Neidio i'r prif gynnwy

5. Cynghorau tref a chymuned

Gwnaeth y Panel hi’n orfodol talu cyfraniad at gostau a threuliau aelodau cynghorau yng Ngrwpiau 1 i 5. Nid oes angen derbynebau ar gyfer y taliadau hyn. Er mwyn nodi pa un o'r 5 grŵp y mae eich cyngor ynddo gweler Tabl 2 o’r 2023 adroddiad blynyddol.

Yn 2021 cynhaliodd y Panel adolygiad o’r fframwaith tâl ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru.

Yn dilyn ymgynghoriad, sefydlodd y Panel bum grŵp yn seiliedig ar faint etholaeth y Cyngor. Yn ogystal, bydd ail ffactor ar gyfer penderfynu ym mha grŵp y bydd y cyngor yn cael ei leoli. Os yw ei incwm neu ei wariant yn fwy na £200,000 y flwyddyn yn gyson, bydd yn symud i fyny i’r grŵp nesaf.

Ad-daliad ar gyfer y costau ychwanegol o weithio gartref

Rhaid i gynghorau tref a chymuned yng Ngrwpiau 1 i 5 dalu £156 y flwyddyn (cyfystyr â £3 yr wythnos) tuag at dreuliau ychwanegol y bydd rhaid i’r aelwyd eu talu (gan gynnwys gwres, golau, ynni, a band eang) o ganlyniad i weithio gartref.

Ad-daliad am nwyddau traul

Rhaid i gynghorau naill ai dalu £52 y flwyddyn i'w haelodau am gost nwyddau traul swyddfa sydd eu hangen i gyflawni eu rôl, neu fel arall rhaid i gynghorau alluogi aelodau i hawlio ad-daliad llawn am gost eu nwyddau traul swyddfa.

Mae'n fater i bob cyngor wneud a chofnodi penderfyniad polisi mewn perthynas â phryd a sut y gwneir y taliadau a ph’un a ydynt yn cael eu talu'n fisol, bob blwyddyn neu fel arall. Dylai'r polisi hefyd ddatgan a ddylid adennill unrhyw daliadau a wneir i aelod sy'n gadael neu newid ei rôl yn ystod y flwyddyn ariannol, a sut i adennill.

Rhaid i gynghorau tref a chymuned yng Ngrŵp 1 sicrhau bod taliad blynyddol o £500 yr un ar gael i isafswm o 1 ac uchafswm o 7 aelod i gydnabod cyfrifoldebau penodol. Mae hyn yn ychwanegol at y taliad o £156 tuag at y treuliau ychwanegol y bydd rhaid i’r aelwyd eu talu o ganlyniad i weithio gartref a £52 y flwyddyn am gost nwyddau traul swyddfa sydd eu hangen i gyflawni eu rôl.

Rhaid i gynghorau tref a chymuned yng Ngrŵp 2 wneud taliad blynyddol o £500 yr un i o leiaf 1 a hyd at 5 aelod i gydnabod cyfrifoldebau penodol. Mae hyn yn ychwanegol at y taliad o £156 tuag at y treuliau ychwanegol y bydd rhaid i’r aelwyd eu talu o ganlyniad i weithio gartref a £52 y flwyddyn am gost nwyddau traul swyddfa sydd eu hangen i gyflawni eu rôl.

Gall cynghorau tref a chymuned yng Ngrwpiau 3 a 4 wneud taliad blynyddol o hyd at £500 yr un i hyd at 3 o aelodau i gydnabod cyfrifoldebau penodol. Mae hyn yn ychwanegol at y taliad o £156 tuag at y treuliau ychwanegol y bydd rhaid i’r aelwyd eu talu o ganlyniad i weithio gartref a £52 y flwyddyn am gost nwyddau traul swyddfa sydd eu hangen i gyflawni eu rôl.

Gall cynghorau tref a chymuned yng Ngrŵp 5 wneud taliad blynyddol o hyd at £500 i hyd at 3 o aelodau i gydnabod cyfrifoldebau penodol. Mae hyn yn ychwanegol at y taliad o £156 tuag at y treuliau ychwanegol y bydd rhaid i’r aelwyd eu talu o ganlyniad i weithio gartref a £52 y flwyddyn am gost nwyddau traul swyddfa sydd eu hangen i gyflawni eu rôl.

Rhaid i bob cyngor tref a chymuned ddarparu ar gyfer y cyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol ar gyfer dibynnydd o dan 16 mlwydd oed, neu berson ifanc neu oedolyn sydd fel arfer yn byw gyda’r aelod fel rhan o’i deulu ac na ellir ei adael heb oruchwyliaeth (a roddir gan ofalwyr anffurfiol neu ffurfiol). Diben hyn yw galluogi pobl sydd ag anghenion cymorth personol neu gyfrifoldebau gofalu i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol fel aelod o awdurdod. Dim ond ar ôl dangos derbynebau gan y darparwr gofal y bydd taliadau’n cael eu gwneud.

Cydymffurfio

Mae’n rhaid i gynghorau tref a chymuned gyhoeddi Datganiad o Daliadau hefyd erbyn 30 Medi bob blwyddyn. Mae’r ddogfen hon yn nodi’r holl daliadau i aelodau etholedig ym mlwyddyn flaenorol y cyngor.