartaledd, o gymharu ag
  • 16% yn 2018 i 2019

Cyfrannau'r gofalwyr di-dâl a adroddodd lesiant meddyliol uwch na'r cyfartaledd oedd

  • 13 % yn 2022 i 2023
  • 25% yn 2018 i 2019

Adroddodd 14% o bobl nad ydynt yn cael gofal a chymorth, ac 14% o bobl nad ydynt yn ofalwyr, lesiant meddyliol uwch na'r cyfartaledd yn 2022 i 2023. Nid oedd data cyfatebol ar gael ar gyfer pobl nad ydynt yn cael gofal a chymorth a phobl nad ydynt yn ofalwyr yn 2018-19. Nid oedd unrhyw ddata ar gael ar gyfer 2020 i 2021.

Ffynhonnell: arolwg cenedlaethol Cymru

15. Canran y plant sy'n cael gofal a chymorth sydd â phroblemau iechyd meddwl

Mae'r Cyfrifiad Plant sy'n Cael Gofal a Chymorth yn cofnodi nifer y plant dros 10 oed sy'n wynebu anawsterau gyda’u datblygiad emosiynol neu ymddygiadol.

Mae canran y plant sy'n cael gofal a chymorth sydd â phroblemau iechyd meddwl wedi bod yn cynyddu ers 2020:

  • yn 2023, o'r 9,285 o blant a oedd yn cael gofal a chymorth lle’r oedd gwybodaeth iechyd meddwl ar gael, roedd gan 18.2% broblemau iechyd meddwl
  • yn 2022, o'r 8,685 o blant a oedd yn cael gofal a chymorth yn 2022, roedd gan 18.1% broblemau iechyd meddwl
  • yn 2021, o'r 8,685 o blant a oedd yn cael gofal a chymorth, roedd gan 17.3% broblemau iechyd meddwl
  • yn 2020, o'r 8,390 o blant a oedd yn cael gofal a chymorth, roedd gan 14.2% broblemau iechyd meddwl

Ffigur 6: Canran y plant sy'n cael gofal a chymorth sydd â phroblemau iechyd meddwl rhwng 2018 i 2023

Image
Siart llinell sy'n dangos tuedd gyffredinol ar i fyny yng nghanran y plant dros 10 oed sy'n cael gofal a chymorth sydd â phroblemau iechyd meddwl, ar wahân i ostyngiad yn 2020. Mae gan y graff ddwy gyfres ddata: pob plentyn sy'n cael gofal a chymorth a phlant sy'n cael gofal a chymorth sydd hefyd yn derbyn gofal.

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart llinell sy'n dangos tuedd gyffredinol ar i fyny yng nghanran y plant dros 10 oed sy'n cael gofal a chymorth sydd â phroblemau iechyd meddwl, ar wahân i ostyngiad yn 2020. Mae gan y graff ddwy gyfres ddata: pob plentyn sy'n cael gofal a chymorth a phlant sy'n cael gofal a chymorth sydd hefyd yn derbyn gofal.

Roedd cyfrannau'r ddau grŵp sydd â phroblemau iechyd meddwl yn debyg yn 2018 a 2019. Ar gyfer plant sy'n cael gofal a chymorth, bu gostyngiad bach yn y gyfran sydd â phroblemau iechyd meddwl yn 2020, ond cynyddodd lefelau eto rhwng 2021 a 2024. Ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, bu gostyngiad bach hefyd yn 2020, uchafbwynt yn 2022, a gostyngiad bach arall yn 2023. Fodd bynnag, rhwng 2020 a 2023, roedd gan blant sy'n cael gofal a chymorth a phlant sy'n derbyn gofal gyfrannau cyson is o blant â phroblemau iechyd meddwl na'r holl blant sy'n derbyn gofal.

Ffynhonnell: Cyfrifiad Plant sy'n Cael Gofal a Chymorth

16. Canran y plant sy'n cael gofal a chymorth sydd wedi cael yr imiwneiddiadau diweddaraf

Wrth lunio cynllun iechyd ar gyfer plant, mae'n ofynnol i'r awdurdodau cyfrifol sicrhau bod y plentyn yn cael gofal iechyd, gan gynnwys unrhyw imiwneiddiadau angenrheidiol ac a argymhellir ac unrhyw sylw meddygol a deintyddol angenrheidiol.

Mae cyfraddau'r plant sy'n cael gofal a chymorth sydd wedi cael yr imiwneiddiadau diweddaraf wedi gostwng ers 2021. Cafwyd cynnydd bach yn 2020 a gostyngiad bach yn 2022. Yn 2023, darparwyd gwybodaeth am imiwneiddiadau ar gyfer 91.4% (16,000 o 17,515) o blant 5 oed a hŷn.

Ffigur 7: Canran y plant sy'n cael gofal a chymorth sydd wedi cael yr imiwneiddiadau diweddaraf yn 2018 i 2023.

Image
Siart llinell sy'n dangos canran y plant sy'n cael gofal a chymorth a oedd wedi cael yr imiwneiddiadau diweddaraf yn 2018-23. Roedd tuedd ar i fyny rhwng 2018 a 2020, roedd cyfraddau'n sefydlog yn 2020 a 2021, bu gostyngiad bach yn 2022, a chynnydd bach eto yn 2023.

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart llinell sy'n dangos canran y plant sy'n cael gofal a chymorth a oedd wedi cael yr imiwneiddiadau diweddaraf yn 2018 i 2023. Roedd tuedd ar i fyny rhwng 2018 a 2020, roedd cyfraddau'n sefydlog yn 2020 a 2021, bu gostyngiad bach yn 2022, a chynnydd bach eto yn 2023.

Ffynhonnell: Cyfrifiad Plant sy'n Cael Gofal a Chymorth

17. Canran y plant 5 oed a hŷn sy'n cael gofal a chymorth sydd wedi cael yr archwiliadau deintyddol diweddaraf

Gostyngodd cyfraddau'r plant sy'n cael gofal a chymorth sydd wedi cael yr archwiliadau deintyddol diweddaraf yn sylweddol yn 2021 a 2022, ond yna gwnaethant godi uwchlaw'r lefelau blaenorol yn 2023. 

Yn 2023, darparwyd gwybodaeth am archwiliadau deintyddol ar gyfer 86.6% o blant 5 oed a hŷn sy'n cael gofal a chymorth.

Wynebodd gwasanaethau deintyddol darfu difrifol yn ystod y pandemig oherwydd mesurau iechyd y cyhoedd angenrheidiol i amddiffyn staff a chleifion – gan gynnwys gofynion rheoli heintiau, cadw pellter corfforol a mwy o PPE – felly roedd llai o bobl yn gallu cael eu 'gweld' ym mhob sesiwn glinigol. Gall hyn esbonio'r gostyngiad yn 2021 a 2022.

Ffigur 8: Canran y plant 5 oed a hŷn sy'n cael gofal a chymorth sydd wedi cael yr archwiliadau deintyddol diweddaraf yn 2018 i 2023.

Image
Disgrifiad o Ffigur 8: Siart llinell sy'n dangos canran y plant sy'n cael gofal a chymorth a oedd wedi cael yr archwiliadau deintyddol diweddaraf yn 2018-23. Cafwyd cynnydd i uchafbwynt rhwng 2018 a 2019, tuedd ar i lawr yn 2020 a 2021, ac yna tuedd ar i fyny yn 2022 a 2023.

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart llinell sy'n dangos canran y plant sy'n cael gofal a chymorth a oedd wedi cael yr archwiliadau deintyddol diweddaraf yn 2018 i 2023. Cafwyd cynnydd i uchafbwynt rhwng 2018 a 2019, tuedd ar i lawr yn 2020 a 2021, ac yna tuedd ar i fyny yn 2022 a 2023. 

Ffynhonnell: Cyfrifiad Plant sy'n Cael Gofal a Chymorth

20. Canran yr oedolion sy’n dweud bod eu hiechyd cyffredinol yn dda iawn neu’n dda.

Mae gwahaniaeth iechyd clir rhwng y rhai sy'n cael gofal a chymorth a'r rhai nad ydynt yn cael gofal a chymorth. Yn benodol, roedd cyfrannau'r bobl nad ydynt yn cael gofal a chymorth sy'n dweud bod eu hiechyd cyffredinol yn dda iawn neu'n dda o leiaf ddwywaith cymaint â'r rhai ar gyfer pobl sy'n cael gofal a chymorth.

Ffigur 9: Canran yr oedolion sy'n dweud bod eu hiechyd cyffredinol yn dda neu'n dda iawn rhwng 2018 i 2019 a 2022 i 2023

Image
Siart llinell sy'n dangos canran yr oedolion sy'n dweud bod eu hiechyd cyffredinol yn dda neu'n dda iawn, wedi'u grwpio yn ôl: unigolion sy'n cael gofal a chymorth, unigolion nad ydynt yn cael gofal a chymorth, gofalwyr sy'n cael cymorth, pobl nad ydynt yn ofalwyr. Nid oedd data 2018-19 ar gael ar gyfer pobl nad ydynt yn cael gofal a chymorth a phobl nad ydynt yn ofalwyr.

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart llinell sy'n dangos canran yr oedolion sy'n dweud bod eu hiechyd cyffredinol yn dda neu'n dda iawn, wedi'u grwpio yn ôl: unigolion sy'n cael gofal a chymorth, unigolion nad ydynt yn cael gofal a chymorth, gofalwyr sy'n cael cymorth, pobl nad ydynt yn ofalwyr. Nid oedd data 2018 i 2019 ar gael ar gyfer pobl nad ydynt yn cael gofal a chymorth a phobl nad ydynt yn ofalwyr.

Roedd cyfrannau'r gofalwyr di-dâl a'r rhai nad ydynt yn ofalwyr sy'n dweud bod eu hiechyd cyffredinol yn dda neu'n dda iawn yn debyg, tra bod gwahaniaeth sylweddol rhwng unigolion sy'n cael gofal a chymorth a'r rhai nad ydynt yn cael gofal a chymorth. Wrth gymharu ar draws blynyddoedd, bu gostyngiad hefyd yng nghyfran y bobl sy'n dweud bod eu hiechyd cyffredinol yn dda neu'n dda iawn yn 2022 i 2023 o gymharu â blynyddoedd blaenorol ar draws pob grŵp. 

Noder y gall rhai pobl fod mewn mwy nag un grŵp, er enghraifft, gofalwyr sydd hefyd ag anghenion gofal a chymorth eu hunain. Oherwydd newid mewn dulliau casglu data, dim ond o 2020 i 2021 y casglwyd data ar gyfer pobl nad ydynt yn ofalwyr ac unigolion nad ydynt yn cael gofal a chymorth.

Ffynhonnell: arolwg cenedlaethol Cymru

Amddiffyniad rhag camdriniaeth ac esgeulustod

Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel a chael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn cryfhau'r trefniadau diogelu presennol ar gyfer plant. Mae wedi cyflwyno dyletswydd i asiantaethau (er enghraifft GIG Cymru) roi gwybod am sefyllfaoedd lle mae oedolion yn wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

Mae helpu unigolion i amddiffyn y rhai sy'n bwysig iddynt hefyd yn ganlyniad llesiant pwysig. Er enghraifft, drwy addysgu pobl i adnabod arwyddion a risgiau o gamdriniaeth ac esgeulustod.

Gall teimlo'n ddiogel mewn mannau cyhoeddus gynyddu'r tebygolrwydd y bydd unigolyn yn mynd allan. Byddai hyn yn golygu eu bod yn mwynhau eu cymuned leol ac yn teimlo ymdeimlad o berthyn. Mae hyn yn ei dro yn lleihau ynysigrwydd cymdeithasol.

Dangosyddion canlyniadau

Mae'r dangosyddion canlyniad ar gyfer diogelu rhag cam-drin a dessau'n cynnwys:

  • 21. canran y bobl sy'n dweud eu bod yn teimlo'n ddiogel
  • 22. canran y plant sy'n cael eu hailgofrestru ar gofrestr amddiffyn plant awdurdod lleol
  • 23. digwyddedd cam-drin domestig
  • 24. digwyddedd troseddau rhyw
  • 25. canran yr oedolion sy'n wynebu risg o ddioddef camdriniaeth neu esgeulustod sy'n cael eu hatgyfeirio fwy nag unwaith y flwyddyn

21. Canran y bobl sy'n dweud eu bod yn teimlo'n ddiogel

Mae'r datganiad yn cydnabod bod teimlo'n ddiogel yn ganlyniad llesiant pwysig. Yn 2022 i 2023, dywedodd 82% o bobl sy'n cael gofal a chymorth a 90% o ofalwyr di-dâl eu bod yn teimlo'n ddiogel. Fodd bynnag, dywedodd 93% o bobl nad ydynt yn cael gofal a chymorth a 92% o bobl nad ydynt yn ofalwyr eu bod yn teimlo'n ddiogel.

Mae'r canrannau hyn yn uwch na'r rhai a adroddwyd yn 2018 i 2019, pan ddywedodd y mwyafrif o'r bobl a oedd yn cael gofal a chymorth neu gymorth fel gofalwyr 83% a'r bobl nad ydynt yn cael gofal a chymorth neu bobl nad ydynt yn ofalwyr 86% eu bod yn teimlo'n ddiogel. Nid oedd data ar gael ar gyfer 2020 i 2021.

Ffynhonnell: arolwg cenedlaethol Cymru

22. Percentage of re-registrations of children on local authority child protection registers

Mae'n bwysig ein bod yn amddiffyn plant sy'n parhau i wynebu risg, er enghraifft, pan fo plentyn yn wynebu risg o broblemau diogelu dro ar ôl tro. 

Roedd 7.5% o blant a gafodd eu rhoi ar gofrestrau amddiffyn plant awdurdodau lleol yn ystod 2022 i 2023 wedi cael eu cofrestru o'r blaen yn ystod y 12 mis blaenorol. Mae hyn yn uwch na'r 6.2% a adroddwyd yn 2021 i 2022 a 7.4% yn 2020 i 2021.

Ffynhonnell: Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol

23. Digwyddedd cam-drin domestig

Mae mynd i'r afael â phob math o gamdriniaeth yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn ategu hyn.

Yn 2022 i 2023, cafwyd 86,637 o ddigwyddiadau a throseddau cam-drin domestig yng Nghymru, gostyngiad o 3.44% ers 2021 i 2022, lle’r oedd 89,728 o ddigwyddiadau a throseddau cam-drin domestig. 

Dylid darllen data cam-drin domestig a throseddau rhywiol gyda chafeat gan ei bod yn hysbys nad yw cyfran uchel o droseddau'n cael eu hadrodd i'r heddlu, a bod newidiadau mewn ffigurau a gofnodwyd yn gallu adlewyrchu newidiadau mewn cyfraddau adrodd neu gofnodi yn hytrach na gwir nifer y digwyddiadau. Am y rhesymau hyn, mae angen bod yn ofalus wrth ddehongli tueddiadau yn y troseddau hyn.

Ffynhonnell: Domestic abuse in England and Wales, Swyddfa Ystadegau Gwladol

24. Digwyddedd troseddau rhyw

Mae mynd i'r afael â phob math o drais rhywiol yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn ategu hyn.

Yn 2023 i 2024, cofnodwyd 9,464 o droseddau rhyw yng Nghymru. Mae hyn yn ostyngiad o 5.1% ers 2022 (9,970), ac yn is na'r 9,914 a gofnodwyd yn 2021.

Ffynhonnell: Crime in England and Wales, Swyddfa Ystadegau Gwladol

25. Canran yr oedolion sy'n wynebu risg o ddioddef camdriniaeth neu esgeulustod sy'n cael eu hatgyfeirio fwy nag unwaith y flwyddyn

Bydd rhai oedolion yn cael eu hatgyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol fwy nag unwaith. Gall hyn fod ar gyfer yr un categorïau neu gategorïau gwahanol o gam-drin. Mewn perthynas ag atgyfeiriadau ar gyfer yr un categori, mae ffigur is fel hyn yn dangos efallai nad oedd yr hyn a wnaed mewn ymateb i'r atgyfeiriad cychwynnol wedi bod yn effeithiol, neu fod troseddwr arall. Fodd bynnag, ar gyfer gwahanol fathau o gamdriniaeth ac esgeulustod, anogir bod pobl yn cael eu riportio waeth beth fo'r math o gamdriniaeth.

Mae cyfanswm yr atgyfeiriadau o ran oedolion sy'n wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, bu amrywiad yng nghanran yr atgyfeiriadau a wnaed fwy nag unwaith. Cynyddodd cyfanswm yr atgyfeiriadau o ran oedolion sy'n wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod rhwng 2021 i 2022 a 2022 i 2023, yn ogystal â chanran yr oedolion sy'n cael eu hatgyfeirio fwy nag unwaith mewn blwyddyn naill ai ar gyfer yr un categori neu gategori gwahanol o gamdriniaeth neu esgeulustod.

Yn 2022 i 2023, adroddwyd bod 16,162 o oedolion yn wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod yn ystod y flwyddyn; o'r rhain, cafodd 14.7% eu hatgyfeirio fwy nag unwaith ar gyfer yr un categori o gamdriniaeth neu esgeulustod, a chafodd 17.2% eu hatgyfeirio fwy nag unwaith ar gyfer categori gwahanol o gamdriniaeth neu esgeulustod.

Yn 2021 i 2022, adroddwyd bod 15,950 o oedolion yn wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod yn ystod y flwyddyn; o'r rhain, cafodd 12.6% eu hatgyfeirio fwy nag unwaith ar gyfer yr un categori o gamdriniaeth neu esgeulustod, a chafodd 15.80% eu hatgyfeirio fwy nag unwaith ar gyfer categori gwahanol o gamdriniaeth neu esgeulustod.

Yn 2020 i 2021, gwnaed 15,301 o atgyfeiriadau o ran oedolion sy'n wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod; o'r rhain, cafodd 14.8% eu hatgyfeirio fwy nag unwaith ar gyfer yr un categori o gamdriniaeth neu esgeulustod, a chafodd 16.8% eu hatgyfeirio fwy nag unwaith ar gyfer categori gwahanol o gamdriniaeth neu esgeulustod.

Nid oedd data ar gael ar gyfer 2019 i 2020 oherwydd COVID-19.

Ffynhonnell: Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, StatsCymru

Addysg, hyfforddiant a gweithgareddau hamdden

Mae dysgu a gwneud pethau sy'n bwysig i bobl yn ganlyniadau llesiant pwysig. Mae hyn yn wir am bobl sy'n cael gofal a chymorth ac am ofalwyr di-dâl sydd angen cymorth. Mae'r datganiad llesiant yn cydnabod hyn. Mae plant angen meithrin sgiliau i'w helpu i gyflawni eu potensial addysgol. Gall hyn gynnwys mynd ymlaen i addysg bellach neu addysg uwch. Fel oedolion, mae diffyg sgiliau addysgol sylfaenol yn gallu effeithio ar fywydau bob dydd pobl. Mae angen sgiliau fel darllen, ysgrifennu a rhifedd i ddeall ffurflenni a biliau.

Nid yw'r dysgu'n gyfyngedig i blant a'u haddysg. Mae dysgu a hyfforddiant i oedolion yn caniatáu i bobl ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ymhellach. Gall hyn roi ymdeimlad o annibyniaeth i bobl a gwella hyder. Gall hefyd wella gallu person i gael a chadw swydd. Mae cael incwm rheolaidd a chadw allan o dlodi yn gallu cael effaith gadarnhaol ar lesiant.

Dangosyddion Canlyniadau

Mae'r dangosyddion canlyniad ar gyfer addysg, hyfforddiant a dessau yn cynnwys:

  • 26. canran y bobl sy'n dweud eu bod yn gallu gwneud y pethau sy'n bwysig iddynt
  • 27. canlyniadau cyfnod allweddol 3 ar gyfer plant sy'n derbyn gofal
  • 28. canlyniadau cyfnod allweddol 4 ar gyfer plant sy'n cael gofal a chymorth
  • 29. cyfraddau presenoldeb yn yr ysgol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal
  • 30. deilliannau dysgwyr yn y sectorau addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned
  • 31. canran yr oedolion rhwng 16 a 64 oed sydd ag o leiaf un cymhwyster
  • 33. canran y rhai sy'n gadael gofal sydd wedi cwblhau o leiaf 3 mis yn olynol o gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant yn y 12 mis ers gadael gofal

26. Canran y bobl sy'n dweud eu bod yn gallu gwneud y pethau sy'n bwysig iddynt

Mae cyflawni ein canlyniadau personol ein hunain yn rhoi ymreolaeth i bobl. Dylai gwasanaethau ystyried amgylchiadau unigol pobl. Pobl sy'n gwybod beth sydd orau iddynt. Dylai gwasanaethau ystyried eu barn, eu dymuniadau a'u teimladau.

Dywedodd unigolion sy'n cael gofal a chymorth eu bod yn llai abl na grwpiau eraill i wneud y pethau sy'n bwysig iddynt. Yn 2022 i 2023, dywedodd 60% o bobl sy'n cael gofal a chymorth eu bod yn gallu gwneud y pethau sy'n bwysig iddynt. Mewn cymhariaeth, dywedodd 86% o bobl nad oes ganddynt angen gofal a chymorth ac 86% o ofalwyr di-dâl sy'n cael cymorth eu bod yn gallu gwneud y pethau sy'n bwysig iddynt. Yn ddiddorol, dywedodd 77% o bobl nad ydynt yn ofalwyr eu bod yn gallu gwneud y pethau sy'n bwysig iddynt; sy'n is na'r ganran o ofalwyr di-dâl. Mae "pobl nad ydynt yn ofalwyr" yn cynnwys unigolion a allai fod yn cael gofal a chymorth ar gyfer eu hanghenion gofal eu hunain. 

Nid oes data ar gael ar gyfer 2020 i 2021 a 2023 i 2024.

Ffynhonnell: arolwg cenedlaethol Cymru

27. Canlyniadau Cyfnod Allweddol 3 ar gyfer plant sy'n derbyn gofal

Mae'r Dangosydd Pynciau Craidd (CSI) yng nghyfnod allweddol 3 yn cynrychioli canran y disgyblion sy'n cyflawni Lefel 5 neu uwch. Mae'n seiliedig ar asesiadau athrawon cyfunol mewn Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf), Mathemateg a Gwyddoniaeth.

Yn 2023, roedd 42% o'r plant 13 a 14 oed sy'n cael gofal a chymorth a oedd wedi’u cynnwys yng Nghronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion (NPD) wedi cyflawni'r CSI yng nghyfnod allweddol 3. Roedd hyn yn wahanol i blant sy'n cael gofal a chymorth a oedd yn derbyn gofal (52%); a phlant nad oeddent yn derbyn gofal neu blant sydd ar y gofrestr amddiffyn plant (33%). Cyflawnodd cyfran uwch o blant nad ydynt yn derbyn gofal ac sydd ar y gofrestr amddiffyn plant CSI yng nghyfnod allweddol 3 (37%) o gymharu â phlant nad ydynt yn derbyn gofal ac nad ydynt ar y gofrestr amddiffyn plant (33%).

Mae hyn yn cymharu â 77% o'r holl ddisgyblion yng Nghymru a gyflawnodd y CSI yng nghyfnod allweddol 3 yn 2023. Cyflawnodd cyfran uwch o ferched (79.6%) na bechgyn (74.4%) CSI yng nghyfnod allweddol 3 ar gyfer plant sy'n cael gofal a chymorth ac ar gyfer pob disgybl yng Nghymru. Mae "pob disgybl" yn cyfeirio at bob plentyn yng Nghymru, gan gynnwys plant sy'n cael gofal a chymorth, plant sy'n derbyn gofal a'r rhai ar y gofrestr amddiffyn plant.

Oherwydd canslo'r cyfnod arholi arferol yn 2019 i 2020 a 2020 i 2021 o ganlyniad i'r pandemig COVID-19, nid oes data ar gael ar gyfer y blynyddoedd hyn.

Ffynhonnell: Cyfrifiad plant sy'n cael gofal a chymorth; canlyniadau cenedlaethol, yn ôl pwnc, blwyddyn a rhyw

28. Canlyniadau cyfnod allweddol 4 ar gyfer plant sy'n cael gofal a chymorth

Mae'r dangosydd capio 9 cyfartalog (fersiwn mesurau interim) yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio naw canlyniad gorau disgyblion blwyddyn 11 yn y cymwysterau sydd ar gael yng Nghymru, gan gynnwys gofynion penodol i bwnc. Ers 2018 i 2019, mae hyn yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg (Iaith neu lenyddiaeth), mathemateg neu fathemateg rhifedd, a TGAU gwyddoniaeth.

Pe na bai'r disgyblion yn cyflawni unrhyw gymwysterau, ni fyddent yn cael unrhyw bwyntiau, ond pe baent yn cyflawni'r naw gradd A* yn TGAU, byddent yn cael 522 pwynt.

Y dangosydd capio 9 cyfartalog yn 2023 (fersiwn mesurau interim) oedd 192 pwynt ar gyfer plant sy'n cael gofal a chymorth. Roedd hyn yn uwch ar gyfer plant sy'n cael gofal a chymorth a oedd yn derbyn gofal (230), ond yn is ar gyfer plant ar y gofrestr amddiffyn plant (190).

Mae hyn yn cymharu â sgôr dangosydd capio 9 cyfartalog (fersiwn mesurau interim) o 358 pwynt ar gyfer pob disgybl yng Nghymru yn 2023.

Oherwydd canslo'r cyfnod arholi arferol yn 2019 i 2020, 2020 i 2021, 2021 i 2022 o ganlyniad i'r pandemig COVID-19, nid oes data ar gael ar gyfer y blynyddoedd hyn.

Ffynhonnell: Cyfrifiad Plant sy'n Cael Gofal a Chymorth

29. Cyfraddau presenoldeb yn yr ysgol ar gyfer plant sy'n cael gofal a chymorth

Mae presenoldeb yn yr ysgol yn gallu cael effaith sylweddol ar gyrhaeddiad deilliannau addysg ymysg plant.

Ffigur 10: Cyfraddau presenoldeb yn yr ysgol yn 2019 a 2023

Image
Siart colofn o gyfraddau presenoldeb yn yr ysgol ar gyfer grwpiau o blant yng Nghymru yn 2019 a 2023. Roedd cyfradd presenoldeb yn yr ysgol 2023 ar gyfer yr holl blant ysgol uwchradd yn is na ffigurau 2019. Fodd bynnag, gwelodd y rhai sy'n cael gofal a chymorth yn unig a'r rhai sy'n cael gofal a chymorth sydd ar y gofrestr amddiffyn plant ostyngiad mwy na phoblogaeth ehangach ysgolion uwchradd, a gwelodd y rhai sy'n cael gofal a chymorth ac sy'n derbyn gofal ostyngiad llai na phoblogaeth ehangach ysgolion u

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart colofn o gyfraddau presenoldeb yn yr ysgol ar gyfer grwpiau o blant yng Nghymru yn 2019 a 2023. Roedd cyfradd presenoldeb yn yr ysgol 2023 ar gyfer yr holl blant ysgol uwchradd yn is na ffigurau 2019. Fodd bynnag, gwelodd y rhai sy'n cael gofal a chymorth yn unig a'r rhai sy'n cael gofal a chymorth sydd ar y gofrestr amddiffyn plant ostyngiad mwy na phoblogaeth ehangach ysgolion uwchradd, a gwelodd y rhai sy'n cael gofal a chymorth ac sy'n derbyn gofal ostyngiad llai na phoblogaeth ehangach ysgolion uwchradd.

Roedd y cyfraddau presenoldeb ar gyfer pob grŵp o blant sy'n cael gofal a chymorth yn is na'r cyfraddau presenoldeb ar gyfer pob disgybl ysgol gynradd a phob disgybl ysgol uwchradd. Roedd y gyfradd bresenoldeb isaf ar gyfer plant sy'n cael gofal a chymorth ar gyfer y rhai sy'n cael gofal a chymorth ac sydd ar y gofrestr amddiffyn plant.

Nid oedd unrhyw ddata ar gael rhwng 2020 a 2022 oherwydd effaith y pandemig COVID-19 ar addysg. Nid oedd data presenoldeb 2023 ar gael ar gyfer holl ddisgyblion cynradd Cymru.

Ffynhonnell: Cyfrifiad Plant sy'n Cael Gofal a Chymorth

30. Deilliannau dysgwyr yn y sectorau addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned.

Mae darparwyr dysgu ym mhob sector yn hollbwysig i wella safonau addysg. Mae'r dangosydd hwn yn edrych ar gyfran y dysgwyr sy'n cyflawni cymwysterau. Mae'n cynnwys addysg gyffredinol, addysg alwedigaethol, dysgu oedolion a phrentisiaethau.

Oherwydd COVID-19, nid oes unrhyw ddata ar gael ar gyfer 2019 i 2020 na 2020 i 2021.

Mae cyfraddau cyflawni deilliannau galwedigaethol, prentisiaethau a dysgu oedolion yn cael eu cyfrifo gan Lywodraeth Cymru; mae nifer o ddeilliannau cyflawniad addysg gyffredinol. Yn yr adroddiad hwn, rydym yn defnyddio canran y dysgwyr ar y pwynt 8 wythnos sy'n mynd ymlaen i gyflawni 3 neu fwy o gymwysterau Safon Uwch ar raddau A* i E, fel yr un mwyaf tebyg i gyfraddau cyflawni mewn llwybrau addysgol eraill.

Bu gostyngiad yng nghyfraddau llwyddiant addysg gyffredinol rhwng 2021 i 2022 a 2022 i 2023, o 75% i 68% yn y drefn honno. Mae'r ffigur yn 2022 i 2023, fodd bynnag, yn uwch na'r 65% yn 2018 i 2019. Er y bu cynnydd mewn cyfraddau llwyddiant ar gyfer dysgu oedolion, dysgu galwedigaethol a phrentisiaethau: 

  • cynyddodd cyfraddau llwyddiant mewn dysgu oedolion o 825 yn 2021 i 2022 i 84% yn 2022 i 2023; mae hyn yn is na'r 90% a welwyd yn 2018 i 2019
  • cynyddodd cyfraddau llwyddiant mewn dysgu galwedigaethol o 74% yn 2021 i 2022 i 78% yn 2022 i 2023; mae hyn yn is na'r 80% a welwyd yn 2018 i 2019
  • cynyddodd cyfraddau llwyddiant mewn prentisiaethau o 66% yn 2021 i 2022 i 72% yn 2022 i 2023. Mae hyn yn is na'r 81% a welwyd yn 2018 i 2019

Ffynhonnell: Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau a dysgu oedolion

31. Canran yr oedolion rhwng 16 a 64 oed sydd ag o leiaf un cymhwyster

Gall cymwysterau addysgol effeithio ar allu'r unigolyn i gael a chadw swydd. Mae swydd yn hybu llesiant gan ei fod yn gwella gallu'r unigolyn i dderbyn incwm rheolaidd. 

Cafodd y fframwaith rheoleiddio sy'n cefnogi Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) ei dynnu'n ôl yn 2015 a'i ddisodli gan y Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF), felly mae amcangyfrifon cymwysterau wedi'u disodli gan amcangyfrifon ar sail RQF. Mae'r data ar gyfer yr eitem hon yn cynnwys cymwysterau a ddiffinnir fel cymwysterau eraill a phrentisiaethau masnach, yn ogystal ag NVQ (cyn 2022) ac RFQ (o 2022 ymlaen).

Yn 2023, roedd gan 94.9% o bobl economaidd weithgar rhwng 16 a 64 oed o leiaf un cymhwyster. Mae'r ffigur hwn wedi aros yn sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf, gyda 95.1% o bobl economaidd weithgar yn 2022, 94.9% yn 2021, a 95.3% yn 2020.

Ffynhonnell: Annual Population Survey/Labour Force Survey

33. Canran y rhai sy'n gadael gofal sydd wedi cwblhau o leiaf 3 mis yn olynol o gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant yn y 12 mis ers gadael gofal

Yn 2022 i 2023, roedd 586 o bobl sy’n gadael gofal yng Nghymru a oedd yn bobl ifanc yng Nghategorïau 2, 3 a 4 ac wedi gadael gofal yn y 12 mis blaenorol. O'r rhain, mae 81.4% wedi cwblhau o leiaf 3 mis yn olynol o gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant yn y 12 mis ers gadael gofal. Mae hyn yn uwch na'r 74.1% o bobl sy'n gadael gofal yn 2021 i 2022, a 65.9% yn 2020 i 2021. 

Ffynhonnell: Ffframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, StatsCymru

Perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol

Mae rhwydweithiau cymdeithasol cryf, teulu a chyfeillgarwch yn gallu lleihau ynysigrwydd cymdeithasol. Mae hyn yn wir am bobl sy'n cael gofal a chymorth ac i ofalwyr di-dâl sydd angen cymorth. Mae'r datganiad llesiant yn cydnabod hyn.

Mae ymdeimlad o berthyn i gymuned yn gallu gwella hyder a hunan-werth pobl. Gall hefyd leihau teimladau o ynysigrwydd drwy ganiatáu i bobl ymwneud â'i gilydd.

Dangosyddion Canlyniadau

Mae'r arwyddion canlyniad ar gyfer perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol yn cynnwys:

  • 34. canran y bobl sy’n dweud eu bod yn teimlo’n unig yn gyffredinol, yn emosiynol ac yn gymdeithasol
  • 35. canran y bobl sy'n meddwl bod pobl yn eu hardal leol yn parchu ac yn ystyried ei gilydd
  • 36. canran y bobl sy'n teimlo eu bod yn perthyn i'w hardal leol
  • 37. canran y bobl sy’n teimlo bod eu hardal leol yn rhywle lle mae pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda

34. Canran y bobl sy’n dweud eu bod yn teimlo’n unig yn gyffredinol, yn emosiynol ac yn gymdeithasol

Gall unigrwydd emosiynol a chymdeithasol effeithio ar lesiant rhywun. Mae'n gallu effeithio ar iechyd, rhwydweithiau cymdeithasol a chyfeillgarwch. Gall gynyddu'r risg o farwolaeth a datblygu rhai clefydau penodol. Gall ddylanwadu ar adferiad hefyd os bydd rhywun yn mynd yn sâl. 

Adroddodd pobl sy'n cael gofal a chymorth gyfraddau sylweddol uwch o unigrwydd cymdeithasol ac emosiynol o gymharu â phob grŵp arall, yn enwedig y rhai nad ydynt yn cael gofal a chymorth. Adroddodd gofalwyr hefyd lefelau uwch o unigrwydd o gymharu â phobl nad ydynt yn ofalwyr. 

Er bod cyfrannau'r unigolion sy'n adrodd unigrwydd uchel wedi aros yn weddol sefydlog i'r mwyafrif o grwpiau, bu cynnydd sylweddol o 5 pwynt canran rhwng 2020 i 2021 a 2022 i 2023 ar gyfer y rhai sy'n cael gofal a chymorth.

Ffigur 11: Canran y bobl sy'n adrodd y lefelau uchaf o unigrwydd yn 2020 i 2021 a 2022 i 2023

Image
Graff llinell o gyfrannau pobl â'r lefelau uchaf o unigrwydd yn 2020-21 a 2022-23. Roedd lefelau unigrwydd ar eu huchaf ar gyfer unigolion sy'n cael gofal a chymorth, ac roeddent yn sylweddol uwch nag ar gyfer pob grŵp arall. Unigolion nad ydynt yn cael gofal a chymorth oedd â'r lefelau isaf o unigrwydd.

Disgrifiad o Ffigur 11: Graff llinell o gyfrannau pobl â'r lefelau uchaf o unigrwydd yn 2020 i 2021 a 2022 i 2023. Roedd lefelau unigrwydd ar eu huchaf ar gyfer unigolion sy'n cael gofal a chymorth, ac roeddent yn sylweddol uwch nag ar gyfer pob grŵp arall. Unigolion nad ydynt yn cael gofal a chymorth oedd â'r lefelau isaf o unigrwydd.

Ffynhonnell: arolwg cenedlaethol Cymru

35. Canran y bobl sy'n meddwl bod pobl yn eu hardal leol yn parchu ac yn ystyried ei gilydd

Mae teimlo’n ddiogel, cymryd rhan a chyfrannu at y gymuned leol yn helpu i sicrhau llesiant pobl. Mae pobl yn fwy tebygol o wneud hyn os ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu parchu gan deulu, ffrindiau a gwasanaethau.

Yn 2022 i 2023, dywedodd 77% o bobl sy'n cael gofal a chymorth ac 87% o ofalwyr di-dâl sy'n cael cymorth eu bod yn meddwl bod pobl yn eu hardal leol yn parchu ac yn ystyried ei gilydd. Mae hyn o gymharu â 90% o bobl nad ydynt yn cael gofal a chymorth a phobl nad ydynt yn ofalwyr.

Mae hyn yn gynnydd ers 2020 i 2021, pan ddywedodd 75% o bobl sy'n cael gofal a chymorth ac 84% o ofalwyr di-dâl sy'n cael cymorth eu bod yn meddwl bod pobl yn eu hardal leol yn parchu ac yn ystyried ei gilydd. Ar gyfer pobl nad ydynt yn cael gofal a chymorth a phobl nad ydynt yn ofalwyr, dywedodd 84% o bobl yn y ddau grŵp eu bod yn credu bod pobl yn eu hardal leol yn parchu ac yn ystyried ei gilydd.

Ffynhonnell: arolwg cenedlaethol Cymru

 36. Canran y bobl sy'n teimlo eu bod yn perthyn i'w hardal leol

Ni chafodd y cwestiwn hwn ei gynnwys yn arolwg cenedlaethol Cymru ar gyfer 2022 i 2023, felly nid yw wedi'i ddiweddaru. Rhoddir diweddariadau mewn adroddiadau yn y dyfodol. 

Yn 2020 i 2021, cytunodd 88% o ofalwyr eu bod yn teimlo eu bod yn perthyn i'w hardal leol, yn fwy nag unrhyw grŵp arall. Mae hyn o gymharu ag 80% o bobl sy'n cael gofal a chymorth ac 83% o bobl nad ydynt yn ofalwyr ac 83% o bobl nad ydynt yn cael gofal a chymorth.

Ffynhonnell: arolwg cenedlaethol Cymru

37. Canran y bobl sy'n teimlo bod eu hardal leol yn rhywle lle mae pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda

Ni chafodd y cwestiwn hwn ei gynnwys yn arolwg cenedlaethol Cymru ar gyfer 2022 i 2023, felly nid yw wedi'i ddiweddaru. Rhoddir diweddariadau mewn adroddiadau yn y dyfodol. 

Yn 2020 i 2021, dywedodd 63% o bobl sy'n cael gofal a chymorth a 71% o ofalwyr di-dâl sy'n cael cymorth fod eu hardal leol yn rhywle y mae pobl o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu'n dda. Mae hyn o gymharu â 69% o bobl nad ydynt yn cael gofal a chymorth a phobl nad ydynt yn ofalwyr.

Ffynhonnell: arolwg cenedlaethol Cymru

Y cyfraniad a wneir at gymdeithas

Mae gallu ymgysylltu a gwneud cyfraniad at gymdeithas yn ganlyniadau llesiant allweddol. Mae'n bwysig bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn eu cymunedau ac yn y gymdeithas. Mae hyn yn wir am bobl sy'n cael gofal a chymorth ac i ofalwyr di-dâl sydd angen cymorth. Mae'r datganiad llesiant yn cydnabod hyn.

Gall y canlyniadau hyn wneud i berson deimlo'n werth chweil. Gall hyn yn ei dro helpu pobl i gymryd gwell gofal o'u hiechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol. Mae ymdeimlad isel o werth yn gallu effeithio ar lesiant. Mae'n gallu effeithio ar iechyd meddwl a sut mae pobl yn ymwneud â ffrindiau a theulu.

Dangosyddion Canlyniadau

Mae'r dangosyddion canlyniad ar gyfer y cyfraniad a wneir i gymdeithas yn cynnwys:

  • 38. canran y bobl sy'n dweud bod y pethau a wnânt mewn bywyd yn werth chweil
  • 39. canran y bobl sy'n gwirfoddoli
  • 40. canran y mudiadau gwirfoddol sy'n cynnig gweithgareddau cymunedol neu ieuenctid
  • 41. canran y mudiadau gwirfoddol sy'n cynnig gweithgareddau i bobl anabl

38. Canran y bobl sy'n dweud bod y pethau a wnânt mewn bywyd yn werth chweil

Mae ymdeimlad o fod yn werth chweil a chael eich gwerthfawrogi gan eraill yn gallu hybu llesiant. Gall ymdeimlad o fod yn werth chweil helpu pobl i ofalu am eu hiechyd yn well. Gall hefyd helpu pobl i gyflawni eu canlyniadau llesiant.

Yn 2022 i 2023, roedd 63% o bobl sy'n cael gofal a chymorth yn teimlo bod y pethau roeddent yn eu gwneud mewn bywyd yn werth chweil. Roedd hyn yn sylweddol is na phobl nad ydynt yn cael gofal a chymorth (85%); yn is na gofalwyr di-dâl sy'n cael cymorth (85%); ac yn is na phobl nad ydynt yn ofalwyr (84%).

Roedd y gwahaniaethau rhwng grwpiau yn 2022 i 2023 yn debyg i 2020 i 2021, lle’r oedd 64% o bobl sy'n cael gofal a chymorth, 84% o bobl nad ydynt yn cael gofal a chymorth, ac 83% o ofalwyr sy'n cael cymorth a phobl nad ydynt yn ofalwyr yn teimlo bod y pethau roeddent yn eu gwneud mewn bywyd yn werth chweil.

Ffynhonnell: arolwg cenedlaethol Cymru

39. Canran y bobl sy'n gwirfoddoli

Mae gwirfoddoli yn ffordd i bobl allu cymryd rhan yn eu cymuned leol a chyfrannu ati. Gall gwirfoddoli gyflwyno llawer o fanteision i bobl. Gall y rhain gynnwys datblygu sgiliau newydd, rhyngweithio cymdeithasol a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. 

Yn 2022 i 2023, adroddwyd bod 27% o bobl sy'n cael gofal a chymorth wedi gwirfoddoli eu hamser, naill ai'n ffurfiol neu'n anffurfiol. Mae hyn yn is na'r rhai nad oeddent yn cael gofal a chymorth (30%) a'r rhai nad ydynt yn ofalwyr (29%). Pobl sy'n cael cymorth fel gofalwr di-dâl oedd â'r lefelau uchaf o wirfoddoli, sef 39%.

Ffynhonnell: arolwg cenedlaethol Cymru

40. Canran y mudiadau gwirfoddol sy'n cynnig gweithgareddau cymunedol neu ieuenctid

Nod mudiadau gwirfoddol yw cefnogi unigolion. Gallant gynnwys elusennau cofrestredig, cymdeithasau tai, undebau credyd, cwmnïau buddiannau cymunedol, ymddiriedolaethau a grwpiau cymunedol lleol.

Mae gweithgareddau cymunedol yn gallu cynnwys grwpiau sy'n gweithio i adfywio cymunedau neu wella mynediad at wasanaethau. Gallant hefyd gynnwys cylchlythyrau cymunedol a rhaglenni datblygu. Mae gweithgareddau ieuenctid yn grwpiau sy'n cynnwys pobl ifanc. Gallant gynnwys canolfannau ieuenctid, clybiau, sefydliadau mewn lifrai, grwpiau chwaraeon a grwpiau diwylliannol.

Ym mis Tachwedd 2024, roedd 15% o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn cynnig gweithgareddau cymunedol ac roedd 3% yn cynnig gweithgareddau ieuenctid. Mae hyn yn is nag ym mis Gorffennaf 2023, pan oedd 22% o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn cynnig gweithgareddau cymunedol a 5% yn cynnig gweithgareddau ieuenctid.

Noder y daw'r data hwn o giplun ym mis Tachwedd 2024 a mis Gorffennaf 2023, ac efallai nad yw'n adlewyrchu'r data sydd gan CGGC ar adegau eraill.

Ffynhonnell: CGGC

41. Canran y mudiadau gwirfoddol sy'n cynnig gweithgareddau i bobl anabl

Gall y sector gwirfoddol gynnig ffyrdd arloesol o ateb tair her sy'n wynebu gofal cymdeithasol: galw cynyddol; llai o gyllid; a disgwyliadau sy'n newid.

Ym mis Tachwedd 2024, roedd 2% o fudiadau gwirfoddol yn cynnig gweithgareddau i bobl anabl. Mae hyn yn is nag ym mis Gorffennaf 2023, pan oedd 3% o fudiadau gwirfoddol yn cynnig gweithgareddau i bobl anabl.

Daw'r data hwn o giplun ym mis Tachwedd 2024 a mis Gorffennaf 2023, ac efallai nad yw'n adlewyrchu'r data sydd gan CGGC ar adegau eraill.

Ffynhonnell: CGGC

Llesiant cymdeithasol ac economaidd

Mae statws cymdeithasol ac economaidd pobl yn gallu effeithio ar eu llesiant. Mae hyn yn wir am bobl sy'n cael gofal a chymorth ac i ofalwyr di-dâl sydd angen cymorth. Mae'r datganiad llesiant yn cydnabod hyn. 

Mae swydd sicr o safon yn hollbwysig i lesiant economaidd, corfforol a meddyliol pobl.

Mae cyfraddau cyflogaeth uchel yn hanfodol i godi safonau byw. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldeb a thlodi. Gall rhai pobl wynebu rhwystrau i gyflogaeth. Gall rhwystrau gynnwys problemau iechyd neu ddiffyg sgiliau. Bydd cael gwared ar rwystrau a helpu pobl i aros mewn gwaith o fudd i lesiant pobl. Byddant yn cael yr un mynediad at wasanaethau a chyfleoedd ag eraill. Bydd pobl yn gallu cyfrannu'n llawn at gymdeithas. Bydd hyn yn eu helpu i fyw bywydau iach, annibynnol a boddhaus.

Gall amodau cymdeithasol ac economaidd ardal effeithio ar lesiant hefyd. Er enghraifft, mae plant sydd angen gofal neu gymorth yn fwy tebygol o fyw yn y rhannau mwyaf difreintiedig o Gymru.

Dangosyddion canlyniadau

Mae'r dangosyddion canlyniad ar gyfer lles cymdeithasol ac economaidd yn cynnwys:

  • 42. cyfradd cyflogaeth oedolion 50 oed a hŷn
  • 43. cyfradd cyflogaeth oedolion sydd rhwng 16 a 64 oed ac sydd ag anabledd craidd neu anabledd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio dan y ddeddf cydraddoldeb
  • 44. canran y bobl ifanc 19 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
  • 45. Canran yr aelwydydd sy'n wynebu amddifadedd materol

42. Cyfradd cyflogaeth oedolion 50 oed a hŷn

Gall pobl hŷn wynebu rhwystrau i gyflogaeth. Er enghraifft, problemau iechyd neu ddiffyg sgiliau perthnasol. Mae helpu pobl hŷn i aros mewn gwaith yn sicrhau eu bod yn gallu cyfrannu'n llawn at gymdeithas. Gall aros mewn gwaith helpu pobl i fyw bywydau iach, annibynnol a boddhaus.

Mae'r cyfraddau cyflogaeth ar gyfer oedolion 50 oed a hŷn wedi aros rhwng 37 a 39% ers 2020, sef:

  • 38.0% yn 2023
  • 37.8% yn 2022
  • 38.3% yn 2021
  • 38.9% yn 2020

Cynhaliodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol astudiaeth i'r rhesymau pam mae gweithwyr dros 50 oed wedi gadael cyflogaeth ers dechrau'r pandemig coronafeirws. Gwnaethant adrodd mai pobl yn profi salwch hirdymor a myfyrwyr yw'r rheswm dros y cynnydd mewn anweithgarwch economaidd. 

Yn 2022, y gyfradd absenoldeb salwch ar gyfer y rhai â chyflyrau iechyd hirdymor oedd 4.9% y, yr uchaf ers 2008 pan oedd yn 5.1%. Nid oedd data ar gyfer cyfraddau salwch ac absenoldeb yn 2023 wedi'i gyhoeddi adeg cwblhau'r adroddiad hwn.

Ffynhonnell: Annual Population Survey/Labour Force Survey

43. Cyfradd cyflogaeth oedolion sydd rhwng 16 a 64 oed ac sydd ag anabledd craidd neu anabledd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio dan y ddeddf cydraddoldeb

Mae swydd sicr o safon yn hollbwysig i lesiant economaidd, corfforol a meddyliol pobl. Mae cael gwared ar rwystrau gwaith i bobl anabl hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau.

Mae pobl ag anabledd craidd dan y ddeddf cydraddoldeb yn cael eu diffinio fel pobl ag anableddau sy'n bodloni'r diffiniad o 'anabl' yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Caiff ymatebwyr i’r Annual Population Survey a'r Labour Force Survey eu diffinio fel rhai ag ‘anabledd sy'n cyfyngu ar allu pobl i weithio’ os ydynt yn ateb bod ganddynt gyflwr iechyd corfforol neu salwch sy'n para, neu y disgwylir iddo bara, am 12 mis neu fwy, a bod y cyflwr neu'r salwch hwn yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau bob dydd.

Cyfraddau cyflogaeth 2023 ar gyfer yr holl bobl rhwng 16 a 64 oed, a'r rhai rhwng 16 a 64 oed sydd ag anabledd craidd neu anabledd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio dan y ddeddf cydraddoldeb, oedd yr uchaf a welwyd yn y 5 mlynedd diwethaf, ac yn uwch na chyfraddau cyn y pandemig. Fodd bynnag, roedd cyfraddau cyflogaeth ar gyfer pobl sydd ag anabledd craidd neu anabledd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio o dan y ddeddf cydraddoldeb yn parhau i fod yn sylweddol is na chyfraddau pob unigolyn.

Ffigur 12: Cymharu cyfraddau cyflogaeth oedolion rhwng 16 a 64 oed rhwng 2019 a 2023 rhwng pobl anabl a phob unigolyn

Image
Siart llinell sy'n cymharu cyfraddau cyflogaeth oedolion anabl rhwng 16 a 64 oed â'r holl oedolion rhwng 16 a 64 oed, rhwng 2019 a 2023. Roedd cyfraddau cyflogaeth ar gyfer oedolion anabl yn gyson ac yn sylweddol is na’r rhai ar gyfer pob unigolyn.

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart llinell sy'n cymharu cyfraddau cyflogaeth oedolion anabl rhwng 16 a 64 oed â'r holl oedolion rhwng 16 a 64 oed, rhwng 2019 a 2023. Roedd cyfraddau cyflogaeth ar gyfer oedolion anabl yn gyson ac yn sylweddol is na’r rhai ar gyfer pob unigolyn.

Ffynhonnell: Annual Population Survey/Labour Force Survey

45. Canran y bobl ifanc 19 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)

Mae hyfforddiant, addysg neu gyflogaeth yn bwysig i oedolion ifanc rhwng 19 a 24 oed. Os nad yw oedolyn ifanc mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, gall hyn effeithio ar ei lesiant a'r gymdeithas yn ehangach. Gall arwain at gynnydd mewn problemau iechyd cyffredinol neu gyfraddau troseddu.

Yn 2022, roedd 14.6 % o bobl ifanc 19 i 24 oed yng Nghymru yn NEET, sef y gyfran isaf a welwyd ers dechrau casglu data yn 2004 (ffigur 4). Mae ffigur 2022 17.3% yn is na ffigur 2021, a 15.6% yn is na ffigur 2020. 

Yn ogystal, y gyfradd yn 2022 yw'r gyfran isaf a welwyd ers dechrau casglu data yn 2004.

Ffigur 13: Canran y bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) rhwng 2004 a 2022.

Image
Siart llinell sy'n dangos cyfran y bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) rhwng 2004 a 2022. Roedd y gyfradd yn sefydlog ar y cyfan rhwng 2004 a 2008, gyda thuedd ar i fyny rhwng 2009 a 2012 pan gyrhaeddodd uchafbwynt o 23.2%. Yna gostyngodd i 15.1% yn 2017 ac arhosodd yn sefydlog ar y cyfan eto nes gostyngiad amlwg i isafswm o 14.6% yn 2022.

Disgrifiad o Ffigur 13: Siart llinell sy'n dangos cyfran y bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) rhwng 2004 a 2022. Roedd y gyfradd yn sefydlog ar y cyfan rhwng 2004 a 2008, gyda thuedd ar i fyny rhwng 2009 a 2012 pan gyrhaeddodd uchafbwynt o 23.2%. Yna gostyngodd i 15.1% yn 2017 ac arhosodd yn sefydlog ar y cyfan eto nes gostyngiad amlwg i isafswm o 14.6% yn 2022.

Ffynhonnell: Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur 

46. Canran yr aelwydydd sy'n wynebu amddifadedd materol

Diffinnir aelwyd sy'n wynebu amddifadedd materol fel un sy'n methu fforddio rhai pethau. Er enghraifft, cadw'r tŷ yn ddigon cynnes, cynilo'n rheolaidd, cael gwyliau unwaith y flwyddyn, a chysylltiad â’r rhyngrwyd.

Roedd y gyfradd amddifadedd materol ar gyfer y rhai sy'n cael gofal a chymorth yn 2022 i 2023 dros ddwywaith cymaint â chyfradd y rhai nad ydynt yn cael gofal a chymorth neu'r rhai nad ydynt yn ofalwyr, ac yn sylweddol uwch na'r rhai ar gyfer gofalwyr di-dâl sy'n cael cymorth. Y cyfraddau yn 2022 i 2023 oedd:

  • 31% ar gyfer y rhai sy'n cael gofal a chymorth,
  • 18% ar gyfer gofalwyr di-dâl sy'n cael cymorth, a
  • 15% ar gyfer y rhai nad ydynt yn cael gofal a chymorth neu'r rhai nad ydynt yn ofalwyr.

Nid oedd data ar gael ar gyfer 2023 i 2024 a 2020 i 2021.

Ffynhonnell: arolwg cenedlaethol Cymru

Addasrwydd llety preswyl

Mae byw mewn llety diogel, boddhaol a phriodol yn gallu effeithio ar lesiant. Mae hyn yn wir am bobl sy'n cael gofal a chymorth ac i ofalwyr di-dâl sydd angen cymorth. Mae'r datganiad llesiant yn adlewyrchu hyn. 

Mae amodau byw gwael a gorboblogi yn gallu cael effaith negyddol ar lesiant. Gall arwain at lesiant corfforol a meddyliol gwael. Gall hefyd effeithio ar ddysgu a datblygiad plant.

Mae angen dulliau wedi'u targedu yn aml i sicrhau bod gofal cymdeithasol i bobl sy'n profi digartrefedd ar gael, yn hygyrch ac yn cael ei ddarparu i'r un safonau ac ansawdd ag ar gyfer y boblogaeth gyffredinol.

Mae angen i wasanaethau gydweithio er mwyn sicrhau bod llety preswyl yn addas. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau gofal a chymorth, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai.

Dangosyddion Canlyniadau

Mae'r dangosyddion canlyniad ar gyfer cymhwysedd llety wedi'u cynnwys:

  • 47. canran y bobl sy'n dweud bod eu llety'n addas i'w hanghenion
  • 48. canran yr aelwydydd digartref sy'n cynnwys plant dibynnol
  • 49. canran y mudiadau gwirfoddol sy'n cynnig cymorth tai.
  • 50. canran y tai cymdeithasol sy'n cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)

47. Canran y bobl sy'n dweud bod eu llety'n addas i'w hanghenion

Yn 2022 in 23, dywedodd 89% o'r rhai a oedd yn cael gofal a chymorth fod eu llety'n addas i'w hanghenion o gymharu â 92% o'r rhai nad oeddent yn cael gofal a chymorth. Ar gyfer gofalwyr di-dâl sy'n cael cymorth, roedd 92% yn teimlo bod eu llety'n addas i'w hanghenion, o gymharu â 90% o bobl nad oeddent yn ofalwyr. 

Nid oedd data ar gael ar gyfer 2020 i 2021.

Ffynhonnell: arolwg cenedlaethol Cymru

48. Canran yr aelwydydd digartref sy'n cynnwys plant dibynnol

Mae llawer o ffactorau personol a chymdeithasol gwahanol yn gallu cyfrannu at sefyllfa lle mae pobl yn dod yn ddigartref. Gall achosi aflonyddwch a thrawma aruthrol i unrhyw un sy'n profi hyn. Mae plant yn arbennig o agored i niwed, gan golli'r ysgol yn aml.

Yn 2023 i 2024, roedd 23.9% o'r holl aelwydydd a aseswyd fel rhai digartref yn cynnwys plant dibynnol. Mae hyn yn uwch nag yn 2018 i 2019, lle’r oedd 22.7% o'r holl aelwydydd a aseswyd fel rhai digartref yn cynnwys plant dibynnol.

Nid oes data ar gael ar gyfer 2020 i 2021, 2021 i 2022, 2022 i 2023 gan fod y casglu data wedi'i oedi oherwydd COVID-19.

Ffynhonnell: Digartrefedd: Ebrill 2023 i Fawrth 2024

49. Canran y mudiadau gwirfoddol sy'n cynnig cymorth tai

Mae'r trydydd sector yn ategu gwasanaethau statudol. Maent yn darparu gwasanaethau er budd pobl a chymunedau yng Nghymru. Maent yn rhoi cymorth, gan alluogi pobl i gynorthwyo eu hunain, lle bo hynny'n briodol.

Ym mis Tachwedd 2024, roedd 1% o fudiadau gwirfoddol yn cynnig cymorth tai, fel prosiectau digartrefedd, cynlluniau gofal a thrwsio, gwasanaethau cyngor tai, a chymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr. Mae hyn yr un fath â’r gyfran ym mis Gorffennaf 2023 (1%).

Daw'r data hwn o giplun ym mis Tachwedd 2024 a mis Gorffennaf 2023, ac efallai nad yw'n adlewyrchu'r data sydd gan CGGC ar adegau eraill.

Ffynhonnell: CGGC 

50. Sanran y tai cymdeithasol sy'n cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)

Mae landlordiaid cymdeithasol yn darparu tai cymdeithasol. Maent yn cynnwys cynghorau lleol a chymdeithasau tai. Sefydliadau nid-er-elw sy'n berchen ar dai rhent, yn eu gosod a'u rheoli yw cymdeithasau tai.

Mae ansawdd tai cymdeithasol yng Nghymru yn gallu effeithio ar lesiant. Cyhoeddwyd Safon Ansawdd Tai Cymru am y tro cyntaf yn 2002 ac fe'i diweddarwyd yn 2008. Ei nod yw helpu i sicrhau bod yr holl anheddau o ansawdd da a’u bod yn addas ar gyfer anghenion pob preswylydd. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob landlord cymdeithasol yng Nghymru sicrhau bod eu cartrefi'n bodloni gofynion y safon hon.

Yn 2022 i 2023, roedd 100% o'r holl stoc tai cymdeithasol yng Nghymru yn cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru, gan gynnwys methiannau derbyniol. Roedd hyn yr un fath â 2021 i 2022, pan oedd 100% o'r holl stoc dai yng Nghymru yn cydymffurfio. Mae hyn yn dangos cyflawniad sylweddol o ran gwella ansawdd tai cymdeithasol oherwydd, ddeng mlynedd yn ôl, yn 2012 i 2013, dim ond 60.3% o'r holl stoc tai cymdeithasol yng Nghymru oedd yn cydymffurfio â SATC, gan gynnwys methiannau derbyniol.

Ffynhonnell: Safon Ansawdd Tai Cymru

Camau nesaf

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu a diweddaru'r dangosyddion. Mae llawer o'r dangosyddion o dan y pennawd Addysg a Hyfforddiant wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae angen ailasesu'r dangosyddion hyn. Bydd data newydd ar gael dros y flwyddyn i ddod, felly gellir gwneud newidiadau i'r dangosyddion i adlewyrchu hyn.

Mae Fframwaith Perfformiad a Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn cynnig data ychwanegol. Gallwn ddefnyddio'r data hwn fel dangosyddion yn y dyfodol. Byddwn yn adolygu hyn cyn y cyhoeddiad blynyddol nesaf. Gall hyn arwain at newidiadau i'r dangosyddion presennol neu gynnwys dangosyddion newydd.

Yn olaf, cyhoeddwyd canllawiau newydd ar gyfer Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol ym mis Mai 2024, a fydd yn newid sut mae awdurdodau lleol yn adrodd ar eu gwasanaethau. 

Rhagwelir y bydd yr adroddiadau blynyddol newydd, ynghyd â'r Fframwaith Perfformiad a Gwella a'r fframwaith canlyniadau cenedlaethol hwn, yn ffurfio golwg gynhwysfawr ar berfformiad a chanlyniadau gwasanaethau cymdeithasol yn y dyfodol.

Ansawdd a methodoleg

Crynodeb o'r mesurau wedi'u diweddaru

Sicrhau hawliau a hawlogaethau

Rhestr lawn o ddangosyddion yn ôl rhif, ac a ydynt wedi'u diweddaru, eu diwygio neu wedi dod i ben:

  1. canran y bobl sy’n ystyried bod y gofal a’r cymorth maent wedi’i gael yn ardderchog neu’n dda: wedi'i ddiweddaru
  2. canran y bobl sydd ag ansawdd bywyd gwell, diolch i gyfraniad eu gofal a chymorth: wedi'i ddiweddaru
  3. canran y bobl sy'n teimlo eu bod wedi cael eu trin â pharch: wedi'i ddiweddaru
  4. canran y bobl sy’n ystyried y bobl a roddodd help, gofal a chymorth iddynt yn ardderchog neu’n dda: wedi'i ddiweddaru
  5. canran y bobl a gafodd yr wybodaeth neu’r cyngor cywir pan oedd arnynt ei angen: wedi'i ddiweddaru
  6. canran y bobl sy’n dweud eu bod nhw’n gallu rheoli eu bywyd beunyddiol gymaint ag y gallant: wedi'i ddiweddaru
  7. canran y bobl a oedd yn teimlo eu bod yn rhan o benderfyniadau am eu gofal a’u cymorth: wedi'i ddiweddaru
  8. canran y mudiadau gwirfoddol sy’n cynnig gweithgareddau plant a gweithgareddau lles i deuluoedd: wedi'i ddiweddaru
  9. canran yr oedolion sy'n cael gofal a chymorth sy'n cael taliad uniongyrchol: wedi'i ddiweddaru

Iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant emosiynol

Rhestr lawn o ddangosyddion yn ôl rhif, ac a ydynt wedi'u diweddaru, eu diwygio neu wedi dod i ben:

  1. canran y bobl sydd â sgoriau hapusrwydd uchel: wedi'i ddiweddaru
  2. canran y bobl sydd â sgoriau uchel o ran bodlonrwydd â bywyd: wedi'i ddiweddaru
  3. canran y bobl â llesiant meddwl uchel: wedi'i ddiweddaru
  4. canran yr oedolion (16 oed neu hŷn) sydd â dau neu fwy o ymddygiadau ffordd iach o fyw: heb ei ddiweddaru., gweler fframwaith canlyniadau Iechyd y cyhoedd
  5. canran y genedigaethau byw, unig-anedig, sydd â phwysau geni o lai na 2,500 gram: Heb ei ddiweddaru. Gweler fframwaith canlyniadau Iechyd y cyhoedd
  6. canran y plant sy'n cael gofal a chymorth sydd â phroblemau iechyd meddwl: wedi'i ddiweddaru
  7. canran y plant sy'n cael gofal a chymorth sydd wedi cael yr imiwneiddiadau diweddaraf: wedi'i ddiweddaru
  8. canran y plant 5 oed a hŷn sy'n cael gofal a chymorth sydd wedi cael yr archwiliadau deintyddol diweddaraf: wedi'i ddiweddaru

Iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant emosiynol 

Rhestr lawn o ddangosyddion yn ôl rhif, ac a ydynt wedi'u diweddaru, eu diwygio neu wedi dod i ben:

  1. Disgwyliad oes iach adeg genedigaeth: heb ei ddiweddaru, gweler fframwaith canlyniadau Iechyd y Cyhoedd.
  2. nifer y bobl hŷn sy’n torri eu clun: heb ei ddiweddaru, gweler fframwaith canlyniadau Iechyd y Cyhoedd.
  3. canran y bobl sy'n dweud bod eu hiechyd cyffredinol yn dda neu'n dda iawn: wedi'i ddiweddaru

Amddiffyniad rhag camdriniaeth ac esgeulustod

Rhestr lawn o ddangosyddion yn ôl rhif, ac a ydynt wedi'u diweddaru, eu diwygio neu wedi dod i ben:

  1. canran y bobl sy'n dweud eu bod yn teimlo'n ddiogel: wedi'i ddiweddaru
  2. canran y plant sy'n cael eu hailgofrestru ar gofrestr amddiffyn plant awdurdod lleol: wedi'i ddiweddaru
  3. digwyddedd cam-drin domestig: wedi'i ddiweddaru; ffynhonnell wedi'i diwygio
  4. digwyddedd troseddau rhyw: wedi'i ddiweddaru, ffynhonnell wedi'i diwygio
  5. canran yr oedolion sy'n wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod sydd wedi cael eu hatgyfeirio fwy nag unwaith yn ystod y flwyddyn: wedi'i ddiweddar

Addysg, hyfforddiant a gweithgareddau hamdden

Rhestr lawn o ddangosyddion yn ôl rhif, ac a ydynt wedi'u diweddaru, eu diwygio neu wedi dod i ben:

  1. canran y bobl sy'n dweud eu bod yn gallu gwneud y pethau sy'n bwysig iddynt: wedi'i ddiweddaru
  2. canlyniadau Cyfnod Allweddol 3 ar gyfer plant sy'n cael gofal a chymorth: wedi'i ddiweddaru
  3. canlyniadau Cyfnod Allweddol 4 ar gyfer plant sy'n cael gofal a chymorth: wedi'i ddiweddaru
  4. cyfraddau presenoldeb yn yr ysgol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal: wedi'i ddiweddaru
  5. deilliannau dysgwyr yn y sectorau addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned: wedi'i ddiweddaru
  6. canran yr oedolion rhwng 16 a 64 oed sydd ag o leiaf un cymhwyster: wedi'i ddiweddaru
  7. canran y plant sy’n cael gofal a chymorth sydd wedi cyflawni’r lefel ddysgu ddisgwyliedig, neu uwch, ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen: wedi dod i ben
  8. canran y rhai sy'n gadael gofal sydd wedi cwblhau o leiaf 3 mis yn olynol o gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant yn y 12 mis ers gadael gofal: wedi'i ddiweddaru

Perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol

Rhestr lawn o ddangosyddion yn ôl rhif, ac a ydynt wedi'u diweddaru, eu diwygio neu wedi dod i ben:

  1. canran y bobl sy’n dweud eu bod yn teimlo’n unig yn gyffredinol, yn emosiynol ac yn gymdeithasol: wedi'i ddiweddaru
  2. canran y bobl sy'n meddwl bod pobl yn eu hardal leol yn parchu ac yn ystyried ei gilydd: wedi'i ddiweddaru
  3. canran y bobl sy'n teimlo eu bod yn perthyn i'w hardal leol: wedi'i ddiweddaru
  4. canran y bobl sy’n teimlo bod eu hardal leol yn rhywle lle mae pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda: wedi'i ddiweddaru

Y cyfraniad a wneir at gymdeithas

Rhestr lawn o ddangosyddion yn ôl rhif, ac a ydynt wedi'u diweddaru, eu diwygio neu wedi dod i ben:

  1. canran y bobl sy'n dweud bod y pethau a wnânt mewn bywyd yn werth chweil: wedi'i ddiweddaru
  2. canran y bobl sy’n gwirfoddoli: wedi'i ddiweddaru
  3. canran y mudiadau gwirfoddol sy'n cynnig gweithgareddau cymunedol neu ieuenctid: wedi'i ddiweddaru
  4. canran y mudiadau gwirfoddol sy'n cynnig cymorth i bobl anabl: wedi'i ddiweddaru

Llesiant cymdeithasol ac economaidd

Rhestr lawn o ddangosyddion yn ôl rhif, ac a ydynt wedi'u diweddaru, eu diwygio neu wedi dod i ben:

  1. cyfradd cyflogaeth oedolion 50 oed a hŷn: wedi'i ddiweddaru
  2. cyfradd cyflogaeth oedolion sydd rhwng 16 a 64 oed ac sydd ag anabledd craidd neu anabledd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio dan y ddeddf cydraddoldeb: wedi'i ddiweddaru
  3. bwlch o ran disgwyliad oes rhwng y rhai lleiaf difreintiedig a'r mwyaf difreintiedig: heb ei ddiweddaru, gweler fframwaith canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
  4. canran y bobl ifanc 19 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET): wedi'i ddiweddaru
  5. canran yr aelwydydd sy'n wynebu amddifadedd materol: wedi'i ddiweddaru

Addasrwydd llety preswyl

Rhestr lawn o ddangosyddion yn ôl rhif, ac a ydynt wedi'u diweddaru, eu diwygio neu wedi dod i ben:

  1. canran y bobl sy'n dweud bod eu llety'n addas i'w hanghenion: wedi'i ddiweddaru
  2. canran yr aelwydydd digartref sy'n cynnwys plant dibynnol: wedi'i ddiweddaru
  3. canran y mudiadau gwirfoddol sy'n cynnig gweithgareddau tai: wedi'i ddiweddaru
  4. canran y tai cymdeithasol sy'n cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru: wedi'i ddiweddaru

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Nid yw'r ddogfen hon yn cael ei dosbarthu fel ystadegau swyddogol gan ei bod yn cynnwys data o ffynonellau anllywodraethol yn ogystal â data a gasglwyd ac a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a llywodraeth y du. Rydym wedi cymhwyso egwyddorion y cod ymarfer ar gyfer ystadegau cyn belled ag y bo modd wrth baratoi’r ddogfen, fel a ganlyn:

  • sicrhau ansawdd
  • y data mwyaf priodol sydd ar gael
  • adolygu'n rheolaidd ar gyfer defnyddio'r data gorau sydd ar gael at y dibenion gofynnol

Dibynadwyedd, ansawdd a gwerth

Mae'r ystadegau yn yr adroddiad hwn yn dangos y safonau a ddisgwylir ynghylch dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus. 

Gellir gweld manylion y prosesau casglu a dilysu data, cryfderau a chyfyngiadau'r data a pholisïau adolygu yn adrannau ansawdd a methodoleg y cyhoeddiadau gwreiddiol:

Mae croeso i chi gysylltu â ni'n uniongyrchol gydag unrhyw sylwadau am sut rydym yn cyflawni'r safonau ansawdd ystadegol. Fel arall, gallwch gysylltu ag OSR drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan OSR.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r ddeddf yn nodi saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r rhain er mwyn sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, yn llewyrchus, yn gydnerth, yn iachach ac yn gyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant a (b) rhoi copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn adolygu'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ac mae'r datganiad hwn yn cynnwys 15 o'r dangosyddion cenedlaethol sef:

  • 1. canran genedigaethau sengl gyda phwysau geni o lai na 2,500g
  • 2. disgwyliad oes iach adeg geni, gan gynnwys y bwlch rhwng y mwyaf a’r lleiaf difreintiedig
  • 3. canran yr oedolion sydd â dau neu fwy o ymddygiadau ffordd iach o fyw
  • 8. canran yr oedolion â chymwysterau ar wahanol lefelau’r fframwaith cymwysterau cenedlaethol
  • 19. canran y bobl sy'n byw ar aelwydydd mewn amddifadedd materol
  • 21. canran y bobl mewn cyflogaeth
  • 22. canran y bobl sydd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi ei mesur ar gyfer gwahanol grwpiau oedran
  • 23. canran y bobl sy'n teimlo’u bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol
  • 24. canran y bobl sy'n fodlon â’u gallu i gyrraedd/cael mynediad at y cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt
  • 25. canran y bobl sy'n teimlo'n ddiogel gartref, wrth gerdded yn yr ardal leol, ac wrth deithio
  • 26. canran y bobl sy’n fodlon ar eu hardal leol fel lle i fyw
  • 27. canran y bobl sy’n cytuno eu bod yn perthyn i’r ardal, bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda, a bod pobl yn trin ei gilydd â pharch
  • 28. canran y bobl sy'n gwirfoddoli
  • 30. canran y bobl sy’n unig
  • 34. nifer yr aelwydydd y llwyddwyd i’w hatal rhag bod yn ddigartref am bob 10,000 o aelwydydd

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â’r naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn yr adroddiad ar Lesiant Cymru.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gellid eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Fel dangosyddion cenedlaethol o dan y ddeddf, rhaid cyfeirio atynt mewn dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus pan fyddant yn dadansoddi’r sefyllfa llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd. 

Mae'r ddeddf yn nodi bod rhaid i gerrig milltir cenedlaethol gael eu gosod “...y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddent yn cynorthwyo i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyrraedd y nodau llesiant”. Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru nodi sut rydym yn gwybod bod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni, ac erbyn pryd y dylid ei chyflawni. 

Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol, ond yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru. 

Yn y datganiad hwn, mae dangosyddion 2, 3, 8, 21, 22, a 28 yn cyfateb i'r cerrig milltir canlynol:

  • 2. cynyddu disgwyliad oes iach oedolion a chau’r bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig o leiaf 15% erbyn 2050
  • 3. cynyddu canran yr oedolion sydd â dau ymddygiad ffordd o fyw iach neu fwy i 97% erbyn 2050
  • 8. bydd gan 75% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru gymwysterau ar lefel 3 neu uwch erbyn 2050
  • 8. bydd canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau yn 5% neu lai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050
  • 21. dileu'r bwlch rhwng cyfradd gyflogaeth Cymru a chyfradd y DU erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chynyddu nifer y bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol sy’n cyfranogi yn y farchnad lafur
  • 22. bydd o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050
  • 28. cynyddu canran y bobl sy'n gwirfoddoli 10% erbyn 2050, gan ddangos statws Cymru fel cenedl wirfoddoli

Mae rhagor o wybodaeth am y Dangosyddion Cenedlaethol ar gael yn Dangosyddion cenedlaethol a cherrig milltir cenedlaethol ar gyfer Cymru.

Mae'r datganiad hwn hefyd yn cynnwys 9 dangosydd cyd-destunol, sef:

  • troseddu yng Nghymru a Lloegr (SYG)
  • arolwg troseddu Cymru a Lloegr (SYG)
  • disgwyliadau iechyd yng Nghymru gyda bwlch anghydraddoldeb (ICC)
  • ystadegau digartrefedd
  • y farchnad lafur yn rhanbarthau'r DU (SYG)
  • y stadegau'r farchnad lafur (APS)
  • amddifadedd materol
  • arolwg cenedlaethol Cymru
  • safon ansawdd tai Cymru

 y cyfeirir atynt yn nogfen dechnegol yr adroddiad llesiant. 

Mae rhagor o wybodaeth am y ddeddf ar gael yn Neddf llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015: canllawiau.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Sorcha Egan

E-bost: AnalysisAndInnovationTeam@llyw.cymru