Neidio i'r prif gynnwy

2. Prif gynghorau

Mae gan bob cynghorydd hawl i gyflog sylfaenol o £17,600 y flwyddyn. 

Mae’r Panel wedi grwpio prif gynghorau yn fandiau poblogaeth ac mae gan aelodau etholedig sydd ag uwch rolau, megis cadeiryddion pwyllgorau neu arweinwyr, hawl i daliad ar lefel uwch mewn perthynas â band poblogaeth eu hawdurdod.

Mae gan aelodau etholedig hawl hefyd i hawlio am unrhyw gostau teithio neu gynhaliaeth y maent yn eu hysgwyddo pan ydynt ar fusnes swyddogol, a gallant hawlio am ad-daliad costau gofal plant neu ofal (ACGP) oedolyn dibynnol. 

Mae manylion llawn y lwfansau sy’n daladwy i aelodau etholedig i’w gweld yn ein Hadroddiad Blynyddol.

Cydymffurfio 

Mae’n rhaid i brif gynghorau gynnal Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau a gaiff ei diweddaru’n flynyddol ac sy’n nodi’r taliadau y byddant yn eu gwneud i aelodau ym mlwyddyn nesaf y cyngor. Mae’n rhaid cyhoeddi’r wybodaeth erbyn 31 Gorffennaf bob blwyddyn, ac mae’n rhaid iddi fod ar gael i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a’r cyhoedd. 

Mae’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi cyhoeddi profforma y gall cynghorau ei ddefnyddio i lunio Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau. Gellir addasu hon bob blwyddyn.

Mae’n rhaid i brif gynghorau gyhoeddi “Datganiad o Daliadau” hefyd erbyn 30 Medi bob blwyddyn. Mae’r ddogfen hon yn nodi’r holl daliadau i aelodau etholedig ym mlwyddyn flaenorol y cyngor.