Neidio i'r prif gynnwy

4. Awdurdodau tân ac achub

Gall awdurdod tân ac achub dalu uwch gyflog i’w gadeirydd, dirprwy gadeirydd a hyd at ddau gadeirydd pwyllgor hefyd:

  • y cyflog sylfaenol ar gyfer aelod o awdurdod tân yw £2,482
  • cyflog cadeirydd yw £11,282
  • cyflog dirprwy gadeirydd neu gadeirydd pwyllgor yw £6,222

Ni all aelodau etholedig sy’n cael uwch gyflog ym mand 1 neu 2 gan brif gyngor gael cyflog gan awdurdod tân ac achub.

Mae gan aelodau Awdurdodau Tân ac Achub hawl hefyd i hawlio am unrhyw gostau teithio neu gynhaliaeth y maent yn eu hysgwyddo pan ydynt ar fusnes swyddogol, a gallant hawlio am ad-daliad costau gofal plant neu ofal (ACGP) oedolyn dibynnol. 

Cydymffurfio 

Mae’n rhaid i awdurdodau tân ac achub gynnal Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau a gaiff ei diweddaru’n flynyddol ac sy’n nodi’r taliadau y byddant yn eu gwneud i aelodau ym mlwyddyn nesaf yr awdurdod. Mae’n rhaid cyhoeddi’r wybodaeth erbyn 31 Gorffennaf bob blwyddyn, ac mae’n rhaid iddi fod ar gael i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a’r cyhoedd. 

Mae’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi cyhoeddi profforma y gall awdurdodau tân ac achub ei ddefnyddio i lunio Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau.

Mae’n rhaid i awdurdodau tân ac achub gyhoeddi “Datganiad o Daliadau” hefyd erbyn 30 Medi bob blwyddyn. Mae’r ddogfen hon yn nodi’r holl daliadau i aelodau etholedig ym mlwyddyn flaenorol yr awdurdod.