Neidio i'r prif gynnwy

Darganfyddwch y prif wahaniaethau rhwng Treth Trafodiadau Tir a Threth Dir y Dreth Stamp.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nid yw’r rhestr hon yn ddatganiad cyflawn o’r gwahaniaethau rhwng y Dreth Trafodiadau Tir a Threth Dir y Dreth Stamp.

Mae’n rhaid i chi fwrw golwg ar y ddeddfwriaeth a’r canllawiau manwl perthnasol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir wrth ddelio â thrafodiadau tir yng Nghymru o 1 Ebrill 2018.

Y prif wahaniaethau rhwng y Dreth Trafodiadau Tir a Threth Dir y Dreth Stamp
  Treth Trafodiadau Tir Treth Dir y Dreth Stamp
Cyfraddau a bandiau

Llywodraeth Cymru sy’n pennu cyfraddau a bandiau’r Dreth Trafodiadau Tir.

I gyfrifo faint o Dreth Trafodiadau Tir i'w thalu defnyddiwch ein cyfrifiannell treth.

Llywodraeth y DU sy’n pennu cyfraddau a bandiau Treth Dir y Dreth Stamp.

I gyfrifo faint o Dreth Dir y Dreth Stamp i’w thalu, defnyddiwch gyfrifiannell treth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Cyfraddau uwch: rheol rhyng-drafodiad

Ni fydd prynu prif breswylfa newydd yn drethadwy o dan y Dreth Trafodiadau Tir ar y gyfradd uwch os ceir gwared ar y brif breswylfa flaenorol.

Fodd bynnag, os bydd y gwerthwr yn prynu eiddo arall (ee prynu-i-osod) cyn gorffen prynu prif breswylfa newydd, mae’n bosibl y bydd gofyn i’r gwerthwr ‘edrych yn ôl’ ar y rhyng-drafodiad hwnnw a thalu’r cyfraddau uwch.

Nid yw Treth Dir y Dreth Stamp yn gweithredu rheol trafodiad dros dro.
Ystyr preswyl a dibreswyl

Mae gan y Dreth Trafodiadau Tir ei chanllawiau dehongli penodol ei hun.

Mae gan Dreth Dir y Dreth Stamp ei chanllawiau dehongli penodol ei hun hefyd, sydd ar wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Lesoedd preswyl

Dim ond ar unrhyw bremiwm (neu gydnabyddiaeth arall) nad yw’n cynnwys rhent mae’r Dreth Trafodiadau Tir yn daladwy.

Nid yw ffigurau rhent yn ofynnol wrth lenwi ffurflen dreth ar gyfer les preswyl newydd.

Codir Treth Dir y Dreth Stamp ar rent ac unrhyw bremiwm (neu gydnabyddiaeth arall) ar gyfer les preswyl newydd.
Lesoedd amhreswyl: Rheol rent perthnasol

Mae’r band 0% ar gyfer premiymau (a chydnabyddiaeth arall ar wahân i rent) yn ymestyn hyd at £150,000.

Gall y band hwn gynyddu i 1% os yw'r ‘rhent perthnasol’ yn fwy na £13,500.

Fel rheol, y rhent perthnasol yw’r swm uchaf o rent sy’n daladwy mewn unrhyw flwyddyn dros gyfnod cyfan y les.

Nid yw Treth Dir y Dreth Stamp yn gweithredu rheol rhent berthnasol.
Rhyddhad

Nid oes rhyddhad ar gael i brynwyr tro cyntaf.

Ar hyn o bryd, mae’r band 0% yn berthnasol i bryniannau hyd at £225,000.

Mae rhyddhad ar gael i brynwyr tro cyntaf.

Ar hyn o bryd, mae’r band 0% yn berthnasol i bryniannau hyd at £250,000, neu £425,000 i brynwyr tro cyntaf.

Osgoi a chydymffurfio

Ceir rheol gwrth-osgoi sy’n berthnasol i bob rhyddhad cysylltiedig â'r Dreth Trafodiadau Tir.

Mae'r rheol gwrth-osgoi gyffredinol yn caniatáu i’r Awdurdod Cyllid fynd yn groes i unrhyw drefniant osgoi treth artiffisial.

Ceir rheolau sy’n targedu agweddau penodol ar ryddhad penodol.

Mae rheolau gwrth-osgoi Adrannau 75A-C Deddf Cyllid 2003 yn berthnasol.

Gohirio treth Rhaid i drethdalwr gyflwyno dyddiad gorffen disgwyliedig ar gyfer y gohirio ac os nad oes modd rhagweld dyddiad o’r fath, dylid defnyddio 5 mlynedd o ddyddiad y trafodiad. Nid oes raid i'r trethdalwr gyflwyno dyddiad gorffen disgwyliedig ar gyfer cyfnod gohirio.